Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

NEWYDDION CYMREIG.

News
Cite
Share

NEWYDDION CYMREIG. BRYNMAWB, BKTHKSDA.—Cynhaliodd yr eglwyg Anibyaol a nodwyd ei chyfarfod blynyddol y Sul er Lltin, Medi 7fed a'r 8ted. Pregethwyd gan y Parch J Bees, Cwmllynfell. Byma y tro cyntaf i MrlteEls fod yn y Brynmawr, a chawsom ganddo wjedd o'r fath oreu. Pregethodd yu rymus ac etfeitbioIbump o weithiau; a diau y coftr gyda mwynhad am yr oedfeuon am amser maith. Caf- wyd cynulliadau rhagorol, a chasglwyd yn min £40. Da. genym weled yr eglwys yn Betheeda yn gwisgo gwedd mor lewyrchus. Mae gan y bobl galon i weithio. Mae y Parch W R Edwards, eu gweinidog, yn edrych yn gefnog a obysurue-a phobl ei ofal yn bobl ei gysur. Yn mlaen a chwi gyfeillion, a bydded i Dduw goroni eich ymdrech- ion.-G. O. CLYDACH, CWMTAWE.—Cynaliodd Wesleyaid y lie uchod eu cyfarfodydd blynyddol y Sul a'r Llun, Medi 7fed a'r 8fed. Pregethwyd y Sul gan Mr T Jones, Abertawe,a Mr Pritcbard, Ystalyfera, y brodyr sydd yn dyfod i'r gylchdaith hon am y tair blyn- edd nesaf. Pregethwyd nos Lun, gan Mr Jones a Mr J Solon Bees, Athrofa Anibynol Nottingham. Yroedd y gweision ya llefarn y gonadwri am y groes gydag arddeliad mawr a'r bobl yn teimlo fod Duw yn bresenol. Vmunodd rhai a'r eglwys. Deallaf fod Mr Rees yn Birchgrove y Sul, ag i'r hen frawd Mr John Thomas, Cumbryn, i Bicrbau ei wasanaeth am nos Lun. Credwn fod dyfodel dis- glaer o flaen y dyn ieuanc hwn. Cawsom bre- geth feddylgar, alludg, ac hwyliug ganddo. Ben- dith y nef fyddo ar y cyfarfodydd.-Glanyrafon. GLYN EBBW.—Ymwelwyd a'r dref yma dydd Sadwrn, y 6ed cyfisol, gan yr arddangosfa gwyllt- filod. Mawr yr atdynfa.sydd gan yr arddangosfa yma. Yr oedd ganddynt seindorf pres rhagorol. Cadwyd y dref mewn bywyd am lawer o amser. ——Yr un dydd y claddwyd gweddillion D B Evans yn nghladdfa Eglwys Newydd. Claddwyd ef o dan rheolaeth y Gwirfoddolwyr, a hyny ar raddfa eang iawn. Am fod y diweddar D B Evans yu swyddog uchel yn y gArtrawd, dangoswyd parch mawr i'r ymaclawedig. Daeth seinderf y y gartrawd o Bontypool i wasanaethu, ac yn wir y mae eu chwareu hwy yn haeddu gradd uchel o gy- meradwyaeth. Mawr y cydymdeimlad sydd trwy yr holl dref a Mrs Evans. Y mae hi yn hynod wael ei hiechyd, ac y mae yr ergyd mor sydyn, a hyny ar y ffordd wrth fyned am ycbydig wyth- nosau i Ynys Manaw, er ceisioiechyd i Mrs Evans. Oad ar y ffordd daeth angau i atal ei thaith, ac o feddwl am iechyd a llawenydd, wele daeth gofid a thristweh. Barnwr y gweddwon daeno ei aden dyner dros y weddw ieuanc hon.Dydd Sul, yr oedd yr Hybarch John Griffith, Casnewydd, yn Saron. Y mae efe bob amser yn dda a sylweddol. Yr oedd Dr. Jones, Scrauton, America, am dro yn Libanus, Pontygof, a Doctor yw o hefyd. Credaf na chlywais well dwy bregeth srioed, trueni na fuasai canoedd o rieni yn ei wrando y bore ac yn yr hwyr. Pwnc ei bregeth oedd yr efengyl, a gwnaeth yn dda yn y prydnawn yn yr Ysgol Sul. Cawsom araeth gwir dda gan ddyn ieuane o'r ysgol, sef Benjamin Edwards, bachgen gobeithiol iawn. Arferiad da iawn yw rhoddi gwaith i'r dynion ieuainc, nid gwiw i'r hynafgwyr gredu mai y nhw a ddylai ddyweud a gwneud o hyd, yn ol yr hen ffasiwn. Gobeithiaf y cymer llawer yr awgrym, haner y pwnc yw cael arolygwyr yn llawn o elfenau gweithio er dwyn allan dalentau sydd megis perlau dysglaer yn ein Ysgolion Sab- bothal. Y mae adnewyddiad capel Saron yn dyfod yn y blaen yn dda, felly capel James Street, Wes- eyaid Seisnig. Y mae hwn bron ar ben, ac y mae Jyn hardd dros ben. Bydd yn cael ei agor ar frys, a rhoddaf hanes cyflawn u'r agoriad. Ceisiwyd genyf i adgoffa, os oes rbywrai yn teimlo ar eu calon i gynorthwyo pobl Presbyteriaid Williams- town, mewn arian neu unrhyw beth a fyddant yn gallu ei roi tuag at y bazaar. Bydd Mr Miles, Libanus-road, Ebbw Vale, yn wir ddiolcbgar i bawb am y rhodd leiaf. Y mae yn syndod cymaint o roddion sydd wedi d'od i law yn barod, ni fydd yn edifar gan neb i roddi at achos yr Arglwydd, ac yr wyf yn credu fod a fyno yr Arglwydd a'r lie yma.Llwyddiant Cerddorol Boneddiges Ieuanc o Gflyn Ebbw.—Daeth allan adroddiad o'r Bwrdd Cerddorol am ein Prif Athrofa Gerddorol Llundain, ac y mae yr hyn a ganlyn wedi ymddangos ynddo. Tynwyd fy sylw at enw S M Lewis, merch ein eyfaill anwyl John Lewis, Parade Terrace, o'r lie yma. Llwyddodd y ferch dalentog hon i basio ar- holiad gwir lwyddianus o dan nawdd y coieg uchod allan o lu mawr o gystadleuwyr. Yr oedd Miss Lewis yn un o 37 o'r rhai llwyddianus Prydain Fawr, a hi oedd yr unig un o Gymru a fu yn llwyddianus yn v gorchwyl caled a dyrws o basio arholiad fel.cantores leisiol, ac y mae yn wfr dda genyf gael ar ddeall fod Miss Lewis yn myned i ddechreu ei haddysg gerddorol yn y Prif Athrofa Gerddorol Llundain ar yr 22ain cyfisol. Braidd y gallaswn osod mewn geiriau ddigon o glad am allu a medr y gerddores yma, ac yr wyf yn credu fod pawb o bobl y dref yma yn llawenhau am ei llwyddiant, ac yn dymuno pob llwyddiant iddi, ac yn y pen draw y daw hi allan fel aur wedi ei buro. Os cynydda yn ol y gradd y mae hi wedi cynyddu heb fawr o fantais, a hyny o dan law y prif gerdd- oriou ein byd, yna bydd yn seren Iachar yn y byd cerddorol. Llwyddiant iddi. Y Federasiwn.— Dydd Llun, yr 8fed cyfisol, nid oedd gwaith yn un o'r pyllau glo, ac yr oedd y dydd hwn yn ddydd orymdeithio. Canolbwynt y cyfarfyddiad i fod oedd Glyn Ebbw, ac yn foreu yr oedd y bobl yn cyrchu i'r He. Yn y man, dyma swn y seindorf yn creu symbyliad yn yr holl o Glyn Ebbw, ac erbyn 11 o'r gloch, nid oedd ond swn seindorf ar ol sein- dorf, miloedd a'r filoedd yn dylifo i fewn, ac y maent yn dyweud i mi fod yna tua pedair mil ar ddeg o bobl wedi d'od. Beth bynag am hyny, aethant yn un orymdaith fawr i'r Bridgend Field. Yno yr oedd esgynlawr wedi ei osod i'r areithwyr, a bu yno areithio yn iawn ar y Federasiwn gan Michael Davitt, arwr mawr y Gwyddelod. Ni ddaeth Mabon yno. Bu Isaac Evans, Castellnedd, yn siarad yn danllyd iawn, a D Evans, twrne, Aberhonddu. Efe yw twrne y gweithwyr, a dyn galluog yw ef,,ac yr oedd Maer Casnewydd yn y gadair. Ac wedi i lawer siarad ar wahariol bynciau ymadawodd pawb wedi rhoddi diolchgarwch i'r maer am ei wasanaeth fel cadeirydd. Gobeithiaf y daw rhyw les o hyn yma, a gobeithiaf yr ymar- ferant gwir ddoethineb wrth drafod prif bynciau y genedl, a da oedd genyf glywed fod un o'r siaradwyr wedi cyfeirio at yr holl ddiota yn mysg ein glowyr. Erfyniodd arnynt i ofalu dodi i gadw erbyn dydd yr angen. Dyna oedd y pechod mawr yma dydd Hun, pob tafarn ar dori, dim lie i haner y bobl fyned i fewn. 0 mae yn druenus i weled dynion ieuainc, canol oed, hen bobl a'u gwallt yn wyn, a gwaeth hefyd y rhyw fenywaidd yn metbu sefylt yn syth. Cywilydd, cywilydd, medd y bobl. Un o prif ganwyr o Glyn Ebbw yn cael dyr- chafiad mawr yn Caerdydd, sef Mr John Williams (Hew Ebbw), U.C.W. Canwr ac arweinydd da iawn yw ef. Y mae yn bresenol yn arwain y "Cardiff Cymmrodorion Choral Society," a nos Fercher, y lOfed cyfisol, yn y Cymmrodorion Hall, St. Mary's-street, dangoswyd y parch mawr i Mr Williams, sef rhoddi anrheg iddo, ei lun mewn oil painting arddercbog. Yr wyf yn sicr fod pawb yn Glyn Ebbw yn llawenhau wrth glywed am y parch mawr y mae y Llew yn ei gael, y mae yn ddiameu yn wir deilyngu ei barchu, oblegid ni fu ei fwynach, ei garedicach, na'i barotach i wneudda i bawb, bydded dlawd neu gyfoethog, gwneud da yw ei brif amcan. Dyma lawenydd mawr i'w fam eto, ar ol yr holl lawenydd mae hi wedi ei gael o'r blaen. Yn dy flaen a ti Hew Ebbw,—Ehedydd Wyn. SIR ABERTEIFI.—Oalwad,—Bydd yn llawenydd gan gyfeillion Mr D Evans, o Maenygroes, myfyr- iwr yn Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin, i glywed ei fod wedi derbyn galwad unfrydol oddi- wrth eglwysi Trewen, Bethesda, a Bryngwyn, Sir Aberteifi, a deallaf hefyd ei fod wedi cydsynio. Mae y ffaith fod Mr Evans yn cael gwahoddiad cynhes i'w air enedigol yn dystiolaeth uchel i'w gymeriad personol a'i alluoedd pregethwrol. Caf- odd hefyd waboddiad cynhes oddiwrth eglwys henafol Tynewydd, Pontardulaia. Llwyddiant mawr iddo ac amddiffyn Duw fyddo drosto yw dymuniacl-Oyfaill, FFESTINIOG.— Galwad. — Bydd yn llawenydd gan gyfeillion y Parch W E Morris, Ffestiniog, ddeall ei fod wedi derbyn galwad oddiwrth eg- lwysi Nazareth a Phantglas, yn Arfon, a'i fod wedi ei hateb yn gadarnhaol. Deallwn y bwriada ddechreu ar faes newydd ei lafur o hyn i ddechreu y flwyddyn, a gobeithiwn y bydd ei weinidogaeth o dan fendith Duw er adeiladaeth i'r saint yno, ac yn allu Duw i droi llawer o bechaduriaid i dderbyn yr Iesu, Cyfrynwr y Testament Newydd.-A. PENRHYNDEUDRAETH.— Cymer urddiad Mr W Davis, Glasinfryn, Bangor. le ar eglwys Anibynol Carmel, yn y lie uchod ddydd Llun, Hydref 13eg. Y cyfarfod i ddechreu haner awr wedi naw y bore. Disgwylir y Parchn E .Berber Evans, D.D., Caer- narfon D Griffiths, Dolgelley; W Griffiths, Amana; H Ivor Jones, a D G Davis, Portmadoct i gymeryd rhan ynddo. Taer ddymunir am bre- senoldeb gweinidogion a chyfeillion y cylchoedd. -J S Jones.

TEITHIO TN AMERICA.