Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

"YSTORI'R FERCH LWCUS."

News
Cite
Share

"YSTORI'R FERCH LWCUS." Wel, 0, Nain, dyma ni ein hunain yn awr, Gwnewch adrodd rhyw stori fach flasus,- Mae'r gwynt yna'n rhuo i fynn i lawr,- Mae pawb yn cydwrando/y bychan a'r mawr, Ar Nain yn d'weud stori'r Ferch lwcus." Fe reibiwyd rhyw frenin, chwi gofiwch, rywb ryd Yn rhywle, gan ryw wrach y rhibyn, Preswyliai'n y castell rhagora'n y byd, A'r m6r a'i cylchynai ar brydiau i gyd, Gerllaw 'roedd pysgotwr mewn bwthyn." t; Ymlusgo bu'r brenin rheibiedig yn hir Fel neidr drwy'r llweh yn ddirmygus, Yn rhwym mewn aur-gadweu,ond tost oedd ei gur, Nis gellid ei wared heb gusan yn wir, A chusan gan rian fach daclus." 'Roedd merch y pysgotwr yn galon i gyd, A goleu ei phen medd yr hanes, Ar wared y brenin hi roddes ei bryd, I'r neidr hi roes gusan, a dyna i gyd, Ac yntau a'i gwnaeth yn frenhines." Y droell ailgychwynodd, mae Nain wrth ei gwaith, Mae'r eneth fel wedi ymddrysu, Mae'n plethu ei dwylaw, mae'i gruddiau yn llaith, Am enyd anghofiodd ei henw a'i hiaith, Gaa edrych fel wedi'i pharlysu. 0, Nain, dyna rywbeth irdderchog, onte ? 0, Nain, a yw hyn yn wirionedd ? Mi f'aswn yn caru cael bod yn ei lie— Cusanwn y neidr o chwith ac o dde, Er mwyn cael fy ngbodi i'r orsedd." WeI, 0, wel, ebe Nain, mae miloedd fel hyn Am wneuthur gwrhydri di-ddiwedd I lawr ac i fyny ar lethri pob bryn,- Mae pawb yn garedig, ond yw yn beth syn Ar ol iddynt weled yr orsedd. J. ALBBN.

BRENHINES ROUMANIA.