Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y GLOWR: NEU CAETHWAS Y LOFA,I

News
Cite
Share

Y GLOWR: NEU CAETHWAS Y LOFA, "Enoch, y mae yn rhy wir—yn rhy wir! Y mae fy nan lygad wedi en chwythu allan gan y blast, ac nis gall holl feddygon y byd adferu fy ngolyg- on. Ond y mae fy mhen yn ddolurus, ac nis gallaf siarad." Peidiwch a blino eich hun Dafydd, ond gobeithiwch y goreu. Caffecl amynedd ei pherffaith waith, ac fe a a heibio y gofid mawr hwn, chwi wyddoch." a Ie, fe weddai i'r dall fod yn amyn- eddgar bob amser. Ond O! fy mhriod a'm rhai bach Beth a ddaw o honynt hwy?" Ni ddylech ymofidio a'r meddyliau hyn yn awr, Dafydd. Ni chant ddy- oddef tra y bydd genyf fi fraich, fy nghyfaill. Nid wyf yn anghofio eich daioni. Yn awr ceisiwch a chysgu." o Ar hyn gadawodd y glowr barddol ystafell yr anafus, tra y murmurai yr olaf fendithion arno, ac y geisiai yn ofer a chysgu. Ond yr oedd poenydiau corff a meddwl yn alltudio cwsg, gan gadw ymenydd Dafydd Jones yn fyw- iog, fel pe byddai ar dan. Ceisiai feddwl nad oedd yr oil ond dychymyg breuddwydiol, o'r hwn y deffroai ryw bryd ond ni ddygai y meddwl hwnw y cysgod lleiaf o gysur gau gydag ef, a pharhaai ei arteithiau i gynyddu yn hytrach na lleibau. Yn ddall, daros- tyngedig, a'i holl obeithion wedi myned yn llongddrylliad, nid oedd yn un rhyfeddod fod ei feddwl yn rhoddi ffordd o dan y fath wasgfa, a'i fod yn ymwingo fel mewn anobaith. Y mae colli golygon yn un o'r blinfydau mwyaf a all gyfarfod a dyn, ac yr oedd gwaith Dafydd Jones yn sylweddoli hyny, yn ei suddo i'r dyfn- deroedd isaf mewn anobaith. Ac nid oedd ei ofid yn gymaint o'i herwydd ei hun, ond o herwydd ei wraig a'i blant, y rhai a ymddibynent arno am eu cynaliaeth. Ac yn awr, wrth feddwl am fyw yn ei sefyllfa bresenol, a bod yn faich arnynt, yr oedd yn cael ei lethu gan ofid, tra yr oedd ei feddwl a'i galon fel ar dan. Daeth y doctoriaid drachefn, ac a weinyddasant ar y claf, bywyd yr hwn yn awr yr oedd ganddynt obaith i'w achub. Braidd na ryfeddent weled Mrs. Jones mor isel ei hysbryd. Pan ddaethant o'r ystafell, aeth hi yn mlaen at Dr. Williams, gan ofyn iddo, mewn ton wanaidd, A ydyw ei olygon wedi eu llwyr golli, Doctor ?" "Yna trodd y meddyg o gwmpas. ae a ddywedodd yn sarug, "Kin busnes ni ydyw hyny, wraig." (l Gallasech, o leiaf, roddi atebiad boneddigaidd," ebai Mrs. Morris. Yn wir," ebai dysgyblÆscuIapies. Y mae yn debyg ein bod i gymeryd ein dwrdio a'n holi gan bob hen fenyw yn y pentref. Yr wyf eisiau i chwi ddeall nad yw Doctor Williams i gy- mervd ei drafod gan bob hen wrach yn y gymydogaeth." "Gall m-meddyg fod yn fo-fo-medd- wr ar yr un pryd," ebai Enoch Evans. Earychodd y meddyg i gyfeiriad y bardd gyda golwg sarhaus, fel pe yn myned i ddifodi bodyn hwnw druan ag un edryehi..L. Yna gyda gwen fawreddog dywedodd, "Y mae bardd y fwyell yn troi i bleidio yr hen fenyw rwyn'n gweled." "Syr," ebai T ms, "gallwch ddi- olch i'r boneddi^esau hyn a'r parch a deimlaf i'r anedd-dy hwn, neu ynte gwnawn i chwi wneuthur ymddiheiriad am eich, ymddygiad a hyny yn dra buan. Yr oedd y Dr. ar fyned i godi ei gloch yn uwch, pryd yr ymyrodd Dr. Davies, gan ddwyn i mewn heddwch rhwng y pleidiau yna, gan fyned at y Mrs. Jones, archodd iddi fod yn obeith- iol, gan ddweyd na byddai ei gwr farw o'r niweidiau hyn." Ond Mr. Davies; y mae arnaf eis- iau gwybod a ydyw ei olygon wedi eu colli," ebai hi drachefn. "Y n anffortunus, er ydym yn ofni eu bod, ebai y meddyg, "ond nid oedd- ym am yebwanegu at eich gofid wrth wneud hyny yn hysbys i chwi mor fuan. Etolteimlwyf na ddylem eich twyllo yn awr." y £ Yna, gan gymeryd braich Dr. Will- iams, gadawodd y ddiu dy y glowr, yr hwn yn awr oedd y trymaf yn yr holl 4-.ref. j

I.PEN. III.

YR YMGYRCH AFFRICANAIDD.

FFEITHIAU HYNOD.

YR HYN A WELAIS YN Y LLAN.