Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Eisteddfod Treherbert, Nadolig,…

News
Cite
Share

Eisteddfod Treherbert, Nadolig, 1879. BEIRNIADAETH Y CYFANSODDIADAU. GAN RHYDDERCH AB MORGAN. Casgliad o Ffracthebion Barddonol. Derbyniasom saith o gasgliadau, y rhai a bwysant gyda'u gilydd bedwar ptmjs a chwar- ter. Nid yw y cwbl a gasglwyd gan yr ym- geiswyr hyn yn deilwng o'u galw yn ffraeth- ebion; ond buaswn gyda chydwybod dawel yn dyfarnu yr iselaf ei deilyngdod o'r saith yn deilwng o'r wobr flaenaf. Dryw bach o dre'r baw.-Casgliad helaeth, yn cynwys llawer o amrywiaeth ffraethlym, ac yn cadw y dyddordeb i fyny hyd o fewn ychydig dudalenau i'r diwedd. Buasai ei eiddo yn llawer gwell heb yr englynion gwag- saw i Ddau a dwy a Babilon." Nid oes y mymryn lleiaf o ffraethineb yn y naill na'r llall ohonynt. Buasai yn ganmoladwy yn y Dryw i beidio dwyn i'w gasgliad yr iaith front, anweddus, a geir ganddo yn nhudalenau y chweched a'r seithfed. Os yw yn gymydog i awdwr y llinellau sydd yn y tudalenau a nod- wyd, cynghored ef i astudio'r Ysgol Fardd- ol," iaith deilwng, a chwaeth goethedig. Awenyddwr. — Casgliad gwych a phur chwaethus ond y mae amryw ddarnau yn y casgliad hwn na theilyngant eu cyfrif fel yn meddu y gronyn lleiaf o ffraethineb. Mae Taith Nic yn hen ddarn pur gyfarwydd i bawb sydd yn arfer darllen barddoniaeth ond y mae yn llawer rhy faith, ac telly lietya "Gân y Cwrt Bach," i'w cymec d i mewn yn gyfan o dan benawd testyn fel hwn. Rhagora hwn lawer mewn teilyngdod ar y Dryw. Yulcan.—Gwelodd yr awdwr yn dda ein hysbysu mai yr un yw efe ac Awenyddwr, a rhydd i ni ei farn bersonol ar y ddau gyfan- soddiad yn y geiriau canlynol Yr wyf yn credu eu bod yn llawer iawn mwy na gwerth y wobr," &c. Dywed yn mhellach :—" Cy- meraf yr eondra arnoch, os byddwch mor garedig a pheidio eu gosod yn gydfuddugol, os nad ydynt yn deilwng o'r 3p., bydd yn fwy dymunol genyf eu cael yn ol," &c. Cy- mered yr ymgeisydd hwn gynghor yn garedig genyf wrth fyned heibio—h.y., na thored gynlluniau allan i'r beirniaid i weithio wrth- ynt, ond danfoned ei eiddo i bob cystadleu- aeth yn foel a digynffon. Os na thybia fod ei feirniaid yn ddigon galluog i edrych dros ei gynyrchion, cadwed hwynt iddo ei hun. Mae y casgliad hwn o'r un nodwedd a'r un blaen- orol, ond fod ynddo rai darnau mwy taraw- iadol ac yr ydym o'r un farn a'r awdwr yn ddigellwair-mae pob un o'r ddau gasgliad yn fwy na gwerth y wobr; ond y mae genym ereill yn dyfod ar eu hoi sydd lawer yn hel- aethach na'r ddau gyda'u gilydd, ac yn meddu ar deilyngdod uwch na'r ddau yn un. Twm o'r Nant yr Ail. Teiml wn yn cldiolcn- gar i'r ysgrifenydd hwn am ei gasgliad cryno, tlws, a ffraethbert. Ffraethebion sydd ganddo gan mwyaf. Dengys chwaeth bur, a gofal teilwng wrth ddyfynu, ac y mae wedi gosod y gwaith allan yn drefnua a. phrydferth. Caradog ap Arthur.—Y mae eiddo yr ym- geisydd hwn yn gyffelyb, mewn arddull a theilyngdod, i eiddo Twm ond y mae yn fwy o feistr ar ei waith. Can belled ag y mae yn myned, y mae yn llawn cystal ag eiddo'r goreu yn y gystadleuaeth hon ond y mae wedi bod yn rhy fyr ei anadl yn y rhedegfa bresenol i enill y gamp. Mae cystal bara yn y dorth geiniog ag sydd yn y dorth ddwy; ond dewisir y dorth fwyaf yn mlaenaf, os ceir hi am yr un bris a'r lleiaf. Nenog Wyn.—Casgliad wedi costio llawer o lafur ac ymchwiliad manwl, ac wedi ei ddethol yn chwaethus, a'i osod allan yn hynod eglur a threfnus. Rhydd lawer o ddyddor- deb wrth ei ddarllen, a byddai yn iechyd i ambell un pruddglwyfus ei feddwl i gael cip- olwg ar y ffraethebion hyn, er llawenhau yehydig ar ei ysbryd yn nyddiau adfyd. Arthur.—Dyma'r tlysaf a'r goreu yn mhob ystyr. Mae yn glod i ben a chalon y casgl- ydd. Cawn ganddo 149 o dudalenau, yn fyw o ffraethineb amrywiol feirdd hen a diweddar ein cenedl, a'r cwbl wedi ei drefnu mewn diwyg ragorol. Rhodder y wobr flaenaf i Arthur, a'r ail i Nenog Wyn. A. wdl-" Y Ddaear." Derbyniwyd ar y testyn hwn bump o awdlau, ac y mae yn llawen genyf ddatgan fod y gwaelaf ohonynt yn meddu ar deilyng- dod uchel. Y mae y testyn yn eang iawn, a pha ddwysaf y myfyrdod uwch ei ben, mwyaf oil yr ymeanga yn ei hyd a'i led, ei ddyfnder a'i uwchder. Cawn ynddo feusydd annher- fynol i'r meddyliau mwyaf addfed, cyrhaedd- bell, a gafaelgar, yn mhlith daearegwyr, ser- yddwyr, morwyr, athronwyr, haneswyr, beirdd, a duwinyddion yr oesau. Wrth ei astudio yn bwyllog, gwelir fod gwyddoniaeth a datguddiad dwyfol yn cyd-ymgusanu mewn heddwch yn eu cyd-dystiolaeth i allu, doeth- ineb, daioni, a gogoniant "Crëawdwr cyrau y ddaear." Wrth ddarllen yr awdlau hyn, argyhoeddir ni fod eu hawdwyr galluog wedi darllen llawer ar rai o'r llyfrau goreu, ac wedi dwyn i'w cyfansoddiadau ddameaniaethau amryfal a dyfnddysg ein prif awduron ar ddaeareg, seryddiaeth, a gwyddoniaeth, yn eu gwahanol agweddau. Ond y mae yn y gys- tadleuaeth hon, fel braidd yn mhob cystadleu- aeth arall, raddau yn ngalluoedd meddwl, nerth dirnadaeth, gogoniant meddylddrychol, a thlysineb saerniol yr awdwyr. Y cyntaf ddaw dan ein sylw yw La Terre.-Cymer yr awdwr hwn olwg bur eang ar y testyn. Cychwyna gydag eiddun- iad yr awenydd am wen 16r a'i oleuni dwyfol i'w arwain i faes toreithiog y testyn, yn yr englyn caplynol Iôr anwyl, i'r awenydd-rho dy wen Ar dy waith ysblenydd I'w enaid bydd arweinydd A gwawl o dêg oleu dydd. Sylwa ar y ddaear, fel ei gosodir allan gan ddaearegwyr, gyda chryn lawer o fedr ac yn. awenyddol, ac yna try at hanesiaeth ysbryd- oledig, a gweithia allan drefniad y cread yn ganmoladwy iawn. Teimlwn wrth ddarllen yr awdl hon nad yw yr awdwr bob amser yn ddigon ffodus i ddewis yr ansoddeiriau mwyaf priodol, a phentyra ormod ohonynt ar draws eu gilydd mewn rhai llinellau, nes y cyll yr adranau hyny o'r eyfansoddiad lawer o'u nerth. Mae yma hefyd lawer o olion diofal- wch i'w canfod. Prawf y llinellau canlynol hyny-mewn gwallau cynghaneddol, ieith- yddol, llythyrenol, neu wall mewn synwyr:— Yn ngwisg fraf yr haf 'r ol hyn. I fwynhau hydref einioes. Rhedai air gant rhodau'r gwawl. Er i chwa fig y gauaf gwyn. Ac ha ymylent ar ffyrf cymylau. Estynant, r(A)odd&nt yn r(h)ydd. Ar bur farmorau'n her furmurant. Wych eiraol, uwch eu haur eiliau. Yn ei dwrw cyndeiriog. I'r llonydd defnydd a ddaeth. Pob gwig a'i,flwsig o fawl. Y curo, ie, 'r earn. Ac o aeddfwyn a bywiol gynheddfiad. A'r glaear daear a ddaeth. Lion o hyd llumiai hcdd (tor mesur). A'r ddaear Ddien a lygrwyd (tor mesur eto). Ond nef etifedd o'r tan. Dryw allu hydr ewyllys. A gwyliau meib goleuni. I'r fraich gadarn yn froch a godwyd. A'r adaear gron ciclirgrynwycl. Ai drwy'r byd a,dre' heb barch. Wnai hynaws esyn mewn hoenus osgo. Ger gorseddfa'r wynfa wen. Gyda meidrolion, neu gydymdreilio. Yn ufydd gan chwilydd yn chwai. Y wawdus demhestl wedyn. Delw Ion yn nghol ei bodolaeth. Dihafal hiliwyd o ddwyfol olion. Rhelyw'r byw na fa'n nhfr bedd. A'r anwir byrddir heddyw. I'r anwyl fan roer yn anreg. I'r Gwaredydd a dedwyd dant. Digofaint Duw yn gafod," &c. Gresyn fod y bardd hwn wedi esgeuluso cy- maint ar saerniiaeth ei awdl. Er hyn o wallau, mae ganddo ra.i darnau rhagorol. Llywarch Hen.-Cawsom lawer o foddhad wrth ddarllen yr awdl bert a thyner hon. Cymer yr awdwr olwg eang ar wahanol agweddau'r testyn. Mae ganddo gynllun pur gwmpasog a manwl wedi ei dynu allan, yr o, c, hwn a weithir gydag egni a bywiogrwydd neillduol gan yr awdwr. Teimlwn nad ydym yn cydredeg trwy y cyfansoddiad a bardd o arucheledd a threiddgarwch manylgraff; ond gwelwn yn ei eiddo wylder, symlrwydd, chwaeth goethedig, a llawer o brydferthwch. Rhaid ei feio yntau am ychydig ddiofalwch mewn rhai o'i linellau, megys :— Cyn rhoi pedryfan anian (gormod odlau). Hwyrach y bydd rhai o'm brodyr barddol yn annghytuuo a mi pan y dywedwyf mai Lleddf a Thalgron yw,— Dedwydd ydoedd Dofydd dan; ond felly y byddaf fi yn edrych arni. Eto :— Y rhoedd i'w hanian yr awyr deneu. Gwn mai rhoed a feddyliai'r bardd; ond rhaid i mi gymeryd y llinellau fel y maent. Rhuo'n hydrwyllt wnai'r chwyrn raiadrau. Yn dotio o gariad atynt. Heb ei gwau rhwng brigau braf. Acw ar wen cdr y wig (nid yw'r adar yn gwSnu). A ehor y wig chwareugar. Yr orwych a wenent ar ei cheinwedd. Ollynwyd allan yn lleng, o dyllau. Y llynclyn yn llawn gwenwyn a gwyniau. Yw mwynhau o wenau nen. Eurdes had, Paradwys wen. Nid yw y man wallau hyn braidd yn haeddu eu coffa mewn cymhariaeth i gorff a chyfan- waith yr awdl alluog hon. Yr ydym yn mawr edmygu tlysineb, naturioldeb, a barddoniaeth swynol yr awdwr hwn. Ifor.—Disgyna yr awdwr galluog hwn yrt ddiymdroi ar ei destyn, ac a drwy ei waith yn anrhydeddus. Mae ei gynghaneddion yn meddu llawer o newydd-deb a thlysni, ei ddrychfeddyliau yn aruchel, a nodweddir yr awdl drwyddi ag yni a bywyd barddonol. Mae ynddi rai llinellau pur aneglur, y rhai, gydag ychydig fdrafferth ychwanegol i'r awdwr, a allesid drefnu i gyflwyno eu meddwl yn fwy goleu i'r darllenydd. Nid yw yr hyn a gyfrifwn yn ddiffygiol yn saernïaeth yr awdl ond prin gwerth ei nodi. Ceir ambell linell, megys Tegwch byd dug uwchben (tor mesur). Tiroedd y deheu a'r dwyrain treiddent. Gwastadedd anherfyn 'n estyn fynent. Mwyn ag anwyl mae'n gwenu. Olion o dawch lanwai'n d6. Is y ewm oil sy'n cam wau. Goruwch ing ag erch angeu. Drwsiodd lor dros daearen. Duw Ner ddatoda anian. Daear newydd ddedwydd ddaw. Nid yw yr ychydig wallau hyn ond brychau distadl ar gyfansoddiad dysglaer ac uchel iawn ei deilyngdod yn y gystadleuaeth hon. Pererin.-Rhagora awdl Pererin ar eiddo ei bedwar cydymgeiswyr mewn llyfnder a naturioldeb darllenadwy. Ystyrir ef hefyd yn eangach ei syniadau, ac yn eymeryd golwg helaethach, llwyrach, a mwy athronyddol ar y testyn, na'r tri a nodwyd eisoes. Mae ei gynghaneddion fel pe wedi tyfu, a'i feddyliau yn goethedig, ond yn addurnedig a symledd. Cymer i mewn ddamcaniaethau hen a di- weddar o barthed ffurfiad a chyfnewidiadau ansoddol y ddaear, a rhydd i'r datguddiad dwyfol ei le priodol yn ei berthynas a dad- blygiadau gwyddoniaeth. Teimlwn nad yw wedi bod mor ofalus gydag ambell linell ag y gallasai fod. Cydnabyddwn ar yr un pryd fod rhai o'n prif feirdd yn euog o arfer yr hyn a gondemnir genym mewn rhai o'r llin- ellau canlynol ond goreu oil pa leiaf o wen- didau a geir mewn cyfansoddiad cystadleuol., yn neillduol felly ar brif destynau ein Heis- teddfodau. Nid da y canlynol :— Dy wanwyn ar ddillyn dddl. Neu wynias dan oedd i'w clirystyneiddio. j Ond gwawriodd cyfnod arall 1 Uwch ein byd, a chawn heb 6all. 'Mh.9b bre a chwm a'i breichiau hyd. Gai ei hir ysgwyd gan wewyr esgor. Rhai a. thraed danynt, ihai uthr adenydd. A chaid ar y chwecheci dydd. Os damwain hyn, rhaid synu. Eraill wed'yn Yn llawn gwenwyn (Lleddf a Thalgron). Y mynydd a wna orchymynion. Ddodant y celfydau (celfyddydau). Onid doeth? Y milyn dig. Droed dew ei phoenydd yn d\vr diffynol. Wddf hir, a greddf i'w (h)arwaill. Genir y gwyrddfrig wamvyn,-a genir GogoniaLt y flwyddyn. 0, ddillyn Wamoyn, wyt yn dihuno. Yr haf a ddaeth, a'i ryfedd-Iuniall byw Lonant bob unigedd. Y pererin —i'r prairi. Genhadon, hedd—geneuau Duw oeddynt. Lili cain yn y drain draw- Pwy gadd wisg debyg iddaw? (gwryivaidd). Droswy'n diferu mae'r swyn difyrus. Heb groes yn f' ymyl i ddwyn fy sylw. Troi yn ol o'r tir hwn wnaf. Gwelir wrth y llinellau a ddyfynwyd fod rhai ohonynt yn wallus eu cynghaneddiad, ac ereill yn cynwys dwy gydsain feddal yn ym- galedu i gyfateb mewn sain i gydsain galed. Mae cryn ddiofalwch yn y bai olaf wedi bod. Awdl gampus ydyw eiddo Pererin, er yr ychydig wendidau a nodwyd. Mae iddi enaid mawr a gogoneddus, ac nid yw y diffygion a welir ynddi ond ychydig lwch ar ei gwisg emog. Cuvier.-Mae y bardd rhagorol hwn yn dyfod i fyny yn yr ymdrechfa bresenol yn amlder ei rym." Meistr ar ei waith ydyw fel bardd, athronydd, a duwinydd. Mae ei graffder yn seraffaidd, ei feddylddrychau yn ogoneddus, a'i saerniaeth awenyddol yn meddu y eywreinder mwyaf adduruol. Mae ei awdl yn fwy eyflawn a chwmpasog nag eiddo ei gydymgeiswyr. Disgyna fel eryr ar ei ysglyfaeth, gan sugno ei holl waed ef. Blin genym fod rhai gwallau cynghaneddol wedi dianc arno yn ei gyfansoddiad rhagorol; ond pe buasai y wobr yn ugain gini a chadair aur, buasem yn ei dyfarnu yn llawen i Cuvier. Efe yw y goreu, a dyfernir gwobr a chadair yr Eisteddfod hon iddo, a hyny yn anrhydeddus.

MARWOLlET rl DEWIN CWRTY-CADNO.

DAMWAIN ALAETHUS YN MIDDLE…

OFFEIRIAD MEDDW.

[No title]

SARAH WILLIAMS, Etifeddes…

[No title]