Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

BRAD Y SEPOYS.

News
Cite
Share

BRAD Y SEPOYS. [EFEIACHIAD 0 M. J. EEEYM.] PENOD XXV. Wedi hwylio i lawr yr afon am ychydig ddydd- au, gwelai y cwmni bychan, yn y bad, frigau y yrau, a'r temlau, a'r palasau yn Calcutta. Yr oedd y ddinas, ar y pryd hwnw, yn llawn o fraw yn nghylch y rhyfel yn Oude, a phwy bynag a ddelai yno o'r parth hwnw o India, byddai can- oedd yn ymwasgu ato i wybod helynt y gwrth- ryfcl. Ac o herwydd hyny, yr oedd yn anhawdd i'r cyfeillion fyned gam yn mlaen trwy'r heolydd, wedi eu cyrhaedd. I Wel,' ebe Taffi, 'mae" n debyg y bydd raid i ni gyd ymadacl â'n gilydd bellach; o herwydd fe ddysgwylir i ni'n tri, sef Pat, a Donald, a flnau, fyned i hysbysu y swyddogion ein bod ni yma; ac y mac yn fwy na thebyg y cawn era gyru i ryfela eto.' W 'Bydd yn ddrwg gan fy nghalon i ymadael a chwi, fy nghyfeillion gwrol,' ebe Jeffur. 'Rhaid ufuddhau tynged rhyfel," atebai y Cymro; 'ac nid oes mo'r help;' ond yr oedd yn amlwg fod y milwr glew yn teimlo i'r byw wrth feddwl canu'n iach. Nid oedd teimlad Donald mor brudd, o herwydd ei Jessie oedd ei bobpeth -of. Ond yr oedd Pat druan hrollIlefain. 'Meistr Jeffur,' ebe fe, 'a chwithau Miss Edwards, cym- rwch drugaredd ar fachgen tlawd, a gadewch i mi ZD fyn'd hefo chwi.' 'Gwyn fyd nad allem, Pat!' atebai Jeffur a Helen Edwards. 'W"l. ar y fan yma, mi ddiangaf gyda chwi, heb ofyn bw na be i undyn byw.' 'Na, na,' meddai Taffi, gan ysgwyd ei ben, 'ni wnaiff hyny mo'r tro, Pat. Paid gadael i neb byth ddweycl dy fod yn wrthgiliwr o'r fyddin, a thithau wedi gwel'd cymaint, a newydd ddveh- welyd o roi golchfa dda i'r Rwsiaid yn y Crimea, am yr hyn y cefaist dair medal a thri bar.' 'Gwir. Taffi.' 'Wel, rhaid i ti wneyd dy ddyledswydd, ynte.' Ocheneidiodd Pat. 'A phwy a wyr, Pat,' ebe Helen Edwards, 'na chawn gwrdd a'n gilydd eto, wedi i heddweh gael ei adferu i'r wlad hon.' Nis gallai Pat ateb, ond ceisiodd wneyd rhyw fath o swn, gan ddweyd fod pryf mawr wedi 'hedog i'w lygad, a gwneyd i'r dwr dclod allan o hono. 'Wel, boys,' ebe Taffi, Igadewch i ni fyn'd fel milwyr.' A dododd y tri eu harfau ar eu hys- gwyddau gan gychwyn tua'r aerfa; ond nid cyn i Highland Jessie daflu ei hun ar wddf Helen Edwards a Mrs Lloyd, ac i'r tair wylo yn hidl wrth ymadael a'u gilydd. Rhoddodd y ddwy chwacr gyfarwyddyd iddynt oil yn nghylch pa le v caent hyd iddynt drachefn. Aetli Jessie gyda Donald, gan gludo ei napsach, a phendcrfynu bod yn wraig i filwr. Yr oedd Calcutta yn llawn o filwyr, o herwydd fod adgyfnerthiad cryf newydd lanio o Loegr, a chydag anhawsder y gallai Jeffur, Helen, Mrs. Lloyd, a Sadi, gwas Jeffur, gcrddcd yr heolydd. ra yn cerdded, goreu gallent, tua lie yn y ddinas ag yr oedd y ddwy foneddiges yn gyfar- yydd ag ef, clywcnt drwst tabyrddau a cerddor- iaeth filwrol, a bu raid iddynt sefyll o'r naill ochr 1 adael i gatrawd fyned heibio; ac yna catrawd Yn ddisymwth, gwelwyd swyddog yn ~^pio ei farch, ac yn neidio o'r cyfrwy, gan ynf 'Annie! Annie! ai breuddwyd yw hyn, ^edd W^' a 711 eich gweled mewn gwir- f^^dd ^rs* Lloyd ddim ond amser i yngan Dodod/i ^Wr' ac 3™ llewygodd yn ei freichiau. erbyn h ^8"^wriad Lloyd—fel y gelwid ef 7 gatrawd yn nghofal j Major, ac aeth a'r cwmni i gyd i'w lety cf, 11c, yn mhen tuag awr, yr oeddynt oil wedi ymdawelu ac ym- orphwyso llawer. Gwrandawai yr Is-filwriad Lloyd, gyda dyddordeb mawr, ar Jeffur yn adrodd eu helyntion ar ol y gwasgariad disymwth a fu ar y cyfeillion. Wedi i Jeffur orphen yr hanes, dy- wedodd y swyddog, 'Fy anwyl gyfaill, ni fydd oes gyfan yn ormod i ddiolch i chwi am cich ffyddlondeb, a'ch gwroldeb, a'ch caredigrwydd. Nid oes genyf eiriau i draethu fy nheimladau.' 'A!' ebe Jeffur, gan gymeryd gafael yn Ilaw Helen Edwards; 'ai nid wyf am gael gwobr fawr ?' '0, ai fel yna mae hi'n bod, aie ? Wel, campus, meddaf fi. Dyma bleser yn wir. Mae genyf hawl, fel brawd-yn-nghyfraith i roddi Helen mewn priodas. Ond, Jeffur, esgusodwch fi,- rhaid i Helen gael ei phriodi yn deilwng o eneth yn proffesn Cristionogaeth.' Edrychai Jeffur yn ostyngedig, gwylaidd, a difrifol. Yna dywedodd, 'Wei, gyiail, yr wyf yn gobeithio cad fy nerbyn fel Cristion fy hunan. 0 Y mae addysgiadau yr angyles hon, yn nghyda'r golcuni a gefais wrth ddarllen ei Bibl, wedi cyf- newid fy marn a fy nheimlad, a hyderaf fy mod wedi cael cyfucwidiad calon. Mi a gyffcsaf fy hun yn Gristion heddyw, a mynaf fy medyddio i'r ffydd Gristionogol cyn ei phriodi.' Yr oedd y swyddog yn methu gwybod beth i'w ddweyd na'i wneyd gan lawenydd wrth glywed hyn. O'r diwcdd, dywedodd, 'Y mae genyf newydd i'w ddywedyd. Cewch hen gyfeillion anwyl i fod yn wyddfodol yn y bedydd ac yn y briodas. Awn i'w gweled yn fuan.' Yn ofer y coisia y boneddigosau berswadio y swyddog i ddywedyd. pwy oeddynt i gael cu n tn gweled. Aethant gydag ef i barth arall o'r dref. t) Curasant wrth ddrws palasdy. Arweiniwyd hwynt i ystafell ysblenydd, lie, er eu mawr syn- dod, y canfyddai Jeffur a'r boneddigesau, Hanni- bal Hawkins, a Coosar Hawldns, ei frawd, mewn urdd-wisgoedd milwrol. Yr oedd eu chwaer, Miss Hawkins, yno hefyd, yn nghyda boneddiges wedi ei gwisgo yn ardderchog, yr hon a gymerodd Colonel Hawkins gerfydd ci Z, llaw, gan ei thywys at y boneddigesau, a dywedyd, 'Fy ng^Taig!' 'Zeelook!' ebe pob un o honynt. Gwenodd Zcclook; ymgrymodd, ac yna cusan- odd Helen Edwards a Mrs Lloyd. Dyna lle'r oedd trwst tafodau wed'yn Adroddodd Col. Hawkins, a'r Is-filwriad Lloyd, bob yn ail, eu hclyntion hwythau, ar ol yr ym- adawiad a gofnodasom wythnosau yn ol-fel y buont yn crwydro trwy y wlad, gan ddyoddef newyn, ac ymladd a gelynion, hyd nes cyrhaedd Calcutta. Cyn gynted ag y dacthant yno, priod- odd Col. Hawkins yr eneth Indiaidd a achubasai ei fywyd, sef Zeelook. Yn mhen dcuddydd, cymerodd priodas ysblen- ydd le yn Eglwys Gacleiriol St. loan, Calcutta. Y briodfcrch oedd Helen Edwards, a'r priodfab, y gwrol Jeffur. Yr oedd cynulliad dirfawr o edrychwyr yn wyddfodol, a phawb yn cydnabod na welwyd erioed bar harddach a mwy dyddorgar yr olwg arnynt. # Dyma ein hanes wedi ei dcrfynu bellach. Mae Jeffur yn ei gartref mynyddig, gyda'i wraig deg. Y mae yr Is-filwriad Lloyd, gyda'r ddau frawd Hawkins, yn rhyfela, a Zcelook a Mrs. Lloyd yn aros yn Calcutta. Cafodd Taffi, Pat, a Donald, ddyrchafiad yn y fyddin, am eu gwroldeb a'u hymddygiad da. Bellach, cawn yr hyfrydwch o gynysgaeddu ein darllcnwyr a hanes dyddorol arall. DIWEDD.

[No title]

CONGL Y LLENOR.

[No title]