Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

TAITH YN MOROCCO.i

News
Cite
Share

TAITH YN MOROCCO. OAK DR. ORIFFITHS, PRESTATYN. Dyledusarnaf ywgwneud ichwi ymddi- heurawd am i mi beidio gorphen fy llythyr- au ar Morocco pan yr ysgrifenais i'cb colofnau ar y wlad hono. Dichon fod prysnrdeb yn nglynatmgalwedigaeth yn Nghaer yn ystod y tairblynedd diweddaf yn ddigon o reswm dros beidio ysgrifenu: hawliai'm gwaith fy holl svlw y pryd hwnw ond yn awr y mae genyf fwy o hamdden wedi i ni ymneilldno o fywyd prysur dinas boblog. Nid yw fy Ilyfr cofnodion yn dangos yn mha le y gadewais y darllenwyr ddiweddaf ac os ail-adroddaf rai pethau gwn y maddeua Celtwyr i mi am hyny. Yr wyf o dan yr argraff mai yn Nghladdfa Tangiers yr oeddym. Lie ydyw hwn yn union o'r tuallan i furian y Ddinas, fel ei gelwir, er nad yw ysywaeth ond cydgasgliad o dai pridd. Rhaid i'r teithiwr fod yn dra gofalus wrth gerdded yn y Gladdfa rhag sangu ar y beddau, gan v dywedir fod eneidiau y ifyddloniaid yn cael eu haflon- yddu pan y cerdda anghredadyn ar eu gorphwysle. Tyrau syml o bridd yw y beddau oil wedi eu dodi fel ag i gyfeirio at fedd y Proffwyd yn Mecca. Saif bwrdd bychan wrth y pen yn gyffredin, ac amgylchynir beddau y cyfoethogion a gwal isel wedi ei gwyngalchu, tra y gwelir yma ac acw garegfedd henafol a geiriau yn yr Arabaeg wedi eu cerfio arni. Yehydig o goed welir ynmynwent Tangiers, dim ond prysgwydd, ychydig ffigyswydd crinllyd, a gwinwydd gwylltion. Yma ar ddydd G-wener, sef Sabbath y Mahometiaid, y gwelir merched llygad ddu Tangiers wedi eu gorchuddio a'u mentyll gwynion yn gwau rh wng y beddau dan wylo a galarnadu yn drystfawr. Yn wir yn wir gwaith anhawdd yw aros yn hir yn nghanol y swn a'r dadwrdd yma, ac yr oedd yn dda iawn genym gael ffoi o'r lie rhag cael ein byddaru gan yr oernadau diffaeth. Man dyddorot yn Tangiers yw maelfa y gywrain-bethau lie y cedwir ystor o lestri Mwraidd. Ceirlluaws o bethau prydferth o waith y brodorion yma ond rhaid i'r teithiwrgofio nad yw y pris cyntaf a otynir yn ddim ond magi a thwyll. Rhaid bargeinio yn galed a tbynu i lawr gryn dipyn cyn y deuir at wir werth y tegan. Bydd yn ddyddorol i helwyr gael gwybod fod digonedd o betris ac o fynieir yn y wlad, ond nid oeddynt o un difyrwch na budd i mi oblegid rhaid i mi gyffesu mai unwaith yn fy mywyd y t^niais ddryll, a'r pryd hwnw yr oeddwn a'm dau lygad yn nghau, ac y mae'n rhaid i mi briodoli marwolaeth y creadur yr oeddwn i anelu ato yn fwy i ddamwain nac i'm medr fel saethwr. Ond os bydd ar rai o'm darllenwyr flys myned i Tangiers i hela, rhaid iddynt fyned ddeng milltir i'r wlad a rhaid iddynt fyned a'u hymflborth a phob peth gyda hwy gan nad oes dai yn agos i'r He. A rhaid iddynt fyned a milwyr i'w canlyn hefyd, oblegid er ne wna y boneddigion hyd ddim yn y byd am eu cyflog gwasanaethant i ddangos i'r brod- orion fod yr helwyr o dan amddiffyn yr Ymerawdwr acnad oes neb i ymyraeth a hwy. (Fw barhau.)

Advertising

RHUTHRWYNT OFNADWY YN AMERICA.