Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

TAITH 0 LUNDAIN I FFRAINC.:

News
Cite
Share

TAITH 0 LUNDAIN I FFRAINC. GAN LLWYDWEDD, LLUNDAIN. Y MAE pobl Ffrainc yn llawer iawn mwy parchus i'w meirw nag ydym ni yn Lloegr. Ydwyf wedi gweled amryw angladdau yn myned drwy'r heolydd, yn Paris a manau ereill, ac wedi sylwi gyda boddhad ar y parch a ddangosid i'r marw gan y bobl. Codai pawb o'r gwrywod, yn wreng a boneddig, eu lietiau yn barchus tra yr elai yr elor-gerbyd heibio. Y tuae hyn yn arferiad cyffredin, y mae'n debyg, drwy'r holl wlad. Tra yn sefyll yn y Place du Louvre y dydd o'r blaen, daeth angladd heibio. Y mae cab-stand yn y lie hwn. Darfu i bob un o'r cabbies, fel pawb -ereill, godi eu hetiau yn barchus. Nis gall- aswn ar y pryd lai na chymharu eu hymddyg- iadau a'r hyn a fuasai eiddo eu brodyr o'r un alwedigaeth yn Llundain ar gyffelyb achlysur. Yn Llundain, ni fuasai yn beth rhyfedd yn y byd i glywed un cabby, mewn too ac agwedd gellweirus, yn gwaeddu ar un arall, a hyny feallai yn nghlyw perthynasau galarus yr ym- adawedig, I say, Bill Another excursion to Gravesend, eh Ydwyf fy hunan, pan yn myned a|r beri [bus, wedi clywed yr ym- -adrodd annynol hyna yn cael ei ddweyd, a hyny mwy "nag unwaith pan elai angladd heibio. Y mae parch maw: y rfrancwyr i w meirw i'w ganfod hefyd yn arnlwg yn eu mynwent- ydd. Y mae yn bleser i rodio drwy fynwent Ffrengig, oblegyd y mae mor drefnus, addurnol, a phrydferth. Y mae yn bictiwr o -dlysni. Ac y mae yr immortelles a'r creiriau sydd ar y beddau hefyd yn siarad yn .groew am serch a pliarcli y by\v tuag at y marw. Y mae beddau y babanod yn nodedig o ddydd- orol. Arnynt" gwelir, heblaw immortelles, y teganau a pha rai yr arferai y babanod ymad- awedig a difyru eu hunain pan yn, fyw. Kensal Green, Llundain: Aruo's Vale, Bryste a Myuwent Egiwys y Sketty, ger Abertawe, ydynt yr unig fynwentydd yn ein gwlad ni, ag y gwn i am danynt, sydd yn deil w ng i'w cymharu a'r rhai ydwyf wedi eu gweled yn ngwahanol fanau yn Ffrainc. B&m heddyw yn ymweled a chladdfa enwog Pere la Chaise. Y mae y He hwn yn sefyll ychydig y tuallan i'r ddinas, o du'r gogledd- ddwyrain iddi, ac yn nghyinydogaeth Belle- Tille-Yillette,1 a Montmartre. Dyma brif gladdfa Paris. Y mae yn eang annghyffredin -yn cynwys 200 erw o dir. Y mae y Ile wecli ei osod allan yn hynod drefnns, ac wedi ei addurno a dros 15>000.o gofgolofnau, a Iluaws o'r rhai hyny yn weithiau celfyddydol o'r teil- yngdod uwchaf. Ni ddylai neb a ymwelent a Paris esg6\iluSo roddi tro drwy Pore la Chaise nid yn unig fir gyfrif harddweh an- nghymharol y gladdfa enfawr, etihr hefyd er mwyn cael golwg ar feddau, a thalu teyrnged o barch i goffadwriaeth y meirw mawrion a hunant vno. Ynla. v gorphwys weddillion marwol lluaws sydd a'u henwau mewn bri mawr yn mhob gwlad wareiddiedig. Yma y gorwedd y cefddorion anfarwol Chopin, Chorubini, Bellini, Rossini, a Auber. Y mae beddau y tri blaenaf yn yrnyl eu gilydd. Cof- adeiladau pur gyflVedin sydd i'r tri, ac ym- ddangosant yn fwy felly rnewn cyferbyiiiad 4Jr cofadeiladau mawrion a gogoneddussydd o'u hamgylch. Y maent hefyd mewn Cyflwr gresynus. Y mae eiddo Chopin wedi ei anafu yn druenua. Mwy na thebyg i hwn gael ei niweidio yn amser y gwrthryfel wyth mlynedd yn ol, pan gafodd y lie ei dan-belefii, er gyru allan y gwrthryfelwyr oeddynt wedi cymeryd meddiant ohono. Y mae cofadail Cherubini yn waeth fyth. Er nad oes ond 38 mlynedd .er pan fu Cherubini farw, y mae y certiun o gerub sydd uwchben ei fedd wedi malurio gymaint, ac yn edrych mor afTuniaidd, nes y mae yn anhawdd ei wneyd allan. Y mae y gareg yn nÙ. annghyffredin o feddal. Ni wnaethumond braidd cyffwrdd a'r cerflun, a syrthiodd darn cymaint a'm Haw ohono ym- Aith, a drylliodd yn ddarnau wrth ddisgyn ar y llawr. Y mae cofgolofn Bellini hefyd mewn ,cyflwr llawn mor wael. Y mae hon wedi ei llwyr orchuddio ag ysgrifeniadau mewnpencil gan ymwelwyr. Yr oeddwn yn dysgwyl gweled eu beddau wedi eu gorchuddio ag im- mortelles. fel ag y gwelir y ihari fwyaf o'r ,beddau o bwys yn y gladdfa ond nid oes cymaint ag un ar un ohonynt. Rhyfeddais yn fawr am hyn. Ond er nad yw eu cofad- .-eiladau yn ojrwych, nac wedi eu haddurno ag immortelles, eto, diau y bydd coffadwriaeth -Chopin, Cherubini, a Bellini, yn wyrdd, a'li henwau mewn parch a bri, pan y bydd y cof- adeiladau gogoneddnsaf yn Pere la Chaise wedi malurio yn llwch, ac enwau y rhai a gofnodant wedi myned mor ddison am danynt a phe na fuaient erioed wedi bocloli. Y, mae beddau Rossini, ac Auber yn agos gyferbyn .a'u gilydd, yn yr Avenue ardderchog sydd yn arwain i fyriy- o brif borth y gladdfa. Y mae ganddynt hwy gofadeiladau heirdd dros ben, ac y mae arnynt luaws o immortelles prydferth a drudfawr. Yma y gorwedd Count Beaumarchais(awdwr Barber of Seville "), Lebrun, Plekel. Vol- ney, La Fontaine, Casimir Perier, Thiers, a lluaws ereill o gelfyddydwyr, athronyddwyr, y llenorion, a gwleiuyddwyr bydenwog. Cof- golofn y gwleidyddwr Casimir Perier yw yr ardderchocaf o'r cwbl a welais yno. Chapelet syml a chymharol fychau sydd uwchben bedd M. Thiers oud y mae o'i fewn bentwyo im- mortelles, ac y mae y tuallan wedi ei orchudd- io ag ai"ysgmeniadau mewn amryw ieithoedd gan ymwehvyr o wahanol wiedydd. Nod- wedd neillduol yn y gladdfa. yw y chapelets crybwylledi'g. ,Y tuac'11 wedi eu hadeiladu yn rhestrau°o 'bob' tu i'r heolvdd, yn uijiou.yr I I un fath ag ystrydoedd mewn tref. Y mae Thai ohonynt'gymainfc'•& llawer capel.gwledigv ac y maent wedi en haddwrno oddifewn ac -od.diallan yn ysbtenydd. (Wrymlv g wed diau arbenig ynddynt yn achlysu-t'ul.ai. ran eneidiau yr ymadawedig. Tra y bu Pere la Chaise yn meddiant y Communistiaid, defnyddiasant y capelydd bychain hyn fel anneddau. Yn y gladdfa hon hefyd y gorwedd Murat, 0 Marshals Clarke. Gourgaad, Gobert, Grochy, Ney, ac ereill o enwogion milwrol Ffrainc. Bum gryn amser cyn dyfod o hyd i feddrod Marshal' Ney ac yti wir, ni faaswnwedi dyfod o hyd iddo eto, am a. wn i, oni buasai i hen dorwr beddau fod mor garedig a dyfod i'w ddangos i mi. Yr oeddwn i yn chwilib am dano yn mhlith y cofgolofnau mwyaf a harddaf yn y gladdfa; ond cawn mai eiddo rhyw bendefigion dinod, neu ryw fasnachwyr cyfoethog, na fuant, hwyrach, yn adnabyddus ond i ychydig y tu allan i gylch eu perthyn- asau, eu cwsmeriaid, a'u coelwyr, oeddynt gan fwyaf. Na, beddau y sawl a ,synasant y byd a'u hathrylith a'u dewrder dihafal, aca adawsant fwyaf o'u dylanwad ar ol ynddo, ydynt y distawaf a mwyaf dirodres yn nghladdfa Pere la Chaise. fel mewn llawer claddfa arall. Ni fagodd Ffrainc erioed rag- orach na dewrach milwr na Marshal Ney, eto, nid yw wedi rhyngu bodd iddi osod cof- adail o fath yn y byd ar ei fedd Y mae perth fechan o fythwvrddion yn amgylchu ei feddrod, ac ar un pen iddo y mae haiarn- glwyd fechan. Ar y lech, ar ba un y mae y glwyd-hon wedi ei sicrhati, y mae yn gerfied.. ig, a Ney." Y mae y Uythyrenau wedi agos eu treulio ymaith. Dyna'r cwbl a ddynoda "—— fan fechan ei fedd Ond y mae cofgolofn ardderchog wedi ei cliodi iddo yn ymyl Palas y Luxembourg, yn y ddinas. 0 fewn tua 30 llath i feddrod Marshal Ney, ac ar yr heol sydd yn troi i fyny ar y law ddeheu oddiwrtho, y mae bedd genethieuanc o JGyrnru. Merch ydoedd, yn ddiamheu, i ryw foneddwr arianog, obiegyd y mae ganddi gofadail tlws iawn o fynor gwyn. A ganlyn yw yr arysgrifen amp-;—" To the memory of Sarah Emma Wilcox, of the Parish of Kerry, Montgomery, North Wales. Died October 20th, 1826. Aged 15 years.

Cymg-Siorion i'r ©awl a fliiiir…

COLEG Y GWEITHIWR.

[No title]

B-R YTIIONFR YjV A G UR NOS.

"LLITH O'R POBDY."