Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

PATAGONIA.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

PATAGONIA. At Olygwyr TARIAN Y GWEITHIWE. FONEDDIGION.-Nid yw pleidwyr yr ym- fudiad Cymreig i Patagonia yn rhoddi i fyny anfon eu canmoliaethau ynfyd o haeddianau y wlad hono i'r papyrau newyddion. Ond nid wyf fi am barhau fyngohebiaethi'r DARIAN ar y mater, ond cyhyd ag y bo genyf esboniad i'w roddi ar bethau angenrheidiol i'w gwybod tuag at i'm cydwladwyr farnu yn deg yn nghylch eu dyledswydd tllag at Bata- gonia. Maey llythyrauaymddangosant oddi- wrth ymfudwyr, y rhii nadydynt o dan ddylanwad pleidwyr yr anturiaeth, yn tystio y pethau canlynol:— 1. Nas gall llong o faint cylfredin fyned i mewn i enau afon Chupat ond gyda'r Uanw mawr, nid yr un dyddiol. Cyhoeddwyd y ffaith ganlynol yn ddi- weddar mewn llythyr oddiwrth ymf adwr ei fod wedi gorfod myned i enau yr afon mown cwch trwy breakers, ac wedi gorfod aros pythefnos am ei luggage oedd yn y llong, oblegyd fod hono yn gorfod aros ar y mor yn gyfagos, heb fedru dyfod i mewn cyn yr amser hwnw. Gall llongau mawrion ddyfod i mewn i afonydd bych- ain Cymru ar y llanw dyddiol. Ond ymddengys nas gall llong fechan, gyd- marol, fyned i enau afon Chupat ond ar amser y llawn lleuad. Pa ddyn yn ei synwyr a all ddysgwyl i afon fechan o'r fath yma i ddyfrhall dyffryn pum mill- dir oled ac ugeiniauo fill diroedd 0 hyd ? 2. Profir gan y gohebwyr, wedi teithio wythnosan i chwilio y wlad, ei bod yn noethlwm heb ddim porfa na choed. Y mae ychydig o goed fel helyg ar lan yr &foa, salth neu wyth troedfedd o uchder heb ddwydroedfedd yn gymwys Y mae wyneb y tir fel snuff o eisiau gwlaw. Lleddir yr yehydig lysiau sydd yno gan yr haul. Dyma fel y mae hi yn y dyffrynoedd. Naill ochr iddynt, di- ffaethwch sydd, heb geryg na choed ond drain. Y drain hwn a thorn gwartheg wedi ei sychu sydd gan y trefedigion at danwydd. Gorfyddir hwynt yn y gauaf i grwydr-chwilio am danwydd." 3. Y mae achwynion mawr cad yw yr ymfudwyr ya cael y pethau a addawyd iddynt. COlla. rhai y tai a adeiladwyd ganddynt cyn mesuriad y tir, gan fod y tai wedi eu hadeiladu ar dir a roddir i ereill. Ni ehaiv-q-t fuwchod a cheffyl- an yn yr addewidion. Buout dan orfoc i brynu rhai a.'u hariin eu hunain gai yr hen Wlacf awyr, y rhai fel hyny a geisient gyfoethogi eu hunain ar draul yr ymfudwyr diweddaf. Gofynent grogbris am yr anifeiliaid; oblegyd hyny nis gallai y tlotaf o'r ymfudwyr eu cael. Nid rhyfedd fod yr hen ymfud- wyr yn ceisio denu ereill i fyned yno ag arian o Gymru yn eu pocedau, er mwyn gwneud eu sefyllfa eu hunain yn well trwy hyny, gan fod llywodraeth Arianin mor dlawd. 4. Y mae yn rhaid i'r ymfudwyr tlodion fod heb fuwch na cheffyl i'r dy- ben i sicrhau bwyd ar draul y llywodr- aeth. Nid oes gwaith yno i enill digon o arian i brynu y bwyd. Rhaid iddynt, gan hyny, fod yno fel tlodion plwyf yn ymddibynu ar drt garedd Spaniardiaid ac Ibaliaid Psb/ddol. 5. Dywed gohebwyr fod pobl Buenos A; r g yn cyhuddo y Cymry yn y Wladfa o fod yn ddynion diog. Dichon fod rhyw achos i hyc. Aeth llawer yno o dan ddylanwtd breuddwydion barddon- 01 yn nghylch cyfoeth y wlad. Oddiar eu dychj myg canmolasant hi fel gwlad y gallai dyn fyw ynddi heb weithio llawer. Yr oeddynt yn.cael supplies fel tlodion o Buenos Ayres. Yr oedd yr awdurdodau yno yn dysgwyl iddynt ddy- feisio ffiyrdd i weithio er mwyn cyr- haedd annibyniaeth am fwyd. Ond nid ydy r- t wedi gwneud hyny eto. 6. Dengys gohebwyr nad yw llywodr- aeth Arianin am wneud y WJadfa yn un Gymreig. Ni rydd y llywodraeth gy- mhorth at addysg plant yn y Wladfa os na ddysgant yr Ysbaenaeg. Dywedir fod y llywodraeth yn bwriadu anfon canoedd o Spainiaid ae ltaliaid i gyd- sefydlu a'r Cymry; a chan y byddant hwy o'r un genedl a thrigolion llywodr- aethol Buenos Ayres, yn llaw y sefydl- wyr hyny y bydd holl awdurdod lleol y Wladfa. Fel hyn y mae y rhagolygon breuddwydiol a gyhoeddwyd ychydig flj nyddau yn ol yn y Faner, am deyrnas a nibynol Gymreig yn Mhatagonia yn myned ymaith gyda'r gwynt fel cymylau diddwfr. Dywedir fod oddeutu haner cant o ymfudwyr a aethant allan o Ffes- tiniog i fyned i Batagonia, wedi iddynt gyrhaedd Buenos Ayres, wedi cael eu gorfodi i fj;ced i le ar yr afon Plate gan y llywodraeth ar ba un yr ymddibynent am angenrheidiau. Y rheswm o hyn oedd nad oedd llywodraeth Arianin am i ormod o'r Cymry i fod gyda'u gilydd." 7. Dywed gohebwyr fod y wlad wedi cael ei chwilio am dros ddau cant o filldiroedd o enau yr afon, ac na ddar- ganfyddwyd dim coed ynddi." Diau fod coed lie y mae gwlaw a llynoedd i'w cael. Ond nid yw y rhai hyny yn agos i Chupat lie y triga y Cymry. 8. Dywedir fod "tua thri chant yn barod i ymadael a dyffryn Chupat pe gallent wneud hyny ryw fodd." Ym- ddengys fod rhai wedi myned i Buenos Ayres, ond o ddiffyg arian, nis gallant ddyfodymaith. Y maent mewn "sef- yllfa resynus—heb arian, heb waith, a heb ddeall iaith y bobl." 9. Dywedir fod llythyrau yn rhoddi "hanes anffafriol am y Wladfa wedi cael eu hatal cyn cyrhaedd Buenos Ayres." Y mae pob arwydd fod y llythyrau ffafriol i'r Wladfa a anfonir i'r wlad hon wedi myned trwy law yr un dosbarth o ysgrifenwyr, oblegyd er eu bod oil yn cynwys cydnabyddiaeth fod caledi wedi cael ei ddyoddef, eto, cyn diwedd y llythyr, ceir y frawddeg ond na chred- wch neb sydd yn dweyd yn ddrwg am y Wladfa." Y mae y geiriau hyn, neurai areill yn cynwys yr un drychfeddwl, yn sicr o fod yn rnywle cyn diwedd y llyth- yr, ac yn mhob llythyr ffafriol i'r Wlad- fa, fel byrdwn wedi ei gyfansoddl gan yr un bardd, neu ddernyn o'r Llyfr Gweddi Cyffredin. Enfyn pleidwyr y Wladfa ddyfyniad- au at eu pwrpas eu hunain o lythyrau a dderbyniant. Cadwant o'r golwg yr holl wirionedd. Gwn am enghraifft o hyn. Ni chafEai y cyfeillion agosaf weled y llythyr ei hun; ond anfonwyd dyfyniadau dewisedig o hono i babyr Cymreig. Nid oedd hyn ond twyll a chelwydd bwriadol. Osna ddywediryr holl wir ar fater o ddadl, amcenir i gel- wydd gael teyrnasu. 10. Sonia pleidwyr y Wladfa am gam- lasau i ddyfrhau y tir yn nyffryn Chu- pat ond dywedir mai un gamlas fu yn cael ei gwneud, a bod y gwaith ar hono wedi sefyll, am fod cyflog y gweithwyr arni yn rhy fach. 11. Y mae yn eithaf eglur oodiwrth bob llythyr nad oes neb yn y Wladfa mewn sefyllfa o ddedwyddweh. Rhyw- beth ya y dyfodol yw dedwyddwch yn y llythyrau mwyaf pleidiol i'r Wladfa er ys un mlynedd ar ddeg, Un peth yw bod dynion yn gallu byw ryw fodd heb farw o newyn, peth arall yn gwbl yw sefydlu gwladfa neu drefedigaeth, i fod yn ddedwydd a llwyddianus, mewnmodd annibynol am angenrheidiau bywyd. Gall dynion fyw rywfodd mewn tai o glai, a gwresogi eu cymylau yn y gauaf wrth dan drewllyd, wedi ei wneud o dom gwartheg wedi sychu, yn nghanol dy. ff -yn llwm t) wodlyd—yn nghanol twm- paxhau o chwain, yn eu poenydio ddydd a nos; ond peth arall yw bod yn fwy cysurus a llwyddianlls nagyn Nghymru. DEHEUWK,

YMWELIAD A GWEITHFEYDD ALCAN…

PATAGONIA.

THOMAS DAVID (AB JAPHETH)…

LLYTHYR 0 BATAGONIA.

TURKISH BATHS, MERTHYR.

|DARGASFYDDIAD ERCHYLL MEWN…

YR HYN A WELAIS YN Y LLAN.