Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

Ha-nesioh Dosbarthawl.

News
Cite
Share

Ha-nesioh Dosbarthawl. ABERDAR. CYNGHEKDD.—Dydd lau diweddaf, cynal- iwyd y cyntaf o res o gyngherddau poblogr aidd yn y Temperance Hall. Cynelir hwynt gan Eglwyswyr y dref, a defnyddir yr elw tuag at leihau dyled Eglwysi ac ysgolion yn y plwyf. Gwasanaethwyd gan y boneddigion a'r boneddi&esau canlynol :—Yr Anrhydedd- tis Mra%Wynne Jones, Misa Fanny Jones, Miss Thorney, Mr. D. Jones, Mjr. Thorney, yr.Aftrliyded<lus W. N. Bruce, (yr hwn a rhoatiodd ddai'lleniad cymeradwy iawn) a pharti dewisedig o gor Eglwys St. Elvan. Aethant trwy eu gwaith yn ganmoliadwy iawnV I ddiweddu. perftormiwyd operetta ddigrif (gan Offenbach) o r enw ''The Blind Be ggars," gan Mri. M. ac E. Morgan. Yr oedd Arglwydd ae Arglwyddes Aberdar yn rg .11 bresecoi|-ac hefyd nifer mawr o brif fasnach- wyr y li'<i, Gawsom gyugherdd da; ac os bydd lleill o'r cyngherddau hyn i fyny i safon y cyngherdd hwn, nid oes amheuaeth genym na fyddant yn llwyddiant mawr. CWMBACH.—Dydd Sul diweddaf, cynaliwyd cyfarfod adloniadol yn nghapel yr Annibyn- wyr, sef Bryn Seion. Cymerwyd y rhan flaenllaw gan y personau canlynol :—Parch. Jonah Morgans, Cwmbach Mri. John Jones, ysgrifenydd y cyfarfod John Morris, Caleb Evans, a lluaws mawr rhy luosog i'w henwi. IT mae cyfarfodydd fel hyn yn cael eu cynal yma bob chwarter, a thwy hyny y mae pawb yn gwneyd eu goreu er gwneyd y cyfarfod- ydd yn gysurus iawn. Y mae clod mawr yn ddyledus i'r rhaiuchod, a llawer gyda hwynt sydd yn gwasanaethu mewn cyfarfodydd fel hyn, am eu gwneyd mor gysurue, &c. —Givenffrwd. —Givenffrwd. AABERNACII.—Dyddlau, yr 8ted cyfisol, cy- naliwyd gwyl dê yn y eapelSeisnig Annibynol ucbod mown eysylltiad a'r Band of Hope. Yr oedd y vestry a'r capel wedi eu gwisgo yn hardd gydag arwyddeiriau, deildyrch o fyth- wyrddion, &c. Daeth yn nol-lycl luaws mawr o bobl i wledda ar y dauteithion blasus oeddynt wedi eu darpa-rn ar. eu cyfer, yn nghyd a'r oil o aelodau y Band, of Hope. Yn yrhwyr, cynaliwyd math o gyngherdd, pryd y gwasanaethwyd gan y personau canlynol: Miss T. Jones, Aberdare Times; Misses M. a L. Farr; Miss M. Richards Miss Thomas Miss Lloyd, GWLADGAKWK M'ss Jenkins Miss Jones, Monk-street Mr. Wm. Thomas (Gwilym Gwenallt) Mr. James Rees a'i barti, ac ereill. Llywyddwyd yn ddeheuig iawn gan y Parch: J. Farr, gweinidog y lie, yr hwn, wrth ddechreu y cyfarfod, a draddod- odd araeth fer a phwrpasol. Anerchwyd y gynulleidfa hefyd mewn modd teilwng ac an- rhydeddua gan Mr. Lewis Griffiths, ironmong- er, yr hwn a roddodd amryw gynghorion da a buddiol i'r plant dros bleidio y Band of Hope. Hefyd, dylem grybwyll fod clqd mawr yn ddyledus i Mri. D. H, Macdonald, James Rees, George E. Jarvis, George Thomas, ac amryw ereill, am eu gwaith yn llafufio gyda'r inudiad, y rhai ydynt hefyd yn sylfaenwyr y Band of Hope ac i'r boneddigesau am eu rhan yn gwneHthurpawb yn gysurus wrth y byrddau, ac am wasanaetbu mor foddlongar ar yr achlysur. Cyfeilliwyd yn fedrus iawn gan ProffeswrA. N. James, R. A.M. Llwydd- iant i'r mudiad yw dymuniad— Cefnogwr. UIRWAUN.—(Jyjarjoa Llenyaaob. —JN os lau, lonawr laf, cynaliwyd yr ail gyfarfod Llen- a gynelir yn ystodf y gauaf yma, gan Annibynwyr y lie. Llywydd y cyfarfod hwn ydoedd Mr. John Lloyd, masnachwr. Cafwyd cyfarfod dyddorol iawn, trwy garedigrwydd rhai o brif gantorion y lie, yn nghyd a'r cor, dan arweinyddiaeth Mr. Daniel Roderick. Ta(-,r wahoddwn bawb i'r cyfarfodydd hyn, a sicr yw na fydd yn edifar ganddynt o'r amser a dreuliant ynddynt. BETHESDi, ABERNANT.—Dydd Sul, Ionawr lleg, cynaliodd Ysgol Sabbothol y capel .uchodeichyfarfod chwarterol arferol, o dan lywyddiaeth eu parchus weinidog, Mr. Evans, Pen-yr-Heolgerrig. Dechreuwyd trwy ganu mawl, adrodd Psalm gan Ebehezer Thomas, a gweddio gan W. Moses. Yna awd yn ol y rhaglen (pa un sydd yn rhy hir yw chyf- nodi). Cafwyd adroddiadau grymus ac effeith- iol iawn gan y plant, parai a ddàngosasant eu bocl wedi meistroli eu darnau. Hefyd, can- odd y cor amryw ddarnau yn ganmoliadwy iawn, o dan arweiniad W. Thomas (Gwilym Gwenallt), a'r Bccnd of Mope, q dan arweiniad David Jones. Terfynwyd trwy ganu emyn gan yr holl gynulleidfa, a gweddio gan Daniel Thomas o Penrhiwceibr ac aeth pawb adref wedi eu llwyr foddloni, ac yn dymuno caelun o'r fath etc yn fuan.—D. Wms. SILOA. —Cynaliodd yr egIwys uchod ) ei chyfarfod chwarterol dydd Stil diweddaf, am ddau o'r gloch, pryd y gwasanaethwyd gan y personau canlynol:-—J. Landeg, L. Edwards, W. H. James, J. John, G. 'Howells, D. Griffiths a. Miss Mary J. Davies, ac amryw ereill, a chyfeilliwyd yn wir fedrus gan Master W. J. Evans. Lly wyddwyd 1 y cyfarfod gan y Parch. Mr. Rees, Ynysgáu. Cafwyd cyfarfod dyddorol iawn.— Un oedd yno.

BWLCHNEWYDD. ''

GWAUNCAEGTJRWEN. I

BLAENAFON.

.PENARTH.

GLYN NEDD

\ LLANELLI...''

ANTHEM GOFFADWRIAETHOLI ROSSER…

Gwcithfa Halarn y Gadlys,…

[No title]

AT Y BEIKDB.","

Englyn !

Ersglynion

'Llinellau,

[No title]

Advertising