Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

Colofn y Gohebiaethau. I

News
Cite
Share

Colofn y Gohebiaethau. I [Nid ydym yn dal ein hunain yn gyfrifol am syniadau ein gohebwyr. J NEUADDLWYD. I Mr Gol.,—Diolch yn fawr i'ch goheb- ydd galluog o Gellan am ei lythyrau mewn perthynas i'r lie uchod. Mae deffro hen adgofion yn dderbyniol gan frodorion oddi cartref, ac er fod Mr Jones yn hanesyddu dygwyddiadau pell y gorffennol mae ynddynt dawer o'r hyn sydd yn nodweddu tueddiadau dynion mwyaf meddylgar heddyw. I mi bydd- ai pennod o hanes eglwys euaddlwyd mewn cyfnod diweddarach yn ddiddorol iawn. Yr oedd seintiau duwiolfrydlg yn aelodau yn Neuaddlwyd hanner ca i' mlynedd yn ol, a charwn yn fawr wybod a ydyw enwau Shon y Cwm, John Pendryn, Evan Penybont, a Daf- ydd Penygribin ar y cofadail enwog y cyfeirir ato ? Yn sicr, dylent fod, herwydd dyma Gristnogion fu a llaw amlwg mewn gwneyd y fangre annwyl yn ysmotyn sanctaidd yn serchiadau fro, ac nid anghofir byth ddwyster t.j gweddiau, doethineb eu cynghorion, a glendid eu cymeriadau. Dylid dadlen- nu eu nodweddion gan law gelfydd.-Yr eiddoch, etc., J. JAMES (loan Gwyllt). Pontyclun. LLANSAMLET-Y MWG GWYN. I Mr. Gol.Yn awr, gan fy mod wedi cael taw ar Sion o'r Cwm, ac wedi ceis- io gwneud rhywfaint o gyfiawnder a Iago, mab y Daran, dichon y cania- tewch i mi alw sylw at y mwg gwyn- mwg ein poenedigaeth ni yn Llansam- let. "Wyddoch chi, Mr. Gol., nid wyf yn meddwl y bydd mynd i'r "lie arall" yn anffod mor dost ag y tybir o Lan- samlet. A chaniatau wrth gwrs nad yw'r lie arall yn waeth nag y dywed y Bardd Cwsg ei fod. Fy marn i yw fod y Bardd Cwsg wedi dweyd gormod. Beth bynnag am hynny, petai'r gwr hwnnw wedi digwydd cysgu a breudd- wydio a deffro a llond corn ei wddf o fwg gwyn Llansamlet, a mynd ati i ysgrifennu llyfr, y mae braidd yn sicr y byddai ei ddesgrifiadau o "fro yr erchylltod" sydd yma yn waeth na dim a geir yn ei "Weledigaethau" rhyfedd ef. Pa le mae'r Cyngor Plwy, y Cyngor Dosbarth, a'r Cyngor Sir 1 Ai nid oes arnynt gywilydd gadael dynion i fyw yn y fath fwg? Ni ddylesid ei oddef am ddiwrnod, nac am awr. Pa le y mae Crymlyn fawr ei ddawn? Pa le y mae'r Henadur Jordan? Y mae'n syn fod y ddau hyn o bawb yn ddifater pan y mae dynion yn eu hoff blwy yn teimlo na fyddai waeth iddynt fod yn uffern ddjm. Nid. yw'r mwg hwn ryw- But yn mynd i fyny i'r awyr, ond yn dis- gyn fel cap nos angeu ar yr ardal o gylch y gwaith. Mi wnaf fy llw, Mr. Gol., na fedrech gerdded trwyddo gan' Hath na theimlech eich hun yn tagu. A beth feddyliech am fyw mewn tai sydd o fewn cwmpas o filltir i'r gwaith? [Yr ydym wedi cerdded trwyddo, un- waith neu ddwy, a gallwn ategu yr hyn ddywedir am y mwg. Llosgai ein llyg- aid, a theimlem fel pe'n tynnu gwreich- ion o dan i fewn gyda'n hanadl.-Gol.] Bu yma gyfarfod cyhoeddus, ac apwyntiwyd dirprwyaeth at y Cyngor Dosbarth. Beth ddaeth o'r ddirprwy- aeth? Beth a wnawd? Dylai yr etholwyr newid pob copa walltog a di- wallt o honynt y cyfle cyntaf oni symud- ant cyn pen mis y sglyfaeth aflan o'r lie. Meddylier am ddynion yn byw mewn mwg sydd yn lladd ceffylau y naill ar ol y Hall! Duw yn unig a wyr pa nifer o ddynion leddir ganddo. A synnwn i ddim nad oes yma fwy o gyd- ymdeimlad a'r ceffylau nag sydd a'r dynion. Cofier hyn, fod rhai yn gorfod symud rhai sydd yn wael o'r lie l bell- deroedd fel y gallont anadlu. Pwy yw perchnogion y gwaith? Pwy yw'r cyfarwyddwyr 1 Bydd arnoch gyfrifol- deb nas carweh ei wynebu pan ddaw hi'n farn arnoch. Gellwch benderfynu fod tagfa ddychrynllyd yn eich aros, ac yr ydych yn ei haeddu.—Yr eiddoch, bron tagu, MWG DC. Y GYMRAEG. I Mr. Golygydd,—Gwneir ymdrechion canmoladwy gan y Cymdeithasau Cymraeg yn Y dyddiau diweddaf hyn i gadw yr hen iaith yn fyw, pan y mae cymaint o ddylanwadau cryfion yn ceisio ei henioes. Ond y mae un peth yn ddiffygiol yn yr oil o honynt. Nid ydynt yn deall ei tharddiad a'i chysegredigrwydd, ac felly nid ydynt ond y cfall yn tywys y dall. Credaf y byddai cyfrannu gwvbod- acth yn gyffredinol yn y cyfeiriad hwn y moddion effeithiolaf i roddi bywyd newydd i'r hen iaith annwyl, nes peri iddi adnewyddu ei nerth fel yr eryr. Pan y deallir nad ydyw'r Gymraeg ond tafodiaith o'r Hebraeg, gwelir ar unwaith ei hynafiaetfi a'i chysegredig- rwydd. Y mae y ffaith bwvsig hon yn un prawf, allan o lawer, o'n haniad Hebreaidd. Y mae yna sail dda dros gredu mai yr Hebraeg oedd iaith ein rhieni cyn- taf ym Mharadwys, ac mai hon oedd iaith y teulu dynol am 1,771 o flynydd- oedd, hyd adeg cymysgu yr ieithoedd vm Mabylon yn mhen 115 o flynvdd- oedd ar ol y diluw. Y Parch. Eliezar Williams a ddvw- ed nad ydyw yr hen Gymraeg ond yn unig yr Hebraeg, ac hefyd fod y ieithwedd (idiomic structures) yn holl- ol debyg, a phob peth a berthyn i'r ddwy iaith yn hollol yr un fath. Cyd- nabyddir tebygolrwydd y Gymraeg :7!1 1 a'r Hebraeg i'w gilydd gan yr holl ysgolheigion cymwys i farnu. Dywed- ir mai y Beibl Cymraeg ydyw y cyfieithiad goreu o'r Hebraeg yn y byd, o herwydd perthynas y ddwy iaith a'i gilydd. Yr oedd Taliesin, un o feirdd boreuol y Cymry, ar ddiwedd y chwechfed ganrif, yn rhoddi ei ganiadau i'r Cymry yn yr iaith Hebra- eg, yr hyn a ddengys fod gan y Cym- rv rhvw gymaint o wybodaeth flaen- orol o'r iaith honno. Gwelir oddi- wrth y ffeithiau a nodwyd (canys ffeithiau ydynt) fod yna berthynas agos iawn rhwng ein hen iaith annwyl ni, y Cymry, a iaith Eden-paradwys cyn ei cholli. Pwy a wyr nad yr Hebraeg, mam y Gymraeg, fydd iaith paradwys wedi ei hadennill, canys byddant yno nid yn unig o'r un galon, ond hefyd o'r un iaith. Aeth y Parchedig Ddoctor Margor- liouth i Gernyw (Cornwall) i'r dyben o gael allan darddiad gwreiddiol y Prydeinwyr hynafol hyn, a dywed wrthym yn ei lyfr, a gyhoeddwyd yn 1846, fod llen-gwerin y bobl hyn yn Hebraeg. Yr oedd brawddegau cyfain wedi eu trysori yn y cof vn cael eu hail-adrodd (heb eu deall) gan y Cernywiaid hyn, a phan wedi eu hysgrifennu i lawr a gaed eu bod yn Hebraeg, a'r brawddegau hyn wedi eu cvmeryd o'r Salmau a'r Diarhebion, neu ranau o'r Hen Destament. Rhydd i ni oddeutu ugain o'r rhai hyn, wedi eu cymeryd o "The Monthly Maga- zine," 1796. Sylwa'r ysgrifennydd "Byddai yn anawdd nodi unrhyw ffaith na ffurf mewn gramadeg Hebra- eg nas ceid yn y Gymraeg, a cheir llawer o frawddegau yn y ddwy iaith yn hollol yr un fath, ac yn hollol yn yr un geiriau. Un o'r rhai hyn ydyw, "0 byrth, dyrchefwch eich pennau, ac ymddyrchefwch ddrysau tragywyddol, a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. Pwy yw y Brenin go- goniant hwn? Yr Arglwydd Esu; efe yw Brenin gogoniant." Gallwn nodi fod yna drefedigaeth o Hebreaid o lwyth Dan, neu Gymry Samaria (nid Iuddewon) yng Nghern- yw er's saith canrif, a rhagor, cyn dechreu y cyfnod Cristionogol. Yr oedd yr oil o'r deg llwyth yn myned o dan yr enw "Cymri" gan yr Asyriaid, oddi wrth eu Brenin Omri, sylfaenydd Samaria. Y mae hon yn ffaith anwadadwy, a brofir gan yr adysgrifau ar y cofadeilau Asyriaidd sydd wedi eu darganfod yn ddiwedd ar. Am y cysylltiad rhwng y Gym! a'r Hebraeg, gellir gweled tystiolaeth werthfawr yn Da vies' "Celtic Re- searches. Gan fod y pethau hyn felly, pa fath ddvnion a ddylem ni fod mewn sel dros barhad yr hen iaith gyseg- redig. Dywedwn ag un 11ef- "0, bydded i'r hen iaith barhau." Y r eiddoch, yn wladgarol, D. E. EVANS. Gwernogle. GWALLGOFRWYDD BWYSTFIL- I EIDDIWCH. Mr. Gol. ,-Cymeraf eich pennawd chwi i'r sylwadau canlynol. Dymun- af eich llongvfarch ar eich ysgrif ar- weiniol benigamp ar y rhyfel. Dywed- wch galon y gwir mai difyrrwch lied fwystfilaidd v\v peth fel hyn, ac nid drwg sylwadau Carlyle am waith mil- wyr a ddarluniai yn lladd ei gilydd mewn rhyfel. Ebe ef- A oedd cweryl rhyngddynt? Prysured v diafol. Nac oedd. Yr oeddynt yn byw yn ddigon pell oddi- wrth ei gilydd, ac ni wyddent am ei gilydd cyn y frwvdr. Sut y bu ? Cwerylodd eu llywodraethwyr, a buont gyfrwvsed a danfon y ffyliaid hyn i saethu ei gilydd. Caniatewch i mi, er hynny, alw sylw at ddau beth a ystyriaf yn rhy gryf. Dywedasoch cyn y teimlech yn rhydd i ddweyd gair o gefnogaeth i "unrhyw fath ar ryfel nac i annog i'r wlad hon i ymyrryd "mewn unrhyw fodd," v mynnech eich diswyddo o'r weini- dogaeth a'ch diaelodi o'r eglwys. Mewn geiriau praill yn eich barn chwi nis gall neb gymeryd rhan mewn un- rhvw rhyfel a bod yn gyson yn cadw ei aelodaeth mewn eglwys Gristionogol. Parodd eich sylw imi gofio geiriau'r prifardd TennN-son "A peace that is full of wrongs, Horrible, hateful, monstrous, not to I be told." Yr heddwch y cyfeirir ato yw'r hedd- wch ar unrhyw delerau, sef yr hedd- wch v gorfodir ni ei dderbyn os dilynir eich cyfarw yddid chwi. Gwelwch fy 1 mod vn awgrvmu tra phery'r byd fel y j mae fod amgvlchiadau'n codi sydd yn gwneud rhvfc1, vn rhyfel yr Ar- glwydd. N?s gall 'dyn er iddo garu heddwch 0 waelod enaid, os yw'n deilwng o ddvn, edrych ar ddynion barbaraidd a gormesol yn sarnu ei gyd-ddynion a'i gwaedu i farwolaeth am beidio aberthu eu hawliau cvfreith- lon a chyscgrcdig. Gwna rhyfel anghyfreithlon hyd yn oed rhyfel yn gyfreithlon. Yr un ddeddf ddynol a eilw am gosbi un llofrudd sydd yn galw hefyd am gosbi miloedd o lof- ruddion vn rhith milwyr, a dyna yw rhyfel o'r safle y dadleuwn drosti. Os cosbir un lleidr, nis gellir gadael i filoedd o ladron fyned yn rhydd am yr unig reswm eu bod yng ngwisg- oedd milwyr, tra yn vspeilio cartrefi Hu o deuluoedd diniwed a droir allan i'r tywydd i newynu a marw. Nid yw'r ffaith mai gwasanaethu eu gwlad neu eu brenin y mae'r milwyr hynny yn newid ncmor ar bethau, obiegid nid oes rhaid i'r un dyn byw droi'n lleidr neu'n llofrudd er mwvn neb. 0 dan amgylchiadau o'r fath gwnaech chwi eich hunan, Mr. GoL, y cwbl yn eich gallu i rwystro lladron a llofruddion i gael eu ffordd eu hun- ain. Nid oes neb yn ergydio yn fwy diarbed na'ch hunan ar ddrygau, ac ni feliwch pwy a glwyfir pan fo egwyddorion da dan draed. Nid wyf yn gweled ffordd i gyfarfod a gelyn arfog sydd a'i fryd a'r vspeilio byw- yd, na'i wynebu'n arfog. Dylai wybod nad ydyw i wneud anfadwaith o'r fath ond ar berigl bywyd. Dywedasoch, ymhellach, na fuasai rhyfel heddyw onibai am ragrith can- lynwyr Iesu o Nazareth, a bod yr eglwys yn ddyfnach na neb yn y cam- wedd. Pair geiriau fel yr uchod inni dybicd i'r eglwys gymeradwyo'r rhyfel. Yng Nghymru gwn fod yr Eglwvsi rhydd yn erbyn y rhyfel; nis gwn nemor am yr Eglwys Sefydledig nac Eglwys Rhufain i lefaru drostynt. Gwn ddigon am yr Eglwysi Y mneilldu- ol i herio iddynt erioed bleidio rhyfel. Lied gilwgus yr edyrch yr Eglwysi Rhyddion, hyd yn oed, ar y symudiad hwnnw a elwir yn "Bov Scout Move- ment. Llwyddasant hyd yma i wneud bywyd milwr yn annheilwng, fel na welir ond bechgynnach sydd wedi aberthu eu hunanbarch vn chwennych y bywyd hwnnw ymvsg yr Ymneilldu- wyr. Os yw pethau yn newid nid i ddylanwad yr eglwysi v dylid priodoli hynny; eithr i ddylanwad y wasg Saesneg a'r ysgolion a sefydliadau ercill sydd wedi goresgyn y wlad y blynyddoedd hyn. Gwyddoch nad yn nwylo'r eglwysi y mae'r wasg Saes- neg cystal a minnau; na chwaith symudiadau diweddar a ddaeth i fewn i feithrin ffurfiau ereill ar fwvstfileidd- iwch. Ymosodir yn ddidrugaredd ar yr eglwys am ymosod arnynt, dan yr esgus fod tuedd crefydd i ladd pleser ac arferion diniwed. Oni chyhuddir yr eglwys o fod yn biwritanaidd ac y'i chamenwir yn "Killjoy"? Cynddrwg yw'r eglwys heddyw, gadewch inni ddelio'n deg a hi. Priodolir pob drwg dan haul iddi, a cheisir ei gwneud yn euog o bopeth bron, tra y dengys ffeithiau diamwys mai ar hyd ei llwybrau y mae gwar- eiddiad gore'r byd. TEGERIN. I

Ysgrapiau o'm Hysgrepan.

Advertising

I COLOFN Y DDRAMA.

IAberteifi a'r Cylch.

Advertising

Eisteddfod Tir Iarll, Maesteg.…

I I Nodion o Heolycyw.