Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

Ieuan ap lago a'i Gydoeswyr…

News
Cite
Share

Ieuan ap lago a'i Gydoeswyr I GAN BRYNFAB. Dro yn ol cefais nodyn oddiwrth eich gohebydd diddorol, Josiah Jen- kins, ynghyd a chrybwyllion am Shakespear Eglwysilan, Ieuan ap Iago a Thwm Gilfynydd. Crybwyllai am gan o eiddo Ieuan ap Iago, a fu yn fuddugol yn Gelligaer yn 1845. "Can Ddigrif," ar ddull ymddtddan rhwng gwragedd y cybydd a'r medd- wyn. Ymddengys fod y gan yn 18 pennill. Dyma ddau o honynt GWRAIG Y CYBYDD. Dydd da it wraig wyneblwyd, A welwyd gynt yn lan, Yn awr mae'th wedd mor welw Nes tynnu sylw Sian; Cest newydd trist er gofid, Ond odid ar dy daith, A ydyw'th wr, er gorthrwm, Tan godwm yn y gwaith? GWRAIG Y MEDDWYN. Dim, dim o'r fath ysywaith, Nis daeth i'm cydmar dig, 'Rwy'n credu hyn yn gadarn Mae yn y tafarn trig; O'i achos ef mae'n galed I'm gweled, wyf yn gul, Mae'n yfed er fy ngofid Yn solid ar y Sul. Mae y gan yn nodweddiadol iawn o ganeuon gwerinol y cyfnod hwnnw. Nid oes llawer o loewder ar gelfyddyd na iaith caneuon yr hen feirdd gwledig driugain a deg o flynyddoedd yn ol. Ond yr oeddynt yn ateb yr oes honno yn well na chaneuon y beirdd clasurol. Yn Eisteddfodau y cyfiod hwnnw, yr oedd y beirdd yn adrodd neu yn canu eu cynyrchion, a dyna oedd yn creu y fath ddiddordeb ynddynt. Yn ein dyddiau ni nid yw y gwyddfodolion yn cael clywed nemor o ddim o'r cynhyrchion sydd yn cael eu dyfarnu yn oreu, ac nid oes ond prin amser nac amynedd gan neb i wrando beth ddywed y beirniaid am danynt. Mae yn wir fod llawer o'r beirniadaethau yn cael eu cyhoeddi yn y gwahanol newyddiaduron, ond ychydig, y tuallan i'r ymgeiswýr, sydd yn cael addysg na mwynhad trwyddynt, am nad ydynt yn ddigon llengar i roi eu ceiniogau am y newyddiadur. Ond yn nyddiau yr hen feirdd yr wyf yn son am danynt, yr oedd yr Eisteddfodwyr yn cael y pleser o glywed yr oll-y rhai buddugol, a'r anfuddugol, a byddai llawer o darn yn aros ar gof am flyn- yddoedd. Tua phymtheg mlynedd ar hugain yn ol, cenid llawer o ganeuon yr hen Shakespear ym mhlwyf Eglwys- ilan, ond ni wn ond am un sydd yn fyw heddyw i roi ambell done arnynt. Mae Josiah Jenkins yn teimlo mwy o ddiddordeb na llawer yn yr hen gan- euon hyn, am ei fod yn briod a gor- wyres i'r hen fardd o'r Groeswen, merch i frawd y beirdd Gwilym Elian a Charnelian. Yr wyf wedi holi lawer gwaith am lyfr yr hen Walter Coslett Shakes- pear "Cell Llawenydd," ond hyd yn hyn yr wyf wedi methu taro fy llaw arno. Y mae yn Llyfrgell Caer- dydd, ond mae Ifano a'i grafangau arno y fan honno, fel nas gellir ei gael y tuallan i'r muriau. Ond yn ei nodyn dywed Josiah Jenkins ei fod wedi ei gael mewn ffermdy ar Fynydd Eppynt. Ni fyddai allan o le i'r cyfaill anfon ambell gan o'r llyfr i'r "Darian. Yr wyf yn sicr y byddent yn dderbyniol iawn gan liaws o'ch darllenwyr. Holai y cyfaill am fan genedigol Twm Gilfynydd. Bardd gwych oedd Twm, a medrai wneud englyn gwych yn ogystal a thriban a phennill. Efe bia y triban hwnnw:- "Tri pheth sy'n anawdd hynod, Byw'n sobr lie bo diod, Nabod merch wrth wel'd ei gwen, A thwyllo hen frithyllod." Dywed Josiah Jenkins ei fod wedi cael allan mai mewn ffermdy o'r enw Tycanol y ganwyd ef, ond nid yw yn sicr ai Tycanol gerllaw y Groeswen yw hwnnw, a dyna paham yr holai yn ei nodyn. Na, nid yno y ganwyd ef. Mae y Tycanol lie ganwyd y tribanwr ym mlaen Cwm yr Aber, uwchlaw Senghenydd. Mae y ty yn adfeilion, er cyn cof gennyf fi, ond mae yno feudy o hyd yn aros. Saif rhwng ffermdai Craig yr Hufen a'r Garn Foel. Nid wyf yn gwybod ymha le y bu Twm Gilfynydd farw, nac ymha le y claddwyd ef. Os enfyn Mr. Jenkins at Mr. D. Nicholas, Cofrestrydd, Llanfabon, ca wybod yr holl fanylion am dano, oherwydd mae ganddo ef bapyr wedi ei ysgrifennu ar yr hen brydydd, a chredaf ei fod wedi ei ddarllen o flaen rhai o gymdeithasau yr ardal. Yr oedd Twm yn gymeriad amryddawn iawn. Yr oedd yn ganwr gwych gyda'r tannau, ac yn ddawnsi- wr medrus—pan oedd dawnsio mewn bri yn yr ardaloedd cylchynol.

Advertising

Llith o Abertawe. )

Apel at Gymru Wen. I - I

Nodiadau ar Lyfrau. t

Nodion o Dreforis. I

ARGRAFFWAITH. I

Tipyn o Bopeth o Bontardawy.

Nodiadau ar Lyfrau.