Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

-I Llofruddiaeth Cwmaman ;

News
Cite
Share

I Llofruddiaeth Cwmaman Y TRENGHOLIAD. ] Dydd Gwener diweddaf cvnaliwyd y eyd- ] chwil gohiriedig ar achos Richard Ellis, yr I hwn a lofruddiwyd yn Cwmaman y nos Said [ wm blaenorol. Y tyst cyntaf a holwyd oedd y bachgenyn William Jenkins, ond nid oedd dim o bwys yn ei dyetiolaeth yn ychwanegol i'r hyn a roddodd yn flaenorol. Dywedodd y tyst nesaf, sef Caleb Jenkins, ei fod wedi myned i'r ardd, a chael Morgan Richards a Richard Ellis ar y llawr; iddo weled Richards yn rhoddi dau ergyd i Ellis a'i ddwrn; mai Morgan oedd yr uchaf, ac fel yr oedd efe yn ei dynu oddiar gefn Ellis iddo roddi kick iddo. Iddo ei gymeryd allan, a'i adael yn yr heol, ac na welodd efe Richards wedi hyny y noson hono. Martha Bowen, y weddw gyda'r hon yr oedd Ellis yn byw, a ddywedai ei bod wedi bod yn weddw am dri neu bedwar mis; ei bod yn adwaen Ellis er's chwe' mis, ei fod yn lletya gyda hi cyn i'w gwr farw, a'i fod wedi lletya gyda hi hyd ei farwolaeth y nos Sadwrn blaenorol Mai y tro diweddaf y gwelodd hi ef oedd yn shop y Co-operative yn Cwmaman, oddeutu 8 o'r gloch y noson hono; ei fod yn y shop pan yr aeth hi i mewn. Iddi gynyg allwedd y drws iddo, ond iddo ddywedyd nad oedd arno eisiau yr allwedd, y gallai efe agor y drws hebddi, gan ychwanegu "Gwnaf yn burion a chwithau hefyd pan y deuwch i fyny." Na wyddai hi beth a feddyliai efe wrth hyny. Iddi hi fyned yn ol i'r shop, a chyfarfod a Hester Watkins, yr hon a ofynodd iddi fyned gyda hi i'w thy hi, yr hyn a wnaeth. Mor gynted ag yr aeth i dy Hester, iddo yntau ddyfod yno a churo wrth y drws, a dywedyd, "Deuwch chwi allan, a gwnaf yn burion a chwi." Iddi omedd myned, ac i Morgan Davies, yr hwn oedd yn y ty ar y pryd, fyned at y drws i'w rwystro i ddyfod i mewn, ae iddo el daraw ddwywaith. I Ellis fyned ymaith. Fod yn y ty Hester Watkins a'i gwr, Thomas Charles a'i wraig, a Benjamin Rees. I'r per- sonau hyn oil fyned allan gyda hi, ac i Richard Watkins gario y cwd a'r can iddi. Iddynt fyned gyda hi am fod ami ofn myned ei hunan. Fod ami ofn Ellis, am ei fod allan o'i hwyl yn y shop, ond na wyddai hi beth oedd y mater arno. Iddi roddi yr eiddo o'r shop yn y ty nesaf i'r Ivy Bush, am fod ami ofn myned i'r ty, trwy iddi glywed fod Ellis a chyllell a fhocer yn ei law. Iddynt fyned oil i'r dafarn. Richard Watkins alw am gwart o ddiod, ond i Morgan Davies fyned allan, ac iddi hithau aros i mewn. Iddynt ddyfod yn ol yn fuan a dywedyd Y mae pob peth yn iawn." Pan y gofynodd hi iddynt pa Ie yr oedd Ellis, iddynt ateb ei fod allan, ac yna iddi fyned i'w thy ei hun. Wedi iddi oleuo canwyll gwelodd waed ar hyd mur yr ystafell wely, yn gystal ag ar y dillad; gwelodd hefyd y poker dau y gwely, a gwaed ar hwnw. Na welodd hi y trancedig nes i'r heddgeidwad ddyfod ag ef i'r ty. Iddi gyfarfod a Morgan Richards yn y dafarn, ac iddo fyned gyda hi i'r ty, ac aros gyda hi I Morgan Davies ofyn i Morgan Richards A ewch chwi gyda'r fenyw hon, a chymeryd gofal o honi? rhoddaf i chwi gwart o ddiod." Nad oedd hi yn cofio yn sier a aeth efe allan at peidio cyn i'r heddgeidwad ddyfod yno. Pan yr aeth Morgan Davies allan o'r dafarn, iddo ddywedyd, "Af ac edrychaf allan a phan y daeth yn ei ol dywedodd,—"Yr ydym wedi ei roddi yn ddigon dystaw-neu y maa yn ddigon dystaw." I Hester Watkins ddy- wedyd wrthi ei fod ef yn weddw, ond ei bod yn deall yn awr fod ganddo wraig. Yr oedd yntau wedi dywedyd wrthi ei fod yn weddw, a'i fod yn talu ymweliadau carwriaethol a hi. Bod Hester wedi dywedyd, "Y mae yn gywilydd eich bod yn gwneud dim a Gwyddel, tra y gellwch gael Cymro fel Morgan." Ei fod (yn ddrwgdybus o bawb. Nad oedd dim rhyngddi hi a Will Dodd, ond ei fod yno y prydnawn hwnw. Nad oedd hi yn credu ei fod yn ddrwgdybus o Will Dodd, nad oedd ganddo yr un achos i fod; ac na wyddai hi ei fod yn ddrwgdybus o Morgan Davies. Bod Ellis wedi cynyg ei phriodi, ond nad oedd hi wedi addaw; ei fod wedi talu y rhent iddi y mis diweddaf, a bod y ty ar ei enw. Wedi cael ail dystiolaeth y meddygon, dy. wedodd Elizabeth Rowlands iddi fod yn yr Ivy Bush am haner awr wedi deg o'r gloch nos Sadwrn, ac iddi weled Martha Bowen yno, a Morgan Davies gyda hi. I Morgan Davies fyned allan, a Richard, Watkins, a Thomas Charles gydag ef, ac i dy Martha. Fod Mor- gan Davies wedi gofyn i Margaret Howells am ganwyll, ac hefyd am ryw offeryn i fyned gyd ag ef. I Kati Llechwen (Catherine Williams) roddi poker iddo, pryd yr aeth i'r ty, ac i'r ys- tafell wely, lie yr oedd Ellis o dan y gwely. Iddo ei daraw a'r poker, gan ddywedyd, "Tere allan y I Morgan Davies a Thomas Charles ymaflyd ynddo a'i lusgoo dan y gwely, a'i wthio i'r heol, ac i Morgan Davies ei gicio amryw weithiau. Iddo gael ei gario gan Tho- mas Jenkins, John Lewis, a Morgan Davies i'r domen ludw, ac iddynt ei gicio yno ar y llawr. Iddo gael ei gicio hefyd gan Dai gwr AIL Fod Ellis yn gorwedd ar y llawr ac yn gwaedu pan yr aeth Morgan i'r ty, a ehyn iddo ei daraw a*)r poker. Agorwyd y cydchwil drachefn ddydd Mawrth, ond ni dderbyniwyd dim tystiolaetb- au. Wedi i'r Coroner wneud casgUad o'r holl dystiolaethau, ymneillduodd y rheithwyr, ac wedi bod mewn ystafell ar eu penau eu hunain am ddwy awr, daethant a'r farn o lofruddiaeth wirfoddol yn erbyn Morgan Davies a Morgan Richards, y rhai sydd I sefyll eu prawf yn y Sedwn nesaf. Dydd Mawrth diweddaf hefyd cvnaliwyd eu prawf gohiriedig o flaen yr yaadon, pryd y cafwyd y tystiolaeth ychwanegol canlynol gan Maty Williams: Non Sadwrn am oddeutu 9 & gloch yr oeddwn yn myned i lawr i dy ty mam. Wrth glywed trwst aethum i dy Ri- chard Watkins. Gwelais y earcharor Morgan Davies yno, a Martha Bowen yn eistedd ar ei lin, a'i braich am ei wddf. Daeth y trancedig at y drws, a gofynodd i Martha am fyned adref. Atebodd hithau, "Mi ddeuaf mewn ychydig fynydau, ewch yn mlaen." Dvwed- odd yntau, "Deuwch ymaith gyda mi, a'r ymborth gyda chwi, dyna fyddai oreu i chwi." Dywedodd hithau, "Ni ddeuaf yn awr, gall- wch chwi fyned." Dywedodd gwraig Watkins, "Os daw yma eto, gwnawn yn burion ag ef," ac atebodd ei gwr "Gwnawn." Dywedodd Martha Bowen, "A ddeuwch chwi gyda mi, Morgan?" Atebodd yntau, "Deuaf, a setlaf ef." Aethant allan yn cael eu canlyn gan Richard Watkins a'i wraig Wedi ychydig ymholiadau pellach gan y naill a'r Hall, gohiriwyd y prawf o flaen yr ynadon am wythnos. Y manylion pellach yn ein nesaf.

Y RHYFEL.

AT GLEIFION ABERDAR, MERTHYR*…

Advertising