Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
- RHEOLAU I OHEBWYR.
RHEOLAU I OHEBWYR. 1. Ni chyhoeddir dim os na fydd yr ysgrifenydd yn ym- ddiried i ni ei enw priodol; nad er mwyn ei gyhoeddi, eithr er mwyndyogelwch. 2. Nid ydym yn ymrwymo i ddychwelyd ysgrifau na chant eu cyhoeddi. 3. Nad ydym i gael ein hystyried yn gyfrifol am wa- hanol syniadau nac arddulliau ein Gohebwyr. 4. Ysgrifener yn fyr, parchus, ac i bwrpas. 5. Ni chyhoeddir banesion Priodasau, &e., heb i'r'ys- grifenydd fod yn adnabyddus i ni, neu yr banes wedi ei law-arwyddo gan rywun adnabyddus a chyfrifol. Gan fod cyhoeddi yr holl ohebiaethau lluosog a dder- liyniwn yn annichon, gyda maint presenol ein Papyr, ym- diechwn gyfleu SYLWEDD rhai ysgrifau yn ein Nodiadau.
AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. JORWERTH CLWYD.-Nid yw yr Englynion i'r Rhyfel yn gywir o ran cynghaneddion. Mae gwall neu ddau yn eich. Englyn i'r Rhosyn hefyd. A welsoch chwi Englyn Taliesyn o Eifion i'r Rhosyn? Ychydig a J all gyfansoddi ei debyg. Dyma to :— ""t Yr harddaf yn yr ardd ferth-wyt, Rosyn, Mewn trwsiad didrafferth; Briodfab y lili brydferth, Aroglydd balch, arglwydd y berth. GOMER MORGANWG.-Diau fod genych gasgliad gwerth- fawr o hen ganeuon; ond, nid all un o bob deg o'n darllenwwr ddeall yr orgraff. Mae Can yr I Ysbryd yn ffraeth, ond pwy o Forganwg a all ei deall ? LLWCH LLUDW.—Er hoffed ydym o'r Delyn, nis gallwn gyhoeddi eich Englyn i'r chwareu a glywsoch chwi ami, am nad oes yr un cais at gynghanedd ynddo. Mae rhifedi y sillau yn iawn, a dyna'r cwbl. CYFAILL.—Mae syniadau prydferth iawn yn eich marwnad ar ol y bachgen o Ddowlais; ond nid ydych wedi bod yn ddigon gofalus am gywirdeb iaith na mydr. Er enghraiff't, dyma wedd yn odli gyda wedd:— *j*4 Yr Toan a welwyd yn harddwych ei wedd, A welwyd yn angau yn newid ei wedd. Y mae genych hefyd lfaw yn odli gyda lawr-gyd gyda Crist-chwi yn odli deirgwaith gyda'u gilydd; ac amryw wallau cyffelyb. CwcH BARDDONOL.-Diolch i chwi, gyfaill hoff. Dyma englynion gwerth eu cyhoeddi. Cant weled goleu dydd trwy gyfrwng y Gwladgarwr' cyn gynted fyth ag y bydd lie. Sut y mae yr hen gyfeillion barddol yna ? Cofiwch ni atynt, a mynwch eu cael yn gefn- ogwyr i'n Papyr. ATEBIAD DEWI WYN 0 ESYLLT I 'Os' ALAW GOCH.— Campus. Yn ein nesaf yn ddiffael. DAFYDD AB IOAN.-Os Cerdd Arwest i'w dadganu y bwr- iadech i hon fod, y mae yn rhy faith. Yn wir, rliy hirwyntog ydyw ein beirdd. bob amser gyda cherddi. Gan £ mai ieuanc ydyw ein "Goliebydd, dymunasem arno beidio digaloni am fethu o hono (gael yr hyfrydwch o weled ei gan mewn print. Bu rhai sydd yn awr yn enwog yn yr un pair unwaith. Astudied D. ab loan lawer ar feirdd sydd wedi eu hanfarwoli. G. G. TElpf.-Mor fuan ag y bydd ddichon. COFNODYDD Y mae yr Awdl yn rhy faith o lawer, er ei bod yn dda. Dylech fel swyddogion, ei chyhoeddi hi, yn nghyd a'r cyfansoddiadau ereill. Pa le y mae yr arian gweddill ar ol yr Eisteddfod ? Clywsom fod elw. Paham na ddefnyddiech hwnw at gyhoeddi y cyfansoddiadau ? LLANC.—Dewiswch well testun. Mae yn drueni i dalent loew gael ei gwastraffu i ganu ar ffwlbri fel yna. Gwnelai y gan y tro i wneyd i ynfydion chwerthin uwchben y ddiod ond nid yw yn addas i golofnau y GWLADGARWR. CADAIR LLANGOLLEN.- Y mae llawer o siarad ac ysgrifenu yn nghylch y pwnc yma. Yr ydym wedi derbyn Cerdd Dychan gampus, ond, er ein holl barch i'r awdwr, ni fydd i ni ei chyhoeddi, am ei fod yn rhy dost ar Caledfryn. G. G. T.-Bydd y 'lloffion' yn dderbyniol ond i chwi nodi y maes o ba un yr ydych yn codi eich tywysenau. Mae yma nodalt yn dangos eich bod yn dyfynu o rywle, ond nid ydych yn crybwyll o ba Ie. GOFYNIADAU AC ATEBION YSGRYTHYROL.—Ganfodcyn- ifer o esponiadau a llyfrau Beiblaidd ereill erbyn hyn yn ein hiaith, a bod yr Ysgol Sabbatbol wedi ei dar- paru o bwrpas i weinyddu gwybodaeth ysgrythyrol, nid ydym yn gweled un angenrheidrwydd am drafod cwestiynau o'r natur yma mewn papur newydd. boR. GLAN NANT.-Oes. y mae gormod o ddynion an- nghymwys yn dringo i bwlpudau, ac yn cymeryd ar- nynt bregethu yr efengyl, a da fyddai i'r egiwysi, o bob enwad, fod yn llygadog ac arfer barn yn y mater o alw dynion at y gorchwyl pwysig hwn. Mae y mater, i fesur helaeth, yn mvylaw yr egiwysi, fel y gallant beidio galw neb, na chaniatau iddo bregethu, os bydd yn annghymeradwy. Mae eich llythyr y tro hwn gryn dipyn yn rhy bersonol. HEN WRANDAWR.-Nid gwaith newyddiadur cyffredinol ydyw myned i ymyraeth a dyledion capeli. Anhawdd genym feddwl, pe rhoddai ein gohebydd ei ddymuniad o flaen swyddogion y capel y cyfeiria ato, na byddai iddynt hysbysu pa faint o ddyled sydd ar y capel y tro nesaf y byddant-yn galw ar y gynulleidfa i gasglu at ei lleihau. Nid yw hyuy ond peth hollol deg a rhesymol. J. AP LLEWELYN CARADOC.—Yr ydym ninau yn dwyn mawr zet dros Gerddoriaeth Grefyddol-Gynulleidfaol; ond nis gallwn gyhoeddi eich llytbyr ond fel hysbysiad. I CYFRINFA BRAN FENDIGAID.-Nid ydym yn gweled un argoel y ceir terfyn yn fuan ar yr ymdrafodaeth hon. Mae ar ein bwrdd yn awr bedwar o lythyrau ar yr achos, yn dwyn yr enwau, Aelod o Gaerdydd, Thos. Stephen, Un o Aelodau Bran Fendigaid, a Eli Evans. Rhoddwn y ddau olaf yn ein nesaf, a dim ar ol hyny, oddigerth y bydd gan ryw an ryw eglurhad nea hys- bysiad i'w roddi dan ei enw priodol. Bydd Bleddyn a Rhuddenfab yn ein nesaf.
Advertising
'FY ARWYDDAIR FO RHYDDID POB GRADD HEB NA LLADD NA LLID. 1W CWiriiprrliw* ABERDAR, SADWRN, TACHWEDD 27, 1858.
HELAETHIAD YR ETHOLFRAINT.
HELAETHIAD YR ETHOLFRAINT. Hynod mor araf y mae gwir ryddid yn enill ei buddugoliaethau ar gaethiwed. A hynod hefyd mor anhawdd ydyw, hyd yn nod i'r rhai a siarad- ant fwyaf am ryddid, ac a ddadleuant fwyaf droeto, ei roddi mewn ymarferiad. Nid oes dim braidd ag y sonir mwy am dano yn Mrydain na rhyddid; ac eto, nid oes ond ychydig o sylw yn angenrheidiol er canfod fod llawer iawn i'w wneyd yn y wlad hon cyn y byddo perffaith ryddid wedi ei sefydlu ac mewn ymarferiad. Anhawdd iawn, ar ol hir ymarfer ag annghydraddoldeb, ydyw sefydlu cydraddoldeb rhwng dynion-gosod pob dyn ar dir cyfartal fel dinesydd, ar yr un lefel yn ngolwg y gyfraith. Annghyfartalrwydd yn y peth hyn sydd wedi flynu trwy yr oesoedd yn Mrydain, fel yn mhob gwlad arall. Llawer a sonir y dyddiau hyn am Alexander, Ymerawdwr Rwsia, yn rhyddhau ei gaethion; ac y mae ei waith yn wir deilwng o ganmoliaeth. Llawer o feio, yr ochr arall, sydd wedi bod ar Ymerawdwr y Ffrancod am y cynygiad a wnaeth i adsefydlu caeth-fasnach mewn ffurf ag oedd dipyn yn new- ydd ac yn dwyllodrus; ac yr ydoedd i'w feio. Ac nid ychydig o gollfarnu sydd ar yr America o herwydd ei gwaith yn dal i fyny y sefydliad an- nynol ac annghristionogol o gaethwasiaeth. Ond, ar ol edrych yn graffus, yr ydym yn canfod fod caethiwed yn bodoli yn nes atom nac America na Ffraino. Y gwir ydyw, mai y gorchwyl mawr, blaenaf a pliwysicaf o bob peth, ag sydd gan Brydain i'w wneuthur ydyw, rhyddhau ei chaethion. 0 ran ein cyfraith farnol, y mae y rhyddid a'r cydraddoldeb pcrffcitliiaf wedi eu sicrhau. Mae pawb, o'r cardotyn ag nad oes ganddo gartref ond y ddaear yn gyffredinol, na chell nac ysgubor ond ei gwd, hyd y teyrn sydd ar ei orsedd, yn hollol gydwastad. Yn ein brawdlysoedd, i fyny o fainc yr ustus bwrdeisdrefol hyd y Prif Ynad a'r Arglwydd Ganghellydd, y mae cyfiaicnder yn cael ei weinyddu; yma y mae haiol ac nid gallu- dyn ac nid dernyn o ilrlaear-yn cael ei gydnabod. Y mae ein sefydliadau barnol-ein cyfreithiau barnol, oddigerth ychydig iawn o eithriadau, a gweinyddwyr y cyfreithiau hyny, fel dosbarth, yn anrhydedd i'n cenedl. Ond nid ydyw hyn ond un adrau o'r pwnc. Y mae holl gyfundrefn ein sefydliadau gwleidyddol yn anfri arnom, ac yn galw yn ucbel am ddiwygiad. Deddf sydd yn cael ystyriaeth yma, ac nid cyfiawnder— daear a godir yma, ac Did dyn. Y mae ycbydig fil- oedd o erwau o ddaear mewn cysylltiad ag un dyn yn ei wneyd yn ddeddf-wneuthurwr; y mae un arall, o berwydd ei fod yn feddianol ar ychydig o ddaear, yn y ffurf o dy, neu gae, neu ycbydig o aur ac arian,yn cael y fraint o ethol un i'w gynrychioli yn nghymanfa y rhai a ffurfiant ein deddfau. Y fo- ment y colla ei eiddo, y mae ya colli ei hawliauj Ac am y dyn nad ydyw yn bercheu ar swm neillduo o ddaear, mewn rhyw flurf nou arall, y mae yn gaeth was mewn ystyr boliticaidd. Gorfodir ef,trwy drai s os bydd raid, i ufuddhau i gyfreithiau nafa ganddo na llaw na llais yn eu ffurfiad na'u gosodiad, ac naof/n- wyd iddo erioed ei gydsyniad neu eu aungbydsan- iad a hwynt; a chodir oddiarno, trwy orthrecb, os na thycia un ffordà arall, arian i dalu i swyddogion na fu ganddo law erioed yn eu betboliadrw swyddi, nacyn mbenodiad eu cyflogau. Y mae hyn yn drais, yn annghyfiawnder, ac yn gaetbiwed, i bob pwrpas ac amcan. Y mae y mater hwn, yn y theory, yn sefyll fel byn. Nid oes gan gyfraith y wlad, yn farnol, na gwleid- yddol, ddim hawl i gosbi neb ondamdrosedd neufai. Nid oes gan neb, ycbwaitb, ddim hawl i osod un gyf- raith a wnelo ddim ond yr hyn sydd YI1 fai yn dros- edd. Y mae pob cyfraith a whabarddo i ddyu gyflawni dim ondyr hyn sydd ddrwg, neu aTi gorfodo i wneuthur dim ond sydd dda, yn annghyftawn. Cosbedigaeth ar ddyn ydyw ei ddifreinio, neu omedd iddo ryddid i arfer ei hawliau a'i iawnderau. Y mae gweinyddu cosbedigaeth am unrhyw beth ond tios- edd neo fai yn sarhad ar gyfiawnder ac y mae y gyfraith a wnelo hyny yn agored-ic, yn wir, yn rhwym i ryw fesur-i wobrwyo bai ac i gosbi rhin- wedd. Y mae cyfreithiau gwleidyddol Brydain yu gwneyd hyny; ac y mae yn Hawn bryd eu gosod ar sail ag y bydd hyny yn anmhosibl, a hyny trwy ys- tyried dyn yn ddyn, a dim ond byny-y gweithiwr yn ddyn, a dim llai, a'r pendefig yn ddyn, a dim mwy. Yr ydym yn addef yn rbwydd fod graddan lawer, a gwahanol berthynasau, ac annghydraddoldeb yn bodoli o angenrheidrwydd natur yn y cylch cymdeith- asol. Yma y mae rhieni a phlant, gwr a gwraig, meistr a gwas, a lluaws o'r fath bethau ond aid oes dim a fyno y gyfraith, farnol na pholiticaidd, a chy- fansoddi unrhyw annghydraddoldeb rbwng ei deiliaid Y mae ar y gymdeithas wladwriaetholy fel pob cymdeithas arall, angen am ddeddfau, ac am swydd- ogion i gario ei bachosiou yn mlaen, ac i roddi ei ddeddfau mewn gweithrediad. Y mae gan bob un o aelodau y gymdeithas hon, fel pob cymdeitbas arall,os na bydd wedi difreinio ei bun trwy gyflawni rhyw drosedd, hawl i roddi ei bleidlais, naill ai yu bersonol neu trwy gynrychiolydd, yn ngosodiad Qeu gyfnewidiad y cyfreithiau, ac yn etholiad y swydd- ogion. Y'mae y deddfau a'r swyddogion hyn yn perthyn i bobu n o'r deiliaid yn ddiwahaniaeth iiis gellir gosod y naill, na phenodi na thalu cyflogau i'r lleill, heb roddi y mater o flaen yr holl gymdeithas yn nghymanfa eu cynrychiolwyr. I hyn y mae pethau yn rhwym o ddyfod, yn hwyr neu yn hwyrach. Gwrthuni ac afresymoldeb ydyw dyrcbafu daear ddienaid uwchlaw dyn rhesymol; a phwy bynag sydd yn talu tuag at gynal y llywod- raeth, dylai fod gauddo lais yn ei holl drafodaeth. Cospedigaetb iddo yr bawl hon ac ont bydd yn euog o drosedd, y mae yn annghyfiawn ei gosbi.
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. Pwnc mwyaf yr wythnos hon ydyw prawf M. Montalembert. Yr oedd y prawf pwysig hwn i ddechreu ddydd Mercher, yn un o lysoedd uchel Paris. Trosedd y dyn talentog hwn, fel y crybwyll- asom o'r blaen, ydoedd ysgrifenu erthygl i bapur Ffrengig a elwir y Correspondant, yn rhoddi dysgrifi- iad bywiog a ffyddlon o'r ddadl fawr a fu yn Nhy y Cyffredinlar India, yn nghyd a beirniadaeth oleu- bwyll a galluog arni. Yr oedd Montalembert yn digwydd bod yn bresenol ar oriel y Ty ar v pryd; yr oedd yn deall y pwnc, ac yn gweled sefyllfaoedd y pleidiau, mor dda, fel y mae ei erthygl, yr hon erbyn hyn sydd wedi ei chyhoeddi yn draethodyn, yn un o'r rhai galluocaf a ysgrifenwyd erioed ar tmrhyw J. ddadl a gymerodd le yn ein Tai Seneddol. Nid ydyw yn cynwys un ymosodiad uniongyrchol ar Ffrainc; yn hytrach y mae yn dangos diffygion Ffrainc trwy nodi rhagoriaethau Brydain—pa beth na wneir yn Ffrainc wrth ddangos pa beth a wneiryn Mrydain y mae yn rhoddi Ffraine yn ei holl dduwch a'i hagrwch i ymddangos yn nysgleirdeb goleuni Prydain. Ac y mae yn gwneyd hyn mor deg, mor eglur ac argyhoeddiadol, fel y mae yn dwyn i'n cof yn rymus y chwedl a glywsom am y bacligen gynt. Rhedodd hwnw at ei dad, a dywedodd wrtlio, Nhad, «, mae Hwn a hwn wedi fy ngalw i yn ffwl." I Na feindia mono fe,' atebai y tad, all e byth brofi hyny.' Dyna'r drwg,' ebai yntau, mae fe wedi profi hyny.' Dyna'r drwg yn nbraethodyn Montalembert, ei fod yn dweyd y gwirionedd mor bwyllog ac mor eglur fel y mae pawb yn gweled mai gwirionedd ydyw. Gwirionedd yr erthygl sydd yn cynhyrfu Napoleoa. 3 Y mae ei bod mor wir, a'r gwir hwnw mor amlwg, ac yn cael ei draethu mor bwyllog, digynhwrf, a chym- edrol, yn peri i'r gormeswr Napoleon grynu hyd eig- ion ei enaid. Y gwir, yn cael ei gyhoeddi mewn egj- lurdeb a thawelwch sydd yn lladd. r'{bh IV paimU