Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

V .\ V DADL T GLO. "J

News
Cite
Share

V V DADL T GLO. J Yn gymaiat a bod y ddadl sydd rhwng perehenog- ion gweithiau glo Cymru a Gogledclbarth, Lloegr, wedi cr. y fath gynhwrf, a bod y treulyddion yn gyffredinol yn edrych yn bryderus am gynyreh y prawfion a wneir gan swyddogion y Llywodraeth, yn ttrynu ond can lleied a allant yn rhagor, feallai mai nid annyddorol fyddai yehydig o eiriau er dangos pa fodd y mae y mater yn sefyll ar y pryd presenol. Y mae perchenogion glo yn Ngogledd Lloegr, wedi bod er ys cryn amser bellach yn haeru, ac yn ymdrechu profi, fod eu glo hwy yn rhagori ar ddim glo arall a godir yn y deyrnas-ei fod ar yr un pryd yn well ac yn rhatach; ond hyd yn hyn yn anffodus, nid ydyw y prawfion a wnaed wedi cael eu dwyn yn mlaen yn ddigon anmhleidiol i benderfynu y ddadl. Mae y perchenogion Cymreig, o'r ochr arall, yn awyddus am gael prawf teg, ac yn foddlon i sefyll wrth y canlyn- iadau. Ymddengys i gyfres o brawfion gael eu gwneyd yn Newcastle, o flaen dau swyddog a benod- wyd i'r perwyl gan y Morlys ac ar yr 21ain o Hyd- ref, ymddangosodd paragraph yn y Times yn datgan fod glo y Gogledd yn well na'r glo Cymreig. Gellir ei losgi heb fwg, ae y mae yn llai niweidiol i bibellu y berwedydd naglo Cymru.' Pan welodd y iMeistr- iaid glo yn Nghymru y paragraph hwn, yr oeddynt yn teimlo, wrth gwrs, fod cyhoeddi y cyfryw beth yn hollol annheg hyd nes y caent hwythau gyfleusdra i wneyd prawf ar yr un glo, a dangos ei ragoriaethau. Ysgrifenodd Mr. G. Grant Francis yn ddioed at ys- grifenydd y Morlys, yn gofyn a oedd yr hyn a gy- hoeddwyd yn y Times yn gywir, ac os oedd, yn ma le oedd y ffeithiau swyddogol ar ba rai yr oeddid wedi sylfeini y pendertyniad 1 Yr atebiad a gafwyd i hyn ydoedd, nad oedd yr Arglwyddi Ddirprwywyr ddim yn ystyried eu hunain dan rwymau i roddi eglurhad, nac i ddatgan barn ar bethau a gyhoeddid yn y papur- au heb awdurdod eu harglwyddiaethau. Yn fuan ar ol hyny, cafodd Mr. Bruce, A.S., y llythyr a gy- hoeddasom yr wythnos o'r blaen, oddiwrth y Llyng- esydd Milne; ac ysgrifenodd Syr John Packington ato wedi hyny i fynegu nad oedd un penderfyniad wedi, nac i gael ei wneyd ar y mater heb gael prawf teg, a rhoddi pob hysbysrwydd i bob un o'r pleidiau. Ysgrifenodd Mr. Hussey Vivian, A.S., i'r un perwyl. Ac yn awr, y lie y mae y cwestiwn yn aros ydyw hyn r- Y mae pobl y gogledd wedi bod mewn traul a thrafferth i brofi fod eu glo hwy yn dda, ac y mae meistriaid a pherchenogion glo Cymru yn cynyg profi, ac yn credu y profant, fod eu glo hwy yn well. Dyg- odd pobl Newcastle eu prawnon yn mlaen yn lied ddirgelaidd; y mae Cymru yn galw sylw yr holl wlad at y mater yn fwy cyhoeddus ac y mae y Haith hon, debygem, yn llefaru yn lied uchel fod gan y perchen- ogion Cymreig gryn lawer o ymddiried yn rhagor- iaeth eu glo. Afreidiol ydyw crybwyll fod y ddadl hon yn un o'r pwys mwyaf, nid yn unig i löwyr a meistriaid Morganwg a Mynwy, ond i holl Gymru yn gyffredinol; a bydd llygad yn graffus ar ysgogiadau y ddadl, a'i ysgrifell yn barod i fynegu i'w ddarlleu- wyr yr hyn a wel ac a glywo.

EIN HYNAFIAID.

. AT OLYGYDD Y GWLADGARWR.

YSTRAD-DYFODWG.

ADDYSG CARTREFOL.

,,IAITH Y CYMRY.