Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
[No title]
(Crleirier y Farddoniaeth i Eifionydd, I wyddf a'r Goneld" Caernarfon.)
[No title]
AT Y BEIRDD.-Fel hysbysiad yn unig y I oyhoeddir anerchiadau priodasol, coffad- I wriaethol, ?c. Ni chymer teilyngdod, I darnau Menyddot felly i ystyriaeth. Am I y telerau, ymofyner a'r cyhoeddwyr. I
"TYN FI." I
"TYN FI." I (Allan o lyfr newydd Cadvan). I Arwain fi o "dy'r caethiwed," Dwg fi o'm crwydriadau pell; Portha f'enaid yn yr anial A "grawnsypiau" gwlad sydd well; Tyn fi, lesu, &c., Beunydd atat Ti dy Hun. Dena'm calon a dy gariad- Tyn fi a'th drugaredd gref, Boed fy enaid iti'n eiddo— Tithau'n eiddo iddo Ef, Mewn cyfamod, &c., Na ddiddymir tra b'o'r nef. Gad dy Enw ar fy nhafod, Pan fo'n cau ar bethau'r byd; Dal dy groes o flaen fy llygad, Pan y'i troir gan angeu'n fud; "Derbyn f'ysbryd," &c., I'th "lawenydd" dwyfol Di. CADVAN.
YMSQN i. -.. I
YMSQN i. I 01 mor unig ydwyf yma I Hob bur gwmm'm geneth dlos: Fy myfyrdod sy'n rhodiana Ger ei bwthyn gyda'r nos: Gyda'r awel myn ehedeg I ddwyn cenad at y ferch Leinw'm calon ar bob adeg A thyneraf swyn ei serch. 0! pe gallai ond ei ganfod Yno'n traethu'r neges fwyn, Yfai gysur, leddfai'i thrallod- Calon Ivor mae'n ei ddwyn: Rhyw atebiad melus roddai I'r negesydd ddwyn yn ol; Pur adgofion byw sibrydai O'n per ymgom ar y ddol. Byw nis gallaf mwy fy hunan, Ail anturiaf dros yr aig,— Af yn ol i Walia wiwlan Er cael Elen imi'n wraig; Af i'w hawlio'n decaf feddiant Heb negesydd ond fy hun, Yna gweddill oes fydd mwyniant- Mwvniant deuddvn wnaed vn un. I I GWYNEDD. I
i -MR. R. J. THOMAS, G.T.S.C.
i MR. R. J. THOMAS, G.T.S.C. R. Jones Thomas a asiwyd,—a ni mwy, Er yn Mon ei magwyd- Y doniol-do fe'i denwyd, Yma'n glau, mae yn ei glwyd. Yr anwyl gerddor enwog,-yw y gwr Wna gan yn flodeuog, Ei lais coeth a chyfoethog Heddyw'n llawn a haedda'n llog. 1 Bryn'rodyn. JOHN JONES.
NERTH CARIAD. __.I
NERTH CARIAD. I Yn ddwfn mewn myfyrdodau prudd a dwys, Eisteddai tad ar fin gauafol nos Gerllaw i danllwyth mawr mewn stafell dlos, A'i olwg megys un dan lethol bwys. Ae ar ei lin 'r oedd un o lyfrau 'r oeg, 0 glawr i glawr yn llawn amheuon prudd, A phob llythyren ynddo'n gwadu'r ffydd, Ac yn dirmygu iawnol waed y Groes. O'i ddwys fyfyrdod weithiau codai 'i ben, A chodai ei amheuon yr un pryd Fel rhyw ysbrywon o'r allanol fyd Yn gwmwl rhyngddo ef a'r nefoedd wen. Fe glywai si y gwynt wrth gonglau'r ty, A thybiai glywed swn curiadau man Wrth :dor ei 'stafell glyd, a cher y tan Fe drodu i wel'd ei eneth fechan gu. A'i rhoddi ar ei lin yn dyner wnaeth, A hithau a adroddodd wrtho 'i hynt Yn tybied fod ysbrydion yn y gwynt Yn dyfod i'w chymeryd hi yn gaeth. "Ac atoch chwi, fy nhad," cyfodai 'i lief, Y dof yn awr," ac yntau yr un pryd, Yn nghanol ei amheuon, rodd ei fryd Ar fvn'd at Dad sydd yn ei garu ef. I ISFRYN.
I DIODDEF SYDD ELW. I
I DIODDEF SYDD ELW. 0 dan faen y felin, Ie, frawd. Oa am sawr Anadl ber y rhosyn I swynoli'r dyffrvn, Sanger lawr. Os am ffrwyth, Trwsier y cangenau, Aeron teg y sypiau Geir yn bwyth. Os am lan, Yn y darn ymafla, Mai Paul ar Melita, Forwr gwan. Os am hynt, Enill concwest rymus, Tor dy biser, megys Gideon gynt. Os am air Da yr Athraw tyner, Dryllia'r blwch aroglber Megys Mair. Os am flydd Flodau'r Adgyfodiad 0 dan wlith-eneiniad "Trydydd Dydd"- Plygain Barn, Rhaid i flodyn "Gobaith Gwell" dan droed Marwolaeth "'¡n'd yn sam I AB CEREDIGION. I
Advertising
Sore Throats. "You cannot do better than gargle with'CONDY. Sir Morell Mackenzie, M.D., Physician to The Throat Hospital. °TCONDY'S # Remedial FLU [ID. N BHUH OF SUBSTITUTES. M faMbt haying
" ROLANT Y SAER."
ROLANT Y SAER." Yr hysbysrwydd cyntaf am ei fodolaeth i mi oedd ei ddyfodiad i Flaen Tafolog, "yn hogyn gyru'r wedd," at rieni fy nhad,ynghyd a duu ewythr i mi, pan oddeutu deuddeg neu I dair ar ddeg oed efaIlai,-yn blentyn amddi- fad o fam ar y pryd, os nad wyf yn cam- gofio; a lied debyg fod hyny yn un rheswm I am ei anfon can belled oddi cartref mor ieu- anc; ond yr oedd ei dad yn fyw, a bu fyw I amryw flynyddoedd wedi hyny; ac yr oedd ef yn ddigon adnabyddus cyn hyny i'n pobl ni fel saer troliau, a hen wr crefyddol a pbtlrehus, ac ymgomiwr diddan dros ben ar yr aelwyd; ac yr oedd gwythien o farddon- iaeth yn ei natur; ond gwneyd troliau a wageni oedd moddion penaf ei gynhaliaeth ac fe ddywedid fod theory ei gelfyddyd yn glir iawn yn ei ben; ond yn hyn, fel mewn llawer o bethau ereill, yr oedd deddf yr aelodau yn gwrthryfela yn erbyn deddf y meddwl,—prin y gellid dweyd fod gwaith 5 dwylaw yn deil- wng o'r pen,—nid oedd llawer o raen y crefft- wr gwych ar eu cyftawniadauim yn debyg i eiddo ei fab hynaf, yr hwn, y gobeithiaf, sydd yn fyw pan yr wyf yn ysgrifenu, ond s:-r1d bellach yn dechreu myned 3-n henafgwr yn mysg gwyr, ond nid cyn enill cymeriad fel un o'r seiri gonestaf a ymaflodd erioed mewn bwyall; ae, fel ei hen dad o'i flaen, y mae yn ddyn crefyddol ac yn ddiacon gyda'r Anni- bynwyr yn y lie, y rhai a allant ddweyd- "Efe a adeiladodd i ni synagog"-os nad ax ei gost ei hun, am ddegau o bunoedd yn llai, fel y credaf, nag y gwnaethai nemawr un heb gydymdeimlad Cristion a'r "achos" yn y He. Cyn dyfodiad Rolant atom, nid wyf yn sicr nad oedd peth rhagfam yn ein meddyliau ni, yr hogiau, at "y bobl tu hwnt i'r Bwloh," ref ardal genedigaeth ein cyfaill ieuanc; gan fod Bwlch y Fedwen JTI peri i'r saith neu wyth milldir 0 bellder a wahanai rhyngom a pher- sonau ag arferion preswylwyr y "tu hwnt." Ond yr oedd tri pheth, o leiaf, yn rhoddi digon 0 hynodrwydd i wneyd y cyffiniau pell hyny yn enwog—cyfarfodydd pregethu Llun y Pasg, "Huw Hughes y Foel," a Simon Llwyd. Yr wyf yn dra sicr nad oedd gwyliau y Pasg yn Jerusalem yn meddu mwy o swyn i'r Iuddew na'r swyn a deimlai ieuenctyd cymoedd Tafolog a'r Dugoed yn nghyfarfod- ydd y Pasg yn y Foel. Un rheswm am hyny, a'r penaf mi a obeithiaf, ydoedd y byddai yno bregethu rhagorol, fel rheol. Yr oedd yn syndod i ni sut yr oedd lie mor ddisylw,mewn cymhariaeth i lawer o leoedd, yn llwyddo yn fynych i gael prif bregethwyr yr enwad i'w gyrddau mawr. Pe dechreuwn enwi y co«r a osodasant fare tragwyddol o enwogrwydd ar gyfarfodydd y Foel, ymestynent dros law- er o dudalenau; ac y mae eu galw i gof yn peri i mi deimlo yn ieuanc y mynyd hwn, ond yn fy argyhoeddi, yr un fynyd, y. rhaid fy mod yn myned yn hen, serch hyny. Ac fel y cyf- eiriai y Parch D. Griffith, Bethel, at ei ym- weliad cyntaf a sir Drefaldwyn mewn ysgrif ddiweddar, yno y clywais of gyntaf yn pre- gethu ond yr oedd yn enwog i ni fel "David Griffith, ieu., Bethel," lawer o flynyddoedd cyn hyny. Yr oedd swyn hefyd yn nghyfar- fodvdd y Foel, yn arbenig i ni y plant, oher- wytld caredigrwydd diarhebol yr ardalwyr. Nid oedd raid pryderu dim ar ddydd y cyfar- fod mawr gyda'r hen gwestiwn-"Beth a fwytawn, neu pa beth a yfwn?" neu, ynte, "A gawn rywbeth i'w fwyta?" Gwelsom mewn ardaloedd ereill gwestiynau felly yn mynu lie pwysig yn ein pryderon; ond yn mhell o fod o'r un nodwedd a'r pwysigrwydd a roddai "ShonGwaithGwellt" ar y cwestiwn, pan yr arferai ofyn-"A fuoch chwi erioed yn Sasiwn y Bala? Wel, "Do," neu "Naddo," atebid: "beth am hyny?" "Wel, cig a phwdin, faint a fynech chwi." Nid ein pryd-1 er ni a fyddai am wybod beth a gaem i'w fwyta, ond a gaem rywbeth o gwbl, mewn rhai manau; ac nid yn gymaint a g. em y rhywbeth hwnw er diwallu ein newyn, ond yn hytrach er ysgoi y diraddiad o fod mor anenwog a disylw fel na feddyliai neb fod genym eneuau o gwbl eisieu eu diwallu. Gwelsom hyny yn ddigwyddiadol wedi i ni I dyfu i fyny yn ddigon balch i deimlo min y sarhad a'n ffordd i liniaru y briw oedd ceisio credu yn y fantais o ddychwelyd i'r ail oedfa a'n "llestri yn weigion." Yr oedd yr hen Gristion Huw Huws, hefyd, yn enwogi y lie i ni y plant, nid yn gymaint am ei fod yn bre- ( gethwr nodedig, ond am ei fod yn gwneyd peth mor anmhregethwrol a gwisgo "macin" am ei ben, nes bod yn demtasiwn i'r wags i ddweyd fod Huw Huws yn "cuddio ei dalent mewn napcyn," am y tybient mai Ilaw-weith- fa benaf y bregeth oedd y pen, ac heb feddwl fawr pa faint o gur yn y pelt a awgrymai y napcyn rhwymedig, a bod y gofal hwnw am y pen, mewn rhan, yn foddion i geisio gwneyd yr un dalent yn ddwy, neu y ddwy yn bedair. Am Simon Llwyd, y tafarnwr a'r siopwr, tvbiaf na freuddwvdiodd am i'w enw gael ym- ddangos "mewn print" fel hyn, yn enwedig drwy gyfrwng sylwadaeth yr hogyn gwlad- aidd a alwai yn ei dy yn achlysurol, er's haner can' mlynedd yn ol, i "faitio" wrth ddychwel- yd o'r calch. Yn ei ddyddiau mwyaf new- yrehus, pan oedd ei wraig yn fyw, cefais i a fy nhad lety glanwaith a chysurus am nos- waith anarferol o wlyb ac ystormus yn ei dy, er ein bod yn mhell o fod y "cwsmeriaid" mwyaf cydnaws a'i "fusnes," oblegid ein bod yn ddirwestwyr. Digwyddodd hyny pan oedd yn byw yn yr hen dy a adeiladasai ei hun ar y "comin," ac a adnabyddid wrth yr enw "Siop Simon." Yn fuan ar ol hyny caf- odd ei nyth clyd ei chwalu i'w sylfeini gan Ar- glwydd Powys, drwy yr hyn y gorfodwyd ef i symud a cheisio lie i adeiladu cartref new- ydd, yr hyn a gafodd mewn pantle o faes bychan yn mhentref y Foel, a adnabyddid gan y pentrefwyr wrth yr enw Uffem; ae, yn unol a'i arabedd adnabyddus, sylwai ryw- bryd-"Cafodd Simon Llwyd ei daflu i uffern am bechu yn erbyn yr Arglwydd." Y pechod y cyfeiriai ef ato oedd gwrthod ymostwng i dalu haner coron i larll Powys fel arglwydd y faenor. ya fodd bynag, rhwng ei arabedd a natur y diodydd a gadwai, gwasanaethent fel chloroform iddo allu eyflawni operation yn dra rhwydd ar fan tyner, fel rheol, o eiddo yr ymwelwyr a'i dy-sef eu poced,-fel y credaf na fu pryf copyn erioed yn fwy Ilwydd- ianus i gael gwybed i'w rwyd nag ydoedd Simon i swyno yr ardalwyr i faglau y "diod." Ac yr wyf yn meddwl mai mewn cyfeiriad t ei dy ef yn ei ddyddiau mwyaf heulog y dy- wedai un o'i "gwsmeriaid" mwyaf cymedrol ei brofiad yn niniweidrwydd ei galon wrth un a adwaenwn, yn debyg i h):Yn tydi'r a ,dwa,,nwn, difyr ?-cylch o gymydogion yn eistedd o flaen tan da, pob un a'i lasied o'i flaen, a phawb a'i stori ddifyr i ddyddori'r cwmni: y lie tebycaf i'r nefoedd y galla' i feddwl am dano!" Wel, dyn a helpo yr hen frawd gyda golwg ar ei syniad am y nefoedd I Os yw wedi cyrhaedd yno, credaf fod ei syn- iad am y lie wedi ei ddyrchafu, i fod yn an- fantais i dafarn Simon yn y gystadleuaeth. Ond mewn adgof melus am bob ewpanaid o goffi "eildwym" a yfais yn ei dy,—y rhai ar y pryd oeddynt yn mhell o fod mor felus i mi ag ydynt yn awr mewn adgof,gobeithiaf nad yw Simon wedi gwybod drwy brofiad am uffern waeth na'r un a ddaeth i'w ran mewn canlyniad i'w anufudd-dod i Arglwydd Pow- ys. Fet esiampl o'i barodrwydd i weini ar ei "gwsmeriaid" yn ol eu haeddiant tybiedig, goddefer i mi grybwyll mai llawer gwaith y gwelais of, ar ol marw Mrs Lloyd, wedi rhoddi y pot coffi ar y tan, cyn byth y gallwn ddyfod i'r ty, ar ol rhoddi y ceffylau wrth damaid o wair,—gan mai coffi neu de, fel rheol, yr arferwn alw am danynt; ond gan fy mod inau ychydig yn Iuddewaidd o ran fy nbeimlad, wrth weled y cwpanau te neu goffi yn dwyn arwyddion amlwg fod rhywun o'm blaen wedi bod yn yfed o honynt, ac na wyddwn pa Philistiaid dien- waededig allai yr yfwJr hyny fod, byddwn, mewn cydymdeimlad dwin a Simon arall pan y'm gelwid at y bwrdd, yn barod i ddweyd, Ni fwyteais i ddim cyffredin neu aflan,ond heb fod yn hollol mor blunt a'r Simon hwnw, cymerwn arnaf fy mod wedi diflasu ar de a choffi, a gofynwn yn ostyngedig am "fowlen" a dwr poeth, a phupur a halen; ac at y trugareddau hyny ychwanegwn inau yr anheborion i'w gwneyd yn wledd, gan ofalu talu i Simon yn ddwbl am yr hyn a geisiwn ganddo; ac felly bydd- [ai ef a minau yn ymadael ar y telerau goreu, -h.y" yr oedd yn dda genyf fi gefnu; ac mi wn fod yn well ganddo yntau weled fy nghefn na'm gwyneb, gan nad oedd "glas- eidiau i ddilyn. Wel, ni a adawn Simon yn yr anfarwoldeb priodol iddo. Fy rheswm am droi cymaint gydag ef yw fod y dafarn, fel gwrthymgeisydd i'r capel jam ddylan- wad dros yr ardalwyr, yn llawer rhy gryf i'r hen Gristion diniwed, Huw Huws, gy<ùÚ eglwys yn y lie, i allu ei gwrthwynebu yn effeithiol; tra yr oedd athrylith Simon yn gymaint o elfen poblogrwydd i'r gyntaf: ac hwyrach fod y ffaitli hon, mewn rhan, yn gyfrifol am y rhagfarn a barai i ni, y plant, y naill du i'r "Bwlch," dybied fbd pobl y "tu hwnt" i'r Bwlch haner can' mlynedd ar ol yr oes mewn cymhariaeth a "Ni fawr." Nid wyf yn sicr fod y rhagfarn hwnw yn mynwes neb ond fy hunan ychwaith: ond ni ryfeddwn hefyd os oedd yn un cyffredinol o'r naill du i'r "Bwlch" yn gystal a'r llall; ac os oedd, diau y madd- euwn yn galonog y naill i'r llall ragfamau oes yr anwybodaeth hono. Oddfer eu safle hwy, hwyrach, o edrych ar bethau, galla»- ai pobl y "tu hwnt i'r Bwlch" ymffrostio a dweyd—"Onid gbnym ni y mae Simon? a pha dafarn a feddweh chwi a reolir gan ath- rylith dafarnyddol gwerth i'w henwi yr un dydd a'r eiddo Simon? Onid yw Arglwydd Powys a'i osgordd o saethwyr 'grows' yn talu ymweliad blynyddol a ni? ond traed pa arglwydd teitlog erioed a gysegrodd ffordd 'troed y Bwlch' a'i sang? Onid yd- ym ni yn byw yn nes i Loegr-canolbwno gwareiddiad? ac onid yw y trigolion wedi eu britho a Saeson, a rhai o'n plant yn dysgu parablu eu hiaith yn rhugl, tra nad yw eich Dio-Shon-Dafydd mwyaf disgybledig chwi fawr bellach yn mlaen na'r 'Is' a'r 'No cyffredin? Onid ydym ni yn cadw y Nadolig yn yr hen ffordd orthodox, drwy fyned i'r eglwys y boreu a'r hwyr i ganu carolau, a choroni cyflawniadau y dydd drwy gicio'r bel droed ac yfed cwrw, tra yr ydych chwi yn dechreu halogi yr hen wyl gysegredig, drwy cynal cyfarfodydd llenydd- ol, &c., ami? A pha Basg, er y Pasg luddewig, sydd yn debyg i'n Pasg ni ?"- Tafolog yn "Ngheninen" Ionawr.
[No title]
Dylai dynion a merched sydd yn gorfod gwynebu pob math o dywydd i enill eu byw- oliaeth adeiladu eu cyfansoddiad yn y modd cadarnaf fel ag i'w galluogi i ddal y dymhestl erwinaf gyda dewrder. Siarada yr ysgrifen- ydd oddiar brofiad ac oddiar sylwadaeth ar creill. Me te yn agor y chwysdyllau ac yn cynbyrfuamychydig. Coffee yn gweithredu ar y galon, ond mae Dr Tibbles' Vi-Cocoa yn rhoddi nerth a grymusder, ac yn adeiladu a nerthu'r ysgyfaint. Mae mewn gwirionedd yn ddiod-fwyd tra rhyfeddol. Nid oes dim eto wedi ei ddarganfod tebyg iddo am roddi iechyd a hoenusrwydd i'r corph a'r teimlad hwnw o bleser nas gellir ei feddianu ond trwy feddu iechyd a nerth i fwynhau bob pleser yn foesol, meddyliol, a chorphorol.
IRHYBUDD CYHOEDDUS.I
RHYBUDD CYHOEDDUS. I Oherwydd cymeradwyaeth garedig pobl I Deheu a Gogledd Cymru, y rhai sydd yn defnyddio Dr Tibbies' Vi-Cocoa, gellir ei gael yn awr gan bob Grocer, Fferyllwyr, -a Stores yn Ngogledd a Deheu Cymru, ac mae y rhai canlynol wedi rhoddi caniatad i'w henwau gael eu cyhoeddi fel goruchwylwyr lleol. Ychwanegir at y rhestr hon fel y bydd galwad oddiwrth rai yn dymuno gwybod enwau y goruchwylwyr nesaf iddynt. GORUCHWYLWYR LLEOL. I ABERGELE: M. Fletcher, P. Stores. W. Williams & Co., High street and Market street. ACREFAIR, RUABON: A. Phillips, The Emporium, Llangollen road. AMLWCH: Thomas Lewis & Co. BARMOUTH: E. Williams. « BEAUMARIS: W. J. Thomas, Liverpool Stores. Lewis Hughes, United Stores. BANGOR: Thomas Lewis & Co. Robert Jones, 310, High street. W. G. Evans, Old London House. Henry Lewis, The Comet Stores. Evans & Lake, Comet Stores. City Steam Mills, Dean street. Edward Jones & Co., 311, High street, and at Upper Bangor and Memu Bridge. Star Supply Stores, 232, High street. W. N. Bicknall, 242, High street. John Humphreys, Upper Bangor. J. Hughes, 335, High street. R. Jones, Bradford House. R. Pritchard, High street. Davias and Jones, Post Office Stores, Upper Bangor. JJALA: J. Parry & Co., High street, and Corwen. S. Jones, 76, High street. BETHEL, BODORGAN: Thomas Lewis & Co. BETHESDA: Star Tea Company, Ltd., 39, High street. BETTWSYCOED: R. Rawlinson. B?LA?A? FESTINIOG, MERIONETH: The Provident Co-operative Stores, 20 & 21, Church street. Star Tea Company, Ltd., 30, Church street. BODEDERN, VALLEY: Thomas Lewis & Co. BRYMBO: G. F. Harrison, Cambrian House. W. T. Jones, Handfield House Stores, Cross. R. W. Hughes, Central Supply Stores. BRYNSIENCYN: D. C. Griffith, Medical Hall. BUCKLEY: M. Kelly. 1 CARMEL: Elias Jones & Sons. CARNARVON: T. Davies, Victoria Stores, 13, Bangor street. Evans & Lake. H. G. Foulkes, 80, Pool street. William Jones, 74, Pool street. Ellis Jones & Son, Institute Shop. Thomas Lewis & Co. Joseph Roberts, 14, Pool street and Twthill Tea Mart. John Owen, 13, Castle square. Hugh Pritchard & Co., Pool street Market. R. E. Roberts, Corner Stores, Pool street. Griffith Roberts, 29, Bridge street. n^Viort-.Q nhAmi.t. Baiuzor street. The Star Supply Stores, 33, High street. R. H. Thomas, Castle House, High street. Williams & Owen, 21, Pool street and Castle square. CEFN: W. R. Jones, The Old Stores, High street. E. Griffiths, High street and Crane street. COLWYN BAY. Comet Stores. Lidbetter & Longinald. E. H. Davies, Uxbridge House. T. Jones, Chester House, Abergele road. Massey & Co., Mona Stores, Abergele road. W. Williams & Co., Station road. J. D, Cartmst, Abergele road. Evazb? The Stores. Henry Lewis. W.,7 Roberts, Chemist. G. Williams & Sons, Church walks. CORRIS, MERIONETH: D. J. Jones, Post Office, R.S.O. CRICCIETH: J. W. Bowen, A.P.S., Chemist, Medical Hall. DEGANWY: J. E. Jones, Post Office Stores. DENBIGH: W. Price Jones, Piazza. Star Tea Company, Crown square. W. Williams & Co., and at Rhuddlan. DOLGELLEY. R. G. Williams, The New Shop. W. Allen, Star Stores. DOLWYDDELAN. Evan Thomas, The Post Office. FESTINIOG: Star Tea Company, 39, Church street. HARLECH, N. WALES. G. Griffiths, Post Office. HOLYHEAD: Thomas Lewis & Co. Star Supply Stores, Ltd., 25, Market street. John Thomas. Utica House, Market street. John Griffith, Tuam Stores, Church R. Hughes, Stanley street. W. J. Bradshaw, 19, Market street. Davies Bros., Stanley street. John P. Jones, Tudno Stores. John Williams, Gwalia House. LLANBERIS, CARNARVON: M. Ingham. Mrs Roberts, Newton street. LLANERCHYMEDD: Thomas Lewis & Co. LLANGEFNI: Thomas Lewis & Co. Thomas Edwards, Shop Penylon, Church street. J. Edwards, Church street. J. W. Jones, Church street. LLANUWCHLLYN Lewis Jones Davies, Post Office. LLANRWST: F. A. Charlton. Williams & Co., Watling street and Denbigh street. F. A. Charlton, Denbigh street. Henry Lewis, The Comet Stores. LLANFAIR: Charles Humphreys, druggist. LLANFYLLIN: Phillips & Co. LLANDUDNO, NORTH WALES: .J. Burton & Son, chemists. Thomas Davies & Son, 149, Mostyn street. Dean & Sons, 1, Mostyn street. Ben Edwards, 85, Mostyn street. T. E. Hooson. J. W. Griffiths, Milton House, Gloddaeth street. T. Lewis & Co. T. Roberts. J. Winter, 3, Mostyn street, and Mostyn avenue, Craigvdon. H. Brown, Madoc street. E. P. Jones, Son, & Co., Gloddaeth street. Pierce Bros., The Old Stores. M. E. Pearson, Craigydon. LLANGOLLEN: Ellis Evans, Regent street. Griffiths '& Jones. J. Rowlands, Central Supply Stores. Charles Humphreys, Market Stores. C. J. an d C. Hughes, Penybont. E. H. Matthews, Bridge street stores. Frank Little. MACHYNLLETH: Thomas Breese, Eagle Tea Warehouse. Edward Breese, Pen'rallt street. Hugh Davies, chemist. ug MENAI BRIDGE: Sophia Jones, Bridge street. Evan Williams, Beach House. MOLD: Davies and Son, Victoria House. J. and E. Edwards, 30, High street. Daniel Powell & Co., 36 and 38, High street. Ed. Roberts, 13 and 81, Wrexham street. J. D. Rowlands, 12, New street, and 4, High street. Co-operative Society, Mynydd Isa. W. L. Hughes, Penyffridd Stores, Hope Sta. Lewis Humphrey & jn, wholesale grocers. H. Roberts & Son, County Supply Stores. S. G. Wynne. OVERTON: Edward Trim, grocer. PENMAENMAWR: Thomas Lewis and Co. PENTRAETH: Thomas Lewis and Co. PORTMADOC: J. Bryant, Tea Exchange. J. and W. Jones. W. Morris and Co. W. Pritchard, Snowdon street. PORT DINORWIC. R. C. Griffith, chemist. PWLLHELI: Ellis Bros., Arvonic Stores. H. J. Hughes, 22, Penlan street. R. C. Morris. Stanlev House. W. Owen, 60, High street. Star Tea Company, Ltd., 70, High street. S.llliams, Central Stores. RHUDDLAN, FLINTSHIRE. John Roberts, High street. RHYL, FLINTSHIRE: Jones and Son, "Wholesale," Abbey street. E. P. Jones, Son, and Co., 7 and 8, Water street. The Star Supply Stores, High street. W. Williams and Co., Queen street, & Vale road. J. Hughes, 28, Vale road. R. Paul, 32, High street. Robert Price, 32, High street. Roose and Co., Queen street. S. T. Smalley, 12, Abbey street. E. H. Vaughan, High street. W. M. Williams, 34, High street. J. C. Wood, Abbey street.
.--I 1 GWEDI BRAT) A GOFIF)…
I 1 GWEDI BRAT) A GOFIF) ii I GAN T. GWYNN JONES, DINBY CH. PENNOD XIX. YMWELIAD A THAN Y BRYN. Y mae dyn mewn syndod yn dueddol i wneyd poppeth o flaen y peth neillduol a ddylai efe wneyd, megis y dyn hwnnw gynt a dreuliodd banner awr yn ei wely i synnu ei fod wedi cysgu mor hwyr. Felly, pan welodd Ifor nad oedd y dyn a darawsid i lawr yn neb amgen na Mr. Bowen, efe a dreuliodd banner gryn amser i synnn, a cheisio dyfalu beth a ddylasai'r boneddwr hwnnw o'r fath drybini yr amser hwnnw o'r nos. Yr oedd, yn ol pob rheswm, yn amser i bob dyn parchas fod yn ei wely, ac eithro bob amser, wrth gwis, ddyn a fyddai'n methu cysgu, ac a flinid gan wybed, &c. Yr eedd Mr. Bowen yn un o'r dynion parchusaf yn y wlad, a metbai Ivor a dirnad beth a'i dygodd i'r fan honno, yn enwedig i S'aeo a dyn dyeithr a chael ei daro i lawr mor ddiseremoni. Wedi dychmygu a dyfeisio, a methu cael iddo 'i hun yr un rheswm wrth ei fodd, meddyliodd Ivor mai gwell a fuasai iddo geisio codi Mr. Bowen, a'i arwain adref. Gorweddai Mr. Bowen lawr yn hollollonydd a dietaw, a theimlai Ivor yn ofidus ei weled yn y fath gyflwr, er y teimlai ar yr un pryd yn falchogaelcyflei wneyd cymmwJD88 i dad Miss Bowen. Yr oedd yn amlwg fod Mr. Bowen wedi ei ddyiysu gan y dyrnod a'r codwm, oblegid cafodd Ivor waith dZd ye7i'w godi ar ei draed, a daeth arno syndod mwy fyth pan deallodd efe fod Mr. Bowen yn lied feddw. Ymrongciai 'r! boneddwr hwnnw ar ei draed, a llefarai ymadroddion hynod aflednaia ao anweddna i ddya o'i øaJlo ef, heb iOU am aelod I (Pglwytig bkenllaw, Mymuu jmladd ag Ivor, fel pe bu-sat Yn meddwl mai efe a'i tarawsai, a bloeddiai yn llawer uwch ý nag oedd ddymunol o dan yr amgylc-hiadau. I Bu agos i Ivor golli ei dymmer a'i daro i lawr eilwaith. Ni theimlai fymryn o'r tosturi a deimlasai efe ychydig oriau cynt wrth weled yr hen Ruffydd Parri yn feddw; yn wir, teimlai fath o ddygasedd anesponiadwy at Mr. Bowen, a bu fwy nag unwaith ar fedr ei adael i ymdaro oreu gallai. Ond deuai Miss Bowen i'w feddwl yn sydyn; gwelai hi megys nas gwelodd hi erioed o'r blaen, a phrudd-der ar ei gwedd a dagrau yn ei llygaid, ac er ei mwyn hi, penderfynodd ddioddef bryntni ei thad a cheisio ei ddwyn gartref. Gydag iddo wneyd y penderfyniad hwn, dechreuodd Ivor deimlo'n anesmwyth, rhag ofn fod Huws y plismon wedi dal y dyn arall, ac yr elai yr helynt gerbron yr ustusiaid, ae felly ar g'oedd gwlad. Y fath ergyd a fuasai hyny i Miss Bowen! Ond hwyrach na ddaliai Huws mo'r dyn arall, ac hwyrach nad adnabu efe yr un o honynt. Os felly, byddai pob peth yndda, a dechreuodd Ivor obeithio mai felly y byddai. Ond beth pe buasai Huws, wedi methu dal y dyn a redodd, yn dod yn ei ol i chwilio am y dyn a darawyd ? Gydag iddo feddwl hyny, ymaflodd Ivor yn mraieh Mr. Bowen yn dynn, a dechreuodd ei haner lusgo ar draws y cae tua Than y Bryn, gan ofni bob cam a roddai glywed y plismon yn galw ar ei 01. Daliai Mr. Bowen i dyngu a rhegu a b!gwth ym- ladd, a llawer gwaith y bu Ivor 0 fewn dim i ro?di iddo ddyrnod, eithr con?i 0 hyd am wyneb prudd a dagrau Miss Bowen, ac ymatatliai drwy ymdrech fawr. Wedi tua banner awr o waith caled, cyrhaeddwyd at Dan y Bryn, a gwelai Ivor fod yno oleuni yn un o barlyrau'r frynt. Tybiodd ar unwaith y gallai fod Mrs. Bowen yn disgwyl, a chan feddwl nad dymunol a fyddai i'r gwas na'r forwyn weled eu meistr yn y fath gyflwr, efe a lusgodd Mr. Bowen tua drws y ffrynt, a chan ei gynnal ag un llaw, enrodd yn ysgafn ar y drws a'r Ilaw ai-all. Clywai yn ddioed swn symmud oddi fewn, ac yn y man ugorodd Mrs. Bowen y drws. Yr oedd yn awJwg fod Mrs. Powen mewn penbleth, oblegyd cyn gynted ag y gwelodd hi Ivor, hi a roddodd ddolef fechan frawychus, ac edrychai '11 syn, heb ddweyd gair. Gwelodd Ivor yr anhawsder yr oedd llrs. Bowen ynddo, ac er mwyn tori 'r garw, dyw dodd:— "Maddeuwch i mi. Mr-. Bowen, uni "fio! yddn 'r amser yma o'r nos, ond yr ooddwn i yn digwvdd croesi 'r llwybr, ac mi welwn Mr. Bowen- Petrusodd Ivor, oblegyd nid oedd efe wedi meddwl pa beth a ddywedai. Ni phctrusodd yn hir, fodd bynnag, ac aeth rhagddo- 11 Mi welwn Mr. Bowen ar lawr. Mae gen i ofn fod o'n sal." Sal ? ebai tMr. Bowen, yr hwn a fuasailn Ued ddistaw hyd yn hyn, "Pal?" meddai gyda Uw ffyrnig, "pwy sy'n deyd 'mod i 'n sal, tybed?" deyd 11 0 byddwch yn ddistaw, Herbert bach ebai Mrs. Bowen yn ofnus, a'i llygaid yn llenwi. "Ie," chwanegai Ivor, heb wrando ar Mr. Bowen, "mi fu 'n ffodus 'mod i wedi weld o, achos 'dwy i ddim yn meddwl y medre-fo ddod adre heb help." Llefarodd Ivor y geiriau yn hollol ddifeddwl, ond fe glywodd Mr. Bcwen hwynt, a chyda rbeg arall, ebai- "Be! y fi ddim dod adre heb help, ai e ?" a chyda 'r gair, ceisiodd Mr. Bowen roddi dyrnod i Ivor, on d methodd ei amcan, rhoddodd Mrs. Bowen waedd arall o ddychryn, a'r foment nesaf yr oedd Ivor yn cario Mr. Bowen yn ei grynswth i fewn i'r parlwr, lle'r oedd y goleu. Dododd Ivor ef i eistedd ar gadair esmwyth, ae un ai o ddychryn neu rywbeth, tawelodd Mr. Bowen yn sydyn. Safai Mrs. Bowen gerllaw yn ofnus, a wylai 'n ddistaw. Gwelai Ivor y dagrau gloywon yn t eiglo hyd ei gruddiau, a deallodd eu stori ar unwaitb,- gwybu yn y fan nad bywyd dedwydd oedd bywyd aelwyd Tan y Bryn, ac aeth drwy ei galon ias o gydymdeimlad a Mrs. Bowen a Myfanwy, ac ias arall lymach fyth o ddygasedd tuag at Mr. Bowen. Teimlai braidd yn ofidus ddarfod iddo golli ei dymmer pan geisiodd Mr. Bowen ei daro, ac ddarfod gario'r gwr hwnnw i fewn i'r Jty mor ddiseremoni. Ond yr oedd y weithred wedi ei gwneyd, a chan droi i ymadael, dywedodd Ivor:— Maddeuwch i mi, Mrs. Bowen; mae'n wir ddrwg gen i fod dim fel hyn wedi digwydd, ac onibai i mi feddwl y baswn i'n gneyd cymwynas & Mr. Bowen o dan yr amgylchiade, faswu i ddim wedi ymyryd o gwbl. 'Rydw i'n gobeithio na feddyliweh chi ddim 'mod i 'n fusneslyd, achos fedrwn i ddim gadel neb i orfedd ar lawr allan yr ameer 3 ma o'r nos." Syrthiasai Mr. Bowen i gYfgu, ac felly ni chI) wodd mo eiriau Ivor; deallodd Mrs. Bowen hyny ar iilwaith, Ie atteb- odd yn ddiolchgar:— I "Maddeuwch chi i mi, Mr. Lloyd bach. Mae'n ddrwg ddrwg sell i'oh bod ohi wedi cael oymmaint o draffertb, ond yn wir, credwch 'mod i'n ddiolchgar o weolod '1 nghtlou i chi am y'ch caredigrw ydd. Wn i ddim be sydd wedi 'mweld a Mr. Bowen—" Daeth cryndod i lais Mrs. Bowen, methodd ddweyd rhagor, a chan estyn ei llaw i Ivor, sibrydodd yn doredig, "O! diolch i chi, Mr. Lloyd anwyl 1" a wylodd yn chwerw. Ychydig o ferched a fedr edrych ar ddyn yn wylo heb wylo gydag ef, ac nid oes i ddyn ddim poenusach na gweled merch yn wylo o ddifrif. Teimlai Ivor fod ei sefyllfa yn mynd yn un anghyssurus, a buaaai'n dda ganddo lithro allan, ond daliai Mrs. Bowen ei gafael tynn yn ei law, ac ymdrechai Ivor gadw'r dagrau rhag llifo o'i lygad yntau. Tawelodd Mrs. Bowen yn y man, a chan ddal ei gafael ar law Ivor, edrychodd yn graff ar Mr. Bowen, yr hwn erbyn hy] ajchwyTnai yn nhrymgwsg meddwdod. ,,ow.hy?ffordd yma, Mr Lloyd," ebai Mrs Bowen, ac arweiniodd Ivor gerfydd ei law i'r parlwr arall, a goleuodd y I nwy. I Eisteddwch i lawr, Mr I lovd. rvdech ebi wedi blino ch hun," meddai, "gymmérwch chi låsied 0 win P" "Dim, diolch yn fawr i ehi," ebai Ivor, "chyffyrddais i rioed ddyferyn o ddiod feddwol, Mrs Bowen. Mi gymmera i lymed o ddwr glan, os gwelwch chi 'n dda." Aeth Mrs Bowen ymaith, a dychwelodd yn y man gyda glasiad o ddwfr a dysglaid o gacenau. "Treiwch dipyn o'r rhei'n, Mr Lloyd," ebai, "ac mi esgusodweh fi am fyned i edrych yn 'i gylch o, 'newch chi? "Diolch yn fawr i chwi, Mrs. Bowen," attebai Ivor, "peidiweh gofalu am dana i, rhaid i mi fynd, mi ddaw'n fore toe." Aeth Mrs. Bowen ymaith, he yfodd Ivor y glasied dwfr yn awchus. Yr oedd distawrwydd y nos yn drwm, a deehreuodd Ivor feddwl am Fyfanwy. Lle'r oedd hi ? Er cased amgylch-1 iad a'i dygasai ef i Dan y Bryn, bron 118 theimlai yn siomedig orfod mynd ymaith heb weled gwrthrych ei ddirgel serch angerddol. Tybiai y gallasai ymddiddan A hi yn nhymmer alarus y noson hono mor rwydd ag yr ymddiddanai efe a'i mam; ond cyfrifodd iddo'i hun ormod o allu, oblegyd y foment honno, agorodd drws pellaf y parlwr, a daeth Myfanwy i fewn, heb feddwl fod yno neb. Teimlai Ivor ei allu yn cilio, a'i swildod yn dyfod, a chododd gwrid poeth i'w wyneb pan gyfarfu trem Miss Bowen ao yntau. I (I HrÑMI.) 1
jEISTEDDFOD GENEDLAETHOL I…
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL FFESTINIOG. Nos Lun, cyfarfu pwyllgor gweithiol yr Eisteddfod, dan lywyddiaeth Mr O. Jones (cadeirydd). Daeth nifer fawr yn nghyd, ac yr oedd yn amlwg fod y llanw Eisteddfodol yn parhau i godi o ddydd i ddydd.-Dar- Ilenodd Mr H. Ariauder Hughes, yr ysgrif- enydd cyffredinol, gofnodion y cyfarfod blaenorol, a chadarnhawyd hwynt—Mr J. Jones Morris a ddarllenodd gofnodion y gwahanol bwyllgorau cerddorol yn cynwys trefniadau gyda'r beirniaid ar y gwahanol destynau, a'r datganwyr yn y cyngherddu. Yn gysylltiedig a'r adroddiad uchod, caf- wyd adroddiad y Pwyllgor Arianol, yn cyn- wys y trefniad arbenig wnaed gyda'r pwyll- gor cerddorol yn ngwyneb y ffaith fod y pwyllgor hwnw yn gofyn am 60p jchwanegol at y swm roddwyd i drefnu y cyngherddau, &c., a bod Mr Ben Davies wedi ei adael allan o restr y datganwyr. Mr R. O. Davies (yr ysgrifenydd arianol) a hysbys- odd fod holl draul y pwyllgor cerddorol yn cyrhaedd y swm o 1089p 6s. Y datganwyr deWisedig ydyrit:—Sopranos, Misses M. Davies, May John, a Marian Evans.—Con- traltos, Miss Hannah Jones a Lizzie Teifi Da vies.-Tenors, Mri H. Evan WiXiam? (o'r America), a Tom Thomas.—Basses, Mri Ffrancon D?vie?, Dav?d Hughes, Emlyn Davies, a Evan Jones.—Chwareu- 1 wyr, Syr Herbert Oakeley (y chwareuwr i enwog ar yr organ), Johnny Williams, B. j l Trehame, D. Parry, E. D. Lloyd, a Mddle ) Clara Novello Davies.—Ar y piano, Miss Llewela Davies.—Ar y delyn, Telynores Lleifiad.—Canwr penillion, Eos Dar a W. O. Jones.—Pasiwyd cofnodion y ddau bwyllgor uchod. Darllenodd Mr E. M. Davies (ysgrifenydd) y trefniadau wnaed gan bwyllgor y trefn- iadau gyda golwg ar gofrestru y tai at dder- byn ymwelwyr; a chadarnhawyd penodi Mr J. T. Williams i ofalu am y cofrestriad. Mr H. Ariander Hughes a hysbysodd fod y trefniaduu gyda'r cyfarfodydd adranol bron wedi eu cwblhau, a phenodwyd Mr J. Cadwaladr yn ysgrifenydd y cyfryw. I Rhoddodd Mr E. H. Jonathan rybudd y gofynai am gyfrif manwl o'r sane arianol at y cyfarfod nesaf. Cafwyd adroddiad o wahanol bwyllgorau y babell gan Mr Wm. Jones (ysgrifenydd). Gwnaeth y pwyllgor hwn waith mawr yn ystod yr wythnosau diweddaf. Daethpwyd i gytundeb neillduol gyda Mr David Gordon Macintosh, Llandudno, gyda golwg ar gyn- llun y babell. Pasiwyd i gael gwasanaeth Mr Ben Davies yn nghyngherddau y cldwy noson gyntaf, ac fod "Ystorm Tiberias" i fod yr ail noson, ac nid y drydedd. Hysbysodd Mr Jones Morris y trefniadau gyda golwg ar y cyngerdd agoshaol gyda datgan yr "Elijah." Mr H. Ariander Hughes a hysbysodd ei fod wedi derbyn can' gini oddiwrth Ar- glwydd Newborough, trwy law Mr Price, ei gyfreithiwr.—Pasiwyd pleidlais o ddiolch gwresog i'w arglwyddiaeth am ei rodd an- rhydeddus ac i Mri Price a T. Jones am osod v mater mor ddeheuig o'i flaen. Mr R. O. Davies a hysbysodd fod cyfan- sA-m y tanysgrifiadau wedi cyraedd y swm anrhydeddus o 960p 4s (cymeradwyaeth mawr). Y Cadeirydd a ddymunai longyfllrch y pwyllgor oil ar y safle ddymunol yr oeddynt ynddi. Aeth yr anhawsder mawr drosodd gyda'r pwyllgor cerddorol ac arianol, a hyny mewn modd boddhaol iawn. Gwelid oddiwrth v tanysgrifiadau mai nid Eistedd- fod ailraddol a "thawel" oeddynt i'w chael, fel y mynai rhai; ond gwyl deilwng o'r genedl. Da oedd ganddo hysbysu fod y chwarelwyr am ddod allan yn deilwng gyda'u tanysgrifiadau, a bod y set eisteddfod- ol yn enyn yn eu plith. Eu pryder yn awr oed gyda'r babell, ac )T oedd y pwyllgor hwnw yn symud yn mlaen gyda'r brys mwyaf. Gallent hyfforddio llongyfarch eu gilydd ar eu safle.
Advertising
11 LOVE'S OFFERING" is the title of an Aln,anaek by Horniirftn & Co. Knowing "GIVEN AWAY" by over 8.000 retailers of Horniman's Tex. Sold by Grocers &e. Carna rv n, Owen, High street.-Bargor, Lewis' Grocer, and at Comet Stores; Colwvn Bay.—Hoiiw> y, Williums, Chem- ist.-N-vin: Griffiths, ajrncer, &c. Pwllheli Owen, High street.—Blaenau Ffestiniog: Brymer Junes, Grocer, &c. T,;ani?udoo: Hooson, Roberta. Chem: st. -Portdinorwic: Owen.- Criccieth, Bowen, Orooer, &c. — Ll»nrn<r :Hnehes, emcer.— Penmaenmawr New York Cn-op. Society. Ebenezer: I Pritcpsrd, chemist, &o. Portmad oc:, Newell. Llan Ffestiniog: Co-operative I Society. Penygroes: Prit(hFLtd, grecer,&e I Garn Dolbent, son: R. O. Williams.-Aber- soch;Willi: DIP, jfiocer. EIDION GWERTHFAWR.—Yn yr ar- I ddangosfa Frenhinol ddiweddaf, cafodd eid- ion a fagwyd gan Mr O. W. Llovd, Rhosgoch, y brif wobr. Prynwyd ef wedi hyny ?an Mr R. M. Greaves, Wern, Porthmado, yr hwn j a'i gwerthodd am 51p. Pwygai yr eidion I dunell. j Y DYNION SY'N MEDOWL AGO EDRYCH YN MT-A N WNA" Y OWYB GOTIEU, Y rhai a ofalant am eu Gwragedd, a o,alant am eu Plant, ac am danynt eu hunain, ao & AMDDJFFYNANT YWYDAU PAWB! Vyma y dynioa n wyidant WERTH HUGHES'S A"S%O BLOOD J r PILLS. Gofaler fod lion y Galon ar bob blwoh, heb hyn twyll n. PEL MEDDYGINIAETH deuluaidd IT Y GWYNEGON, LUMBAGO, Y BLAST, A THORIADAU AR Y CROEN, POENAU YN YR OCHRAU, Y CEFN A'R ABK.VAtT, ANHWYLDERAU YR AFU, DIFFYG SSAUL, NEBVES GWAN, AC ISELDER YSBHYD, PEN TOST, DIFFYG BLA3 AT FWYD, iDUob 'CLEFYD Y DRENIN (M- im), PILES, Y SCURY, A HEN ULWYFAO. Y Fwyaf Effeithiol o bob Meddyginiaeth i Fenywod. t Y MAE Y PILLS KHYFEDDOL HYN YN GWNUYD. Gwaed Newydd Y RIIU A Gwaed Pur FEISSir" Gwaed Da AFI Gwaed Bras C"AMODDILR PRIDIWCH A CHYMERYD EICH CAM ARWAIN I GYMESYD UN RHYW FEDDYGINIAETH ARALL A GYMYGIB, I CHWI. PABATOIB GAN JACOB HUGHES, Manufacturing Chemist, CARDIFF, A gwerthir gan bob Chemist a Gwerthwp P<Sent MedidnM am la l?c. Za. ac. ?. neu danfoner eu gwerth mewn Stamp* MS P.O. at y Goruchwylwyr Neiilduol, *i BUT ? Box#, 1.73. Logo&, "Co "ELI AT Ii( B CLWYF Y mae Go'nsr's Balm yu gli ag sydd vn iachau Olwyf iU ar y rraod, CUaiiu, Pau, G dd 0 M E Ery sipel s, iIaeaaa Llidiog It Digroeuei'KOornwydon.Bron    »r au ? Pheu Broa-m DolnrM, H A m p Hes, Traed Chwysedig, Tor' Tciiadau allan, a Crach yn I ilhenau Plant, Llwgriadau, dwylaw, 'Toriadol, Llygaid ac Amrantau ilolurus, Crafu, Scurvy, (iwynegon, Cymal- au .oenus, Chwyddiadau, TarwdeB, Mal- aethan, &c. Y mae yn bynod yn ei etfaith. Rhodder prawfaruo. Gofyneram Gomer's Balm," ar werth gan bob Chemist a Uwerth- wr Patent Medicine am Is lie, ueu daufoner Is 3e mewn stamps at y dargaufyddwr. Jacob Hughes, M8n<lf.twing Chemist, Cardiff.
CYFARFOD RHYDDFRYDOL YN Y…
CYFARFOD RHYDDFRYDOL YN Y CEFN. I ARAETH GAN MR HERBERT ROBERTS, A.S. Nos Fawrth diweddaf, bu Mr Herbert Ro- berts, A.S., yn anerch cyfarfod o'i etholwyr yn Nghefn Meiriadog. Yn ystod ei anerch- iad, cyfeiriodd Mr Roberts at bwysigrwydd etholiadau agoshaol y Cynghor Sir i Ymneill- duwyr Cymru, a phwysodd ar ei gefnogwyr Rhyddfrydig i fod yn ffyddlawn i'w hargy- hoeddiadau gwleidyddol yn yr ymdrechfa. Wrth gyfeirio at faterion cyffredinol, dywed- odd fod y gwrthweithiad Toriaidd yn 1895 wedi ysgubo dros Loegr, ond ei fod heb gy- ffwrdd a Gogledd Cymru; ond er gwaethaf hyn, a'r Saith fod Cymru wedi gyru mwyaf- rif mawr o gynrychiolwyr Rhyddfrydig i'r Senedd, yr y Llywodraeth yn gwthio dogn gref iawn o fesurau Toriaidd i lawr eu gyddfau. Yr oedd Llywodriieth Ryddfrydig 1892 wedi rhoddi iddynt gynghor cyhoeddus yn mhob plwyf drwy y wlad; vr oedd hefyd wedi cyflwyno a chario agos drwy Dy'r Cy- ffredin fesur i foddloni dymuniad Ymneill- duwjT Cymru am Ddadsefydliad yr Eglwys Wladol. Yr oeddynt hefyd wedi dangos eu cydymdeimlad ag amaeth- wyr Cymru drwy benodi Dirprwyaetb Frenhinol i chwilio pwnc y tir yn Nghvmru. Beth oedd hanes y ddwy flvnedd ddiweddaf o lywodraeth Doriitidd.- Rhoddwyd cardod I 0 5s am bob plentyn 1 r ysgolion enwadol- mesur a basiwyd dan amgylohiadau oedd yn rhy hysbys iddynt, a mesur oedd yn anghyf- iawnder creulawn tuagat Ymneillduwyr Cymru. Yr oedd y Llywodraeth, gyda, mwy- afrif mawr, wedi tallu allan Fesur Tir i Gym- ru, a luniwyd i gario allan annogaethau y mwyafrif o'r ddirprwyaeth y cyfeiriwyd ati, ac yr oeddynt mewn duiliau ereill wedi rhwystro a sarhau dyheadau Cymreig. Beth oedd gwers Rmlwg hyn oil ? Yn mlaenaf dim, yr oedd yn rhaid gwneyd ewyllys Ty'r Cyffredin bob aniser yn uwchraddol i ewyllvs y ty axighyfrifol arall, Ty'r .irglwyddi; ac yn ail, yr oedd yn rhaid iddynt ymdrechu, o ddifrif, ac yn barhaus, i ddwyn oddi amgylch y fath gyfnewidiad yn nlielerau deddfwrol y Senedd fel ag i sicrhau y byddai mesurau yn effeithio ar Gymru ei hun yn unol a barn y Ileiafrif o'r bobl y byddai a wnelai v cyfryw fesurau a hwy. Ni fu erioed adeg pryd yr oedd yn fwy 0 ddyledswydd arnynt ymdrechu yn aiudgar am eu hiawnderau politicaidd; ac apeliai efe at ei gyfeillion yn y Cefn i foci yn ffyddlawn i'w hargyhoeddiadau, pa bryd bynag y caffent gyfle i ddangoa eu barn drwy y pol (oymeradwy<?i.
MYFYRDOD AR BEN FY MLWYDD.…
MYFYRDOD AR BEN FY MLWYDD. I Achlysurwyd y llinellau canlynol pan ddy- wedwyd wrthyf,—" 'Rwyt tithau'n myn'd yn hen." Mi wn,-yn hen 'rwy'n myned,—llesgau wnaf, Llusgo 'n hir gan ludded 'R ol wj-th seithmlwydd rhwydd y rhed Yr oriau ar i waered. Ar i waered a 'r oriau-yn chwimach Ymaith fel mynydau; Ber yw 'mlwyddyn, briddyn brau, Ail barug a niwl borau. Borau einioes, bur wenau-ddiflanodd, Ow! flined yw 'nyddiau Mae erwin erch dymhorau, A rhyw nos hir, yn neshau. Neshau mae seiliau fy sylwedd-bob awr Y bwy' byw-i'w diwedd; Ni chawn, mewn hoeniach anedd, Fyw yn hir i fwynhau hedd. Mwynhau hedd—ryfedd rad ras-Ior beun- ydd Dderbyniai i'w deyrnas Un eiddil a llwm, anaddas, Cyn 'r elo dan glo 'r angeu glas. Angeu glas, drwy ing y glyn,-finiog gledd, I Fyn gladdu ei golyn Yn fy nheimlad mad, am hyn Arswydaf y cwrs wed'yn. Ys! wed'yn diau arswydir:—dorau Byd arall agorir; Yn I l aw, Yn llaw angau'm gollyngir I wydd Duw ar newydd dir. Newydd dir dan nodded Ion,—i wenawl Weini rhag trallodion, A geir y' mhlith rhagorion-y nefoedd, Cwch y drycinoedd ac och drwg-gwynion. Uwch y drycinoedd ac och drwg-gwynion,- Poenau nychlyd anhyfryd i 'nwyfron,— Daear alaeth a du-oer awelon; Er brwd gelanedd,—er brad gelynion,— Er ingoedd olaf dyfroedd yr afon, A gwynebu holl allu ellyllon, Af eto i fyw at fy Ion,-drwy ras, Fry 'ngwawl urddas efo'r engyl heirddion. Heirddion fodau, nefol seintiau, A'u heuvynau cydymunir r-»———— I folianu enw'r Iesu,- Am ein cannu mwyn acenir. I Acenir odlau ceinion, I Bur rwydd dant ar beraidd don; Mud i'r Oen fydd mel yr wyl, A'i bur ras lsinw'r breswyl. I'r breswyl yn awr brysiaf, Heb fraw. m nwvlaw fv Naf. Blaenau Ffestiniog. ELIHU.
I ANERCHIADAU BARDDONOL YN…
ANERCHIADAU BARDDONOL YN NGHYLCHWYL BRYN'RODYN, NA- I DOiIG, 1897. I HYWEL TUDUR. Wel, tad,-dyma Hywel Tudur,-sylwch, I Mae'n selog i'n mesur; Bydd ei farn fel y darn dur,— | Pwy a heibio'r gwr pybur?
I Y BARDD TREBOR ETO YN Y…
I Y BARDD TREBOR ETO YN Y "RHWYD." Gar anwyl, mewn gwirionedd,—eiddunaf Ddaioni a mawredd I ti'n rhan, tan wawr o hedd,— Duw weno ar dv anedd. I ARTRO.
Advertising
EXTRACT FROM A LECTURE ON "FOODS AND THEIR VALUES," BY DR ANDREW WILSON, F.R.S.E., etc. If any motives-first, of due regard for health, and second, of getting full food-value for money expended-ean be said to weigh with us in choosing our foods, then I say that ¡ Cocoa (Epps's being the most nutritious) should be made to replace tea and coffee without hesitataion. Cocoa is a food; tea and coffee are not foods. This is the whole science of the matter in a nutshell, and he who runs may read the obvious moral of the story." Nos Fawrth, daethpwyd o hyd i gorph » Parch J. A. Johnson, rheithor Beddeston a Slaughterford, mewn llyn pysgota oddeutu milldir oddiwrth y rheithordy. Hen lane Cq mlwydd oed oedd y trancedig.
IRHYBUDD CYHOEDDUS.I
RUABON, DEiNKiGHSHIRE: W. Davies, Beehive, Rhosymedre. W. Davies, jun., Waterloo House, New- bridge. B. Davies, Rhosllanerchrugog. David Davies, Cefn ..awr. Edwards and Co. J. Austin Edwards, Eagle Stores, Acrefair. J. Farmer, Newbridge. W. Griffiths, Tiger Stores. Ed. Griffiths The Stores, High street, Cefn. J. 0. Jones, Liverpool House, Penycae. J. T. Jones, Cefn. R. A. Jones, New Shop and Stores. W. G. Leighton, The Bryn Shop. W. Morris, The Exchanges. J. Williams, Glasgow House, Cefn Mawr. Ktj'iHIN O. R. Owen. W. Jones, Ship House. J. & P. Williams, Liverpool House, wen street. TREFRIW: Henry Lewis, The Comet Stores. WREXHAM, DENBIGHSHIRE: John Brunt, Bridge street. C. K. Benson, 14, High street. Meredith Davies, Rhosddu road. G. Dutton, High street. J. T. Dutton, Penybryn Supply Stores. Evan Edwards and Son, Southsea. Francis & Co., manufacturmg chemists. M. D. Jones and Co., Market Hall Shop. H. and T. Jones, Lion Stores. A. Price, Bersham House, Penybryn. L. Rowland and Co., chemist, High street, and at Ruabon and Whitchurch. Star Tea Company, Ltd., 41a, Hope street. Ernest Allmand, 9, Hope street. J. Bentley and Co. E. E. Dutton, Horsemarket. H. Edwards and Co., Southsea. H. Higginson, The Stores, Victoria road. G. Thomas, Mount street. Wrexham Co-operative Society. W. J. Williams, Central Stores, Brook street. R. M. Williams, Tea Mart. T. Gregory, Gresford, near Wrexham. Gwneir Dr Tibbies' Vi-Cocoa i fyny mewn pacedi Cc a 9c, a tiniau Is 6c. Gellir ei gael gan bob grocer, fferyllydd, &c., neu oddi- wrth Dr Tibbies' Vi-Cocoa, Limited, Suffolk House, Canon street, London, E.C. Teilyngdod, a theilyngdod yn unig, a hawl- ir ar ran Dr Tibbies' Vi-Cocoa, ac mae y per- chenogion yn barod i anfon i bob darllenjdd enwa'r "Genedl Gymreig" (gwnaiff cerdyn y tro) siainpl o'r cocoa mewn blwch hardd yn rhad gyda'r post.