Tipyn o Bopeth o Bontardawy. Mae Cor Dyffryn Tawy wedi ail gychwyn. Yr arweinydd eleni eto yw Mr. David W. Thomas, "relieving officer," Alltwen. Bachgen yw efe sydd wedi llwyddo trwy lawer o an- hawsterau, ac o gymeriad pur diam- heuol. Mae yn ganwr ac arweinydd penigamp, ac yn cerdded lhvybrau ei anrhydedd yn esgidiau ei hunan. Mae torf ymron marw o eisieu anrhydedd a chlod, a cheisiant eu cyrraedd yn es- gidiau rhai ereill, a rhai hynny heb fod yn ffitio. I fyny fo'i hanes, a llwyddiant a ddilyno ei vmdrechion. Dywedir fod yr arferiad o gamblo ar gynnydd yn y lie trwy chwarae cardiau, a gosod arian ar redegfeydd ceffylau. Y pelh cyntaf mewn papur dyn sylw ambell i un yw hanes y rhedegfeydd a'r Stock Exchange. Mae llu o fynychwyr Darllenfa Pontardawy a'u bryd yn y cyfeiriad yna. Peri hyn ni i ofyn a yw addysg yn cyrraedd ei hamcan ac a yw y Darllenfeydd yn cael yr effaith goreu. Tan, tan, dyna'r waedd ddisgyna ar glustiau yr ardalwyr yn fynych. Nos Sadwrn, Mai y 9fed, codwyd y cri fod tan wedi cymeryd meddiant o ystablau Lewis Bros., gwneuthurwyr "pop" yn Grove Road. Llosgwyd iddynt saith o geffylau, un wedi costi ^32 yr wythnos cyn hynny, a Die, eu ceffyl cyntaf. Yr oedd hwn ganddynt oddiar pan gychwynasant y gwaith bedair ar ddeg o flynyddoedd yn ol. Dyma y chweched tan yn y lie y flwyddyn hon. Gwnaeth dau o'r rhai blaenorol golled o flloedd i'w perch- enogion, sef y tan yn y Faelfa Gyd- weithredol yr Alltwen a Phalas Mr. C. Gilbertson, Gelligron. A einmedd- wl yn ol i Ragfyr, 1902, pan ddifeth- wyd eiddo John Harries a'i Feibion, gwneuthurwyr celfi, yn llwyr. Roedd hwn yn un o'r masnachdai mwyaf drudfawr yn y Ile. Dwr, dwr, dwr, dyna waedd arall sydd yn adsain o flwyddyn i flwyddyn, a'r Cyngor Dosbarth yn aros a llygad- rythu ar ereill yn myned a'r dwr o bob cyfeiriad. Dibynnir yn bresennol ar Gyngor Trefol Abertawy am dano. Nid oes yma ddigon o ddwr i daenellu heb ganiatad Abertawy. "Fire Brigade," dyna waedd arall mae yr ardalwyr yn godi o flwyddyn i flwyddyn. Tybed y bydd yn rhaid i fywydau dynol fyned yn ebyrth i'r tan cyn y symudir. Nid oes yma na "fire brigade na dwfr, felly nid oes modd yma i ddiffodd y tan, ond trwy ei fogi, a'r pethau goreu at hynny fyddai rhoi aelodau y Cyngor arno. Nos Favvrth, Mai yr neg, yr oedd cyfarfod yng Nghlydach "ar Dawy i wrthdystio yn erbyn gyrru y busses trwy y Cwm ar y Sabbath, o herwydd fod pobl yn manteisio arnynt i fyned i of era. Pwy roddodd yr enw dwl uchod ar y lie? A yw yn ddyn rhydd ar hyn o bryd? Temtir fi i ddweyd rhywbeth. [Clydach yw'r enw yn y llythyrdy, ac nid oes angen yr ychwanegiad.—Gol.] Dichon fod mwy o reswm nag o esgus gan ambell ardal pan yn dweyd fod meddwdod ar gynnydd o herwydd y clybiau. Mor belled, nid oes y fath esgus yn bosibl, er clod bythol i eglwysi'r cylch trwy gyfrwng y Pwyllgor Dir- westol a gweithwyr y lie flynyddoedd yn ol dewisasant neuadd yn lie clybdy. Er i'r gwrthdystiad hwnw lwyddo i atal y clybdy, mae meddwdod yn ennill tir, a net" i dderbyn y bai ond tafarnwyr ac yfwyr. Tueddir ni i ofyn, Sut mae yr heddlu mor dawel yn wyn- eb hyn? Paham y caniateir ganddynt y fath ryddid i'r tafarnwyr? Aroglwn y rheswm o bell. Pa le mae y Pwyllgor Dirwestol ar hyn o bryd? Yma, neu y tu hwnt i'r Hen; os yma, mae yn dawel. Ni chlywsom swn ei arfau er ys blynydd- oedd. Os cysgu y mae, pwy seinia yr udgorn yn ei glust er ei ddeffro? Os marw yw, pa le mae yr anadl a gerdda ddyffryn yr esgyrn sychion i'w fyw- hau? Rhoddodd eglwysi y cylch ym- ddiriedaeth ynddo a disgwyliant wrtho, paham na symuda i wneyd rhywbeth, a raid i'r eglwysi gerdded dros ei ben, a'i adael yntau i grino yn ei ddiffrwythdra. Bu yma Pwyllgor gwylio. Beth ddaeth o hono? A oes angen pwyllgor arall i'w wylio yntau? Gwaith hawdd fyddai cael un a mwy o fywyd ynddo na'r diweddaf. Paham na hysbysasai'r Gol. fi o'i fwriad i fyned i Gellionnen a Garn- Ilech-yr-arth, ac yntau yn hysbys o'm bwriad i'w hebrwng trwy y lie. Yr wyf wedi mwy na hanner llyncu polyn. Gwelaf nad yw y Gol. yn gwybod pob peth, neu gwybuasai ymhla le oedd yr adnod hono oedd yn fy llith olaf. Edryched i'r ail bennod o Lyfr Diarhebion y cwm ac fe'i ca yno. Mae y tir yn myned yn ddrud yn y lie, a thir a gai ei leso am un swllt dri-ugain mlynedd yn ol yn costi i.I heddyw, sef ugain cymmaint. Ble mae Lloyd George? Dyna'r bachan am godi'r doll ar landlordiaid. Cafodd brawd o'r lie hwn ddarn o dir i godi ty ar les o 999 mlynedd. Gofynnodd i'r landlord am y cyfle cyntaf i ad- newyddu, pryd yr atebwyd ef, D'w i ddim yn cretu y gwelwch chwi hon allan." "Falle na wele i," ebe yntau, "ond fe all rhai o'r plant i gwel'd hi." BRUTUS. Holy Street, Pontardawy. I
I Nodion o Glyn Nedd. I GAN TOM CYNON. Dydd Sul a nos Lun, Mai y lOfed ac lleg, yn hen gapel Bethania, gwasan- aethwyd gan y Parch. T. Williams, Briton Ferry, a'r Parch. Frank Joshua, Castellnedd, yng nghwrdd pregethu blynyddol y Methodistiaid Seisnig. Nos Lun, Mai yr lleg, cynhaliwyd cyngerdd fawreddog yr R.A.O.B. yng Ngwesty'r Odyddion. Llywyddwyd gan Mr Isaac Morgan, K.O.M., yn absenol- deb Rees Howells, Ysw., M.E., Aber- pergwm. Ar ol araith wresog gan y llywydd cafwyd can gan Master D. Coombes, datganwr swynol er mai ieuanc ydyw. Cawd caneuon ymhell- ach gan Mri. Wat Phillips, Matthew Webber, Wm. Deveraux, Tom Cole, D. T. Thomas, Ed. Mathews, Wm. Rolles, Haynes; deuawdau gan Mri. Phillips a Ed. Evans Mri. Wat Phillips a David Harries, a chwareuodd Mr W. Thor- burn, A.L.C.M., y piano. Da gennyf hysbysu fod y Parch. T. Carmen Harries (Bethel) yn gwella ar ol y ddamwain a digwyddodd rhai mis- oedd yn ol. Gobeithiwn nad yw yr am- ser ymhell pan y cawn weled ei wen siriol a'i bresenoldeb yn y deml fel yn y ddyddiau gynt. Dyddiau Sul a'r Llun, Mai laf a'r 2il, yng Nghapel Bethel, cynhaliwyd cyfar- fodydd hanner blynyddol, a mwynha- wyd doniau y Parchn. Aron Morgan, Blaenffos, a D. Hopkin, B.A., Noddfa, Trecynon.
I Birchgrove. Cynhaliodd Eglwys Ainon, Birch- grove, ei chyfarfodydd blynyddol Sul a Llun, Mai 10 a 11, 1914. Gwas- anaethwyd gan y Parch. S. G. Bowen, Bryncemaes. Cafwyd pre- gethau grymus, cynulliadau da, a'r canu yn swynol o dan arweiniad y brawd David Rees, L.T.S.C. Nos Sul, Mai 3ydd, cyflwynodd y gweinidog, y Parch. J. E. Griffiths, ar ran eglwys Ainon, anerchiad pryd- ferth ynghyd a darlun i'r brawd Lewis Martin ar ei ymddiswyddiad fel ys- grifennydd yr eglwys. Bu y brawd yn ysgrifennydd ffyddlon a gweith- gar am ugain mlynedd, ac yn ddiacon gonest a diwyd ers dros ddeg ar hugain o flynyddau. Siaradwyd yn y cyfarfod gan y gweinidog, Parch. David Griffiths, Mri. David Rees, L.T.S.C., a Henry Richards. Diolchodd y brawd yn gynnes am deimladau da y frawdoliaeth. Dywedai na ddisgwyl- iasai ei anrhydeddu, mai llafur cariad II oedd ei waSanaeth i'r eglwys. Dydd Sadwrn, Mai 9, 1914, enillodd Cor Plant, Birchgrove, y wobr yn Eisteddfod Castellnedd. Mae y cor hwn yn dod yn enwog am gipio gwobrau, ac y mae yr arweinydd, Mr. Richard Leyshon, L.T.S.C., yn haeddu ei ganmol am safle uchel ei gor ar lwyfan yr Eisteddfod. AP RHAGFYR. I
"Y Farn Gyhoeddus." I Nos Fawrth diweddaf bu'r pregeth- wr enwog, Parch. Peter Price, M. A., D.D., Rhos, yn darlithio yng Nghapel Soar, Aberdar, ar y testyn uchod. Yr oedd cynhulliad da yn disgwyl oddi- wrtho, ac ni siomwyd neb. Agorodd ei ddarlith trwy adrodd darn o fardd- oniaeth o waith Mynyddog a ehvir "Y Nhw. Rhoddodd desgrifiad byw o'r farn gyhoeddus fel yr oedd yn ymwneud a dyn a chenedl. Eglurodd y fantais a'r anfantais sydd o ddilyn y farn gyhoeddus. Darlithiodd am awr a hanner heb t'r dorf flino. Y cadeirydd oedd Mr. J. H. Powell, Danygraig, Aberdar. Rhoddodd ef groesawiad cynnes i'r Doctor i Soar. Ar gynhygiad yr Hybarch H. A. Davies, gynt o Gwmaman, ac eiliad y Parch. W. S. Davies, Llwydcoed, diolchwyd i'r darlithydd. Ar gynhyg- iad y darlithydd, ac eiliad y Parch. T. Eli Evans, diolchwyd i'r cadeirydd.
Eisteddfod Cwmmawr, I Llanelli. Sylwais yn eich rhifyn diweddaf o'r Darian" nad oedd enw y buddugol ar y Gadair wedi ei wneud yn hysbys. Erbyn hyn deallir mai Teifi Rees, Caerdydd, ydyw. Mae y Gadair hon mae'n debyg yn gwneud y bedwerydd- ar-bymtheg iddo. 0 ba le da-k yr ugein- fed tybed? Llongyfarchwn y Bardd o Gaerdydd ar ei lwyddiant. Miloedd sy'n nabod "Moliant" —ein Teifi, Tafod aur pob llwyddiant; Trwy y tir mae'n taro tant, Deil anadl pob adloniant. EISTEDDFODWR.
Eisteddfod Gadeiriol Cwm- I aman ac Aberaman. C Y F AN SODD1 AD AU BARDDON- OL A LLENYDDOL. I Barddoniaeth. I Pryddest (n): Hen Farworyn; Yn y Gole; Pantycelyn; Pererin; Y Celt; I Marworyn; Mab yr Allorau; Acen Ffydd; No. 27; Mab y Mynydd; Gomer. Cywydd (7): Aser; Hen Amaethwr; Y Don Las; Gwlithyn Mai; Myfyr Cerdd ar Gamfa'r Cae; Hen Hwsmon; Abiec. Soned (9) Dan y Pren Per; Merch y Plas; Berdar; Rhyd-y-pennar; Macwy'r Gwanwyn; Dan y Llwyn; Awel-y-dydd; Glasfryn; Alltud o lal. Telyneg (14): Llesg Bererin; Gwil- ym Claf, Wrth y Llyn, Hywel Fugail; I fan Morgan; Nicodemus; Hiraeth; Lluddedig; Eco'r Maes; Gwas y Bu- gail; Breuddwydiwr y Bryn; Calon- wrth-galon; Dan y Cwmwl; Meudwy Mon. Englyn (20): Glandyfi; Offrwm Serch; Disgybl; Arogl Hyfryd; S.T.; Wrth y Blwch; Cywir Barch; Rhaid ei garu deg wron; Gwynfab; Simon; Wrth ei Draed; Perarogl (i); Perarogl (2); Galilead; Lazarus; Nid yr Is- cariot; Nardus (i); Nardus (2); Allt- tud; Gwyddon. Wyth Pennill (i) Y Gwas Bach. i Llenyddiaeth. I Traethawd (^3 3s.)—8 The Sphinx; Spinoza; Un o'r Dorf; Hen Golier; Gwilym Brycheiniog; Carac- tacus; Etticus; Excelsior. Traethawd ( £ 1 is)—6: Marcus; Ap Mai; Stentor; Llyw Olaf; A Beginner; Caswallon. Cyfieithad (26): Evelyn; Berdar; Smith Major; Ap Erbin; Gwasgwr; Ria Nepo; Syml; Justin; Teithiwr; Anglo-Saxon; Allan o Ial; Y Llwybrau gynt He bu'r gan; Amos Jones; Maes-yr-Haf; John Martin; Bore Gwanwyn; Meudwy'r Mynydd; Llaw Fedrus; Megan Dwvrad; Ednyfed; S.T.; Yn y Dyffryn; Shoni Hoi; Mab y Lluesty; Bugail Hafod y Cwm; Ym- geisydd. Drama (i): loan-tra-la-la. HANDEL HARRIS, W. O. LLOYD, I Y sgrifenyddion. P.S.—Emyndon (10): Glan Taf; Nantydd; Hogyn; Diapason; Idwal Foel; Israel; Glyn; Polyphonic; Log- ier; Edmygydd.
Nodion o Rymni. Bu'r olaf o'r Cymanfaoedd Canu yma dydd Llun diweddaf gan Annibynwyr y cylch. Barn y lliaws ydyw fod yr ora1 wedi codi i safon uchel iawn, ac nad oes achos myned oddicartref i chwilio am arweinyddion teilwng am fod eu cystal yma, os nad eu gwell. Profodd Mi Dan Davies ei hun yn arweinydd tan gamp. Neilltuwyd y cyfarfod cyntaf yn Nazareth, Pontlottyn, i blant 1 adrodd a chanu, ac yr oedd yn un cymer- adwy iawn. Llywyddwyd gan y Cynghorwr W. T. Hopkins, Rhymni. Holwyd gan Mr Beddoe, Pontlottyn, ac arweiniwyd gan Mr Owen yn eithriadol dda. Adroddodd y chwaer ieuanc Miss Miriam Williams, Gosen, ran o'r Ys- grythyr. Yn Seion y bu cwrdd y prynhawn, dan lywyddiaeth Mr W. Morgan, Bethania. Abertyswg. I ddechreu adroddwyd pennod gan Miss A. Davies, Nazareth. Edmygid yn fawr ddull yr arweinydd 1 hawlio sylw a thynnu allan fawredd yr emynau a'r gerddoriaeth. Bu cyfarfod yr hwyr eto yn yr un lie, a'r capel, er gwaethaf y gwlaw, yn or- lawn. Dechreuwyd trwy ganu ac adrodd pennod gan Mr R. Ivor Davies. Llywyddodd y Parch. J. R. Salmon. Dacw y gwr bach ar ei draed a'i lygaid yn rhoi bywyd ymhawb. Yn ystod y cyfarfod cafwyd anerchiad gan y cyfaill adnabddus Dewi Carno. Cafwd hefyd feirniadaeth ar y cyfansoddiadau cerddorol a barddonol gan y Parch. F. Jones, Moriah. Enillwyd ar y gerddor- iaeth gan Mr Abel E. Jones, ac ar yr emynau gan Mr Tom E. Jones a Mr Tom Idrys Morris. Gwasanaethwyd wrth yr organnau gan Mr Abel E. Jones a Mr J. H. Beddoe. Bu Eglwys Moriah yn gall eleni yn eu cynllun newydd er sicrhau dynion mawr i'w cyfarfodydd casglu. Dewis- asant ddyddiau'r wythnos yn lie y Sul, a thrwy hynny cawsant y LIundeinwyr enwog y Parchn. H. Elfed Lewis a T. Eynon Davies i'w gwasanaethu.
Nodion o Abertawe. Cynhaliodd Eglwys Soar (A.), Aber- tawe, ei chyfarfodydd blynyddol nos Sadwrn, dydd Sul, a nos Lun, Mai 9, 10, lleg. Pregethai y Parchn. W. J. Nicholson, Porthmadog, a Samuel Wil- liams, Siloh, Glandwr. Byrbwyll y bu y "Western Mail" yn cyhoeddu marwolaeth yr enwog Barch. J. Gomer Lewis, D.D., dydd Mercher. Dylasai gwyr y wasg fod yn fwy gofalus i sicrhau gwirionedd newyddion o'r fath cyn eu gwneud yn hysbys. Pan yn ysgrifennu, deallwn mai gwael y pery y gwron parchedig. Dymuniad pawb ydyw am i Gomer gael llwyr adferiad eto. TALNANT.
Aberteifi a'r Cylch. Cymanfa Ganu.—Dydd Mercher diweddaf cynhaliwyd Cymanfa Ganu flynyddol Annibynwyr y cylch. Yr eglwysi gymerent ran oeddynt Tre- wyddel, Capel Dogmel, Tyrhos, Vac- hendre, Llechryd, Ffynnonbedr, a Chapel Mair. Dr. Caradog Roberts, Rhos, oedd yr arweinydd, a gwnaeth yn ardderchog. Y plant ganodd y bore, ac yr oeddynt fel cor y goedwig yn soniarus dros ben. Llywyddwyd cwrdd y bore gan Mr. W. Richards, Cilrhiwil, Tyrhos. Canwyd y tonau canlynol 0, rho dy bwysau ar Iesu," "Mae pob peth yn dda," "I'r Ysgol Sul," "Coronwch Ef yn ben," A oes canu yn y nefoedd, a "Dyrchafer enw Iesu cu." Adroddwyd darnau pwrpasol gan Emily Johnson, Bryn Salem; T. Roach a Vera Davies, Capel Mair; Hannah M. Davies, Vac- hendre; Letitia Jones, Ffynnonbedr; Elizabeth Evans a Aled H. Jones, Llechryd. Arweiniwyd cwrdd y prynhawn gan Mr. D. Charles, Capel Mair. Canwyd yr anthem, "Then Round the Starry Throne," a darnau ereill. Chwareuwyd yr "Ystorm" gan Dr. Roberts ar yr organ yn fen- digedig. Dechreuwyd cyfarfod yr hwyr trwy ddarllen a gweddio. Can- wyd amryw donau Cynulleidfaol, a'r anthemau c,-inlynol :Ysbryd yw Duw gan Dr. Vaughan Thomas; "A oes canu yn y nefoedd," a "Then round about the Starry Tfirone. Chwareuwyd "The Russian Patrol" (march) ar yr organ gan Dr. Caradog Roberts. Y cyfeillyddesau oeddynt Miss P. Owens, Miss E. Daniel, a Miss Agnes Rees. Cyflwynwyd diolch- garwch i'r arweinwyr lleol am eu gwasanaeth yn dysgu y programme mor dda yn ystod y gauaf. Terfyn- wyd un o'r Cymanfaoedd goreu gyn- haliwyd yn Aberteifi erioed. Drama Dic Shon Dafydd.—Cawsom gyfleustra nos lau diweddaf i weled perfformio y ddrama uchod yn Neuadd Gyhoeddus, Cwmaman. Yr oedd yr elw o ^14 yn myned i gapel Bethany, Godreaman. Danghoswyd gan y gwa- hanol gymeriadau gynrychiolid y modd yr esgeulusir y Gymraeg, a rhoddwyd gwersi buddiol iawn ar y diwedd ar werth y Gymraeg vn mywyd y genedl Gymreig. Nis gwn paham nad all cynulleidfaoedd Cym- reig fod yn ddistaw mewn cyfarfodydd o'r fath. Yr oedd hyn yn rhwystr mewr i'r perfformwyr i weithio allan y cymeriadau. Gwnaeth yr oil eu gwaith yn dda ag ystyried yr am- gychiadau. Nid oes eisieu dweyd mai awdwr y ddrama ydyw Golygydd y "Darian. Caerdydd.—Gyda channoedd ereill cawsom y fraint nos Wener diweddaf o glywed drama yn y New Theatre, Caerdydd-y noson y gwelodd Canghellydd y Trysorlys, ei ferch, a Mr. Llewelyn Williams, A.S.—tri yn werth i ddod yr holl ffordd o Lun- dain. Yr oedd y lie yn orlawn o bobl, yn gwrando yn astud. Yr oedd y perfformwyr yn ddangos eu bod wedi bod yn ddiwyd yn paratoi. Aflonydd- wyd ar y gwasanaeth gan y "suffra- gettes ystrywgar, ond buan y gwelid eu hysgubo allan. Mae yn llawn bryd cosbi'r gethern am aflonyddu mewn cyfarfodydd. Mae newyddiaduron yn gwahardd i lwon annheilwng a geiriau anmhriodol ymddangos, ac os am ddarlunio y bywyd Cymreig pam y rhaid i dyngu a rhegu gymeryd lie ar y llwyfan fel y clywsom yn y per- fformiad yn Nghaerdydd, ac yr oedd y geiriau a'r brawddegau yma yn cael eu hangymeradwyo gan fwyafrif y gwrandawyr. Peth arall a'n cynhyr- fodd oedd clywed hen arferion capelau yn y wlad mewn ardaloedd gwledig yn cael eu defnyddio mewn gwatwareg ar y llwyfan. Yn sicr, mae y do ieuanc yn ddigon difater i bethau crefyddol heb i hen arferion gael eu dangos felly ger eu bron. Beth bynnag oedd beiau yr hen grefyddwyr, byddent yn ddigon gwyneb-agored yn ei ffaeledd- au. Yr oeddynt yn hollol ddiragrith a dilol. Coder y rhagoriaethau a gad- awer y diffygion i farw a'u claddu heb I adgyfodiad gwell na gwaeth yn ei hanes. Aberteifi. D. JONES. I
Neuadd y Gweithwyr, I Ynyshir. I Nos Fercher diweddaf chwareuwyd y ddrama enwog, "Jac y Bachgen Drwg" (David Evans, Cilfynydd) gan The Rhondda Premier Dramatic So- ciety, Treorchy, y cwmni enillodd y brif wobr yng nghystadleuaeth Ynys- hir. Yr oedd disgwyliad mawr am danynt, a daeth torf i'w gwrando, ugeiniau yn troi yn ol gan fethu cael lie. Gwnaeth y cwmni eu gwaith yn ganmoladwy. Trueni fyddai codi brychau ar berfformiad rhagorol. Diameu mai dyma'r cwmni o actwyr goreu a feddwn yn y De, a chawsom ein siomi na chawsent ymddangos ym Mangor, ond ni thyn hyn oddiwrth werth gwasanaeth y cwmni. Helpu'r gweiniaid oedd amcan y gymdeithas pan y'i ffurfiwyd gan wahanol aelod- au'r eglwysi. Mac llawer (aelwyd wedi ei sirioli ganddi, a chredwn bod elw sylweddol wedi ei wneud y tro hwn i helpu'r brawd Beavan sydd dan fachau tyn afiechyd. Datganodd y dorf ei diolch i'r cwmni am eu per- fformiad campus ac am ddod yno mor rhad. Yn ol tystiolaeth yr ysgrif- I ennydd maent yn barod unrhyw amser i helpu mewn achos da. Duw yn rhwydd iddynt yw dymuniad UN FU YN EU GWRANDO. I
Wele ddarlun o Mr John Harris, ysgolfeistr. Narberth, un o blant Aberdar a mab i'r diweddar Barch. W. Harris, Heolyfelin. Efe oedd Arweinydd Cymanfa Ganu Bedyddwyr Aberdar a'r cyleh Mai 4ydd.
Colofn y Beirdd. I Cyfeiried ein cyfeillion barddol eu j cynhyrchion i Brynfab, Yr Hendre, Pontypridd. Achwynwyr ar y Tywydd. Lied anodd" fuasai barddoni y testyn hwn. Tuedd i reffynnu gormod sydd yn y penhillion. Dylasent gael eu berwi i lawr i'r hanner. Nid yw y ffaith eu bod yn gadwynol yn gwella dim arnynt. Mae yr iaith hefyd yn cael cam mewn ambell linell, megys yn y byrdwn: í Fod y dyn sy'n beio'n gyson V Cael ei gell o hyd yn llawn. Ceisiwch ddewis testyn ag ychydig o naws farddonol arno. Mae hynny yn fantais fawr i feirdd o bob gradd. Y Gwanwyn.-Cerdd o fydryddiaeth ystwyth ac esmwyth. Ychydig yn rhy faith ydyw. Gochelwch y ffurfiau gwna osod," etc. Ail adrodd yw 'dweyd llawen a lion." Gwallus yw yr iaith yn y llinell: Ei ddelw ni osod." Sul y Pasg.—Tuedd i ail adrodd sydd yn y penhillion hyn. Dyna y diffyg mwyaf a deimlir ynddynt. llchelgais.—Lied dda, oni bae eich Jbod yn rhoi "llogell" yn y rhyw wryw- aidd. Y Delyn.—Cymeradwy. Arwystl, Homo Ddu. —Englynion gwychion, yn neillduol yr un i Homo. Cwyn yr Hen Weithiwr.—Rhagorol. Llinellau ar ol J. Cadwgan. Rhy gyffredin o lawer. Mae amser rhigym- au fel hyn wedi mynd heibio. Priodas E.K.—Nid oes swn na swyn serch yn yr odlau priodasol hyn. Mae y pennill olaf yn gweddu yn well i angladd nag i briodas. Y toddaid-i ddibennu, yw y goreu o'r oil, er fod gwall cynghanedd yn y llinell olaf íiain eu hwyliau a swn eu halawon. Y Seintiau.—Dau englyn lied ddifai, ag eithrio y llinell flaenaf: Duw dry eu gweddi'n dragwyddol. Gwrando Fi.-Methir dilyn y mesur yn yr ail bennill. Cywirwch ef. Hefyd, yr ydych yn defnyddio yr un gair ddwy- waith yn ei brifodlau. Pa fodd y bu hyn'? Mi Garwn Ddod.—Mae hwn yn well na'r darn arall. Arthur Wyn.—Telyneg dlos iawn. Gwalia.-Gresyn fod yr un llinellau yn cael eu mynychu yn y gerdd. Bwr- iwyd eu hanner allan, a newidiwyd ffurf y mesur, er mwyn gwneud hynny. Pare Howard. Can ragorol. Ar y meithaf ydyw, ond rhaid cydnabod hawliau Llanelli a'i chymwynaswyr. I'r Swyddfa.—Pindar. Ednant, John Hughes, h. Bassett, H. T., Cyndal, W. L., Tawenog.
"Bob Morgan" yng I Nghwmbach. Bu Cwmni Dramodol y Gadlys yn perfformio "Bob Morgan" yn neuadd y lie ddechreu Mai. Yr oedd y neuadd wedi ei gorlenwi. Methodd y llywydd, Mr. Morgan, cyfreithiwr, a bod yno. Gwnaeth y parti ei waith yn rhagorol. Erys argraff dda ar ei ol, a gofynna llawer, "Pa bryd y daw eto ?" Mae gan "Bob Motrgan" ei neges i'r stage yn ogvstal ag i fywyd y werin. Gwelodd trigolion Cwmbach honno, a theimlas- ant fod bywyd yn werth ei fyw. ond ei fyw i'r fantais ore. Teimlir fod y Cwmni yn deall eu gwaith ac wedi myfyrio'r plot, a mantais fawr yw hynny i berfformiad da. Cyflwynwyd yr awdures i sylw'r dorf gan Mr Daniel Edwards, a chwareuwyd Alawon Cym- reig rhwng y golygfeydd gan Mr. E. T. Evans. A.L.C.M.. Gadlys.
Cywiriad.-Pregethai y Parch. W. Aerwyn Jones, Cwmdar, yng g? 'f?- fodydd Sefydlu y Parch. W. T. Francis yn Llanelli yn ogystal a'r lleill a enwyd, ond gadawyd ei enw allan.
Gohebiaeth. STREIC RESOLFEN. Mr Gol.,—Caniatewch i mi roddi i chwi air am y sefyllfa. Cyfarfu gweith- wyr Ynysarwed sydd yn awr allan ar streic yn Neuadd Newydd Mr D. P. Wil- liams nos Sadwrn, Mai'r 16eg. Pender- fynwyd parhau i sefyll allan. ac hefyd i apelio trwy ddirprwyaeth at lodges y Ffederasiwn trwy Gymru am gyn- horthwy ariannol yn y frwydr. Datgan- wyd dymuniad cryf am i Mr Fred Thomas fynd a'i gwmni dramodol o gwmpas i gael elw i'r un perwyl. Aw- grymwyd y peth i'r cwmni y Sul di- weddaf a phasiwyd yn unfrydol y gwnaent unrhyw beth i gynorthwyo. Dylasem ddweyd mai amcan y cwrdd nos Sadwrn oedd cael esboniad ar hys- bysiad a roddasid yn ffenestr swyddfa Ynysarwed uchaf y byddai y gwaith yn agored dydd Llun i rai ewyllysient ddechreu. Bu rhywrai yn ddigon drwg i roi'r argraf f ar rai mai hysbysiad o eiddo'r Ffederasiwn ufdd hwn, tra nad oedd mewn gwirionedd ond ystryw o eiddo'r management i gael dynion yn ol. Daeth yn agos i hanner can' punf eisioes o'r un He i gynorthwyo'r streic. Credwn fod cydymdeimlad pawb wyr rywbeth am yr amgylchiadau gyda ni. Hyder- wn y dywedwch chwi, Mr. Gol., air ar ran y parti fydd yn mynd o gwmpas i gynorthwyo.—Yr eiddoch, etc., ERYR CRAIG NEDD. [Y mae'n bleser gennyui gymeradwyo'r Parti hwn. Mr Fred Thomas, prawf- bwyswr newydd Ynysarwed, yw ar- weinydd y Parti. Y maent yn per- fformio dwy ddrama, sef Die Sion Dafydd a Jac Martin, a Fred Thomas sy'n cymeryd rhan. Die yn y naill a J ac yn y llall, a gwyr pawb am ei fedr ar y Ilwyfan.-Col.]
Bob Morgan yn Aberdar Nos Fereher, Mai'r 13eg, bu Cwmni Dramodol y Gadlys yn perfformio "Bob Morgan" yn Neuadd y Gweithwyr, Tre- cynon. Llywydd apwyntiedig y nos oedd W. Thomas, Ysw., cyfreithiwr, Aberdar, ond methodd fod yno. Yr oedd y neuadd tan sang-a llawer yn methu cae l lie. Agorwyd y ddrama a chegin Bet Morgan," a Bob yn ei afiaith a'i ddi- reidi yn tynnu'r ty am ei ben. Gwel- wyd galanas y drwg a dylanwad y da a'r gore yn cario'r fuddugoliaeth. Caed portread go glir o fywyd y wlad a miri'r dref, heb i grefydd golli ei moes a'i rhin yn natblygiad bywyd y werin. Chwareuwyd Alawon Cymreig rhwng y golygfeydd gan Mr E. T. Edwards, A.L.C.M., Gadlys. Cynrychiolid y gwahanol gymeriadau gyda graddau helaeth o lwyddiant. J>rawf o naturiol- deb y chwareuwyr a dwyster a digrif- wch y golyfeydd oedd deigryn a gwen y dorf bob yn ail, a theimlid gwerth a chysegredigrwydd bywyd yn seremoni yr adferiad, ac emyn buddugoliaeth y diwvgwyr. Daeth deg o Barti Bob Morgan" sydd yn Amanford 1 fyny mewn dau fodur i weled y perfformiad, a'u tystiolaeth unol hwy yn ogystal ag ereill ydoedd ei fod yn rhagorol. Bwr- iedir perfformio "Bob" eto yn Nhre- cynon a Hirwain pan geir amser a chyfle. Mae'r Parti eisioes wedi rhwymo dwy noson yn y Pavilion. Aberteifi, Awst 18 a'r 20, ac yn Aberporth Awst 19. Deallwn fod llawer o ddisgwyl am "Bob Morgan" yn ei "Hen gartref" ar lan- nau'r Teifi, a gwn na siomir neb pan < gyrhaeddo ei fro. Printed and Published for the Propr ietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street, Aberdare, in the County of Qlamorgao