Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

0 Wy i Dywi.

News
Cite
Share

0 Wy i Dywi. Gwersi Mown Hanes Lleol gan Lewis Davies, Cymer. MWNFEYDD RHUFEINIG. I ranbarth fel Deheudir Cymru sydd mor enwog am ei mwnau gerbron y byd I diddorol iawn fyddai gwybod rhywbeth am gloddfeydd yr amser gynt. Chwi wyddoch, wrth gwrs, mai cymharol ddi- weddar y daeth y De i fri fel gwlad yr haearn, a diweddarach fyth fel prif allforydd y glo. Gwyddoch, cystal a hynny, mi wn, mai dim ond toddi copr, plwm ac alcan wneir gennym yn bres I ennol, a'n bod yn lJoddloni ar gludo y mwnau o barthau ereill i'r perwyl. Ond yn yr Oes Rufeinig bu yma gloddio a thoddi diamheuol ar aur, copr, plwm a haearn. Gwn yn dda ei bod bron wedi dyfod yn arferiad y dyddiau hyn i dad- ogi i'r Rhufeiniaid bopeth hen mewn I mwnyddiaeth, h.y., pan nad oes ond dyfaliad yn sail i'r farn. Y mae perygl yn hynny oblegid bu cryn weithio mewn haearn a phlwm yn y Cyfnod Tuduraidd bedwar can' mlynedd yn ol, ac ofnaf y camddosberthir olion y cyfnod hwnnw ar brydiau fel ag i'w cyfrif yn perthyn i'r Oes Rufeiniig. I'r ochr arall nid oes dim yn sicrach na bod y Rhufeiniaid fu ym Mhrydain yn gloddwyr a thoddwyr medrus, ac er nad hwy oeddent y cyntaf wrth y gwaith, hwy yn sicr oeddent y mwyaf deheuig i agor coffrau y creigydd a dwyn y mwn- au allan at wasanaeth dyn. Nid ydym mor ffodus a'n brodyr yn y Gogledd parthed amseriad pendant y gweithio hyn, oblegid beth amser yn ol darganfyddwyd yn ardal Halkin (Helygen) (Fflint) defyll o blwm todd- edig yn dwyn nodiad o'r flwyddyn eu toddwyd, sef 64 o.c. Meddwn ninnau hefyd yn y De olion cloddfeydd plwm, sef yn ardaloedd Llandrindod a Nant-y- mwyn (Caerfyrddin), ond ni feddwn yr un manylrwydd parthed eu hamseriad, dim ond yn unig mai Rhufeiniaid fu yn eu cloddo. Ychydig fu y cloddio am gopr yn Sluria mewn unrhyw oes. ac felly nis gellir cyfeirio at yr olion gydag un sicrwydd fel ag a ellir wneud mewn cysylltiad a Mynydd Parys (Mon), a Phenrhyn y Gogarth (Llandudno), lie y darganfyddvyd tefyll o gopr (pig copper) yno o'r un nodwedd Rufeinig a'r pig lead yn Fflint. Yr unig fan yng Nghymru y gwn i am ei gloddfeydd aur Rhufeinig ydyw Go- gofau, ger Dolaucothi, ardal a ddengys, fel yr ydys eisoes wedi sylwi, lawer o olion diwydrwydd deiliaid y Cesaraid mewn cyfeiriadau ereill hefyd. Ond am gloddfeydd a ffwrnesi haearn Rhufeinig y maent hwy yn lliosog, yn enwedig gydag ymylon Maes Glo y De- heudir, lle y daw crib y gwythienau i'r wyneb. Dyna, ym mysg lleoedd ereill ellid eu henwi, Elwy (Caerdydd), St Nicholas, Lilantrisant, a PhenyJbont ar y grib ddeheuol, a Llanfrynach (Bry- cheiniog), Bryn Oer, a Gelligaer yn agos i'r grib ogleddol, yr oil yn dangos fod Rhufeiniaid ein hen dalaith yn effro i'r amryfal weddau y gellid troi defn- yddioldeb yr haearn iddo. DYGIAD CRISTIONOGAETH I I GYMRU. Er ein holl ddyled i'r Rhufeiniaid mewn cysylltiad ag adeiladaeth, hws- moniaeth, deddfwriaeth a mwnyddiaeth cilia yr oil o'r golwg pan gofiwn mai i'r genedl fawr hon yr ydym i ddiolch am y "newyddion da o lawenydd mawr." Pwy a'i harddelodd yma gyntaf ? a pha le y gwnawd hynny? sydd bynciau arhosant yn ddyryswch hyd eto, ac nid oes belydryn mwy o oleuni arnynt heddyw nag a oedd arnynt ganrifoedd yn ol. Y mae y ffeithiau mor brin a'r traddodiadau mor lliosog fel ag Fn gwneud yn neilltuol o ofalus wrth gerdded y tir hwn. Clywsoch mi wn, o gysylltu enw Llanilltyd Fawr a phre- gethu St. Paul. Wel, nid oes rhilhyn o soil hanesyddol i'r fath haeriad, a gellir dweud yr un peth am yr holl ys- toriau a honnant bregethiad y gair gyn- taf mewn lleoedd ereill ym Morgannw g. Dyfaliadau noethion yw yr oil, a chyn- taf i gyd yr anghofir hwynt goreu i gyd er mwyn gwiredd ein hanes. Felly, rhaid i St. Paul (er cystal oedd), St. Pedr, Joseph o Arimathea, Simon Zelotes, Aristobulus (un o'r deg disgybl a thri ugain, yn ol y traddodiad), Car- adog Fawr, Claudia (Gwladys Ruffydd), Pomponia (gwraig Aulus Plautius), a'r gweddill fyned i'r cysgod yn y cysylltiad hwn. Ni rydd olion hynafiaethol gymorth inni ychwaith, oblegid gydag eithrio un deml yng Nghaerwent, a ddichon fod yn un Gristionogol, ychydig ddywed y meini am Gristionogaeth y cyfnod. Hawdd ydyw cyfrif am hynny, oblegid crefydd erlidiedig ydoedd ac nid oedd iddi arddeliad swyddogol mewn unrhyw fodd. Pwy, ynte, a'i dygodd i fewn? Milwyr dinod, ond odid, oedd wedi teimlo ei grym pan yn Rhufain, a'r rhai ni allent lai na llefaru am dani i ba le bynnag yr aent. Digon i ni ei bod yma a bod Duw wedi gofalu am lestri etholedig i'r gwaith. Gwyddom yn Bier, serch hynny, am rai o'r tystion roddasant eu gwaed drosti ac erys coffadwriaeth Julius ac Aaron o Gaerllion ar Wysc yn fendigedig tra bo byd yn bod.

Advertising

IUndeb Ysgolion Sul AnnibynwyrI…

loan Arma.

-Penderyn..; I

Advertising

) Llansamlet. I

Wedi Pedair Blynedd.

Cwmogwy.

ICaerdydd.

Advertising