Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

NODIADAU.

News
Cite
Share

NODIADAU. CANON LIDDON. Teimla cymdeithas yn gyff redinol o golli dyn da a thalentog. Dyn felly oedd Henry Parry Liddon a fu farw dydd Mawrth y 9fed o r mis hwn yn Weston-super-Mare. Pre- gethwr ydoedd a hawliai wrandawiad cenedl fel y Seison sy'n ddiarebol o glaiar at bre- gethu. Er pan benododd Mr Gladstone ef yn ganon St. Paul's,"tynodd Lidaon dorf fawr i'w wrando; dichon fod ychydig waed Cymreig yn. ei wythienau fel yr awgryma yr enw Henry Parry Liddon, a'i fod yntau megis y diweddar Ddeon Stanley yn ddyled- us am ei ddylanwad fel dyn cyhoeddtis i'r I elfen Geltaidd oedd yn ei gymeriad. Er yn TJchel Eglwyswr ac yn gyfaill i Dr Pusey, I x llyfr ar fywyd yr hwn yr oedd ar fedr ei ddwyn allan, eto darllenir pregethau Liddon gan Tmneilldawyr gyda llawer o foddhad, a gwerthfawrogir ei lyfr ar "Ddwyfoldebein Harglwydd a'n Hiachawdwr lesu Grist," a gyhoeddwyd fel Bampton Lecture 1886. Cyfrifid ef yniach yn y ffydd a pharodd cynoeddiad Lux Mundi, svln cyuwys syniad- au llac ar Ysyrydoliaeth, a hyny gan Uchel Eglwyswyr, lawer o boen iddo. Nid oedd Canon Liddon yn wenieithwr nac yn gariwr cynffon pendefigion, a pharodd ei ysbryd ani- bynol iddo dynu gwg ei Mawrhydi, yr hon a wrthodai wrando ar bob awgrym i'w godi i swydd esgob. Y fath anghysondeb ac anghyfiawnder fod Eglwys yn gadael i ben coronog ei hamddifadu o wasanaeth tywysog o idyn, a hyny pan ydoedd ei chalon wedi ei llenwi a dymuniad i'w anrhydeddu. Sat na- welai'n cyfeillipn Eglwysig annuwioldeb eu sefyllfa tra yn nglyn a'r Llywodraeth ? GWELL LABRWR NA CHLEEC. Baich araeth Mr Gladstone yn Saltney oedd mai gwell dodi bachgen yn grefftwr nac yn glerc. Tyb rhieni anwybodus ydoedd pe rhoddent bin ysgrifenu yn Haw bachgen a'i ddodi mewn banc neu swyddfa y cyrbaeddai wynfyd. Ond dechreuir dadswyno'r truein- iad o'r hud anffodus yma yn awr. Palu aur yw'r gwaith salaf yn y byd, a thalai yn well o lawer i ddyn fyned i godi tatw cynar tlr Ynys Seiriol. Mae marchnad yr ysgrifelli yn Ilawn wrth gwrs y mae digon o le i ysgrifell sydd a deg talent wrth ei bon, ond gwell i berchenog yr un droi ei sylw at goes mortbwyl. Y rheol yw, medd Gladstone, mai gwell pe:dio rhoi bachgen yn glerc. Y GWEITHWYR YN EFFRO. ^Eymor hir o gwsg fu arnom, ond deffrois- om un boreu a gwelsom wyr y pocedau hir- ion yn IIyfu'r ymeoyn, yn llyncu'r caws, ac yn sipian yr hufen, ac yn gorwedd ar ein cefnau, gan adael y crystiau,a'r brywes-pig- y-tegell, y briwsion a'r ysgubion i ni, serch mai drwy chwys ein gwyneb ni yr enillwyd y caws, a'r hnfen, a'r ymenyn a fwynhai ein gorthrymwyr. Ar ol deffro, buom yn hir iawn heb wybod sut i godi-ac y mae llawer o honom, yn enwedig chwarelwyr y Gogledd heb wybod sut i godi eto. Rhoddwyd prawf ar glwb y cleifion, a chynilo o brinder, a myned ar y plwyf a llawer peth arall, ond o'r diwedd darbwyllwyd ni mai mewn undeb yr oedd ein hiechydwriaeth. Erbyn hyn yr ydym yn gefnog yn helpu ein gilydd. Dyna'r glowyr yn Ngwrecsam—dros 12,000 o hon- ynt—yr wythnos ddiweddaf, ac Osborne Morgan yn cael ei wasgu mor dyn yn y gad- air nes gorfod iddo ddyweud ei fod yn credu na ddy!ai'r glowyr weithio rhagor nag wyth awr y dydd Ac befyd y dylai gael ei dalu bob wytbnos! Yn Nglyn Ebbw wed'yn cafwyd cwrdd mawr a'r efengvlydd Mihangel Davitt ynddo yn pregethu athrawiaethau iach ddigon. Os cafodd y meistriaid ryw fath o oruchafiaeth yn Southampton ac os y chwareuasant dric Llanddulas drwy dd'od a'r milwyr i nforchio'r dorf a brynodd ac a roes y fforchau yn eu dwylaw, etc dywedai John Burns mai eiddo y gweithwyr oedd y thyfel. Daliwn ati felly, ddvnion, a mynwn ddangos i dduw diog bras Cjfalaf fod yn rhaid iddo ymddwyn atom fel gwyr rhyddion ac nid fel caethion cadwynedig.

Advertising

Advertising

' HYN A'R LLALL O'R DE.