Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
OYMDEITHAS ADEILADU BARRAOL BANGOR AO ARFON. AE y Gymdeithas hon wedi ei dwyn Jl ddiweddar o dan Act Newydd, 1874, ae mew4 ianlyniad i'r trefniadau newyddion y mae yn gallu :ynyg manteision arbenig i'r aelodau. Sylwer ya ieflldtiol ar y rhagoriaethan neu y darpariadau a ganlyn mewn cysylltiad i hi:- l.-Costau gwneyd y gweithredoedd ynllai nag ,cti1 unrhyw gymdeithas arall. 2.-Diogelweh perffaith i bawb a roddant arian mewn ar log. 3.-Er pan gychwynodd y gymdeithas hon na* jxlynedd yn el, y mae wedi talu yn ol 5p y cant 0 iog, yn nghyda bonus. Am bob gwybodaeth yn nghylch ■ >« h rheolau y gymdeithas, ymofyner yn benK.' 1\ iwy lythyr a Mr David Williams, archit, serveyor, 39, Victoria-street, Upper Banger. DAVID WHITE, Cyfarwyddwr ac Ysgrifenydd, 10, Brynteg-terrace, per Bwn?r DARGANFYDDIAD RHYFEDD! Gwellhadrhagy DROPSY, DWFR, GRAVEL GWYNT, GALON, &e. Trwy ddarganfyddiad gwyrthiol gellir yn awr gael iachad uniongyrehol o'r Dropsy yn ei holl ganghenau, megis Diffyg Dwfr, Poen yn y Celn, Arenau, &c., Gwynt yn y Cylla a'r Perfedd, Cramp yn y Cluniau, Chwydd yn y Traed, Cluniau, Ymys. garoedd, &c. Curiad y Calon, Asthma, Peswch, Cryd, Diffyg Anadl. Grafel, &c., trwy gymeryd; PILLS iynod HUGHES' PATENT DROPSY PILLS. Rhyfedd yw eu heffaith neillduol. Wele a ganlyn. ? ?' GWELLHAD GWYRTHIOL. 8YB,-Ar ol bod am 10 mlynedd yn ddioddef odili wrth y?ps! Diayg Dwfr, Zdd"m.-PY Tra?. ua ?ymy 71?.,dA,CridyGlon, i, ffygA.4 fT1 ur::etu:r:?dr:o:'u<i heb cymhorth, ae yn bi? I y190110w enhad; ond mae yn dda genyf eich by? by-, Y. = w?di ?y.? d PiU.9 hynod, BugM fa<mJ Df?pfy p¡{; yr oeddem ynaUuo? ifyned oddi. ?h yn a Ty?lhouiach. Y mae fyagweUW :n :Cd3 yn ayO=thclIhM pe syn MARY MAINWARING. Llanarthney, Carmarthen, Ionawr 10,1877. GWELLHAD RiiYFEDD. Syn.-We& bod am 30 mlynedd mewn poen mawr .9- Dropsy-wynt, gwynt Y. y Cylla a'r Perfdd, a ohoen ?y Pen &c, wwe? m'gymeryd ?blwch ?r älu hek?alt? mor rhyfedd fel nad aM end cjwhori pawb i'w cymeryd, Y m?nt o?rfstft JA31ijl9 JONIES. Dew-Street, Haverfordwest. Tradt Morft.—"DROPSY PILLS." Cospil pob tugiad. Arwefth gan holl Chemists y deyrnas amis, lie,2a, »c, a 4s. 6c. Trwy y Post am Is. 2c, ?. He, a4s.;)? nth y Pt-t,?e- JACOB HUGHES, APOTHECARIES' HALL, LLANELLY. Wholesale by all Patent and Drag Houses in London, Liverpool, Manchester, Bristol, Birmingham, Cardiff, ko. 228 Y RHYFEL. BA5TER EIN GWLAD." CAN i Tenor, gan JOSEPH PARRY, M.B., (Pencerdd America). Y geiriau Cymraeg gan MYNYDDOG. Pris yn y ddau nodia:;t-&, Y rhyfel-gan Gymreig oreu a gyhoeddwyd erioed. "EISTEDDAI TEITHIWR BLIN." Can gysegredig i Soprano neu Tenor, cyflwyiiedig Miss Maggie Jones, R.A.M. y geiriau gan J R., gerddoriaeth gan J. H. ROBBRTS, A.R.A., (Pen. ierdd Gwynedd). Pris 6c yn y ddau nodiant. "BYDD DRTJGAROG WRTHYM NI." inthem newydd, Quartett a Chorus, gan JOSEPH PAKBY, M.B., (Pencerdd America). Hen nediant. 4c; Sol-ffa, 2c. 11 FFARNVEL Y MORWR." ISn i Baritone, yn yr hen arddull Cymreig, cyfan- loddedig gan J. H. ROBERTS (Pencerdd Gwynedd). Y geiriau gan ALAVON. Yn y ddau nodiant-&. v Canwyd hon yn Eisteddfod Caemarfon. Telerau neillduol i Lyfrwerthwyr. CYHOEDDEDIG GAN J. H. EVANS & CO., PUBLISHERS, (332 LLANRWST. AT YMFUDWYR. ?? A NWYL GYDWLADWYR,- Dioleh yn fawT i chwi am y gefn9g. &A aeth a rddasoch i mi er pan wvf yQ )ruchwyliwr ymfndol. Gwnaf bobpeth a ?U2 i Sawb a ddaw dan fy ngofal yn y dyfodol. Cyfur. 7-ddaf hwynt ar eu dyfodiad i'r dref, a rhoddaf iwy yn y lleoedd goreu allaf gael ar fwrdd y Ilongau-y Cymry efo eu gilydd. Mae fy nhy yn igos i'r Stations a'r Landing Stage, a digon 0 Ie rnddo i luggage am ddim. Anfonaf wybadaeth am y clnd-dal a'r amser yr hwylia y gwahanol igerlongau i America, California, a Canada, gyda'r Allan Line, ar dderbyniad Uythyr a stamp ynddo. fir HENRY DAVIES, American Temperance Sotel, 10 and 12, Virginia-street, Oldhall-street, Liverpool. D.S.-Mordaith cynorthwyol i Canada gyda'r ALLAN LINB, 4p. 15s. il GWAED DRWG iver achos o'r Blast, Scurvy, Piles, Clefyd y Brenhin neu Manwyniau, Clwyfau, Cornwydion, Penddynod, Ysfa y Cnawd, Gwynegdn, Danodd, Gout, Spleen, Fits, Poen Pen, Stitches, Chwydd J Glands, Clefydau Beuywaidd, Cryd, Attaliadaa atur, Heintiau, Nerves Egwan, Gloesiadaa, Clefyd Melyn, Diffyg Traul, Twymynon, Tueddi'r Darfodedigaeth, &c., Felly y mae o' r pwys mwyaf i Buro, Glanhau, a Chryfhau y Gwaed, a thfil1 hynny Dadwreiddio pob Afiecliyd, trwy gyraeiji y Feddyginiaeth Fawr at y gwaed, sef HUGHES' PATENT BLOOD PILLS. Er prawf o'r effaith neillduol syddynddynt, weJt a ganlyn:— GWELLHAD HYNOD O'R PILES, &c. 13Y.R T?wy gymeryd eich Pith hynod, i??f Bwa KH< mi a gefais wZhad rhyfedd ?d?i wrth Y  a che g ,e Y, ?mi.Cluniait, a'r CehL. Yro4add?YDmew a eherdded rwd(i g- wendid, ..d yn awr Y. KO'1 *■ vn h.W-h. ? Awst 20.1876: MARY JAMES. GWELLHAD O'R LYSTEUPER, GWYNEGON, &c g YR,-Er lies y cyhoedd yr wyf yn eich hySb: fwellhad a gefais trwy gymeryd eich Pills at Y ;i*? r wyf y- a =, h.a2h.,di bd d3;J !I;edd <new2 ound?r?wr g-Y?f. a Ph?deryCM?. Dolau, Llanelly. B. THO AS. Y mae eraill yma wedi eu hiachau o'r Gwjucgoo, Stitches, a Tharddiant ar y Cnawd, gan ymc?"' gwerthfawr. Trw Mark—" BLOOD PILLS." Cospir pob M. Ar werth gan holl Chemists v Deyrnas, am Is lie, 2s. 9c, a 4s. 6c. Trwy y Post am is. 2c, 28. lie, 4s. ge, gan y Patentee- ,¡ JACOB HUGHES, APOTHECARIES' HALL, LLANELLY. Wholesale by all Patent and Drug Hou ill London, Liverpool, Manchester, Bristol, B ham, Cardiff, &c. ARIAN! ARIA-N I TAIt TAI PWY bynag sydd eisieu arian ar Dai  Jt. Bii, anfoner<<<MKp<??M"<<? <M)M? t Davics, Rhydau Cottage, Fwllheli.Y?e?.,S' Cymdeithas Adeiladu Lleyn ac Eifionyda.
? S£nt.
? S£nt. SEREMONI'R AGORIAD. I DYDD IAU, IONAWR 17. Ag ystyried nad oedd y Frenhines ei hun yn eymeryd rhan yn agoriad y Senedd, rhaid addef fod mwy o ddyddordeb a bywiogrwydd yn cael ei arddangos nag arfer ar y cyfryw achlusuron. Y mae agos yn sier fod y tyrfaoedd a ymgynullasant o gwmpas y mynedfeydd i'r Ty, lawer iawn ohonynt beth bynag, wedi dyfod yno o dan yr ar- graph y buasai ei Mawrhydi yu sicr o ddyfod i gyflawni y seremoni yn bersonol. Ond, yn ychwanegol at y disgwyliad hwnw, rhaid cydnabod hefyd fod pryder dwfn yn cael ei deimlo yn nghylch beth oedd y Llywodraeth yn fwriadu wneyd gyda golwg ar y rhyfel presenol. Prawf amlwg fod y tyrfaoedd o'r tu allan yn teimlo dyddordeb neill- duol yn y pwne hWll ydoedd en gwaith yn bloeddio croesaw i bob aelod Seneddol ag y gallent ei adwaen fel un yn cymerydrhan flaenllaw yu y cyfwng presenol. Dechreuodd aelodau Ty y Cyffredin ymgynull mor gynar á haner dydd, er mai am ddau o'r gloch yr oedd Araeth y Frenhines i gael ei darllen. Dywed thai oedd yn gwylio ar y manylion mai yr Arglwydd R. Montague oedd y cyntaf oil i fyned i mewn i'r Ty, yn cael ei ddilyn megis wrth ei sodlau gan Mr Herbert a Mr Goldney. Am yspaid tuag awr o amser, araf oedd ymddangosiad yr aelodau, ond tuag un o'r gloch, daethant yn gyf- lymach a lluosocach o lawer" ac ac erbyn fod y Llefarydd wedi eymeryd y gadair, ychydig cyn dau o'r gloch, yr oedd tua 400 o'r aelodau yn wyddfodol-nifcr mwy nag a welwyd er's cenhedl- aeth ar unrhyw amgylohiad cyffelvb. Y gweini- dogion a phrif aelodau yr Wrthblaid oeddynt fwyaf hwyrfrydig i ddyfod yn mlaen. Yr oedd agos yr holl aelodau annibynol wedi ymgynull yn gynar. Wrth gwn, nis gellid trafod unrhyw fater hyd nes y byddai'r Ffonod Ddu (Black Rod) wedi dyfod yno i wysio'r Cyffredinwyr at far Ty'r Arglwyddi i glywed Araeth 7 Frenhines. Yn Nhy'r Arglwyddi, yr oedd mwy 0 foneddig- esau wedi ymgynull nag a welwyd er's blynyddau lawer. Yr oeddynt yn Uenwi y seddi ar bob ochr i'r Ty, ae yr oedd pen pellaf yr oriel yn orlawn ohonynt. Nid oedd y gweithrediadau yn ddim ond seremoni ddifywyd fel arfer, ac nis ymddang- osai neb yncymeryddyddordeb mewn dimond mewn clywed beth oedd gan y Frenhines (yn hytrach Arglwydd Beaconstield) i'w ddywedyd yn yr Araeth, yr hon a ddarllenwyd yn hyglyw a di- floesgni gan yr Arglwydd Ganghellydd, yn ei ddull pwyllog ae eglur ei hun. Yr oedd y distawrwydd yn angerddol yn ystod y darllecmd, yr hyn a brofai y pryder a deimlai pawb yn y cyfwng Ewropeaidd I Yy p,,dg? d.. il?. sydd gyfieithiad 0 I ARAETH Y FRENHINES. I Fy AEGLWYDDI A BONEDDIGION, Bernais yn addas eich galw yn nghyd yn gynarach na'r adeg arferol i hyny, mewn trefn i osod ger eich bron yrymdrechion a wnaethuin i derfynu y rhyfel sydd yn awr yn anrheithio Dwyrain Ewrop ac Armenia, ac fel y byddai i mi gael cyngor a chynorthwy fy Senedd yn sefyllfa bresenol helyntion cyhoeddus. Mae yn wybyddus i chwi, ar ol i mi yn aflwyddiannus ymdrechu atal y rhyfel 'dori allan, ddatgan fy mwriad i fod yn anmhleidiol yn yr ymdrech gofidus hwn, cyhyd ag y byddai i fuddiannau fy ymherodraeth i, yn ol fel yr oeddynt yn cael eu deffinio gan fy Llywodraeth, barhau heb gael eu by- gwth; datgenais ar yr un pryd fy awydd difrifol i ddefnyddio unrhyw gyfleusdra allai gyfodi i sicrhau terfyniad heddychol i'r cwes- tiwn mown dadl rhwng y Galluoedd gwrth- wynebol. Darfu i'r llwyddiant sydd wedi dilyn arfau Rwsia yn gystal yn Ewrop ag yn Armenia, ar gyhoeddi y Porte y dylai geisio dwyn i derfyn- iad ryfel ag Sydd .yn achosi dioddefaint dirfawr i'w ddeiliaid. Apeliodd Llywodraeth y Sultan mewn canlyniad at y Galluoedd anmhleidiol— y rhai oeddynt bleidiau i'r cytundebau perthynol i'r Ymherodraeth Dyreaidd-am eu gwasanaeth da. Nid oedd yn yihddangos, er hyny, i fwyaf- rif y Galluoedd a apeliwyd felly atynt y gaUent gydsynio gyda'r dymuniad, a gadawyd i'r Porte wybod hyny. Gwelodd y Porte yn ddoeth wedi hyn i wneyd apeliad am heddweh, a chydsyniais ar unwaith i ymholi gyda'r Ymherawdwr Rwsiaidd a wnai ei Fawrhydi ymgynghori gyda golwg ar hedd- weh. Mewn atebiaid,1 dywedodd ei Fawrhydi fod ei ddymuniad yn fawr am heddweh, a chrybwyllodd yn mhellaoh y llwybr y credai y dylid ei gymeryd er ei sicrhau. Ar y testyn hwn agorwyd ymdrafodaeth rhwng Rwssia a Thwrci drwy fy nghyfryngiad, ac yr wyf yn gobeithio y bydd i hyn arwain i benderfyniad hoddychol o'r cwestiynau pwysig dan sylw, ac y terfynir y rhyfel. Ni bydd dim yn eisieu ar fy rhan i hyrwyddo hyny. Hyd yn hyn, cyn belled ag y mae y rhyfel wedi myned, nid yw y naill na'r 118011 o'r pleid- iau wedi oroesi y telerau ar ba rai y ffurfiais fy anmhleidiaeth, ac yr wyf yn credu fod y naill deyrnas yn ogystal a'r llall yn dymuno cadw y telerau hyny cyn belled ag y byddo yn bosibl iddynt. Cyn belled ag y cedwir y telerau hyn mown golwg gan y pleidiau, bydd fy nghwrs i yn union yr un ag y mae wedi bod. Ond nis gallaf gelu oddiwrtliyf fy hun os parheir i ddwyn y rhyfel yn mlaen am amser pellach, y gall rhyw amgylehiad anisgwyliadwy gyfodi, a'i gwneyd yn angenrheidiol i mi fabwysiadu mesurau rhagocheliadol. Nis gellid ymgymeryd yn offeithiol a'r cyfryw fesurau heb ddarpariaeth briodol, ae yr wyf yn ymddiried i haelfrydedd fy Senedd i'm cyflenwi a'r moddion angenrheidiol i'r perwyl hWLlW. Gosodir papyrau y materion hyn o'ch blaen yn uniongyrchol. Mae fy mherthynasau a'r Galluoedd Tramor yn parhau yn gyfeillgar. Teimlaf yn ddiolchgar fod y newyn dychrynllyd oedd yn anrheithio India Ddeheuol yn awr ar derfynu. Gwnaeth y llywodraeth leol ymdrcch- ion egniol a llwyddianus i liniaru gofidiau y trigolion, ae yn y ddyledswydd hono fe'u cefnogwyd yn effeithiol gan gynorthwy haelfrydig fy mhobl gartref ae yn y Trefedigaethau. Yr wyf wedi gorchymyn fod ymchwiliad i gael ei wneuthur i'r mesurau mwyaf priodol i leihau perygl y cyfryw drychinebau yn y dyfodol. Y mae cyflwr achosion brodorol yn Ne- heudir Affrica yn ddiweddar wedi achosi cryn bryder i mi, so wedi hawlio sylw gwyliadwrus fy Llywodmeth. Bernais yn angenrheidiol i adgyfnertliu fy milwyr yn y rhan hono 0 fy ;?m erodraeth. Hyderaf y ceil terfyniad hedd- yehol a boddhaol i'r holl annghydwelediad hwn hefyd. EONEDDIGION TY Y CYFFREDIN, Yr wyf wedi gorchymyn i'r amean-gyfrifon am y flwyddyn gael eu parotoi a'u eyflwyno i chwi yn ddioed. Fy ABGLWYIIDI A BoNEnrnaioN, Dygir Mesur ger eich bron ar y ewestiwn o Lywodraeth Sirol, a gelwir eich sylw at welliant y Factory Laivs; ac hefyd at fesur mewn cysylltiad kg awdurdod hedd-ynadon. Gofynir i chwi yn gynar yn y Senedd-dymor i ymgynghori ar Fesur mewn cysylltiad a Phla y Gwartheg yn y wlad. Dygir hefyd o'ch blaen gwestiwn mewn cysylltiad à phrif-ffyrdd a phontydd yn Ysgot- land. Gelwir eich sylw at y cwestiwn o addysg is- raddol 3-n yr Iwerddoii, ac at gyfraith yr uchel- reithwyr hefyd yn y wlad hono. Yn mysg amryw fesurau ergwellianty gyfraith, dygir mesur o'ch blaen er gwneyd yn fwy syml a dealladwy, ac er ei chrynhoi mewn un, gyfraith a chwrs y gyfraith gyda golwg ar droseddau cos- pedigol. Yr wyf yn argymhell y pvneiau hyn i'eh sylw mwyaf gofalus, ac yn gweddio y bydd i fendith yr Hollalluog ddilyn ac arwain cieh hystyriaethau. AGWEDD TY T CYI'FKEDIN. Erbyn yr eisteddiad hwyrol, yr oedd tyrfaoedd mawrion wedi ymgasglu eilwaith o amgyleh y mynedfeydd i'r Ty, a dyrchefld bloeddiadau llon- gyfarchoUi wahanol aelodau fel y delent yn mlaen, rhai ar draed a rhai mewn oerbydau. Yr oedd Ty y Cyffredin wedi ei orlenwi bob cwrohono, a'r holl weinidogion, yn gystal a blaenoriaid yr Wrthblaid, yn eu seddi yn brydlawn. Ardalydd Hartington oedd un o'r rhai olaf yn dyfod i mewn, a chafodd ei groesawu yn frwdfrtdig iawn gan y Rhyddfryd- wyr pan welid ef yn myned i fyny i'w sedd. Y busnes cyntaf, wrth gwrs, i fyned trwyddo oedd rhoddi rhybuddion o gynygion a mesurau y bwriedideu dwyn yn mlaen arjolhyn. Yn mhlith y rhybuddion a nodwyd ar ran y L:ywodraeth, yr oedd eiddo Canghellydd y Trysorlys y byddai iddo ef, yn fuan, gynyg ffurfio pwyllgor i wneyd ym- chwiliad i'r dull o ddwyn yn mlaen weithrediadau y Ty. Yr oedd y rhybuddion eraill ar ran y Llywodraeth yn perthyn i'r pynciau a enwyd yn araeth y Frenhines. Yna cafodd yr aelodau annibynol eu tro, ac fe ellir disgwyl cryn lawer o ddadlu ar y mesurau y rhoisant hwy rybudd ohonynt. Am dros haner awr, fe gyfodai aelod ar ol aelod, nes y rhoddwyd rhybuddion aIR dros 90 o fesurau ar arch-lyfr y Ty. Byddai yn hollol ddi-fudd i'r darllenydd cyffredin pe y cof- nodem bob rhybudd a roddwyd felly; ond gallwn grybwyll rhai ohonynt. Synasom at y nifer dir- fawr o gwestiynau Gwyddelig y rhoddwyd rhybudd ohonynt. Ymddangosai fel pe byddai pob aelod o blaid yr Home Rule-y Llywodraeth Gartrefol- wedi penderfynu cynyg ihyw fesur na'u gilydd, gan ddechreu gyda Mr Biggar, yr hwn a dderbyn iwyd gyda bloedd-gyfarchiad cellweirus pan gododd i siarad. Y mae'r aelodau Gwyddelig fel pe wedi penderfynu troi Ty y Cyffredin yn senedd Wyddelig. Wrth gwrs, fe gafwyd y nifer arferol o'r rhybuddion blynyddol yr ydym oil mor gynefin a hwynt. Y mae rhai o'r aelodau mor gyson ar hyd y blynyddoedd fel nas ymddangoeai y Senedd- dymhor yn debyg i eiddo Ty'r CyfEredin pe na cheid y rhai hyny. Ond yr oedd yn dda genym sylwi ar y croesaw a'r parch a ddangoswyd pan y CYFODODD MR OSKORNB MORGAN. I Yn lie rhoddi rhybudd n'i fwnad i gynyg ei Fesur Claddfeydd, fel yn y blynyddau blaenorol, dywedodd Mr Osborne Morgan ei fod yn bwriadu cynyg nifer o benderfyniadau, un gyda golwg ar gladdu Ymneillduwyr, ac un arall gyda golwg at werthu dyrchafiadau, neu fywiolaetliau, yn yr Eglwys. Lied oejllyd y derbymwyd y rhybudd am gynygiad i gyfreithloni gwr gweddw i briodi chwaer ei ddiweddar wraig. Mr Courtney sydd eleni yn eymeryd gofal y mesur er rhyddfreiniad gwleidyddol merched. Wrth gwrs, y mae y Per- missive Bill yn parhau yn ngofal Syr W. Lawson, aphwygweUna? e £ i ofaiu amdano? Mae yn debyg nas gall y Defodwyr ddisgwyl fawr o dru- gMeddoddmrlaw Mr Edward Jenkins, yr hwn sydd p d V ? u galw sylw at en defion a gofyn am d?prw,. tj wneyd archwiliad i'w gw?ith- rediadau. Y mae yr etholfraint sirol yn cael ei hymddiried i ddwylaw galluog Mr Trevellyan. Ond rhaid brysio yn mlaen heb fanylu ychwaneg ar y "rhybuddion." I YR ANEBCHIAD. Cyfododd Mr Wilbraham Egerton, yr hwn oedd wedi ymwisgo mewn rhyw fath o urddwisg las, un ai fel swyddog o gorphlu o wirfoddolwyr, neu rYlv fllisia, a chynygiodd Anerchiad mewn atebiad i araeth y Frenhines. Siaradodd ar draws ac ar hyd, heb na phwynt na hyawdledd, am dros awr gron. Eiliwyd ef gan Mr Tennant, o Leads; Be os drwg cynt, gwaeth gwedyn. Nid yn ami y mae Arglwydd Beaconsfield yn penodi ar wirion- iaid i gyflawni gwaith seneddol; ond felly fu y tro hwn. Y mae llawer blwyddyn wedi myned heibio er pan gosbwyd Ty y Cyffredin a'r fath ddiffyg areithyddol ar ran cynygydd ac eilydd yr Anerchiad i'w Mawrhydi. Dywed rhai oedd yn y Ty eu bod yn teimlo fel pe buasent yn cael rhydd- had oddiwrth rhywbeth sasach na hunlle annifyr pan welwyd ARGLWYDD HARTINGTON yn sefyll ar ei bedion. Heblaw hyny, fe gyflawn- odd yr Ardalydd ardderehog ei orchwyl yn rhag- orol—yn gwbl deilwng o flaenor yr Wrthblaid. Y mae yn gwella bob senedd-dymhor fel areithiwr, ac ni ddarfu iddo erioed siarad mor rhwydd, hyawdl, pwyllog, ac effeithiol a'r tro hwn. Nid yn u nig yr oedd yp ymresymu y pwnc yn erbyn y Llywodraeth yn rymus, gan bwyso arnynt gyda phwyad ar 01 pwyad o'r math mwyaf effeithiol, ond hefyd yr oedd ei arddull yn ychwanegu at ddylanwad ei fater, ac nid yn unig yr hyn a ddy- wedai, eithr hefyd pa fodd y dywedai, oedd YI1 peri i'w gefnogwyr gymeradwyo yr araeth mor frwdfrydig. Addefodd ei arglwyddiaeth ar ddech- reu ei araeth fod y Llywodraeth wedi cymeryd cwrs hollol naturiol a phriodol wrth wysio y Senedd cyn yr amser arferol, pe na buasai ond er mwyn clirio i ffwrdd y capiddarluniadau a roddid o'u gwladlywiad ar bwnc y Dwrain. Ond, gan adael o,r neilldu am y pryd bob dadl yn nghylch y cyfnnegeseuon a gafodd y Llywodraeth a Gallu- oedd eraill yn ddiweddar, efe a ddangosodd na ddarfu i'r negeseuon hyny,ddechrou hyd nes yr oedd y Senedd wedi ei gwysio, ae o ganlyniad nis gellid dadlu mai yn unig er mwyn eu gwneyd yn hysbys i'r Senedd, fel yr honid yn yr araeth, y ey- merwyd y cam hynod hwn. Gaujliyny, yr oedd yn angeurheidiol cael rh) w eglurhad pellach nag a gatwyd. Hefyd, efe a ddymunai gael gwybod a oedd y Sultan wedi gofyn am ein cyfryrigaeth o hono ei hun, ai ynte a wnaeth efe hyny oddiar ein haworrymiad ni. Rhaid, wrth gwrs, fod pan y LI, Widraeth ryw ddadgamiad o wladlyv, ad i'w wneyd i'r Ty. Tra, ar un 11aw, y gallent dawelu meddwl y cyhoedd yn fawr, gallent hefyd, ar y 11aw arall, ranu y boblogaeth yn y fath fodd fel ag i roddi llwyr atalfa ar bob gobaith am adfywio masnach a ffyniant y cyhoedd. Ond yr oadd ef yn methu dirnad beth oedd yn bodoli yn awr, ar nas bodolai pan ohiriwyd y Senedd, fel ag i wneyd yn angenrheidiol yn awr yr hyn nas ystyrid yn angenrheidiol y pryd hwnw. Ar y pwynt yina yr oedd rhyw dywyllwch yn y paragraph yn yr araeth Frenhinol ag y rhaid ei chwalu a'i glirio. A oedd yr apeliad at haelfrydedd y Senedd i fod yn union- gyrchol ai ynte yn amodol ar ryw ddigwyddiad neu ddigwyddiadau eraill? Gyda golwg ar bleid- leisio rhodd arianol yn uniongyrchol, dywedodd Arglwydd Hartington, yn nghanol curo dwylaw mawr ar du y Rhyddfrydwyr, ei fod ef yn canfod gwrthwynebrwydd difrifol iawn, ac yr oedd yn gweled llai o angen am hyny yn awr nag ar un- rhyw gyfnod bit enorol. Dadleuai fod y paragraph yn greulondeb at Twrci, oblegid y gallai ei chalonogi i wneyd ymdrech arall; ac yr oedd yn beryglua'i'r wlad hon, oherwydd yr oedd y Llywodraeth yn gwybod y byddai i Rwssia barchu yr amodau a roddwyd i lawr gan y Llywodraeth. Byddai gwaith Lloegr yn ymyryd ar hyno bryd, a throsglwyddo ei dylanwad i glorian rhyfel, yn eithafrwydd gwallgofrwydd, a rhoddai derfyn ar bob gobaitb am leoli terfynau y rhyfel. I ATEBIAD CANGHELLYDD Y TRYSORLYS. Fel rheol, y mae Canghellydd y Trysorlys (Syr Stafford Northcote) yn ddadleuydd teg, on(I y tro hwn yr oedd yn amgylchog a gwasgarog.,fel pe yn teimlo nas gwyddai pa bryd i ddyfod at gnewllyn y ddadl. Modd bynag, yr oedd yn amlwg ei fod ef ar du heddwch, ae efe a leddfodd ofnau talwyr tretli yr incwm trwy ddyweyd nad oedd y Llywod- raeth am wneyd unrhyw apeliad buan at y pwrs cenhedlaethol. Llwyddodd y dadganiad hWll i Ganghellydd y Trysorlys gael LLONQYFARCHIAD GAN MR GLADSTONE. Ni pharhiloddaraeth y boneddwr Gwir Anrhyd- eddus ddim dros ddeng mynyd neu ehwartcr awr, ond nid oedd ei byrdra yn lleihau dirn ar ei phwysigrwydd. Dadganodd ei ddiolchgarwch oherwwdd tuedd heddychgar araeth Canghellydd y Trysorlys, yr hon, fel y credai efe, a dderbynid gydag ymsyniud o foddlonrwydd gan yr holl wlad. Gyda golwg ar amgylchiadau a allent ddigwydd yn y dyfodol, efe a gadwai el opiniwn iddo ei hun am dymhor, ond yr oedd yn llwyr ar- gyhoeddedig nad oedd dim yn yr amgylchiadau presenol a allai gyflawnhau unrhyw ychwanegiad at ein nerth milwrol. Wedi i Arglwydd Robert Montague draethu ei lên mewn araeth lipa a di-bwynt, wele'r aelodau Gwyddelig yn dechreu ar eu hynfydrwydd, trwy i Mr Mitchell Henry gyfodi ar ran ei gydaelodau o'r Ynys Werdd, i gynyg gwelliant i'r anerchiad, gan gymeryd mantais, yn ei ddull bywiog ei hun, i ddangos y camwri y mae'r Werddon yn ei ddioddef oddiar law y Senedd Seisnig. Cefnogwyd ef gan Mr O'Connor Power, Mr Brooks, Mr M'Carthy, a. Mr Downing, y rhai a gyfunent i ddanod a chon- demnio yr esgeulusdod Scisnig o fuddianau Gwyddelig. Aeth Mr Redmont ynmlaen i geryddu yr awdurdodau yn dost am eu hymddygiad at y carcharorion Ffeniaid a Mr Cross, mown atebiad i'r eyhuddiad fod y Ffeniaid wedi eu rhyddhsiu oherwydd fod Lloegr yn ofni Rwsia, a ddywedodd fod hyn wedi ei wneyd yn unol ag addewid y Prifweinidog yn 1876, a'i addewid yntau (Mr Cross) y llynedd. Ar ol rhai sylwadau gan Mr Plunkett, Mr Sul- livan, a Changhellvdd y Trysorlys, Cynygiodd Mr Meldon ohiriad y ddadl hyd dranoeth a Gohiriwyd y Ty am ddeng munud i un o'r gloch y bore. NOSON GYNTAF Y TYMHOR YN NHY YR ARGLWYDDI. Ni welwyd y fath olygfa yn y Ty TTeliaf er's llawer o fiynyddoedd. Yr oedd y lie gwag o flu en yr orsedd wedi ei orlenwi gan ymwelwvr eiiwog, yn eynwys llysgenhadon gwledydd tramor. Yr oedd yr orielau o amgylch y Ty yn llawn o ben- deflgesau, a boneddigesau eraill, ae yn amlwg yn eu plith yr oedd yr Ymherodres Eugenie, gweddw Napoleon III, yr hon a edrychai gan hardded ag erioed, er fod argraph amlwg o ddifrif- weh dyfuddwys ar ei gwynebpryd. Gyda'r eithriad anfEodus o Iarll Derby, yr oedd yr holl weinidogion yn bresenol, ac fe sylwodd amryw fod y Prif- weinidog, yr hwn a eisteddai rhwng Due Rich- mond ae Iarll Beauchamp, yn edryeh yn fywiog ac mewn iechyd da. Ar ei gyfer, yr oedd larll Granville yn cael ei amgvlchynu gan yr oil o aelodau Llywodraeth Gladttme, a berthynant i'r Ty Vehaf. Rhwng pobpeth yr oedd yr olygfa yn un swynol a disglaer, tra yr oedd y dyddordeb dyfnaf yn hynt y ddadl fel yr elai yn mlaen. Arglwydd Whamcliffe a gynygiodd yr Anerchiad mewn atebiad i'r Araeth o'r Orsedd. IEr uad ydyw nae ieuanc na dibrotiad, efe a draddododd araeth anghymalog, ddigysylltiad, a hollol ddisperod. Pwue y Dwyrain oedd baich ei araeth, tra y cyfyngodd ei eilydd, Arglwydd Loudoun, ei hunat faterion cartrefol. Yr oedd bloesgni ffasiynol ei barabl, ei ddiffyg Obob gwres a thei mlad, a'i oJwg hogynaidd, yn gwneyd ei araeth yn boenus i'w gwrando. Arglwydd Granville, arwein, dd y blaid Rydd- frydig yn Nhy'r Arglwyddi, a gyfododd, gan draddodi araeth led faith, prif nodwedd yr hon ydoedd ei thon feirniadol. Yr oedd yn amlwg mai ei brif amcan ydoedd tynu allan Arglwydd Beaconsfield i roddi eglurhad ar yr hyn oedd yn aneglur yn ngwleidiadaeth dramor y Llywodraeth. Er ei fod yn gymedrol a gochelgar mewn ton ac ymresymiad, yr oedd yn amlwg ei fod yn gosod i lawr sylfaen ymosodiad grymus Yll y dyfodol. Yr oedd yn amlwg fod yr ensyniadau, yr ymresym- iadau, a'r arddull tawel a digyffro, yn pigo tymher Arglwydd Beaconsfield, yr hwn, yn absenoldeb Arglwydd Derby, oedd dan orfod i wneyd yr atebiad ar ran y Llywodraeth. Ymdaflodd y Prif Weinidog i'w waith gyda brwdfrydedd a bywiogrwydd anarferol. Dangosodd ei hell allu duchanol yn ei holl rym, ac yr oedd yr holl araeth yn orlawn o reitheg o'r radd flaenaf. Ond yr oeda y dadleuon, yr ystadegau, a'r ymosodiadau per- sonol yn anheilwng o'r lIe ac o'r amgylchiad. Yr oedd atebiad Due Argyll yn ofnadwy o efEeithiol—un o'r areithiau goreu a ddarllenasom er's blynyddoedd. Sylwodd fod yn dda ganddo ganfod nad oedd son yn yr Araeth Frenhinol am "gyfanrwydd ac annibyniaeth Ottomanaidd." Nid oedd Twrei yn allu annibynol. Yr oedd wedi ei thynghedu i drengu, lie efe a alwai ar y Llywod- raeth Brydeinig i gyduabod y ffaith ac i ymddwyn yn gyfatebol, ac efe a hyderai na fyddai i I mer- odraeth Rwsia gydsynio ag unrhyw delerau o heddwch os na ddiogelai i boblogoeth Ewropeaidd Twrci gyfran deg o hunanlywodraeth. Wedi araeth fywiog gan Arglwydd Salisbury, cytunwyd ar yr Anerchiad, a gohiriwyd y Ty am bum' munud wedi naw. TY'R ARGLWYDDI.-Nos WENER. Ymgyfarfyddodd y ty am ysbaid pum munud, a'r uni beth a wnaethpwyd ydoedd penodi Pwyll- gor i edrych i mewn i oruchafiaeth anghymedr- oldeb, a'r modd yr ymgyffyrddwyd a hwy mewn deddfau blaenorol. TY Y CYFFREDIN.—DYDD GWENER. Wedi i'r Llefarydd gymeryd y gadair am bedwar o'r gloch, rhoddwyd llawer o ddeisebau gerbron y Ty o blaid anmhleidgarwch yn y rhyfel presenol. Yn mysg peth chwerthin, rhoddodd Mr J. ¥er- schell rybydd o'i fwriad i ddyfod a mesur i mewn i ddiddymu cynghosion am dori amod priodas. Mewn atebiad i Mr Sullivan, dywedodd Syr Michael Hicks Beach, y byddai y Llywodraeth yn barod i gymeryd yr un cwrs mewn perthynas i gau y tafamdai yn yr Iwerddon, ag a wnaed y fiwyddyn ddiweddaf. Yr oedd O'Conor Don wedi rhoddi rhybydd y byddai iddo ddyfod a mesur i mewn, ac os profai i fod yn yr un llinellau a'r hwn a rodd- wyd i mewn gau Air Smyth, y flwyddyn ddiweddaf rhoddent gynorthwy i geisio pasio yr ail ddarllen- iad, gan gadw iddynt eu hunain yr hawl o wneuthur gwelliant mewn Pwyllgor. Ail-ddechreuodd Mr Meldon drachefn yr ymdra- fodaeth ar welliant Mr Mitchell Henry ar yr An erchiad, yr hwn a gyhoeddai mai dyledswydd y Llywodraeth, ydoedd ystyried mewn ysbryd doeth a chymodlawn ar ofynion cenhedlaethol a wnaed yn ddibaid gan y Gwyddelod. Cwynai yr Home Rulers fod gofynion Gwyddelig yn derbyn ystyr- iaeth ddiystyrllyd gan y Weinyddiaeth: tra y daliai aelodau yr wrthblaid fod yr Iwerddon yn derbyn mwy na'i chyfran o amser y Llywodraeth. Wrth gadarnhau y dybiaeth yma sylwodd Syr 101, Hicks Beach, tra yr oedd aelodau Gwyddelig wedi dyfod a mesnr i mewn ar bron bob cwyn arall ag yr oeddynt arferol o gymhell, ni feiddiasent erioed ddangos cyfundrefn i gario allan Lywodraeth Gar- trefol. Fel tystiolaeth, daliai nad ydoedd esgeu- lusdod buddiannau Gwyddelig mor gyflawn ag y tybid, ac fod y Llywodraeth yn yfctod yr eisteddiad yn bwriadu dyfod a mesur i mewn er gwellhau sefydliadau dinesol yn yr Iwerddon, ac feallai y byddai yn cynwys estyniad yr etholfraint. Wedi i Mr Shaughnessy roddi atebiad, rhanwyd y ty ychydig cyn haner nos, pan y gwrthodwyd y gwelliant gan 48 o bleidleisiau yn erbyn 301. Felly cytunwyd a'r anerchiad, ae wedi rhoddi amryw fesurau gerbron, gohiriwyd y ty am chwar- ter wedi iin. TY'R ARGLWYDDI.—DYDD LLUN. Ardalydd Ripon a alwodd sylw at adroddiad y pwyllgor detholedig am y Senedd-dymhor di- weddaf ar Fyrddau Cadwriaethol (afonydd, &c.), a gofynodd a oedd y Llywodraeth yn bwriadu cynyg mesur sylfaenedig ar awgrymiadau v pwyll- gor hwnw. Darllenodd ddifyniadau o'r adrodd- iadau yn dangos fod niweidiau mawrion yn cael eu gwneyd bob blwyddyn gan orlifiad yr afonydd, ac yr oedd y gyfraith bresenolyn annigonol i wella hyny, gan fod cadwraeth yr afonydd yn cael ei ymddiried i gynifer o wahanol fyrddau. Due Richmond a ddywedodd fod y mater eisoes dan sylw y Llywodraeth, a chredai y gellid delio a chyfran bwysig o'r pwnc hyd yn nod yn y sessiwn bresenol. Enwyd yr aelodau sydd i fod ar y pwyllgor detholedig i ystyried y pwnc o aimghymedroldeb. TY Y CYFFREDIN.—DYDD LLUN. I Yn mysg y rhybuddion o gynygion yr oedd un gan Syr J. Lawience, yn nghylch toriad allan y frech wen yn Ynys Mallaw; a chan Mr Anderson gyda golwg ar y eyflewidiadau yn nanfoniad llythyrgodau i'r America. Mr Bourke, mewn atebiad i gwestiwn, a ddy- wedodd, wrth ystyried yr agwedd bresenol ar bethau, nad oedd yn mryd y Llywodraeth i osod ger bron y Ty y gohebiaethau a basiodd cydrhwng y Llywodraeth hon a'r Llywodraeth Roegaidd gyda golwg ar ymddygiad Tir Groeg at Twrci. Mr Lowther a ddywedodd fod y gwrthryfel yn y Cape yn cynyddu ac ymledu mewn canlyniad i brinder gwirfoddolwyr. Danfonwyd eisoes un gatrawd o gyflegrwyr, ac fe ddanfonid un arall yn fllan, Archwyd gwrit newydd i Perth. Cymerodd ymddiddan byr le gyda golwg ar yr hyn a hawliai Rwsia, yn ystod pa un y dywedodd Canghellydd y Trysorlys nad oedd y Llywodraeth wedi ei hysbysu eto beth fyddai y telerau, a barnai mai gwell oedd yrnatal rhag dadleuon dyfaliadol ar bwne o'r natur yma. Cytunwyd ar yr Anerchiad, a phenderfynwyd ar fod i'r Ty, ddydd Mercher, ymffurflo yn bwyll- gor i ystyried pa gyflenwadau i'w caniatau i'w Mawrhvdi. Yr O'Conor Don a gynygiodd ail-ddarileniad Ysgrif Cau'r Tafarnau ar y Sul yn y Werddon. Darllenwyd ef yr ail waith heb ymraniad, a phenodwyd pwyllgor i eistedd arno ddydd Mercher.
vm YDYW PWY? I
vm YDYW PWY? I Ni a gyfieithwn a ganlyn o'r gyfrol gryno a dyddorol Who's Who in 1878:— Yr aelod henaf o Gyfrin-Gyngor ei Mawrhydi ydyw'r Is-Iarll Stratford de Redcliffe, G.C.B., 90 mlwydd oed; yr ieuengaf, ei Uehelder Brenhinol y Tywysog Leopold, 27 mlwydd oed. Y Due henaf ydyw Due Portland, 78 oed; yr ieuengaf, Due Montrose, 26 oed. Yr Ardalydd henaf ydyw Ar- dalydd Donegall, 81; yr ieuengaf, Ardalydd Camden, chwe' mlwydd. Yr Iarll henaf yn Nhy'r Arglwyddi ydyw'r Iarll Bathurst, 87 er mai yr henaf i ddwyn y teitl hwnw ydyw Iarll Kilraorey, pendefig Gwyddelig, 90 oed; yr ieuengaf ydyw Iarll Hopetown, 18. Yr Is-Iarll henaf ydyw Vis- count Stratford de Redcliffe, 90; yr ieuengaf, Viscount Clifden, 15. Y Barwn henaf ydyw Chelmsford, 84; yr ieuengaf, Arglwydd Southamp- ton, 11 mlwydd oed. Yr aelod henaf o Dy y Cyffredin ydyw y Gwir Anrhyd. Joseph Warner Henley, A.S. dros Ox- fordshire, 85 eed; yr ieuengaf, y Viscount Helms- ley, A.S. dros North Riding Yorkshire, 26. Y Barnwr henaf yn Lloegr ydyw y Gwir Anrhyd. Syr Fitzroy Kelly, 82 mlwydd oed; yr ieuengaf, y Gwir Anrhyd. Alfred Henry Thesiger, 50. Y Barnwr henaf yn y Werddon ydyw yr Anrhyd. James O'Brien, 72 yr ieuengaf, y Gwir Anrhyd. Christopher Palles, LL,D., 47. Yr henaf o Ar- glwyddi'r Sessiwn yn Scotland ydyw Robert Macfarlane, Arglwydd Ormidale, 76; yr ieuengaf, Alexander Bums Shand, Arglwydd Shaud, 49. Esgob henaf Eglwys Loegr ydyw'r Gwir Barch- edig Alfred Ollivant, Esgob Llandaf, 80 mlwydd oed; yr ieuengaf, y Gwir Barchedig Rowley Hill, Esgob Sodor a Man, 42. Esgob henaf yr Eglwys Esgobol Wyddelig ydyw y Gwir Barchedig Johll Gregg, Esgob Cork, 80; yr ieuengaf, ei fab, y Gwir Barchedig Robert Samuel Gregg, Esgob Ossory a Ferns, 44. Esgob henaf yr Eglwys Es- gobol yn Scotland ydyw y Gwir Barchedig Robert Eden, Esgob Moray a Ross, 74; yr ieuengaf, y Gwir Barchedig George R. Mackarness, Esgob Argyll a'r Yiiysoedd, 55. Y Barwnig henaf ydyw Syr Richard John Griffith, 94 mlwydd oed; yr ieuengaf, Syr Thomas Lewis Hughes Neave, pedair blwydd oed. Y Marchog henaf ydyw y Major-General Syr John George Wcodford, K.C.B., 93; yr ieuengaf, Syr Ludlow Cotter, 25.
tfSjjnttHiirtt Cjffalltiurl.…
tfSjjnttHiirtt Cjffalltiurl. I Derbyniwyd y newydd am farwolaeth y Llyng- esydd Swat, yn Calcutta. Yn mhrif frawdlys Llundain, dydd Gwenor diweddaf, dedfrydwyd James Mills i benyd- "Wasanaeth am ei oes am dori gwddf ei wraig. Yn Leeds, addefodd William W. Goodyear ddarfod iddo ladd ei frawd-yn-nghyfraith. Jlarnodd y rheithwyr ei fod yn wallgof. Aeth Studio'r darlunydd enwog Mr Arthur Clay at dan y dydd o'r blaen, a llosgwyd gwerth 3000p 0 ddarluniau. Traddodwyd Eugene Chantrelle i sefyll ei brawf yn mrawdlvs Glasgow tan y oyliuddiad o w,nwyno ei wraig. Crogodd Olive Kent ei hun, dydd Sadwrn diweddaf, wrth raff yn yr ardd,|yn Leek, achafwyd Ji wedi mar nr. Cynhelir gwasanaeth crefyddol yn circus Mr Ulengler, Lerpwl, bob nos Sul trwy y tymhor jireaenol. Dywed r Official Messenger, St. Petersburg, fod costau a chyllid Ymerodiaeth Rwsia yn ateb i'w gilydd i ffyrling yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Y mae cyfyugder dirfawr yn ffyau yn mhlith pob dosparth o weithwyr yn Staffordshire, a dywedir fod lluoedd yn dioddef newyn. Aeth Castell Tollymore, eiddo Arglwydd Roden, ar dan yr wythnos ddiweddaf. Y mae ei arglwydd iaeth ar ymweliad a Rhifaiii. Cafwyd Mr T. Koberts, foreman yn ngwaith dwr a haiarn Barron, weli bcddi yr wythnos ddiweddaf yn Walney Channel. Dvwed y World y cymer priodas le yn fuan rhwn; ei Uche'.der BrcaY*-}l Due Connaught a'r Dywysoges Louisa, merch y Tywysog Frederick Charles, o Germany. Mae'r Dywysoges yn ddwy- ar-bymtlieg oed. Y mae marweiddiweh masuach wedi peri atalfaar weithfeydd haiarn a dur Barron. Bydd hyn yn taflu lluaws o Gymry allan o waith. Yn Edinburgh, ychydig ddyddiau yn ol, dedfrydwyd archadeiladydd enwog, o'r enw David Cluras, i bum mlyriedd o benydwasanaeth am ffugio enwau masnachwyr er codi arian drwy dwvll. Y mae melinau cotwm, brethyn, &c., yn York- shire, yn gorfod gweithio haner amser oherwydd y cyfyngder masnaohol sydd yn ymledu trwy yr holl deyrnas. Rhyngwyd bodd y Frenhines i wneyd Mr Alderman Lewis Jervis, o East Lynn, yn farchog, C fringynghor yr wythnos ddiweddaf. Y Vagi d hen wr o'r enw Carney yn farw yn yr afon Clare, o dan amgylchiadau a barodd i'r hedd- geidwaid gymeryd ei nai, Patrick M'Namara, i'r d f.. Rhyngwyd bodd y Frenhines i roddi y awm o 3p 1 wraig tlawd a roddodd enedigaeth i dri o blant yn ddiw? dar mewn cwch camlas. Y mae'r Matter of the Soils wedi atal Krupp Thag gwneyd ychwaneg o'i fagnelau, am fod ei gynllun yn troseddu ar frienteb Varassom. Gohiriwyd confacasiwn Caergaint hyd Chwerfror :12, a chonfacasiwn Caerefrog hyd Chwefror 19. Cynhaliwyd cynhadledd sirol Dublin ddydd Sadwrn diweddaf, a phenderfynwyd danfon deiseb o bob plwyf yn y Werddon i erfyn an diwygiaiarddeUau tholyr Ynys Werddon. Dydd GwendP, yr wythnos hon (Iouawr 25), -cvnhelir dygwyl er coffa am droe 1,>n<>th St. Paul, Ezlwys gadeiriol St. Paul, Mmi'i tm, pryd y •cenir darnau detholedig o Orafirio ioadelssohn, St. Paul." Y mae Archesgob Caergaint wedi ymuno i'r, fymdeithas a sefydlwy'l er hclaethu amlhau yfrgelloedd rhyddion yn Llundain. Dr. J. Stopford Taylor, er gwaethaf pob gwrth- ■wynebiad, ydyw olynydd y diweddar Dr. Trench, fel meddyg Bwrdd Iechyd Lerpwl. Arglwydd Lindscy, A.S. dros Wigan, a etholwyd yn llywydd Cymdeithas Lenyddol Fren- liinol Lloegr am y flwyddyn nesal, yn lie Mr Higgins. Y mae Mrs Matilda Burns, yr hon a hawlia ei bod yn gyfnither i'r bardd Ysgotaidd Burns, yn derbyn elusen cyhoeddus yn ninas New York. Darganfyddwyd haid o wenyn o dan fargod tS Eglwys Annibynol yn Boscawen, N.H., TJnol Dalaethau, a chyda 69 o bwysi o fel a gafwyd yn y nyth, cynhaliwyd gwledd gyhoeddus, yr hon a ddvgodd elw mawr i'r eglwys. Dygodd cardotyn Italaidddall gynghaws y dydd o'r blaen mewn llys yn San Francisco, i hawlio cai i' doler y dywedai oedd yn ddyledus iddo, ac yn ystod y prawf cafwyd allan fod gan y cardotyn tlawd un fil o ddoleri ynyr Ariandy cynilo. Ar derfyn trengholiad yn Dublin ar gorph y Parch. James M'Whinny, caplou Presbyteraidd yn y fyddin, dychwelwyd y rheithfarn o ddynladdiad tra mewn cyflwr o wallgofwrydd ar y pryd. Dywed y Peterhead Sentinel fod y Parch, C. Robertson, y noson o'r blaen, wedi rhoddi dawns i aelodau ei ysgol Jnos. Dechreuodd y ddawns am wyth o'r gloch, a pharhaodd hyd" Y bore bach," pan aeth pawb adref "wedi eu cwbl foddliau.11 Felly! Y Morning Post a ddywed fod yr amcangyfrifon am y fyddin a'r llynges wedi eu trefnu ar safon heddweh, ond y gellir eu cyfnewid pe digwyddai rhywbeth i alw am barotoadau newyddion at ryfel. Ychydig nosweithiau yn ol, yr oedd fireman o'r enw Atkins yn cerdded ar y rheilfford ger Ports- mouth, pan ddaeth cerbydres heibio, gan ei daro i lawr, myned dros ei gorph, gan ei falurio yn ddvchrynllyd. Bu fiu w yn fuan. SILLBBIAETH SEISNIG.—Dydd Gwener diweddaf, eyflwvnodd dirprwyaeth, yn cynrychioli Ysgol Fyrddau Cymru a Lloegr, ddeiseb i Dduc Richmond a Gordon, yn gofyn am benodiad comisiwu brenhinol i ystyried pwnc sillebiaeth yr iaith Seisnig, gyda'r amcan o gael diwygiad yn mhlaid Hedaeniad addysg. Addawodd y Due oeod y mater Arerbron ei gydweiaidogion yn Nghvngor. BONBDDIOES hFASO DnEwR, Dydd Sadwrn d'weddaf, cafodd tydorwr ei draddodi i sefyll ei 1, awf yn Harwich am dori i mewn i blasdy Mr Tittrick, Dover Court. Merch yr erlynydd, I'meddiges ieuanc, 20 oed, a ataliodd y carcharor •Tan oedd yn dyfod i Inwr y grisiau ar ol haner nos. Tr oedd wedi tori panel yn y drws nesaf i'r heol, vw yr oedd ganddo fwndel o bethau gwerthfawr yn ei freichiaa. Neidiodd Miss Pattrick iddo, daliodd ef, a bygythiodd y cawsai ei saethu os y gwnai efe y cais lleiaf at ymddwyn yn greulawn, ac felly y daliwyd ef ganddi hyd nes y daeth cynorthwy. Ychydig ddyddiau yn ol, bu un o drigolion henaf ynys Orkney, o'r enw Christina Sutherland, farw yn ddisymwyth yn yr oedran aeddfed o 96. Cafwyd hyd i gorph Mrs Prasch, gynt gwein- yddes ar y Dywysoges Christian, yn yrafon Tafwys, yn agos i Windsor. Y maey cwmlli a npwyntiwyd igywiroy cyfeith- iad Seisnig o'r Beibl wedi gorphen hyd ddiwedd llyfrau y Cronicl, ae wedi eywiro Ezra cyn belled a phennod iv., adnod 16. Yn mrawdlys Worcester, dydd Sadwrn diweddaf, dedfrydwyd dyn o'r enw Ashby i bum mlynedd o benydwasanaeth am dori i mewn i lythyrdy Kid- derminster. Dywedir mewn cylchoedd cyfreithiol fod yr Ar- glwydd Farnwr Christian wedi rhoddi ei swydd i fyny fel barnwr apeliadau. Dywed 'gohebydd o Dover fod v Cleopatra wedi pasio yno ychydig wedi hanerdyddd lddSu1, ac y gallesid ei ddisgwyl yn y Tafwys tna haner nos. Dim ond 20 mlynedd o benydwasanaeth a pfodd Wi)Iiam White am ladd ei wraig trwy daflu Inmp 16wn o olew llosg arni, a'i gadael i losgi i farwolaeth heb estyn un cymhorth iddi. TKYCHINES YN Li.rNDAiy.—Yn llys Worship- street, Llundain, ddydd Sadwrn diweddaf, cyhudd- •wyd Edmund Eastoe, cabinetmaker, o lofruddio Edmund Grubb, ei feistr, yr hwn a gafwyd yn gorwedd yn ei waed ar lawr ei weithdy y noson gynt, a'r hwn a fu farw yn fuan. Ar ddydd y ofr uddiad, yr oedd y carcharor wedi gofyn am arian, ond gomeddwyd hyny iddo. Canfyddwyd yamotyu 0 waed ar grys y carcharor, ond efe a dd=ai mai blor.vn ar ei gnawd a aehoBodd hy, Y mae yr heddgeidwaid yn gwnead ymchwiliad manwl erbyn y prawf gohiriedig a gymer Ie yn | mhen ychydig ddyddiau.
6gnullioii I
6gnullioii Penderfyna Arglwydd Charles Bruce, haner brawd i'r Ardalydd Ailesbury, gynyg ei hun yn aelod Seneddol dros Marlborough. Ceisia'r Tori- aid yno berswadio un o feibion yr Ardalydd i ddyfod ymlaen, ond nid yw yn debyg y bydd i'r Arglwydd Charles gael ei wrthwynebu gan neb o deulu Bruce. Y mae marwolaeth Syr William Sterling Max- well, A. S., yn gwneyd cynrychiolaetb Perthshire yn y Senedd yn wag; felly y mae pedwar etholiad i gymeryd lie yn Scotland, bef yn Greenock, Leith, Perth, a Perthshire. Yr aelodau newyddion o Dy y CyfEredin a ethol- wyd ar ol terfyn y Senedd-dymhor blaenorol, ac a gymerasant eu seddi yn y tymhor presenol, oeddynt Syr Bryan O'Loghlen, Barwnig, dros sir Clare, yn lie ei frawd, y diweddar Anrhyd. Syr Colman M. O'Loghlen; ac Arglwydd Barghle dros Adran Ogleddol sir Northampton, fe101)'nydd y diweddar Wir Anrhyd. G. Ward Hunt. ETHOLIAD GKEENOCK.—Y mae dau ymgeisydd Rhyddfrydol ae un Tori yn bwriqdu cystadlu am gynrychiolaeth Greenock. Ofnir y bydd i hyny ranu cymaint ar y blaid Ryddfrydig fel ag i sicr- hau etholiad y Tori. Gan hyny, llwyddwyd i gael gan y ddau ymgeiydd Rhyddfrydol i adael y g%, i'w benderfynu gan eu cynghoriaid cyfreith- iol, ac os metha y rhai hyny a phenderfynu pa un o'r ddau a gilia o'r maes, gadewir y mater i'w benderfynu gan Mr Adam (y Chwip Ryddfrydol) a Mr Grisve. Y mae Mr James Lindsey Bennett, o Lundain, wedi cyhoeddi ei anerohiad i etholwyr Leith, yn mhlaid y Rhyddfrydwyr. Dywed nas gall ef gan- fod dim a allai gyflawnhau Lloegr am ymyraeth o gwbl yn y rhyfel presenol. Efe a ychwanega ei fod.yn barod i bleidleisio dros Ddadsefydliad yr Eglwys Wladol os danfonir ef i'r Senedd; ond bama mai gresyn mawr ydyw rhwygo y blaid Ryddfrydol cyn i'r pwnc o Ddadgysylltiad ddyfod yn fwy aeddfed i'w gymeryd i fyny gan yr holl blaid. Y RKYDDFEYDWTB A GWLADLYWIAETH DRAmoR Y LLYWODEASTH.—Y mae gouyzq sail gref dros gredu y bydd i'r aelodau Rhyddfrydig gynyg penderfyniad i gondemnio gwla, Lywiaeth dramor y Llywodraeth. Bu amryw aelodau yn cydym- gynghori â Mr Gladstone yn nghylch pa fiurf a fyd iai oreu roddi i'r ymosodiad a pha bryd y byddai yn fwyaf doeth i w wneyd, a chredir fod apeliad wedi ei wneyd at y boneddwr gwir an- rhydeddus ar fod iddo ef gynyg y penderfyniad. Pa un a gydsynia efe i wneyd hyny, ai ynte a osodir y pwnc yn Haw un o'r aelodau annibynol, fel ag i adael Mr Gladstone ac eraill o'r cyn-wein- idogion yn rhydd i'w gefnogi yn eu dull eu hunain, ac i'r fath raddau ag y barnont yn ddoethaf, sydd bwnc i'w benderfynu eto. Y mae yn sier fod cynygiad gwrthwynebus yn cael ei ddarparu, ac y bydd i holl wladlywiaeth y Llyw- odraeth gyda golwg ar y rhyfel gael ei beirniadu a'i chondemnio cyn gynted ag y bydd i'r neges- euon am heddweh alluogi y Rhyddfrydwyr i gy- meryd safle arbenig a phendant. Yr oedd cyf- ymollyngiad y ddadl ar araeth y Frfenliines yn ddichell nad oedd y blaid Ryddfrydig wedi ym- ddarpar ar ei gyfer. Gan fod yr unig bwynt grymus yn yr araeth wedi cael ei dynu yn ol, nid oedd dim gwerth dadleu yn ei gylch yn cael ei adael. Taenwyd yreglurhad yn Nhy y Cyffredin, tranoeth wedi agor y Senedd, fod y cais am bleid- lais o arian wedi cael ei roddi yn araeth y Frenhines, nid er mwyn dychrynu'r Ty, ond fel rhybydd i Rwsia, os na chymeraihi delerau hedd- wch eymedrol, y byddai Lloegr yn barod i ymladd. Addewir y bydd i'r telerau Rwsiaidd gael eu gwneyd yn hysbys i'r Senedd cyn gynted ag y cyrhaeddant y Svyyddfa Dramor. Cyfanrif mesurau preifat y rhoddwyd rhybudd o hynynt yn y Seneda, hyd ddydd Llun, ydoedd 375. O'r rhai hyn, y mae 320 yn perthyn i Loegr a Chymru, 33 i'r Werddon, a 22 i Scotland. Dywed y Daily News fod Due Sutherland yn dymuno gwneyd yn hysbys, er ei fod ef wedi bod yn y wledd a roddwyd gan Arglwydd Beaconsfield y noson o'r blaen, nad pes ganddo un bwriad i encilio oddiwrth y blaid Ryddfrydig.
[No title]
Yr oedd y Due o Wellington un tro mewn perygl ar y moi, pan, ychydig cyn yr amser iddo fyned i'w wel" y daeth y cadben i'w gaben, ae a liysbysodd y byddai pob peth drosedd yn mhen ychydig funydau. "Or goreu," atebai y due; "ae felly, ni wnaf dynu fyesgidiau ymaith." Yr oedd athraw ynyr Ysgol Sabbothol untroyn ddiiyrus holi ci blant yu y dosbarth. Gofynodd iddynt, "Yu mha ley mae DuwP" gan addaw orange yn wobr i'r goreu. Yn uniongyrchol, cododd crwtyn bychan ar ei draed gyda brwdfrydedd anarferol" Dywedwch i mi, F, y lie nad ywDuw, a rhoddaf i chwi ddau orange