Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
AIR. ISAAC THOMAS, UNDERTAKER.…
AIR. ISAAC THOMAS, UNDERTAKER. MR. GOL. Ymddangosodd dau lythyr yn y GWLADGARWR, un ar ol y llall, o dan y penawd uchod, ac yr wyf yn teimlo yn dra diolchgar i'r ddau foneddwr am eu parch tuag ataf pan yn cynyg i mi gael tysteb, fel cydnabyddiaeth am y lies wyf wedi ei wneyd yn Aberdar yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf. Nid wyf yn amheu na film yn foddion yn llaw Rhagluniaeth i wneyd llawer o les i'm cydweithwyr; ond pe gallwn berswadio fy nghyfeillion i gredu yr un peth a fy hunan, ac edrych i'r un cyfeiriad, caent weled ar unwaith nad wyf yn teilyngu yr un math o gydnabyddiaeth o gwbl oddiar law neb pwy bynag, gan fy mod wedi derbyn can' cymaint mwy oddiar law y cyhoedd nag a dderbyniasant hwy oddiar fy Haw i, trwy roddi y fath gefnog- aeth unfrydol i mi oddiar y cychwyniad hyd yn bresenol. 0 ganlyniad, dymunaf ddweyd gair yn fyr, ac, os medraf, i bwrpas, fy mod yn ym- wrthod a'r syniad ar bob cyfrif, a bydded terfyn ar yr ymdrafodaeth yn y fan hon, ac na fliner Mr. Gol., yn nghyd a'r miloedd darllenwyr, mwy ar y mater. Gobeitfoiaf y cymer y ddau gyfaill a anfonasant y llythyrau hyn yn garedig oddi- wrthyf. Yr wyf yn gobeithio hefyd y caf yr un gefnogaeth yn y dyfodol ag a gefais yn y gor- phenol, gan fy mod yn bwriadu cario fy musnes yn mlaen eto fel arfer, a gwneyd gostyngiad pellach yn mhrisoedd coffinau.— V r eiddoch, yn rhwymau cariad, ISAAC THOMAS.
AT "ASTREA."
AT "ASTREA." SYR,—Nid ydym yn chwenych ymyryd y dim lleiaf &'ch nodiadau beirniadol arnom fel hardd a Ilenor, eithr yn unig mewn cysylltiad ag ychydig o'ch sylwadau cyd-destynol, lie y dywedwch, yn y lie cyntaf, ein bod yn gystadleuydd am wobr- wyon bychain o haner coronau. Wei, pa un a gystadleuasom neu beidio, yr ydym yn bur sicr na enillasom ac nas derbyniasom haner coron erioed mewn unrhyw gystadleuaeth. Yn y man nesaf, dywedir ein bod yn rhanu gwobrwyon yn annghyfartal rhwng yr ymgeiswyr buddugol; ond yr ydym yn ddigon sicr na wnaethom y fath beth erioed ac os rhanwyd y wobr rhwng Wat- cyn yn ac Islwyn ar yr "Angel," ni wnaed hyny yn ol un cyfarwyddyd a ddaeth oddiwrth- ym ni, canys, i'r gwrthwyneb, yr oedd ein beirn- iadaeth ni yn gosod y ddau ar dir cwbl gyfartal, ac yn erchi ar fod i'r wobr gael ei rhanu rhyng- ddynt; ac os na wnaeth y pwyllgor hyny, eu bai hwy yn hollol ydoedd ac nis gwyddem ni o'r blaen, cyn darllen eich ysgrif, nad fel hyny yn gywir yr oedd pethau wedi cymeryd Me.—Yr eiddoch yn barchus, DEWI WYN o ESSYLLT.
NODION PERSONOL "NOS DAWCH:
NODION PERSONOL "NOS DAWCH: MR. GOL.Rhy bersonol o lawer, frawd ac yr wyf yn demandio yr eglurhad hwn oddi- wrthyt, sef pa un ai ataf fi neu Gurnos wyt yn cyfeirio yn dy 5ed paragraph ? Rhyngot ti a Gurnos ond yr wyf yn sicr na adawaf fi y mater fyned heibio yn ddioruchwyliaeth. Yr wyf yn adnabod dy big wrth dy arddull bol y clawdd ac os nad wyf fi a Gurnos yn ddigon o ddynion i drafod y pwnc, un peth sydd sicr, sef na fedri di roi un help i ni. Byddaf yn dysawyl gair oddiwrthyt ac os mai ataf fi y cyfeiri, yr wyf yn gofyn ymddi- heuriad dan dy euw priodol ac os na wna, ca rhywuu arall ofyn i ti. BRYTHONFRYN.
Nodion Personol. --
Nodion Personol. MAE yn ymddangos y bydd y daith o Lundain i Ffrainc yn debyg o barhau cyhyd a thalth plant Israel yn yr anialwch. Ai tybed fod anfarwoldeb Llwydwedd i ddibynu ar y cof- nodiad hwn ? Bu llawer un heblaw fy hunan yn meddwl fod y brawd wedi ymneillduo i ryw fangre feudwyol tua. swydd Kent cyn darllen y wibdaith fythgofus i wlad y malwod." Crybwyllodd rhywun dro yn ol ei fod am droi cefn ar y GWLADGAKWR bach, gan fyned drosodd at yr Oracl; ond tebyg mai breuddwyd oedd hyny. O'r hyn leiaf, mae yn sicr nad yw hyny wedi cymeryd lie yn llythyrenol; ond gall fod yn ddychymygol, fel llawer o bethau ereill sydd yn gwibio drwy ymenyddiau dychymygwyr. Deued Llwyd- wedd yn bersonol ar y pwnc, gan fod ami un yn amheu cywirdeb yr adroddiad. Y mae gan bob dyn hawl i droi ei drwyn i'r cyfeiriad a ddewiso, gan wasanaethu y neb a fyno yn y dull a ddewiso, yn unol a, rhagorfreintiau rhyddid gwladol. Peidied y cyfaill a meddwl fod neb pwy bynag am gyfyngu ar ei ryddid fel dinesydd o'r byd. A OES perygl ? Dyna ofyniad digon natur- iol ac hawdd ei ateb. Lle bynag byddo cen- figen, dadwrdd, a malais, yn cael lie i osod bys yn y bastai, byddant yn debyg o wneyd hafog ar bob peth rhwng cyfeillion a'u gilydd, os na chedwir llygad gwyliadurus ar ol y cyfryw. Hyderwn na oddefir i ddylanwad cenfigen fod yn gareg rhwystr ar ffordd llwyddiant Eisteddfod Gadeiriol y Deheudir. ileddwcn, lads, a dim 101 Yn ein gwyliau llenyddol. Os bydd y naill a'r llall yn methu cydweled ar fan bynciau, nid oes achos cenfigenu o'r herwydd, ond cyd-weithio trwy ddewis y cyn- lluniau a'r trefniadau goreu i wneyd y mud- iad yn llwyddiant, gan adael heibio y cnoi a'r traflyncu diddarfod. Myn rhywrai fod yn benaethiaid a blaenoriaid heb fod yn fedd- ianol ar y cymhwysderau gofynol, ac os y meiddia neb wrthwynebu hyny, rhyfedd fel y ffromant. Coffa da am enw yr hybarch dad Cynddelw. Ei le i bob peth, a phob peth yn ei Ie, ac yna ni bydd twrw," meddai. Nid oes ond dyrnaid bychan ohonom, fel Cymry, yn y De, a gresyn nad allem gytnno i gynal un Eisteddfod Daleithiol mewn blwyddyn, gan ei symud o'r naill dref i'r llall. Nid yw y draul o Gaerdydd i Gaerfyrddin ond ychydig, a gwneir hwnw yn llawer llai gan gwmniau y rheilffyrdd ar adeg cymanfaoedd a chylchwyliau cyhoeddus a chenedlaethol. Mae yn fwy o syndod i mi fod yr Eisteddfod yn llwyddiant yn Nghaerdydd, tref sydd mor llawn o'r elfen Wyddelig. Wn i ddim am atdyniadau llenyddol Gwestdy y Gwellaif a'r Faneg, ond mi wn fod yr hen frawd Dewi Barran yn gystal Eisteddfodwr a'r rhelyw o'r pwyllgor. Na fydded i Wyn na Du fod yn euog o daflu huddugl i botes yr Eisteddfod, onite bydd yn rhaid gosod y cyfryw o dan wyliadwraeth Myfyr a Morien, sef y Prif- weinidog Derwyddol a'i ysgrifenydd teithiol. Bydd ychydig ddyddiau yn Abertawe, yn mis Awst, yn fwynhad i blant y mynyddoedd, y rhai a dreuliant y rhan fwyaf o'u hamser yn nghokiddion y ddaear, yn nghanol llwch a diffyg awyr. Awelon hyfryd awyr MSr y Werydd I'r gwan a'r llesg ddwg fywyd newydd. MAE ergydion llawchwith ambell un o gor- achod bon-y-gler yn cynwys llawer iawn o ddoniolwch, am fod cyfeiriad y magnel cawnen i fan neillduol; ond unwaith y gollyngir y belen allan, daw yn hollol i'r cyf- eiriad anmhriodol, am nad yw y magnelwr yn deall ei waith. Os myn y Gogleddwr gael saetbwyr da, rhaid iddo ddysgyblu llawer arnynt eto, oblegyd fod y cadfridogion a'r is-swyddogion sydd yn ei fyddin yn mhell ar ol sut i fod yn gwybod y ffordd i lywyddu y catrodau. "Amser a ddengys i ddyn 0 bwy radd y bo'i wreiddyn." Ymosod yn barhaus byddant, a chloddio ffos- ydd ond cyn sicred a bod y Wyddfa yn Ar- fon, mae tro i ddyfod ar yr olwyn, fel nad yw y rhai a fu gynt yn ddeillion i fod felly yn barhaus. Mae dichellion cyfrwysgall a ffals- der dieflig yn sicr o gael ei ganfod yn hwyr neu hwyrach, a phan ganfyddo yr hwn a hud- ddenwyd trwy anwiredd a thwyll i drobwll trallodion ei fod wedi cael ei gamarwain, nid yw yn debyg yr ymlyna wrthynt yn hwy. Amser yn unig esbonia bob dirgelion, ac nis gall yr ynfytyn mwyaf haerllug feddianu digon o haerllugrwydd i ddymchwelyd ffeith- iau fydd yn sefyll mor ansigledig a Banau Brycheiniog. Cryna yr amddiffynfa, fel y gwelir yn yr amryfal wythnosolion, a chawn y gwylwyr, mewn amser ac allan o amser, yn ymdrechu adgyweirio y gwrthglawdd ond mae y bwlch wedi myned yn rhy lydan, a meibion dynion yn canfod bellach yn eglur ddirgelwch yr anwiredd. Clywir ocheneidiau pruddaidd, ac adroddiadau o weithio nis gallaf, a chardota sydd yn gywilyddusgenyf," mewn ami gwm yn Morgan wg. TEBYG fod Morfab wedi pechu yn erbyn rhai o blant y Sanhedrim ar lan Cynon. Dyn a helpo y brawd os nad all ymryddhau a thaflu y bel yn ol. HWYRACH mai gwell fuasai i'r cyfaill o Graigcefnparc adael rhwng turnos a Bryth- onfryn. Gorchwyl peryglus ydyw gosod bys mewn ffrae rhwng hen gyfeillion. Bid rhyng- och, blant y gaethglnd, rhag i mi gael pen coch. MAE yn debyg fod y darn aur yn Eistedd- fod y Goron wedi codi y gnofa ar rywun. Cofier mai darn heb un math o gadwyn oedd y wobr gynygiedig, a sicr yw fod llawer gwobr a thlws mewn Eisteddfod Genedlaethol yn llai o werth na hwn, er nad oedd ond un bychan. Fe ddichon y gellir gwneyd Eis- teddfod nesaf y Goron yn deilwng o sylw a chefnogaeth yr urdd. CYHOEDDWN y nesaf yn brydlon, fel caffo yr ysbiwyr ddigon o amser i gyfansoddi ac enill, er mwyn i ni enill sirioldeb a gwenau dymunol y frawdoliaeth graffus a beirniadol, yna byddwn ar sylfaen safadwy craig llenydd- iaeth Gymreig. Nos DAWCH.
NEWYDDION CYFFREDINOL
NEWYDDION CYFFREDINOL Mr. 0 H James, Merthyr a'r Sefyllfa Masnach. ODYDDION MERTHYR. Dydd Iau yr 8fed cyfisol, cynaliwyd cy- frinfa "Lady Charlotte," perthynol ir Odyddion, eu ciniaw flynyddol yn y Globe, Merthyr. Yr oedd yn nghyd tua 100 o aelodau. Mr. D. Williams, yr Uwch-Gwn- stabl, yn llywyddu, a Mr. Walter Smyth yn I3 lywydd. Ar ol pasio rhai llwnc-destynau, cynygiodd Mr. C. H. James y llwnc-destyn i'r Loyal Lady Charlotte Lodge." Dywedai fod 25 mlynedd er pan anerchasai aelodau y gyfrinfa hono ddiweddaf, ac yn y cyfamser, yr oeddynt wedi colli llawer trwy farwolaeth, pa rai oeddynt wedi achosi hiraeth dwys iddo. Yr oedd eu cyffelyb, fel yr oedd yn; dda ganddo ddeall, mewn cyflwr boddhaol ac ar ol talu pob galwad arnynt, yr oedd ganddynt weddil da yn eu ffafr. Yr oedd hyn yn dra boddhaus mewn lie fel Merthyr, yr hon oedd wedi myned trwy fwy o galedi ac iselder, y blynyddau diweddaf, nag unrhyw le y gwyddai am dano, a phan y craoiau cymdeithasau cyffelyb yn mhob cyfeiriad. Gyda golwg ar fasnach yr haiarn, yr oedd arno ofn fod rhai pobl yn cyfrif gormod ar fod amser gwych i ddyfod, yr hyn a barai iddynt ddywedyd Bwytawn ac yfwn, a byddwn lawen, canys tranoeth ofala am dano ei hun," Ond gofyna iddynt edrych ar beth- au yn ngholeu ffeithiau a ffigyrau oedd o'u blaen. Ychydig flynyddau yn ol, cawsant amser o lwyddiant rhyfeddol, yr hyn a ddyg- asid oddiamgylch gan amryw achosion. Yr .Y oedd rhyfeloedd mawrion rhwng y galluoedd Cyfandirol, y rhai oeddynt mor ddiwyd yn ymladd &'u gilydd, fel yr oeddynt i gael llawer o'u haiarn o Lloegr. Yr oedd hyn yn lift mawr i'r wlad hon, a mwy na hyny, yr oedd yr Americaniaid wedi myned drwy ryfel mawr yn eu mysg eu hunan ac mor fuan ag y terfynodd, aethant yn nghyd â,r gorchwyl o wneyd nifer mawr o reilffyrdd, ac yn ffodus i mi, aeth rhan fawr o'r haiarn a ddefnydd- iwyd at eu gwneuthur o Loegr. Mor fawr oedd y gofyn fel yr anfonasom ymaith o'r wlad hon i America yn agos i werth j65,000,000 o haiarn rheilffyrdd yn 1872. Fodd bynag, darfu i'n Cefndryd Americanaidd feddwl, fel y tybiai, eu bod hytrach yn rhy gyfrwys i ni, ac yn dymuno, fel y meddyliais, i roddi ei masnach haiarn, gosodasant doll aruthrol ar y rheiliau haiarn a dur a ddygid yno, se 3p. 10s. y dunell ar yr haiarn, 5p. 12s. ar y dur, a thollau ereill o symiau mwy ar ryw fath o haiarn, megys bar iron, &c. Beth oedd yr effaith o hyny ar y wlad hon 1 Wei, yn 1875, nid oedd gwerth ein hallforiadau i America ond 228,900p. yn lie 5,000,000p., fel, yn 1872, aeth lawr i lai na chwarter miliwn. Gwaeth byth yn 1877, aeth lawr i 10,806p. Yn ngwyneb ffigyrau fel hyn, nid oedd rhaid i ni fyned yn mhell i ofyn i ba le yr oedd ein masnach wedi myned. Gydag America yr oedd yn syml wedi ei atal. Ac er i ni gael cryn gyifro yr adeg hon, rhaid i ni gofio fod y tollau hyn eto heb gyffwrdd a. hwy, a'r rhyfeddod oedd ein bod yn anfon dim haiarn o gwbl i America, dan yr amgylch- iadau. Credai ef ei fod wedi dygwydd yn y ffordd hon. Yr oedd yr Amercaniaid wedi cael un o'r cylchdymorau hyny, fel y cawsom ninau weithiau, o lwyddiant mawr. Y peth cyntaf a wnaent pan ddeuai arnynt oedd gwneyd rheilffyrdd, a daeth ar y farchnad f Americanaidd alw mawr iawn am haiarn, yr hyn nid oeddynt barod i'w gyfarfod eu hun- ain. Felly, cafodd y wlad hon y gorlifiad, a dyna yr oil; ac yr oedd efe yn ofni yn fawr fod gan America y moddion i agor ffwrnesi newyddion, a gweithfeydd newyddion a'u gallnogai hwy i gyfarfod a'u gofyn eu hunain cyn hir, nes gosod y wlad hon bron yn yr un fan ag ydoedd ar y cyntaf, pan osodasant y tollau hyny ar ein haiarn a'n dur. Yna, anogai i beidio cyfrif gormod ar y llwyddiant presenol, a chesio gosod rhywbeth o'r neilldn ar gyfer diwrnod gwlawog. Yna, cyfeiriodd at leihad ein masnach a Rwsia, a therfynodd gyda chymeradwyaeth.
Oyfarfod o Gynrychiolwyr y…
Oyfarfod o Gynrychiolwyr y Glowyr yn Aberdar. Y SLIDING SCALE. Cynaliwyd y cyfarfod uchod yn y Bute Arms, dydd LIun, er dewis dynion i gyn- rychioli torwyr y glo tai a'r glo-ager er cydymgynghori a'r meistri i ffurfio Sliding Scale. Yn y cyfarfod a gynaliwyd ar y laf cyfisol, nid oedd y dynion yn barod i apwyntio pedwar cynrychiolydd fel y cytun- asid, ond diddymasant apwyntiad chwech o bersonau fel yn flaenorol, ac oedasant ddyfod i benderfyniad terfynol ar y mater hyd dydd Llun diweddaf, gyda'r amcan o gael pleidlais fwy cyffredinol o'r ager-lofeydd undebol. Etholwyd Mr. Thomas James, Aberaman, i'r gadair, ac yr oedd yn bresenol ddirprwywyr yn cynrychioli 16,000 o weithwyr. Symud- wyd y gwrthwynebiadau a fodolent yn flaen- orol i apwyntiad Mr. D. Morgan ar y Bwrdd, ac etholwyd y pedwar canlynol i gyfarfod &'r meistri yn Nghaerdydd, dydd Ma wrth, i gytuno ar scale :-Mri W. Abraham; D. Morgan, Mountain Ash; Samuel Davies, Aberaman Philip Jones, Abertileri a Mr. David Thomas, Rhondda, yn ysgrifenydd. Penderfynwyd fod dynion mewn oed i dalu 4c., a bechgyn 2c., at y draul, a dymunai y cyfarfod i'r arian gael eu talu i mewn mor gynted ag sydd bosibl.
Bwrdeisdrefi Llanelli a Chaerfyrddin.
Bwrdeisdrefi Llanelli a Chaerfyrddin. Nos Sadwrn diweddaf, cynaliwyd cyfarfod o'r etholwyr yn yr Athenseum Hall, Llanelli, pan y daeth yn nghyd nifer mawr o fonedd- igion, masnachwyr, ac ereill. Mr. Samuel Bevan yn y gadair. Anerchwyd y cyfarfod gan yr ymgeisydd bwriadol, Mr. John Jones Jenkins, gan gosod allan ei resymau dros ei waith yn dyfod allan i sefyll dros y fwrdeis- dref-sef, a ddylai person masnachol fod yn cynrychioli bwrdeisdrefi mor fasnachol a Llanelli a Chaerfyrddin. Yn ystod ei araeth, rhoddodd ystadegau yn dangos derbyniadau a threuliau y deyrnas am 1870, '73, '76 a '79. Yn 1876, yr oedd y treuliau 3 869,225p. yn fwy na'r derbyniadau ac yn 1879 yr oedd y treuliau yn fwy o 2,759,054p. Gwnaeth Mr. Jenkins araeth fawr a thra galluog, yr hon a dderbyniwyd gyda chryn gymeradwyaeth. Pan aeth Mr. Yoe, Abertawe, Lewys Afan, ac ereill, i siarad, aeth yn derfysg di-lywodr- aeth. Cynygiwyd penderfyniad yn ffafr ymgeisiaeth Mr. Jenkins gan Mr. Morewood, Llangennech Park, a chynygiwyd gwelliant gan Mr. J. Buckley fod yr etholwyr i glynu wrth Mr. Williams, yr aelod presenol. Cariwyd y penderfyniad gyda mwyafrif o dri i un yn erbyn y gwelliant.
Strike Fygythiedig yn Cleveland.
Strike Fygythiedig yn Cleveland. Y mae gwfr haiarn Mri. R. Dixon a'u Cyf. wedi rhoddi rhybudd i Mr. Dixon, dydd Iau, am godiad o 15 y cant. Atebodd Mr. Dixon, pe gofynasid am y codiad ar contracts newydd, dichon y gallesid ei roddi, ond nas gellid ar hen contracts. Y mae Undeb y Llong-adeil- adwyr yn ystyried pa gwrs i'w gymeryd. Cyfanswm tunelli y llongau a adeiladwyd y llynedd oedd 59,400.
Ymgais at Lofruddio wrth yr…
Ymgais at Lofruddio wrth yr Allor. SAETHU AT OFFEIRIAD PABAIDD. Dydd Sadwrn, cymerodd amgylchiad anar- ferolle yn Eglwys Babyddol St. Peter, Hatton Garden, Llundain. Am ddeg o'r gloch, pan oedd masi yn cael ei gario yn mlaen yno gan y Tad Bakanowski, offeiriad Pwylaidd, caplan trwyddedig i'r Pwyliaid yn Llundain, y rhai a ganiateir i ddefnyddio Eglwys St. Peter, tanwyd ergyd ato o gorff yr Eglwys gan ber- son, a tharawyd yr allor gan y fwled. Ffodd ef a'r hwn oedd yn gweini y mass am eu bywydau. Taniodd y dyn ddau ergyd arall, a dau wedi hyny yn y man-yr oil yn bump,— ond ni tharawyd neb. Yna aeth yr adyn llofruddiog yn mlaen at yr allor, lie y dryll- iodd y canwyllbrenau, ac y gwnaeth alanastra annghyffredin trwy osod y lie ar dan. Ym- aflwyd yn ei ddau arddwrn gan Mr. Arkell, offeiriad arall, pan y gwnaeth ymgais i'w rathu &'i gyllell; ond methodd. Yna daeth heddgeidwad yn mlaen, a sicrhawyd ef. Ar ei ffordd i'r carchar, dywedodd heb i neb ofyn iddo, Yr oeddwn yn bwriadu Hadd yr offeiriad." Gwaeddai ar y bobl yn yr Eglwys, Chwi bobl allan." German ydyw, a thebyg y ceir allan ei fod yn orphwyllog. Bernir fod y golled a wnaeth yn yr Eglwys tua mil o bunau.
Gwenwyniad Damweiniol.
Gwenwyniad Damweiniol. Dydd Mercher, y 7fed cyfisol, cymerth amgylchiad adfydus le yn Derby, trwy i Mr. E. A. Hughes, fferyllydd, gymeryd dose o prussic acid mewn camgymeriad yn lie rhyw- beth arall. Bu farw yn ebrwydd. Gadaw. odd wraig a theulu.
Ysbeiliad yn Llanelwy.
Ysbeiliad yn Llanelwy. Torodd lladron i dý- y Deon, yn Llanelwy, yr wythnos ddiweddaf, ac aethant ymaith a. thua gwerth 400p. o lestri arian. Ymddengys fod y lladron yn dra adnabyddus a'r lie.
Forest of Dean.
Forest of Dean. Y mae ail felin newydd ei gychwyn yn Ngwaith Alcan Parkend, yn y He hwn, yr hwn a lêswyd oddiwrth Mri. Crawshay gan Mr. Chas. Morris, yr hwn sydd fab, fel yr ydym yn deall, i Mr. David Morris, Gwaith Alcan y Vernon, Briton Ferry. Dywedir fod rhag- olygon y gweithfeydd hyn yn rhagorol.
Damwain Angeuol yn Aberdar.
Damwain Angeuol yn Aberdar. Nos Fawrth, Ionawr y 13eg, cyfarfyddodd glowr o'r enw Nicholas a'i ddiwedd mewn modd tra disymwth pan wrth ei waith yn Mhwll Level yr Afon, Abernant.
Tri Ugain Mlwydd a Deg.
Tri Ugain Mlwydd a Deg. Mr. Gladstone wedi cwblhau ei ddeg a thri- ugain mlwydd oed, a dylai ei gydwladwyr deimlo yn ddiolchgar i Ragluniaeth am ei alluogi i brofi, pan yn ddeg a thriugain oed, fod ganddo nerth corfforol deg-ar-ugain, a gallu meddyliol pump- a-deugain, Tebyg yw na fu gwasanaeth Mr. Gladstone, o fewn un adeg o'i fywyd, mor bwys- ig i'w wlad a'r hyn ydyw yn bresenol. Derbyuir ef gan y bobl fel eu tywysydd. Nid dadl plaid yn nghylch arweinydd yn unig ydyw gellir gadael hyny i Arglwydd Hartington. Y mae yn angenrheidiol, er bod yn dywysydd, meddu ar egwyddor. Ni raid i arweinydd ond yn unig arddangos medr. Y mae Arglwydd Hartington yn ddigon medrus, ac y mae ganddo black befyd, fel y dangosodd yn ddiweddar. Felly hefyd Ar- glwydd Granville, y boneddigeiddiaf o bawb byw ond ni wna Granville, nac ychwaith Hart- ington, yr hyn a wnaeth Mr. Gladstone. Pan ar ei fynediad a'i ddychweliad o Ysgotland yn ddiweddar, gwnaeth feirniadaeth manwl ar yr oil a wnaeth y Llywodraeth bresenol, gan eu cymharu a'r hyn ddylasent ei wneuthur, yn nghyd a'r hyn a ddylai y Rhyddfrydwyr ei wneuthur. Nia gall y bobl fethu gweled fod Mr. Gladstone wedi gosod ei egwyddor ar dir lawer uwch na chynhyrfiad plaid. Efe gyhoedd- odd chwaeroliaeth cenedloedd, brawdoliaeth dyn, a thadogaeth cyffredinol o Dduw, a bod yr oil dori gyddfau a Ilosgi pentrefydd— pethau y buom yn ymhyfrydu ynddynt yn ystod y blyn- yddoedd diweddaf—yn droseddau mawrion. Nid oblegyd mai Toriiaid oedd yn gorchymyn hyn, a'i fod ef yn Rhyddfrydwr, ond oherwydd mai creaduriaid dynol Duw oedd y bobl orchy- mynwyd i'w lladd. Pe buasai Mr. Gladstone yn llefaru fel yma mewn tanbeidrwydd digofus gydwybod pan yn bump a deugain oed, ni fuasai yr un awdurdod ac ymadrodd gweledig ganddo a phan yn ddeg a thri ugain. Ond y mae bywyd gweithgar, diwyd, o feddwl Ilym, o syniad deallus. ac 0 wybodaeth eang, yn ei alluogi i lefaru oddiar esgynfa, pa un na all bychandra dynol ei ddychymyg. Mae yn rhyfedd fod neb mor ynfyd a gwneyd eu goreu i ddifwyno cy- meriadau fel yma. Cafodd Edmund Burke, y mwyaf o feddwl o'r aieithwyr a'r dysgawdwyr, ei ddifenwi, a geiriau yr hwn sydd wedi eu cadw, ac a gyfrifir hyd heddyw yn glasurol yn yr iaith Saesonaeg. Yr un fath eto gyda Mr. Glad- stone. Mae Iluaws 0 glebrwyr bychain yn ceisio elwa ychydig enwogrwydd, neu o'r hyn leiaf hynodrwydd, iddynt eu hunain, trwy ddifenwi a cham-ddarlunio Mr. Gladstone. Cant eu dydd bychan ond pa nifer ohonynt gaiff yr anrhyd- edd o dderbyn cyfarchiadau yn heidiau oddi- wrth eu cydwladwyr pan yn ddeg a thri ugain. Os cant fyw i gyrhaedd yr oedran hyny sydd ofyniad a gymer amser i'w ateb. Mae gwrth- wynebwyr Mr. Gladstone yn ei gashau oblegyd fod ei feddwl yn fwy ar y bobl nag ar gym- deithas pendefigion a breniniaeth. Ni wnaeth ef ymerodres o frenines, na chyhoeddi ymerodr- aeth. Ond y mae wedi peri iddo ei hun fod yn gymdeithaswr yn meddyliau dynion da trwy'r byd, ac yn dywysydd mawr drwy bob dyrys- wch a wnaed gan lywodraeth wyrgam. Yn y fath ddyn bydded i Gymru a Lloegr ymorphwys eu gobaith hyd oni ddaw y dydd y bydd galw am dano i osod yn iawn fyd ag sydd o'i Ie.
Ebion Difyrus.
Ebion Difyrus. CHIGNONS.—" Dywed y Sport fod prif foneddigesau Ffrainc wedi dyfod i'r pender- fyniad o adael heibio yr arferiad o wisgo chignons; a dysgwyliwn y bydd i ferched Cymru eu hefelychu yn fuan."—Yn nglyn a hyn, gwnaeth rhyw wag englyn fel y canlyn Ai mop, pa un ai meipen-a welaf Tu ol i ysgafnben ? Be' ytyw ? Ai rhyw boten 0 bys ? Neu ferch a dau ben Miss WILBERFORCE.—Pan oedd Mr. Wil- berforce yn ymgeisydd dros Hull, canfyddai amryw o'r etholwyr ei chwaer gydag ef rn diwrnod ac oddiar syniad o barch ac ed- mygedd tuag ati, gwaeddasant "Miss Wilberforce dros byth." Ar hyn atebodd, "Na; gobeithiaf mai nid Miss Wilberforce dros byth Daeth dyn tlawd at gybydd a dywedodd, Mae genyf ffafor i'w gofyn." Mae genyf finau, a chaniatewch fy un i yngyntaf," ebe'r cybydd. "O'r goreu," ebe'r tlawd. "Y ffafor yr wyf am ei ofyn i chwi yw, peidiwch a gofyn am ffafor."
Advertising
26, CANON-STREET, ABERDARE, MISS IVEY'S SCH@OL DUTIES will be resumed on TUES- 0 DAY, January 13th, 1880, (D.V.) THE HU G HE S BROTHERS (LATE OF BOSTON, AMERICA) Are Open to Receive Engagements. AS VOO.A. LISTS, To sing in Concerts, Eisteddfodau, &c. THEY have travelled for over nine years in the-" United States and for the last three years exclusively among the Americans in the Eastern. States. PERMANENT ADDRESS :— HUGHES BROTHERS, 2210 ABERCARNE, MON. Rhyfel t Rh vfel! Bhyfefr Yn erbyn p isoedd ucheU SHOP "NEWYDD GAN RICHARD JONES, WATCH- M\KEH, TOP CANON-ST., ABERDAR, LLE gellir cael—Oriaduron ( Watches), Awr- leisiau ( Clocks), 1 'rychwydrau (Spectacles), &c &c., am y prisoedd iseiaf. Modrwyau Priodas hefyd be b amser mewn stjc. Dymunwyf hefyd hysbysu y cyhoedd fy mod yn parhau fel arfer ar fy nghylchdeithiau drwy gymoedd Aberdar a'r Rhondda. Didchaf hefyd am barhad o'r gefnog- aeth ag y mae fy nhad a minau wedi gael er's 65 0 flynyddau. 218# CAN TEIMLAD SERCH;" YN Y DDAU NODIANT. Y geiriau Cym- raeg j, an Watcyn Wyn a'r geiriau Seisnig gan W. L. Gardner. Y gerddoriaeth gan T. D. Williams (Eos Dyffryn), K.A.M. Pris, 6c. Yr elw arferol i lyfrwerthwyr. I'w chael gan yr awdwi-lA Pulross-ro!,id, Brixton, London, S.W. Bydd Eos DYFFRYN yn agored i dderbyn en- gagements i ganu mewn cyngherddau, ac i feirniadu. mewn Eisteddfodau. 2188 GWAED PUR CROEN IACH! NERVES CADARN! Y rhai a sicrheir trwy gymeryd y Feddyginiaeth fwyaf lwyddianus yr oes at BURO A CHRYFHAU Y GWAED, sef- OHe,&Iq NT 4r WOO (»jna-:isT:K:R,:ic:D.> UWAJiL) DKYVG Yw'r achos o'r Scurvy, Clefyd y Brenin neu'r Man wyn iau, Blast, Piles, Gwynegon, Penddynod, Cornwydon, Hen Glwyfau, a phob Tarddiant ar y Cnawd, Chwydd y Glands, Inflammation y Llygaid, Stitches yr Ochrau, Poen Pen, Diffyg Traul, Danodd, Spleen neu Rheums, Gout, Fits, Clefyd Melyn, Nerves Egwlin, a llawer o'r Clefydau Benywaidd. Hen Ddystemper, < £ c. Y mae y Pills Effeithiol hyn yn DADWREIDDIO P )B AFIECHYD O'R GWAED Y mae yn deilwng o sylw fod y PiUs Hynod hyn yn cryfhau ac nid yn ywom/MM y Gwaed, oblegyd eu bod yn cynwys yr essence, neu'r rhan weithredol o'r Llysiau mwyaf effeithiol a welodd byd tuag at BURO A CHRYFAU Y GWAED, a thrwy hyny yn dwyn yr Afu, y Cylla, y Galon, yr Arenau, y Croen, y Nerves, a'r Ymenydd i w naturiol a-, pherffaith weithrediad. Y maent yn safe ac yn hawdd eu cymeryd, ac nid oes eisieu cadw mewn yn yr amser. Pan bydd y Clefyd 0 hir barhad, dilyner arnynt am beth amser. TYSTIOLAETH BWYSIG. SYR,-Gyda diolch yr wyf yn eich hysbysu o'r- gwellhad gwyrthiol a wnaeth eich Pills, se £ Hughes Patent Blood Pills i mi. Yr oeddwn wedi bod mewn blinder mawr gan Darddiant dros- yr holl gnawd, ac wedi cymeryd llawer o foddion Doctor am flwyddyn a chwaneg, eto dim lies, hyd i mi gael eich Pills chwi, y rhai yn bur fuan a m gwellhasant. Yn awr, yr wyf yn holl iach. Mi allaf hefyd dystio eu bod yn anffaeledig rhag y Lumbago. Hefyd, yr wyf yn brofiadol eu bod yn dda neillduol rhag y Gwynegon. Yr wyf yn anfon hyn er budd y cyhoedd. WM. JAMES. 4, Pontypridd Road, Ferndale. Llawer ereill y gellir eu dodi yma wedi eu llwyr wellhau oddiwrth Fits, Inflammation y Llygaid,, Rheumatism, Blast, Piles, Hen Glwyfau, Diffyg Traul, &c., &c. J JS RHYBUDD.—Mae llwyddiant y Peleni hyn wedi achosi llawer i'w dynwared, feily gofaler cael y Trade Mark" uchod (sef llun Calon) ar bobr blwch, a'r geiriau Blood Pills oddifewn a'r enw Jacob Hughes ar stamp y Llywodraeth; heb hyn twyll ydyw. os I TRADE MARK "BLOOD PILLS." Cosbir pob ffugiacL Ar werth drwy yr holl deyrnas an ls. lic., 2s. 9c., Its. 6c. Ch/da'r post ls. 3c., 2s. lie. a 4s. 9c,, oddiwrth y Perchenog- Jacob Hughes, Apothecarie's Hall, Llanellv. Am bob math 0 Daflenau Ctyfrifon, Rhe.M Cymdeithasau Dyngarol, &c. JgWYDDFA'R GWLADGARWB