Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

Y BARDD.

News
Cite
Share

Y BARDD. LLITH XXVIII. Dilynwch odlau Anian Am y bo modd yn mhob man. "Barddas" Eben Fardd. DYWEDASOJI yn ein llith diweddaf fod y bardd Cymreig yn angerddol lythyrengar. Y mae hyn i'w ganfod yn ei gyfundraeth farddonol, yn enwedig yn ei fesurau caethion. Y mae ei barch i drefniant llythyrenau i'w weled yn- ddynt. Y mae wedi dwyn hyn i gryn ber- ffeithrwydd, ac y maeyn fynych yn ymffrostio yn ei ddeheurwydd i ddysgyblu cydseiniaid i ufuddhau i reolau ag sydd yn anhysbys i ieithoedd ereill. Y mae ieithoadd ereill wedi ymgynyg at gynghanedd, ac y mae yn ddi- amheu y llwyddasai rhai pe y gwelent fod lies yn hyny. Ceir amryw benillioa yn yr Eidal- aeg gan hen feirdd yn arddangos llawer o fedrusrwydd mewn llythyreniad; ond ym- ddangosai yr arfer i'r meddwl Italaidd, er a, chwaeth at gerddoriaeth llythyrenau, yn rhy lafurus ac annaturiol. Gobeithiwn nad oes eisieu i ni ddwyn gerbron ein darllenydd brofion fod edmygedd y Cymro o gleciadau llythyrenol yn codi oddiar arwynebrwydd meddwl, yn hytrach nag ansawdd gerddorol ei galon. Yr ydym yn argyhoeddedig fod cryn dlodi meddylgarwch yn wir achos a chy- nyrchydd arferiadau llenyddol mor arwynebol ac annaturiol. Y mae y diffyg hwn i'w weled yn ymddygiad y meddwl barddol o becthynas i bwysfawredd, gwirionedd, natur, a gwasan- aethgarwch iaith ac ymadrodd. Y mae ym- adrodd rhydd a dirwystr yn gwasanaethu meddwl yn effeithiolach na phan ei gosodir i droi, a throi eto, a phlyga i'r rheol hon, a thalu gwarogaeth i ddeddf fympwyol arall. Natnrioldeb iaith yn cael ei chyfarfod amryw weithiau yn yr unrhyw linell a gwrthwyneb- iadau celfyddyd diangenrhaid, y mae yn engraifft o gelfyddyd yn ymhoni yn ngwyneb natur, ac yn dwyn ei gosodiadau hi i flino a chyndynu yn erbyn ei mawrfrydigrwydd a'i gogoniant. Cyfenwasom hynyma yn an- gelfyddyd ac nis meiddiwn, gan ein parch i natur, gydnabod fod hawl gan feddwl ychwan- egu at angemheidiau naturiol a gweddus ym- adrodd. Cof gan lawer am bwyllgor o feirdd wedi ei gydgynull yn Mhonfcypridd ychydig yn ol i ystyried cyflyrau presenol y Gwant a'r Rhagwant," ac i edrych a allesid dyfod i'r penderfyniad i osod deddf dynach i reoli y cyfryw. Y pwne dirfawr i fod o dan sylw ydoedd, a fuasai yn ddichonadwy i orfodi y Gwant a'r Rhagwant i ufuddhau i ddeddf gadarnach a disyflach Yn eithaf dichon- adwy Ond beth fuasai resolution o'r fath yn ngwyneb angenrheidiau deddf bwysig ac an- nhreisiadwy llafar 1 Pa feddwl a pha galon ffyddlon i Natur fuasai am enyd yn rhoddi clust o ymwrandawiad i benderfyniad dirmyg- edig pwyllgor yn cymeryd arno mor ymer- odrol ? Nid cyfarfod er hyrwyddo llafar, ond er dinystrio rhyddid ymadrodd. Amlwg yw i bob un sylwgar mai nid hawliau iaith a meddwl, h.y., eu hawliau hanfodol, yw pync- hu ystyriaeth y beirdd, ond eyfundraethau annghysylltiedig a meddyliaeth a dysgeid- iaeth. Felly, y cyntaf a'r pwysicaf beth yn marn y bardd yw cynghanedd ac odl, ac wedi hyny meddwl. Bydd trefn a thaclusrwydd y geiriau a'r llythyrenau, lawer pryd, yn ber- ffaith, pan y mae y meddwl yn druenus ddir- droedig! Ceir passages cyfain naill ai yn niwlog ac anneongliadwy, neu gyffredin a sathredig ond os bydd y cynghaneddion yn gywir, ebargofir yr oil, ac ystyrir yr oil yn gampwaith. Ffaith amlwg ac anwadadwy yw mai llythyreniaeth yw prif safon barddoniaeth y Cymry, a hyn yn unig fedr roddi cyfrif am dlodi, anfeddylgarwch, a diffyg greddfau dyfn- ion ac athrongar y dosbarth barddol. Nid mynych y ceir y bardd Cymreig yn barddoni ar ddyrys bynciau, neu gyfrin ddirgelion meddwl a theimlad. Nid mynych y trinia amlwg deimladau y galon-ymwybyddiaethau cynefin. Ei hyfrydwch yw desgrifio ffurf- iau ac ymddangosiadau, nid pethau megys ag y maent, ond megys ag y maent yn gyfleus i'w ddychymyg glafychus ef ei hun. Yr ydym yn ami yn cenfigenu wrth eu dawn i gynyrchu. Waeth beth fyddo'r te3tyn, y mae ganddynt fyrdd o linellau yn barod ar amnaid i garlamu arno yn rhedegfa swnfawr, megys twrf traed coed ar balmant Mor gleberlawn a disyn- wyr I arddangos mai saerniaeth yw bardd- oniaetli yn mhlith ein beirdd, nid oes eisieu ond adgoffa mai yn y Gymraeg yn unig y ceir geiriaduron odlyddol a chynghaneddol, a mynych iawn y ceir engreifftiau eglurhaol yn- ddynt yn gyfansoddcdig o linellau perffaith o ran gosodiad geiriau, ond difater o briodoldeb syniadaeth. Arweinir y dysgybl i ddirgelion y gelf o farddoni drwy lawer o gywreinrwydd ieithyddol, yn ogystal a digon o ddisynwyr- deb, ac anweddusrwydd meddyliaeth. Pa fodd nas gallesid defnyddio ymarferiadau synwyrol 1 Paham na chedwir meddwl ac iaith yn anwahanadwy gysylltiedig ? Felly y cynefinir y meddwl ieuanc a'r ymarfer o gynghaneddu ac odli ya berffaith, heb dalu sylw o gwbl i syniadaeth hyd y ceir ymadrodd yn gywir o ran trefniant geiriau. Mynych y gwelir ymgeisiadau beirdd ieuainc at gyfan- soddi awdiau yn llawn ymdrechion i gydym- ffurfio a rheolau y masurau, ac i raddau yn llwyddianlls, tra y bydd y meddylddrychau a drych anolygus o annaturiol arnynt Bydd y pryder am ymberffeithio yn y saernïaeth, a gadewir y meddylddrychau i achub eu byw- ydau fel y gallont! Y mae ol y ddysgyblaeth hon ar feddyliau ein beirdd mwyaf ac ami y ceir bardd o gryn fri yn taclu ymadroddion yn ol ei hen arfer bachgenaidd, heb gymaint a chraffu fod a fyno cywirdeb syniadaeth a'r drafodaeth o gwbl. Cof genym am un o'n beirdd galluocaf ar warthaf cynghanedd, yn arfer cyfnewid llinellau beirdd ieuainc (i'w perffeithio) i ffurf gywirach, ond hollol ddi- synwyr. Onid yw yr hawsder gyda pha un y medr cynghanedd foddhau ei hun, pan yn annghofus o briodolder, yn peryglu gogoniant barddoniaeth 1 Onid yw yn gyffredin ddy- gwyddiad, sef ymadrodd natur yn annghy- modlawn ag ymadrodd cynghanedd? Onid yw angenrheidiau natur a gwirionedd yn pro- testio yn erbyn trais-hawliau y mesurau caethion ? A gauir allan eiriau cymhwy-;ach i ddatgan am nad ydynt yn meddu llythyrenan gofynol cynghanedd '? A yw cynghanedd yn ffafrio ac awdurdodi geiriau ar gyfrif eu bod yn feddianol ar gydseiniaid enwedig yn unig ? Y mae y ddysgyblaeth farddol yn datgysylltu iaith a meddwl, fel yr awgrymasom o'r blaen ond, a yw barddolrwydd yn tueddu i gadw y ddau ar wahan gan ddiystyru hawliau y naill a'r llall. CATO.

,Glofeydd yr Ocean a'r Sliding…

Ymgom rhyngwyf a Modryb Catws…

Llith o Ddyfed.

[No title]

---'.-.----Tori Amod Priodas…

Y Sliding Scale.

[No title]