Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

LUTHER.

News
Cite
Share

LUTHER. AETH Luther yn mlaen yn ei daith brydems ar ei draed, a chyrhaeddodd Huremberg. Gan ei fod i sefyll o flaen un o dywysogion yr Eglwys, meddyliodd y byddai yn iawn iddo ymddangos mewn gwisg addas. Yr oedd ei got ef ei hun wedi myned yn hen, ac wedi gwaethygu ar ei daith. Benthyciodd got gan ei gyfaill ffyddlon Weneeslas Link, pregethwr yn Nurem- berg. Yr oedd ganddo ef lawer o gyfeillion yno, y rhai a roddasant gysur mawr i'w ysbryd ef. Ond yr oedd yno rai gwangalon, y rhai a geisiasant ei ber- swadio ef i beidio myned i Augsburg. Dywedai yntau, Yr wyf yn pender- fynu myned yno. Y mae Crist yn teyrnasu yn Augsburg. Byw fyddo Crist. Marw fyddo Luther. Dyreh- afer Duw fy iachawdwriaeth. Fare- well! Daliwch at y ffydd. Rhaid i ni gael ein gwrthod gan Dduw, neu gan ddyn; ond gwirionedd yw Duw, eelwyddwr yw dyn." Dyma ei eiriau ar y pryd mewn Ilythyr at gyfaill. Nid oedd Link a mynach arall yn foddlawn gadael i ilutber. fyned tuag Augsburg wrtho ei hun, i wynebu y eryglon oedd o'i flaen. Gwyddent ei fod ef yn benderfynol iawn, ond yr oeddynt yn ofni na byddai ei ddoeth- ineb yn gyfartal i'w wroldeb. Pender- fynasant fyned gydag ef. Pan yr oeddynt o fewn pymtheng milldir i Augsburg, cafodd Luther boen mawr yn ei gylla, a achoswyd gan flinder y daith a phryder ei feddwl. Diau ei fod-yn teimlo yn debyg i Paul, Yn mhob peth yr ydym yn gystudd- iol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn eyfyng-gyngor, ond nid yn ddiobaith yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr adael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ein difetha." Meddyliodd Luther fod angeu wedi ymaflyd ynddo. Ofnodd ei ddan gyd- ymaith y buasai efe yn marw. Hur- iasant wagen i'w gario. Qyrhaeddasanfc Augsburg Hydref y 7fed, 1518. Aethant i fynachdy yr Augustiniaid. Yr oedd Luther yn flinedig law*, ond ymadnewyddodd yn luan. Yr oedd bywiogrwydd ei ysbryd fa eynal ei gorff gwan i iyny. Ys- bryd dyn a gynal ei glefyd ef." Dymnnodd Luther i Link fyned i hysfcysu llysgenad y Pab, De Vio, ei fod ef wedi cyrhaedd Augsburg, S'i fod yn barod i ymddangos ger ei fron pry* bynag y gwelai efe yn dda' alw am dano. Derbyniodd De Vio y new- ydd gyda llawenydd. Llawenydd y New oedd hwnw, wrth weled fod ei ysgiyfaeth o fewn cyrhaedd ei balfau, i oedd Prif Ficer urdd fynachol Lu- fiier, sef Staupitz, am gael ei weled mor gynted ag y deuai efe i Augsburg. Anfonwyd ato ei fod wedi cyrhaedd yno. Erbyn y boreu, Hydref 8fed, yroedd Luther wedi dadluddedu ac ymfywiogi. Dechreuodd ystyried ei sefyllfa ddy- eithriol yh ymyl yr awdurdod oedd yn eeisio ei einioes, fel oen yn syllu ar y blaidd qdd yn myned i'w larpio. Ymostyngodd i ewyllys Duw. Cyn ymddangos o flaen De Vio, yr hwn a gyfenwid Cajetan, daeth ato foneddwr o'r llys Rhnfeinig, cydymaith i De Vio, o'r enw Urban. Anfonodd De Vio ef at Luther i chwilio ansawdd ei feddwl ef, ac i'w barotoi i wadu ei gyffes yu erbyn Pabyddiaeth. Proffes- odd Urban ei fod wedi dyfod ato o hono ei hun, a'i fod yn teimlo yn gyf- eillgar at Luther, fel un oedd yn wrth- ddrych ffafr Elector Saxony. Cynghor- odd Luther i ymgymodi a'r Eglwys. Ceisiodd Luther gyfiawnhau ei hun; ond dywedodd Urban, yr hwn a gyf- enwid Serra Longa, wrtho, am iddo ochelyd ceisio cyfiawnhau ei hun. Meddai efe, Afentrwch chwi ddadleu a chenad y Pab ? Atebai Luther, "Os gall efe fy argyhoeddi fy mod wedi gwyro, ildiaf." Ar hyny dywedodd Urban bethau echrydus yn ngolwg Luther. Dywed- odd wrtho y gallai dyn amddiffyn cel- wydd os gallai gael arian am wneud hyny; fod yn rhaid peidio dadleu yn y Prifysgolion yn nghylch awdurdod y Pab; ae y gallai yPab newid un erthygl yn y ffydd pryd y mynai! Gwelodd Luther mai ffugiol oedd iaith hynaws Urban, ac ymataliodd oddiwrth ddweyd ei feddwl wrtho. Dywedodd yn fyr ei fod yn barod i ymostwng i lysgenad y Pab, os oedd efe wedi gwyro. Llawenychodd Urban wrth hyn. Ond ni wyddai fod ei fwn- gleriaeth ef yn yr ymddyddan a Luther wedi rhoddi calon yn y diwygiwr mawr. Barnodd efe, os oedd Urban yn engraifft o allu Ilys y Pab i ddadleu ag ef, y gallai efe gael buddugoliaeth hawdd arnynt. Yr oedd cynghorwyr dinasol Augs- burg, i ofal pa rai yr oedd yr Elector wedi rhoddi Luther, yn awyddus am gael ei weled. Er mai mynach tlawd oedd efe, cafodd wahoddiad i eistedd wrth fwrdd un o brif foneddwyr y ddi- nas, a hyny yn- ami. Yr oedd pob gradd am gael siarad a'r dyn hynod oedd wedi cynhyrfu holl Germani. Rhyfeddodd mawrion y ddinas ei fod wedi cyrhaedd yno yn ddyogel heb daith-nawdd (safe-conduct), Dywed- asant wrtho am beidio ymddangos ar un cyfrif o flaen De Vio heb drwydded taith-nawdd. Ystyriai efe nad oedd eisieu. Ond yr oeddynt hwy efallai yn gwybod am orchymyn gwaedlyd y Pab yn ei gylch. Dywedasant wrtho fod yr Elector wedi ei osod ef yn eu gofal hwy, y dylasai efe ufyddhau iddynt, a gwneud pob peth a geisient. Awgrymasant na ddylasai efe ymddiried ei fywyd yn I llaw yr Italiaid Pabyddol. Rhoisant ddeall iddo ef fod llawer o foneddwyr uchel yn bleidiol iddo, ac y gallent hwy gael trwydded amddiffynol i'w fywyd ef gan yr Ymherawdwr. Gyda hyny dyma Urban yn dyfod i'w wysio o flaen De Vio. Dysgodd ef pa fodd i ymddangos o'i flaen, fod yn rhaid iddo ymostwng a'i wyneb ar y llawr, &c. Dywedodd Luther wrtho fod ei gyfeillion wedi ei gynghori i gael trwydded taith-nawdd cyn myned o flaen De Vio. Goehelweh," ebe Urban, i ofyn am y fath beth. Nid oes ei eisieu. Os gofynweh am un, chwi a ddistrywiwch y cwbl." Gwir oedd hyny, oblegyd buasai hyny yn difetha cynllun y Pab i'w ladd ef. Dywedodd Luther y byddai yr Elector yn sicr o'i feio am anufyddhau i'w gyfeillion yn Augs- burg, pe dygwyddai rhywbeth iddo, heb safe-conduct. Pallodd fyned heb- ddo. Siomwyd Urban a De Vio yn ddirfawr. Meddyliodd Luther wrtho ei hun fod peryglon yn amgau o'i amgylch ef; ond ymddiriedodd ei gorff a'i enaid yn llaw yr Arglwydd. Am dano ef yr oedd pawb yn siarad trwy y ddinas. Ceisiodd amryw o gyf- eillion De Vio ganddo ymddangos ger ei fron, ond ni chredodd eu proffesiadau cyfeillgar. Daeth y drwydded, am safe-conduct Luther, oddiwrth yr Ymherawdwr, o'r diwedd. Ond yr oedd ei feddwl ef yn nghanol y cwbl, er yn gythryblus, yn barod i aberthu ei gorff er mwyn Crist. Sych- edai am weled rhyw gyfaill, yn enwed- ig Melancthon. Ysgrifenodd ei deim- ladau mewn llythyr ato.

-------YR YMGYRCH AFFRIOANAIDD.

* CYFARFOD LLENYDDOL RHONDDA.

_____..,,---EISTEDDFOD LLANELLI.

GWEITHFAOL A MASNACHOL.

DAMWAIN DDYCHRYNLLYD AR Y…

"J. W." A BWRDD IECHYD ABERDAR.

[No title]