Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y BARDD.

News
Cite
Share

Y BARDD. LLITH XXVI. Y MAE barddoniaeth yn beth yr ymgeisir yn fynych ei ddarnodi, ond yn aflwyddianus. Cydnabyddir gan lawer mai nid odl yw, na chynghanedd, na mesur, oblegyd ceir y tri ,:Iy yn cydfyned a'u gilydd pan nad oes barddon- iaeth ynddynt. Y mae barddoniaeth wedi ymarfer ymwisgo imewn ffurfiau megya a enwyd, ac felly, gan yr ansylwgar, credir mai y ffurfiau yw barddoniaeth. Y mae hanes barddoni yn dangos y ffaith bwysig fod bardd- oniaeth wedi ychwaneguat ei hun ffurfiau, nid yn ogymaint i lwyddo mewn traethiant, ond i guddio ei gwendidau. Nid oedd odl yn hysbys i'r henafiaid yr oedd eu hathrylith yn gwrthod yr arwynebrwydd sydd ynddi, ac yr oedd eu hastudiaeth o natur, yn ei holl amrywiol ymwybiaethau, mor gynefin a manwl, fel y gwrthodent unrhyw ymgais at addurniadau ieithyddol afleaol. Yr oeddym- ddygiad y meddwl a'r teirnlad yn brif nod eu myfyrdod, a'u traethu yn y modd mwyaf effeithiol oedd eu hunig ymdrech. Dywed Aristeteles yn ei De Poeticd y defnyddid mydr gyda'r amcan o lyfnhau cetddediad ym- adroddiad, fel na thynai un clogyrnogrwydd y meddwl wrth sylwi ar bethau yr ysbryd. Felly, yr oodd y ffurf hona ar iaith barddon- iaeth yn gyfrwng i wneyd yr ysbrydol yn fwy amlwg. Yr oedd y Groegwr yn angerddol feddyliol yr oedd yr ysbrydol mor deim- ladwy ganddo ag yw ffurfiau .meini i saer maen. Yr oedd byd y meddwl yn rhyfeddol weledig, a chyn daered oedd bob amser i roi ymadrodd ar ei eithaf i lefaru, ac nid i ddi- fyrn, fel y cyhuddir ef o ebargofi yr allanol yn ormodol. Fel yr oedd y cerfluniwr yn ymboeni i gael o hyd i dro dirgelaidd ac awgrym gwyrthiol ar ffurf y marmor i geisio ei fywhau Yr oedd ffurf berffaiih y fraich neu y glun yn aflwyddianua heblaw i egni eu hymddangosiad i effeithiol awgrymu eu bod yn aelodau drwyddynt Yr oedd yn ddi- orphwys yn chwilio am yr expressions hyny sydd yn werth mil o ffurfiau. Cyhuddir ef o aflyfnder ffurf, ond nid byth o amddifad- rwydd awgrym. Y mae un llinell gynil mewn desgrifiad, fel sain arweiniol mewn cydgord cerddorol, nid yn unig ynddi ei hun yn nodweddiado!, eithr yn newid nodwedd- ion ereill. Tarawer y seiniau ereill, a thar- awer hon eto yn eu cwmni—fel yr anaoddir hwy drwy ei chyd-darawiad Y mae y seiniau, er yn parhau yr un, yn meddu ar ddawn i foddhau o'r newydd. Yr un modd am ddesgrifiad y mae un awgrym nodwedd- iadol, arwyddocaol, coffhaol, yn werth myrdd o ffurfiau amddifaid. Collodd y Rhufeiniwr lawer o feddylgarwch y Groegwr yn y cel- fyddydau oddigerth barddoniaeth. Y mae yr un manyl-graffder yn y bardd Rhufeinig ag oedd yn y Groegwr. Ceir ei holl iaith- briodolder yn Catullus, holl angerddolder ei deimlad yn Propertius a Tibullus, a'i awydd- fryd a'i hyfrydwch eithafol mewn hel am expressions dirgeledig yn y campus fardd Ovidius Naso. Am gynefindra a holl olud meddwl a theimlad, y mae yr olaf, yn ddiau, yn ddigymhar. Y mae delicacy ei feddyl- ddrychau yn gyffredin mor ordyner, a'r cyf- lawnder ohonynt mor gyfoethog adihysbydd, fel ag i symbylu a boddhau y chwilfrydedd mwyaf craffus. Nid rhyfedd yr ystyrid ef yn athraw y serchiadau. Pa beth bynag a ddes- grmr ganctclo-paias yr naul, neu gongi gysg- odol Ilwyn urddasol ymddygiad a rhwysg brenin neu dduw, neu wladeidd-dra ac an- niwylliant yr isel-dardd; llid-ddigofaint cy- myag a serch angerddol Medea clafychder hiraethus Penelope, neu dor-teimlad a phry- der Phyllis; ymbil Vertumnus, neu ddi- deimladrwydd Pomona, neu ddrwgdybiaeth Cephalus poen meddwl Niobe, neu drueni y geri marwol—y mae yr un ddawn odidog a meistrolgar, drwy ychydig awgrymiadau, yn goleuo y meddwl, a chyffroi holl gynghanedd ac annghynghanedd y teimlad, fel pe byddai holl ermigau gwynion a duon ymwybyddiaeth y galon o dan ei guriadau deheuig. Ceir engraiift o hynyma yn Cephalus a Procris, a'r hwn nid oes yn y Gymraeg gyfansoddiad o fath yn y byd i'w gymharu. Wedi i Aurora ei haner-argyhoeddi fod anffyddlondeb serch- iadol yn llechu yn mynwes gwawr ei enaid," ac iddo yntau wneyd penderfyniad i'w phrofi, mor naturiol y cyfyd pob meddwl drwgdybus. Serch y galon fel wedi ei ranu yn mhlaid ac yn erbyn ei gymhares lândeg-i feddwl yn dda a drwg gyda chyflymder ymwybiaeth gyffrous, i gredu ac annghredu ar gyfnewid yr lianer-flafriol yn arddangos gymaint ohoni hi oedd yn ei enaid, mewn man cyfieua i ddadleu Fèl y mae ei ddychymyg bywiog yn chwilio am aeiliau i ymdrallodi. Mor boenus yw amheu. Eto, ar lithrigfa amheu- aeth, yn brysio i'w wae meddyliol !—yn dyfod i'w chartref gan ffugio bod yn rhywun dyeithr, ac yn mhresenoldeb gwrthddrych ymryson ei deimladau, Fe drodd ei wedd a theimlodd hyny; oblegyd y mae llifiad eithafol wrid, yn ogystal ag ol-lifiad gwelwedd, yn deimladwy. Yr argraff boenus a gaffai arno Llinellau peni- gamp ydynt y rhai lIe y deagrifir mor chwithig y teimlai Cephalus ymgadw rhagddi wrth gario allan ei gynllun. Y mae yn dirgrynu fel nodwydd pany mae y tynfaen yn dyfod i gyffiniau dylanwadu. 0, fel y mae y temt- iwr yn cael ei demtio Fel y mae y profwr o dan brofiad Fel yr ymchwydda yr awydd- fryd nerthol.am ddirwasgu y temtiedig at ei galon—dinaa ei llywodraeth Y mae yn teimlo yn awr ysmaldod a lledchwithdod y cynllun a'i cadwai rhag mwynhad angerdd serch. Y mae hi yn llon'd ei galon a thu allan. Felly, rhwng y ddwy, y mae yn druenus arno-yn gyfyng arno o'r ddau du Y mae chwant cyffesu ynfaich ar ei dafod— yn barod iruthro allan ar yr awgrym lleiaf. Y mae ei enaid yn croni i'w wefusau am esmwythad prif ddatganiad anwyldeb, ae y mae ei freichiau mewn hwyl rhyfeddol," ys dywed y bardd Ffrancaidd, "am ei chylch- ynu Y mae perthynas annaturiol y ddau hoff o'u gilydd yn gyfle i ddawn y gwir fardd, ac y mae y driniaeth a geir ganddo yn odidog lwyddianus. Y mae yn engraifft nodedig o arluniaeth K\h cynefin 4 holl deimladau y galon ddynol. Hynyna, yn ddiau, yw bardd- oniaeth, sef defnyddiad cyfrwng ymadrodd i gynyrchu yn y meddwl-dysglaer yn ei gan- fyddiaeth ond ei ddeheuig gyffroi o'i ddi- faterwch—ymwybiaethau a golygfeydd clir a gorphenedig. Medr y gwir fardd Iwyddo yn hyn pan y mae ei feddwl ef ei hun dan hwyl farddonol, pan y mae ei ymdeimladau ef yn angerddol ac amlwg iddo ei hun, a phan y mae ei feddylddrychau, aflafaradwy i ereill, yn naturiol awgrymu eu priodol ymadradd- ion. Felly, dechreua barddoniaeth yn y meddwl, dadblygir yr holl adnoddau deallol a theimladol, try yr ysbrydolodig yn realities ag y mae yr enaid yn gwbl gynefin a, hwy, ac yna y cyfyd yr awyddfryd anorchfygadwy i lefarn, a'r ymdrech barhaus i ddatgan a gen- fydd ac a deimla yn yr iaith fwyaf egniol. Waeth faint fyddo'r cyfarwydd-der a grania- deg a geiriadur, faint bynag fyddo y ddawn i grugio geiriau a chatrodi ymadroddion swn- fawr, y mae'r oil yn ofer a digyfeiriad. Y mae y frawddeg hono sydd wedi ei chenadu gan yr hyfrydwch meddwl uchod yn fwy gwerthfawr na myrddiwn o linellau hirion a phryddestol. Pwy nag sydd yn teimlo rhag- oriaeth ymadrodd tawel a diymhoniaeth ar ymffrost ac ymchwydd geiriau peirianol ? Ni ddaeth iaith i'w gwasanaethu, ond i wasan- aethu. Dylai y meddwl lwyr ddwyn ymad- rodd i'w wasanaeth ei hun, ae, fel y llygad- ddrych yn gyfrwng gweledigaeth, ei hun allan o'r golwg. Mor flin ydyw llygad-spectol pan y mae brychau arni Diffyg iaith yw pan y daw ei haddurniadau hi yn weladwy, ac felly i dynu sylw y meddwl oddiwrth yr ysbrydol, unig ogoniant llenyddiaeth, at farwoldeb ym- adrodd. Y mae y gwir fardd yn ymhyfrydu yn y meddyliol yn unig, ac yn ddisvlw o bwysfawredd ffurfiau mympwyol, a'i ddibaid ymgais yw rhoddi i ni, ys dywed Eben Fardd, farddoniaeth 0 radd uwch oil na rhydd na eliaeth." CATO. IJIIMN HWWIIIIJIHHBIII U

[No title]

[No title]

BIB EBIONl 0 L'EBPWL. j,¡,

..-lrlith-0 Hyd« ?ark, Ameriea.—

[No title]