Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y DIWEDDAR ROBERT OWEN.

News
Cite
Share

Y DIWEDDAR ROBERT OWEN. MR. GWLADGARWR,—Fel yr oeddwn yn hwylio y celfi, ysgrifenwn i gofnodi ychydig o hanes Iarll Car- lisle, y trydydd o arwyr cyfarfod mawr Liverpool, daeth i newydd i'm clustiau fod yr hen Gymro enw- og, ond camsyniol, Robert Owen, y Socialist, wedi marw, a chan ei fod yntau yn bresenol yn nghyfarfod diweddafy gymdcithas hono, caiff yr ysgrif fechan lion, gan hyny, fyned at gofnodi rhai o brif symudiadau bywyd hirfaith y dyn anghyffredin hwnw. Nid ar gyfrifdim daioni a wnaetli yr wyf yn gwneuthur hyn, ond ar gyfrif y galluoedd a pha'rai y doniwyd ef gan ei Greawdwr, a'r enwogrwydd a enillodd yntau trwy gamddefnyddiad o honynt. Ganwyd Robert Owen yn y Drefnewydd, sir Dref- aldwyn, yn y fl. 1770. A'r hanes cyntafa gawn ar ol hyny ydyw, ei fod yn athraw cynorthwyol pan yn 7 oed, ac yn is-athraw pan yn 9, mewn ysgol yn ei dref cnedigol. Y flwyddyn ar ol hyny ceid ef yn gweini mewn siop yn yr un lie, ac yn symud oddiyno i siop brethynwr yn Stamford. Ar ol bod yno am bedair Llynedd, y mae yn symud i Lundain, ac yn mhen dwy flynedd, dywedir i ni gan un o'i fawrygwyr iddo gael cynyg ar haner partneriaeth yn y ty mawr yr oedd yn gweini ynddo, yn nghyd ag addewid am yr holl fusnes i'w law ei hun yn mhen amser. Gwrthod 1 cynygiad hwn a wnaetli; beth oedd yr achros nid ydys yn dyweyd. Pan yn 18 oed, yn ol yr un ysgrif- enydd, daeth yn bartner mewn gweithfa lie yr oedd tua 40 o ddynion mewn gwaith yn nyddu cotwm, ac vn y He hwnw y dygwyd peiriant Arkwright i ddef- syddiad gyntaf erioed. Ymddengys ei fod yn dyfod Yl1 mlaen yn y byd, ac yn casglu cyfoeth. Cymerodd y Cholton Mills, yn agos i Manchester; ac heb fod yn foddlon ar hyny, aeth ef a'i bartneriaid drosodd i Ys- jotland, a chymerasant y New Lanark Mills, yn nghyd a fferm fawr o 150 o gyffeiriau o dir, o 2,000 o drigolion. Bu yn dwyn busnes mawr yn mlaen yn y lie mawr hwnw am dros chwarter canrif; ac ar ol cael cynifero bobl dan eii awdurdod, a chryn lawer o arian yn ei ddwylaw, aeth at y gorchwyl o roddi mewn vmarferiad y cynlluniau gwylltion ag oeddynt wedi ymffurfio yn ei ymenydd gwrth-fiblaidd er dwyn y gymdeithas ddynol i drefn a dedwyddwch. Er mai yn llwyr fethiant, o angenrheidrwydd, y trodd ei gy- fundrefn allan, cyfiawnder ydyw addef iddo roddi cychwyniad ar rai pethau a fuant o les mawr i'r jenedl. Efe mewn ystyr, fel y sylwai Arglwydd Brougham wrth ei ddwyn ger bron y cyfarfod yn Liverpool, oedd bod yr ysgolion babanod, ag ydynt erbyn hyn yn britho ein gwlad, ac wedi dyfod yn rhan mor bwysig o'n cyfundrefn addysg. Rhaid addef hefyd fod y tynerwch, yr hynawsedd, y tawel- urch, a'r caredigrwydd a ddygai efe a'i ddysgyblion i ymarferiad yn euhymdriniaeth a'r natur ddynol, wedi gadael effaith ddaionus ar ysbryd yr oes. Ond y drwg ydyw, ei fod ef a'i ganlynwyr yn gadael o'r neilldu y grefydd Gristionogion, ac yn ymddibynu ar haelioni, hynawsedd, a charedigrwydd naturiol fel y moddion trwy ba rai y mae y byd i gael ei adferyd. Yr oedd y son am dano ef a'i gyfundrefn erbyn hyn yn jrmledu yn agos acyn mhell. Robert Owen acOw- eniaeth, neu gymdeithasoliaeth, oedd prif destunau y siarad yn mysg dospartliiadau lluosog o'r bobl ac nid oedd ei enw yn adnabyddus i wleidyddwyr a breninoedd. Yn 1828, ar gais gweinidog Mexico ac ereill, aeth drosodd i Mexico, i geisio gan lywodraeth y wlad hono, ei osod yn llywodraethwr ar Coaginla a Jexas. Erbyn myned yno, cafodd mai nid gan y Uywoflraeth oedd y gallu i benodi llywodraethwr ar y taleithiau hyny, ond fod y bobl eu hunain yn ei ddewis. Wedi methu cael ffordd i roddi ei gynllun- iaumewn gweithrediad yn y parth hwnw, nid oedd dim ond ymdrechu gwneuthur y goreu o'r manteision oedd ganddo i hyny yn ei wlad ei hun. Priododd Robert Owen ferch i David Dale, o Glas- P;ow, yr hwn, gyda Syr R. Arkwright, a ddechreuodd New Lanark yn 1834. Yn mhen deng mlynedd ar ymsefydlu yno, yr oedd ei enillion, ar ol talu 5 y ,'fttt ar y capital, yn £60,000. Prynodd ran-d^liad- ei bartneriaid, am £84,000, ac ymunodd a phart- ^^aid newyddion. Ond yr oedd y rhai hyny yn j*«oddlon i'r dull y byddai yn treulio arian ar ei gyn- a'i ddyfeisiau i wclla cymdeithas.' Yn ngolwg ei "bartneriaid, fel yn ngolwg y rhsn amiaf o'i gydwladwvr, trwy drugaredd, yr oedd ei gyfiiridrefn yn cael ei hystyried yn ffol a chyfeiliornus. Ac felly yn mhen.pedair blynedd ar ol ffurfio yr ail bartner- iaeth, efe a brynodd yr holl fusnes iddo ei hun am £ 114,000. Ac yn 1816, yn ol yr ysgrifenydd a gry- bwyllwyd eisoes, 'efe a ymroddodd o ddyfrif i ddwyn y oddiamgylch ei arbrofton mawrion cymdeitliasol.' Ond rhy brin yr oedd ei lafur yn y byd moesol yn cael ei goroni a'r un llwyddiant ag a ddilynai ei lafur yn y byd anianol. Y n fethiant y trodd ei wladwr- iaeth gydfeddianol; yn fethiant y trodd ei farcimadfa gydgyfnewidio 1; yn fethiant y trodd ei gymdeithasol- iaeth, a'i holl rinweddau a'i rasau ac yn fethiant, erbyn heddyw, y mae yntau wedi cael ei droi gan angeu oddiar chwareufwrdd amser. Er, fel yr ydwyf wedi crybwyll ya barod, iddo fod yn offerynol i ddwyn rhyw bethau da i ymarferied, y mae yn amheus genym, a chymeryd pob potli at eu gilydd, a wnaetli neb fwy o ddrwg yn Mhrydain yn ystod yr haner can mlynedd diweddaf na Robert Owen. Teimlwyd dylanwad gwenwynig ei athraw- iaethau yn y Drefnewydd a bu ei syniadau yn ddi- nystr i gysur a defnyddioldeb llawer o ddynion talent- og yn y lie hwnw a'i amgylchoedd, yn gystal a miloedd yn nhrefydd mawrion Lloegr. Ffolineb yn ei olwg oedd y Bibl; ac nid oedd y grefydd Gristion- ogol ond gwrthrych gwawd a dirmyg a bu unwaith mor bell yn rihir antfyddiaeth, fel na chredai yn mod- olaeth Duw, na sefyllfa ddyfodol. Yn mlynyddoedd diweddaf ei fywyd, aeth i gredu yn y gwirionedd rhanol a llurgyniedig, a elwir I spii-it- rapping a thrwy y cymundeb a gafodd a bodau y byd anweledig yn y flydd hono, daeth i gredu fod byd heblaw, ac i barhau ar ol hwn, a bod rhyw Fod an- feidrol wedi rhoddi bodolaeth i bob peth. Mae yn ymddangos ar ryw olwg yn rhyfedd, fod dyn a dreul- iodd ei oes yn anffyddiwr, ac a wnaeth gymaint i hau ei egwyddorion, wedi myned mor bell yn y diwedd a rhoddi crediniaetli mor drylwyr, i gyfundrefn mor wahanol; ond y gwiriodedd ydyw, fod "eithafoedd yn fynych yn cyfarfod, ac eitliafoedd ag nad oes ond cam bychan o'r naill i'r Hall, ydyw annghrediaeth a gorgrediaeth. Yr eiddoch yn ffyddlon, ARTHUR LLWYD.

Y GWLADGARWR A'I GYFEILLION.

AT OLYGYDD Y GWLADGARWR.

TALIADAU.

DALIER SYLW.

,,IAITH Y CYMRY.