Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Am Dro i'r Neuaddlwyd.

News
Cite
Share

Am Dro i'r Neuaddlwyd. (Parhad.) Yn dilyn yr ufudd-dod i'r weledig- aeth ddwyfol drwy ateb yn gadarnha- ol yr alwad i fyned allan yn ddau gen- hadwr i Madagascar, ac megis yng nghysgod cyfarfod ordeinio'r ddau genhadwr penderfynol ddewr, fe wel- wyd amgylchiad swynol arall yn y Neuaddlwyd, sef y ddwy briodas. Felly, nid dau atebodd yr alwad, ond pedwar. Croniclwyd hanes y cwrdd ordeinio, ond pa le y ceir hanes y ddwy briodas? Pa un o ddarllenwyr y "Darian" fedr roddi enwau y ddwy briodasferch? Gwyddom eu bod o ardal Neuaddlwyd, ac yn perthyn i Eglwys uaddlwyd, sef yr Eglwys Annibynnol o dan ofal Dr. Phillips. Carem gael eu henwau, eu cartrefi, a rhywfaint o'u hanes? A gymerodd y ddwy briodas le ar yr un bore? Dwy briodas ac un gwasan- aeth. Pwy gymerodd ran gyda Dr. Phillips? Yn sicr yr oedd yr Iesu yn y briodas-priodas rhai o'í ganlynwyr mwyaf ffyddlon. Gwelwyd dagrau yn y cyfarfod ordeinio, tra yn son am Madagascar bell, a thrueni y pagan- iaid, ac anawsderau y gwaith. Clywid son am Madagascar yn y ddwy briod- as, cwrdd ordeinio pedwar i'r maes cenhadol! Sut fore oedd eiddo y ddwy briodas ? A wenodd yr haul-o nefoedd ddi- gwmwl ar y ddwy fodrwy. Soniwyd a soriir llawer am y ddau genhadwr dewr, ond nid oeddynt fymryn yn fwy dewr na'r ddwy briod- asferch ieuainc o Neuaddlwyd wyndJ- ent ar yr un anawsderau a'r un cyfyngderau. Clod i'w calon! Pe buasai darlun o'r ddwy briodas ar gael heddyw, cawsai y lie amlycaf yn yr ystafell ore yn Neuaddlwyd, ac mewn miloedd o ystafelloedd dros y byd, am fod yr hanes a'r amgylchiad- au wedi anfarwoli y pedwar hyn i Gymru grefyddol. Rhaid rhestri y ddwy briodasferch gyda'r anfarwol- ion anadnabyddus fel y Samariad trugarog-mae hanes gweithredoedd calon garedig ar gael, er fod yr enw ,ar goll. Onid yw ysbryd rhamant sanctaidd yn holi am hanes y ddwy briodas a'r ddwy briodasferch ffyddiog a dewr o'r Neuaddlwyd? Moriwyd ar yr 8fed o Chwefror, 1818. Canwyd yn iach i'r Neuadd- lwyd tua diwedd 1817, tri o honynt i beidio dychwelyd mwy Nid oedd yr un gohebydd neillduol yn bresennol er croniclo hanes y ffarwelio. Yn sicr, y dewraf o bawb ydoedd y pedwar hyn. Aethant allan o'u bodd. Onid ufudtcfbetu i V weledigfaeth a wnaethant? Beth fu helynt y fordaith? Nid yr un fath ydoedd morio yn 1817 ag yn 1914. Nid mewn "Aquitania yr aethant allan Beth fu hanes y Chwefror a'r Mawrth hwnnw ar f mor? Enwog am ei wynt nerthol yw y mis bach, ac nid hawdd gan Mawrth ydyw peidio gollwng allan ei gor- wyntoedd. Ond paham y soniwn am Chwefror a Mawrth, gan ar y trydydd dydd o Orffennaf y cyrhaeddasant Mauritius Daeth Mauritius o dan faner Prydain Fawr yn 1810, a Syr Robert Farquar ydoedd y llywodraeth- wr pan laniodd yr anwyliaid hyn yno. David Jones a Thomas Bevan yn unig gefnodd ar Mauritius a wynebu ar Madagascar tua 550 o filldiroedd i'r Gorllewin. Cefnodd y ddau ar Mauri- tius Awst 8fed, a chyrhaeddwyd Tamatave ar ol deg diwrnod o forio! Er mai David Jones a Thomas Bevan oedd y cenhadwr Protestanaidd cyn- taf yn yr Ynys, ymwelsai masnach- wyr a pharthau o'r Ynys cyn hynny. Cychwynwyd ysgol yn Mananareza Medi 8fed, gyda chwech o ddisgyblion, ac ar ol rhai wythnosau dychwelwyd i Mauritius, er cyrchu eu gwragedd a'r ddau faban bach i Madagascar. David Jones a'i wraig a'i faban aeth .allan gyntaf. Cyrhaeddasant Tama- tave Tachwedd 2ofed; yna dilynwyd hwy gan Thomas Bevan a'i wraig a'i faban, ac arweinia hyn ni i un o'r am- gylchiadau mwyaf tyner alarus yn hanes y maes cenhadol. Bu farw merch fach David Jones a'i briod Rhagfyr i3eg, ac ar y 2gain bu farw Mrs. Jones. Cymerwyd David Jones ei hun yn beryglus o wael. Ofnwyd eu gwenwyno, ac ar ol chwilio cafwyd gwenwyn yno! Anfonodd y Llywydd Jean Rene (Ffrancwr) seiri i wneud arch i Mrs. Jones, a Mr. Bragg, masnachwr, gymerodd at wasanaethu ar lan y bedd Yn gynnar yn 1819 cyrhaeddodd Thomas Bevan a'i briod a'u baban bach yr Ynys, a chawsant y newydd yn greulon o fyrbwyll gan rywun fod Mrs. Jones a'i baban bach wedi cael bedd, ac fod David Jones ar farw Golygfa dorcalonus vw edrych ar Thomas Bevan yn wylo fel pe ei galon ar rwygo yn ymyl ei gyfaill claf. Yn fuan cymerwyd Thomas Bevan a'i briod a'u baban bach yn wael, a bu farw y tri—yr olaf o'r tri ydoedd Mrs. Bevan, a bu hi farw ar y trydydd dydd o Chwefror Cyn marw, dyw- edodd Thomas Bevan wrth David Jones, "Byddaf fi yn sicr o farw, ond cewch chwi wella, ac ewch ymlaen a'ch gwaith, ac yn y pen draw fe fyddwch yn sicr o lwyddo." Mor galonnog ddedwydd y moriwyd allan Chwefror 8fed, 1818, ond ar y trydydd dvdd o Chwefror, 1819, nid oes ond David Jones yn aros, yn eiddil ac yn alarus ym Madagascar bell. Pa fardd fedr ddarlunio profiad y cenhadwr vnig! • • Nid cenhadwr i dori ei galon a chefnu ar ei waith ydoedd David Jones. Aeth yn ei flaen fel gwir brophwyd, yn athro, ac yn bregethwr, yn gyfiefthydd ac yn ddiwygiwr. Enillodd ffafr y Brenin Radama, ac un o feibion hwnnw ydoedd un o'i dri disgybl cyntaf yn Antananarioo. Ar yr 21ain o Ebrill, 1821, aeth David Griffiths, o Gwynfe, Sir Gaer- fyrddin, a'i briod a'u baban bach allan i Madagascar er cynorthwyo David Jones, ac ar yr 11 eg o Fedi, 1826, cyrhaeddodd David Johns (Jones yn wreiddiol) o Penrhiwgaled, Sir Aber- teifi, a'i briod Madagascar, er cyd- weithio a Jones a Griffiths. Mae'n deilwng o sylw fod Griffiths a Johns, fel Jones a Bevan, yn ddisgyblion o ysgol enwog y Neuaddlwyd. Diddorol-pe gofod yn caniatau- fyddai dilyn camrau y cenhadon hyn yn Madagascar, hanes y brenin Radama yn gosod carreg sylfaen yr Ysgoldy, hanes cyfieithu y Beibl, yr argraffu, etc., etc. Os ceir hamdden mae'n bosibl y ceir erthygl arall yn rhoddi trem ar rai o hen ysgolion Cymru Fu. Tra yn sychu y pin ysgrifennu natur- iol uno a darllenwyr y "Darian" i roddi blodeuyn ar fedd yr annwyl Mrs. Evans, ac i gydymdeimlo a'r cenhadwr. llwyddiannus William Evans yn ei dywydd garw yn Madagascar bell yn 1914-  J. D. JONES. Aneddfa, e an..

- 5* Oddiar Lechweddau li,…

IY Gymdeithasfa yn Aberaman.

INodion o'r Maerdy. I

ARCRAFFWAITH. I

Advertising