Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

TRECYNON, ABERDAR.—Tad dideimlad.-Nos Sad- wrn diweddaf, yr 20fed o'r mis hwn, daeth geneth ag oedd wedi bod yn gwasanaethu mewn ty yn Ystradyfodog, at dy eithad, os teilwng o'r enw, i ymotyn am gael dyfod dan ei gronglwyd, gan ei bod heb un lie arall i orphwys y nos hono. Yr achos ei bod yn dyfod adref oedd ei bod yn feichiog, ac ruewn gwewyr esgor. Ond gwrthododd ei thad ei derbyn, gan e i throi allan i'r ffordd fawr. Aeth y cymydogion ato i eiriol drosti, ond yn aflwyddianus. Daeth dau heddgeidwad i'r lie, a bu- ont hwythau yn ceisio dylanwadu arno i ddangos rhyw radd o deimlad tuag at ei blentyn. Ond yn gwbl ofer y:bu y cwbl; yr oedd ei galon wedi ei haiarneiddio, ac yn llwyr amddifad o deimladau dynol. Cododd hen ddynes o'r gwely wrth glywed cwynfan y druanes, ac agorodd ei drws, a cbymerodd hi i'w thy; ac yn mhen tua chwarter awr, rhoddodd enedigaeth i ferch, a gweinyddiwyd iddi bob tiriondeb ac ymgeledd ag oedd yn alluadwy dan yr amgylchiadau. Carwn i fel un wybod a ydyw dyn a allai ymddwyn yn y modd anuynol hwn, ie, yn waeth na'r creaduriaid direswm, yn rhydd o afaelion cyfraith y tir.- Jeffur. DOWLAIs.-Traddododd y Parch. Owen Jones, Dowlais, ei ddarlith ragomI ar 'John Bunyan a Tliaith y Pererin,' yn Nghapel Hermon. yn y lie hwn; y Parch. B. Williams, Gwernllwyn, yn y gadair. Yr elw at leihau dyled Capel Libanus. CYMER, GER PONTYPRIDD.-Nos Wener, Tach. 19eg, traddododd y Parch. T. Levi,* Ystradgynlais, ei ddariith ardderehog ar 'Ddau AthraNv Dyzi-ITatur a'r Bibl,' yn Nghapel y Trefnyddion Calfinaidd yn y He hwn y Parch. Mr. Davies, ficer y plwyf, yn y gadair. Yr oedd y cyn- ulliad yn lluosog, a'r ddarlith yn dda tu hwnt i gan- moliaeth. BADUCIIAF, GER POXYPRIDD.—Ar y 15fed o'r mis presenol, cynaliwyd cyiarfod llenyddol yn y lie hwn, pryd yr oedd y beirdd cadeiriol, Caledfryn a Dewi W.vn o EsyJlt yn wyddfodol, a Mr. TliomasJGriffiths, Llanilltyd, Faerdre, yn y gadair. Darllenodd Caledfryn ei feirniadaeth, a gwobrwywyd yr ymgeiswyr buddugol fel y canlyn :—Am y chwe penill goreu i 'Fedd y Milwr,' Mr. W, Prothero, Penygroes. Am y chwe pen ill goreu ar 'Pa beth yw Cusan V i Gwilym Elian. Am y ddau englyn goieu i'r Rhaw,' i Ifor Cwmgwys. Am yr Awdl oreu i Mr. Evan Williams, Baduciiaf, yn benaf am ei ymdreehion diflino yn chwilio allan y gwythien glo yn Rhyd yr Helyg, a Nantgarw; gwobr pedair Gini, i Dewi Wyn o Ksyllt. Enillodd Cor Nazareth, Mountain Ash, hefyd dair punt o wobr am ganu Llawenhewch,' o Gydymaith y Cerddor,' a ilr. Jenkin Howell wobr am y cynghaneddiad goreu i'r Alaw, 'Syr Harri Ddu.' Rhcddwyd amryw wobrau am ganu ac adrodd, ar ba rai yr oedd Mr. D. Thomas, Ponty- pridd, yn feirniad. DTNAS, MORGANWG.—Nos Wener, yr lleg o Darh- wedd, traddudodd y Parch. R. Hughes, Maesieg, ddar- lith ar Dynged ddyfodo) y ddaear,' yn nghapel y Bedydd- wyr, yn y lie uchod. Olrheinodd v gwahanol ymddangos- iadau Daiaregol i'w hachosion cyntetig, a dadlenodd lawer o'r dirgelwch sydd mewn cysylltiad a hwynt, trwy gymhar- iaethau tlws ac eglur, ac eglurodd mcwn dull cyffrous, dynged ddyfodol y ddaear, pan fydd y defnyddiau gan wir wres yn toddi, a'r ddaear a'r gwaiih a fyddo ynddi yn cael eu llosgi, a hyny gan rhai o'r elfenau sydd yn ei chyfan- soddiad ei hunan. Cawsom dreat gwertlifawr, MATHOLWCH ABERCARN.—Ar nosweithiau y 15, 16, a'r mis hwn, cawsom y fraint uchel o roesawi dyfodiad y ddarlithyddes hynod hono, Mrs. qtheobald, o Leicester, yn y lie hwn. Gwnaeth yr hpbysiad fod boneddiges yn dyfod yma i ddarlithio ar ddirwest, rhyw gynwrf cylfredinol trwy y gymydogaeeth, fel pan dae:h yr awr, yr oedd tyrfa fawr wedi ymgasglu i gapel yr Annihynwyr i weled a chlywed. Dyrnunwn hysbysu merehed Cymru nad oes unrhyw wyl- eidd-dra slafaidd yn dwwn perthynas agos a Mrs. Theo- bald, ond y mae ynddi wroldeb cawr, ac y mae ganddi hefyd ]awer iawn o allu i daflu goleuni ar bcthau a fynai dynion, pe gallent, eu cadw mewn tywylhvch. Y noswaith gyntaf, arwyddodd 21 yr ardystiad dirwestol, 7o yr ail, a 96 y drydedd nos, y cwbI ynghyd yn gwneyd y swrn hardd o 187. Yr wyf bron credu, pe buasai Mrs Theobald ond aros yma un wythnos arall, y buasai pob coppa walltog o drigolion y lie hwn yn ddirwestwyr ond tafarnwyr, pregethwr, ac ycll- ydig flaenoriaid. Dvwerlir fod un o'r' tafarnwyr yn pen- derfynu gwrthweithio dylanwad darlithiau Mrs. Theobald, trwy werthu y Brown Stout' goreu, diod sydd yn sicr o fecldwi incwn byr amser, am 4c, y chwart, yn He 6c. ond gobeithiwu y byd i'r dirwestwyr fod yn alluog i ddal eu tir yn ngwyneh y demtasiwn, er inor gref. GWYDDON. LLANDILO.—Bore dydd Mawrth, yr 16eg o'r mis h. cafwyd John Harries, Pontladis, ger y dref lion, yn gorwedd yn ei wely, wedi marw er ys peth amser. Aethai i'w wrely y nos o'r blaen yn ei gynefin iechvd; ac yr oedd yn bwriadn myned i bricdi yn fuan, ac wedi rhodui y gos- tegion allan y Sabbath blaenorol. LLANDUDNO.—Y mae Mr. Briglit, A.S., yn awr yn y He hwn, ac y mae yr awyr iachusyl yn dra llesiol i'w iechyd.. RHEII.rFOK.DD MERTHYR, TREDEGAR, ac ABERGA- FENr. Nid ydyw byth yn gwlawio nad ydyw yn tywallt,' medd yr hen air. Felly y mae yn y cyffredin gyda Rheil- ffyrdd. Dydd LInu, wythnos i'r diweddaf, cynaliwyd cy- farfod yn Neuadd y Dref, yn Abergafeni, gyda golwg ar ffurfio rheilffyrdd o Ferthyr i'r lie hwnw, trwy Cendl a Brynmawr, gyda changen i Dredegar. Llywyddwyd y cyfarfod gan JMr. Crawshay Bailey, A.S., yr hwn a siaradai yn wresog yn mhlaid yr ysgogiad, ac a addawai bob cym- orth i'w ddwyn yn mlaen. Dywedai y byddai y fforud yr ydys yn golygu ei gwneyd, yn 22 o filldiroedd o hyd, ac y costia tua £ 250,000. Fod eisiau rhoddi dwyLw yn ddyfn- ion yn y llogellau, cyn y bydd y swm anghenrheidiol wedi ei gael; ond fod tua £52,000 eiwioes wedi eu tanysgrilio, allan o'r hyn yr oedd Abergafeni ei hun wedi addaw £20,000, a Tliredegar £ 6,000. Y mae Merthyr yn hytrach ar ol hyd yn hyn. Gan fod eto chwech wythnos o amser i weithio cyn y bydd y Senedd yn agor, hyderai y byddai y cwmpeini erbyn hyny mewn sefyllfa i ddwyn yr achos o fl-ien y Ty. Anerchwyd y cyfarfod yn wresog, gan Mr. J. C. Hill, Llanwenarth; J. Jayne, Pantybailey; G. Overton,J B.^Walford, J. Hiley Morgan, a'r Parchn, W. Edwards, Brynmawr, a Thomas Rees, Cendl. Y mae y rhai y mae ganddynt achos i groesi o Ferthyr i'r Fenni neu i rai o'r cymydogaethau poblogaidd sydd yn gorwedd rhyng- ddynt, yn cael teimlo fod mawr angen am rheiiflbrdd y ffordd hono ac, felly sylwai Mr. Rees ac eraill, mae yn anmhosibl meddwl am foment na thalai ifordd a fyddai yn myned trwy wlad ag y mae ei phoblogaeth yn 7000 yn mhob milldlr, yn dda i bwy bynag a'i gwnelai. CWMPEINI RHEILFFORDD A CHAMLAS MYNWY,—■ Cyhaliodd y Cwmpeini^liwn eu cyfarlod haner-blynyddol, dydd Mercher diweddaf, Mr. C, Bailey, A .S. yn y gadair. Dangosai yr adroddiad fod y derbyniadau, ar ol talu pob treuliadau, yn ystod yr haner blwyddyn, yn £ 25,967, yr hyn oedd yn fwy nag mewn un haner blwyddyn gyfatebol er pan agorwyd y ffordd. Cafodd y cwmpeini golled o £3000 trwy fethiant diweddarMrd J. a D. Price, glo-fas. nachwyr, oni buasai hyny, buasai y dividend presenol yu 5 y cant; fel y mae, ni bydd ond 3 a haner. RHEILFFORDD ABERHOXDDU A MERTHYR.—Cynal- iwyd cyfarfod mawr a brwdfrydig yn y Neuadd Ddirwestol yn Merthyr nos Wener, Mr. Clarke, Dowlais, yn absen- oldeb Mr. Parry de Winton, yn y gadair. Diben y cyfar- fod oedd derbyn adroddiadau ac egluriadau y peiranwyr ac eraill, gyda golwg ar ffurfio Rheilffordd o Aberhonddu i Ferthyr. Ar ol eglurhad lied faith gan Mr. Conybeare, y peiranydd, ar y ffordd, neu y cyfeiriad yr oeddid yn bwriadu gwneud y rheilffordd, a'r draul ag oedd yn debyg o fyned i'w chwblhau, ac ar ol cryn lawer o holi cwestiynau ar y naill beth a'r liall, pasiwyd penderfyuiad fod y cyfar- fod yn ystyried fod gwir anghenrheidrwydd am y fibrdd oedd mewn bwriad, ac etholwyd nifer o foneddigiou yu bwyllgor lleol. Yr oedd Mr. Frank [James yn dadleu yn gryf'yn erbyn i'r ffordd igael ei gymeryd ar hyd Cwm y Taff Facli a chynygiai ei bod fyned gyda'r Taff Fawr, ond ni ebafwyd neb i eilio v gwelliant. MAENERIAID C-YMREIG.—Aeth deg o Faeneriaid Cymreig o Betiydarren^'y dydd o'r blaen, dan ofai goruch- wyliwr o'r enw Mr. Martin, i Brazil i dori twnel a wneir ar Reiiffordd yno. CYHUDDIAD ANARFEROL 0 LOFRUDDIAETH.—Dydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf, dygwyd dyn a alwai ei hnn wrth yr enw David Thomas Price, o flaen yr ynadon, dan amgylchiadau tra anarferol, Tua 33 mlynedd yn ol, yr oedd dau ddyn ieuanc o'r enwau David Thomas a Lewis Williams, yn byw yn Sir Gaerfyrddin, a syrthicdu y ddau mewn cariacl a'r un ferch. Dangosai y fercli fwy o serch at Williams nag at Thomas; ond parhaai yr oiaf i fyned ar ei hoi. Byddai y ddau ddyn ieuanc yn cweryJa, a'u gilydd. ac yn ymladd yn yr achos. O'r diwedd, pa fodd bynag ainlygodd y fercli i Thomas nad oedd dim a wnelai hi ag ef, a'i bod wedi penderfymm priodi Wil- liams. Y mgynddeiriogodd y bJacllaf yn fawr wrcii glywed hyny, a heriodd yr olaf, allan i ymladd. Dyna fel y byddai, ac y bydd, ynfydion, y rhan tynychaf yn ceisio terfynu eu dadleuon. Aeth y ddau ddyn allan i gae; ac ar ol bod yn ymladd am beth amsei, cafodd Thomas ei wrthwynebydd i lawr, a brathodd ef yn ei wddf â chyllell acarolhyny, efe a ffodd. Yr oedd bachgen bychan ytv gweled y ffrae, arhedodd ar ol Thomas, gan geisio ei ddal ond tarawodd y ffoadur ef a'r gyllell, gan ei archolli yn dost. Bu'farw Williams o'i archollion, a diangodd Thomas, fel y methwyd, er pob ymdrech a wnaed ary pryd, a chael gafael arno. Tybid ei fod wedi lladd ei hun calwyd corff mewn afon gerllaw y lie, a phenderfynwyd taw corff Tho- mas ydoedd, a rhoddwyd i fyny chwilio dim yn ychwaneg yn ei gylci). ilae cytnod nesaf o tua 30 mlynedd yn w:,g, oddigerth yn unig y ffaith fod dyn a aiwai ei hun David Thomas Price yn byw yn Fleur-de-lis yn swydd Fynwy. Tua thair neu bedair blynydd yn ol, aeth y dyn hwnw i fyw i Bedwas, ac yno arosodd hyd ddydd Gwener pyth- efnos i dtfte. Pan yno, dywedir y byddai siopwr yn ei anog yn daer i fyned i ryw gapcl neu eglwys; ei atebyntau fyddai, nas gallai, o herwydd fod ba;ch trwrn yn gorwedd ar ei gydwybod; ac o'r diwedd, ar gais.y siopwr, ac ar yr amod na tyddai iddo fynegu i neb arall, liysbysodd y dyn y dirgelwch i'r siopwr. Yn ddiweddar rhedodd Price yn lied bell i ddyled y siopwr a phan yu methu cael ei arinn, bygythiodd y byddai iddo ddadguddio ygyfrinach oni chai ei arian, a'r dydd Gwener crybwylledig, rhoddodd ei fy- gythiad mewn gweiihiediad. Hysbysodd y peth i'r hedd- geidwaid, ac yn fuan yr oedd Price mewn dalfa. Y mae y dyu wedi bod yn briod yn sir Fynwy am 27 mlynedd, aev mae ganddo ddau fab wedi tyfu i fyny. Mae y carcharor yn hen wr penllwyd, o 50 i tiO oed. Ymddangosai yn holl- ol dawel o fiaen yr ynadon, ac ni ddywedodd ddim, na da, na drwg. Y mae yn awryn y carchar, a phob ymdrech yn cael ei wneyd i ddwyn y mater i egl urdeb, yn y naill ffordd lieu y lIall. Mfte ei wraig mewn teilllladau »ofidus dros ben, oblegyd ni wyddai ddim am yr achos hyd nes yr oedd ei gwr yii cael ei gymeryd i fyny gan yr heddgeid- waid. Y mae y bachgen a weiodd David Thomas yn brathu Lewis Williams wedi marw,erys tua thair blynedd pi oj.

YR WYTHNOS.