Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

"BWRDD IECHYD ABERDAR.

News
Cite
Share

BWRDD IECHYD ABERDAR. Cynaliwyd cyfarfod pymthegnosol y Bwrdd hwn ddydd lau diweddaf, pryd yr oedd yn bresenol Mri. RhfS, (v Cadeirydd.) W. Davies, D. David, T. Burn, T. Pugh, a'r Parch M. Phillips, Wedi darllen adroddiadau y gwahanol swyddcgion, gwnawd sylw o'r NUISANCES. Obarthed yr achwyniad yn erbyn Margaret Llewellyn, gofynodd y Cadeirydd paham yr oedd ei hachos hi wedi cael ei nodi allan; y dylai y Bwrdd fol yn haelfrydig, yn gymaint a bod Iluaws o achosion cyffelyb yn y gymyd- ogaeth. Dywedai Mr. Burn fod canoedd o achosion. Sylwodd y Surveyor fod y tail nosol yn achos Mrs. Llewellyn yn cael ei adael yn yr ardd, a bod dwfr yn ei gario oddiyno i'r heol, a'i fod felly yn dyfod yn nuisance i ereill. Credai y Cadeirydd ei fod yn achos eithriadol, a rhoddwyd gorchymy n am y rhybydd arferol. Sylwai Mr. Pugh mewn perthynas i'r slaughter house, ei fod ef yn ei ystyried yn ddoethineb ar ran y Bwrdd i ganiatau trwydd- ed; fod lladd dai ereill yn eisiau, yn gymaint a bod yn lladd-dy cyhoedd yn rhy fychan. 0 barthed i'r Afon Dar, nad oedd holl dwlcod moch y gymydogaeth yn gymaint o nuisance ag oedd yr afon. Darllenwyd llythyr oddiwrth Ann Jones, Cwmbach, yn aeh wyn fod Daniel Jones yn taflu budreddi o'i ladd-dy i'r nant, yr hyn, meddid, oedd yn nuisance mawr. Dywedai y Cadeirydd y gellid yn hawdd wella hyny. Fod yn rhaid iddo symud y cyfryw mewn llestri i le priodol, yn unol a'r cyfreithiuu neillduol, copi o'r rhai a orchymynwyd ei roddi i Mr. Jones. GOLEUO HIRWAUN. Darllenwyd llythvr oddiwrth Mr. John Aubrey, Ysgrifenydd Cwmni Gas Hirwaun, yn hysbyau, o barthed yr achwyniadau nad oedd y- lamps wedi cael eu goleuo ar yr adeg neillduol, mai yr achos oedd newid y retorts. Modd bynag, yr oedd y nosweithiau hyny yn deu, acnid oedd dim achwyniadau wedi cael eu gwneud gan fobl Hirwaun. 0 barthed y pris, yr oedd y cwmni wedi ymgymeryd a'u goleuo am yr un bris a'r Hen Gwmni, sef 93 3s. y lamp yn flynyddol; ond oherwydd com- petition, eu bod yn cael eu goleuo yn awr am bris annheg. Fod 93 3s. y lamp yn llai na lleoedd o'r un faintioli, ac nas gallai Cwmni Hirwaun fforddio eu go:euo am lai. Gobeith- ient y byddai yr eglurhad hwn yn foddhaol gan y Bwrdd. Derbyniwyd archiad o'r Swyddfa Rhyfel am .£500, sef rhan o'r swm dyledus am surveyad diweddar y plwyf. Gorchymynwyd ei fod i'w ohirio. LAMPAU YCHWANEGOL. Mr. Phillips, yn unol a rhybydd a roddodd yn y Bwrdd blaenorol, a gododd i gynyg fod lampa ychwanegol i gael eu gosod i lawr yn Davies Street, Aberaman. Sylwodd fod pwyllgor wedi ei benodi flynyddau yn ol i ystyried goleuo Aberaman, ac yr oeddynt wedi eynyg fod lamp i'w gosod yn Davies Street, ond oherwydd nad oedd prif bibau y gas wedi cael eu gosod i lawr yr aaeg hono, i'r cynygiad hwnw syrthio i'r llawr. Yn awr fod pibau wedi eu gosod i lawr, ac nis gallai neb wadu nad oedd eisiau lamp yn fawr yn y lie. Yn ystyried fod rhyw 35 neu 40 o dai-feddianwyr wedi gwario rhyw 200p. neu 3' 0p. mewn gosod yr heol yn briodol, yr oedd yn credu fod gan- ddynt hawl ar y Bwrdd, ac yr oedd efe yn eynyg fod lamp i gael ei rhoddi .yno. Trwy fod Mr. Phillips yn un o'r Cwmni Gas New- ydd, hysbyswyd ef gan y Clerk ei fod yn hollol allan o le with gynyg hyny. Dywedai Mr. W. Davies fod y pwnc o oleuo yr holl dref yn gofyn ystyriaeth. MORGAN STREET A'R GADLYS STREET. Dywedai Mr. Pugh et fod yn y cyfarfod dlweddaf wedi rhoddi rhybydd y buasai yn galw eylw y Bwrdd at y ddwy heol hyn. Fod ty ar ffordd mynedfa i'r ddwy heol, ac felly Bad oedd y mynedfeydd iddynt ond llwybr cul rhwng dau dy. Mr. W. Davies Y mae dwy fynedfa, a'r rhai hyny yn ddeg ar-hugain neu ddeugain troedfedd o led. Dywedai Mr. Pugh ei fod ef yn siarad am y brif heol sydd yn arwain o Aberdar i Hirwaun. Nad oedd y fynedfa ond deg neu ddeuddeg troedfedd, yr hyn oedd yn rhy gul. Yr oeddid wedi ei hysbysu ef fod perchenogion y tai yn Gadlys- street wedi gofyn am gael y ty yn y fynedfa wedi ei dynu i lawr, er gwneud mynedfa bri- odol. Ei bod yn. annheg i ofyn i'r perchenog- ion tai am fyned i'r draul, ei bod yn ddigon iddynt hwy i ffurfio yr heol Nid oedd efe yn gwybod a oedd gan y Bwrdd hawl i ofyn i'r perchenogion tir i brynu y cyfryw dai. Dywedai y Cadeirydd nad oedd gan y Bwrdd allu i wneud hyny, ond fod ganddynt hawl i'w brynu eu hunain i'r dyben o ledu yr heol. Mr. Pugh: Cyn i'r heolydd hyn gael eu ffurfio, dylasai y Bwrdd fynu gweled fod mynedfeydd priodol yn cael eu gwneud gan berchenogion y tir. Yr oedd wedi clywed fod Mr. Wayne wedi addaw prynu y ty yn Gadlys-strset wedi ft perchenog tarw. Fod y perchenog wedi marw yn awr, ond fod Mr. Wayne wedi marw ol flaen. Credai pe buasai Mr. Wayne wedi cael byw y buasai yn cyflawni ei addewid; ond yn awr, os nad oédd gan y Bwrdd hawl i orfodi y Cwmni i wneud hyny, gobeithiai y buasent yn ceisio dylanwadu amynt i'w brynu a'i dynu i lawr. Yr oedd efe yn cynyg fod i'r Bwrdd ofyn i Gwmni y Gadlys am wneuthur I mytietlfa btiodol i'r heol hono. Credai y Cadeirydd y dylai Mr. Pugh eirip «i gynygfed yn eglurach, beth yr oedd efe am i'r Bwrdd ei wneud. y Protebtfai Mr. Davies yn etbyn ylath gy- nygiad. Tr eedd lleoedd ereill llawn eyn- I ddrtrg a Gadlys- etreet., 0 barthed i hono yr aadd dau fynedfa iddi dbides, sef o Dowlais-st. gcOxford-street Yx oedd Cwmni y Gadlys yn foddlon aHerthu leaks y ty, rhyw ddwy neu dair punt yn y flwyddyn, os buasai i'r bobl brynu y ty. Dywedai y Oadeirydd fod v Bwrdd weai clywed fod y ty wedi el brynu i'r dyben o'i dynu i lawr. Nid oedd efe yn ei ystyried yn galedi fod i'r perchenogion ei brynu a'i dynu i lawr. Mr. Davies a ddywedai y byddai yn 40p. neu 50p. o golled i'r cwmni wrth roddi i fyny y lease Fod y gwrthwynebiadau hyn yn cael eu codi gan Rhys Etna. Jones, a bod Mr. Pugh yn eu dwyn yn mlaen er mwyngwneudei hun yn boblogaidd. Mr. Pugh a ddywedai nad oedd yn iawn i Mr. Davies ddyfod a'r fath bethau i'w wyneb. Ei fod ef wedi dwyn y mater yn mlaen o ddy- ledswydd. Fod deisyfiad wedi cael ei wneud ato i'w ddwyn yn mlaen cyn i Mr. Jones ddy- fod yno i fyw. Fo i Mr. Davies yn gwybod fod deisyfiad wedi cael ei wneud fwy na,- un- waith i brynu y ty i fyny. Mr. Davies: Y mae hyny yn anwiredd. Mr. Pugh A. wad- wch chwi na fu neb personau yn gofyn i chwi, fel cynrychiolydd Cwmni y Gadlys, i dynu y ty hwnw i lawr? Dywedodd y Cadeirydd el fod yn rhwym o ofyn iddynt i roddi i fyny y ddadl nes yr elent allan. Nad oedd yr un cynygiad o flaen y Bwrdd; ac os oedd y trigolion yn teimlo y ty dan sylw yn anghyfleusdra, mai eu lie oedd dyfod o flaen y Bwrdd. Wedi i Mr. Pugh gvfeirio drachefn at addewld y diweddar Mr. Wayne o barthed tynu i lawr y ty, dywedod d y Cadeirydd ei fod ef yn ei ystyried yn beth beius iawn i ddwyn yn mlaen addewidion dynion wedi iddynt farw, yn enwedig gan nad oedd dim yn ysgrifenedig. Mr. Pugh: Nid wyf yn gwnetid hyny o un anmharch i'r diweddar foneddwr. Mr. Davies: Yr ydych yn ddadleuydd neillduol i Rhys Etna Jones. Mr. Pugh: Yr ydych yn dy- weyd anwiredd, ni siaredais erioed a'r dyn. Ar hyn cododd y Bwrdd.

[No title]

CYFARFOD CYFFREDINOL GLOWYR…

YSTRADGYNLAIS.-

[No title]

CREULONDEB ANWARAIDD MENYWOD…

RHAGORIAETH DIRWEST A DIR-WESTWYR.

Y DDAEARGRYN DDINYSTRIOL YN…

PETHA.U HYNOD. 1

Advertising