Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

LUTHER.

News
Cite
Share

LUTHER. DYWEDODD De Vio y caffai gwrthwyn- ebwyr yr Eglwys ddyoddef. Ar fy- gythion o'r fath y mae y Babaeth wedi ymddibynu erioed. Y pwynt nesaf yn y ddadl oedd yr angenrheidrwydd am ffydd yn y der- bynydd, i wneud sacrament yn fendith. Dyfynodd Luther lawer o ysgrythyr- 11 ri au i brofi ei bwynt, fod yn rhaid cael ffydd. Diystyrodd De Vio yn wawdlyd yr adnodau a goffaodd Luther. Yr oedd un o'r Italiaid, meistr y seremoniau yn y llys, ar dan, eisiau siarad, wrth weled penderfynoldeb Luther yn ei atebion. Ond ffrwynodd De Vio dafod yr Italiad digllon. Gorchymynodd iddo mewn modd garw i fod yn ddystaw. Bn dan orfod ym- adael ar llys o dan gerydd. Luther a ddywedodd "Os gellir dangos fy mod i allan o fy lie ar bwno maddenantau y Pab, yr wyf yn barod i dderbyn addysg, ond ar bwnc ffydd nis gallaf ildio i'r graddan lleiaf, heb wrthod Iesu Grist, Nis gallaf—a thrwy ras Dnw yr wyf yn penderfynu—na ildiafbythungronynyn y mater hwn." De Vio yn declireu myned yn ddig- Uon, a ddywedodd, Pa un a wnewch neu peidio, rhaid i chwi dynu yr erthygl yna yn ol heddyw, neu ynte ar yr erthygl yna yn nnig, myfi a wrthodaf, ac a gondemniaf eich holl athrawiaeth chwi." Luther a atebodd, "Nid oes genyf un ewyllys ond ewyllys Duw. Gwnaed efe fel y gwelo efe yn dda a myfi. Ond pe byddai genyf bed war cant o benau, byddai yn well genvf eu colli i gyd na thynu yn ol y dystiolaeth yr wyf wedi ei dal o blaid y ffydd sanctaidd Grist- ionogol." De Vio. "Ni ddaethum i yma i ddadlen a cltwi. Tynwch yn ol, neu parotowch eich faun i ddyoddef y gosp a deilyngwch," Gwelodd Luther nad oedd yn bosibl terfyna y mater trwy gydymgynghor- iai a De Tio, yr hwn a eisteddai o'i ttmea fel y P..1t ei hun. Meddyliodd mai y ffordd oreu fyddai iddo ateb y Cardinal De Tio mewn ysgrifen. Fel hyny c&ffai ereill weled pa un o honynt eeü ). ei Ie. Dangoeodd Luther duedd i fnadael a'r llys. Ar hyny gofynodd Be Ti» idd., "A ddymunech chwi i mi reddi fcrwydded o daith-nawdd i chwi fpted i R*fain ?" QweMd Luther mai amean y cynyg itwm oedd fr Pab a'i gardinaliaid gwaedlyd gad eyfle i roddi terfyn ar ei h«e«U. As er i De Vio roddi y cynyg idde lawer jwaith, gwrthododd ef yn beaderfynol Wrtk fyned o'r llys aeth yr Italiad digofas ar Luther, heb yn wybod i De Vig, er ei fod wedi cael ei geryddu ganddo am ymyraeth a'r ddadl, a de- dhreuodd roddi ei dwyll-resymau i Luther fel yr oedd efe yn cerdded allan. Ond atebodd efe y dyn ffol ag un o'i frawddegau gwawdiol llosgadwy, y rhai oeddjnt wrth law ganddo bob amser, fel yr aeth y ffolyn yn ol o dan gywil- ydd. Teimlodd Luther nad oedd De Vio yn meddu fawr o allu i ddadleu yn Bghylcn Critionogaeth. Yr oedd ymddangosiad mawreddog a boneddigaidd Luther wedi effeithio yn fawr ar De Vio a'i holl lys. Dysgwyl- iasant hwy weled mynach gostyngedig, ofhm Yn lie hyny gwelsant ddya o ysbryd annibynol, doctor goleuedig, yn gofyn am biofion yn erbyn ei osodiadau, y rhai a fedrai efe ea cadarnhau a rhesymau nas gellid eu gwrthwynebu. Pan aeth Luther yn ol i fynachdy y Carmeliaid, cafodd yr hyfrydwch o weled ei g-yfaill galluog Staupitz, yr hwn ddaefchai i ymweled ag ef. Cofleid- iasaafc eu gilydd mewnanwyldeb, mewn awr o berygl mawr ar Luther. Ofnai Staupitz y canlyniadau yn ddirfawr. Cynghorodd Luther i anfon ei ateb i De Vio mewn ysgrifen. Ac i'r dyben o osod Luther yn rhydd i wneud fel y mynai, ac i ryddhau yr urdd fynachol, ar ba un yr oedd efe yn ben, o bob gwaHhos condemnid Luther, yr hwn befyd a berthynai iddi, rhydd- haodd ef oddiwrth ei haddunedau hi yn ol deddf seremoniau yr urdd, sef urdd yr Augustiniaid. Teimlodd Luther fod yr urdd a ddewisodd efe yn ngwres sel ei ieuenc- tyd yn ei wrthod ef. Yr oedd ei hen amddiffynwyr yn ei adael yn agored i'w elynion. Ceisient gadw cnawd diarcholl ar gost archolli eu cydwybodau. Llanwyd ei ysbryd a thrallod unigedd, digyfaill daearol. Ond angofiodd fod ei Dduwa'i Waredwr anfeidrol ganddo yn "gyfaill yn glynu yn well na brawd." Cyfododd ei feddwl o laid ei siomedig- aeth mewn dynion at addewidion an- mhrisiadwy y "Cyfaill sydd gan mil gwell na mam na thad." Clywodd ef yn dweyd "Ni'th roddaf i fyny, ac ni'th lwyr adawaf chwaith." Gadawyd Iesu eihunan, co o'r bobl nid oedd neb gydag ef. Sathrodd y gwinwryf ei hunan." Meddai Paul, "Yn fy ateb cyntaf ni safodd neb. gyda mi, eithr pawb a'm gadawsant. Eithr yr Arglwydd a saf- odd gyda mi ac a'm nerthodd" (2 Tim. iv. 16, 17.) Yn unig y bydd y Crist- ion yn y cyfyngder mwyaf pwysig, yn ei ymdrech a brenin y dychryniadau. Ond dywed efe yn yr olwg ar y cyfyng- der hwnw, gyda golwg ar bresenoldeb Duw, "Nid ofnaf niwaid, canys yr wyt ti gyda mi." Yr oedd teimlad byw llywodraethol Luther, fod Duw gydag ef, yn ei wneud yn gawr yn ngwyneb holl allu y Bab- aeth yn ei erbyn, ac yn ngwyneb fod ei gyfeillion goreu a mwyaf mynwesol, oddiar eu hofnau, yn ei adael wrtho ei hun i gael ei draflyncu gan ei elynion. Ond angen dyn yw cyfleusdra Duw bob amser. "Tad yr amddifaid yw efe." Nid yw cyfeillgarwch dynion a ofalant fwy am gadw croen cyfan na chydwybod lan yn werth i neb drallodi yn nghylch ei absenoldeb. Dedwydd yw y dyn sydd yn cael ei gysuron o "ffynon y dyfroedd byw," pan y mae dynion yn mhob man wedi profi eu hunain yn "bydewau toredig, y rhai na ddaliant ddwfr." Er y cwbl, dian fod Staupitz yn barod i wneud yr oil a allai, gan gadw ei ddyogelwch ei hun, i ddyogelu bywyd Luther, oblegyd yr oedd yn teimlo yn wir gyfeillgar tuag ato. Dywedodd wrth De Vio fod yr ym- herawdwr wedi rhoddi taith-nawdd i Luther, ac am iddo ofalu peidio gosod un gosp arno. Atebodd ynteu yn ddigllon, "Myfi a gyflawnaf orchymyn- ion y Pab." A dian mai lladd Luther oedd yr hyn a orchymynwyd gan y Pab. Aeth 11awer o'i gyfeillion dylanwadol gyda Luther i lys De Vio y diwrnod canlynol. Yr oedd yno gydag ef swyddogion o dan awdurdod yr Elector i weled ei fod mewn dyogelwch. Yr oedd Duw yn gofalu am dano trwy nn "moddbn tra y byddai un arall yn di flanu. Pan yr ymadawai rhai cyfeill- ion caffai ereill gwell na hwynt. Proffwydi gau yw llawer o'n hofnau ni. Dywedodd Staupitz wrth Luther am gymeryd calon, am mai "yn enw yr Arglwyddlesu Grist" yr oedd efe wedi dechreu y ddadl. Yr oedd yn y llys lawer o enwogion i glywed tystiolaeth Luther. Yr oedd efe wedi ei pharotoi hi mewn ysgrifen. Ac efe a'i darllenodd hi mewn llais uchel yn nghlywedigaeth De Vio. Cawn weled eto beth oedd hi, "os yr Arglwydd a'i myn."

CYFLAFAN ERCHYLL DOLAU-i COTHI.i

—♦ Y RHYFEL DWYREINIOL.

YR YSTORM,

[No title]

.. TREORCI.

CWMFELIN. ^

AT LOWYR CASTELLNEDD.

TONGWYNLAIS.