Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

25 articles on this Page

CAJEBNABFON.'I

News
Cite
Share

CAJEBNABFON. Dydd Sadwm diweddaf, cyhuddwyd William Owen, Talyaarn, o geisio lladrataoriawr a chadwen, eiddo John Jones, Cwmyglo, ac anfonwyd ef i garchar am dri mis. Derbyniasom raglen y oyfarfod adlouladol a gyn- lielir yn y Guild Hall nos Iaunesaf: a barnu oddiwrth enwau y cantorion, darllenwyr, &c., diau y bydd yn un o'r rhai gorau a gafwydeto. Mwyohaald aelodau oor Ebenezer, yn nghyda'r .-yfeuou a gymeramut ran yn y "watohnight" Vidiweddar, swper rhagorol nos Fercher. Cafwyd cyfarfod adloniadol cyn ymwahanu. Cafwyd Thomas Taylor yn euog o ladrata set o ,ddanedd gosod, eiddo ei feistr Mr P. Harding, vlemtydd, o'r dref hon, ddydd Sadwrn diweddaf, a dedh-vdwvd ef i dri mis o garchariad. Cynhaliodd y Wesley aid Seisnig gyfarfod oen- liadol nos Lun diweddaf, pryd y traddodwyd anerchiadau ar yrachlysur gan y Parchn. iF. Payne, Rhyl; S. Haigh, Caernarfon; Hutchinson, Gaer- Tiarfon, ac ereill. Llywyddwyd yn fedrus gan Mr Hugh Humphreys. Deallwn mai 12p a gasglwyd yn y gylohdaith hon at y genhadaeth. Dydd Sadwrn diweddaf, dygodd Mr Henry Jones, eigydd, Bangor-street, eidion ardderchog i'r farohuad, yn pwyso y swm anferth o 181 cwt. M-agwyd yr anifail hwn ar ffarm y Parciau, eiddo Mr Humphreys, o'r Roval Hotel. Derbyniodd wobr yn Llangefni yn 1876, ail wobr yn Bangor yn 1877, a'r drydedd wobr yn arddangasfa amaeth- yddol ddiweddaf Lerpwl. EISTBDDFOD PORTHAETHWT.—Da genym ddeall fod y cerddor ieuano gobeithiol, Mr R. Lloyd Owen, mab yr adnabyddus Mr William Owen, Prysgol, ar ffurflo cymdeithas gorawl, etholedig o leisiau goreu Caernarfon, er ymgeisio am y brif anrhydedd gorawl yn eisteddfod ddyfodol Porth- aethwy. Llwyddiant i fechgyn o dalent, onide P Sicrheir y bydd i Pencerdd Gwyneddf fod yn gyf- eilydd i'r gymdeithas hon. Pwy yn weU p- Gohebydd. TBKL FFYNON LORW.Cynhaliodd y deml uchod swper ardderchog a chyfarfod adloniadol yn yr ystafell o dan gapel Seisnig Turf-square. Gweinyddwyd wrth y byrddau gan y boneddigesau a ganlyn :-Mrs Lloyd, Pool-side; Miss Davies, Glanaber; Miss Williams, Pool-side; Miss Griffiths, -do; Miss Jones, do; Miss Ellis, High-street; Misses Parry, Leiod; Miss Jones, Bangor-street; Miss Parry, South Penrallt; Miss Griffiths, do; a Miss Davies, Bridge-street. Cafwyd cyfarfod da a ;ylweddol, pryd y llywyddwyd yn ddoeth gan y brawd John Lloyd, Pool-side. Canwyd yn y cy- farfod gan Mr W. Jones, Bangor-street, a'i barti; Mise Jones, Bangor-street; MUs Williauls, Llan- llyfni; Miss Roberts, Garnons-street; Mr Thomas Joites, Treffynnon; Mr H. 0 Hughes, British School. Areithiwyd yn hyawdl gan Mr David Roberta, Peblig Mills; Mr W. Davies, Pool- street; Mr W. Davies, Treffynnon; Mr Thomas Morris Jones, cysodydd, &c. Talwyd diolch- garwch arferol, yn neillduol i Mr Wm. Parry, pobydd, Bridge-street, am ei wasanaeth a'i gare- ■digrwydd. MARWOLAKTH Mr EVAN RicHAnDsoN. -Hewn volofn arall gwelir crybwylliad am farwolaeth ,'dyn a hollol annysgwyliadwy Mr Evan Jtichardson, 6, Segontium-terrace, yr hyn a gy- uerodd le pryduawn dydd Gwener diweddaf. Tarawyd pawb a syndod wrth glywed am yr am- Sylchiad pruddaidd, gan fod yr ymadawedig yn un o'r masnachwyr mwyaf synwyrol, hynaws, a -charedig yn y dref, ac yn un a fawr berchid ac a -edo^id gan bawb yn ddiwahaniaeth. Er fod ei je<?ttyn adfeilio er's rhai misoedd, ychydig a :to ylid fod awr ei ymddatodiad mor agos. Yr oedd allan ddydd Mawrth, a dilynodd ei alwedig- aeth arferol i fyny byd brydnawn ddydd lau. Wedi ychydig oriau o gystudd bu farw oddiwrth gletyd y galon ar brydnawn y dydd canlynol, er gofld chwerw i'w briod a'i deulu, ac i lawer o'i gy. feHlion a'i edmygwyr. Yr oedd yn wyr i'r di- weddar Barch Evan Richardson, un o sylfaenwyr yr achos Methodistaidd yn Nghaemarfou. Cymer- odd yr angladd le prydnawn ddydd Mawrth, pryd y talwyd iddo y gymwynas olaf gan dorf fawr a pharchus o fasnachwyr a chyfeillion yn nghydag aelodau cyfrinfaoedd yr Odyddion yn y dref, i ba rai yr oedd yn perthyn. Teimlir cydymdeimlad dwfu a'i briod serchus a'r teulu yn eu trallod chwerw. Cymydog enwog, uniawn,-oedd Evan, Ddifyr a sechogl.?n- Gwyl fasnachydd, llonydd, llawn,— D.' Ofl?fe bwd cyfiawn. Y BWBDD YSOOL.—Cynhaliwyd cyfarfod misol y bwrdd nos Fercher, yr 16eg cyflsol, pryd yr oedd yr aelodau canlynol yn bresenol:—Meistri W. P. Williams (cadeirydd), J. Jones, Thomas Hughes, J. Edmunds, a Mr R. Hughes, yr ysgrifenydd. Wedi i gofnodion y cyfarfod blaenorol gael eu cadarnhau, cymerodd ymddiddan le gyda golwg ar archeb y bwrdd am dreth at ddybenicm addysg. Arwyddwyd yr archeb yn Medi diweddaf, ond Rid oedd trysorydd y gorphoraeth wedi tala yr arian hyd yn hyn. Gwnaeth Mr Jones sylwadau miniog iawn ar yr esgeulusdod hwn, a oyl-rodd y dylai y Cynghor Trefol weled fod yr arian yn cael eu talu yn ddioed. Hysbysodd yr ysgrifenydd iddo weled j trysorydd, a dywedodd yr olaf nad oedd ganddo arian, ac na dderbyniodd rai ar gyfrif y dretb.- Darllenwyd adroddiad Mr T. Morris, y swyddog gorfodol, ac yraddengys fod y presenoldeb yn yr ysgolion yn fo ldhaol dros ben.—Hysbyswyd mai Joseph William Thomas, Henwalia, ydoedd y bachgen gw,wth>f yn y dref; ei fod yn arfer Had- rata, a dellll plant eraill i'w gynorthwyo; nas gallai ei fam ei argyhoeddi o gwbl; ac nad oedd byth yn mynychu yr ysgol. Dygwyd ef gerbron y õwrdd, ac addawodd fod yn fachgen da yn y dy- :fodol. -Yr achos nesaf ydoedd eiddo David Daniel. Hysbyswyd mai gwario ei gyflog am ddiod y byddai ef, ac na dderbyniodd y wraig ond 15s oddi "Wrtho er's mis Awst diweddaf, ac nad oedd yn "byw gydag ef. Anogwyd Daniel i droi yn ddir- -westwr, ac yna ceisid dwyn y wraig i'w fynwes ,drachefn, a thrwy hyny anfonid y plant i'r ysgol. JVddawodd weithredu yn unol a chynghor y bwrdd. BWRDD Y GWARCHEIDWAID, DTDP SADWRN. —Presenol: Meistri Robert Jones (cadeirydd), Thomas Hughes, William Jones, John Jones (Caernarfon), Evan Hugh Owen, J. Fraser, J. Lloyd, Evan Griffith, Daniel Thomas, J. Jones (fAanwnda), Robert Williams, W. Owen, Parch. H. Jones Henry, Meistri J. Thomas, E. Williams, W. Griffith, Robert Griffith, Hugh Williams, Robert Roberts, Robert Lewis, a J. H. Thomas (ysgrifenydd). Cais am gynorthwy.—Daeth Thomas Jones, hen wr o gymydogaeth Clwtybont, i ymofyn am ychy- dig gymhorth, gan ei fod yn wael. Hysbysodd y bwrdd ei fod unwaith yn meddiannu y Clegir, ond cafodd ei yspeilio o'i eiddo trwy i'w fab ei werthu am lOOp i ddyn o'r enw Lloyd. Cydsyniodd y bwrdd i roddi ychydig gymhorth iddo ar hyn o bryd, ond nid oeddynt yn credu ei chwedl gyda golwg ar yr eiddo' a yspeiliwyd oddiarno. Gohebimthats.-Derbyniwyd llythyr oddiwrth Fwrdd y Llywodraeth Leol yn gofyn faint o am- ser a gymerai crwydryn i falu deugain pwys o Indrawn, ac atebwyd mai o ddwy i dair awr. Cofus gan ein darUenwyr i'r gwarcheidwaid anfon at yr awdurdodau ychydig wythnosau yn ol yn gofyn i'r rheol gyda golwg ar waith y crwydriaid yn y ty gael ei newid.-Anfonodd yr un awdur- dodau i hysbysu y bwrdd y gall y gwarcheidwaid o hyn allan wneyd cytundeb (contract) am nwyddau, &c., ae nid ymofyn am tendert. Achos ifari Sanders,' Umiwreh.— Derbyniodd yr ysgrifenydd lythyr oddiwrth Cadben Yerney, JR.N., Rhianfa, cadeirydd Llys Chwarterol Mon, yn galw sylw y gwarcheidwaid at achos Mary Jones, Stryd yr Eglwys, Niwbwrch, yr hon a euog- iarnwyd gan ynadon Porthaethwy, ar y 7fe l ey- Jisol, am droeoddu cyfraith y Lluestai. Ymddengys oddiwrth dystiolaeth y boneddwr hwnw ei bod yn derbyn dau swllt yn wythnesol, yn nghyda'i thy. gan y plwyf. Yr oedd hefyd yn dal ty arall, wedi ei gofrestru fel lluesty cyffredin, ond nid oedd y Hall felly. Er i'r heddgeidwaid ei rhybuddio yn barhaus, parhai i gadw lodgers yn y ddau dy. Trigai ei dau fab, teilwriaid ieuainc dibriod, yn derbyn cyflogau da, gyda hi; ac hysbysid fod un o honynt yn meddu deadell o ddefaid. Nid oedd y Cadben yn credu, wedi iddynt glywed y ffeithiau hyn, y buasai gwarcheidwaid yr undeb yn barnu fod Mary Jones yn berson cymhwys i dderbyn cymhorth allanol, pan yr oedd yn achosi y fath goet a thrafferth i'r sir.—Cafwyd adroddiad difyr dros ben o'r helynt gan Mr Ellis, relief mg oiffcer y doabarth, yr hwn, yn ngliyda Mr Thomas, Tantwr, a wnaeth ymholiad trwyadl i'r holl helynt. Syl- wodd Mr Ellii fod Mari yn derbyu oymhorth plwyfol, a rhoddoddesponiaa ar y dda.u dy a ddeUd ganddi. Trigai mewn ty byohan, am yr hwn y talai ardreth blynyddol o ddwy bunt. Yr oedd ganddi ddau fab, ond yr oedd un o honynt yn hoUol wirion, ac ni enillai ddigon i gynal ei hun. Derbyniai y mab arall 12s yr wythnos gan Mr R. P. Jones, ac o'r swm hwn talai am ei fwyd a'i ddillad, felly nis gallai ef gyfranu tuagat gynhal- iaeth Mari. Yr oedd y ddeadell' y soaiwyd am dani gan Cadben Verucy yn gynwysodig unwaith o bump o ddefaid. Bu farw dwy, ac yr oedd y gweddill yn pori mewn llain o dir hynod ddiwerth, am yr hwn y telid ardreth blynyddol o 353. Yr oedd y lluesty, am gadw yr hwn y dirwywyd Mari, yn un o res o hen t? a berthynent i'r plwyf yn flaenorol i fEurflad yr undeb. Cawsant eu liesgeu- luso, gadawyd y naill a'r llall i adfeilio, a medd- iannwyd hwy gan wahanol bersonau tlawd, a daeth Mari i feddiant nn o honynt yn ddiweddar. Ystabl mewn gwirionedd ydoedd y lie; ond er mwyn gwneyd ei meddiant yn fwy sicr aeth Mari a gwely yno; ac ar un aohlysur caniataodd i grwydriaid tramor gael cysgu yno 08 dewiBent, gan fod ei fhy yn llawn. Nid gwir ychwaith y chwedl mai meibion Mari a dalasant y ddirwy, a'r costau, 35s, ond casglwyd yr arian yn mysg yr amaethwyr, ac eraill yn yr ardal.—Bamodd y gwarcheidwaid yn ddoeth barhau y ddau swllt i Mari, ond ar yr un pryd amlygasant eu diolch- garwch i Cadben Verney am y dyddordeb a gy- merodd yn yr achos, trwy alw eu sylw ato. Nwyddau Dillad i'r Zlfotfy.-Derbyniwyd cynyg- ion y masnachwyr canlynol am gyflenwi nwyddau dillad i'r ty:Meistri Lewis Lewis, Nelson Em- porium Pierce and Williams, yr Air Aur; Eben- ezer Jones a'i gyf., Regent House; a Mr James James, Bont Bridd. LLYS YR YNADON SIROL.—DYBD SADWRN, gerbron Arglwydd Newborough (cadeirydd), y Parch Canon Wynn Williams, Dr. Millar, a Mr E. G. Powell. Cadio Gum hei Brvjijdded.—Gwyaivrjd Ellen Lewis, Penygroes, Llarillyfni, am gadw ci heb drwydded. Ymddangosodd Mr Allanson dros y ddiffynyddes, a dywedodd mai cri-werthwr (hawker) adawodd y ci yn ei thy rai wythnosau yn ol. Gan nad oedd yn dymuno ei ddinystrio, cad- wodd ef o dan ei gofal. Nid oedd yr ymddiheu- fiad hwn yn cyfiawnhau y ddiffynyddes o gwbl, a gorchymynwyd iddi dalu 25s. Hugh Thomas, Gwyndy, Llanllyfni, a gyhuddwyd o gyflawm cyftelyb drosedd. Ymddengys iddo ef gael y ci yehydig ddyddiau yn ol gan berson yn meddu trwydded, ac oherwydd hyny nid oedd yn tybio fod yn angenrheidiol iddo godi trwydded newydd. Birwywyd yntau i 25s.—Thomas Williams, chwar- elwr, Llanllyfni, a ddaeth yn mlaen i ateb cyffelyb gyhuddiad. Hewn amddiffyniad, dy- wedodd nad oedd y ci yn chwe' mis oed, ond tystiodd yr heidgeidwad Jones, yr hwn oedd gyda'r swyddog ar y pryd, ei fod yn nes i ddeng mis oed. Galwodd y diffynydd ar dyst i gadanw. hau ei haeriad o berthynas i'r oedian. Gorchy- mynodd yr ynadon iddo ddyfod a'r ci yn mlaen yn y llys nesaf i "siarad drosto ei hun."—Ni atebodd Edward Davies, Talysarn, wys am gyffelyb drosedd, ac o ganlyniad diiwywyd ef i ddwy bunt a'r costau. Meddwdod.—Dirwywyd y personau canlynol i 2s 6c a'r costau am feddwdod:—Thomas Edwards, Talysarn; Howell Powell, Llanberis; E. Richards, Talysam; Owen Evans, Penygroes; a Thomas Ryan, Ebenezer. Myn'd am dro.—Am ganiatau i'w fochyn ryddid i deithio y ffordd fawr, dirwywyd Robert Roberts, Penygilfach, Llanrug, i 9s 2Q cydrhwng y oostau. Plant Anghyfreithlon— Ceisiodd Catherine Ro- berts, 18 mlwydd oed, Ebenezer, dadogi ei phlentyn anghyfreithlawn ar William Jones, Capel Fachwen, Diuorwig, Llanddeiniolen. Ymddang- osodd Mr J. Roberts dros yr erlynes, a Mr Allan- son dros y diffynydd. Tystiodd yr erlynes iddi gyfarfod y diffynydd yn nhy ei chwaer, ae iddi fod yn ei ganlyn hyd o fewn yehydig fiaoedd cyn iddi roddi genedigaeth i'w phlentyn, yr hyn a gymer- odd le ar yr 20fed o Ragfyr diweddaf. Cyaierodd y cysylltiad le yn nghreigiau PenllYB-Cwmyglo. Gwadwyd hyn mewn modd pendant gan y diffyn- ydd, a galwodd ar nifer o dystion i gadarnhau ei haeriad. Taflwyd yr achos allan o ddifEyg tystiol- aeth.-Titas John Jones, Talysam, a gyhuddwyd o fod yn dad plentyn anghyfreithlawn Ellen Jones, Creigiau Mawr, Talysarn. Ymddangoeodd Mr Allanson dros yr erlynes, a Mr C. A. Jones dros y diffynydd, yr hwn a witdodd. idde) fod yn cysgu gyda hi yn nhy ei mam, ac iddo addaw ei phriodi pan wclodd ei bod yn feichiog. Galwyd amryw dystion ar y naill ochr a'r llall, a gorchymynodd yr yaadon Fr di2tynydd dalu 2s yr wythnos. SjY? YR YNADON BWRDEISIOL, DTDD LLUN, gerbron Mr Pugh (y maer) a Mr G. R. Rees. Gamymddqgiad.—Am gamymddwyn nos Sadwm diweddaf, anfonwyd Rachel Blackburn, dynes o gymeriad drwg, i garchar am fis. Meddwdod.—Cyhuddwyd E. J. Paul, dyn o ym- ddangosiad parchus, o feddwdod. Addefodd y trosedd, gan ychwanegu mai yagolfeistr ydoedd wrth ei alwedigaeth. Bu yn cadw ysgol Genedl- aethol yn Llanelwy, ac hefyd yn Nehendir Cymru. Daeth i Gaernarfon gan obeithio y caffai waith fel gohebydd newyddiadurol. Derbyniodd ei addyag yn Ngholeg Normalaidd Bangor yn 18-51. Dir- wywyd ef i 2a a'r costau. Ymosod ar Feili— Cyhuddwyd 0, .Lewis, Courty- bragwr, o ymosod ar Owen Edwards, beili, ar yr 16eg cyflsol. Tyetiodd yr erlynydd iddo fyned i dy y diffynydd i gymeryd meddiant o ran o'i eiddo gan nad oedd wedi talu rhent. Ymosodwyd arno gan y diffynydd, yr hwn hefyd a fygythiodd ei ladd gyda bwced haiarn. Cadarnhawyd hyn gan Wm. Wilkinson, beili aralL Gwadwyd y cyhuddiad gan y diffynydd, yr hwn a ddywedodd ei fod wedi talu y rhent, ac mai dyfod i'w dy yn feddw a wnaeth y beiliod.—Dirwywyd ef i 2s 6d a'r costau. Merehed Owerylgar.-Jane Owen, Treffynnon, a gyhuddai Margaret Jones o ymosod ami trwy ei churo a choes ysgub, gweddillion pa "arf" a ddangoswyd yn y llys. Gwadwyd hyn gan y ddiffynyddes, yr hon a ddywedai mai hi ac nid yr erlynes a ddioddefodd oddiwrth effeithiau yr ysgub a'r goes. Gan fod yr erlynes yn dymuno gohirio yr achos hyd y llys nesaf, er cael tystiolaeth ychwanegol, barnodd yr ynadon daflu y cyhuddiad allan. Modd bynag, hysbyswyd yr erlynes y willai gymeryd gwys arall os dewisai. Cyhuddiad Fwysig yn erbyn Tafarnwreig.-Laura Roberts, Coedhelen Vaults, Twthill, a gyhuddwyd o geisio llwgrwobrwyo. yr Heddgeidwad Hugh Hughes, tra yn cyflawni ei ddyledswydd. Amddi- ffiynwyd y ddiffynyddes gan Mr Allanson, Caer- narfon, ac erlynwyd gan yr Is-brif Gwnstabl Prothero. Oddiwrth dystiolaeth rr heddgeidwad ymddengys iddo fyned i'r Coedhelen Vaults oddeuta deg o'r gloch ar y 14eg o Ionawr, gan i ychydig gynhwrf gymeryd lie yn y ty. Aeth i'r tar, a chaufyddodd yno y gwas yn ceisio cael dynes o'r enw Hannah Dart allan. Cwynai y ddiffyn- yddes fod dynes ddrwg o'r enw McNolly wedi taraw yr olaf. Gofynodd y tyst iddi paham na buasai wedi galw am dano ef i glirio y ty, ac atebodd hithau i ddau ddyn fod yn chwilio am daM, ond iddynt fethu a dyfod o hyd iddo. Yr oedd amryw o ferched drwg yn y bar ar y p-yd. Dywedodd wrth y ddiffynyddes fod yn gywilydd mawr iddi gadw y fath annhrefn yn ei tliy, ac yna aeth allan. Oddeutu haner awr wedi unarddeg, pan yr oedd yn sefvll yn agos i Mount Pleasant- square, daeth y ddiffynyddes ato, a gofynodd iddo Pit le yr oeddych pan ddechreuoddy twrw yn y ty?" Atebodd mai yn y fan He yr oedd y pryd hyny yn sefyll. Cyfeiriodd hithau at vmddygiad un o'r merched, ae atebodd yntau fod ei thy yn cael ei gadw mewn dull cywilyddus, gan ei hadgoffa o'r hyn a welodd ar achlysuron blaenorol. Gofynodt iddll wedi hyny "Ddowchchwi ddim i fewn i gael glasiad o rywbeth P Atebodd yntau yn nacaol, pryd y dywedodd hithau "Miaredaf i'r ty i estyn ychydig mewn potel i chwi; y mae yn barod genyf." Atebodd yntau drachefn nad oedd ganddo ddim i wneyd & hi. Gofynodd hithau a oedd efe yn ddirwegtwr. Atebodd eto yn nacaol, ac yna rhoddodd hithau ei llaw yn ei phoced, gan ddyweyd Gwell i chwi gymeryd hwn i brynu ychydig o dybacco." Atebodd hi wedi hyny i'r perwyl mai ofer fyddai iddi geisio ei lwgrwobrwyo ef, ac ei fod am "reportio yr achos. Croes-hol- wyd y tyst gan Mr ABanson. Addefodd i ychydig o eiriau' fod rhyngddo ef a'r ddiffynyddes mewn perthynas i'r ty ar achlysuron blaenorol, ond gwadai fod ganddo deimlad personol yn y mater. Gwadai iddo fod yn cadw gwyliadwraeth fwy manwl ar y Coedhelen Vaults nac ar dafamdy arall yn y gymydogaeth, ac hefyd iddo fod yn edrych trwy y ffenestr pwy fyddai yn y bar. Bu yn cwyno wrth y ddiffynyddes oblegid ymddygiad suhaus gwas y ty tuagato. Yr oedd y ddiffyn- yddes mewn tymher lied boeth ar y pryd. Gwnaeth Mr Allanson araeth faith o blaid y ddiffynyddes, a galwodd sylw yr ynadon at y ffaith ei bod yn byw mewn cymydogaeth hynod o isel ac anmharchus. Oblegid hyny, anhawdd iawn ydoedd cadw gwell trefn yn y ty; yr oedd gan ferched drwg hawl gyfreithlon i fyned yno i yfed a neb arall yn y wlad, mor bell ag yr oeddynt yn iawn ymddwyn yno. Gyda golwg ar y cyhuddiad presenol yr oedd yn un difrifol iawn yn mhob ystyr, a gwedid ef yn bendant gan Miss Roberts. Cafodd ei dirwyo am ganiatau meddwdod ychydig wythnosau yn 01, pryd yr oedd y swyddog Hugh Hughes yn un o'r tystion, ac nid oedd yn debyg y buasai yn awr mor ryfygus a chynyg llwgrwobr i'r dyn hwnw. Na, yr oedd yn prisio ei heiddo, ac yn arfer y gofal mwyaf i gadw ei thrwydded rhag cael ei ooysgrifio. Nid oedd ych,waith yn meddwl y buasai dynes mewn tymher boeth (ac addefwyd fod y ddiffynyddes felly ar y pryd), yn cynyg Uwgrwobr i'r heddgeidwad. Bodolai amheuaeth mawr yn yr achos, ac eherwydd hyny erfyniodd ar yT ynadon i beidio cospi y ddiffYDyddes y waith hon, ond i daflu yr achos allan. Yna galwodd ar Miss Roberts i wadu tystiolaeth yr heddgeidwad gyda golwg ar y llwgrwobrwyon a haerid iddynt gael eu cynyg. Mewn atebiad i Mr Prothero, addefodd i ddau heddgeidwad fod yn ei thy oddeutu dau o'r gloch y boreu un diwrnod, ond gwalai iddi wrthod cymeryd arian am v ddiod a roddwyd iddynt. Dirwywyd y ddiffynyddes ar y 26ain o Dachwedd diweddaf i bunt a'r costau am ganiatau meddwdod.—Wedi ymddiddan pellach ar yr achos, cyfarchwyd y ddiffynyddes gan y Maer, yr hwn a ddywedodd fod yn ofidus iawn gan y fainc weled dynes ieuanc fel hi yn cael ei gosod yn y fath sefyllfa. Yn y fath gymydogaeth isel ao anmharchus diau ei bod yn anhawdd iddi gyflavmi ei dyledswyddau yn drefnusach, ond ar yr un pryd, yr oedd yn ddrwg iawn ganddynt hwy ei gweled yn y fath sefyllfa. Cafodd ei dirwyo a'i rhybuddio o'r blaen yn mis Tachwedd, ac yn awr cyhuddid hi o gyflawni trosedd difrifol iawn, sef ceisio llwgrwobrwyo heddgeidwad. Teimlai y fainc i hyny gael ei brofl yn ei herbyn, ac yr oeddynt yn awr yn dyblu y ddirwy, i ddwy bunt a'r costau, ac yn gorchymvm i'r trosedd gael ei ysgrifenu ar fefn y drwydded.-Hysbysodd Mr Allanson y byddai i Miss Roberts "lio yn erbya dedfryd yr ynadon. Cadw Ty Anmharchut.—Am gyflawni y trosedd hwn, dirwywyd Ellen Gregory i 118 6c rhwng y costau.

I . ACBEFAIB. I

I AMLWCH. I

I ABERTAWE. I

CBICCIETH.

CWM, PENMACHNO.

I CAEBGTBI.I

I CROESOSWALLT.I

LLANGWM.

-LLITHFAEN.

I - .LLANGEFNI.-

I BANGOR. I

I BEATTMABIS. I

I BETHEL, ABERDAR. I

BRYNENGAN, BIFIONYDD. I

BIRRENHEAD.

I FFESTINIOG.

LLANGOLLEN.

LLANDDERFEL.

LLANBERIF.

RHYDWYN, MON.

YD.

ANIFEXLTAIP.

I BETHESDA. ____I

CORWEN.I