Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

If RHYFISIJ.

News
Cite
Share

If RHYFISIJ. Cymerodd damwain le ddydd Mawrth diweddaf ar y reilftordd yn agos i Critot, a hyny i gerbydres oedd yn trosglwyddo milwyr. Cafodd 15 eu lladd, 15 arall yn anobeithiol, a 100 wedi eu niweidio fwy neu lai. Yr ydym yn cael nad oes dim gwirionedd yn y chwedi a daenir fod y Cadfridog Yon Moltke wedi cael ei ladd. Bwriedir galw allan pob dyn sengl rhwng 21 a 40 mlwydd oed yn Ffrainc. Y mae pedwar cant o Brwsiaid wedi cymeryd Laferte, ac yn gosod treth ar yr holl wlad o gwmpas. Y mae y swyddogion Ffrengigyn Affrica yn cynyg fod y milwyr dan eu gofal hwy yno, 37,000 mewn nifer, i gael eu galw i Ffrainc er gweithredu yn erbyn y gelyn. Y mae Count Bismarck, mewn hysbysiad o Ferrieres, yn tystio nad oedd dim gwirionedd yn yr ymddyddan a fu rhwng y Brenin Wil. liam a'r Amerawdwr Napoleon, yr hwnaym- ddangosodd yn y Times. Mai ffrwyth dychy- myg yn unig ydoedd. PARAGUAY. Y mae yn awr bron chwech mis er pan y daeth rhyfel maith y Weriniaeth Para- guayaidd i derfyniad, a hyny trwy farwol- aeth Lopez. Gan i'r rhyfel bwn dynu cryn sylw yn Ewrop, am ystod pum' mlynedd o amser, ni ddylem adael i'r canlyniadau o hono fyned heibio yn hollol ddisylw, hyd yn nod yn y eyfnod presenol. Darfu i'r Cyngreiriaid a gariasant y rhyfel yn mlaen er rhoddi terfyn ar deyrnasiad Lopez, sef Brazil, Gweriniaeth yr Argentine, a'r Gweriniaeth Uruguay, amodi a'u gilydd i beidio eymeryd unrhyw gyfran o'r diriog- aeth, ond i wneud Paraguay i dalu costau y rhyfel. Ond cariwyd y rhyfel yn mlaen cyhyd ag y gallodd Lopez lusgo poblog- aeth wrywaidd Paraguay—o'r 10 i 70 mlwydd oed, i'r ymgyrch—a chollwyd pedwar ar bymtheg o bob ugain o honynt. Pan y terfynodd y rhyfel, nid yn unig yr oedd Paraguay heb adnoddau, ond hefyd bron heb boblogaeth; a chan nad oedd un- rhyw obaith i wneud i'r ychydig druein- iaid gweddilledig dalu, yr oedd lie i gasglu y buasai y galluoedd Cyngreiriol yn rhanu y diriogaeth rhyngddynt. Erbyn hyn, modd bynag, yr ydym yn cael fod y Cynghreir- iaid wedi cario allan eu bwriad gwreiddiol o beidio meddianu v diriogaetb, orid gadael i'r trueiniaid gweddilledig lywodraethu eu hunain heb unrhyw faich o ddyled ar eu cefnau, tra y mae y Cyngreiriaid wedi bodd- loni ar roddi i lawr yr hwn oedd yn aflon- yddu ar eu heddwch. Y mae gan Para- guay felly i ddechreu o newydd. Ei hunig obaith ydyw ymfudiaeth o Ewrop; ac ond odid na bydd ei hadnoddau cyfoeth- og yn gyfryw ag a dyn sylw ymfudwyr. RHUFAIN. Nid yw Rhufain mwyach yn eisteddle poleticaidd y Babaeth, ond yn brif ddinas Itali unedig. Y mae y pleidleisiad a gy- merodd le ddydd Sul diweddaf, yn y ddinas a'r talaethiau, yn brawf diamheuol fod y Rhufeiniaid yn derbyn penaduriaeth y Brenin Victor Emmanuel, canys wrth wneud hyny y maent yn dyfod yn ddinas- yddion Italaidd rhyddion. Ni thiciai pro- testiad dystaw yr offeiriaid, ond cyhoeddai Rhufain ei hun trwy bob llais rhydd yn brif ddinas y genedl. Am y tro cyntaf yn lianes y byd, y mae Rhufain yn perthyn i Itali. Yn ystod llawer canrif perthynai Itali i Rufain; ond y mae wedi cael ei gadw i'n dyddiau ni i weled y chwildroad wedi dyfod o amgylch i greu cenedl Ital- aidd a Rhufain yn brif ddinas iddi. Y mae llawer wedi gweled yr angenrheidrwydd am yr undeb Italaidd hwn, ac wedi hir- aethu am dano, ond bellach y mae wedi ei gael, a hyny bron yn ddiarwybod. Dywed newyddiadur Italaidd fod Gari- baldi wedi ei ryddhad, wedi ffoi o Ynys Caprera i Ffrainc. Bernir y bydd iddo gynyg ei wasanaeth i'r Weriniaeth yno.

Advertising

CAPEL ALS, LLANELLI.

EISTEDDFOD ABERHONDDU.

CALFARIA, CLYDACH.

EISTEDDFOD Y BABELL, 5 CWMBWRLA.

Advertising