Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
Goreu arf a darf derfysg, I wr fo doetfi yw drf dyeg. SEITHFED EISTEDDFOD FLYNYDDOL OABMEL, TBBHBBBBBT. GTNBLIB yr Eisteddfod hon yn y NEUADD GYHOEDDUS, Dydd Linn (Nadolig), Bhag. 25ain, 1876, pryd y gwobrwyir yr ymgeis- wyr buddugol mewn Khyddiaeth, Barddoniaeth, Areithyddiaeth, Cerddoriaeth, Caniadaeth, a LlheLfyddydwaith. BEIRNIAID. y BMddiaeth a'r Farddoniaeth, Ie. :-Rev. R. Williams (Hwfa Mon), 10, Claylands Road, South Lambeth, London. Y Gerddoriaeth, Ie. THOMAS DAVIES, Yaw. (Eos Rhondda,) Castle Cottage,fCaerphilly. Y Ganiadaeth, Ie. :-Proff. Parry, U.C.W., Aberystwyth, yn nghyd a Mr. Robert Rees (Eos Morlais), Swansea. AccompanistMaster J. Haydn Parry, Aber- ^ilywyddy dydd-Rev< D. Thomas, Tony- pandy. BHESTB O'B PBIF DESTYNAU. CERDDORIAETH. 1. Am y Ganig oreu ar y "Pedwar Tymor." Y geiriau gan Mynyddog. I'w gweled yn y Gerddorfa" am y mis hwn a'r rhai dyfodol.10 0 0 TRAETHODAU. 2. Y Cymrv ddyrchafasant eu bunain dan anfanteision," yn ystod y ddeunawfed ganrif.« 5 5 0 Bwriedir rhoddi E5 5s. ar y 'Y Cymry,' &o. yn ystod y ganrif bresenol yn ein Hwythfed Eisteddfod 3. Defnyddioldeb y Pellebyr" f Telegraph) •• •• 2 2 0 BARDDONIAETH. 4. Prvddest, "Y r Enaid" •. 5 6 0 6. Cywydd, (heb fod dros 150 o linellau) ar Nebuchodonozor yn pori glaswellt." • • • » 3 3 0 6. Hir a Thoddaid, Y Darn Llaw ary Pared" •• •• 0 10 6 CANIADAETH. 7. I'r Cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 40 mewn nifer. a gano yn oreu O! cadw ci," o Storm Tiber- las 15 0 0 Y Solo, A ninau'r dysgybJion" 10 0 Yn nghyda zC4 i'r Arweinydd. D.S.-Bydd beimiadaeth y Solo ar wahan i'r Chorus) 8. I'r Cor o Wrywod, heb fod dan 30 mewn nifer, a gano Vn oreu "Rhy- felgan y Mwncod," (Parry) 10 0 0 9. 1'r Cor o Blant dan 16 oed, heb fod dan 30 mewn nifer, a gano yn oreu Y Gwlithyn," (Alaw Ddu) 3 3 0 Yngbyda Baton i'r Arweinydd, gwerth 110 (Caniateir i wyth mewn oed i ganu gyda'r plant.) 10. I'r Parti heb fod dan 8 na thros 12 a gano yn oreu "Cwynfan Bryd- ain," o'r "Welsh Airs (Pencerdd Gwalia) 2 0 0 AMODAU. 1. Rhaid i'r cyfansoddiadau i fod yn llawtiy gwahanol feirniaid, gyda fiagenwau yn unig, ar neu cyn«Tftchwedd laf, 1876. 2. Y cyfaBscddiadau buddugol yn eiddo j pwyllgor. Atelir y wobr oni fydd teilyngdod. 3. Disgwylir i'r ganig beidio bod yn rhy faith, fim y bwriedir cael un i fod yn ymarferol a fiefnyddiol at wasanaeth ein Corau a'n Heistedd- fodau. Gofaled y cerddorion am hyn. Pobmanylion pellach i'wgael ary Programme oddiwrth yr Ysgrifenydd ar dderbyniad dau stamp,-Rees T. Williams, Ysg., Bookseller, &c., Bryn-Wyndbam, Treherbert. PESWCH7 ANWYD J! PESWCH II DALIER SYLW! Y f'EDDYGINTAETH oreu at Anwyd, Peswoh, Crygni, Influenza, Gyddfau Dolurus, Tyndra yn V fynwes, y Pas, Bronchitis, Asthma Gweithwyr Tanddaearol, a phob anhwylderau y Lungs, ydyw c, Evans' Pectorol Cough Balsam." Ar werth mewn poteli, Is. ]ie. a 2s. 9o. yr un, ac i'w cael gan y perchenogydd. T. W. EVANS, M.R.P.S., Aberdare, Glamorganshire. Eisteddfod Goffadwriaethol X'K DIWEDDAR MR. ROSSER BEYNON (ASAPH GLAN TAF), MERTHYR. CYNELIR yr Eisreddfod uchod yn y Drill Hall Merthyr, drdd Llun, Hydref 9, 1876. Rhoddir holl elw'r Eisteddfcd ar ol talu'r treul- iau tuag at godi COFADAIL i'r diweddar Asaph Glan Taf Hefyd, bydd yn hyfrydwch gan y Pwyllgor i dderbyn unrhyw danysgrifiadau oddiwrth gyfeillion Mr. Beynon, er eu cynorth- wyo i gael Cofadail deilwng o'r gwrthddrych. Gellir anfon y tanysgrifiadau i'r Trysorydd, Mr. John Jones, Glanynant House, Merthyr. Y FIAP DESTYNATJ A'R GWOBRWYON. 1. Am yr Anthem Goffadwriaethol oreu ar y 4edd a'r 5ed adnod o'r Salm zxx; gwcbr 2 0 0 2. Am yr Hir a Thoddaid goren i'w osod ar y Gofadail, gwobr 1 0 0 3. I unrhyw Gor, heb fod dan 100 o rif, a gano yn oren Lift up your Heads.o'r Messiah, gwobr 25 0 0 4. I'r Cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 40 o rif, nad enillasant dros 415 o'r blaf n, a gano yn oreu 11 Eif- ionydd a Dusseldorf," gwobr 800 Argreffir geiriau y ddwy don ar y Rhnglen. Beirniad y Cyfansoddiadau a'r Dadganu. TANYMARIAN. Am y gwe<idill o'r testynau gwel y pro- gramma. Gellir eu cael drwy y Post gan yr Ysgrifenyddion ar dderbjniad tri llythyrnod dimai. Anfoner y cyfansoddiadau i's. cyfeiriad can- lynol:—Rev. E. Stephen, Tanymarian, Bangor, North Wales, erbyn yr 2Cfed o Fedi, 1876, gyda fifugenwau yn unig wrthynt, a'r enwau priodol dan sel i'r Ysgriïenyddionerbyn dydd yr Eis- teddfod. Bydd hawl sran y Beiraiad i atal unrhyw wobr os no fydd teilyngdod. Y cyfansoddiadau budd- ugol i fod yn eiddo y Pwyllgor. Enwau y cystadleuwyr ar y canu i fod yn llaw yr Ysgrifenyddion erbyn nos Iau, Medi y 25ain, 1676. THOS. HATARD, 1 Ysgrifenyddion 13 JOSEPH WILLIAMS, J Mygedol. HYSBYSIAD. DYMTTNIR ar holl ae-odau perthynol i Fund Level yr Afon i gyfarfod yn Ves- try Nazareth, Aberdar, nos Lun, y 4ydd o Fedi, 1876, am saith o'r gloch, pan :fydd materion pwysig dan sylw. Ar ran y pwyllgor,—ROGES ASHTON, Ysg. Mc'RAE's Temperance Hotel, CARDIFF ST., ABERDARE. A commodious and comfortable home for Commercial and respectable Tra- vellers. Charges moderate. Well air'd Beds. 19 Pob archebion a Thaliadau i'w hanlon i Mills, Lynch, & Davies, Tarian y Gweithiwr Office, Aberdare.
DYLANWAD RWSIA.
DYLANWAD RWSIA. Y TvrATg dyddordeb yn perthyn i bob peth yn nghylch Rwsia, oblegyd y mae ei gwthiadau rhyfelgar hi yn ngogledd Asia, tua'r dwyrain, bron yn gyfochrog' a thiriogaethau Prydain yn Hindostan, yn ei gwneud yn fath o allu cystadleuol a'r wlad hon ac oble- gyd fod ei hamcanion proffesedig, a'i chynlluniau ystrywgar i draflyncu Twrci yn Ewrop ac Asia, yn elfen beryglus barhaus i heddwch Ewrop, am fod pob gallu mawr yn Ewrop yn cymeryd dyddordeb yn Nhwrci, fel un yn meddu pwys i droi y fantol o blaid y gallu hwnw a'i meddo, yn y fath fodd ag i ddyfetha cyfartaledd pwysau y galluoeddmawr Ewropiaidd. Y mae hen gweryl Eglwys Roeg a Rufain am nwchafiaeth yn y mater. Pe meddianai Rwsia Twrci yn gyfangwbl, gan mai Eglwys Roeg yw Eglwys Rwsia, byddai y Pab yn prydern am sefyllfa ei eglwys ef yn nhiriogaethau presenol y Twrc. Ofnai y byddai ei thynged yn debyg i'r hyn y mae hi wedi bod yn Poland, wedi i Rwsia gy- meryd meddiant o'r wlad hono. Gwell gan y Pab ymddiried tynged ei eglwys ef i allu gwan fel Twrci, am y gall efe swagro mwy i hawlio manteision oddi- ar allu gwan na gallu cryf fel Rwsia ac er fod Eglwys Rwsia yn llawer mwy tebyg, bron yn mhobpeth, i Eglwys Rufain na Mahometaniaetli Twrci, gwell gan y Pab fod mewn gwlad lie y mae Mahomet yn cael ei gyfodi uwch- law Crist, nag mewn gwlad lie y mae Crist yn cael ei fawrhau yn y ffurfiau y gwneir hyny ganddo ef ei hun, os na chaiff efe fod yn ben ar y ffurfiau hyny. Ei fawredd ei hun, nid mawredd Crist, yw ei bwynt mawr ef. Y mae y ddwy Eglwys, Groeg a Rhufain, wedi bod yn fwy gelyniaethol i'w gilydd nag i Fahometaniaeth, yn Jerusalem, Bethlehem, a manau ereill yn Palestina, am fod ynaill a'r Hallam ddangos parch rhwysgfawr yn ol defod- aeth eilunaddolgar, i'r manau y gan- wyd, y croeshoeliwyd, ac y claddwyd Crist. Yn eu ffurfiau defodol y mae y ddwy Eglwys yn cystadlu am nwchaf- iaeth yn y lleoedd uchod. Tywalltant waed en gilydd yn eu cystadleuaetb. Y gallu milwrol Mahometanaidd sydd yn terfynu eu hymrafaelion. Pe caffai Rwsia feddiant o Dwrci, byddai yn meddianu Palestina bid sicr, fel rhan o diriogaeth Twrci; a gallai J felly fynu ei ffordd i Eglwys Roeg, ac ysgymuno Eglwys y Pab o Jerusalem, &c. Nid rhyfedd, gan hyny, fod y Pab yn fwy ffafriol i Dwrci nag i Rwsia. Bu efe yn brwydro am amser maith a Thwrci. Yr oedd efe y pryd hwnw yn gosod pob enw drwg ar Fabometaniaeth. Ond yn awr, wrth weled fod Rwsia yn ceisio gwthio Eglwys Roeg i ddylanwad yn Nhwrci, y mae efe yn toi ei wyneb a gwenau cyfeillgarol tuag at y gallu Mahome- tanaidd. .Er y cwbl, y mae diflaniad anochel- adwy y gallu hwn yn creu pryder trwy holl Ewrop gyda golwg ar ddyfodol Rwsia. Pe bae hi yn meddianu Caer- cystenyn, deuai ei llongau hi i for y canoldir o'r mor du, safai felly mewn cystadleuaeth a Phrydain ac a'r galhi- oedd Ewropiaidd ereill. Eto, a golygu y bydd Rwsia yn debyg o lwyddo yn y cyfeiriad hwn, beth sydd yn ei sefydliadau hi fel gwlad i beri dychryn i drigolion Ewrop ? Y mae y cwestiwn hwn yn deilwng o sylw di- duedd. Y mae synod Eglwys Roeg yn Rwsia yn gefnogol i ledaeniad y Beibl yn iaith y bobl trwy yr ymherodraeth ac y mae yrorsedd am flynyddau maith wedi bod yn gefnogol i weithrediadau y Feibl Gymdeithas. Y mae adrodd- iadau y Gymdeithas hon bob blwydd- yn yn nghyleh ei gweithrediadan yn Rwsia, yn rhydd oddiwrth enghreifft- iau o erledigaeth ar werthwyr Beiblau, erledigaeth a ffyna yn ddirfawr yn mhob gwlad Babyddol. Beth bynag fydd manteision ty- mhorol gwledydd ereill, y mae yn rhes- ymol i gredu y bydd Duw yn sicr o lwyddo llywodraeth a rydd gyfle i'w Air ef ei hun i redeg a chael gogon- edd." Y mae arwyddion tra amlwg mai y galluoedd cystadleuol am gy- meryd meddiant o'r holl fyd y fynyd hon, yw y rhai a gefnogant ledaeniad Gair Duw. Unol Dalaetbau America, Prydain, Prwsia, a Rwsia, yw y gallu- oedd hyn. Y mae malldod ar bob gallu gwladwriaethcl arall; ac er fod sefyllfa arianol Ffrainc yn dda yn awr, y mae ei phabyddiaeth hi yn ei llin- dagu yn awr. Y mae y grefydd fell- digedig hon a'i holl egni yn ceisio gwenwyno holl ffynonellau ei rhyddid a'i llwyddiant hi. Ni foddlonir gwanc y grefydd ddieflig hon ond trwy or- mesu a barbareiddio dynoliaeth yn mbob gwlad. Chwareu teg i Rwsia o waethaf un benaeth ei llywodraeth ac eilunaddoliaeth ei Heglwys, y mae hi wedi gosod diwygiadau pwysig ar droed yn ei gwladwriaeth. Trwy y gwrthryfel a gymerodd le yno, ar waith yr Ymherawdwr Nicholas yn cymeryd yr orsedd, flynyddau lawer yn ol, surwyd ei feddwl ef yn ddirfawr yn erb) n rhyddid y werin. Cadwodd bob ffurf o orthrwm arnynt hyd y gallai. Yr oeddynt wedi bod yn gaethweision ffeudalaidd; ac ni fynai efe eu rhyddhau o'r sefyllfa hono. Ond parodd aflwyddiant Rwsia yn rhyfel y Crimea, i'w llywodraeth hi agor llygaid i syllu ar ddiffygion a drygedd cyfundrefn caethwasaidd ei phoblogaeth. Pany bu Nicholas farw, penderfynodd ei fab ef, sef Alexander II., yr ymherawdwr presenol, i roddi terfyn hyd y gallai ar y gyfundrefn gaethwasaidd. Dywed haneswyr mai achos sefydl- iad caethwasiaeth yn Rwsia oedd pen- derfyniad yr orsedd i foesoli y werin mewn sobrwydd, &c., ac i'w cadw at eu gwaith o dan feistri, yn lie crwydro ar hyd y gwledydd mewn sefyllfa o segurdod. Oddeutu 300 mlynedd yn ol y gwnawd hyn. Gwelir wrth hyn nad yw amcan da yn cyfiawnhau dim ar ffurf ddrwg o weithredu. Cadarnhawyd slafiaeth y werin ffermwrol gan yr Ymherawdwr Pedr Fawr, dyn enwog iawnmewn cysylltiad a llawer o faterion perthynol i wareidd- iad trigolion y byd. Yn ol y ddeddf a wnaeth efe, yr oedd gwerth tir yn gyfartal a gwerth y caethweision fyddai arno. Yr oedd gwaith tri diwrnod o'r wythnos yn eiddo i'r meistr oddiwrth ei gaethwas. Yr oedd efe yn cael gweithio y tri di- wrnod arall at ei fuddiant ei hun. Pan y gwerthid y tir, gwerthid y gweision gyda'r tir. Yr oedd caethion o fath arall yn Rwsia, yn gyfansoddedig o garcharor- ion rhyfel, I bankrupts,'a'u hepil. Ni roddodd y llywodraeth awdurdod ifeistri y caethion i'w rhoddi i farwol- aeth am unrhyw drosedd. Dywedir fod Ymherawdwr Rwsia wedi cael y drychfeddwl am gaeth- wasiaeth, i rwystro crwydriadau gweithwyr oddiwrth ddeddfau Lloegr yn nghylch tlodion yn amser Harri VIII. ac Elizabeth. Gwnawd cyfreithiau yn eu teyrnasiad hwy i rwystro tlodion i grwydro allan o'u plwyfydd. Yn 1861, gwnaeth yr ymherawdwr presenol gyfraith i ddileu caethwas- iaeth trwyboURwsia; ond y mae y gyfraith hon mor raddol gyda golwg I ar feddiant mewn tir, fel na fydd wedi cyrhaedd ei graddau eithaf o hawl- freiotiauhyd y flwyddyn 1910. Y mae effeithiau v gyfraith wedi bod yn fawr yn Rwsia yn y pymtheng mlynecld diweddaf. Yr oedd anobaith caethwasanaeth wedi cloi ysbryd gweithio y bobl, fel mewn gefynau o haiarn. Yr oeddynt wedi ymlonyddu mewn anobaith, gan fod ymdrecb yn ddibwrpas iddynt hwy. Yr oedd gwy- neb cymdeithas yn llyfu heb don. Yr oedd hunan-lywodraeth wedi ei ddileu o'r iaith, am nad oedd gwelthiwr yn feifetr arno ei linn, fel y mae caethweis- ion y diafol yn ein gwlad ni. Ni feiddiai gweithwyr gyfarfod a'u gilydd i ym- ddyddan yn nghylch unrhyw fatcr cy- hoeddus. Nid oedd eu meistri hwy mewn sefyllfa oedd fawr rajcrach, oblegyd yr oeddynt hwy yn gorfod bod yn gaethweision i'r llywcdraeth, Yr oedd grym dynoliaeth felly yn ym- guddio mewn cynlluniau dirgelaidd gwrthryfelgar. Ni feddai awdurdodau trefol hunan-lywodraethmewn dim ond yr enw. Nid oedd barnwyr mewn llysoeddyn gallu mentro bod yn anni- bynol ond yn nirgelwch en xpenderfyn- iadau. Yr oedd llenyddiaeth yn treulio ei rierth mewn barddoniaeth ddychy- mygol, a nofelau digon pell oddiwrth bob awgrym yn nghylch materion gwladwriaethol. Yr oedd cwsg myn- went yn gorwedd ar wyneb eymdeithas, a Despotiaeth mewn rhyddid rhwysg- fawr yn gwneud fely mynai a'r fynwent farw. Yr oedd bywyd meddwl y dyn wedi cael ei rewi, i fewn, a'i garcharu yn ei fyfyrdodau. Amlwg ywfod caethwasiaeth gweith- wyr yn sicr o fod mewn eysylltiad a chyfundrefn o gaetbiwed o ryw fath ar eu meistri. Pia heintus yw caethiwed. Nis gall fod yn hir yn y bwthyn heb fyned i'r palas. Caethwas i ryw un sydd uwch nag ef yw meistr gormesol ar weithiwr. Effeithiodd y rhyfel yn- y- Crimea yn ddaionus ar Rwsia. Gwelodd y Des- potiaid nas gallent ymddiried i feddyl- iau caethion peirianol i gadw eu gor- seddau i fyny. Rhaid iddynt gael nerth meddyliau yn eu rhyddid at hyny. Dygodd Nicholas y peiriant dienaid, nid y dyn, i'r rhyfel. Ond gwelodd, pan yn rhy ddiweddar, fod y dyn rhydd Prydeinig yn drech na'i beiriant ef o dan yr enw milwr. Dywedir fod cyfraith rhyddid yn Rwsia yn cael ei chario allan yn fon- gleraidd iawn ond er hyny y mae lie i feddwl fod Rhagluniaeth yn parotoi Rwsia i roddi ergydion marwol i'r "bwystfil a'r gau broffwyd."
ABERDAR-GWESTY DIEWESTOL
ABERDAR-GWESTY DIEWESTOL DA genym roddi ar ddeall fod yn awr yn Aberdar westy dirwestol ag y gall dyeithriaid ac ymwelwyr cyfrifol gael cartref cysurns, a hyny am bris- oedd rhesymol. Yr oedd Aberdar ar ol yn y cyfeiriad hwn, ond bellach gall ymffrostio. Gwel yr hysbysiad mewn congl arall.
--.-----.--------.-* LLANWONO.
LLANWONO. GOSOD CAREG S VLFAXN CAPEL NEWYDD. -Yr oedd Methodistiaid y lie uchod yn brofiadol er ys amser bellach o fychan- dra. yr addoldy presenol, ac angen am adeilad mwy cydweddol a chydnaws ag arddull a chwaeth yr oes, a dywenydd o'r mwyaf genym weled fod yr ystyr- iaethau hyn wedi derbyn y sylw dyledus gan y frawdoliaeth yn Llanwono. Dydd Mawrth, laf o Awst, oedd diwrnod ag yr edrychid ato gyda gradd helaeth o bryder ac awyddfryd, yn gymaint ag mai ar y dydd uchod yr oeddid i Osod careg sylfaen capel newyddy Trefnydd- ion Calfinaidd yn Llanwono. Am oddeutu tri y prydnawn, ymgynullodd tyrfa fawr yn nghyd i safie yr adeilad newydd. Mae y tir ar b31 un yr adeil- edir yr addoldy newydd yn freehold. I ddechreu y ddefod, ihoddwyd yr hen benill adnabyddus Gosod babell yn ngwlad Gosen," &c., allan iganu, a dar- llenwyd cyfran or ysg-ythyr santaidd gan y Parch. M. Morgan, Aberdar, a gweddiodd. Yna etholwyd y Parch. Thos. C. Phillips, Mountain Ash, i lyw- yddu y cyfarfod. Yn nesaf, galwodd y cadeirydd ar Miss Evans, Myu aeldy" i gyflwyno y morthwyi a'r lh-varn i G. Davies, Ysw., Tynewydd, a galwodd arno yntau at ei waith i roddi y gareg yn ei lie dan bwys £100. Daeth lluaws ereill ,/u haur i'w offiryrriu ar y gareg. Cafwyd fod Arghvydd Aberdar -wedi anion rhodd o £5. Cynaliwyd cyfarfod yn yr hen gapel, yr hwo. a bresecolwyd gan gynulleidfa luosog. Cafodd y gwyddfodolion y mwynhad o wrando ar y boneddigion car iyi ol yn traddooi I anerchiadau gwresog a thra ehydnaws a j gweithrediadan y dydd, sef y Parch- edigion Thos. C. Fb.i}] ps, W. Jones (yr | archadeiladydd,) W. J^mes, M. Morgan, Themes Rowlands, R. Jones, a Mr. Lewis Griffitbp, Ate-dar, yr hwn a roddodd drem ar yr achos yn y lie o'i ddechreuad yn wir ddoniol. Terfynwyd y cjfarfod trwy weddi gan Mr. GnSibbs.—G-.
ODYDDIAETH._
ODYDDIAETH. DYDD Sadwm diweddaf, cynaliodd Cyf- rinfa 'Robert Thomas Rees,' a gyneltr yn y Dyff yn Arms Inn, Cwmbach, eu cyfarfod blynyddol. Yn gymaint a bod amgylchiaclan masnach xaor isel a m-irw- aidd yn y Ile,, ni chafwyd gwledd adan- teithiol i'r corfÏ fel arfer ond cytunwyd ar gael Cyfarfod Adloniadol a Chystadl- euol er difyru'r m- ddwl. Llywyddwyd gan Mr. D. Mills, Ysgrifenydd Gohebol y Dosbarth, yr hwn hefyd yw ysgrifen- j ydd y gyfrirfa. C awsom glywed ganddo j fod rhif yr aelodan yn yr Undeb Odydd- ol yn rhifo uwch Saw haner miliwn o aelcdau, a'r cy. ydd clir yn y flwyddyu ddiweddaf yn uoarddeg o filocdd o aelod-- au, a'r derbyeis.fiau arianol am y fhvydd- yn uwchlaw £ 620,000, tra y talwyd allan ar glefydau a marwolaethau uwchlaw 2 300,000; eto, yr oedd o enill clir, £200,000. Dywedodd fod yr Odyddion wedi taln allan, ar gyfartaledd, yn ystod y flwyddyn, ar glefydau a marwolaethau yn unig, fil o bunau bob dydd gwaith drwy'r flwyddyn, a bod ei Thrysorfa yn awr yn werth yn agos i £4,000,000. Am Ddosbarth Aberdar, dywedodd fod 47 o Gyfrinfaoedd, ac yn rhifo 4484; a bod y derbyniadau, yn nghyda'r arian oedd mewn Haw am y flwyddyn, yn £ 18,506 7s. ll|c tra y talwyd allan ar glefydau a marwolaethau, a threuliadau ereill, £4,296 3s. 2c.; ac fod y cyf rinfaoedd o werth, yn mis Rhagfyr diweddaf, £14,210 4s. 9jc; a'r Drysorfa Angladdol yn werth £ 1,342 19s. 8c. Am Gyfrinfa Robert T. Rees,' fod rhif yr taelodau yn 101, a'r derbyniadau, yn nghyda'r arian mewn Haw, yn d6213 14s. 8e. Tal- wyd allan o dal-claf a threulion ereill, zC75 18s. 7c. Gwerth y Gyfrinfa yn Rhagfyr diweddaf, £137 16s. Ie. Nifer yr wythnosau o glaf-dal a dalwyd yn y pum mlynedd diweddaf oedd 699 a dan ddiwrnod. Buasai hyny yn ol wyth swllt yr wythnos yn 9279 14s. 8e. Ar ol araeth y llywydd, aethpwyd yn miaen gyda'r prog am, yr hwn oedd yn gy- nwysedig o adrodd, canu, &c., a gwobr- wywyd y buddugwyr yn y gwahanol gystadleuaethau. Cafwyd cyfarfod rha- gorol. Diolcbwyd i'r beirniaid—Mr. T. Davies, Rose-row, Cwmbach, a Mr. E. Rees (Islyn)—a'r cerddorion, y rhai a roddasant eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim.-HEN ODIDD.
DALIWCH YR HYN SYDD DDA
DALIWCH YR HYN SYDD DDA EVENS' QUININE BITTERS OR VEGETABLE TONIC. Y MAE y Bitters' hyn yn hollol lysieuol ae yn cynwys y canlyn, sef Quinine, Geulian, Lavender, Saffron, Cardamoms, Chamomile, Snake Root, Quassia, &c. Mewn gair, y mae pob llysieuyn a gwr- eiddyn gwertbfawr yn y Bitters hyn, ac y maent wedi cael eu parotoi ar ol llawer o fyfyriaeth, yn y modd goreu er eu perffeithio i fod yn wellhad difeth- iant at y doluriau canlynol :-Gwendid a surni yn y cylia, nervousness ac isel- der ysbryd, gwaelder cyn bwyd, trym- d er anai ferol ar ol bwyd, difEyg archwaeth at fwyd, difEyg treuliad, gwynt, curiad y galon, a llewygon. Puro y gwaed a chryfhau y cyfansodd-iad yw gweithrediad syml y feddyginiaeth odidog hon, ac y mae ei daioni wedi ei brofi gan gano^dd at boen yn y pen, y bile, gwendid a gwynegon yn y cymalau, a thueddiad aa y darfodedigaeth. Gan fod cymaint o dystiolaethau ffugiol i'w cael am fedd" yginiaethau diwerth, y mae perchenog y Quinine Bitters" wedi penderfynu peidio cyhoeddi dim o'r rhif mawr y mae yn eu derbyn yn barhaus am ei effeithiolrwydd, ond gellir eu cael trwy y llythyrdy. Y mae bron pob math o bills yn gwan- hau y cyfansoddiad. RHYBTJDD.—Gofalwch fynu gweled "Gwilym Evans, Ph.C., M.P.S. wedi ei ysgrifenu ar stamp y llywodraeth, hefc hyn twyll ydynt. Ar werth gan bob Druggist mewn potelan 2s. 9c. yn unig neu, wholesale, gan GWILYM EVANS, Ph.C., M. P. S., Stepney-street Pharmacy, Llanelly; Llundain, Barclay Sous, &c. Dydd Llun diweddaf, boddodd dyn ieuanc o'r enw Theophilus, mewn llyn yn Tredegar pan yn ymdrochi,
Family Notices
GENEDIGAETHAU. Awst 8, priod Mr. E. Rees, Wyndham Arms, Trecynon, Aberdar, ar fab, a gelwir ef Dafydd. Aw et 6, priodMr. JohnEvar s. barbwr, Dew lais, ar ferch. Gelwir hi yn Mary Ja e. lor daeno'i glaer adenydd-yn dyner Am dani hi beuuydd"- y A boed haul gwyneb ei dydd 0 blaniad oes ysblenydd EBEiy. Awst 14, priod Mr. William Lewis, cig ldd, Cardiff-street, Aberdar, ar ferch S PRIODASAU. Awst 3, yn Siloa, Aberdar, gan y Parch. D. Price, Mr. Rees Williams a Mrs. Ellen Roderick, Hirvyaun. B-eesWilliams ddinam sy'n ddoniol-heddyw A'i addss wraig siriol; Drwy ei gariad rhagorol, Y fun ga'dd yn fwvn i w gol. DRYW. Awst 14, yn addoldy yr Atmibynwyr, Salem, Aberdar, gan y Parch. J. Davies, So r, yn mhresenoWeb Mr. Jones, y cofrestrydd, Mr Lewis J obn a Mies Eiiza- betb Charles-y ddau o Aberdar. Coll- aSOlll y cyfeillion hyn eto o glwb y gweddwon.-HEN FAB GWEDDW. 9 MARWOLAETH. Gorphenaf 31, yn 6J mlwydd oed, Mr. Daniel Jones, 22, Ccllie^s Row, Aber- nant. Bu yr vmadawedig yn glaf am yn agos i dair blynedd. Yr oedd yn nelod ftyddlon gyda'r Bedyddwyr yn y He uchod. Symudodd ytna ryw bymtheg mlynedd yn ol o G-wmtw? ch, a bydd In ofidus gan ei gyfeillion yno glywed am ei farwoiaeth. D^dd Iau car.ijnoL heb- ryngwyd ei weddillion marwei i Cemo- I tery Aberdar, prvd y ar yr acbiysur gsu y Par ch. J. Mills, Bethei, Abernant. Gadawodd briod a blant i alaru ar ei ol.