Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

COLOFN Y PLANT. I

News
Cite
Share

COLOFN Y PLANT. DAN OLYGIAETH MOELONA. CODIAD YR EHEDYDD. Clyw! Clyw foreuol glod O! fwyned yw'r defnynnau'n dod 0 Wynfa Ian ei lawr. Ai man ddefnynnau can, Aneirif lu rhyw dyrfa lan Ddihangodd gyda'r wawr? Mud yw'r awel ar y waun, A brig y grug yn esmwyth gryn, Gwrando mae yr aber gain, Ac yn y brwyn ymguddia'i hun, Mor nefol serchol ydvw'r sain Sy'n dod i swyno dyn. Cwyd Cwyd ehedydd. cwyd 0 le 1 le ar aden Iwyd Yn uwch yn uwch o hyd. Can, can dy nodau cu, A dos yn nes at lawen lu Adawodd boen y byd. Canu mae, a'r byd a glyw Ei alaw Ion o uchel le. Cyfyd hiraeth dynol ryw Ar ol ei lais i froydd ne' Yn nes at Ddydd, yn nes at Dduw. I fyny fel efe! CEIRIOG. Y GARREG WEN. 'Roedd Dafydd yn marw pan safem yn fud I wylio datodiad rhwng bywyd a byd. Ffarwel i ti mhriod, fy Ngwen," ebai ef, Fe ddaeth y gwahanu, cawn gwrdd yn y nef." Fe gododd ei ddwylaw, ac anadl ddaeth I chwyddo'r tro olaf trwy i fynwes oer gaeth; Hyd yma'r adduned, anwylyd, ond moes Im' gyffwrdd fy nhelyn yn niwedd fy oes. Estynwyd y delyn, yr hon yn ddioed Ollyngodd alawon na chlywsid erioed; 'Roedd pob tant yn canu'i ffarweliad ei hun, A Dafydd yn marw wrth gyffwrdd pob un. "O! cleddweh fi gartref yn hen Ynys Fon, Yn llwch y Derwyddon, a hon fyddo'r don Y dydd y'm gosodir yn isel fy mhen, A'i fysedd chwareuai yr 'Hen Garreg Wen.' 'Roedd Dafydd yn marw pan safem yn fud I wylio datodiad rhwng bywyd a byd; Yn swn yr hen delyn gogwyddodd ei ben, Ac angeu rodd fywyd i'r Hen Garreg Wen. -1 CEIRIOG.

Llanelli Fawr.

[No title]

[No title]

! I Cyfarfod Mawr yn Aberdar.

Abergwynfi. I

[No title]

0 Dir y Gogledd.

I I Newydd Da. !

Ar Lannau Tawe, sef yng L…

:Gohebiaethau.I

Landlord Delfrydol.

[No title]

Advertising