Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
NANTGARW'.
News
Cite
Share
NANTGARW'. pyflwyniad Anrheg.-Nos Fercher, y 13eg o'r Bus hwn, ar derfyn y gyfeillach grefyddol, cododd gweinidog y lie, y Parch C. T. Thomas, ar ei draed, a dywedodd fod yno un peth arall yn galw am eu sylw. Gan fod y gangen fywiog yma. o hen eglwys y Groeswen wedi codi pregethwr yn ddi- Weddar, a'r pregethwr hwnw yia arddangos cy- toaint 0 gymhwysder i waith mawr a phwysig y Weinidogaeth, fod lluaws o gyfeillion o'r eglwys, EVr byd o ran byny, wedi cael ar eu calon i bwrcasu fcifer neillduol o lyfrau o waith gwahanol awdurou enwog, megys y Dr Thomas, Dr Storrs, ac ereill, fel arwydd fechan o'n parch a'n dymuniadau da 1 n hanwyl frawd Mr Joseph Millward. Cafwyd ychydig eiriau pwrpasol i'r amgylchiad gan y- Mri Isaac Thomas, Daniel.Edmunds, a Thomas, Ty'n- ywerD, &c., a mynegodd Mr J. Millward ei deiml- adau diolchgar mewn ychydig o ymadroddioa byw a detholedig. Arferai yr enwog a'r anfarwol Barch Griffith Hughes, o'r lie hwn, pan y deuai rhyw lyfr newydd, defnyddiol, a chostus allan o'r Wa8g, i argymhell yr eglwys i'w brynu iddo, ar yr arnod y buasai yntau yn ei gyflwyno ya ol iddynt dros yr areithfa. Hyderwn y ca ein hanwyl frawd Mtllward oes faith i fwyta y llyfrau hyn a. gafodd genym, ac ni bydd genym ninau nn .gwrthwyneb- Jad i'w derbyn yn ol ganddo dros y pwlpud. Dygwyddiad lihyfedd.—Er's blynyddau lawer yn ol, dygwyddcd i'n cyfaill Mr Thomas, Ty' nywern, adrodd wrth y diweddar foneddwr hael a pharchus Mr Evan Williams, Y.H., Dyffrynffrwd, ddarfod i Hn,o i ^aenoriaid ef, sef Cadben Evans, cydymaith 1 Cadfridog Pritchard, Llancaiach, swyddogion perthynol i fyddin Cromwell, fod yn garedig neill- duol i'r achosion a'r gweinidogion Yrnneillduol yn y rhanbarth yma o Gymru. Dangosodd yr hy- barch foneddwr awydd mawr i gael rhagor o'i hanes, yr hwn a ysgrifenwyd iddo gyda'r parod- rwydd mwyaf ac ar gais Mr Thomas, derbyniodd lyfr clodwiw yr anwyl ddiweddar Ddr Rees, Aber- tawy, ar "Hanes Ymneilldaaeth yn Nghymru." Anfonodd Mr Thomas at y Doctor am y gyfrol, ac yn mhen yr amser priodol derbyniodd hi, gyda'r hysbysiad, mai yr un hono ydoedd yr un olaf ag oedd ganddo ar ei ddwylaw! Yn mhen rhai blynyddoedd y mae dyddiau y gwladwr ardderch- og o'r Dyffrynffrwd yn cael eu rhifo .i'r pen; a chan mai Saesoneg a Jeferid gan y teulu, a'u bod yn Eglwyswyr hefyd, y mae'r hen foneddwr car- edig yn barnu yn ddoeth i ddychwelyd y gyfrol i Mr Thomas i wneyd y defnydd a fynai ohoni, gan ei fod yn tybied na buasai hanes Ymneillduaeth yn rhyw ddyddorol neillduol i'w berthynasau a'i olynwyr. Dygwyddodd yr adeg bono fod yr eglwys yma wedi codi pregethwr, yr hwn erbyn heddyw sydd yn llenwi un o gylchoedd pwysicaf yr Enwad a chan nad oedd y gyfrol grybwylledig yn ei feddiant, darfu i'n cyfaill, yn ol ei hynaws- edd arferol, ei chyflwyno i'r gwr ieuanc hynod ac athrylithgar o Gwmparc. Ond at hyn yr oeddym yn cyfeirio, a hyn sydd yn rhyfedd yn hanes y gyfrol grwydredig uchod, y very cyfrol yna-yr olaf yn myned allan o ddwylaw ei hawdwr er's blynyddoedd meithion yn ol—ydoedd y gyfrol wedi'r cwbl a ddefnyddiwyd ganddo ef ei hunan wrth barotoi ei ail argraffiad o'r un gwaith i'r wasg er's ychydig amser yn ol! Tybiwn fod pob dygwyddiad hynod ag sydd yn dal cysylltiad a'r hen Ddoctor anwyl, fel llwch aur, yn rby werth- fawr i fyned byth ar goll. Oblegid yr oedd efe yn wr da, ac yn llawn o'r Ysbryd Glan, ac o ffydd." GOHEBYDD. -»
LLUNDAIN.
News
Cite
Share
LLUNDAIN. [ODDIWRTH EIN GOHEBYDD NEILLDUOL.] Ymgomfa y Cymrodorion.—Cyfarfu nifer lawer o aelodau, yn nghya chyfeillion y Gymdeithas, yn y Freetpasons' Tavern, ar y 7?ed cyfisol. Arddang- osid yn y brif neuadd nifer lawer o weithiau celf- yddydol. Yr ydoedd tri o arluniau o waith Mr E. Burnes-Jones, pa rai oeddent wedi eu byswirio am £ 6,000. Yr ydoedd hefyd ddarluniau hardd gan Mr W. Cave Thomas, a chelfyddydwaith gerflun- iol gan Mr Milo Griffith. Yr oedd y cynllun cyntefig o Brifysgol Cymru yn Aberystwythyn cael sylw llatrer yno. Arddangosid yno lyfrau henafol, a llawysgrifau o weithiau barddonol hen awduron Cymreig, ya nghyda. hynafiaethan gwerthfawr ereill, gan y Parch John Davies, M.A., Dr Isambard Owen, M.A., Mr E. B. Phillimore, M.A., ac ereill. Cynaliwyd hefyd gyngerdd yn ystod y rhan olaf, pa un a agorwyd gan y Cam- brian Vocal Union, dan arweiniad Mr B. James. Ar gynygiad Mr John Thomas, Telynor ei Mawrhydi y Frenines, ac eiliad Mr J. Owen, cariwyd pleidlais o gydymdeimlad ar yr achlysur o farwolaeth y diweddar Mr Brinley Richards. Chwareuwyd hefyd ddarnau cyfaddas i'r amgylch- iad gan Mr John Thomas ar. y delyn. Cafwyd gwasanaeth Madame Edith Wynne, i ba un y cyf- lwynwyd blodeuglwm hardd. Canwyd gan Mr M. Humphreys—" Hen Wlad y Menyg Gwynion," a Plas Gogerddan." Miss M. Price—"With the dawn," "Y Fvvyalchen." Madame Martha Harries-" Yn Nyffryn Clwyd," "Light in dark- ness tywysoges y canu Cymraeg, onide. Caf- wyd gan Mr Edward Owen— £ 'Cymru, Cymro, a Chymraeg." Atebwyd ail alwadau fwy nag un- waith. Gwasanaethwyd ar y berdoneg gan Miss Ella Richards. Darlith gan Dr Thomas.—Ar y 9fed cyfisol, yn Fetter-lane, cyfarfu lluaws yn nghyd i wrandaw y ddarlitb ar y Diwygiad Dirwestol yn Nghymru yn ystod y 50 mlynedd diweddaf." Cymerwyd y gadair, ar gynygiad y Parch O. Evans, gan Mr Davies, Llandilo. Gwerthfawrogai y teimlad Cymreig sydd yn y Brifddinas, a llongyfarchai Dr Thomas yn gynes iawn ar ei ddyrchafiad i Gadair yr Undeb, er fod hyny wedi ei ddwyn oddiam- gylch drwy amgylehiad galai-us. Sylwai y Dar- lithyd mai yn addoldy Jewin (T.C) y sefydlwyd y Gymdeithas Ddirwestol Gymreig gyntaf yma yn Ma,i, 1837. Arwyddwyd gan chwech o bersonau- Mr Thomas Gee, Dinbych, yn ysgrifenydd, a Mr John Pugh. Canfyddaf yn Llyfr Dr Thomas fod Mr Hugh Owen wedi c/flawai y swydd hefyd. Erbyn yr wyl flynyddol gyntaf yr oedd eu nifer yn 286. Mae lie cryf i ofni mai y Trefnyddion Calfinaidd sydd yn fwyaf gweithgar gyda y symudiad ymay dyddiau hyn hefyd, ond y mae er hyny rai eithriadau llafurus iawn. Peth hynod o amentbyn ydoedd cael yma ddarlith yn yr iaith Gymraeg, a byny hefyd yn y modd a'r dullwedd sydd yn dwyn i sylw y dull ymadroddi sydd yn perthyn i'r cymeriad a'r teimlad Cymreig. Yr ydoedd yn amlwg iawn fod pawb yn mwynhau hyny yn fawr. Cynygiwyd pleidlais o ddiolchgar- wch am y ddarlith gan y Parch J. Evans. Eil- iwyd gan y Parch R. L. Thomas. Cariwyd hefyd bleidlais o ddiolchgarwch i'r Cadeirydd. Galwodd y Parch O. Evans sylw at Lyfr Dr Thomas, a gwerthwyd nifer ohonynt. CnIRO CYMREIG. ♦
TYNYGWNDWN A THROEDYRHIW,…
News
Cite
Share
TYNYGWNDWN A THROEDYRHIW, SIR ABERTEIFI. CYFARFOD ORDEINIO. Ar y dyddiau Mawrth a Mercher, y 12fed a'r 13eg cyfisol, cynaliwyd cyfarfodydd i ordeinio Mr B. Carolan Davies, o Athrofa Henaduriaethol Caerfyrddin, yn weinidog ar yr eglwysi uchod. Nos Fawrtb, pregethwyd yn Tynygwndwn gan y Parchn D. Jones, Ceinewydd, a J. H. Thomas, Salem. Yr un pryd, pregethwyd yn Troedyrhiw gan y Parchn D. Davies, Cana, ger Caerfyrddin, a W. Griffiths, Maenygroes. Tranoeth, am 9.30, yn Tynygwndwn, wedi myned trwy ranau arweiniol y gwasanaeth gan Mr M. Evans, Oakford, pregethwyd ar Natur Eglwys gan Proff. Jones, M.A. Holwyd y gofyn- iadau arferol i'r gweinidog ieuanc gan y Parch B. Phillips (cynweinidog Tynygwndwn a Throed- yrhiw), ac atebwyd hwy yn fyr, cryno, a hynod o gynwysfawr gan Mr Davies. Ofifrymwyd yr urdd-weddi gan y Parch T. Thomas, Llanfair. Traddodwyd siars i'r gweinidog gan y Parch D. Adams, B.A., Hawen, ac i'r eglwys gan yr hybarch W. Evans, Aberaeron. Am 2, pregethwyd gan y Parchn R. P. Jones, Pencader, a T. P. Phillips, Horeb. Am 6, pregethodd y Parchn H. H. Williams, Llechryd, a H. Jones, Ffaldybrenin. Heblaw y gweinidogion uchod, yr oedd yn bresenol y Parchn J. M. Prytherch, Wern; E. C. Davies, Llanon; T. Jones a T. Johns, Cilcenin J. H. Evans, Capelywig Thomas, Llanbedr D. G. Jones; D. T. Evans, Rhydri; Evans, Llan- ybyther; Evans (M.C), Abermeurig; E. Davies (M C), Bwlchyllan; Rees (U), Rhydygwin. Myfyrwyr-J. Grawys Jones, James Jones, D. IJ. Thomas, J. Tegryn Phillips, W. Llynfell Griffiths, D. Picton, D. D. Walters, a Rhys Harries. Hefyd yr oedd yn bresenol rai o fyfyrwyr Llansawel. Daeth 11awer i fyny o'r Glyn (mam-eglwys Mr Davies) i ddangos eu parch iddo eu hedmygiant ohono, Y mae Mr Davies yn dechreu ar ei weinidogaeth mewn gwlad iach a phrydferth, ac yn mysg dyn- ion sydd yn llawn o garedigrwydd a pharch i'r weinidogaeth. Llongyfarchwn yr eglwysi ar eu dewisiad o ddyn ieuanc morrhagorol, ac eidduuwn i Mr Davies a'r eglwysi lwyddiant mawr yn y dyfodol. J. TEGRYN PHILLIPS. «
BEULAH, EGLWYSNEWYDD. -
News
Cite
Share
BEULAH, EGLWYSNEWYDD. "Cantata y Plant." — Yn y capel uchod, nos Fawrth, y 12ed cyfisol, bu Cor y Plant perthynol i'r lie yn perfiformio "Cantata y Plant" (Doctor Parry). Arweiniwyd y Cor gan y llafurus a'r def- nyddiol Mr Edward M. Thomas. Chwareuwyd yr organ gan Mr D. W. Rees. Cafwyd caneuon gan Mrs J. Evans, Mri F. Samuel, a E. Jenkins. Llywyddwyd gan Mr D. G. Rees, gweinidog y lie. Awd trwy y gwaith yn rhagorol, a gwnaeth pawb eu rhan yn ganmoladwy iawn. Heblaw yr hyn a glywyd yno mewn canu, adrodd, chwareu, a siarad, yr oedd yr byn welwyd yno wedi swyno pawb. Y mamau wedi gwisgo eu rhai bychain yn eu gwisg- oedd gwynion, &c., a Mr J. Phillips ac ereill o'r tadau wedi addurno y capel yn y modd mwyaf destlus, nes oedd pawb wedi dotio rhwng y cwbl. Yr oedd y capel yn orlawn, a Ilawer yn gorfod troi ya ol, yn methu myned i mewn o gwbl. Digon o brawf o lwyddiant y cyfarfod ydyw, bod cais ey. ffredinol am ei gael drosodd eto, yr hyn gymer le nos Fawrth nesaf. Beulah Savings Bank.- Y nos Wener canlynol, cafwyd cyfarfod o natur arall yn yr un lie. Llyw- yddwyd gan y gweinidog, yr hwn a eglurodd amcan mwyaf neillduol y cyfarfod, sef cyflwynoyn ol gyda 11,6g i wahanol aelodau yr Ysgol Sabbothol yr arian oeddynt wedi eu gosod yn y bank per- thynol i'r ysgol yn ystod y flwyddyn oedd yn ter- fynu yr wythnos flaenoro). Yr oedd yr oil yn cyr- haedd y swm anrhydeddus o Y,106 5s. 9c. Cafwyd anerchiadau gwresog gan amryw o'r athrawon, a phawb yn teimlo ein bod yn ddyledus iawn i'n selog a'n gweithgar ysgrifenydd, Mr T. Lovell yr hwn sydd wedi bod yn brif weithiwr gyda y symudiad daionus yma. GWEBNTDD,
CYFARFOD CENADOL ANTIOCH,…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
ft r eiddo ein hanwyl frawd y diweddar JBarchedig Simon Evans, Hebron, ac y gogoneddwn Dduw yn y gwasanaeth a gyflawnwyd ganddo ef i achos crefyld, purdeb, a sobrwydd, yr ydym yn dymuno gosod mewn coffa ein galar dwys a'n colled fawr trwy ei symud ef gan angen. Yr oedd i ni yn anwyl iawn ar gyfrif ei oregethau nerthol, ei fuchedd sanctaidd, ei ffyddlondeb idor, a'i wasanaeth anmhrisiadwy fel Ysjrifenydd y Cyfnndeb am dros ddengain mlynedd. Hyderwn y disgyn ei ysbryd a'i nodweddion ar ereill, fei y byddo i'r adwy lydan a wnaed gan ei farwolaeth gael i ryw raddan ei llenwi. Ein gweddi yw, ar i'r eglwysi yn Hebron a Nebo, dros y rhai y bu iddo ef fawr ofal calon, gael amddiffyn ac arweiniad Ysbryd Dnw i'w cyfarwyddo nes cael ohonynt eto un fydd iddo yn olynydd teilwng ac yn fugail wrth fodd calon Dnw. Dymnnwn hefyd fynegi ein cydymdeimlad llwyr â'i boll berthynasau galarns, a gweddiwn ar iddynt dderbyn ya helaeth o gysuron yr Efengyl y bu ef yn ei chyhoeddi mor gyson, ac yn weinidog mor deilwng ohoni. 5. Fod Mr John, Castellparw, i archwilio eyfrifon y Drysorfa Gyfundebol am y flwyddyn ddiweddaf. 6. Fod Mr Thomas, Bethesda, i fod yn Ysgrifenydd y Cyfnndeb. Galwodd Mr Evans, Cwmbach, sylw at agoriad Moriah yn mis Mebefin, a dymunai ar y gwein- idogion i roddi eu presenoldeb a'u gwasanaeth ar yr achlysur. 0 Terfynwyd trwy weddi gan y Cadeirydd. Y MODDION CYROEDDUS. Am 6, cafwyd cyfarfod cenadol. Wedi i Mr Francis, Ferryside, weddio, cymerwyd y gadair gan Mr E. H. James, Y.H., Pontygafel, ac anerch- 'w.Yd y cyfarfod gan Mri Thomas, Bethesda; Williams, Carfan Williams, Llandilo; a Thomas, Whitland. Yn y cyfarfod hwn, pasiwyd yn ttnfrydol y penderfyniad a ganlyn :—" Ein bod yn llawenhau yn llwyddiant y Prifweinidog a'r Weinyddiaeth bresenol i ddyfod trwy ddyryswch yr anghydwelediad rhyngom a Rwsia heb dywallt gwaed, ac yn dymuno datgan ein hymddiried llwyraf ynddynt fel rhai cymbwys i fod wrth awenau y Llywodraeth yn y dyfodol." Terfyn- Wyd trwy weddi gan y Cadeirydd. Am 10, dydd Mercher, dechreuwyd gan O. R. Owen a phregethodd Thomas, Bethesda, Eph. i. 10, a James, Brynbank, Matt. xxvi. 26-30. Yna cyfranogwyd o Swper yr Arglwydd. Llywyddid wrth y bwrdd gan Perkins, Maenclochog, a Lewis, Brynberian. Am 2, dechreuwyd gan Stephens, Llwynyr. hwrdd; a phregethodd Williams, Henllan, Heb. xii. 1-3, a Lewis, Berea, loan ii. 3. Am 6, dechreuwyd gan Tyssil Evans, Horasea ft Phregethodd Jones, Trewyddel, Num. xxiii. 13, a Thomas, Solfa, Matt. xxviii. 5, 6, 7, 20.' Uafwyd croesavv hyfryd gau y frawdoliaeth yn Antioch hyderwn eu bod hwythau wedi derbyn lies trwy y cyfarfodydd. Drwg genym hysbysu Bad yw Mr Richards ddim gwell. Yr wyf yn mawr obeithio y caiff dysteb deilwng. Y mae efe ynhaeddu gwneuthur ohonom hyn iddo. Y chwi sydd heb roddi, ac yn meddwl rhoddi, rhoddwch heb oedi. O. R. OWEN, Ysg. pro tem. +