Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
BLODWEN IN CHARACTER. FOUR GRAND PERFORMANCES Of the above Opera wfll be given at the MUSIC IIALL, SWANSEA, Monday, February 9 th. PHILHARMONIC HALL, CARDIFF, Tuesday & Wednesday, Feb. 10 & 11. VICTORIA HALL, NEWPORT, Thurs- day, February 13th. ART I S T E S- BLODWEN-LLINOS RHONDDA. LADY MAELOR -MISS LIZZIE EVANS, R.A.M., London. ELLEN-MISS H. L. HARRIES. SYK HYWEL DDU-EOS MORLAIS. ARTHUR-MR. B. THOMAS. IOLO (BARD)-MR. D. PHILLIPS. MONK-MR. E. JONES. RHYS GWYN-M-R. WM. EVANS. MESSENGERS—MESSRS. W. THOMAS J. JOHN. CHORUS-ABERDARE CHORAL UNION. CONDUCTOR-MR. REES EVANS. ACCOMPANIST—MR. A. N. JAMES, Professor of Music. ORCHESTRA—GLOUCESTER STRING BAND, Under the leadership of Mr. E. G. Woodward. To commence at 8 o'clock each evening. Doors open at 7. For further particulars see small bills and pro- grammes. Beulah, Pontnewydd, Mynwy. CYNELIR EISTEDDFOD vn y He uchod LLUN Y PASC, Mawrth 29th, 1880, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr llwyddianus mewn rhyddiaeth, barldoniaeth, a chaniaiaeth, &c. PRIF DDARN CORAWL. "Save us, Lord," o'r Congregational Anthems, No. 18, i'w cael y Tonic Solfa Agency, 8, Warwick Lane, London, E. C. gwobr, 4p. 4s., a lp. Is. i'r arweinydd. TRAETHAWD. Am y traethawd goreu ar Anrhydedd;" gwobr, 15s. BARDDONIAETH. Am y chwech penill goreu ar Danchwa Aber- carn, Medi, 1878 (wyth llinell yn mhob penill); gwobr, 10s. Ceir yr holl fanylion pellach yn y programme, pris, trwy'r Post, ltc., i'w gael gan yr Ysgrifen- ydd :— MR. ~M. HUGHES, Cloth Hall, Newbridge. 2223 Near Newport, Mon. Eisteddfod Gadeiriol Mountain Ash BYDDED hysbys y cynelir Eisteddfod Gadeir- iol Fawreadog mewn PABELL eang a chyfleus, yn y lie uchod, dydd LLrrN y SUL- GWYN, Mai 17eg, 1880. Beirniad y canu yw EOS MORLAIS. Bebniad y traethodau a'r farddoniaeth, &c., NATHAN DYFED, Merthyr. Llywydd am y dydd C. H. JAMES Ysw., Merthyr. PRIF DDARNAU CORAWL. I'r c6r, heb fod dan 80 mewn rhif, a gano yn oreu "Hallelujah Chorus" (Beethoven's Mount of Olives) gwobr, 25p., a medal aur i'r arwein- ydd, gwerth 2p. I gor perthynol i'r un gynulleidfa, dim dan 50 mewn rhif, a gano yn oreu "Molwch yr Ar- glwydd" (gan Mr. John Thomas, Llanwrtyd); gwobr, 10p., a medal arian i'r arweinydd lp. Is. I'r cor o blant a gano yn oreu Storm the fort of Sin (gan Mr. J. Samuel) gwobr, 2p. 10s., ac opera "Blodwen" wedi ei rhwymo yn hardd i'r arweinydd. BARDDONIAETH. Testyn y gadair, awdl "Y Wawr," dim dros 300 o linellau gwobr, 5p. 5s., a chadair hardd gwerth 2p. 2 p. Pryddest Goffawdwriaethol i'r diweddar Mr. Evan Griffiths, overman, Navigation Colliery; gwobr, 2p. 2s. TRAETHODAU. Am y casgliad goreu o Ddiarebion Cymraeg, yn nghyd a'r cyfieithiad goreu o'r cyfryw i'r Saesneg. Rhoddir y wobr hon gan y Llywydd, C. H. James, Ysw., Merthyr. Gwobr o 5p. Traethawd, •' Dychymyg "—Cymraeg neu Saes- meg-gwobr, 2p. 0 Am y gweddill o'r testynau, yr amodau, &c., gwel y programme, yr hwn fydd yn barod yn fuan, ac i'w gael am y pris arferol gan yr Ysgrifenydd, DAVID THOMAS, 2231 Primrose Hill, Mountain Ash. Tabernacle, Porth. CYNELIR EISTEDDFOD yn y He uchod dydd LLUN, Mai 17eg, 1880 (Gwyl y Sul- gwyn). Y PRIF DDARNAU. I'r c6r heb fod dan 60 mewn rhif, a gano yn oreu, Teyrnasoedd y ddaear gwobr, 20p. (18p. i'r c6r, a chadair hardd gwerth 2p. i'r arweinydd). I'r cor, heb f. d dan 30 mewn rhif, a gano yn oreu Mendelssohn's Hunting Song gwtbr, 3p. I'r c6r o blant, heb fod dan 30 mewn rhif, na thros 15 oed, a gano yn oreu We're marching to Zion" (o'r Sacred Songs and Solos) gwobr, lp. Am y gân oreu yn Saesonaeg, er cof am y Parch. D. Thomas (Dewi Ogwy) cyn weinidog y Tabernacle. Porth — dim dan 60 o linellau— gwobr, lp. Is. 5 Am y gweddill or testynau, yn nghyd &'r manylion a'r amodau, gwel y programmes, y rhai sydd yn awr yn barod, ac i'w cael gan yr Ysgrif- enyddion am y pris arferol—Ceiniog a Dimai. Enwau y beirniaid i ymddangos yr wythnos nesaf. MEDAD LEWIS, Ysg. Goh., Dinas, Pontypridd. REES R. PRICE, Ysgrifenydd, Primrose Cottage, Cymer, near Pontypridd. 2230 Eisteddfod Nantgaredig. CYNELIR yr uchod dydd Iau Dyrchafael— C Mai 6ed, 1880. Bydd y programmes allan yn fuan, ac i'w cael am y pris arferol gan yr Ysgrifenyddion JOHN JAMES (Felingwmiad), a WM. EVANS, Monachdy, Nantgaredig, near Carmarthen. TEMPERANCE HALL, ABERDA.RE. Under the distinguished Patronage of The Right Hon. Lord Aberdare; D. Davis, Esq., J.P., Maesyffynon James Lewis, Esq., J.P., Plasdraw; W. T. Lewis, Esq., J.P., Mardy; W. Powell, Esq., J.P., Hirwain; Rev. J. W. Wynne Jones, M. A., Vicarage Daniel Rees, Esq., Glandare D. P. Davies, Esq., Ynyslwyd; Evan Jones, Esq., Tymawr. ABRAHAM N. JAMES'S (R AM) (Professor of Music, Aberdare), ANNUAL BENEFIT d-A CONCERT, Will be held at the above Hall, ON MONDA Y EVENING, FEB. 10,1880. PRINCIPAL ARTISTES MISS LIZZIE EVANS, R.A.M., LONDON. MISS LIZZIE WILLIAMS, R.A.M., SWANSEA. MISS S. A. WILLIAMS, R.AM., Pontypridd. MISS ELEN JONES (LLINOS RIIONDDA), Rhondda Valley. MISS HANNAH L. HARRIS, ABERDARE. MR. D. HOWELLS (GWYNALAW), U.C.W- MR. DANIEL EVANS (Eos DAR). MR. WM. THOM VS (GWILYM GWENALLT). I MR. T. HO WELLS (HYWEL CYSON). CONDUCTOR—MR. REES EVANS. AccoMpANisT—M R. A. N. JAMES. ADMISSION :-First Seats, 2s. Second Seats, Is- 6d. Gallery on Platform, Is. Back Seats 6d. Doors open at 7.30, to commence at 8 pre- cisely. I Fethodistiaid YMOF YNIR am deulu bychan i fyw mewn Ty JL Capel. ar delerau esmwyth, mewn pentref cyfleus ger Caerdydd. Cyfeirier at MR. R. RICHARDS, 2232 St. Brides, Cardiff. To Chemists. WANTED, a well-educated youth as ap- TT prentice. Apply to GWILYM EVANS, F.C.S., Pharmaceutical & Analytical Chemist. 2228 Llanelly.
BWRDD Y GOLYGYDD.
BWRDD Y GOLYGYDD. Dylid anfon copïau hysbysiadau a fyddant am gael eu newid i ni erbyn dydd Sadwrn o bellaf, yn gymaint a'n bod yn gorfod myned i'r wasg lawer yn ngynt nag oeddem. GWELLIANT GWALLAU CYSODYDDOL.—Yn ein adolygiad ar "Lloffion y Beirdd" yn ein rhifyn diweddaf, diangodd y gwall a ganlyn- fod yr awen Gymreig o "ran ei hinsawdd a'i natur y peth real"; ond yn lie hyna, dar- llener o ran ei hansawdd a'i natur y peth real Yn ein herthygl arweiniol ar Rhag- olygon Masnach," yn lie dadymchweliadyn mron yn Ilwyr i'r arianol," darllener dad- ymchweliad, yn mron, yn llwyr i'r a?iianol." UN OEDD YNO (Tonypandy). — Yr ydym yn an- mhlygadwy o benderfynol i wrthod pob ysgrif o natur grwgnachlyd, yn enwedig y rhai Eisteddfodol. Barnwn eich heiddo chwi fel y cyfryw. E. D.—Edmygwn eich hymdrechion i gyfieithu, ond nis gall eich herthygl diweddaf gael cyhoeddusrwydd, oherwydd ei bod yn rhy annarllenadwy o anystwyth. Nac ildiwch. SION SANE.-Eich llith diweddaf yn rhy an- nyddorol i ddarllenwyr y GWLADGARWR. ASAPH GWENT.—Nid yw newyddiadur yn gyf- rwng priodol i drin materion eglwysig. "Ylt ORSEDD A'I HYNODION (gan Morten).— Daeth eich cynyrch i law yn rhy ddiweddar, yr wythnos hon, i gael ymddangosiad. Yr wythnos nesaf yn ddiffael. AMRYW lithiau yr wythnos hon eto yn aros am ofod. Citnt hyny mor fuan ag sydd bosibl.
Advertising
FY ARWYDDAIR PO REYDDID POB GRADD HEB NA 'Íc" LLADD NA LLID. i ifokfoprtor. ABERDAR, GWENER, CHWEF. 6, 1880.
YR AMAETHWR.
YR AMAETHWR. 0 HOLL ddosbarthiadau diwydgar y Deyrnas Gyfuilol, nid oes un yn haeddu ein hystyriaeth a'n cydymdeimlad yn fwy na'r amaethwr. Y mae ei holl lafur a'i lwyddiant yn wrthddrychau yr ansicr- wydd mwyaf. Nid yw yr hin a'r farch- nad, ddwy ar ba rai y mae llawer o'i lwyddiant yn ymddibynu, ond cyfeillion pur gyfnewidiol, yn y rhai nis gall osod fawr ymddiriad, er ei fod yn gobeithio y goreu. Y maent yn achosion ac effeith- iau nad oes ganddo ychydig neu ddim rheolaeth arnynt. Gwyddom, oddiar brofiad a sylw blynyddoedd, ei fod yn gorfod byw yn dlotach na'r rhai hyny y mae yn gorfod talu tuag atynt i'w cynal. Gorfodir ef i dalu tuag at addysg plant r, p dynion ereill, tra y mae ar yr un pryd yn methu fforddio rhoi yr addysg angen- rheidiol i blant ei hun. Y mae holl gy- nyrchion yr amaethwr wedi bod yn hynod o isel eu pris, yn neillduol felly y ilwydd- yn hon a'r ddiweddaf; ac i wneyd y drwg yn waeth, bu yr hin yn bob peth ag oedd yn annymunol, nes, rhwng afryw- iogrwydd yr hin ac iselder y farchnad, y C) mae yr amaethwr wedi cael ei wasgu i'r cyfyngderau mwyaf mewn ystyr amgylch- iadol. Ac nid ydym ni yn gallu canfod fawr rhagolwg am amseroedd gwell iddo, ac y mae yn anhawdd gwybod beth yw y feddyginaeth fwyaf effeithiol er gwellhau ei sefyllfa. Y mae yn wir fod masnach yr haiarn a'r glo yn bywiogi, ac y bydd, mewn canlyniad, werthiant rwyddach i'w gynyrchion yntau ond ni wna hyny ond ychydig tuag at godi eu prisoedd tra y peri y cydymgais Americanaidd mewn trafnidaeth y peth ag ydyw yn bresenol, ac fe bery felly hefyd, oddieithr i ryw gyfryngiad rhagluniaethol gymeryd lie nad yw mewn golwg i ni yn bresenol. Ofnwn nad yw o un dyben meddwl am i'r ddaear Brydeinig sefyll mewn cystadleu- y zn aeth a daoar fras a rhad America. Cy- nyrcha un erw o'r olaf gymaint a dwy o'r flaenaf, heblaw a bod yn rhatach o fwy f nag o'r haner. Y mae yn wir y gellid ffurfio cynllun ag a godai y prisoedd i'r 0 ZD amaethwr yn ddigon effeithiol, sef drwy osod trethoedd ddigon trymion ar a Iglud- ion Americanaidd i'r wlad hon ond beth a ddeuai o fara y gweithiwr wedi hyny?- byddai yr antidote fel hyn yn waeth na'r gwenwyn ei hun. Feallai nad yw yn bosibl llwyr wellhau sefyllfa yr amaeth- wr Prydeinig; ond er hyny, credwn ei I fod yn ddigon posibl lleddfu llawer ar ei wasgfeuon a'i feichiau. Yn y man cyn- taf, dylai y tir-arlwydd adael ei dir iddo am haner ei ardreth bresenol. Y mae y cyfnewidiadau ag sydd wedi cymeryd lie mewn masnach a thrafnidaeth, trethiad- aeth, hinsawdd, &c., yn galw yn uchel am y gyfryw ystyriaeth. Y mae llawer o'n tir-arlwyddi mwyaf ystyriol a hael- frydig wedi dychwelyd o ddeg i bump- ar-ugain y cant yn ol i'w deiliaid y flwyddyn hon, ac yr ydym yn bur sier na chollant ddim o'u gwobr; ond rhaid iddynt beidio ymatal yn eu gostyngiadau hyd oni ddeuont i lawr i'r haner. Y mae yn gymaint o gredyd i'r gwr mawr ei hun ag ydyw idd ei ddeiliaid idd eu gweled yn gallu byw ac edrych yn gysur- us. Nid yw deiliaid llymrig, .llwydaidd, a digalon, yn adlewyrchu ond ychydig o fri ar gymeriad ei feistr dylai fod budd- iant y naill yn fuddiant y llall, a chysur y naill yn gydwenedig a chysur y llall. Credwn, yn nesaf, y dylai pob arlwydd ystyried cyfleusdra ei ddeiliaid mewn pob math. o allandai pwrpasol at gadw ei anifeiliaid a'i yd, yn nghyd a gofalu fod ei dir wedi cael ei arloesiyn dda yn barod iddo. Gwyddom am lawer o weryd cryf a da, yn hollol ddiwerth a digynyrch o eisieu ei arloesi, yr hyn, pe gwnaethid iddo, a dalai ar ei ddegfed. Dylai yr holl helfilod a'r holl heladar i ag sydd yn bywiolaethu ar dyddyn yr amaethwr fod yn eiddo iddo—efe syd4 < yn eu cynal, ac efe, gan hyny, a ddylai fod eu perchenog. Nid oes dim yn fwy gwrthwyneb i gyfiawnder a rheswm na'i fod ef yn gorfod parotoi bwyd i greadur- iaid, ac edrych ar ereill yn eu bwyta yn rhad ac am ddim Yn drydydd, dylai fod ei ddeiliadaeth yn un sefydlog (fixity of tenure); heb hyn, nis gall fod gan y deiliaid un cym- hellai er gwellhau ei diroedd. Y mae ardrethiad o flwyddyn i flwyddyn yn oruchwyliaeth rhy gyfleus a hunan-fan- teisiol i arlwyddi a allant fod o daeddiad- au trachwantus a dybenion hnnan-lesiol; canys ar ol i'r deiliaid diwyd ddwyn ei dir, drwy ei arloesi a'i wrteithio, i gyflwr o ddiwylliant uchel, fel ag i allu dysgwyl 0 ZD ad-daliad oddiwrtho, bydd yn cael rhy- budd i roddi ei fferm i fyny, neu godi cryn lawer yn ei rent, ac os boddlona i dalu ychwaneg o ardreth, bydd yn cael gwneuthur hyny oblegyd y diwygiadau a'r draul yr aeth efe ei hun iddynt er ei wneuthur felly, neu ynte cymer arall hi, a cha yntau fyned lie y gallo, heb fedd- ianu ond ychydig neu ddim o ffrwyth ei lafur arni. Rhyw gyfundrefn o fath hon yw melldith yr Iwerddon anffodus drwy y blynyddoedd-nid oes yno neb yn meddwl am wella tipyn ar ansawdd ei dyddyn, canys teimlant mai gan gynted ag y byddai hyny wedi ei effeithio y byddant mewn perygl o gael ei golli, a'i hardrethu gan unrhyw un a roddai swllt yn fwy na hwy am aano ond byddai tir- afaeliad sefydlog, ac ardreth resymol, yn feddyginiaeth effeithiol rhag y drygioni ZD ZD hwn—byddai yn foddion i gynyrchu ym- ddiriedaetU yn y deiliaid, ac awydd ynddo i wellhau ei dir i'r perffeithrwydd mwyaf y medrai, canys byddai yn ym- wybodol mai iddo ei hun y byddai yn gwneuthur y daioni, ac mai efe ei hun a fyddai yn medi o ffrwyth ei lafur. Drwg-arfer arall yn mhlith arlwyddi tir ydyw myned i wario yr arian y maent yn dderbyn oddiwrth ea tiroedd i wled- ydd tramor. Y mae hyn yn ffynu i raddau gormodol yn mhlith llawer o ar- lwyddi yn Nghymru a Lloegr; ond y mae, i raddau, gwaeth fyth yn yr Iwerdd- on. Y mae y nifer fwyaf o arlwyddi yr Iwerddon yn treulio eu hamser a'u harian allan ohoni gylch-o-gylch y flwyddyn. I Pa faint o golled, tybed, yw hyn i fasnach gartrefol ? Pa faint o ganoedd o filoedd -ïe, faint o filiynau o bunoedd, ag sydd yn eiddo cyfiawn i ddaear yr Iwerddon ac i'w phlant, sydd yn myned yn y modd hwn i chwyddo cysuron dyeithriaid, tra y maent hwy eu hunain yn cael eu gadael i drengu o newyn, yr hyn a ellid ei ochel i raddau pell, pe byddai arlwyddi y tir yn ddigon gwladgarol a chydwybodol i wario eu harian ar y tir, ac yn mhlith y rhai ag sydd wedi eu gwneuthur iddynt ? Y mae yma ddeddfau moesol yn cael eu diystyru ag a fyddant, naill nou yn hwyr neu yn hwyrach, yn sicr o ddwyn eu cosbedigaethau. Y mae gan y deiliaid hefyd eu dyledswyddau i'w cyflawni, y rhai a gofnodwn yn mhen rhyw dro eto.
U Blodwen."-Special Trains!
U Blodwen.Special Trains! Da genym allu hysbysu y cyhoedd y bydd special train yn rhedeg, ar ol y cyngherdd, o Abertawe i Bort Talbot, ac yn aros yn mhob station. Yr ydym hefyd yn bwriadu caelspecial train ar y Midland Railway trwy Ystalyfera i Brynaman. Bydd tren special yn rhedeg ar Reillfordd y Taff Vale hefyd (nos Fawrth yn unig), ar ol y cyngherdd yn Nghaerdydd, i Bontypridd, gan alw yn mhob station. Go- beithio y bydd i'r cyhoedd gymeryd mantais o'r cyfleusderau hyn, ac y bydd iddynt ddyfod wrth y miloedd i weled Blodwen in character. D. P. DAVIES, Ysg.
[No title]
Cieieedisra&etSa, Ionawr 30ain, priod Mr. William Jones check-weigher, Llettyshenkin, Cwmbach, ar fab, bu farw y plentyn ar y diwrnod y cafodd ei eni, ond y mae y fam yn dyfod yn y blaen yn rliagorol. Rhagfyr lleg, yn Carson City, Nevada, America, Margaret Detro. Rhoddodd ened- igaeth i ferch tua dau fis yn ol, ac ni fll yn iach iawn oddiar hyny. Tua dwy wythnos cyn ei marwolaeth, cafodd y typhoid fever, ac er pob peth a allesid ei wneyd iddi, marw a wnaeth, gan adael teulu galarus ar ei hoi. Claddwyd hi ar y 13eg, pan y gweinyddwyd gan y Parchn. A. ,B. Johns, a D. R. Jones. Merch ydoedd i Mary a David Isaac Jones, o Twyn-y-rodyn, Merthyr Tydfil. Rhagfyr 22ain, 1879, yn 95 mlwydd oed, Thomas Edwards, ger y Babell, sir Fynwy. Bu yn aelod eglwysig am dros 70 o flynyddoedd. Claddwyd ef Dydd Nadolig, pryd y daeth tyrfa luosog yn nghyd a chyn osod ei weddillion marwol yn y beddrod, awd 3,'i gorff i gapel Ty Newydd, pryd y pregethodd y Parch. Daniel Jenkins. Hefyd, bu farw ei frawd. Isaac Edwards, Tredegar, yn mhen 20 awr wedi hyny, yn 85 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor eglwysig am 50 mlynedd a chladdwyd e: tranoeth i'r Nadolig. ilf. E. Ionawr 23ain, yn 60 mlwydd oed, Mrs. Sarah Morris, Duke-street, Aberdar, gweddw y di- weddar Mr. David Morris, plumber. Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o dref Caerfyrddin. Dyoddefodd ei chystudd am fisoodd yn dawel. Gadawodd chwech o blant i alaru eu colled am fam dyner a gofalus. Perchid hi gan bawb a'i hadwaenai. Claddwyd hi y dydd Mawrth can- lynol yn Cemetery Aberdar, pryd y gweinydd- wyd ar yr achlysur gan y Parch. Dr. Price, Calfaria (B. )-D. D. Ionawr 23ain, yn 80 mlwydd oed, Mr. David Williams, Bridgend Inn, Birchgrove, Llansam- let. Claddwyd ef y dydd Ian canlynol, yn mynwent Llangatwg. Gweinyddwyd wrth y ty gan y Parchn. T. H. Jones, Llansamlet, ac Evan Jenkins, Bethel. Cafodd gladdedigaeth barchus.
Eisteddfod Gadeiriol Pontypridd.
Eisteddfod Gadeiriol Pontypridd. CYNELIR YR AIL EISTEDDFOD FLYN- YDDOL ar DDYDD MAWRTH Y SULGWYN, 1880. Cadeirydd .-—GWILYM WILLIAMS, Ysw., Miskin Manor. AriveinyddLLEW LLWYFO. Beirniaid LLEW LLWYFO ac Eos MORLAIS. PRIF DESTYNAU I'r cor, dim dan 50 mewn rhif, a gano yn oreu Teyrnasoedd y ddaear," gwobr 20p., h.y.. 17p. i'r cdr, 2p. i'r arweinydd, a lp. i'r soloist goreu. I'r cor plant a gano yn oreu There's a light in the valley (Sankey a Moody), gwobr dau gini, a baton i'r arweinydd. Am yr Awdl oreu ar Yr Enaid," dim dros 500 o linellau, gwobr pum' gini, a chadair fudd ugol yr Eisteddfod gwerth dau gini. Am y traethawd goreu yn y Gymraeg neu y Saesonaeg, "HawIiau Cymru i addysg uwch- raddol," gwobr tri gini a medal arian. I'r Drum & Fife Band a cbwareuo yn oreu tair alaw Gymreig (dewisedig gan y Pwyllgor, ac i'w gweled ar y programme) gwobr, 3p. 3s. Am y Glee goreu (yr awdwr i ddewis y geiriau); gwobr, Ip. Is. Rhoddir gwobrau pwysig hefyd i'r ymgeiswyr llwyddianus fel telynwyr, perdonegwyr, areith- wyr, adroddwyr, llawysgrifeuwyr, &c. Bydd y programmes yn barod ar fyr, ac i'w cael am ltc. gan yr Ysgrifenydd. 2 CYNELIR CYNGHERDD ARDDERCHOG YN YR HWYR. D. LEYSHON, Cadeirydd. JOSEPH DAVIES, YSfj., Graig Board Schools, 2237 Pontypridd.
Eisteddfod Gadeiriol Penarth.
Eisteddfod Gadeiriol Penarth. BYDDED hysbys y cynelir EISTEDDFOD FAWREDDOG yn y lie uchod DYDD MERCHEK, MEHEFIN y 23ain, 1880, pryd y gwobr- wyir yr ymgeiswyr llwyddianus mewn rhydaiaeth, barddoniaeth, caniadaeth, &c TE3TYNAU: I'r cor, heb fod dan 80 mewn rhif, a gano yn oreu "Teyrnasoedd y Ddaear;" gwobr, £ 20, a medal aur i'r Arweinydd. I'r cor, heb fod dan 40 mewn rhif, a gano yn oreu "Lead On" (Judas Maccabccus); gwobr, £10. Am y bryddest oreu, heb fod dros 600 o linellau, ar "Gobaith;" gwobr, e4, a Chadair dderw. Am y traethawd goreu ar Y Wasg Gymraeg a'i gwendidau, yn nghyd a'r modd effeithiolaf i'w diwygio gwobr, £22s. Am y gweddill o'r testynau, yr amodau, &c., gwel y programme—yr hwn fydd yn barod yn fuan, ac i'w gael am y pris arferol gan yr Ysgrifenydd, E. T. HOWELLS, 26, Glebe-street, 2236 Penarth, Cardiff.
- IQUIIIlfJ BIsTSRS"L'iJJ.'O!..D.,,-'.&.',",
I QUIIIlfJ BIsTSRS- L'iJ J. 'O! ..D. .& GWILYM EVANS. Y mae hwn yn gymy>g gelfyddydgar a ffodus dro3 ben. Cvnwyaa QUININE. SARSAPAR- ILLA, SAFFRON, LAVENDER, DANDE- LION, GENTIAN, a BURDOCK, sef yr holl o'r darpariaolau a nodasom, yn y fath gymodedd, fel ag i SitT' au cydweitbrediad llwyddianus yr HOLL 0 ELF SNAIT GWEITHGAB y cyffeirian, er cyr- haedd a diogelu v dybenion daionus mewn golwg wrth ei gyfan^orhli Cyfaddefir gan brif feddygon y dydd fod QUININE BITTEiiS Mr. Gwilym Evans y cydgymysgiad mwyaf liapus ag sydd hyd yma, wedi ei wneyd o'r cyffeiriau uchod. AMCANION. Amcan mawr y BITTERS hyn yw go?od mewn trefn brif ffyDnuellan (fel pe tae) peirianwaith y corff, a symud i ffwrdd y gwahanol achosion, y rhai a gynyrchant effeitiiiau poenus yn y cvfan- soddiad. EU GWEITHRE DIAD. Y maent yn cynor-hwyo traul vr ymborth, yn gwellilu a hwy!us<> y oylch'rediad, yn cryfhau" y giau a'r cyhyr tu. ac vn puro a.1fn0>itM-mi y gwaed. Y mae y cym\ ssrlvn hwn yn gryfbair cyifredinolj yn lanhaydd effeithiol. > ertlia v rhanau eiddil yn y cyfansoddiad, ac onerwvdVl hynv y rhai mwyaf agored i a", WydOll a'u canlyaiadau. Y maent yn adnerthu ac yn ndf. wiocau y cyfan- soddiad a'r tymerau ac ar gyfrif hyny y maent wedi enill iddvnt ei hunain y gvineradwyaeth uchelaf ar gyfer pob math o wendidau, a sefyllfa isel, nychlyu, a marwaidd y corff. Y DOLURIAU. Mewn trefn i fod yn eglur ac mor ddealladwy ag y gallwn i'n miloedd dariieuwyr, gosodwn o'u blaen ddosraniad cryno <->'r doluriau ag y mae QUININE BITTERS MR. GWILnr EVANFI yn hynod o gyfaddas ar eu cyfer, megys. ANHWi LDE UAU GIEUOG :-Nervous Diseases. Dychlamiadau y galon, cryniadau, rhediad y gwaed i'w wyneb a'r p-?n, annhreuliad gleuog, poen yn yr oclir aswy, i-elder vsbryd, pryderion, lle-^ygon, pall yn y cof, yn nghyd a phoenau yn y gïn,u yn gyffredin. Cynhyrfir rhai personau gan y swn' leiaf, a dygwyddiarhu f-ydyn bycliain annysgwyliadwy, tra y mae eraill yn dye. ymygu eu bod yn euog o ryw weithredoedd drwg anfaddeuol, neu eu bod bob_ dydd yn agored i wneyd hyny, eraill a dybiant fod pawb yn ridig wrthynt, ac vn dychymygu pethau gwrthun iawn. Y mae rhai cyn hyn Wr-di credu eu bod wedi marw, ac eraill a heriant fod pry fed gwenwyn-g a chreaduriaid aflan yn magu o'u mewn, &c. Y mae yr oil o'r pethau hyn a'u cyffelyb yn codi oddiar sefyllfa y giau ( nerves) yn y cyfansoddiad. I wella ansawdd y g'iau yn y cyfansoddiad, ac i darfu y lledriehod dychymygol hvn o'r meddwl ni cbeir dim yn rhagorach na QUININE BITTERS MR. GwiLTM EvANS. ANNHREULIAD. Y mae hwn yn dad i lawer o anhwylderau blin a phoenus, yn dangos eu hunain mewn amryw ffurfiau,— peswch sych, pen clafaidd, arogl an- hyfryd ar yr anadl, tafod bi wnt, bias chwerw vn y genau, llosg cylla, dwfr ]>oet h, cramp noenau yn yr ystumog. gwyntogrwydd, pall yn'y^olws- mynych och neidi.>, teimlad «»lawnder a ?was"fa ar ol prydiau bwpl, marweidd dra, a phoenau hedegog o gvvmpas y salon, yn nghyd fi lluaws o deimladau poenus eraill o r un nodwedd. Achos uniongyrchol y pethau hyn i gyd yw sefyIIfa. afreolaidd y evil a i ..ymud ymaith vr annhrefn hwn, ac i adn<jwvddu nerth a hwvlusdod y peirian- au treuliol y mae Physigwyr enwog wedi profi v QUIMINE BITTEHS yn feddyginiaeth lwyddianus^ ar 01 i bob diiipaTiJictli arall fethu yn eu (iwylaw CLEF YD 4U Y DDWYFRON. Y mae y rhai hyn ar y cyfan yn rhai peryglus a goreu po gyntaf i arfer moddion addas i'w symud—anwydon cynredin. bronehitus, movant peswch boer, crygni, poeri gwaed, vn nghyd â. p.'wb tueddiad etifcddol i'r darfodeddmeth. Tuag at yr anhwylderau peryghis hyn, a'u cyrndeithion, y mae effeithiau daionus diamheuol y OuiNnra BITTERS gan Mr. GWILVM EVANS yn cael eu cv- faddef a'u gwershfawrogi gan bawb sydd wedi eu profi RHAGORIAETH QUININE BITTERS. Physigwriaeth lysieuol hollol yw Bitters Mr. Gwilym Evans, yn cynwys elfenau gweithgar y llysiau a gydnabyddir yn gyffredin. y mwyafrhin- weddol. Ni all neb ag sydd wedi cael mantais i broil eu rhinwedd beidio eu cymeradwyo • ac yn wir, peth hollol annheg a'r cyhoedd fydda'i peidio dwyn tystiolaeth gyiioeddus o'r daioni a dderbyn- iwyd trwyddynt ac o dan ba amgvlchiadau Dylai y darllenydd gofio, bob amser, ei bod YB anmchonadwy l osod yr holl gylfeiriau ag sydd yn y meddyglyn hwn mewn PILLS, heblaw fod dar- pariaethau Uysieuol yn fwy rhinweddol mewn GWLYBWR nag mewn PILLS. Y mae llawer o'r PILLS yn gelyd ac yn niweidio cylla gwan. Nid ydyw y Quir.ine Bitters yn achosi un an- ghyfleusdra wrth eu cymeryd. Geliir dilyn yr al- wedigaeth lei arfer, heb fod yn agored i anwyd a l ganlyniad.,u, ond yn hytrach y mae yn diogelu rhag anwyd, trwy nerthu rhanau gweimon y corff yn hwylusi y didoliadau, ac yn awohu y cylla. at fwyd, yr hyn a nertha i weithio yn well Gall plant o bob oedran ei gvmeryd trwv srvfar I J fjf Jn/>1 iyr5 °ed- Y mae h^fyd yn iSfduS 1 a gWragedd ar brydiau Os bydd y claf yn ewyllysio cymeryd Cod Liver ?fudgd Kymery yn 7 Bitters hyn' ?y<ia mwy Gofaled Pawb am Hyn. Gan fod amrywiol ddarpariadau o QUININE i'w cael, megis Tincture of Quinine, Qu-inine Wine, Quinine AFixture, tCc., <Lc., y mae ymofvnwvr am QUININE BITTERS Mr. GwUym Evans c^l eu a dSwilVdd yn 7117 m°dd mWyaf dideimlad Wrth geisio hwn gan yr Apothecari, nid digon yw gofyn iddo fel hyn, Potelaid o Bitters," neu Potelaid o Quinine bitters," nac ychwaith, '• Y Quinine yna." OND, gofaler i ofyn am ''QUI- NINE BITTERS Mr. GWILYM EVANS," ac os na fydd yr enw Mr. GWILYM EVANS, F. C. S..MPS wedi ei yspifenu ar Stamp y Llywodraeth ar bob'potel, twyll a ffugiad ydynt, Pris y Potelaujyw 2^ 9c. a 4s. 6c., mewn blychau 12s, 6c. yr un. o„SfnWySf ^otelau 4s- Cc- ddau cymaint a rhai 2s. Jc., ac felly y gall y prynwr arbed swllt wrfli gymeryd y rhai mwyaf. r AC FEL HYN HEFYD :-Nid yw y perchen- og yn proffesu y gwnant weithredu yn uvrthio) ar neb, neu y gwna y dogn cyntaf "gyfnewid neu y symudir poen mewn deg mynyd nao 4 bydd un boteliad yn llwyr iachau," Id Ond y gwnant trwy ymbrawf teg a pharhaus o'r Uysiau a nodwyd, ddangos ei dylanwad daionus, os c4ier lr hwynt mewn pryd. y ^fynon yw o saith ffynonell, Oiglwy a wna glaf yn well. 163