Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

IY GYLCHDREM.-I

News
Cite
Share

I Y GYLCHDREM. I GWLEIDYDDOL A CHYMDEITHASOL. Y mae yn anmhosibl prisio gwasanaeth gwr synwyrol a phrofiadol fel Mr John MorgaD, I Cadnant, fel aelod ar fwrdd gwaroheidwaid. Cynhaliodd Undeb Bangor a Beaumaris eu cyfarfod cylchredol Mercher diweddaf. Ym- ddengys fod gan Mr T. Jones, Pont-y-borth, hyder cryf yn effeithiolrwydd swyddogaeth, am hyny cawn ef yn cynyg penderfyniad i sylw ei gydwarcheidwaid yn ffafr penodiad arolygydd chwil-lysol. Y gwaith a fwriedid i hwn oedd edrych i mewn i bob achosion o apel- iadau am gynorthwy plwyfol yn y dyfodol, yn ogystal ag amgylchiadau y rhai oedd yn derbyn elusenau felly. Yr hyn a gyffrodd Mr Jones i feddwl am greu swyddog newydd yn yr undeb oodd gwybodaeth neillduolj yr oedd efe yn meddu arni parth amgylchiadau dwy wraig yn Mon (mao'n debyg), yn galla fforddio amheuthyn (luxuries oedd y gair a ddefnycl liai y boneddwr) o fath dannedd gosod, a hwythan ar y plwy'! Ae fel prawf nad oedd Mr Jones yn siarad llawer o dan ei ddwylaw, nododd fod y dannedd yn oostio 0 5p i lOp. Pwy a fuasai yn meddwl fod tlodion amddifad (hwyrach) ar y plwy' mor uchelgeisiol a cheisio dannedd gwerth 10p er cnoi bara elusen P Dywedir yn mhellaoh, os mai er cnoi en crystiau sychion y prynasid hwynt, na bussai y boneddwr tyner- galon yn codi llawer o wrthwynebiad, end y tebygolrwydd oedd mai er mwyn hardd- weh ymddangosiadol" y pwrcaswyd hwy! Wrth reswm, yr oedd y syniad yn annyoddefol t Yr unig feddyginiaeth i gyhrfod amgylch- iadau o'r fath yma oedd penodiad swyddog i hela pethau fel hyn allan. Nid arosodd Mr Jones i eirych pa un ai caniatau ambell i lOp at ddannedd i'r tlodion, ai eyflog o 50p i lOOp i swyddog fuasai yn lleiaf o draul ar yr undeb. Ycbydig feddyliodd efe hefyd, y mae'n amlwg, gan mai er hardd- wch personol y pwreasodd y ddwy fenyw y dinnedd, mai trefnu yr oeddynt er gadael seigian y plwy'. Ai nid ysgafnach i logellauy trethdalwyr a fyddai rtgio eu tlodion benyw- aidd i fyny hyd berffeithrwydd harddweh personol," na chynal yehwaneg o ruban coch, gan y gellid trwy hyny obeithio yn gryf y byddant yn ddigon marchnadol i enyn awydd mewn ereill i'w cynal ? Yn ol geiriau Mr Morgan, y mae yr undeb eisoes yn talu yn flynyddol 800p i'w swyddogion, ac fel y sylw- odd Mr H. Hughes, Bangor, byddai gwaith y swyddogion elusenol presenol yn cael ei gymer- yd oddi arnynt, am eu bod yn anghymhwys i'w gyflawni, pe y penodid y fath swyddog. Byddai yn dda i'r trethdalwyr wybod am pa beth y telir yr 800p, os ydyw yr undeb wedi ei droi yn ddiweddar i gynal twyllwyr diodifarns. ÅO yn ychwanegol, beth pe oeid ar ddeall pa beth ydyw natur y gwuanaeth a ddysgwylir oddi ar law gwarcheidwaid y tlodion ? Pe y byddai Mr T. Jonea a Mr Bulkeley-Price, ei gefnogydd, yn fwy ymroddedig i lanw gofyn- ion en swydd fel gwarcheidwaid, diau y galla' yr undeb fforddic gwneyd y tro heb y Jesuit a'r ohwil-lys y dymunai Mr Joney eu ddwyn i ar- weddu ar dlodion Undeb Bangor a Beaumaris. Da iawn a fyddai i warcheidwaid ithfaenol eu hymysgaroedd gadw fy frawddeg a ganlyn a lefarodd Mr Morgan: Cyflawnir mwy 0 anghyfiawnder wrth gadw elusen ddigonol a thêg oddi wrth y tlawd haeddiannol nag a wneir drwy gael eu twyllo yn rhoddiad y cyfryw i bersonau annhaeddiannol." Y mae Mr Henry George, awdwr y llyfr byehan poblogaidd Progress and Poverty, wedi dechreu ar ei gyfres cyfarfodydd yn Llandain yr wythnos ddiweddaf. Amerioaniad deallus a dywygiwr cymdeithasol ydyw Mr George. Ad- drefnu eiddo tirol ydyw y mater y mae efe yn ymgyflwynedig iddo. Cafodd y darlithydd dderbyniad gwresog, er y teimlai ei gadeirydd, Mr Labouchero, A.S., fod addysg Mr George yn llawn 0 elfenau chwyldroadol. Nid oes eisieu deall cryf er dimad natur y gyfundrefn a gy. nygir ganddo ynlle yr un bresenol. Myn Mr George wneyd y Llywodraeth yn feistr tir cy. ffredinol. Y bobl oedd meddiannwyr y tiir; | cymerwyd ef oddi arnynt yn dywyllodrus, a'u dyledswydd ydyw ei gymeryd yn ol. Jhwy drethu y bobl y cafodd y tir-arglwyddi eu hys- tadiau; y feddyginiaetb ydyw myned yn ol a threthu y tir-arglwyddi. Ond mabwysiadu y cynllun, byddai cyllid y LlywùdraethJ yn ga,il a 7maint ag y mae. Gyda golwg ar ddigolledu y peTcbenogion presenol, gwada Mr George fod ganddynt un hawl gyfreithlon i ddysgwyl byny. Ya fyr.dyna gwewullyn y dywygiad a gynygir gan Socialyddion y dydd, ao ofer ydyw colu y ffaith fod y fath syniadau hynod yn enill y dydd beunydd yn Lloegr yn mysg y dosbarth gwe'.th- j >1, er nad yw yr atbrawiaeA yn debyg o gy- meradwyo ei hun i fsro mwyafrif 0 bobl fel y Prydeinwyr. Arfaetha yr Atnericanwr gy- meryd taith drwy y rhaa helaethaf 0 Loogr er pregethu yr athrawiaeth. Pa beth na fedra eiddigedd wneyd ? Y mae Mr Parnell a Mr Michael Davitt a'u pleidwyr yn eiddigeddas o'u gilydd, ac ar fyned yn elynion." A plaid yr olaf yn gryfach bcunydd, ac y mae plaid y blaenaf yn ofni ac yn teimlo mai Davitt ydyw y penaf o gydymgeiswyr Parnell am ffafr y Gwyddelod. Dysgwylir i'r rhwyg gymeryd lie ar fyrder. Nid oes dim cyfnewidiad ar amgylcbiadau pethau yn yr Aipht. Gadael Soudan ydywtrefa y dydd yn ol gorchymyn Lloegr. Aeth y gair allan i gefnu ar Khartoum, a theimla pawb ei fod yn orchwyl llawn o anhawsderau a pherygl- on, ond:rhaid ymgymeryd ag ef. Argyhoeddwyd Voegr nas gall yr Aipht lywodraethu darn mor fawr o'r cyfandir Affricanaidd, ac fel galla synwyrol, ei chynllun ydyw ei roddi i fyny i'r Prophwyd Mahometanaidd a'i ddilynwyr. Gynt yr ocdd Soudan yn rhan o'r Ymherodraeth Dyrcaidd. Wrth weled cynllun Lloegr ar gael ei ddwyn i weithrediad, penderfynodd y Sultan ymheddychu &'r Khedive. Credir nad boddua gan ei Fawrhydi o Gaercystenyn weled rhoddiad i fyny y fath wlad anferth, a'r tebygolrwydd yw mai y cam nesaf fydd anfoniad byddin o Dyrciaid yno i wneyd byr waith ar y Prophwyd, a darostwng talaethau y Nile Uchaf unwaith yn rhagor o dan iau y Saltan. Gwr gwerthfawr iawn i'w blaid ydyw Syr Bichard Cross. Y mae y boneddwr yn myned ar hyd y wlad y dyddiau hyn i ddysgu yr athrawiaeth o ystyfnigrwydd. Tybiai Hawer o Badicaliaid nad oeid prinder 0 elfenau muleidd- Îlvch yn y rhan fwyaf o'r blaid Doriaidd; fodd bynag, ofna Syr Richard eu bod yn colli tir yn hyn. Yn Hull, ddydd Sadwru, dangosai y boneddwr mai gwaith cyntaf y Torïaid yn yr eisteddiad dyfodol fydd oedi deddfwriaeth drwy lyncu yr amser i fyny à. gofyniadau yn nghylch helynt yr Aipht a Transvaal. Y mae cael boddlonrwydd ar y naill a'r Hall o'r cwestiynau hyn yn Uawer pwysicach nag unrhyw ddeddf- wriaeth gartrefol y gellir meddwl am dani. Wedi liyny rhaid i'r Blaid Fawr Gyfansoddiadoi ymwrcgysu i frwydr er atal uniad yr Iwerddon yn Mesur Eangiad yr Etholfraint. Rhaid hefyd atal llywodraeth leol oddi wrth y Gwyddelod. Yr oedd gan y marchog hwn yr haerllugrwydd i gyhoeddi nad oedd neb yn gyfrifol am sefyllfa bresenol yr Iwerddon ond Mr Gladstone yn unig. Ynffodus,mae mwyafrif mawr iawn deiliaid Prydain, ac yn eu mysg y Gwyddelod eu hunain, yn gwybod pethau amgenach. Digon i Mr Gladstone ei ddrwg ei hun, heb roddi ar ei gefn anghyfiawn- der gwaradwyddus canrifau o drais a gorthrwm na cheir ei debyg ond yn Polind a Rwsia. Darllened yr hwn a fyno wybod erthyglau Syr Gavan Duffy ar "Ungrateful Ireland," yn y nineteenth Century, New Ireland," gan yr un awdwr; a'r Concession to Ireland," a gy- hoeddwyd yn ddiweddar. Rhaid fod dallineb digyffelyb wedi disgyn ar y boneddwr pan y gallai ddyweyd fod yr Iwerddon mewn "sef- yllfa hapus" pan yr oedd y Toriaid mewu awdurdod. Pa beth a all yr lwerddon, druan, ddysgwyl mewn ffordd o iawnderau gwladol gan wr o fath yr un a draetha syniadau fel y rhai blaenorol. Y mae yn Paris 8,000 o gasglwyr esgyrn, cadachau, ac ysbwrial, trwyddedig. At y rhai hyn gellir ychwanegu 0 ddeuddeg i bym- theg mil o gasglwyr afreolaidd. Drachefn, rhaid ychwanegu 10,000 o ddosbarthwyr (sorters), y rhai a weithiant yn y dydd. Yn y tywyllwch y gwna y casglyddion hyn ea gwaith. Crwydrant Paris drwyddi draw bob hwyr, gan chwilota pob congl, a thomen, eL geudy, am esgyrn, papyrau, cadachau, &3. Berwir yr esgyrn i lawr er cael eu saim, yr hwn a werthir:yn ol dau 80U y pwys er gwneyd sebaa. a chanwyllau. Y mae ganddynt farchnad i hen esgidiau, hen boteli gwydr, a phobpeth a gesglir. Dibyna 30,000 o eaeidiau ar yr alwed- igaeth isel ond go nest hon. Honsy casglwyr eu bod yn hollol onest, ae, fel rheol, y maent felly, ond myn y Llywodraeth roddi terfyn ar eu galwedigaeth ar sail awgrymiadau yr hedd- geidwaid. Ychydig sydd o'r drwg, ond y mas y diniwed yn debyg o orfod cyd-gyfranogi ya y gosb. Y mae amryw o brif newyddiadttr- ion Paris wedi d'od allan i'w cefaogi ar yr egwyddor o ddewis y lleiaf o ddau ddrwg. Os atelir y bobl hyn i ddwyn yn mlasn alwedig- aeth onest, er yn un dlawd, rhaid mai suddo a wnant yn ddiymaros o'r golwg yn myddia fawr y lladron a drygau cyffelyb.

CREFYDDOL AC EGLWYSIG.

Advertising