Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
FFRAINC.
FFRAINC. Y mae yn hysbys fod cyfraith Ffraine yn gorfodi llaw-weithwyr i anfon cynifer o blant dan 12 oed sydd yn eu gweithfaoedd i'r ysgol. Mae yr ysgol gyhoedd- us, wrth gwrs, yn ysgol Babaidd. Y mae Sais o'r enw Mr. Walker, yn byw yn St. Pierre, ac yn cadw jweithfa lasiau. Cymerwyd ef i fyny y dydd o'r blaen am beidio anfon dau lane o Saeson oedd yn ei weithfa i'r ysgol yn ol y gyfraith. Dadleuai yntau ei fod ef a'r plant yn Saeson ac yn Brotestaniaid, ac nad oedd rhieni y plant yn foddlon iddo eu hanfon i ysgol Babaidd. Ond ni fynai y llys wrando ar y ddadl hon, a dirwvwvd Mr. Walker i dalu 6 ffranc a'r costau. Dyma un enghraifft o'r hyn y mae gwaith y Llywod- yn sefydlu ysgolion ac yn gorfodi plant i fyned idd- ynt yn rhwym o arwain iddo. Anfonodd Baron Rothschild, o Paris, 10,000 o ffranciau i rieni y plentyn Mortara, er eu cynorthwyo i gymeryd mesurau cyfreithiol er cael eu plentyn yn rhydd o ddwylaw y Pab.
AMERICA.
AMERICA. Mor-bell ag y mae yn hysbys hyd yn hyn, yr oedd yr etholiadau yn troi o blaid y Republicans. Yn New York yr oedd y blaid hono wedi hethol 27 allan o'r 13 o aelodau Congres nesaf, ac wedi dychwelyd mwy- afrif mawr i'r Gymanfa. Y newydd diweddaf o Francisco ydyw, fod yr ym- fudiaeth i gloddfeydd aur yr afon Fraser wedi pcidio yn honol br on. Ni ddywedir pa betli yw vr achos. Pfrwydrodd berwedydd un o'r llusgfadau yn mhorthladd New York ar yr 6fed o'r mis hwn, trwy yr hyn y lladdwyd tri o ddynion, yr anafwyd un arall yn dost, ac y gwnaed y bad yn ysgyrion. Dychwelodd dyn ieuanc, 19 oed," mab i Mr. Francis Gouldy, marchnadydd wedi rhoddi ei fasnach i fyny, "dy ei dad yn lied lnvyr un noswaith, pryd y dywed- odd ei dad ychydig o eiviau Had chiverwon wrtlio ei ymddygiad. Aeth yntau i w ystafell, a phen- bw" r°^d y ar yr deniu. Ymarfogodd a ■WP Cylle11' a phistol, a dechreuodd ar ei orchwyl a"thln°^' *'r ystafeU lie yr oedd ei dad yn cysgu, e^ yn ei dalccn a'r fwyell; trodd wedi < 1st- ei fam, ac -archollodd hithau yr un modd ac < Hall y ^ny' cigyddiodd ei ddau frawd, un yn 14 a'r lafan t 6 oed, a'r ddw-v forwyn a gorphenodd y gyf- i 'y sa Kid oes^y saet^lU. a^an ei ymenydd ei hun a phistol. J ynt, °ncl gobaith gwan am adferiad pedwar o hon- < Y mae J plentyn ieuangaf, a'r ddwy forwyn. ] lam (Jebyg o wella. <
1 TWRCI.
TWRCI. ARABIA.—Y mae sefyllfa Arabia wedi dyfod mor derfysglyd fel y barnodd y Llywodraeth yn angen- rheidiol anfon yno 12,000 olilwyr. BOSMA.—O Bosma yr ydym yn clywed i tua 100 o'r Royabiaid, a 34 o'r Mahometaniaid i gael eu lladdyn y frwydr ddiweddar a fu rhyngddynt. Lladdwyd llawer o'r olaf, meddir, mewn gwaed oer; ac yr oedd Archoff'eiriad' Osjecani, yn Posavina, yn mysg y Cristionogion a roddwyd i farwolaeth. JEDDAH.—Cyrhaeddodd y dirprwywyr Prydeinig a Ffrengig i Jeddah ar y 12fed, yn y Cyclops. Ar ol clywed am eu dyfodiad, dychwelodd Nanrick Rasha yno o Mecca. Aeth y dirprwywyr Ffrengig i'r lan ar unwaith; arosodd y dirprwywyr Prydeinig yn y llong. Yr oedd tair o longau rhyfel Brydeiiiig yn angori gerllaw. PALESTIXA.—Dywedyr Union fod Llywodraeth Rusia yn sefydlu saith o orsafoedd yn Palrsfina i'u- chenadon a'i phererinion, ei bod yn adeiladu palas esgob, eglwys, trafnodd-dy, a dau ysbyty yc Jeru- sylem,a bod dau ysbjty arall i gael eu hadeiladu yn Jaffa a Bethlehem.
COCHIN CHINA.
COCHIN CHINA. Mae y Llywodraeth Ffrengig yu anfon ychwaneg o filvvyr i Cochin China, a cbadlywydd i'w harwaiu, dan brif lywyddiaeth y Llyngesydd Rigault. Creda rhai pobl, wrlb weled y darpariadau a wueir, fod yn meduwl Ffrainc i osod i lawr sail i sefydliad pwysig, os nadi ymerodraeth,yn eitbafy Dwyrain. Yroeddyr adran Vspaenaidd heb gyrhaeddyd ar yr 20fed o Fedi, ac felly yr oedd y rbyfelgyrch yn erbyn Hue, y brif ddinas, wedi cael ei obirio, er fod y deng niwrnod a roddwyd i'r llywodraeth i wneyd ad-daliad wedi dyfod i ben. Y mae (Unas Hue yu sefyll ar yr afon Hue, ac yn un o'r dinasoedd cad- arnaf yn y dwyrain, ac nid yw yr afon yn ddigon ond i lestri 'byeLain 1 nofio.
[No title]
Cyflog Teyrn-Dywysog Prwsia ydyw £360,000 y flwyddyn. Auit.-O'r lfwydddyn 1851 hyd 1857, y ddwy i fewn, cafwyd £ 53,939,552, o aur yn Awstralia, ac yn Califfornia £ 67,742,493. I ba Ie, wy's, y llyncwyd yr holl lwch melyn hwn ? Collwyd y liong rhyfel Ffrengig Theophile yn agos i Cadiz, a boddodd wyth o'r dynion oedd ar ei bwrdd. Y 78AIN O'R HIGHLANDERS.—Ymddengys fod y y gatrawd ysplenydd hon i ddychwelyd adref o'r India, os gellir ei hebgor, yn mis Chwefror nesaf. AUGLWYDD PALMI:RSTON YN FFRAINC.—Dywed Gohebydd y Press o Paris fod Argiwyddi 1'dmcrstcn a Clarendon yn Compiegne, yn ymweled ag Ymer- awdwr Ffrainc a bod rhai yn barnu mai eu neges yno oedd trefnu cynlluniau gyda'r Ymerawdwr, er mwyn dymchwelyd gweinyddiaeth Arglwydd Derby. Y mae hyny, pafodd bynag, a dweyd y lleiaf, yn lied annhebyg. Dn. BARTH.—Y mae Dr. Barth, y teithiwr Affri- canaidd, wedi cael ei anrhydeddu a'r ddwy lythyren, C. B.-Companion of the Bath. MORTARA.-Dywed papurau Paris fod holl alluoedd mawrion Ewrop wedi anion cais fod y bachgcn bychan Mortara i gael ei adfsryd i'w rieni, ond fed y Llywodraeth Babaidd yn parhan i wrthod. HOLLAND A JAPAN.—Mae Holland we..i penderfynu cynyg gwneuthur cytundeb newydd a'r hen gynghreiriwr, ymerawdwr Japan, yn cynwys yr un telerau ag sydd yn y cytundebau a wnaed a Brydain, Firainc, ac America. BONT FAWR VICTORIA, MONTREAL.Mae Meistri Peto, Brassey, a Betts, yn debyg o orpheny.bont fawr erbyn de- chreu yr Hydrefyflwyddyn nesaf; wedi hyny, bydd un linell gyson, ddidor, o reilSbrdd, yn rhedeg am yn agos i 1,200 o filldiroedd, o For y Werydd i Chicago. Mae y bont uchod yn cynwys 23 o i'waau, o 242 o droedfeddi bob un, ac un yn nghanol yr afon o 330 o droedfeddi. Ei hyd ydyw dwy 1illdir and 150 o droedfeddi; ac yr oedd 3,281 o ddynion yn gweithio withi ar y laf o Hydref diweddaf.
IIWERDDON.
IWERDDON. Y R O'MALLWYS.—Trfcddododd yr Arglwydd Gang- hellydd, Mr. Joseph Napier, ei farnedigaeth ar yr achos hwn, yn y Canghell-lys, yn Dublin, dvdd Sad- wrn diweddaf.—Bu yr achos yn cael ei ddadleu am I. ddiwrnod yn y llys, a chynhyrfodd ddyddordeb nid bychan trwy yr holl wlad. Cyfododd oddiar'ym- drechfa rhwng ewythr Pabaidd a modryb Brotestan- aidd am gael wyth o blant bychain a adawsid yn am- ddifaid o dad ac o fam i'w meddiant arnynt i'wmaqi. r oedd tad y plant yn Babydd, a'u mam yn Brostest- ant; ac wedi marw y ddau, rhoddwyd gofal y plant, gan fwrdd y gwarcheidwaid i'r ewythr. Ond ym- ddengys fod yr Anrhyd. Misses Plunked, chwiorydd esgob Tuam, wedi cynyg swm o arian yn fiynyddol at eu magu, ar yr amod eu bod yn cael eu trcsglwyddo i ofal y fodryb, Jane Robinson, a'u dwyn i fyny yn Brotestaniaid. Y fodryb a ddygodd yr achos i'r llys, a gorchymynoid yr Arglwydd Gangheilydd fod y plant, yn ol ei chais, yn cael eu trouglwyddo i'w gofal. BEDDGELERT.—Tachwedd 19eg, yn Nghapelyr An- nibynwyr, yn y He hwn, tradclodoiid y Parch. Robert Thomas, Bangor, ddarlith cldvddorol ar Fi'urflad y Ddaear;' y Parch. W. Ambrose, Porthmadog, yn y gadair. DINORWIG.—Ar y 19eg o'r mis hwn, fel yr oedd baehgen bychan, 13 oed, o'r enw E. J. Williams, yn myned at ei waith ar ben y cerbyd sydft yn rhedeg ar hyd y ftordd liaiarn i'r He uchod, syrthiodd i lawr rhwng y ceri, a gwasgwyd efi farwolaeth.
MARWOLAETH Y PARCH. D. ROBERTS,…
MARWOLAETH Y PARCH. D. ROBERTS, PONTFAEN. Nos Fawrth, Tacli. 16eg, bu farw y pregetbwr doniol a phoblogaidd hwn yn dra disymwth, ac er mawr alari bawb a'i hadwaenai. Gwir fod ei iechyd yn dirywio er ys mis- oedd bellach, a'i fod er ys wythnosau yn cael ei gyfyngu i'w dy, a bod ei afiechyd yn un peryglus, sef chvyddiad y galon eto coleddid gobeithion cryf gan ei holl gyfeillion yr adferid ef fel ag i fod yn ddefnyddiol mewn cylcli llai, am lawer o fiynyddoedd. Ond yn ddisyniwtli, siomwyd ein holl ddysgwyliadau. Rhifwyd efyn mhlith y marwol- ion, ac ehedodd ei ysbryd mawr i'r wlad y mae holl rai rag- orol y ddaear yn cael eu casglu iddi. Yr oedd ei farwol- aeth yn golled bwysig i'r Sir y perthynai iddi, ac i Gymru yn gytFredinol. Yr oedd yn ddyn annghynredin. Yr oedd ganddo feddwl cryf a diwylliedig, chwaeth bur a dyreh- afedig, a gwybodaeth helaeth a chyffredinoJ. Yr oedd yn dra chyfarwydd yn llenyddiaeih gyffredinol yr oes, ac yn sylwi gyda dyddordeb ar holl symudiadau y byd. Yr oedd wedi ymadfywio yn fawr fel pregethwr yn y blynyddoedd diweddaf, a byddai yn cael odfaon neillduol yn amI. Yr oedd ganddo lygad craff i weled teilyngdod mewn pregethwr ieuanc, a rhoddi bob nodded a chynorthwy iddo. Wedi bod yn pregetlm am tua 32 o fiynyddoedd, wynebodd ar angau a'r bedd, gan ddywedyd, Mae fy Ngheidwad gyda mi.' Claddwyd ef dydd LIun diweddaf, yr 22ain, yn Pontfaen. yn 68 mlwydd oed.
1_- -PRIODWYD,—.'""!Ii
1_- PRIODWYD,— 'Ii Tach. 20, yn eglwys Llanbedr, Ceredigion, gan y tra- pharchedig Ddeon Ty Ddewi, Mr. T. N. Evans, Troed- j'rliiw, Cellan, a Miss Mary Hughes, Bryngwyn, Conwil Gaio. Taeh. 12, yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, Wydd- grug, Mr. John Roberts, Prion, prcgethwr perthynol i'r enwad hwnw, a Miss Adams, mercli y diweddar Mr. John Adams, Cilcarn. Tacli. 17, yn E'im, ger Gaerfyrddin, y Parch. D. Rees, Llanelli, a Mrs. Phillips, Fountain Hall, Caerfyrddin. BU FARW,— ^Ta-cliwe<id 23, piyod Air. Sherborne, Oriorydd, 8ie., Tachwedd 19, Mr. T, Arthur, Lion Hotel, Llanbedr, Ceredisiot!, yn ddisyniwtli iawn. Tachwedd 12, ar ol yehydig ddyddiau o gystudd, Mr. vVilliam Price, Gin-shop, Llanyrnddyfri, yn <15 oed. Tachwedd 18, yn 58 oed, Mr. David Protheroe, Crydd, Heol-hwnt, Lianymddylri. Tach. 13, yn Bangor, Mr. John Charles Jones, mab i'r Parch. Charles Jones, Bettws, Abergele, sir Ddmbyeh, yn 27i,owL fu yn pregethwr gyda'r Methodistiaid Cal'fin- aiddjaros ddwy Hyne<id, ac yn neehreu y flwyddyn ddiwedd- at derbyiuwyd et yn i athrofa y cyfundeb hwnw yn y 13ala, He yr arosodd hyd ties y gorfodwyd ef gan yr elyn a'i dygood yinaith, sef y darfodedigaeth, i ymadael. Yr oedd yn ddyn ieuanc dealtgar, serclius, a thra gobeithiol; a theimiir galar gan bawb iL'i hadnabyddai ar ol ei golli. Taeh. 14. yn Oporto, John Breese, Ysw., Cyfreithiwr Pwllheli, mab y diweddar Barch. J. Breese, Caerfyrddin
Advertising
E TEMPERANCE HOUSE, ABEROAR. TjYMUNA JOHN GRIFFITHS, Ceidwad y Ty Di.- westol, yn 2, Dean Street, hysbysu ei Gyfeillion a'r cyhoedd, ei tuel wedi cytuno a phrit Gyhoeddwyr ac At.. grafiwyr Cymru i ivcrthu eu liyfrau. Y mae ganddo aiyi. ddo anirywiaeth o lyfrau Cymreig a Seisonig yn barod a gellir cael unryw lylr llenyddol neu gerddorol, ar vchycljjr o rybudd. ESBONIAD Y PAECII. JAMES HUGHES AR YR HEN DESTAMENT. A IL-AliGIlAEFJAD, gyda Yehwanegiadau a Diwyg. iadau. Dan oiygiaeth y Parch, ltoger Edward*, Wyddgrug. Pris Is. y lihan. Ar werih gan WALTER LLOYD, Swyddfa'r « Gwlad- garwr,' Aberdar. Newydd eu vyhocddi, pris Dwy Geiniog, CYWYDDAU I BED AIR 0 SIR. OEDD OYMiiU. 1. Sir Fon—gan Gv/erydd Viyllt. 1 I. Mor^anwg—vii o Ksyllt. III. Catrfyuidin—gan Gwilyni Mai. IV, Trelaldw> n—Jolo Trefaidwyn. Yin dd an go.-odd y Cywyddau hyn yn y Gwron Cymxei?, ynystod y flwyddyn ddiweddaf, nuwn atcbiad j naillft llall. Pwy bynag a ddanfono flacn-daliad am lianer dwsin rueu rag or, at yr Argraffydd, "William Thomas (GwilYm Mai), Bridge Street, Carmarthen," • dderbynia y eyfryw d*wy y Llytliyrdy yn ddidraul. 7-
[No title]
HcNAN-LADDiAD.—Uaddodd Mr. Cbeesham, mas- Bachwr glo, o Brighton, 70 ml. oed, ei hun dydd w "Gwener wythnos i ddoe, trwy ymdaflu ar draws y TheII, o flaen y gerbydres, ar y rheilffordd, rhwng Brighton a Portsmouth. Cafwyd un George Dixon, t, gwneuthurwr offerynau meintonol yn Southwark, boreu dvdd Llun diweddaf, yn gorwedd yn ei dy ei hun, wedi tori ei wddf ag ellyn. ROBERT OWEN.-Mewn cyfarfod a gynaliwyd gan fawrygwyr a chyfeillion y diweddar Robert Owen, yn Manchester, dydd Sul diweddaf, penderfynwyd anfon llythyr o gydymdeimlad at ei deulu, a phenodwyd pwyllgor i godi trysorfa er gwneyd rhyw goffadwr- iaeth barhaol am dano. DYGWYDDIADAU.—Dydd Mercher wythnos i'r di- weddaf, yn mhen tua dwy awr ar ol i'r Black Eagle' hwylio o Dover, gyda Thywysog Cymru a'i osgordd ar ei bwrdd am Ostend, cafodd un o'r peirianwyr ei ladd, trwy fyned i afael yr ager-beiriant.—Dydd Sul diweddaf, aeth ty un Mr. Ball, yn Llundain, ar dan, a llosgwyd ei wraig fel y bu farw. BANC-NODAU. FFUGIOL.—Dygwyd dau farwn Rws- iaidd, a dau o ddynion dyeithr erelll ger bron y Maer yn Llundain dydd Sadwrn, dan y cyhuddiad o fod yn faddianol aV dri o lafnau dwfr i argrafFu banc- nodau Rwsiaidd. Profwyd fod y pethau hyny yn eu meddiant, a gohiriwyd eu haroliad. GWLEDD I MRI. BRIGHT A GIBSCX YN MANCHES- TER.—Trwy fod cymaint o ymofyn am docynau i'r cyfarfod mawr dyfodol yn Manchester, mae y pwyll- gor wedi penderfynu ei newid o fod yn wledd i soiree, Bydd llawr y Free Trade Hall, felly, heb ddim byrdd- au ar hyd iddo, yn ddigon i gynwys o leiaf 3,000 o ddynion. Pris y tocynau yw 5s. bob un, ac yr oedd tua 2,500 wedi eu cymeryd diwedd yr wythnos di- weddaf. TELEGRAPH Y MOR COCH A'R INDIA.—Y mae y cy- tundeb a Chwmpeini y telegraph hwn wedi cael ei arwyddo gan Arglwyddiy drysorfa, acy mae yn cael ei gweithio gyda phob prysurdeb. Dysgwylir y bydais yn alluog i'w gosod i lawr o Suez i Aden yn y gwan- wyn dyfodol. I' Y mae un Mr. M. Cely Trevilian wedi ysgrifenu a chyhoeddi cvfrol fawr o 580 o dndalenau wyth-plyg i brofi mai Louis Napoleon ydyw 'bwystfil' llyfr y Dadguddiad. GWEKWYN MAWN PINAU.—Y mae M. Llain, Pro- ffeswr Fferylliaeth yn Ngholeg Besancon, wedi profi fod cryn swm o arsnic yn y gwifr o ba un y gwneir pinau cyffredin.