Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

GWEN OR FELIN,

News
Cite
Share

GWEN OR FELIN, Neu Y Golledig wedi ei chael." NOFEL FUDDUfiOL EISTEDDFOD GENEDLAETHOL DEHETTDIR CYMRTJ, ,1879. t PENOD YIII. Ie, Owen ydoedd; ond nid y. bugail tlawd mwyach. Yr oedd Llywodraethwr tref Caernarfon, a'r Offeiriad Jones, Llan- llyfni, yn nghyd a deuddeg o filwyr arfog gydag ef. A ydwyf yn rhy ddiweddar ? Nid yw geiriau ofnadwy yr Eglwys wedi eu dweyd, a ydynt ?" "Na, ra Owen anwyl, yr ydych wedi fy ngwaredu." I- Buaswn yn ol yn gynt oni buasai i mi fod yn claddu fy nbad, ac wed'yn i Due Richmond i alw am danaf mewn cysyllt- iad a'i ymdrech i enill yr orsedd--ei gyf- iawn iddo. Yn awr, yr wyf am i chwi sydd yma yn wyddfodol wrando, a bod yn dystion o'r hyn sydd genyf i'w draethu a'i ddarilen i'ch clywedigaeth. Gwyddoch yn dda am yr amser terfjsglyd ac ymladdgar, ddeunaw mlynedd yn ol, a fu arein gwlad; gwyddoch hefyd nad oedd na gwreng na bonedd yn ddiogel—hwy na'u meddianau. Gwyddoch am waith annghyfiawn Risiart y Trydydd yn trawsfeddianu yr orsedd, a thrwy hyny, fod rhyfel curtrefol anochel- adwy yn cynhyrfu pob cwr o'r deyrnas; ac heblaw hyny, gwvddech hefyd ein bod nioau fel cenedl o Gymry yn un berw o derfysg, ac nad oedd na bywyd na medd- iant neb yn ddiberygl Yn awr, yn un o'r terfysgcedd hyn, tuag ugain mlynedd yn ol, gorfu i bendefig o'r Deheubarth, o'r enw Syr Morgan ap Rhys o Gastell Tir- cosdplantmeibionrhys, ffoi o'i balas. Prin y cafodd bamdden i lwytho dau geffyl ag Jiur iac arian, yn nghyd a chist o emau y teulu o werth dirfawr, gyda'i wraig a'i blentyn bach. Cymerodd ei ffoedigaeth yn y nos ond yr oedd y gelynion mor dyn ar jei sodlau, fel y gorfu iddo adael yr aur a'r gist, emau a'r plentyn, yn ngofal melin- ydd o'r enw Marks Felon, yn sir Faesyfed. Wedi i'r boneddwr gael papyr o dan law y melinydd, ac wedi ei arwyddnodi gan ddau dyst fod y melinydd wedi Ilawnodi y papyr, fod y trysorau a'r plentyn yn ei fedliant, cychwynodd i'w daith i ymguddio rhag y gelynion. Trodd y melinydd yma allan yn ddyn dr-wg; oblegyd pan aeth y boneddwr o Gastell Tircoed, yn mhen dau fis wedi i'r gelynion gael eu trechu, i chwilio am dano er cymeryd y trysorau a'r plentyn, nis gallai dd'od o hyd iddo yn unman, ac ni -wyddai neb i ba le yr aeth. Buwyd yn chwilio llawer am y melinydd, a chynyg iwydarian lawer am dd'od o hyd iddo; ond y ewbl yn ofer. Cafwyd hanes gan- gymydogion y melinydd i'w wraig a'i gwas—y ddau dyst yn nghylch y trysorau, &c—farw'n ddisymwth, a hyny yn mhen wythnos cyn iddo ef fyn'd i ffwrdd, neu yn hytrach ar goll. Bu rhywraj yn ceisio darbwyllo Syr Morgan i gredu fod llaw gan fy nhad yn ffoedigaeth y melinydd a'r trysorau anmhrisiadwy. Dywedid hyn am .fod.rhyw anrighydwelediad rhwng fy nhad a'r boneddwr o'r Castell wedi cymeryd lie yn nghylch tiroedd. Un tro, dywedodd Due Richmond ei fod yncredu iddo weled y ferch fach, sef y plentyn colledig, yn Nyffryn Narstlle, ynDhy. melinydd o'r enw Trefor Williams-fod yr eneth yr un fath yn hollol a theulu Tircoed-yr un ddelw a'i thad. Yr oeddwn i wedi tynu darliin ohoni yn fy meddwl er's llawer dydd, ac wedi hoffii y darlup, ac mi a benderfynais fynu d'od o hyd iddi; ac os cawn hi yn debyg i'r darlun a dynais ohoni yn fy meddwl, mai hi fyddai fy ngwraig. Yn awr, Marks Felon, mae prawf genyf mai y ferch hon—Gwen—ydyw plentyn colledig Syr Morgan, ac mai chwi yw y melinydd hwnw a ladratodd hi, yn nghyd a'r aur a'r gist emau ac mai nid Trefor Williams, eithr Marks Felon yw eich henw iawn. A welwch chwi y dangosiad hwn a roddasoch chwi i dad yr eneth yma, wedi ei arwydd- nodi a'ch llaw eich hun ?" Nis gallai wadu hyny. Yn awr, Marks Felon, pa le y mae y gemau a'r aur, &c ?" Mor wir a bod Duw yn y nefoedd, nis gwn pa le y maent, oblegyd fe'u lladrat- wyd oddiarnaf oil er's Ilawer dydd bellach. Dyna'r gwir bob gair,. neu mi a ddymunwn I'm dau lygad syrthio o'm pen y mynud >> yma Tewch ddyn a chymeryd enw Duw yn ofer. Yr wyf yn darllen eich bwriad melldigedig cyn marw eich gwraig a'ch gwas. Nid holaf chwr pa fodd y daethant hwy i'w diwedd. Yr wyf ar ddweyd dir- gelwch i chwi—dirgelwch a syna dipyn arnoch. Da genyf ddeall wrth eich henw inai nid Cymro o waed ydych, eithr estron -wedi dysgu ein hiaith ydYGh. Chwi: a ellwch agor eich llygaid! ond arosweh i chwi gael clywed y newydd, a chwi £ |'u hagorwch yn llydanach. Dyma y newydd, gwrandewch :—Y mae yr aur, a'r perlau, a'r dalaith—y trysorau oil mewn ystafell ^uddiedig yn y ty hwn. Bum i a Gwen, neu Morfydd a ddylaswn ddweyd, a Mari yn yr ystafell." f;, Ar hyn, syr^iodd Tr(for yn ol ar ei gefn ar fainc] ojedd yp ymyl, fel pe wediiei daro. ell ten, ac ybo y bu am beth amser yn Viindagu, fel pe buasai mewn llewyg; ac o'r diwedd, chwarddodd fel y chwardda ynfyd. Yr oedd ei synwyr yn dechreu ymddyrysu. Nid awn i ddringo trwy dyllau y tro hwn i'r ystafell gudd ond ni a dynwn i lawr y wal yn y drws a adeiladasoch chwi, Marks Felon, a'eh dwylaw eich hun, ae a gymerwn y trysor i ffwrdd—y mae wedi bod yma yn ddigon hir bellach. Y ferell hon a gadwasoch chwi mewn caethiwed, a'i bygwth i orfbd priodi y lleban mab a fedd- wch, sydd un o'r etifeddesau cyfoethocaf a mwyaf anrhydoddus yn Ngtymru—Mor-, fydd—etifeddpg yatad Tircoed; a myfi ydyw Syr Owen ap Gwilym ap Thomas o Bias Maesydderwen, sir Gaerfyrddin." Buan ar ol hyn, cafwyd y melinydd yn gorwedd ar draeth Llyn Nantlle fel wedi boddi, a'u ddau lygad wedi eu tyllu allan o'i ben yn ol ei ddymuniad ofnadwy. Gwerthodd Sam y Felin; a'r hanes di- weddaf a glywyd am dano oedd ei fod yn gwydryn meddw o ardal i erdal yn sir Gaernarfon. Aeth Mari i ffwrdd yn ol i'r De grdag Owen a Gwen. Yn mhen rhyw gymaint o amser wedi hyn, yr ydym yn cael Owen y bugail a Gwen wedi priodi, ac yn byw yn Mhalas Maesydderwen, yn sir Gaerfyrddin. Un person pwysig yn eu priodas oedd Due Richmond (wedi hyny brenin Lloegr, Henry YII.) Felly, Gwen a drodd allan i fod yn neb llai na Morfydd, aeres gyfoethog Tircoed, ac Owen y bugail yn neb llai, wedi hvny, na'r enwog Syr Owen ap Gwilym o Bias Maesydderwen. DIWEDD.

Eisteddfod Cymreigyddion Dyffryn…

'\.l x Masnaeh yr Haiarn a'r…

Llofruddiaeth Erchyll Merch…