Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

COLOFN Y CJJECION.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

COLOFN Y CJJECION. —Yr oedd Brenhines Roumania yn destyn dadl boeth yn y gwersyll yma ddoe a. chyn diwedd hi aeth yn dair dadl 1. Pa iaith yw Carmen Sylva ? 2. A yw yn gywir yn ol rhyw iaith ? 3. A oedd yn rheolaidd yn ol braint a defod iddi gael ei hurddo dan enw tramoraidd ? A dadleua y merched yn nghylch ei gwr hi. Os na cheir goleuni ar y pwyntiau hyn drwy y Celt, ofnwn y hydd yma lygaid daon cyn y diwedd. Awgryma un nad oedd yn bosibl i ddyn o oed Clwydfardd nen un o bwyll Hwfa, wneud camgymeriad. Dadleuai un arall nad oedd modd gwneud camgymeriad gyda bren- hines, fod pobpeth yn gywir. Dadleuai un arall i'r beirdd i gyd golli eu synwyr a'u barn o dan ddylanwad royalty," nad oeddynt gyfrifol am ddim a wnaethant, ac na chydir hanes yr Eisteddfod hon a dyddiau y flwyddyn. Eglur- had, eelurhad. esrlurhad. Tudno. —Dywedir fod Dr Pan Jones wedi cael gwa- hoddiad i dalu ymweliad a Roumania,:mae yntau wedi cydsynio a bwriada gychwyn ar yr Olwyn y 24ain o'r mis hwn, a daw yn ei ol rywbryd cyn y Nadolig. Ai ni chafodd neb o'r beirdd wahoddiad tybed ? —Camgymeriad oedd dyweud fod y Parch W J Richards, Penywern, yn myned i America, meddwl myned oedd efe. Y Parch J M Riehards, Maesglas, sydd yn myned. Dau Richards, y ddau o Dowlais, a waeth y naill na'r llall mo'r llawer felly. -Dywedir mai cyfieithiad gwael o Mountain Ash yw Brynyronen. Ai nid Bryn Cjrddinen fyddai oreu. Beth ddywed bechgyn y gwersyll am y cynyg hwn ? —Bu dadl boeth yma yn nghyloh Cardin&l Newman, Mynai rhai ei fod yn ddyn da dros ben, ond yr oedd y rhai mwyaf goleuedig i gyd yn barnu yn wahanol. Aeth un yno mor bell a dyweud pe ceid deuddeg o'i fath yn Nghymru y gellid cau yr holl addoldai Ymneillduol aethai a'r bobl yn lluoedd ar ei ol, ac os mai da fuasai hyny, wel, dyn da oedd Newman. Pa fodd y gallasai dyn fod yn dda tra yn cefnogi system ddrwg P Blaidd mewn crwyn defaid yn dda. Be, bobl ? —Cyfarfod mawr gafwyd yn agos i Landilo o dan nawdd y Primrose League. Consuriaeth, sleight of hand, oedd y cwbl, elfeoaa. pwysig i wneud disgyblion ar gyfer y dyfodol. Nid sleight of hand oedd yn myned yn mlaen yn St. Clears, yr oedd yno werthu sylweddol i gael degwm sylweddol.

Advertising

TEITHIO TN AMERICA.