Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
23 articles on this Page
COLLIAD AGERLONG 0 BEN ART…
COLLIAD AGERLONG 0 BEN ART H. 13 "WEDI BODDI. Suddodd yr agerlong Bangore o Benarth tua 100. milldir o Finnisterre ar nos y 23ain or mis diweddaf. Boddpdd y cadben a ■deuddeg o r dwylaw. Pigwyd i fyny gwch a chwech o r dwylaw gan y brig Ancient promise. Gwnawd y mynegiad hwn gan toamuei (jrillett, yr ail beirianydd. Dywedai iod y Bangore yn agerlong dri-hwyliau, 521 ri-u n 0 Btenarfch, yn llwythog o lo i ibraltar. Am 10 o'r gloch, ar y 23ain o onawr, rhoddwyd yr alarwm i'r holl ddwy- law i ddyfod ar y bwrdd, gan fod y Hong yn «'yn a l suddo. Pan aeth yr holl ddwylaw ir bwrdd, ceisiwyd launchio ycwch mwyaf ond methwyd, gan fod y llong yn gorwedd ar ei hochr, a'r deck yn llawn o ddwfr. Yna, darfu i bedwar ohonynt launchio cwch arall ac aeth Gillett a phump arall i hwnw. Pan yr oeddynt ychydig latheni oddiwrth y Hong, gwaeddai y cadben :—" Gillett, ni wnewch ein gadael, wnewch chi ?" Yna, dywedodd y cadben Cadwch ei ben i'r m6r, ac aros- wch i'r llong fyned lawr, a phigwch ni i fyny." Dywed Oillett iddo addaw gwneyd hyny ond nid cynt y llefarodd y geiriau nag y collwyd un o'r rhwyfau gan un o'r dynion, ac yna yr oeddynt at drugaredd y m6r. Ceisient gadw pen y cwch at y tonau ag un rwyf, a bu agos iddo lanw. Gorfu iddynt adael y cwch i redeg o flaen y gwynt. Yn mhen tua dwy fynud wedi iddynt fyned i'r cwch, elywsant waedd, a gwelsant y llong yn suddo mewn llawn hwyliau, gyda 13 ar y bwrdd. Nid oedd yn bosibl iddynt estyn un cynorthwy iddynt, gan nad oedd ganddynt I ond un rwyf. Cawsant noson ddychrynllyd, heb ddim dwfr nac ond ychydig ddillad yn y cwch. Pigwyd hwy i fyny am un o'r gloch dranoeth. Gyda golwg ar yr achos i'r llong suddo, yr oedd gan Gillett ei farn, ond yr oedd yn well ganddo ei chadw iddo ei hunan. I
CYFARFOD 0 GYNRVClIIOLWYR…
CYFARFOD 0 GYNRVClIIOLWYR TORWYR GLO TAI YN LLANFlBON. Dydd Gwener diweddaf, eyfarfu y cynrych- iolwyr uchod, 12 mewn nifer, yn cynrychioli tua 1,400 o lowyr yn Nghastellnedd, Rhon- dda, Cwmsychan, Llanfabon, Gelligaer, a Bedwas. Etholwyd un o gynrychiolwyr y Rhondda i'r gadair, ac aethpwyd i mewn i'r safon a'r telerau y cytunwyd arnynt. Y farn gyffredinol oedd fod Pwyllgor y Sliding Scale wedi bod yn feius i wneyd yr hyn a wnaeth- ant, gan iddynt sefydlu y pris gwerthiadol yn y farchnad Is. yn rhy uchel i'r raddfa gyflogol a delir yn awr am dori glo. Ceisiai Mr. John Jenkins egluro rhesymau y pwyllgor dros wneyd yr hyn a wnaethant, ond nid oedd ei esboniad yn foddhaol ganddynt. Gan fod y nifer yn nghyd mor fychan, barnwyd yn ddy- z, ffiunol i beidio pasio un penderfyniad.
CI CYNDDEIRIOG YN LLA.NTWIT…
CI CYNDDEIRIOG YN LLA.NTWIT FARDRE. Tua phump o'r gloch dydd Sadwrn diwedd- af, pasiodd ci cynddeiriog, fel y tybir, trwy Llantwit Fardre. Aeth i'r orsaf am 5.30, ac oddiyno i'r rheilffordd. Oddiyno aeth i Af Mr. Howell Thomas, y station matter. Galw- odd y rhai oedd yn y ty ar Mr. W. Waldron, y porter, yr hwn a aeth yno. Can gynted ag yr aeth i'r ty, neidiodd y ci at ei wddf ond tarawodd Mr. Waldron ef i lawr a phren oedd ganddo yn ei law. Neidiodd y ci wedi hyny at Mr. Thomas, ond ar ol cryn drafferth llwyddwyd i'w ladd.
GWEITHFEYDD PENTYRCH A MELINGRIFFITH.
GWEITHFEYDD PENTYRCH A MELINGRIFFITH. Da genym ddeall fod y gweithiau hyn yn awr yn myned yn mlaen gydag egni a bywyd newydd, a golygir cychwyn dwy felin arall yn mhen yehydig ddyddiau. Y mae prinder gweithwyr yno hefyd, yn neillduol yn Melin Griffith. Dysgwylia y gweithwyr godiad yn y cyflogau cyn hir. Mor fuan y trodd y rhod yn y gweithfeydd hyn
BEDDFAEN Y DIWEDDAR MR ROBERT…
BEDDFAEN Y DIWEDDAR MR ROBERT T. CBAWSHAY. Y mae yn debyg mai yr hyn a gerfiwyd ar feddfaen yr haiarn-frenin uchod, yn ol ei orchymyn, ydyw :—" God forgive me (Duw faddeuo i mi). Credwn y gallesid taro ar un mwy priodol, gan fod yn rhaid i'r forgive gymeryd lie cyn myned i'r fynwent.
GLOWYR CWM RHYMNI.
GLOWYR CWM RHYMNI. Cynaliodd yr uchod amryw gyfarfodydd yr wythnos ddiweddaf er ymdrin a'r Scale, yr hon a annghymeradwyir yn gyffredinol. Hon- ant fod y cynrychiolwyr wedi myned yn mhellach na'u hyfforddiadau, gan fod y safon gylchynol, Is., yn rhy uchel i gwrdd a'r raddfa bresenol o gyflogau a delir.
[No title]
GWYDDEL A SAIS, wrth gyd-deithio yn -nghoedwigoedd America, a gollasant y ffordd, a daethant at hen fwthyn candryll yn yr hwn yr oedd iar yn unig breswylydd. Gan nad oedd ganddynt luniaeth, penderfynasant gadw yr iar at foreubryd; ond penderfynasant drachefn, mai yr hwn a fyddai wedi breu- ddwydio yn fwyaf dedwydd fyddai yn cael yr iar yn foreubryd. Breuddwydiais," ebe'r Sais, "fy mod yn cael fy nghodi i'r nefoedd mewn basged, ac ni bu'm erioed mor ddedwydd." Mi'th welais yn myned, a chan feddwl na wnaet ddychwelyd, mi a godais, ac a fwyteais yr iar fy hunan."
[No title]
Y PARCH. JOHN DAVIES, NEEQTJIS.—Mae'r gwr Parchedig hwn wedi teithio yn Ne a Gogl- edd Cymru o leiaf 223,581 o filldiroedd gyda phregethiad y Gair; wedi traddodi 20,127 o bregethau, a 640 o ddarlithiau ac hefyd y mae wedi bedyddio 1,361 o bersonau Swm lied dda.
[No title]
———————————————————— DYMUNIANT YR HOLL GENEDLOEDD Cantata, neu wasanaeth cerddorol cysegredig. Y geiriau gan E. Samuel (Cadifor); a'r gerdd- oriaeth gan G. Anthony, A.C. Cynwysa y gantawd neu'r gwasanaeth uchod tua 22 o ddarnau, wyth o ba rai sydd yn ddarnau adroddiadol. Feallai y bydd hyny yn fanteisiol er mwyn rhoddi gwaith i amryw- iol ddoniau o'r rhai hyny a fyddant yn ym- gymeryd a pherffermio'r gantawd. Y mae y geiriau yn cyffwrdd a, phob amgylchiad o bwys (neu yr amgylchiadau mwyaf pwysig) Ily trwy yr oil o'r Ysgrythyr, o Genesis hyd y Datguddiad, sef o sefyllfa dyn mewn anrhyd- edd, a'i gwymp, hyd y dyrehafiad trwy Grist, &c. ac y mae cryn lawer o chwaeth yn cael ei ddangos yn netholiad, trefniad, a chyfan- soddiad y cyfryw, er fod y gosodiad allan yn ami yn ymylu ar fod yn blentynaidd. Am y gerddoriaeth, nid yw, a siarad yn gyffredinol, ond tra chyffredin (common-place); ond y mae yn y gwaith amryw ddarnau ag a allant fod yn bwrpasol, buddiol, a dyddorol i gym- deithasau corawl ieuainc, ac fel y cyfryw yr ydym yn ei gyflwyno i sylw ein darllenwyr. T. V. D.
ABERDAR.
ABERDAR. MR. EDWARD PUGH, SURVEYOR, LLWYD- COED.—Mae yn ddywenydd genyf hysbysu cyfeillion Mr. Pugh, sef mab Mr. William Pugh, goruchwyliwr gweithiau y Gadlys a Llwydcoed, ei fod wedi myned trwy ei arhol- iad yn anrhydeddus i fod yn oruchwyliwr glofaol, yr wythnos ddiweddaf, yn Nghaer- dydd. Llwyddiant iddo i fyned yn mlaen eto i basio ei 'arholiad i fod yn oruchwyliwr glo- faol dan y Llywodraeth yw dymuniad- Cyfaill.
LLANCAIACH.
LLANCAIACH. x OLXDINGR OCALE. —Cynaliwyd cyfarfod gan weithwyr y glo tai yn y Nelson Inn, yn y lie uchod, i'r dyben o osod y Sliding Scale newydd o flaen y cynrychiolwyr. Yr oedd yn bresenol Mri. Isaac Evans, John Blacker, John Jenkins, a Thomas Phillips, aelodau y bwrdd dros y glo tai. Treuliwyd y dydd i ddarllen ae egluro y cytundeb newydd, ac i dderbyn eyfraniadau o 2g. y gwr at y treul- iau. Yr oedd yn dda genym weled cymaint o gydweithrediad yn ein plith gyda'r mudiad pwysig hwn. Dymunir ar y gweithfeydd hyny sydd heb ddyfod &'u cyfraniadau i mewn i wneyd hyny mor gynted ag y gellir i Mr. Lewis Morgans, Nelson Inn, Llancaiach, near Cardiff, fel y gallwn gyhoeddi taflen o'r cyf- rifon yn y GwiAJDaARWR..—Ysg.
SOAR, YSTALYFERA.
SOAR, YSTALYFERA. Cafwyd perfformiad gwirfoddhaol o "Brawf John Heiddyn yn y lie uchod nos Iau, Ion. 29ain, gan barti perthynol i eglwys Pantteg. Llywyddwyd yn fedrus, yn absenoldeb y Parch. C. Williams, gan y Parch. R. Trefor Jones, Pantteg. Cafwyd can i ddechren gan W. Howells yn gampus, a chan i derfynu gan yr Hen Ffarmwr yn orgampus. Cefais wledd wrth fodd fy nghalon. Cofiwch, wýr Cwmbwrla, am yr 20fed o'r mis hwn. Myn- wch glywed y perfformiad hwn. Hyn yn fyr, gyda dymuno hwyl wynt i chwi yn y dyfodol. tlwilyrn Giedd.
LLWYNBRWYDRAU.
LLWYNBRWYDRAU. DARLITH.-Nos Lun, Ionawr 26ain, tra- ddodwyd darlith ar Daith y Pererin yn y lie ucbod gan Dr. Walters, Ficer Llansamlet. Llanwyd y gadair gan Evan Maddock, Ysw. Cafwyd darlith ddyddorol iawn. CYNGHERDD.—Nos Sadwrn, Ionawr 24ain, cynaliwyd cyngherdd yn Ysgoldy Bethel. Cymerwyd y gadair gan y Parch. Evan Jenkins. Yr oedd yr Ysgoldy yn orlawn o wrandawyr, a throdd allan yn llwyddiant mewn ystyr arianol. CoR EBENEZER (M.C).—Da genym gael ar ddeall fod y cor uchod, o dan arweiniad Gwilym Samlet, yn brysur barotoi gogyfer a,g Eisteddfodau Maesybar a Chastellnedd. Go on, boys.—Brython oW West.
DOWLAIS.
DOWLAIS. JOSEPH A'I FRODYR.—Nos Sadwrn, Ionawr 24ain, perfformiwyd y drama uchod gan Barti o'r Fochriw mewn character, yn yr Oddfellow's Hall, yn y lie uchod. Cymerwyd y' gadair gan y Parch. W. Tibbot, ac a'i llanwodd yn ei ddull'da arferol. Canwyd amryw ddarnau yn ystod y cyfarfod gan barti o'r un lie, dan arweiuiad medrus Mr. Evan Evans, yr hwn sydd yn deilwng o ganmoliaeth am ei lafur gyda'r canu. Treuliasom tua dwy awr yn bleserus iawn, ac ymadawodd y gynulleidfa luosog oedd wedi dyfod yn nghyd wedi eu llwyr foddloni. -Stanley.
BAGLAN.
BAGLAN. GLOFA TORYMYNYDD.—Y mae yn hyfryq- wch genyf allu hysbysu lluosog ddarllenwyr y i WLADOARWR fod gweithwyr y lofa uchod, ar ol hir ymdrech, wedi taro i mewn i wythïen Torymynydd, yr hon sydd yn haen bwysig yn y ddaear. Er nad yw ond byehan mewn trwch, y mae yn y radd flaenaf fel glo tai. Yr oedd llawer o'r farn nad oedd y glo yma o gwbl ond y mae hyn wedi symud ymaith pob amheuaeth yn ei gylch. Bydd hyn yn gaffaeliad mawr i Mri. Jenkins a'i Feibion, perchenogion y lofa, y rhai sydd wedi myned i draul mawr. Y mae parch mawr yn ddy- ledus i Mr. Richards fel arolygydd medrus yn y gangen danddaearol.—Girihjm Ddit o'r Llan.
[No title]
BWRDD IECHYD ABERDAR.-Deallwn y bydd Mr. Isaac Thomas, undertaker, yn ymgeisydd am sedd yn y bwrdd uchod dros Ward No. 2 yn yr etholiad nesaf.
AT Y BEIRPD.
AT Y BEIRPD. BEDDED i'n cyfeillion y Beircid, o hyn allan gy- fsirio eu holl Gynyrchion Barddonol yn v modd ac i'r cyfeiriad canlynol MR. T. DAVIES (Dewi Wyn o Essyllt), Pontypridd. ( Gwladgcirwr.)
[No title]
MAE cyflawnder y gohebiaethau rhyddieithol sydd yn aroa ar law wedi ein gorfodi i droi o'r neulldu, am ychydig wythnosau, ein colofn farddonol. Nid oblegyd prinder adnoddau .Y barddonol y gwnawd hyn, canys y mae genym ddigon o'r rhai hyny, pe cyhoeddid hwynt oil fel ag y maent, i'w diwallu dros ddwy flyn- edd. Beddargraff y Dhceddar John Lewis. -TIhy fach o'r nodwcddmdol. Chwant gweled Llundain. —O'r braidd y mae yn werth ei gyhoeddi. Y Ffynon.—Goehelwch y fath eiriau a di-nag, di-nacad, heb nacau, a geiriau cyffelyb, oddi- eithr yn eu cysylltiadau priodol, canys nid ydynt ddim ond geiriau segur, neu eiriau llanw o'r fath eiddilaf yn y cysylltiadau y maent ynddynt genych chwi. Y mae rhai peaillion gweddol genych, ac yn addaw dy- fodol cymeradwy i chwi. Baban bychan Mr. R. Thomas, Tailor, d:C.- Rhy gyffredin o lawer. Too verses to Eos Moriais."—Will not bear the light of day. Y our English is intolerably bad. Grwgnachwyr Eisteddfodol.—Englynion pur duchanus, ond y maent dipyn yn rhy gyfeir- iol; ond anfonwn hwynt i'r Weekly Mail. JDidymus Wyn. —EnglyDion ffraethbert. Aleimus.—Nid hollol reolaidd, ond cant ym- ddaDgos. Cadelriad Emlynfardd.—Da yw cydnabod teil- yngdod. Penillion i Rahel fach.-Syml a thra dymunol. Cerddoriaeth.—Llawer o bethau newydd i ni.
Y TYWYLLWCH AR Y GROES.
Y TYWYLLWCH AR Y GROES. Y ddaear a'i gruddiau 'n dduon ;—y graig, Er mor gryf, yn yfflon Awyr brudd yn curo 'i bron, Ac haul yn tori 'i galon Llundain. HWFA MON.
:ADEIRIAD EMLYNFARDD YN NHRE…
:ADEIRIAD EMLYNFARDD YN NHRE HERBERT, 1879. Testyn-" Y Ddaear." Beirniad-Rhydderch ab Morgan. Emlyn hawddgar, wyt fardd y ddaear, Nid daear -walia fach, Ond daear pob man—mae'r byd ei hunan Yn llanw'th awen iach. Mae'r gerdd a genaist, a'r gadair gefaist, Er daearoled ynt, Yn dangos uchei wlad yr angel, Tnhwnt i'r ser a'r gwynt. A'r nefoedd lawen, fendithia'th awen Yn Dghadair daear, gan Lon sisial Emlyn dy odlau edlym Gilnt gadair eto yn y man." HOMO DDU.
LLINELLAU
LLINELLAU I EMILY, merch newydd-anedig y Parch. D. G. EVANS, Penrhyndeudraeth, Gogledd Cymru. Da iawn, onide ? Wel, dyna-eto Un at yr un cynta'. Daeth 'nawr at y bachgen da Lon eneth. P'un yw'r glana' ? Cafwyd mai nid teulu cyfan-oeddent Heb ddel ferch serchoglan. 'Doedd modd bod 'n deulu dyddan A chlyd heb gael mfUi fach lan. Rhowd 'n eich nen seren wir siriol-eto At 'r un hardd flaenorol. Un ltln yw 'n wir heb ddim lol O onid yw 'n ddeniadol! Bobol, pa le y cawd baban—erioed 'R un wedd a'r un fechan ? Cael 'r un fach, gwir destyn can I'w ma' a'i thad mae weithian. 0 eneth, na foed enyd I'r un fach o been 'r henfyd. Oes o lwydd i'r lodes lan Na ddoed un awr annyddan. Aberdar. DIDYMUS WYN.
PENILLION
PENILLION I RAHEL fach, sef cyntafanedig Mr. a Mrs. MORGANS, Workington, Cumberland. Ah Rahel fach, ti ddest i fyd Yn llawn o och a chwyno, Ni wyddost ti, er hyny i gyd, Fawr iawn am dano eto Yn gwenu fyddi di yn iach Ar ofid byd a'i riddfan A gwenu gwnelet ti 'r un fach Yn ngwyneb angeu 'i hunan. Yr wyt yn anwyl, 'r wyt yn dlos, A hefyd 'r wyt yn llawen- Dy fochau bach sydd fel y rhos, A'th lygaid fel dwy seren Ond ha ni fedri di a dweyd 'R un gair wrth neb ohonom,— Y cyfan fedri di ei wneyd Yw gwenu a syllu arnom. Mae diniweidrwydd pur dirith Yn tlysu dy wynebpryd, Fel gallem feddwl ddod i'n plith Angyles fach o'r gwynfyd Tydi yw pobpeth bron yn awr Yn nhybiaeth dy rieni- Yn wir, ni chym'rent gyfoeth mawr Ar amod i dy golli. Boed gweddi tad a gweddi mam Fel engyl yn dy ganlyn, Ac yn dy dywys gam a cham, Boed lesu, anwyl blentyn A bydded i ti yn ddiffael Hau hadau pur duwioldeb, Fel gallot eto'u medi'n hael Ar faesydd trag'wyddoldeb. Workington. CARIADFAB.
Advertising
Yn Barod, yr ANTHEM GOFFADWRIAETHOL, "Genwch i'r Arghvydd ei Saint Ef." BR CO]? AM Y DIWE»DAR ROSSER BEYNON (AScI ph Glan Taf) Awdwr Telyn Scion." GAN D. EMLYN EVANS. BurMugol yn Eisteddfod Coffadwriaetbol Rosser Beyno:i, yn Merthyr Tydfil, Hydref, 1876. Fe genii" yr Anthem hon ym Ngbyrrcanfa Ganu Cynullpidf'aol yr Aunibymvyr. Dowlai-s, Pasg, 1880, dan arweiniad Eos MorJats. Pris y ddau nodlant, 4c Jtwy y post, 41-c. Cyhoeddedig g<m Ei.IAS BRTNON', 10, Cross BImk-II^ St.r^^t 2189 O.iehatri?!, Do<v]ai^. DAVIES AND SONS, 5, GUILDHALL AQUABS, CA.RM A RTH E N. AND 3, New-street, Neath. DAYIES & SONS' WATCHES DAVIES & SONS' WATCHES DAVlhS & SONS' WATCHES DAVIES & SONS' VV ATCH ES DAVIES & SONS' WATCHES DAVIES & SONS' WATCHES DAVIES & SONS' WATCHES DAVIES & SONS' WATCHES DAVIES AND SONS, 5, GUILDHALL SQUARE, CARMART HEN. AND 3, New-street} Neath. POB BLYCHAID GWERTH GINI! PELENI BEECHAM. CYFADDEFIPv, gan filoedd fod Blychaid oi Pelenihyn yn werth gini mewn achosion o anhwylderau geriog a gewynaidd, megys gwynt a phoen yn y cylla, poen yn y pen, y bendro, pen- ysgafnder a dihoendra, iasau, diifyg archwaeth- diffyg anadl, rhwymedd, scurvy, cwsg anesmwyth- breuddwydion brawychus, clefydau y croen, &c Rhydd y dogn cyntaf esmwythad mewn xigain mynud. Nid anwiredd yw hyn, oblegvd y maent wedi gwneyd hyny mewn miJoedd o achosion. Taer erfynir ar bob claf i wneyd prawf o'r Peleni hyn, ac yna cyfaddefir eu bod yn WERTH GINI Y BLWCH. 1 fenywod o bob oed mae y Peleni hyn yn anrahns- iadwy. Cludant i ffwrdd bob afiechyd, symudant bob rhwystrau, a chyflawnant yr hyn fyad yn angenrheidiol. Os cymerir y Peleni hyn fel y cyfarwyddir ar glawr pob Blwch, byddant yn sicr o adferyd pob dYlles i iechyd a hoenusrwydd. I gylla gwanllyd. a phob anhwylder i'r hwn y mae yr afu yn agored iddo, gweithredant braidd yn wyrthiol, a cheir y bydd ychydig ddognau i weithredu yn ardderchog ar wahanol ranau o'r oyfansoddiad. PELENI BEECHAM AT Y PESWCH. Fel meddyginiaeth at beswch, diffyg anadl, ac anhwylderau yr ysgyfaint, y mae y Peleni hyn yn anmhrisiadwy. Yn fuan y symudant pob ryw afrwyddineb, a galluogant y dyoddefydd i anadlu yn rhydd a didrafferth. Dymunir ar y cyhoodd fynu gwelcd fod ar bob blwch yn argraffedig y geiriau" Beecham's Pills, St. Helens." Heb hyny, ni fyddant ond ffug. Parotcedigac ar werth yn gyfanwerth a man- werth gan y Perchenog T. Beeeham, Chemist, St. Helen's, swydd Lancaster, mewn blychau prÜ, Is. lie., a 2s. 9c. yr un. Yn rhad drwy y post ar dderbyniad 15 neu 36 llythyrnod. Ar wer th gan holl Gyfferwyr y deyrnas. Rhoddir cyfarw yddiadau gyda phob blwch. 2201 A Certain Cure for Nervou < Debility. GRA.TIS, a MEDICAL WORK showing suf- ferers how they may be cured and recover Health and Vitality, without the aid of Quacks, with Recipes for purifying the Blood and removing Skin Affections. Free on receipt of stamp to prepay postage. Address Secretary, Institute of Anatomy. Birmingham. 2186 WARNING! RECKITT'S PAllIS BLUE.-The marked superiority of this Laundry Blue over all others, and quick appreciation of its merits by the public, have been attended by the umal results, viz., a flood ef imitations, the merit of the latter mainly consists in the ingenuity exerted, not sin'ply in imitating the square shspe, but making the general appearance of the wrappers resemble that of the ger uine article. The manufacturers beg therefore to caution all buyers to see Reck- itt's Paris Blue" on each packet. PELENI HOLLOWAY yw'r feddyginiaeth fwyaf mewn bri am wella yr amrywiog dcoluriau a ymosodant ar ddynoliaeth, pan fyddo tywydd gwlyb ac oer yn rhoddi lie i binoedd mwy cynyrchiol. Yn fyr. mae'r peleni hyn yn rhoddi esmwythder, os nad ydynt yn gallu gwella y cylchrediad, y treuliad, a grym gieuol, pa rai, ar brydiau, a orthrymant ran. aruthrol o'r boblog aeth. 0 dan y galluoedd iachus, pureiddiol, a chryfhael a osodir allan gan y peleni rhagorol hyn, mae'r tafod yn dyfod yn lanach, yr archwaeth yn gwella, y treuliad YIl cael ei fywlogi, ac ymdebyg- iad yn cael ei adferyd yn berffaith. Mae meddyg- iniaeth Holloway yu meddu y rhinwedd uchelfri- sidd o lanhau yr holl waed, pa un, yn ei sefyllfa adnewyddol, a garia burdeb, cryfder, a grym i bob gwe o'r corff. 0 NEW TORI". Britannic, Ionawr 19.—Adriatic, Ionawr 22. Germanic. lonawr 31. Y mae yr Agerlou^au hyn yn lleihau y daith i'r amser byraf ag sydd d.liclmnad wy .-in roddi y cysuron mwyaf ag sydd dd.cliouad.vy i deith. wyr ar y mor. Cyfartaledtl y fordaitL, S', Jivrrrod vn yr Hat, a 9^ diwrnod yn y Gauaf. Y mae pob ilong wedi ei .i(i yn saith o raniadau dwfr-brawf. Y mae y Saloon, Ladie,' B.mdoir, Suie Rooms ar Smoking Rooms yn ngbanolh:u ill y llestr a» wedi en dodrefnu a'u go.,cd i fyny yn y modd mwyaf cyflens a chostfawr, cynwy.ed^ 0 Pianos, Libraries, Electric Bells, Bath-rooms, Barber'i bhop, &c. Saloon Passage, 15, 18, a 21 Guineas Return Tickets rw cael am brisiau Hai. Y we cfoxieraa y Steerage o'r radd urJiaf, yr ystajelloedd yn naiikluol o helaeth, wedi eu goleuo, aioyru, a'u cyue.su yn ddu a chaiff tetili. wyr o r dmbarth yma fod eu cysuron wedi eu hastadio ynJanwL Gweinyddesau yn y Steerage i weini ar v Gwragedd a r Plant. Steerage Fares am brisiau llai. Drafts ar New York i'w cael yn rli.ad. Am hysbysleni a manylion pdhwh, ymefyner a UvnnE. Co, 10, Water-strc^ Liverpool; y^^adenhal Street, London, E, C, J..484 To America. G^tfFATKS Mail rr p One of the f'ollovviUc or other S'l'.EA MSHIPS will be from jLIVjKHPOUL TO rORK }j;YERY t;ATO RDAY. ARTZOiVA (New) napteina. MONT\NA. t lce WYOMING JnonfS NEVA DA ^Ta,dd WISCONSIN 7jgb>' TTT'MI Owen CA ,o eSfA?™?810'™ commodat on. ° Intermediate s Guineas Steernsre Parage to New York, Boston, and Philadelphia ki> vs., including a plentiful SUDDIVOI pi-Ovnsicms, cookea and served by the CompWs stevvavd.^ Passengers forwarded to all parts of the United States, and Canada; also, to San Francisw China, Japan India, Is ,w Zealand, and AustraS,' by Pacific Kadvyay and Mad Steamer, at lowe«fc through rates. .1 h=>,e Steamer, r,rry Surgeon and Stewardess tree, ^d are provided with Smoke Rooms and Ladies Lounge Rooms on Deck, and Bath Rooms below; also Ptanos Passengers are recommended to obtain their Ticketsi f-om our Agems Jjeiore leaving home. I^pr I r-.ght and Passage aprly to C uion and Co 11, Rumiord-wtreet. or 2s, Wao.ir^tr.-et T and 7, Garrick Street Covent Garden, Load^or James bcott and Co., Qv.eens1ov>u; and only to the Agents.- Rev. W. Hair ^16 •Tr*SnTi '■ Ash; W. Ihomas, Rv. Station pf„, v T O. Morgan, SiliuiaWiiU. I ypndd: and O. Thomas, TempH,Wtoe HaJ)' AW* 2" «. <v«L«ri P&. aSS: dare^ & F. Foley, Temperance Hotel Neath HurJev, Matt,hew, & Co. 28, Mmmt Stuart Cardiff; John Clarke, Pwl^lift LleynSs^ Humphrey Jones, 3, Hi-h StreeJ J Arthur Trevor, Blue Bell Hotel."C«nway Jone.v 10, James Street, Bangor W J WilHamo* UnioD, 7. k;i,« StrZ& narvoo. L484 ENAIXT HOLLOWAY.—Y A latina. Dymo. y ddau ymosodyld^^ry^s fydd yn dyfod ar draws e,n plant g.yntaf Ir ol eu Si Mae y ddau gleiyd yn heintus. ac vn e-alw am drmiaeth ddoeth. Yn vr anhu^.i i "i i T • "orl V vn h, 11 V anllwyi<l,-r blaenaf ceir n o]af dyoddefa y i .• y** ••on iyddo ^21 G*weini yn sic.-oga.l iod Eaain, Holloway va'f dS .*eUi antnnrisiadwy yu yf achosion perydus I™ Ond ei gyraliwyso at y gwddr, y ddw vfron cei.i, rhydd esmwyth-had diffael; lrvrwydd'a vr an«dhp.nt, Kedd.ia y posweh dwg y ll,w priodol vn ol 11 g-y.iusau, a chyll y gw ynebpryd yr vm ddangosiad gwehv s.vdd yn rtagswddo SfvHfa berygtns y cyiansoddiad. Nid yn uni.^ y mae yr Enamt gwerebfawr hwn yn iachau' /cB d hnn, end symuda yr achos o bob ol-effaith. Just published prjr-e e Address :-H. BROMLFT P ?,, 6 Ravenscourt London. W. w 2109