Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
CYWYDD
CYWYDD A gyfansoddwyd wedi clywed dyn yn diystyru Jtrian a'r Byd, pan y gwyddai y Bardd mai yr achos oedd, ei fod yn methu cael rhagor o honynt. Beth yw rhan dyn arianol Gedy nhwy i gyd yn ol. Bywyd i ddaln-byd a dde)-- Yw nawdd Duw, anedd dawel; Tra'r erys, try yr arian j • I'r porth yn gymhorth i'r gwan. t fT] Pob graddau, pawb gvrliaeddaul O le'r byw, i lawr i bant Yn y bedd, yno byddant,- Gwan agwycli, i'r rhych yr ant, Bendith i'n plith fydd ein plant, Wir fwriad, os arferant Yn iawn,'—os hyn a wnant, 0, buddiol felly byddant."} Os gwario mewn seguryd, Gofid, baich ga fod eu byd. A wyr en gwerth, y perthyn Eu trafod-da amod yw hyn. Yinorol pawb am Arian, Yn rnhob drych, o'rgwych i'r gwan. Beth yw Aur?—beth yw arian- Beth yw gwych, a beth yw gwan? Un en gwaed, ac un eu gwerth, Un eu dawn-gwan '*a dinerth. a "Arian o ryuo fan iji."—- 0 ddyn gwael, pa ddaioni ? Y nos ddwys, pan orpliwyso, Arian a iff a'i gyfran o 0 gwsg,—yn ei ddugwsg ddwl Am foddion mae ei feddwl; Breuddwydio mae fo am fodd, A'r dyled hir a dalodd A hynod, pan ddihuna, i Gwanc arian i'w anian a; —4 0' Dyna fyn—dyna'i fwyniant— Mawr ei chwaeth, anmhur ei chwant. Traflertha. chwilia mewn ehwys Trwy'r anedd—tryyrynys :— Arian o ryw fait i fii; I I Dyna'i tvaedtl-(Iyiiali weddi. Ymdrechu y mae o drachwant, Ufudd y chwys i foddio'i chwant; Ki gyfan yw ei gyfoeth- Dyna nod yr adui noeth Rhan y gwr-ariangarwch. Er y liaid dirfawr, a'r llwch. Ha Arian yw rhan yr oes, A hwn yw bywyd einioes I wr a to heb arian, 0 ach a rhyw, bach ei ran. Bathodau atrt beth l'r hil dtlynol ar eu hviit A! iiodau icyfnewidiol, I ing gwr am eang gol. Dos ar frys i'r llys a'r llan, Eiriol mae pawb am Arian. Gwad yr hael, a gwed, er hyn, Yn ei yifa, na eriyn Eto teg i mi yw ateb, Yn wir ni adwaen i neb; Methu eu eael yw,r haeledd, Hyn a 1yn hyd yn ei fedd LlulI yw yr un a'r llwynog A'i oer gri am iar grog. Addoli hwn niddylant Hyd fedd, na ehoiedd ei chwant; Arfer yn iawn, ac erfyn Ewyllys Duw a lies dyn i Addoli Duw a ddylwn, Byth o hyd, am beth o hwn. Ynyscynon, Aberdar. ALAW GOCR. ————————————————
ENGLYNION
ENGLYNION I J. Johnes, Ysw., Dolaucothi, Llywydd Eisteddfod ddi- weddar Conwil Gaio. Wele frawd o ucliel fri,—gwir deilwng, Ac Aer Dolan Cothi: Boneddwr byw i'w noddi, Yn llawn aidd, yw ein llyw DI. Medd enwog ymwyddianau,—a thalent Fytholir a'i rhiniau 0 ddawn, pwyll. buddha ein pau, A tbyner iaith ei enau._ Ei logell a'i law egyr-i ranu t lthinwedd yn mhob j'styr; Hana o'n gwaed, un o'n gwyr Ydyw, a bri ei frodyr. Iaith arolwyn athrylith-arllwysa Er llesiant a bendith ( 1 gwnu egin gwenith— Doniau ein plant yn ein plith. Cymro hyddysg mawreddog—ei ddoniau, Ac o ddynion enwog Rhyw ddyn llawn i rwyddhau'n llog Yw ein llywydd galluog. Ar tsedd barn mae'n wr sydd bur,-llawn o bwyll, I weinibarn yn eglur; Ni roes sen na geiriau sur, Erioed i'w gyd-greadur. "■ Myddfai. TBWI>WR.
--..-0;.; LLOFFION.
.0; LLOFFION. Taenwyd chwedl am y Pab Sextus Quintus, idde pan fu farw, fyned tuag uffern, ond i'r porthor yno ddywedyd wrtho, ei fod yn gwybod fod gan ei Sant- eiddrwydd ryw amcan neillduol mewn golwg, am gynyg ei hun i'r lie hwnw; ond ei fod ef wedi derbyn gorcliymyn i'w omedd i fyned i mewn, a chan fod fanddo le neillduol o'i eiddo ei hun, a elwid y Piur- an, mai gwell fuasai iddo fyned yno felly ymaith a'r Pab i chwilio am y Purdan, ond er dyfal chwilio am hir amser, methodd yn deg a chael gofael ynddo. Yna cymerodd ei hynt tua'r nefoedd, curodd wrth y porth, gofynai St. Pedr, Pwy oedd yno ? Y Pab Sex- tus, meddai yntau. Paham yr ydych yn euro ? meddai St. Pedr, gan fod yr agoriadau gyda chwi ? Gwir, meddai yntau, ond gan fod cymaint o amser er pan gawsant eu rhoddi, tybiais y gallasai y cloion fod wedi rliydu. Aeth y Frenines Elizabeth, dranoeth i ddydd ei choroniad, i'r capel, ac mewn rhyw ystafell yno y di- grifwr, Syr John Rainsworth, a erfyniai ar ei Mawr- hydi, gan fod cynifer o garcharorion yn cael eu goll- wng yn rhyddion, ar yr amser dedwydd hwnw pan oedd ei Mawrhydi yn esgyn i'r orsedd, am ollwng yn rhyddion pedwar o gaethion agyr oedd pawb, braidd, II wedi eu hannghofio. Gofynai y Frenines, Pwy oedd- ent ? Atebai yntan, mai Matthew, Marc, Luc, ae loan oeddent, yn rhwym yn yr iaith Ladin, a'u bod yn bryd i'w gollwng yn rhyddion i fysg y bobl yn yr iaith Seisoneg. Bu Ty y Cyffredin yn eistedd yn hir heb fod nem- awr o fesurau o ddefnydd ynpasio trwyddo, pan oedd Mr. Possham yn llefarwr ynddo, yn amser Elizabeth. Yntau, wedi myned un diwrnod ar ryw neges at y Frenines, pan y gofynodd ei Mawrhydi iddo beth oedd wedi pasio yn y ty isaf? a atebai, Saith wythnos. Yn wir rhywbeth yn dra thebyg ydyw hi yno eto, y mae mwy o amser yn cael ei wastraffu mewn ofier siarad, nac sydd o fesurau defnyddiol yn cael eu ffurfio er Ilesoli y trigolion. Y RHEDEGIA FAWR YN WESTMINSTER.—Er nad ydyw y rhedegfa fawr lion i gymeryd lie am rai mis- oedd—yn mis Chwefror, yr ydym yn credu—y mae yn peri cynhwrf nid bychan yn meddyliau y rhai sydd yn cymeryd dyddordeb mewn achcsion o'r fath, ac nid ydym yn rneddwl ei bod yn rhy gynar i ddechreu siarad am yr anifeiliaid sydd yn debyg o redeg, a cban ba rai y mae y siawns flaenaf am enill, ac o ganlyniad, ar ba rai y byddai oreu i'n darllenwyr ddal. Chancellor Arglwydd Derby, a Burmagem, Mr. Bright, ydyw yr unig ddau anifail sydd yn rhanu y gwystlon. O'r ddau, gwell genym ni y nag o Man- chester. yr hwn a redodd yn ardderchog yn Birminff- I gefnogwyr. Nid yw y Chancellor, o'r ochr araIT, wedi dyfod ato ei hun yn dda byth, erpan y syrtliiodd i'r gors (Slough) yn y Gwanwyn diweddaf. Yn wir, nid yw yn debyg y bydd i'r Iarll pendefigaidd, ei osod i redeg o gwbl, ar ol yr ystranciau a ehwareu- odd y pryd hwnw, yn gymaint a bod ganddo amryw ereill i ddewis o'u mysg. Mae y blaid Ryddfrydig, yr ydym yn deall, yn penderfynu sefyll dros Brum, ae- nid oes un dadl nad oes ganddo siawns anarferol. Bydd gan Wofwrn Whig Russell siawns dda yn y rhedegfa hon hefyd. Mae yr anifail hwnw wedi rhedeg yn dda lawer gwaith, ac er ei fod braidd allan I 0 arfcriad er ys peth amser bellach, yr ydym yn clyw- ed ei fod yn gwneyd yn dda eto, ac mae nid chwareu bach fydd ei guro ddiwrnod y rhedegfa. Y mae Humbug Arglwydd Palmerston yu gwbl ddiwerth i'r rhedegfa hon a'r goreu o'r rhai ail raddol ydyw Treth i-Eglwys Syr John Trelawney.. Fe wna yr Treth i-Eglwys Syr John Trelawney.. Fe wna yr anifail hwnw fusnes dda o honi ryw ddydd. Ar ol bwrw i fyny, y tebygolrwydd fel hyn, yr ydym yn awryn cyhoeddi ein hopiniwn, yr hyn ydyw, mai Brumagem fydd y blaenaf, ac y bydd Wofwrn Whig yn nesaf, ag yn agos iawn ato.-O Punch.
[No title]
TALIADAU SION BWL I'W FEISTRES A'I TIIYLWYTH.—. Wrth edrych dros gyfrifon Sion Bwl am y flwyddyn a derfynai Mawrth Slain, 1858, yr ydym yn cael fod £ 385,000 o'i arian yn cael ei llyncu i 'bwrs preifat' y Frenines mae y Tywysog Albert yn derbyn tua £ 30,000 bob blwyddyn, (heblaw y gyflog a roddir iddo fel Maeslywydd, a milwriad y Grenadier- Guards, a segur-swyddi ereill thy faith i'w crybwyll;) rhoddir £ 30,000 i Dduces Kent; £6,000 i Dduces Cam- bridge £ 3,000 i Dduces Mecklenburg-Strelits; £3,000 i'r Dywysoges Mary o Cambridge £12,000 i Dduc Cambridge (heblaw ei gyflog fel prif Gadlyw- lywydd, Cadfridog, a Milwriad y Fusilier Guards■;) £ 1,788 i Dywysog Mecklenburg, a £ 50,000 i freain Belgium. Heblaw hyn, rhaid i'r cyhoedd ddarparu gwaddol i bob un o'r teulu breninol; talu pob traul yr elont hwy a'u cefnderwyr Ellmynig iddo' wrth deithio, a chadw eu tai, eu gerddi, ei parciau, a'u cwbl mewn adgyweiriad. Pan fu farw y Duces o Gloucester, cafwyd ei bodyn berchen ar £100,000 o arian, y rhai a roddwyd ganddi yn ei hewyllys i'w nai, y Due o Cambridge, ac eto bu raid talu yn agos i ddwy fil o bunau allan o bwrs y cyhoedd at ei cbladd- edigaetli.
[No title]
MERTHYR.— Y Llys Sirol.-Bu Thomas Falconer' Ysw., yn eistedd i wrando achosion yn y Neuadd Ddir- westol yn y He hwn, trwy yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd vma yn agos i fil o achosion wedi en hentro. Pel arferol, daeth amryw o wyr yn mlaen i dystio na wyddent hwy ddim am y nwyddau a brynwyd gan eu gwragedd yn eu habsenoldeb. Yn ngwyneb hyn, gorchymynodd y barnwr fod nifer o rvbuddion i'r perwyl canlynol yn cael eu hargraffu, fel y gallo dynion eu gosod i fyny ar ddrysau eu tai Arnddyffvniad Teuluaidd,—Y n;ae yr h wn sydd yn byw yn y ty hwn yn gwahardd i unrhyw drafaelwr neu hawker werthu dim wrth ddrws y ty hwn, neu yn nhy neb o'r cymydogion, ar ei gred) d ef, os na bydd efe ei hun yn bresenol." DOWLAIS.— Y Cyngherddau Wythnosol.—Nos Sad- wm diweddaf, ni a gawsom y pedwerycld cyngherdd yn yr Ysgoldai newyddion yn y He hwn, gan Gor Bethania, dan arweiniad Mr. A Bowen, a chan Llew Llwyfo. Nid gormod fyddai dywedyd i ni gael canu da iawn ar y cyfan. Yr oedd rhai darnau yn cael en canu yn swynol, megys John Barleycorn," gan Miss Watts, ieuangaf. Yr oedd- ym yn cael ein synu wrth glywed geneth mor ieuangc yn canu mor dda. Hefydfeganwyd,"Here in cool grot," Village Choristers," a Where the bee sucks," yn dda iawn. Yr oedd y rhai eraill yn dda, oddieithr Young Musicians." Fe godoud yr holl rhwysg gyda'r oftVrvnau Gfirdd orniod o ddysgwyliadau yn y dort: i ateb y canu tlawd a wnawd ar y darn hwn. Am ganu Llew Llwyib nid oes achos dywedyd dim ond ei fod fel arfer, yn ei eifen, peb deimlo dim caetiiived. Ni wnaelli pwyilgor y cyng- herddau hyn ddim yn ddoethach na sicrhau gwasanaeth y cactor medrus hwnw Mr. Wilkes. Dowlais. k DAFYDD. PONTYPRIDD—Dirivest.—Cafwyd Cyfarfod Dirwest- ol hapus yn y lie hwn, nos Lun a nos Fawrth, wythnos i'r diweddaf, pryd yr oedd Mr. John Edwards. Merthyr, wedi ymweled a'r lie fel cenad dros y Gymanfa Ddirwestol. Cynaliwyd y cyfarfod nos Lun yn Fennel, Pontypridd, Mr. Jenkin Jones, yn y gadair. Nid oedd y gynulleidfa yn y lie hwn mor lluosog ag y buasai yn ddymunol. Cynaliwyd y cyfarfod nos Fawrth yn y Graig Mr. T. Jones, o'r Rhiw, yn llywyddu. Yr oedd y Band of Hope a Chor mawr y lie, yn bresenol yn y cyfarfod hwn, y rhai a ganasant amryw donau a darnau nes trydanu y gynull- eidfa. Cafwyd areithiall da a ditrifol hei'yd, a hyderwn y gwelir iliwyth o'r cyfarfodydd hyn mewn dyddiau dyfodol. LLAXDDTJSANT, MON.—Torwyd i mewn i dy Mr. John Roberts, Castell, Llanddusarst ar ganol dydd yn ddi- weddar, a lladratawyd £ 3 13s. o lofft y ty. ABERYSTWYTH.—Torodd dyn o'r enw John Hop- kins ei wddf ag eilyn yn Aberystwyth yn ddiweddar. LLANGTTNWR, DINBYCH.—Cariwyd dadl yn mlaen yn Nghymdeithas Lenyddol Llangunwr, ar 'A yw yn bos- ibl i ysbryd ymddangos,' rai nosweitliiau yn ol, a chollodd plaid yr ymddangosiad y ddadi. BETHESDA.—Cariwyd dadl fywiog yn mlaen yn Nghymdeithas Lenyddol Bethesda y nos o'r biacn, ar y 'Maine Law,' a chollodd plaid deddf Maine yn lan. BETHEL, LLANDDERFEL.- Tachwedd 11, traddododd y Parch. E. E., Llangollen, ei ddailith ar Ddarlienydd- iaeth' yma. LLANSANAN.—Tachwedd 10 a'r lleg, cynaliodd Annibynwyr Llansanan, Dinbych, eu Cyfarfod Pregethu Blynyddol. GWRECSAM.—Pregethu i'r bobl.-Mae y Parch. J. G. Sturt, gweinidog yr Annibynwyr Seisnig yn Ngwree- tam, wedi anfon allan hysbysiad ybydd iddo draddodi cyfres o bregethau ar brydnawnau Sabbathau, yn y Music Hall, Gwrecsam, i'r bobl. Ei destun cyntaf a fydd, 'Pecbod Gwrecsam.' 'Beth sydd a wnelwyf flag ef,' oddiwrth 1 Tim. v. 22. Gwneir casgliad ar ddiwedd pob pedwaredd pregeth at y draul; ac os bydd gweddill yn niwedd y t, tymhor, addawa Mr. Sturt eu trosglwyddo at gynorthwyo yr Ysgol Garpiog. GWRECSAM.-Dydd lau, Tach. 15, gan fod addol- wyr Carnau Meirch yn cadw eu liaddoliad blynyddol heddyw, yn y dref lion a chan fod ymuno yn yr addoliad hwn yn Ilychwino mwy ar gymeriad Cristionogion nag odid i ddim arall yn Nghymru. Penderfynodd yr Anni- bynwyr Cymreig yn Mhentrefelin, anrhegu plant yr Ysgol Sabbathol a digonedd o de da, yn nghyda bara brith, a phob peth arall gwell na'i gilydd sydd yn anghenrheidiol ar y fath amgylchiad; ac felly fu. Am 7 o'r gloch, tradd- ododd y Parch. R. Williams (Hwfa Mon), ddarlitli ragorol ar Farddoniaeth,' i gapelaid parchus o wrandawyr astud. Elid i mewn trwy docynau Is. a 6c. Cymerwyd y gadair gan y Cymro hynaws a gwladgarol, W. Pierce, Ysw., Tanner. Wedi iddo agor y cyfarfod yn gall a phwrpasol ar banes ei fywyd yn nglyn a Barddoniaeth, Beirdd, Eis- teddfodau, &c. Galwodd ar y darlithydd—bardd y beirdd yn Machraith, Mon,—yr hwn a safodd yn llawn feistr ar ei waitb, ac a'n harweiniodd trwy deithi 'gwir farddon- iaeth' o arddwr Eden, trwy lwybrau dyniunol yr Ysgryth. yrau, a chyfundraethau anian fawreddog, swn yr awelon, M y ffrydlif-ac mewngair, dywedai fod gwir farddoniaeth i'w ganfod yn mhob peth o'r bron, ac yn gynysgaeth gan bob dyn byw. Rhoddodd engiireifftiau bywiog o weithiaa y prif awduron, i ddadgos crvfder, anucheb-dd, a phryd- iWrthwch gwir farddoniaeth; ac helyd, enghreiiftiau i ddan- gos parodrwydd a ffraethineb awen. Mewn gwiiionedd, anrhegodd y bardd ni a llawer mwy na gwerth ein harian. Ruasai yn well genyf gaei ei wrando eto, o lawer, na bod mewn races o'r naill Nadolig i'r llall. Mae yr achoa Cym- reig ar gynydd parhaat o dan weinidogaeth yiparchub ddarlithyad.— Un o'r North.