Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

NODIADAU D.S.D.I

News
Cite
Share

NODIADAU D.S.D. I Yr Undeb Ymneillduol.-M.xe yn destyn llawenydd i bob Cristion Cymreig gwladgar- ol fod y trefniadau rhagarweiniol i ffurfiad yr Undeb Ymneillduol wedi eu ewblhau. Y mae yn awr bedwar-ar-hugain o wyr da eu gair wedi cael eu hawdurdodi i dynu cyfaasoddiad a threfaiadau gweithiol. Ni a hyderwn y bydd yspryd "pedwar henuriad a'r b again" Llyfr y Datguddiad, yn llenwi caton a chynghor y brodyr hyn. Nid oedd- em heb ofni, wrth rai o'r arwyddion a red- ant o'r blaen, rh&g i'r Bedyddwyr wi-thodym- uno. Pan ddaeth amser cyfarfod blynyddol yr Undeb yn Abertawe darllenem hanes en gweithrediadau gyda'r aiddgarwch mwyaf. Tsimlem raddau annymunol o siomedigaeth wrth weled fod y gwrthwyneb- wyr mor lluosog yno, ac yn llefaru fel y llefarai ynfydion. Ond eawsom wir destyn gorfoledd pan welsom er yr holl dwrw, fod y Cristionogion yn ddigon Iluosog yno i achub yr enwad rhag gwaradwydd dinystr- iol. Nid y gwanaf o honynt mewn teimlad anngherddol dros Undeb oedd y Parch. Charles Davies, Caerdydd. Nid oes neb yn y wlad yn ddigon gwallgo' i ammeu teyrn- garwch'Mr Davies i egwyddorion neillduol y Bedyddwyr—ond dadganodd yntau mewn .teimlad mor gyffrous a. Jeremiah gynt os gwrthodai y Bedyddwyr y cais i ffiurfio "Undeb Ymneillduol" yr elai efe adref y tro cyntaf yn ei fywyd a chywilydd arno fod yn Fedyddiwr. Gwasgwyd y pwnc i'r prawf a chaed fod y Cristionogion yn 129 a'r Bedyddwyr yn 73. A'r Cristionogion a orfu y tro hwn eto fel arferol. A hwy sydd i orchfygu yn mhob gwlad a<? yn mhob enwad. Byddai ysgrif dda i egluro yr achos o'r gwrthwynebiad hwn yn dra dyddorol i'w darllen ond byddai yn un beryglus iawn i'w hawdwr oblegid byddai yn sicr o darotân a chodi ysprydion. Ond y mae achos iddo ac achos digouol i gyfrif yn llawn am yr holl wrthwynebiad hyn, gan Fedyddwyr, i ym. nno i'r Undeb Ymneillduol. Gynonfardd yn Nghaerfyrddin, —Nos Fawrth diweddaf cawsom yr hyfrydwch o wrandaw darlith ar "ARAETHYDDIAETH," gan y brawd anwyl uchod yn Heol Awst. Yr oedd Uu o bregethwyr a myfyrwyr wedi ,dal ar y cyfleusdra i wrandaw darlith athrawol ar y fath destyn. Addysg fuddiol ac adeiladaeth fawr i bawb. Yr wyf yn sicrhau hyny i ddechreu, oblegid ni cheir lie i ammeu y dyddordeb. Nis gall y ddarlith "hon beidio rhoi boddlonrwydd perffaith i gynulleidfa ddeallus. Ac erbyn fod Cymru yn dvfod i ddeall hyny wele Cynonfardd yn dychwelyd adref!! Gallai aros yma mewn lla-ym waith o hyn i'r haf nesaf Qrelw da iddo ei bun ac adeiladaeth anmhrisiadwy i'r cyhoedd. Ond hyddyn gadael ein glanau yn fuan. Y mae wedi cael ei foddloni yn hollol yn y derbyniad croesawgar a roed iddo ar yr ymweliad hwn a Chymru. Wel deled i Gymru drachefn yr haf nesaf neu yr un canlynol a rbodded chwe' mis at y daith- neu triged yma byd ei fedd. Y Gwyddoniadur Cymreig, Cyf. IV.—Po mwvaf a welaf arno mwyaf oil y svnaf pa fodd y caed y fath gasgliad o nodiadau a ihraethodau mor ragorol yn iaith y Cymry Wrth gefn y cwbl gwelaf mai yr achos cyn- hyrfiol i fodolaeth y Gwyddoniadur yw cyfoeih, anturiaetk, gwybodaeth, a gwladgar- WCH THOMAS GEE. Ac wedi ei arfogi fel hyn y mae yn eyflogi y dalent oreu a, fedd y genedl i gyfansoddi y erwaith gorchestol hwn. I aros i'r gwahanol awduron orphen .eu hysgrifau i gyfrol iii., anfonwyd cyfrol iv. allan o'i blaen. Ni waeth hyn na chwaneg, bydd yn edifar gm ddarllenwyr Cymreig pan welant eu bod wedi esgeuluso pwrcasu y gwaith hwn ar y pris rhadlawn y cynygir ef yn awr i danysgrifwyr. Newydd da arall a gylchlythyrwyd o'r swyddfa dor- aethog hon yw y bydd yr argraffiad mawr o 7 GHliadau y Cysegr," sef tonau cyfatebol i •' Euiyuau y Oysegr," yn barod yn yr Hen Nodiant ya mis Tachwedd nesaf!! Ac am ddim ond tri s wilt a chwe'chekiiog (3s 6c). HEI Lwc (Amen, hen frawd o Wesley yn Sir Fflint). Mae darlun y cyboeddwr ar ddechreu y gyfrol hon (iy). Esbonia y Jlun hwn nerth a ffyniant swyddfa fawr Dinbych. Darllen a Siarad," gan Cynonfardd, 3s. —Rbaid cael amser i fyfyrio hwn os mynir gwneud adolygiad arno a fyddai o les i'n darllenwyr. Ar sail y ddarlith a wrandewais yr wyf yn dra sicr fod hwn yn werth y pris a ofynir am dano ac y talai i ieuenctyd Cymru ymgydnabyddu a'r cyfarwyddiadau a roddir yndjo. Byddai yn werth gofyn bendith ar lyfr o'r fath ar iddo fod yn foddion i ymlid y cant-hyawdledd rhagrith, nadau ffug-dduwioldeb allan o'n gwlad. Ymwelwyr o Patagonia.—Mae ansefyd- logrwydd papur-arian y Weriniaeth Ar. chentaidd yn peri i'r Gwladfawyr ar y Camwy longio eu cnydau drosodd i Brydain. Nis gall Patagonia godi digon o'r gwenith da hwn i gyflenwi y galwad sydd am dano yn Lerpwl yn unig. Drwy ffawd neu anffawd, y mae'r Wladfa wedi agor iddi farchnad wastadol yn Mhrydain Fawr. Galwodd dau o'r ffarmwyr cryfion hyn yn ein ty ni pan oeddwn oddicartref mewn agor;ad capel newydd, ac yr wyf wedi deall taw Evan Jones, Dyffryn Ureinidg, oedd un o hony,nt. Byddai yn dda genyf gael eyfarwyddyd Uythyrol Evan Jones,tra y rerys yn Nghymru. Yr wyf yn deall mai yn Sir Aberteifi y mae, a byddai yn ddrwg iawn genyf fethu cael ei weled cyn iddo droi yn ol i'r Wladfa.

ADRAN YR ADOLYGYDD.

TRO YN YR ALBAN.