Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Eisteddfod Gadeiriol Tir II…
Eisteddfod Gadeiriol Tir II Iarll. t Gwyl y Banc. PWYSO A MESUR. I GAN BRYNFAB. I (Parhad.) IOAN. Cynyrchodd y bardd hwn awdl ganmoladwy; mae ei chynllun yn gryno, a'i hansawdd farddonol heb lawer o le i gwyno o'i blegyd. Ceir yma lawer o ddarnau cryfion o fardd- oniaeth loew. Ond aeth y bardd i hepian yn rhy ami, a gollyngodd o'i law ddarnau eiddil, a rhai gwallau mewn cynghannedd a saerniaeth. Ceir yma amryw o freichiau cywydd heb fod yr un hyd. Tebyg mai anffawd achlysurodd y lIinell- "Hyd eiriau nerth yr hen was." Nis gallasai cynghaneddwr mor dda fynd heibio iddi a'i lygaid yn agored. Nid yw y toddaidd canlynol yn toddi o gwbl "I warchod serch eu duw sal-yn rhoi'i blaid I'r oes druenus a'i chrasdir anial." Tebyg mai ymgais am orgywrein- rwydd sydd yn cyfrif am y Ilinell wall- us ganlynol: — "Delw hyawdl Elias." Ceir yn yr awdl un neu ddwy o bro- estiau llafarog- "Ahasiah, Samaria mwy, etc. ynghyd ag un neu ddwy o linellau yn rhy debyg. Feallai mai y darn salaf yn yr holl awdl yw hwn- "Try Ahab i Gartre Baal, Aethpwyd i balas Ethbal, I Ahab rhoed merch heb rus, Orwech y tir-ferch Tyrus; Ac enfys aur gwynfa serch Wrthi, brydferth briodferch, O'i holrhain—merch uchelradd, Jesebel i'w gochel gadd." Ond mae yn y darn ddwy linell ragor- ol i wneud i fyny am saldra y lleill. Englyn gwael yw y canlynol:- "Haleliwia Elias-oedd ei waith I'w Dduw yn ei deyrnas; Nefol was na fu loesion Yn lor-dirion i'r dewrwas. Lied gymysglyd mewn amser a ffigyrrau yw y disgriflad o Elias yn cael ei borthi gan y eigfrain wrth afon Cerfth "Ar fane oer afon Cerith,—yr yfodd O'r afon ei bendith; Daw o ddiwlaw wlad ddiwlith Faeth i'r olaf athrylith. Ei gyfran o gig cigfrain -A,-a'r rhai'n Gyfrannant o'u bara; Ni phaid torth y proffwyd da Nes derfydd ei ystorfa." Gvmaint mwy twt yw disgrifiad Dewi Wyn o EssyIlt- t Hedfan wnai'r gigfran gegfrith-o rywle Ar alwad Duw'r fendith; A bwyd i'r hen broffwyd brith Ar fainc oer afon Cerith." Eiddil iawn yw y disgrifiad o adferiad mab y weddw o Sareptha— "Trwy Elias dryloew—adawyd Einioes y mab marw; Argyhoeddodd wraig weddw Ei fod lawn gryfed a'i lw." Buasai yr awdl yn well heb y pennill olaf. Yr oedd yn gorffen yn naturiol hebddo. Ond dyna ddigon o gwyno, a rhaid newid y cywair. Egyr yr awdl yn naturiol gyda sefyllfa y wlad yn nydd- iau Elias, a dywed, fel rhwng crom- fachau— "0 anedd-dai'r mynydd-dir-daw ar- wyr Dewraf cyfandir; t Ni phaid gordd proffwyd y gwir Daro enaid yr anwir. Elias o Gilead Fu hyawdl lef Duw i'w wlad; Drwy ei oes wyllt, llymder saeth Oedd i eulun-addoliaeth. Oes Elias i luoedd—a fu farn- Hyfaf ornest oesoedd; Ymaflai hwyl gry ei floedd Ym myw hawliau Duw'r miloedd. Gwirionedd gair ei enau-a fu brawf Brwd ar grefydd delwau; A throdd gwarth ar dduwiau gan, A holl wyr eu hallorau." Ond rhaid gadael dyfynnu. Gydag ychydig mwy o ofal, gallasai y bardd wneud ei awdl yn fwy o gyfanwaith gloew. ASYRIAD. Ceir awdl ragorol gan yr ymgeisydd hwn. Efe yw Thesbiad y gystadleuaeth mewn pob ystyr. Rhannodd ei waith fel y can- lyn :-Nos ei Wlad, Cysgod y Proffwyd, Cwmwl a Phelydr, Prawf a Chosp Carmel, Ar Fynydd Duw; Ei Glod a'i Wobr. Nid yw y bardd yn troi a throsi ar ol hanes, fel y gwna ei gydymgeiswyr, ond cyffyrdda a'r holl amgylchiadau a grybwyllir ganddynt. Ni welais un gwall cynghaneddol yn yr holl awdl. Pe awn i feio rhywbeth, beiwn es- geulusdra y bardd yn cymysgu yr amser yn ei waith. Mor hawdd fuasai osgoi.y bai, a gwneud yr awdl gym- aint a hynny yn well. Bardd yw "Asyriad, a dim ond barddoniaeth y testyn a ganwyd ganddo. Nid oes odid linell wan o feddwl yn yr holl waith, ac mae ei gynghaneddion vn > gampus. Dymafel y disgrifia Nos y Wlad— nos eilun-addoliaeth "Ebrwydd y duodd wybren A siriol wawr Israel hen, Ei gofidiau gyfododd, A'i hanes teg, nos a'i todd Neshaodd awr ei nos ddu, A dinystr sy'n ymdaenu; Tania y mellt yn y man- Tros y tir daw trwst taran; Swn cur sy' yn y ceyrydd, Ac ar ffo mae cewri ffydd; Jehofah, gan wyr hyfion Anghofir, a rhegor Ion; Troi hawddfyd yn drist riddfan, Mae Ahab mwy ym mhob man, Arwydd gwarthrudd a gorthrwm, Bruddha lliw y broydd llwm, Dygyfor mae dig ofid, A byw yw llais rhaib a Hid. Yna daw cysgod y proffwyd- "Uwch byd gwyw y dirywiad-yn lewaidd, Elias y Thesbiad, Dros lor a dry i siarad, A'i ddewr floedd arafa'i wlad. 0 aneddau'r mynyddoedd- Elias Lywiai fellt drycinoedd; Yn vstlvs y tymhestloedd Deall y wawr dywyll oedd. Dywed am y cwmwl a dodd y wlad- "Y newyn digynhaeaf,—dry ei lun Drwy y wlad berffeithiaf; Ac ol gwywol y gaeaf Rychia wedd holl lewyrch haf. Yn nhv Ahab mae'r newyn—yn cerdd- ed, Ac urddas ni edwyn; Ar ei gaer o farmor gwyn Ni adawa flodeuyn. Ond Duw o'i Wynfa o hyd a enfyn Ar wib hael wyntoedd fara i'w blen- tyn; o lys Duw Elias dyn—faeth dyddiol, A moethau hudol ar esmwyth edyn." Onid ydym yn clywed llais Elias ger- bron Ahab yn y llinellau canlynol:- Pan werthet Dduw y duwiau Ofer oedd i ti fawrhau Codaist i herio'r cadarn, I onest fyd tynnaist farn; Angau heria'th gynghorwyr, A daw gwae i'th lidiog wyr; Rhof heddyw gryf wahoddiad I eurog lu, dwyllwyr gwlad, Draw i gwrddyd a'r Gwir-Dduw- Wamal dorf-i ymyl Duw." Yna gwelir Elias yn codi ei allor, y tan yn disgyn, a'r dorf yn gwaeddi- 'Heddyw, Ion, Efe sydd Dduw Ar unwaith llefai'r annuw, I'r dorf ddileth, beth yw Baal, Ond tyb eulun plant Belial, A sur mwy yw'r treiswyr mêl- Daw eu gwermod o Garmel." Dyma linellau eto sydd bron yn cynnwys holl fywyd y Thesbiad- "Dyn dewr ei anian, daniai drueni, A'i ddawn naturiol fel cledd yn torri, Meudwy y bryniau wnai symud brenin, A haul hawddgarwch i luoedd gwerin; Enaid mawreddog, a'i nwyd am ryddid, Gofiai annuwiol yn ddigyfnewid, Gwr i'w Lywiadwr, a fu'n Weled- ydd, Wyliai ochenaid Israel a'i chynnydd, Athro i'w genedl, a thwr i'w gwein- ion, Yn eofn chwiliai i ddwfn ei chalon Gwron y wawrddydd, dan goron urddas Waredodd lawer vdoedd Elias." Dyna ddigon i ddangos ansawdd awdl Asyriad, ac hefyd i ddangos fod ei awen yn fwy beiddgar nag eiddo un o'i gydymgeiswyr. Er y gellid gwella 11awer ar yr awdl hon, nid oes amheuaeth am ei rhag- oriaeth ar y pump awdl arall. Felly rhaid cyhoeddi "Asyriad" yn fardd teilwng i eistedd yng Nghadair Tir Iarll am y flwydyn 1914.
[No title]
Dywed C. B. Stanton fod brawd a chyfaill iddo yn y rhengoedd cyntaf sydd i ymladd dros y wlad hon yn erbyn y Germaniaid. Bwriada wneud ei ran dros anrhydedd Prydain yn y frwydr hon; a hynny oedd ei eglurhad am na fuasai yng nghyfarfod Keir Hardie nos Iau diweddaf. Chwarae teg iddo. Os yw'n Sosialydd, y mae'n Brydeiniwr hefyd. I
Advertising
I The Welshman's FaTonrite. I llMABON Sauce ) I As good aa it9 Name, i DON'T FAIL TO GET IT. S S MANU/ACTURFS— BLANCH'S, SL Pater St., Cardiff. I I I My Mon's Saaee I I !?M?tB?M?a?? |  Delightful 8&uc< Md lots ? ? for | I the money. QfØl. I MmAttt BufX 9l PWw St? C?. |
Colofn y Beirdd. !
Colofn y Beirdd. Cyfeiried ein cyfeillion barddol eu cynhyrchion i Brynfab, Yr Hendre, Pontypridd. +- Adgof.—Syniadau da, ond mae cryn waith trwsio ar yr eglyn. Nid oes math yn y byd ar gynghanedd yn y cyrchiad. Gair tost yw "odwych" yn y drydedd linell. Sylwch ar y cyf- newidiadau, pan ddaw allan. Can Briodasol.-Can lied dda, ag ys- tyried fod cryn hysbyddu wedi bod ar y maes hwn. Cin am y Glowyr.—Syniadau da, ond fod rhai ohonynt yn lied eithafol. Ond y peth gwaethaf sydd yn y llinellau yw eu hanystwythder. Mae y corfannau yn cael eu dryllio yn erchyll ynddynt. Sut y bu i chwi roi mwy o olew ar y penillion nag ar y llinellau hyn? Hiraeth.—Mae yn rhy ddiweddar, er- byn hyn, i hiraethu ar ol y gog. Ced- wch y gan ar gof tan ddaw yr estrones yn ol, rhag ofn i mi fethu gwneud hynny. Ffurfiad Cymrodorion Glannau'r Elyrch.-Chwarae teg, gyfaill. Cawn fy mlingo yn fyw, gan y tylwyth barddol ped anfonwn hwn i'r Swyddfa. Mae yn ofnadwy hwy na hir. Llygad y Dydd.-Da iawn, os mai dyma eich "cynnyg cyntaf." Nid yw tyner a tywel yn odli, o gryn dipyn. Ffolineb oedd i chwi fynd i bregethu yn y pennill olaf. Mae ei le i bob peth. Daliwch ati, ac anfonwch yma eto. Llongyfarchiad i Ap C.—Yr oedd tri- bannau fel y rhai hyn yn burion, ar adeg y cadeirio, ond ni wnant y tro mewn colofn farddol. Y Bwthyn Cymreig. Can swynol ddigon, ond mae arni am bell frycheuyn. Peidiwch ag ysgrifennu bob tu i'r ddalen. Porthcawl Rest.—Atebodd y gan ei diben os y canwyd hi yn y sefydliad. Yf oedd yn ei He yno. Llanw Cwpan Profiad.—Can ragorol. Y Crachfeddyg.-Nid oes angen ""cau un llygad" ar y Ilinell olaf. Y Teiliwr. Englyn cymeradwy. Rhoddwyd pwythyn drosoch yn y llinell olaf. Ffrwd y Mynydd.N--aturiol ddigon. Fy Hen Cartref.-Can dda iawn. Ar- ferwch Jbapur mwy hylaw. Nid oes barddoniaeth ar wyneb foolscap. Dyffryn Nedd. Nid yw y llinellau hyn heb eu rhagoriaethau. Paham na threfnasoch hwy yn benillion, yn lie eu hysgrifennu yn un rheffyn. Rhowch gynnyg eto arnynt. Cofiwch hefyd nad barddoniaeth yw pethau fel hyn: Drwy'r dyffryn fe welir yr agerbeirian- nau Yn myn'd ar y cledrau fel mellt fflamiog chwim, A'u hager fel cymyl yn esgyn i fyny, Gan chwarae'n yr awyr nes myned yn ddim. Y Modd i Ymddwyn, etc.—I'r pwynt, ond gwell gadael y pennill olaf allan. Newidiwyd y pennawd hefyd. Rhosyn.—Rhaid i chwi ail-ysgrifennu y penillion hyn, a hynny ar bapyr glan- ach, mewn Hawysgrif eglurach, a pheid- iwch mynd ar ol Homer a Sapho. Bydd- ai y cysodydd yn syrthio oddiwrth ras rhagblaen, pe anfonwn y peth du hwn iddo. Y Dagrau Hynny.—Ychydig yn wyn- nach, a'r gwaith yn well. Yr Heulwen.-Tybed eich bod yn eich iawn bwyll pan yn ysgrifennu y pen- illion hyn? Ni welais y fath gymysgfa yn fy oes. Son am awen wedi mynd ar wyllt, dyma hi. Gadewch i ni gael tipyn o synnwyr, hyd yn oed mewn barddoniaeth. .Prydferthwch Anian. Addawol ddigon. Ysgrifennwch y penillion hyn eto, a pheidiwch a thrafferthu gyda'r ail adrodd—"yn yr haf." Gwastraff ar le ac amser yw yr hen ffasiwn hyll. Caru Bywyd.—Efelychiad tlws iawn. I'r Swyddfa.—Enid Hughes, Toriel, Murmurydd, J. B. Jones, John Hughes, Tom Davies, Parcwyson.
[No title]
ATGOF. I Rhyw ddistawrwydd ystyriol—a gyfyd Adgofion cyfriniol; Tawedog ac astudiol, Fwyned i ni fynd yn ol! MAREES. Y CRACH FEDDYG. I Hen foddion y crach-feddyg-i weIla Sydd hollol anhebyg I gannoedd gwna'i gynnyg-at eiddil- wch, Twymyn a pheswch, does dim yn ei physig. Y TEILIWR. I Bri eithaf rydd i'r brethyn—a'i nod- wydd Gwna hudol ddilledyn, A'i osgo ddel, gwisga ddyn O'i garrau hyd ei gorryn. FFRWD Y MYNYDD. I Heb anaf ffrydia beunydd-yn gyson 0 gesail y mynydd; 0! mor fwyn ei murmur fydd, A chana ar ei chynydd. I gannoedd y mae'n gweini.—ar ei thaith, Llwyr waith hon yw rhoddi; Ei llonach does rhwng llwyni, Hydd a'i fref rydd iddi fri. MURMFRYDD. Bronllwyn, Gelli. Y LLWYN BRIALLU GER FY NHY. I Canaf iti'r Ilwyn briallu Prydferth ger fy nhy, A mai ti fu yn fy llonni Trwy y gaeaf du; Cyn bod dail ar fryn na dyffryn, Cyn addurno'u ffyrdd, Gwelais yn dy flodau melyn Wen y gwanwyn gwyrdd. Chwythodd llawer storm yn enbyd I dy wyneb Ilon, Ond methasant ddwyn dy fywyd, N a thristau dy fron Gwelwyd eira megis amdo Gwyn o gylch dy ben, Ond ni pheidiaist a blodeuo, Er dy fod dan len. Gwenaist arnaf yn fy nghystudd, Ddyddiau Chwefror chwith, A ti ddygaist im' lawenydd Nad anghofiaf byth; Yn dy wyneb lawer boreu Wedi'r ddrycin gref, Gwelais Un sy'n dal i ddadleu Drosof yn y nef. Myrdd o flodau heirdd amryliw Heddyw sy'n deffroi, Tithau'n plygu'th ben i farw, A dy wen yn ffoi; Dangos Duw a'i ogoneddu Oeddit ar bob pryd, Carwn innau wneuthur felly Tra bwyf yn y byd. Mwy i mi na gwen y gwanwyn Fu dy dremiad hardd, Braidd na welwn ambell flodyn Yn y nefol ardd; Cefais gennyt wersi buddiol Gwerth eu cadw'n fyw. Do. dangosaist Haf tragwyddol Draw, i blentyn Duw. Blaenrhondda. IAGO. CAN BRIODASOL I Ar uniad Mr Willie Thomas, A.C., Penlan, Trecynon, Aberdar, a Miss May Lewis (gynt o Gastell-newvdd- Emlyn) mewn glan briodas dydd Mercher, Mehefin y lofed, 1914. Ni ddaw rhwd ar dannau'r delyn Tra fydd cariad mab a merch Wrth yr allor yn rhoi testyn Can i'r bardd am riniau serch; Ni ddistewir plant Ceridwen Tra fydd serch yn lliwio'r gan, A dyfnderau cariad Meinwen Deg yn cadw'u nodau'n lan. Deuai May y dlysaf awen I roi tine a'i heuraidd dant Wedi hudo'r cerddor trylen Mewn i'w rhwyd a'i melus fant. Ganwaith gwelodd wyndra'i Heden Yn ariannu fel ar daen I'w chroesawi dan ei haden I'w pharadwys ddiystaen. Gwelodd froydd ei dillynder 0 Benlan a'i dyrau daer, Heddyw cerddodd i'w hysblander Gyda'i char mewn sendyl aur Cerddant dan belydrau'r hafddydd Trwy Fehefin pert ei liw, Cerdded wnelont hyd yr hwyrddydd Gyda'u mynwes heb un briw. Dal i gellwair a chadwynau Wnaeth y llanc nes mynd yn gaeth, Tra fu'n chwarae a llinynnau Serch ei fun a'i eiriau ffraeth; Odlai May yng ngwres ei chalon Delynegion hudol serch, Willie heddyw wyr am swynion Tyn rheffynnau cariad merch. leuanc gerddor glannau'r Cynon Diffyn dy rianedd wiw, Lleda drosti'th gysgod tirion Hyd nes huno dan yr Yw Gad i Gastell Newydd Emlyn Glywed gyda'r Teifi lwys Am dy fywyd—am dy emyn, Dyfant o'th serchiadau dwys. Plennwch lwyni ar eich llwybrau 0 rosynau gwynliw tlws Cedwch hwy yn beraroglau Yn yr awel gylch eich drws; Trwy dymhorau gwyn eich bywyd Plethwch eich carolau hedd, Cenwch hwy yn nos eich adfyd Ar eich tannau hyd y bedd. PARCWYSON. GALW O'R CYNHAEAF. I The People were called from the Harvest Fields."—(Y Papur Newydd). Mae Duw yn bendithio Servia, Gan lanw y wlad ac yd, A gwenau yr huan yn gwasgar aur Dros frig y corsennau i gyd; Ymdonni yn chwa yr hafddydd Wna ffrwythau cynhaeaf Duw, A gobaith yn gwenu ar frig pob ton, Gobaith. cynhaliaeth i fyw. Dan faich eu pladuriau miniog Y gwelir gweripwyr y wlad, Mae chwys a llafur y gwanwyn mwyn Yn troi yn hedd a mwynhad; Diolchant am gyfle a heddwch Rol tymor yr am'haith trwm, Ond cysgod galanas y brwydrau gynt Bruddha y bwthynod llwm. Daw atgof am frawd neu gyfaill Fu'n gawr ar y meusydd yd, Ac erys erchylltra'r rhyfeloedd erch Ar lawer i wyneb pryd; Ond heddyw i'r macs i weithio, Mae'r gwaith yn dod a mwynhad, Bendithiodd Duw y gwerinwyr llwm, Brydferthed- yw meusydd y wlad. Dan rym y llafurwyr cyhyrog Cwymp y corsennau yn lleng, Ac o laddedigion y meusydd aur Daw bwydydd i fonedd a gwreng Brydferthed yr asur ddi-gwmwl Hyfreted y wlad dan hedd, Yn fflach y pladuriau gwelir o hyd Lawnder yn cerdded i'w sedd. Ond Och! dyna waedd am Ryfel Megis taranfollt o'r glas, I A chrynna'r gwerinwyr yn swn y waedd Greodd y boncdd a'r tras; j Rhyfel! mae aeth yn yr enw j I lawer i weithiwr tlawd, Rhaid ymladd. rhaid dioddef i borthi gwanc Annuwiol wyllt feibion ff aiiid 0 ganol cynhaeaf toreithiog Rhaid galw y gweithwyr i gyd, Rhaid gadael y meusydd aur ar ol, A'r stormydd i bydru'r yd; Geilw Duw i'r Cynhaeaf, Geilw y brenin i'r gad, Rhaid damsang Jbendith y nef da i draed. A gwerthu'r torfeydd i frad. j Anghofir y meusydd addfod,- Mae ergyd y teyrn yn drwm, Anghofir angen gwragedd a phlant Nychant mewn bwthod llwm Rhaid yw wynebu'r magnelau I gadw y beilch ar eu traed, Rhaid ymladd i gadw gorsedd y teyrn Er colli afonydd o waed. Rhaid gadael anwyliaid di-nodded. Ond rhyfedd, i beth ? i beth ? Yr unig lais yn llywodraeth y wlad Ga'r werin yw talu'r dreth; Rhaid ymladd ar archiad arweinwyr 0 blasau y medd a'r gwin. Y werin wyneba y tan a'r plwm—— Y werin dan wasgfa flin. Collodd rhyw frenin etifedd, O'i golli fe gollodd ei ben, A mynnodd dan gwmwl eiddigedd brwnt • Boeri ei wawd a'i sen Ar rywrai wanychwyd mewn rhyfel, A gwaeddwyd-"I'r gad, i'r gad, Ond yn ei balas mae ef o hyd, Y werin wyneba y brad. Pwy fesur y dioddef a'r angen, Pwy fesur yr ingoedd a'r cam. Pwy bynnag gollir dan blwm a chledd Mae'n blentyn i dad a mam Gymaint yw carTad gwerinwr A chariad y brenin balch, I gadw y palas distrywir hedd Y bwthyn o dan y calch. Cyn hir bydd arwyr y meusydd Yn e.byrth i fegnyl a meirch, A'r lleoedd ymdonnai y gwenith aur Droir yn fynwentau di-eirch; Daw galar i gysgod y bwthyn Wrth golli y bachgen neu'r tad, Beth ydyw colled y brenin balch At golled teuluoedd y wlad? Rhyfel! rhoer terfyn ar ryfel. j Abertha y gweithiwr i wane. Rhyfel rhoer terfyn ar ryfel flin Arweinia y gweithiwr i'w dranc Mae Duw yn galw i Ryddid, Geilw breninoedd i'r gad, Wrth alwad y nef try dyn o hyd Yn fendith i'w deulu a'i wlad. Rhyfel, rhoer terfyn ar ryfel, Wna fywyd y werin yn farn, Rhyfel, r hoer terfyn ar ryfel hyll W pa ryddid a hedd yn sarn Coded y werin eu lleisiau, Ac unllais dyweded,—Rhaid Rhoi terfyn, rhoi terfyn ar ryfel erch, Mae'r goreu a Duw o'n plaid. Birchgrove. GWILYM BEDW.
Advertising
MILWYR A'R DEDDFAU YSWIRIANT. Hysbysiad Pwysig. BYDD I'R ALWAD sydd ar be rsonau Yswiriedig a berthynant i'r Fyddin Gadw (Army Reserve) a'r Tir- iogaethwyr effeithio'n fawr ar en safle ynglyn ag yswiriant o'r funud y gwysir hwy. Gofynnir i ni, gan y Dirprwywyr Yswiriant Cymreig, fynegi y bydd cyf- raniadau yswiriant milwjT y Fyddin Gadw (Army Reserve) a Thiriogaeth- wyr, yn y pedair gwlad, yn ystod eu gwasanaeth rnilwrol, yn ol y raddeg ostyngol o 3c. yn yr wythnos a fodola yn y Fyddin. O'r swn hwn, atelir le, I o'u cyflog. Telir y cyfraniadau ar gardiau arbennig y Fyddin-cardiau "B," a gyflenwir gan yr awdttrdoda,i milwrol. Gyda golwg ar gardiau cyffredin am yr hanner £ >lwyddyn pres- ennol, dylai milwyr y Fyddin Gadw (Reservists) ysgrifennu arnynt enw'r Gymdeithas a'r gangen (os perthynant i rai) a dodi'r cardiau yn y Canolfan Milwrol, yn y blwch a ddarjierir i'r diben hwnnw. Dylai Tiriogaethwyr anfon eu cardiau i'w Cymdeithas, gan ysgrifennu ar eu traws y gair "Territor ial." Dylid cadw cardiau a adewir yng ngofal cyflogwyr hyd oni ofynner am danynt gan y dyn. Yn ystod gwasan- aeth milwrol, dylid anfon pob hawleb am Fudd ar Enedigaeth i'r Gymdeithas Gymeradwy gan y wraig. Yn achos Cyfranwyr Adneuol, dylid anfon pob hawleb felly i'r Pwyllgor Yswiriant yn y dull arferol. Dirprwyaeth Yswiriant Cenedlaethol Ii lechyd (Cymru). Neuadd y Ddinas. Caerdydd, Awst 7, 1914. I
[No title]
—.————————— Penderfynodd dau feddw gynnyg eu I hunain yr wythnos ddiweddaf i fyned i'r I rhyfel. Wedi i'r swyddog edrych arnynt, dywedodd wrth un fod ei draed yn rhy ftat i wneud nnlwr oliono. ac wrth y Hall fod ei ben yn rhy gam. I AmIwg yw fod y gwr hwnnw yn ddigon I o wag i gyfarfod llanciau fel y rhai hyn. I Dywed yr eneth fu'n swyddog yn yr ymladdfa yn nhy'r Farchnad. Aberdar. y dylai pregethwyr bregethu'r Efengyl yn hytrach na dweyd yn erbyn pethau mor fuddiol a'r ysgarmesoedd paflio. a'r band yn y Pare ar y Sul. Feallai. fod ei llygad ar baffiwr neu un o fecli gyn y band. Pwy wyr ?
Nodion o Glyn Nedd.
Nodion o Glyn Nedd. GAN TOM CYNON. Prynhawn dydd Sadwrn, Gorff. 25ain, bu farw Mrs. Morfydd Thomas, priod Mr. Gwilym Thomas, Tudor House, yn 25 oed. Merch ydoedd i'r diweddar David a Gwenllian Ed- wards, Crown Inn. Nychasai Mrs. Thomas am hir amser; daliodd, er hynny, i fynd allan i'r awyr agored hyd yr wythnos olaf. Yr oedd yn wraig ieuanc lednais, ac yn oelod o Eglwys Bethel (B.) er pan yn ieuanc iawn. Y dydd Mercher dilynol daeth torf fawr i'w chynhebrwng. Claddwyd ei gweddillion ym mynwent yr Addol- dy, a gwasanaethwyd gan y Parchn. D. Tegfan Davies a David Hughes, Bethania. Gadawodd ei phriod a thri o rai bychain ynghyd, a phedair chwaer mewn galar. Dydd Iau, Gorff. 30am, ym Mharc Morfa Glas, cynhaliwyd arddanghosfa flodau a ffrwythau. Enillodd rhai o'r gweithwyr lleol wobrwyon yno. Yr oedd llawer o ymwelwyr yn bresennol. Hon oedd y gyntaf yma, ond hyder- wn nad hi fydd y diweddaf. Chwareu- ai Seindorf Arian Aberpergwm yn ystod y prynhawn dan arweiniad Mr. John Morgans. Priodas.—Dydd Sadwrn, Awst iaf, yn Swyddfa'r Cofrestrydd, Castell- nedd, priodwyd Miss Rose Rowlands, Llwydcoed House, Glyn Nedd, a Mr. David Owens, Llwydcoed. Merch yw Miss Rowlands i Mr. a Mrs. W. Rowlands, gynt o Mountain Ash. Boed gwenau byd i ganu'n ber i'r ddeuddyn hyn. Ddydd Llun, Awst 3ydd, cynhal- iwyd gwyl de flynyddol Bethania (M.C.). Arferir ei chyrinal ym Mharc Abernant, ond oherwydd y tywydd ymneillduwyd eleni i Ysgol y Cyngor. Daeth tyrfa fawr o Lansamlet i'r wyl hon. Yn y prynhawn cynhaliwyd Eis- teddfod. Llywyddwyd gan Mr. Tom Williams, ysgolfeistr. Beirniadwyd y cantorion gan Mr. W. R. Thorburn, L.R.C.M.; yr adroddwyr gan y Parch. D. Tegfan Davies, a chyfeiliwyd gan Megan Nedd. Enillwyd ar ganu gan Master D. J. Coombes; adrodd gan ''Lili'r Dyffryn unawd tenor, Tom Cynon; Ilythyr serch, Mr. D. Hughes, Llansamlet. Canodd Mr. Griffiths y chwibanogl, a chaed unawd gan Tom Cynon. Cyfarfod wrth fodd pawb ydoedd. Enillodd D. J. Coombes ar unawd ;11to y Sadwrn hlaenorol yn Re- solven. Nid yw ond 10 oed. Y mae ganddo lais swynol, ac yn llwydd- iannus i gipio gwobrwyon. w ?ab ydyw i Mr. a Mrs. E. J. Coombes, Oddfellows Hotel. Pob Ilwydd iddo i fyned rhagddo. Derbyniodd y Parch. Hugh Ellis, Hermon, Ystradfellte, alwad eglwys yr Annibynwyr yn Seion, Waengron, Gorseinon. Y mae Mr. Ellis yn ddyn ieuanc siriol ac yn bregethwr dawnus. Hir oes a phob llwyddiant iddo yn ei faes newydd. Bydd coiled fiermon yn ennill i Seion.
Garddwyl Cralg-y-Don.
Garddwyl Cralg-y-Don. (Preswyl ramantus Mr. D. W. Prosser, Mynachlog Nedd). Anrhydeddus ydyw rhoddi Parch a diolch am ein noddi, Am ddanteithion oedS yn toddi Ar y byrddau llawn; .Lletygarwch Cymry aiddgar, Craig-y-Don sydd yn ddigymar, Ddarfu neb ar wyneb daear Dreulio gwell prynhawn. Can a chytgan, crwth a thelyn, Miwsig melus bob munudyn, Ysbryd plentyn wedi disgyn Yn y llety lion; Phil yn samplo'r ceirios cochion, Lewis yntau'r eirin gwyrddion, Torf o ddiddan ddoniol ddynion Gawd yn Nghraig-y-Don. CRYMLYN.
Advertising
Mae'r Cyllideb a'r Trethi Newyddion wedi poeni llawer, ond y mae Diffyg Traul, Bustl, Cur Pen, neu Flinderau'r Afu yn llawer gwaeth. Mater o lawenydd yw y gellir naill ai lleddfu neu iachau y rhai hyn gyda dogn prydlon ar ychydig o draul o BELENI LLYSIEUOL KERNICK. Y mae miloedd na chymerant unrhyw feddyginiaeth arall. Gwerthir mewn blychau 71e., 13te., a 2s. 9c., gan yr holl ff ervuwyr. Printed and Published for the Propr ietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street, Aberdare, in the County of Glamorgan