Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
LLALWFER (Pitman).
LLALWFER (Pitman). AGORIR YSGOL NOS yn Aberdar mewn -L-IL ychydig ddyddiau, Lan Phonographer ar- tiystiedig. Am delerau, ymofyner a. J. RICHARDS, Blaellgwawr Colliery Office, 2222 Aberdare.
BWRDD Y GOLYGYDD.
BWRDD Y GOLYGYDD. Dylid an/on content hysbysiadau a fyddant am gael eu nevoid i ni erbyn dydd Sadwrn o bellaf, yn gymaint a'n bod yn gorfod myned %r wang lawer yn ngynt nag oeddem. DERBYNIWYD, yr wythnos hon, ysgrifau oddiwrth Eos Hafod a I lew Nedd, ac eiddo Catws o'r North, yn nghyd a. lluaws o lithiau dyddorol ereill, pau rai a fethasant gael yrrddangosiad yn ein rhiiyn presenol oherwydd diffyg gofod.
SYMUDIAD EISTEDDFOD GADEIRIOL…
SYMUDIAD EISTEDDFOD GADEIRIOL DEHEUDIR OYMRTJ. Y MAE gan bob golygydd, yn rhinwedd a rhyddid ei swydd, hawl i feirniadu pob materion a symudiadau cyhoeddus, gan nad o ba natur bynag y byddont, tra yr ymgadwo oddiwrth ymyryd a chymeriad- au moesol y pleidiau dyddoredig ynddynt. Ac nid perthyn i olygyddion yn unig y mae y rhagorfraint hon, eithr i bawb fel eu gilydd, cyn gynted ag yr elo unrhyw fater yn eiddo cylioedd us. Yr oedd genym ni hawl deublyg in beirniadaeth ar gyf- lawniadau pwyllgor Caerdydd; yn gyntaf, fel aelod, ac yn ail, fel golygydd. Ond gwyr pawb fed gwaith golygydd yn ei gysylltiad a beirniadaeth gyhoeddus yn un cynil ac anbawdd i'w gyflawni heb fyned ar draws teimlad rhyw gyfaill self- interested neu gilydd; ond er hyny, dyled- swydd pob golygydd a phob beirniad yw sefyll at hawliau cyfiawnder ac argy- lioeddiadau cydwybod ei hun, gan nad pwy a ddyoddefo oherwydd hyny. Dyn heb fod yn berchen fawr rhyddfrydig- rwydd calon na mawrfrydigrwydd ysbryd, yw hwnw a dramgwyddo wrth farn onest dyn arall, am ei bod yn taro yn erbyn ei deimlad personol ef; dyn bychan yn mhob ystyr ydyw, ac un nad yw ei gyfeillgar- wch na'i gymdeithas yn werth canwyll frwynen. lJarfu in erthygl duiweddar ar y testyn uchod gynhyrfu tipyn ar sensibilities y brodyr diniwaid hyny ag oedd a Haw yn symudiad yr Eisteddfod i Abertawe, heb fod genym ni yr amcan lleiaf tuag at hyny wrth ysgrifenu, ac nis gwyddem ni ar y pryd yn y byd pwy oeddent ychwaeth; gan hyny, nis gallasai fod genym gyfeir- iad personol at neb fwy na'u gilydd. Ni ysgrifenasom ychwaeth gyda'r bwriad lleiaf o niweidio achos yr Eisteddfod, eithr yn gwbl ft-l arall. Ein hunig amcan oedd rhag-rbybuddio y pwyllgor rhag cymeryd, fel ag yr ymddangosai i ni ar y pryd, y false step o symud yr Eisteddfod o fan ag yr oedd ei llwyddiant yn sicr, i fan ag oedd ei llwyddiant yn ddigon amheus ac os oeddem fel hyn yn tybied ein bod yn canfod perygl o'r tu blaen, onid ein dyledswydd, fel y morwr gwyl- iadwrus, oedd gwaeddi allan, "Rock ahead ? Nid oedd genym ni ddim yn erbyn Abertawe fel lie ynddo ei hun, eithr fel lie i gynal Eisteddfod yn unig. Y mae Abertawe, o ran ei sefyllfa ddaear- yddol, a'i olygfeydd parthleol, mor bryd- ferth a dymunol ag unrhyw le yn Neheu- olir Cymru, ac ni fyddai unrhyw fwynhad tymorol yn fwy hyfryd genym ni na chael rhoddi gwibdaith i Abertawe ganol yr haf nesaf, pan fydd anian wedi ymwisgo yn ei llawn ogoniant, a'i phrydferthwch yn tywallt nefoedd ar ein teimladau, a dwyfoldeb ar ein serchiadau a gobeith- iwn y eawn fyw hyd hyny, fel ag i wneuthur un o'r units hyny ag a fydd yn gwneuthur i fyny y gynulleidfa Eistedd- fodol fawr hono ag sydd yn heigio megys yn narfelydd ffydd a gobaith y pwyllgor yn awr. Yr ydym ni, rhaid i ni gyf- addef, drwy symud yr Eisteddfod fel hyn, yn colli ein dyddordeb Ileol ynddi yn llwyr; ond y mae ein dyddordeb cenedlaethol ynddi yn para yr un, ac yn yr ystyr hwnw dymunem iddi bob llwydd- iant. Fel ag yr awgrymasom yn y dechreu, .y nid oedd ynom ni y bwriad lleiaf i daflu sarhad ar unrhyw aelod o'r pwyllgor—nid oeddem ni erioed wedi cael un achos i wneyd hyn. Y mae yr aelodau, y rhan fwyaf ohonynt, yn rhai ag y mae genym barch calon iddynt, tra y mae rhai ohon- ynt, ar gyfrif eu gwybodaeth eang, eu synwyr naturiol cryf, eu barn gywir ac addfed, uniondeb eu hegwyddorion, eu gallu a'u cymhwysder i droi mewn cylch- oedd o bwys, yn nghyd a'u sefyllfa barchus mewn cymdeithas, wedi cael, er's btynyddoedd bellach, y lie uwchaf yn ein barn a'n syniad. Y maent yn addurn a chaffaeliad mawr i bwyllgor Caerdydd, a da fyddai pe gwypai y pwyllgor hwnw y ffordd i'w gwerthfawrogi. Mae yn debyg mae y frawddeg anffodus a roddodd y tramgwydd mwyaf i'r brodyr oedd hono lIe y cyhuddir "rwyllgorau," nid pwyll- gor Caerdydd yn fwy na phwyllgor Pont- ypridd, lie yr ydym yn aelod ynddo yn awr, 'nac yn fwy nag ugeiniau o bwyll- gorau ag yr ydym wedi bod ynddynt yn ystocl ein einioes; ond pob pwyllgorau yn gyffredinol-le, dywedasom fod mewn rhai pwyllgorau ddynion "yn amddifad hyd yn nod o common sense." Wel, pe bnasai y brodyr hyn wedi chwlio dros- tynt eu hunain, neu ofyn i arall beth a feddylid wrth, neu beth yw gwir ystyr common sense, cawsant ddeall mai nid yr ystyr a roddant hwy ar y werin yn gyff- redinol iddo ydyw. Common sense yw y synwyr mwyaf defnyddiol, trefniadol, a chelfyddydgar o bob synwyr; gall dyn fod yn meddu ddysgeidiaeth uchel ac athrylith gyfoethog, ac eto fod yn am- ddif iawn o'r peth a elwir yn common sense. Yr ydym ni yn ofni am danom ein hunan, ein bod yn ddigon diffygiol o'r synwyr hwn mewn cysylltiad 4 llawer o bethau, a'r teimlad neu yr ymwybodolrwydd o hyn a barodd i ni ymddiosg- o'r gadair is- 0 0 lywyddol, er mwyn gosod un arall o'i mewn ag oedd yn llawer cymhwysach na ni i'w llenwi; ac y mae yn wir ddrwg genym na buasai y boneddwr gwir deil- wng hwnw yn ei meddianu y fynud hon. Aid rhyw symlyn, ifw lcyn, catffwl, neu ddyn haner maes o'i go' a fedd- ylir wrth ddyn diffygiol mewn common sense. Mae yn wir mai rhywbeth tebyg i byna yw yr ystyr a roddir iddo gan y werin ond nid geiriadur y werin yw ein geiriadur ni. Ystyr glasurol a gwir ystyr dyn diffygiol mewn common sense yw dyn diffygiol mewn doethineb ymarferol, sef y dyn hwnw sydd dipyn yn brin o'r cyflymder dirnadaeth, neu o'r foresight hwnw sydd yn rhagweled a rhagochelyd anffawd ac aflwyddiant, ac yn meddu gallu i gynllunio a threfnu pethau yn y fath fodd fel ag i sicrhau y canlyniadau goreu. Nid tomfoolery, imbecility, idiotcy, nac insanity yw bod yn fyr o common sense, eithr graddau o ddylni ar y meddwl —o niwl ar yr amgyffredion, neu ddiffyg bod a llygad digon clir i gaiifod y llwybr mwyaf direct a sier i gyrhaedd yr amcan- ion a fyddo mewn golwg, neu i drefnu achosion fel y byddo yr effeithiau oddi- wrthynt y rhai mwyaf dymunol. Cymer- ed y pwyllgor y frawddeg yn yr ystyr ag y mae wedi ei defnmo uchod, ac yna, ni fydd lawer o achos iddynt dramgwyddo. n y Ac yn wir, ni feddyliasom ni gymhwyso y frawddeg hon atynt ond mewn cysyllt- iad &'r pwnc o symud yr Eisteddfod yn unig canys gwyddem pe gwnaethem fel arall, y buasai yn gam dybryd a'r rhan fwyaf ohonynt. Y mae yn mhlith y pwyllgor wahanol gymeriadau—rhai yn amaethwyr cyfrifol, ereill -yn gretftwyr medrus, ereill yn fasnachwyr anrhydedd- us, ereill yn contractors llwyddianns, &c., yn berchenogion y common sense cryfaf, oblegyd mae y drefn a'r llwyddiant gyda pha rai y maent yn cario eu gwahanol alwedigaethau yn mlaen yn profi hyny uwchlaw pob amaeuaeth ond gwyddis eto fod llawer o ddynion. ag ydynt yn fedrus rhyfeddol gyda u galwe ligaethau neillduol hwy eu hunain, pan yn dyfod i gyffyrddiad a phwnc neu fater nad ydynt erioed wedi cael y fantais i fyfyrio ond ychydig uwch ei ben, nac wedi cael nemawr ddim profiad arno, y maent, meddaf, yn agored i wneyd llawer iawn o amryfusedd. Rhywbeth tebyg i hyn ZD oedd yn ymddangos i ni allasai fod wedi dylanwadu symudiad yr Eisteddfod i Gaerdydd ond os canlyniad edrychiad i mewn i wahanol gysylltiadau y pwnc ydoedd, symuder hi ar bob cyfrif. Ond yn gyffredin, rhesymeg "codi llaw" sydd yn penderfynu pwnc, ac nid casgl- C) iadau barn bwyllog meddwl prohadol. Gwyddom fod y dull hwn o benderfynu I mater yr un arferol a rheolaidd; ond gall, ar yr un pryd, fod yn un cyfeil- iornus, gan y gall y mwyafrif pleidleisiol fod heb ganfod na deall y pwnc yn ei wahanol gysylltiadau, nac wedi treio edrych iddo am fynud, nac wedi clywed neb arall yn ei ddosranu a'i egluro—cy- merant y peth ar antur ei fod yn iawn, am eu bod yn gweled rhywun, nou ryw- rai ereill yn gogwyddo y ffordd hono. Nid ydym ni hyd y fynud hon yn gallu canfod fod common sense cryf wedi bod yn gweithredu mewn symudiad Eisteddfod i fan pellenig i chwilio am lwyddiant iddi, tra yr oedd y llwyddiant hwnw i'w gael hyd fwy na digqn yn yr ymyl! Ai ym- ofyn am fwy o lwyddiant nag a gafwyd yn Nghaerdydd yr ydys, ynte gweled gormod yno a wnaed, ac edrych am lai mewn man arall ? Dygwyd llawer o gyhuddiadau yn ein herbyn, megys ein bod am ddrygu yr Eis- teddfod, pan mewn gwirionedd mai ofni, yr oeddem ni fod ei bywyd mewn chwar- eu. Byddai yr un peth dywedyd fod y baban am ffraeo bron ei fam, a dywed- yd ein bod ninau am ffraeo a'r Eistedd- fod. Nid oes neb yn fwy o ffrynd i'r Eisteddfod, i'w iaith, ei wlad, a'i genedl, na'r ysgrifenydd hwn. C)
EISTEDDFOD LEOL PONTYPRIDD.
EISTEDDFOD LEOL PONTYPRIDD. YR ydym yn mawr lawenhau wrth weled yr Eisteddfod hon yn casglu nerth. Nis geill ei llwyddiant hi fod yn un rhwystr i lwyddiant Eisteddfod Abertawe, nac Eisteddfod Abertawe fod yn un rhwystr i'w llwyddiant hithau. Y mae y pwyll- gor wedi penclerfynu i'w Heisteddfod i fod un flynyddol ac un-lleol. Cynaliasant hi y llynedd, a chawsant nawddogaeth dda gan drigolion Pontypridd yn gyffred- inol ac y maent yn bwriadu ei chynal eleni yn yr un lie, ac nid oes dadl na ystyria y boblogaeth hyny fel compliment iddynt am y nawddogaeth a roesant iddi y llynedd, ac y bydd iddynt, oblegyd hyny, estyn helaethach rymhorth iddi y flwyddyn hon. Y mae y pwyllgor yri rhifo o'r pymtheg i'r ugain, ac yn ychwan- egu yn ei rif bob eyfarfod, ac y maent yn bobl gyfrifol oil. Y mae yn eu plith, o leiaf, bump o feirdd, a phump o gerdd- orion, a rhai llenorion gwych. Mae eu Ilywydd y right man in the right place, ac felly mae yr ysgrifenydd hefyd. Yr ydym yn llongyfarch y pwyllgor yn eu t,Y detholiad o ys grifenydd y mae o ran ei ymddygiadau yn fonedclwr, ac o ran ei addysg yn gyflawn. Y mae yn gwybod y ddwy iaith yn dda, ac yn un ag a wyr y ffordd i ysgrifenu at fawrion y tir, a thrwy ei ymddygiad, i ddylanwadu arnynt. Yr un yw trysorydd Eisteddfod Pontypridd a'r Eisteddfod Genedlaethol, ac nid oes eisieu sicrach. Y mae Ponty- pridd yn ganolbwynt i ardaloedd poblog iawn, ac wedi ei hamgylchynu gan feirdd, llenorion, a chorau; a'r cyfleusderau i ddyfod iddi yn bob peth ag a ellid ddy- muno. Y mae ychydig arian yn y banc er llynedd, ac y mae y tanysgrifiadau yn dylifo i mewn eleni yn gyflym, fel rhwng pob peth, y dysgwyliwn Eisteddfod ar- dderchog a thra ragorol. Felly y byddo medd pob gwir wladgarwr.
Eisteddfod Abertawe a Rhys…
Eisteddfod Abertawe a Rhys T. Williams. YR ydym yn methu a deall bebh allasai fod yn eiti herthygl hono ar symudiad yr Eisteddfod o Gaerdydd i Abertawe ag oedd yn galw atn y fath tirade oddiwrth yr ysgrifenydd short.wjhted uchod. Y mae yn syn genym feddwl fod neb wedi gallu bod yn ddigon dw/nwyr i ysgrifenu y fath ysgrif, nad yw yn dda i ddim ond i ddnngos pwy a pheth yw ei hawdwr. Mae'r tipyn goleuni prudd-dywyll ag sydd yn ei ysgrif yn debyg iawn i oleuni'r lloer, yn gwasanaethu i ddangos y brychau sydd ar ei wyneb ei hun yn fwy nag ar wyneb neb arall. Ond y mae yn weil genym dosturio na digio wrth ei fath ef. Nis gall efe 'mo'r help i ddim ag y mae yn ei ddywedyd, na braidd dim ag y mae yn ei wneyd, canys y mae ei wendidau a'i ffaeleddau ef, gan nad faint na pheth ydynt, wedi cael eu geni gydag ef. Yr ydym yn rliwym o'i longyfarch fel un o'r artkts mwyaf rhagorol i dynu photographic likeness o fredych a ffol-geni. Dywedodd un o'r pwyllgor wrtho er's tipyn yn ol yn Mhontfaen mai "padi" ydoedd ie, ac yn ol barn llawer un, rhywbeth gwaeth na llawer "padi," canys nis gallwn gredu am bob padi," os yw yn wenieithiwr, ei fod yn rhagrithiwr a bradwr hefyd. Nid yw datr/uddhor cyfrvnach, na chyhoeddwr cynwys- iad confidential letters, yn haeddu gwell enw na bradwr, ac y mae yn un ag y dylai pawb fod ar ei wyliadwriaeth rhagddo, canys yr un peth a wna efe o bawb fel eu gilydd, gynted fyth y croesant y tipyn lleiaf ar ei farn a'i deimlad ef. Da nad oedd dim o bwys gan y gwr ymddiriedus hwn i'w ddatguddio, onide buasai wedi cael dod i'r golwg, serch i hyny fod yn fater tori gwddf i arall. Os oedd awdwr yr erthygl hono yn camsynied yn ei farn a'i olygiadau o barth symudiad yr Eisteddfod i Abertawe, onid dyledswydd y brawd hwn oedd dyfod & rhesymau yn mlaen i brofi yn wahanol, ac nid myned i ddifrio a cheisio niweidio arall am ddatgan ei farn onest ar beth nad oedd ganddo ddim ond ei les a'i lwyddiant mewn golwg ? Dywed yn ei ysgrif ein bod wedi llefaru fel ag y gwnaethom oherwydd rhyw "siom" ag oeddem wedi gael yn rhywle. Atolwg, pa siom oedd hono ? Os cawsom ein siomi yn rhywle, yn ei ymddygiad diegwyddor ef y cawsom hyny, pan y cododd ei law yn y pwyllgor yn erbyn i'r rhai hyny ag oeddynt yn dyfod iddo o bell i gael eu digolledu o dreuliau eu tren, a hwythau ychydig cyn hyny wedi pleidleisio gydag ef ar iddo gael 40p. a'i dreuliau am ei lafur fel ysgrif- enydd yr Eisteddfod. Yr oedd hyna yn siom, ac yn siom ag y dylai pob dyn call, cyfiawn, ac sgwyddorol beidio byth a bod yn euog o'i hachosi. Nid arwydd o gyfiawnder na brawd- garwch mawr mewn unrhyw gymdeithas yw fod rhai o'r aelodau yn cael eu gwobrwyo yn helaeth am ychydig lafur, ac ereill yn methu cael eu treuliau cyfiawn ag oedd wedi gwneuthur llawn cymaint neu fwy nag un ohonynt. Gallwn dystio am danom ein hunain i ni ysgrifenu mwy mewn cysylltiad a'r Eisteddfod, mewn ffordd o erthyglau arweiniol, charge y bardd cadeiriol, &c., na holl waith yr ysgrifenydd gyda'i gilydd, a dyma y dyn, wedi iddo gael ei dalu mor hand- some am ei waith, oedd yn gallu bod a'r pres- wynebedd i wrthwynebu aelodau pell y pwyllgor i gael treuliau eu tren—dyna 'gyd oeddynt yn geisio, ond nacawyd hyny I It came with a very bad gracefrom you, Sir, but quite consistent with the man. Gyda chael ysgrifenydd yn ddyn gweithgar, mae yn rhaid ei gael yn foneddwr hefyd, yn ddyn honourable, ac nid -se{/- interested gyda phob peth,—yn ddyn meistrolyar yn y ddwy iaith, ac yn un a fedro gyf&rch gwyr mawrion, drwy lythyr neu lafar, mewn dull priodol a theilwng. Dywed yr ysgrifenydd iddo gael derbyniad gwresog iawn yn Abertawe, pan y bu i lawr yno ar ei neges bwyllgorawl. Wei, nid yw hyny ond y peth ag y dylai dyn ariauog, dylqnwad- ol. ac enwog" fel efe ei gael, canys gellir meddwl fod llawer o hyn, yn nghyd a dysgeidiaeth uehel a chymhwysderau mawrion ereill, wedi deilliaw o le mor fanteisiol a coal-weighing office Treher- bert Cynghor i'r brawd hwn wrth dewi. Byddwch ddiymyrgar, tawedog, a goddefol yn eich swydd, a cheisiwch wneyd eich hun yn deilwng ohoni, mewn dysgeidiaeth, boneddigeiddrwydd, amoes. Yn ail, peidiwch a dangos eich hunan yn llai na dyn, ac yn annheilwng o ymddiriedaeth o neb drwy eich breach of confidence, rhag i chwi dynu eich hun i'r fagl; canys y mae mwy a phwysic- aeh cyfrinachau i'w datguddio am danoch chwi na dim ag sydd wedi cael ei ddatguddio hyd eto; ond er mwyn eich bar a a 'haws chwi a daioni yr Eisteddfod, nyni a'ch arbedwn y tro hwn. AR YR UN PWNC. Fy ANWYL BENTCERDD (er hyny),-Daeth yr eiddoch i'm Haw neithiwr. Blinodd fi pan ddar- llenais, a mynais y Darian heddyw. Chwith, a chwith iawn genyf ensyniadau cas a chableddus R. T. Williams arnoch, yn enwedig danodiacth llythyrau cyfrinachol. Nis gallaf, yn fy myw bach i, edrych dros na difeio dyn a ddatguddio gyfrinach, pa un (orea modd) nad oedd o ddim pwys, namyn teimlad person ar y pryd, agored i gyfnewidiad achlysurol. Peidiwch petruso, y mae'r byd llcnyddol yn gwybod am, ac yn mawrygu galluoedd a chydwybodolrwydd y Bardd Gwyn yn rhy dda, er's llawer blwydd- yn bellach, i sarhad un o'i fath ef effeithio arno mwy na "phigiad draen ar gorff Erclwff." Er hyny, y mae ymddvgiad o'r fath yn tueddu i boeni'r meddwl, a dylai ei ynfydrwydd gael ei gyhwfanu ger gwydd gwlad a gorwlad, mewn iaith digon eglur lym, iddo deimlo atgasrwydd difaddeu ynddo ato ei hunan am ei ymddygiad. CYFAILL.
Marwolaeth ar y Mynydd ger…
Marwolaeth ar y Mynydd ger Aberhonddu. Cafwyd corff hen wr o'r enw Watkin Wat- kins ar y mynydd, yr ochr hyn i Aberhonddu. Yr oedd wedi bod yn Workhouse Aberhonddu am dymor, ac ar ei llbrdd tua Hirwain, lie yr ydym yn deall fod rhai o'i berthynasau yn byw. Cafwyd ef ychydig o'r ffordd ar go diad tir, fel pe bai wedi syrthio ar ei ochr, a'i het ychydig bellder oddiwrtho, a'i ffon dan ei ben. Ar y trengholiad, barnodd y rheithwyr iddo farw o achosion naturiol.
My tlaiast 6»ont Tay.
My tlaiast 6»ont Tay. Y mae y suddwyr wrth eu gwaith yn mron bob dydd yn chwilio gwaelod yr afon am y cyril, a chafwyd tri i fyny dydd Sa.dwrn di- weddaf. Fe gafwyd hefyd cvercoat dydd Gwener diweddaf, yr hon a adnabyddwyd fel yn perthyn i Mr. Beynon, Fine Art publish- er, Cheltenham, yr hwn a gyhoeddodd lun Caradog, a liun swyddogion Undeb Corawl Deheudir Cymru. Dycld Sul diweddaf, yr oedd saith o angladdau, ac un yn cael ei gladdu gydag anrhydedd milwrol.
Family Notices
^enedigraeth. Ionawr 9fed, 1S80, priod Mr. W. T. Williams, Coedsaeson, Llansamlet, ar ferch. Gelwir ei henw yn Jane. iTga-rwoSaetftiau, Ionawr 12fed, ar ol hir gystudd, Mr. John Williams, Wind-street, Aberdar (gynt o Hir- wain), yn 71 mlwydd oed. Ionawr 12fed, Mrs. Davies, gweddw y di- weddar Mr. Morgan Davies, Wellington-street, Merthyr, yn 63 mlwydd oed. Rhagfyr 4ydd, 1879, 'yn Lawrenceville, Penn- sylvania, Mr. Thos. Evans, neu fel y gelwir ef yn yr hen wlad "Twin Enoch y Moulder," yn 65 mlwydd oed. Bu yn dost am tua blwyddyn oclcliwrth y pneumonia, yr hwn a achosodd ei farwolaeth. Genedigol oedd o Benyard, Peny- darren, Merthyr, ond yn Nantyglo treuliodd dyddiau ei ieuenotyd. Aeth oddiyno i Dredegar, a phriododd yno, a dygodd i fyny saith o blant. Ymfndodd i'r Amerig tua naw mlynedd yn ol, a sefydlasant yn Pittsburgh. Gadawodd weddw a saith o blant—oil wedi tyfu i'w maint. Claddwyd ef dydd Sul canlynol, pan ddaeth torf barchus yn nghyd.—OY Wasg. Tachwedd 16, 1879, yn West Austintown, Ohio, yn dra disymwyth, John R. Davies, yn 53 mlwydd oed. Yr oedd yn ei waith dydd Sadwrn fel arfcr; ac wedi dyfod allan yn yr hwyr aeth am dro i weled ei gyfeillion, fel y byddai weithiau yn gwneyd ac yn ol yr hanes, cymerodd dri gwydriad o gwrw, ac fe ddaeth adref tua 10 o'r gloch y nos, heb ond ychydig o ddylanwad y pethau meddwol arno. Bu ef ac un o'i gymydogion yn ymddyddan am beth am- ser yn ei dy ei hun, ac yr oedd yn ymddangcs yn iach ac yn ddymunol; ond am bump o'r gloch yn y borer, achwynai wrth ei briod fod dolur annyoddefol yn ei ben, a thyna y gair olaf o'i eiddo. Yn mhen awr tynodd ei anadl olaf, heb amlygu dim o'i deimlad i'w briod na neb arall. Barnwyd mai marw mewn llewyg a wnaeth; felly y mae y gair yn wir mai "yn nghanol ein bywyd yr ydym mewn angau." Dyma wer3 ddiftifol eto i'w gyfeillion a gydfwynallt yr un pethau ag ef, fod yn llawn bryd iddynt adael eu ffyrdd a dychwelyd at yr Arglwydd. Gadawodd Mr Davies wraig a thair o ferched yn amddifad o'u tad, ac yn agored i bob ystorm-ac eithrio un, yr hon sydd yn briod. Genedigol ydoedd o Cefncoedcymer, ger Merthyr Tydtil. Enw ei dad ydoedd Richard Davies, neu fel yn fwyaf adnabyddud Richard Dickus. Daeth i'r wlad hon tua deg mlynedd yn ol, gan dreulio ychydig dros flwyddyn yn Thomastown, Ohio, o'r hwn le y daeth yma. Claddwyd ef dranoeth yn ymyl ei wraig gyntaf, pryd y daeth torf fawr o bob cenedl i dalu y gymwynas olaf iddo, ao y pregethodd y Parch. Mr. James (B.), o Weath- ers ville, yn hynod effeithiol ac addawol iawn. Yr Arglwydd fyddo yn Briod i'r weddw ac yn Dad i'r amddifad, a nerth a gaffont i ymddiried yn yr Arglwydd.—O'r Drych.
QUININ.B BITTSS'I' GWILYM…
QUININ.B BITTSS'I' GWILYM EVANS. Y mas hwn yn gymy.-cr gelfvddydgar a ffodus dros ben. C QUININE, SAitSAPAR- 1LLA, SAFFRON. LAVENDER. DANDE- LION, GENTIAN, a BURDOCK, sef yr holl e'r darparbdau a, nodasom, yu y fath gymodedd, fel ag i sur* au cvdweithrecliad Uwyddianus yr HOLL o ELFFNAU GWKITHGAR y cyffoiriau, er cyr- haedd a diogeiu v dybeniou daiollus mewn g-olwg wrth ei gyfansoddi f !yf:vddefir gan brif ieddyg-on y dydd fod QUININE BITTERS Mr. Gwllym Evans y cyrlgymysgiad mwyaf hapus ag sydd hyd yma wedi ei wneyd o'r cyfleiriau uchod. AMCANION. Amcan mawr y BITTERS hyn yw go^od mewn trefn brif ffYIJ0nei!;w (fel pe ta,) poirictnwaith y C'»rff, a symud i ffwrdd v gwahanol achosion, y rhai a gynyrchant effeithiau poenus yn y cvfan- soddiad. EU GWEITHREDIAD. Y maent yn cynorthwyo traul yr ymborth, yn gv/ellau a hwyiuso y cylchredhd, yn cryihau y giau a'r cyhyrs.u, ac yn puro a ffrwythlmi y gwaed. Y mae y cyrnysarlyn hwn yn gryfbair cyifredinol, yn lanhiiydd effeithiol. Nertha v rhaiiau eiddii yn y cyfanwoddiad, ac oherwvdd hyny y rhai mwyaf agored i ai.wydon a'u canlyniadau. Y maent yn adnerthu ac yn adfv wiocau y cyfan- soddiad a'r tymerau. ac ar gyfrif hyny y maent wedi enill iddynt er hunain y gwaeraJwyaeth uchelaf ar gyfer pob math o wendidau, a sefyllfa isel, nychlyd, a rnarwaidd v corff. Y DOLURIAU. Mewn trefn i fod yn eglur ac mor ddealladwy ag y gallwn i'n miloedd darllenwyr, gosodwn o'u blaen ddosrantad cryno Wv dol.uriau us; y mae QDININE BITTERS MB. GWILY.M EVAXS yn "hyuod o gyfaddai ar to u cyfer, megys. ANHWYLDERAU GIEUOG :—Nervous Diseases. Dychlamiadau y galon, cryniadau. rhediad y gwaid i'w wyneb a'r p.?n, anuhreulial g'i:uog, poen yn yr ochr aswy. iselder vsbrvd. prvd >on! llewygcu, pall yn y cof, yn nghyd a phoenau yn y gïau yn gyfrredin. Cynhvrfir rhai personau gan y swn 'leiaf, a dygwyddiadau f ydyn bychain annyagwyliadwy, tra y mae eraill yn dycliymygu eu hod yn euog 0 ryw weithredoedd clrwg anfaddeuol. neu eu bod bob dydd yn agored i wneyd liyny, eraiil a dybiant fod pawb yn ddig Wi thynt ac yn dychymygu pethau gwrthun iawn. Y mae rhai cyn hyn wedi credu eu bod wedi marw, ac era-11 a heriant fod pry fed g Nvenvi yn'g a chreaduriaid afian yn magn o'u mewn, &c. Y mae yr oU o'r pethau hyn a'u cyffelyb yn codi oddiar sefyllfa y giau (nerves) yn y cyfansoddiad. I wella an-awdd y g'iau yn y cyfansoddiad. ac i darfu y lledrhhod dych.vmrgol llyn o'r meddwl, ni cheir dim yn rhagorach na Q ;;i v [\s BITTEKS HK. GWILYM EVANS. AN JN LLRE ULIAD. Y mae hwn yn dad i lawer o anhwylderau blin a phoenus, yn dangos eu hunain mewn aairyw ffurfiau,-peswch sych, pen c'afaidd, awl an- hyfryd ar yr anadl, tafod brwnt, bias ch werw yn y genau, llosg cylla, dwfr poeth, cramp, poenau yn yr ystumog, gwyntogrwydd, pall yn v golw» mynych och neidio, teimlad o lawnder aVwas^fa ar ol prydiau bwyd, marweidd dra, a phoenau hedegog o gwmpas y galon, yn nghvd ;l lluaws o deimladau poenus eraill o'r un nodwedd. Achos uniongyrchol y pethau hyn i gvd vw sefyllfa afreolaidd y cvlla i .ymud yinaith yr annhrefn hwn, ac i adn;iwydri-a nsith a hwylusdod y peirian- au treuliol, y mae Physigwyr enwog wedi profi y QCININK BXTTEP.8 yn feddyginiaeth iwydd.anus ar ol i bob darpariaeth arall fethu yn eu dwylaw. CLEFYDA.U Y DDWYFRON. Y mae y rhai hyn ar y cyfan yn rhai perv^lus a goreu po gyntaf i ai-f,r moddion addas" i'w symud—aDwydon cyffredin. bronchitus, movant peswch boer, crvsjni. poeri arwa-ed. vn r^-ivd •% phob tueddiad ctifeddol i'r darfodeddtweth TIMER at yr anhwylderau peryglus hyn, a'u cymdei^f y mae effeitlr.au daionus diamheuol y OUININB BITTEKS gan Mr. GWILYM EVAN'S yn ca.el' eu cv faddef a'u gwerthfawrogi gan bawb sydd wedi eu profi RHAGORIAETH QUININE BITTERS. Physigwriaeth lysieuol hollol yw Bitt-rs Mr Gwilym Evans, yn cynwys elfenau gweitii^ar v llydau a gv.lnabyddir yn gyffredin, y mwyaf rhin- weddol. Ni all neb ag sydd wedi cael mantais i broil eu rhinwedu beidio eu cymeradwyo; ac yn wir, peth hoilol annheg a'r cyhoedd fyddai peidio dwyn tystiolaeth gyhoeddus o'r daioni a dderbyn- iwvd trwyddynt ac o dan ba amgylchiaclau Dvlai y larllenydd gono, bob a,n-;c-i- ei bod yn annichonadwy i osod yr holl gyffeiriau ag sydd yn y meddyglyn hwn mewn PILLS, heblaw fod dar- pariaethau llysieuol yn f .vy rhinweddol mewn 5WLTBWK nag mewn PILLS. Y mae lIaw.r o'r PILLS yn gelyd ac yn niweidio cylla gowan. Nid ydyw y Quir ine Bitters yn achosi un an. ?hySeusdra wrth eu cymeryd. Gellir dilyn yr al wedigaeth fel arfer. heb fod yn a-ored i anwvd a,'i ganlyniadt.ii, ond yn hytrach y mae yn dio^elu rhag anwyd, trwy nerthu rhanau gweimon y corff yn hwylusi y didoliadau, ac yn awehu y cylla at twyd, yr hyn a nertha i weithio yn well Gall plant o bob oedran ei gvmeryd trwy g-yfar- talu y ddogn yii el yr oed. Y mae hefyd yn tiynod gvfaddas 1 ferched a gwragedd ar brydiau aeillduol. J Os bydd y claf yn ewyllysio cymeryd Cod Liver ?fudd 61 gymeryd yn y Bitters hyn> mwy Gofaled Pawb am Hyn. Gan fod amrywiol ddarpariadau o QUININE i'w cael, megis Tinctnre of Quinine, Quinine Wine, Quinine Mixture, etc., Sc., y mae ymofvnwvT am QuiariMTK BITTBBS Mr. Gwilym EvansT^el eu a^ii°^[ydd hyn yn y modd mwyaf dideimlad a wllydd. Wrtli geisio hwn gan yr Apothecari, nid digon yw gofyn iddo fel hyn, "Potelaid o Bitters," neu Po^elaid o Quinine Bitters, nac ychwaith '■ Y Qumme yna. OND, gofaler i ofyn am QUI- NINE BITTERS Mr. GWILYM EVANS," ac os na fydd yr enw Mr. GWILYM EVANS, F.C.S., MPS wedi T Jl?nf°ml.ar, StfmP y Wywodraeth ar bob'potel, twyll a ffugiad ydynt, Pris y Potelaufyw 2s 9c a 4s. 6c., mewn blychau 12s, 6c. yr un. Cynwys:1 Potelau 4s. 6c. ddau cymaint a rhai 2s. 9c., ac felly y gall y prynwr arbed swllt wrth gymeryd y rhai mwya.f. AC FEL HYN HEFYD :-Nid yw y perchen- og yn proffesu y gwnant weithredu yn wyrthiol" ar neb, neu y gwna y dogn cyntaf "gyfnewid neu y symudir poen mewn deg mynyd," nac y bydd un boteliad yn llwyr iachau," &c' Ond y gwnant trwy ymbrawf t6g a pharhaus o'r Ilysiau a nodwyd, ddangos ex dylanwad daionus, os cvmer- lr hwynt mewn pryd. Ffynon yw o saith ffynonell, O'i glwy' a wna glaf yn well. 163