Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

EVAN GWYNNE;

News
Cite
Share

EVAN GWYNNE; Neu, y Dyn a dorodd ei Ardystiad. Y BROFEDIGAETH. Yn mhen oddeutu dwy flynedd wedi y bri- odas, anrhegodd Mrs. Gwynne ei phriod a phlentyn prvdfertb, yr hwn a ychwanegodd yn fawr at eu dedwyddwch blaenorol. Bachgen ydoedd, a galwyd ef yn David Morgan Gwynne Yn mhen tua daufis penoerfynwyd cael Mr. Hughes, y gweinidog, i'r ty i fedyddio'r baban, oblegid nad oedd iechyd Mrs. Gwynne yn can- iatau iddi fyned i'r capel. Nid oedd Mr. Hughes yn ddirwebtwr, ni fu erioed, yr ydoedd mewn gwtb o oedran pan dorodd y diwygiad dirwest tl ailan yn Nghymru, Un parchus iawn yn ei ardal oedd y parchedig Hughes o'r Demil ystyrid ef gan bawb a'i adwaenai yn un o weinidogion eymhwys y Testament New- ydd, a bu ei weinidogaeth yn fendithiol i droi llaweroedd oddiwrth anwiredd. Pregethodd lawer iawn yn erbyn llygredigaethau yr oes yr oedd yn byw ynddi, yn enwedig yn erbyn meddwdod. Er nad oedd Mr. Hugbes yn ddirwestwr, eto nid ydoedd yn myned i dafarn unrhyw amser. Yr oedd yn yfed ychydig win yn awr ac eilweitb ac felly gan y gwyddid hyny am Mr. Hughes, arhag cae! eu hystyried yn ddiffygiol mewn rhoddi crcesaw digonol i'w parchus weinidog ar y cyfryw achlysur, anfoN- wyd am botelaid o win ond penderfynodd Mr. a Mrs. Gwynne nad oeddynt hwy i yfed dim o hono. Daeth y noswaith apwyntiedig, a daeth Mr. Hughes a dau o'r diaconiaid gydag ef, ac awdtrwy y gwasanaeth mewn symlrwydd a difrifwch. 0 mor daer y gweddiau gwr Duw am i Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, i fod yn Dduw i David Morgan. Dadleuai addewid y cyfamod Abrahamaidd ar ei ran, a chyflwynai hwynt fel teulu bychan i ofal Arglwydd y Uu- oedd. Nid ffurf oer a difywyd oedd y gwas- anaeth y noswaith hono, ond yr oedd bywyd a gwres ynddi. Wedi gorphen y gwasanaeth, a decbren ym- ddyddan, yn mhen yehydig deuwyd a gwin i'r bwrdd, a llanwyd gwydraid i Mr. Hughes y gweinidog, a phob o wydraid i'r ddau ddiacon oedd wedi dyfad gydag ef, achymhellwyd Mr. a Mrs. Gwynne i ymuno trwy gymeryd pob o wydraid. Dywedai un o'r diaconiaid fod Iesu Grist yn yfed gwin, ac mai troi y dwfr yn win oedd ywyrth gyntaf a gyfliwnwyd ganddo, ac felly trwy y pethau hyn a'u cyffelyb, liwydd- wyd i gael gan Mr. Gwynne i yfed gwydraid o win. Gwnawd byny mewn ychydig amser, iJud er mai gweithred fechan ydoedd, bu y can- lyniadau yn faith a gofidus ond er mor fawr y brofedigaeth gwrthsafodd Mrs. Gwynne hi, a gorchfygodd nid edrycbodd hi ar y gwin. Bu Mr. Gwynne mewn helbul meddwl mawr ar ol hyn yr ydoedd fel llong yn yr ystorm, yn cael ei thaflu o ochr i ochr; weithiau byddai yn cyfreithloni ei ymddygiad a darnau o ad- nodau, yn oghyd ac esiamplau dynion da a duwiol, yn enwedig esiamplyr hybarch Hughes y gweinidog. Bryd arall byddai yn rhoddi barn o gondemnad arno ei hun fel un llwfr ac addifad o wroldeb fod ei wraig wedi profi ei hun yn well defuydd nag ef: ac fel hyn yr oedd yn fyd blin arno. Daeth ami un i wyb ud am yr helyct, a .byddai ambell i ddirwestwr gorselog yn edrych yn wgus arno. Ac o'r tu arall, cynyrchodd yr helynt law^nydd yn mhlith gelyuion dirwest. Yn mhen ychydig wythnosau wedi yr am- gyichiad a nodwyd, daeth y si allan fod Jabes Pugh, un o aeiodau y Demi, wedi meddw;, a bu sylw ar ei achlis yn cghyfarfod y brodyr, a ptlecodwyd ar Mr. Gwynhe, yn nghyda'r hen ddiacoa o'r euw Edward Oliver, i fyued i ym ddyddan a Jabes yn rghylch yr hyn y cyhudd- id ef o'i hvrwjdd, ac felly y bu, a chymerodd yr yrnddyddan canlynol le :— Oliver.-Boreu da i chwi Jabes, tebyg eicb bodyn gwybod neges Mr. Gwynne a minau. Jabes.-Na yn siwr, waeth i mi gydnabod fy anw) bodaeth ar unwaith, uid ydwyf yn gwtbod. Oliver.—Gwyddoch fod cyfarfod y brodyr nos Lun diweddaf, a daeth rbyw un a chwyn yn eich erbyn chwi yno; dywedai fod y si allan eich bod wodi yfed yn bur drwm fel y dywedir, a gosodwyd ar Mr. Gwyune a minau i ddyfod i ymddyddan a chwi yn nghylch y cyhuddiad. Jabes—Oh, yr ydych am fy nghyhuddo o fud yn feddw mi dyb wn. Gwycne.—We!, a dyweyd y gwir yn blaen, dywedir eich bod wedi meddwi nos Sadwrn y pay diweddaf. Jabes.—Oh, felly wel dywedaf yr holl helynt i chwi mewn ychydig eiriau. Aethym i nol y pay ddydd Sadwrn, ac aethym i a John Harris i dafarn y farchuad i newid ac i ratiu yr ariao, ac yr oeddem yn gorfod talu swllt i wr y ty am newid, a chytunodd John Harris a minau i gael gwerth y swllt o win, ac yfasom ef rhyngom cododd hwnw i'm pen ac effeith- iodd ychydig salwch arnaf. Gwynne.—Ni ddylasai dyn fel chwi yfed gwin mswn tafarn ar un cyfrif. Jabes.—Gwin yw gwin lie bynag yr yfir ef, 'ac nid yw ei yfed mewn tafarn yn ei wneuthur yn fwy meddwol na'i yfed yn y ty gartref, na'i yfed yn cghwmni John Harris yn waeth na'i yfed yn nghwmni Mr. Hughes y gweinidog. Darfui'r saeth oddiar fwa Jabes gyrhaedd •cydwybod Mr. Gwynne ni allodd ef ddywed- yd yr un gair yn ychwaneg ar y mater, ond ymaith ag ef, gan adael rhwng Edward Oliver ajabes Pugb.

[No title]

\BEIRNIADAETH EISTEDDFOD CYDWELI,…

[No title]

[No title]

r' GAIR 0 AMERICA.

[No title]

URDDO BEIRDD. rr.,