Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

LUTHER.

News
Cite
Share

LUTHER. OAETH y diwrnod lllawr-diwmod treial Luther o flaen De Vio, Llys- genad y Pab—o'r diwedd. Diwrnod i'w gofio byth oedd hwn. Anhawdd fyddai mesur pa un ai pryder pleidwyr gwirionedd yr efengyl, ai awydd pleid- wyr celwyddan y Babaeth i roddi ter- fyn ar y gwirionedd hwnw, oedd fwyaf. Credai De Vio y gallai ei rwysg a'i awdurdod ef ddylanwadu ar fynach tylawd, i abertbu y gwirionedd yn hytrach nag aberthu ei hun, mewn ymdrech yn erbyn holl allu Rhufain. Dacw Luther yn cychwyn o'r diwedd iua'r Ilys, lie yr eisteddai De Vio, y Cardinal, yn farnwr. Yn ei balas ef, neu ei lety gorwyeb yn Augsburg, yr oedd yn myned i brofi Luther. Aeth penaeth mynachlog y Carmeliaid gyd- a'r Diwygiwr. Yr oedd y penaeth hwn yn gyfeillgar ag ef. Yn ei anedd ef yr oedd Luther yn lletya. Aeth tri brawd mynachol ereill gydag ef,-Dr. Link, yr hwn a berthynai i'r un urdd ag ef ei hun, oedd un o honynt. Mor gynted ag yr aeth Luther i mewn i balas y Cardinal De Vio, yr oedd awydd ei weision Uuosog mor fawr i gael ei weled ef, fel y eyflymas- asant o'i amgylch fel haid o wenyn. Ymwthiasant bron ar draws eu gilydd -y fath dorf o'i amgylch ef, fel yr oedd efe bron yn methu ymlwybro yn mIaen. Yr oedd De Vio, y tywysog Eglwys- ig, yn dysgwyl am dano yn ei lys. Gyda bod Luther yn sefyll o'i flaen, ymostyngodd a'i wyneb ar y llawr. Yr oedd De Vio yn ymddysgleirio fel fcwmpath o rew yn ymyl oen. Gor- chymynodd i Luther sefyll ar ei draed. Yr oedd yr Italiaid oedd wedi dyfod fel gosgordd i De Vio, wedi ymwthio i mewn i weled y mynach yn ymostwng i'w meistr hwy. Diau ei fod yn felus ganddynt ei weled ar y llawr, gan feddwl mai gwaith byehan fyddai ei goncro. Deillion oeddynt: ni welent hwy ond y corff ar y llawr. "Y rhai sydd yn y cnawd, am bethau y cnawd y maent yn syniaw." Nid oedd gan- ddynt un "syniad am bethau yr ys- bryd." Ni welent hwy yr ysbryd eawraidd oedd yn preswylio yn y babellglaioedd ar y lIawr-ni welent hwy Ysbryd Duw yn ei hollalluawg- rwydd yn cynal ysbryd a chorff Luther. Bet! nid yw yr un o honynt yn dweyd gair wrth y llall. Edrychai De Vio gyda boddlonrwydd ar ymostyng- iad ei elyn. Yr oedd yn mwynhau ei fawredd mewn dystawrwydd fel delw. Yr oedd Luther yntau yn dysgwyl am y gair cyntafoddiwrtho. Ond deallodd fod dystawrwydd De Vio yn wahoddiad iddo ef siarad. Cyfarchodd ef fel y canlyn:— « Deilyngaf Dad, mewn ufydd-dod i wys ei Sancteiddrwydd y Pab, ac mewn ymostyngiad i orehymyn fy arglwydd Elector Saxony, yr wyf yn ymddangos o'ch blaen, fel plentyn gostyngedig ac wfydd yr Eglwys Gristionogol Sanct- aidd, ac yn eydnabod fy mod wedi cy- hoeddi y gosodiadau a briodolir i mi. Yr wyf yn barod i wrando, yn y modd mwyaf gostyngedig, ar y eyhuddiadau yn fy erbyn ac os wyf wedi cyfeil- iorni/ymostyngaf i addysg yn y gwir- onedd." Gwelir wrth y cyfarchiad uchod, nad oedd Luther wedi ymgodi y pryd hwnw uwchlaw iaith ac arferion caeth- wasaidd aelodau Eglwys Rhufain. Gwelir mai iaith y Baalim Pabaidd yw rhoddi y teitl" Teilwng" ar swyddog eglwysig. Yr oedd gwaseiddiwch Luther yn wahanol iawn i ymddygiad Crist ger bron Pilat, ac yn dra gwa- hanol i "hyfdra Pedr ac loan o flaen Hys yr erlidtfyr ynadol yn Jerusalem. Ceisiodd y Cardinal De Vio ymdda- ngos yn dosturiol, fel tad at ei blentyn gwyredig. Canmolodd ostyngeidd- rwydd gwasaidd Luther. Dywedodd wrtho,— Fy anwyl fab, yr ydych wedi cy nhyrfu holl Germani trwy eich dadl yn nghyleh maddeuantau. Yr wyf yn deall eich bod yn Ddoctor dysgedig iawn yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd, a bod genych lawer o ddilynwyr; oblegyd hyn, os ydych am fod yn aelod yn yr Eglwys, gwrandewch arnaf fi. Rhaid i chwi, yn ol gorchymyn y Pab, yn gyntaf, dynu yn ol eichcyfeiliornadau, eich gosodiadau, a'ch pregethau. Rhaid i chwi, yn ail, addaw peidio lledaenu eich golygiadau. Yn drydydd, rhaid i chwi rwymo eich hun i ymddwyn yn fwy cymhedrol, ac osgoi pobpeth a ddichon ofidio neu gythryblu yr Eg- lwys." Atebodd Luther: "Y Tad Sanct- eiddiaf, yr wyf yn crefu arnoch i ddangos Cwyneb y Pab, yr hon a rydd awdurdod i chwi i drin y mater hwn." Gwelir fod hyfdra Luther, fel carwr gwirionedd, yn myned yn drech na gwaseiddiweh ei iaith ef, yr hon oedd yn gableddus, gan ei fod yn galw dyn gwael a amddiffynai brif halogedigaeth y byd, Y Tad Sancteiddiaf." Yr oedd hyfdra Luther, er ei eiriau gwasaidd, yn gofyn am yr ysgrif, sef Cwyneb y Pab yn ei erbyn, fel taran ddisymwth ac annysgwyliadwy yn nghlustiau y Cardinal a'i barti Italaidd. Rhyfedd oedd ganddynt fod mynach tylawd Germanaidd yn gofyn am ysgrif, yn ol ffurfiau cyfiawnder, yn groes i'w harfer dra-awdurdodol hwy. De Vio: "Nis gellir caniatau eich cais, fy mab. Rhaid i chwi gyffesu eich bod wedi cyfeiliorni, cadw gwyl- iadwriaeth fanwl ar eich geiriau yn y dyfodol, a pheidio troi fel ci at ei chwydiad." Luther: "Ymostyngwch, ynte, i'm hargyhoeddi yn mha beth yr wyf wedi cyfeiliorni." Parodd y cais hwn syndod aruthrol i'r gormeswyr digydwybod; ond yr oedd De Yio am goncro Luther a'i ddysg, ac ymostyngodd i ddadleu a Luther. De Vio: "Fy mab, yr ydych wedi cyhoeddi y gosodiadau canlynol, y rhai y mae yn rhaid i chwi eu tynu yn ol o flaen pawb. 1. Nad yw trysorfa maddeuantau ddim yn nyoddefiadau a a haeddiant Iesu Grist. 2. Fod yn rhaid i'r dyn sydd yn derbyn y Sacra- mentau sanctaidd gredu. yn y gras a roddiriddo." Wrth drysorfa maddeuantau go- lygai De Vio awdurdod y Pab, fel Ficer Crist, i werthu maddeuantau. Nid yw Eglwys Rhufain yn cydnabod fod eisieu ffydd yn y dyn sydd yn derbyn y Sacrament. Er fod De Vio wedi dweyd wrth Luther ei fod ef yn myned i ddadleu ag ef wrth safon yr Ysgrythyr Sanct- aidd, ni chadwodd at ei air; ond galw- odd awdurdod y Pab i brofi gwerth maddeuantau. Digiodd Luther fod De Vio yn coffau deddf y Pab ar y fath fater. Luther: "Nis gallaf dderbyn deddf y Pab ar y fath fater pwysig. Y mae deddfau y Pab yn gwyrdroi yr Ys grythyrau, ac nid yn eu dyfynu fel profion." De Vio Y mae gan y Pab awd- urdod ar bobpeth." Luther (yn gyflym): "Oddíeithr y Beibl." De Vio (yn wawdlyd): "Oddieithr y Beibl! Oni wyddoch chwi fod y Pab uwchlaw Cyngorfeydd ? Luther: "Y mae Prifysgol Paris wedi apelio yn erbyn ei awdurdod ef." Y mae'r gweddill o'r ddadl yn ddy- ddorol iawn.

AMRYWIAETHAU 0 L'ERPWL.

4. Y RHYFEL DWYREINIOL.

. OYNRYCHIOLAETHSENEDDOL BWRDEISDREFI…

. DIENYDDIAD DWBL YN LIVERPOOL.

«— ABERTA WE-BODDIAD.

LLONGDDRYLLIAD, A CHOLL-IAD…

4 TONYPANDY.—ADFYWIAD CREFYDDOL.

. NEWYDDION CYFFREDINOL.

ABERDAR.