Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
Hevan?^^ ^HEST for il?- an d K anche l CARDIFF (2) NEWPORT PONTYPOOL PONTYPRIDD SWANSEA LLANELLY V Everlasting Solid Oak 8=Guinea Bedroom Suites at £ 5 15/=! Having Purchased the entire Stock of an eminent Firm of Bedroom Suite Manufacturers, Messrs. Bevan It Co., Ld., Wales'Largest Furnishers ane'now offering one hundred and twenty excellent Suites at above astonishingly low price! Each Suite comprises a substantial Ward- robe with Plate Glass Door and Leaded-light Side Panels, a capital Dressing Chest with large Mirror and Towel Rail attached, a handsome Washstand twlth Marble Top and The Back, and Two strong Cane-seated Chairs. Beyond question the Cheapest Suite ever offered I I Immense Stocks. Everything for Furnishing at rock-bottom prices. Catalogues gratis. Delivery free up to 200 miles from any Branch. 71 Taff St., Pontypridd; Nr. Empire & 97 St. Mary St., Cardiff; 280 Oxford St., Swansea; &c.
"Y Stori. i
Y Stori. NANNO. Cydfuddugol yn Eisteddfod Mon. I GAN J. TYWI JONES. PENNOD II.—YNG XGHAR WIL j SION DDAFYDD. I Wel, mechgyn anwl i, 'dwn i ddim sut ma gneud hefo chi; 'rydach chitha'n ddau fachgen rispectabl, a faswn i ddim yn leico'ch gadal chi ar ol. Fedrwch chi glosio rhyw fymryn yna, bobol?" meddai Wil Sion Ddafydd. 1 Er fod y car eisoes yn orlawn, cafwyd lie i Huw Morus a Jac Martin. Rhyw ddeg-pump bob ochr—elai yn y car yn gysurus. Y boreu hwn, fel llawer boreu arall, eisteddai ehwech bob ochr, ac un arall bob ochr yn eistedd ar liniau rhai o'r lleill. Eisteddai y gyrrwr eto ar y pen blaen, a'i draed ar un o'r llorpiau, ac un arall a'i draed ar y Uorp arall. Gwnaed lie i Huw Morus rhwng y ddau hyn. Eisteddai un arall ar ddrws y cerbyd a'i draed i mewn. Dewisodd Jac Martin gymeryd ei safle ar y step o'r tu ol. Gwelir felly fod yn y cerbyd bedwar ar bymtheg rhwng y "dreifar." Mae gynoch chi ffyl Ilwyth, 'rwan," meddai Jac Martin; "drive on, coach- man, chwedal Charles o'r Bala, pan oedd o'n mynd i'r nefoedd. Cymrwch ofol nag ewch chi a ni yno heiddiw hefyd. Ma ar Huw Morus isio myn'd i'r Sowth, a ma arnon ni i gyd isio myn'd i rwla." "Rhyngot ti'n giard, a fina'n ddrei- far, a'r hen Ddarbi yn yr harnis, mi awn ni'n o lew o saff, goelia i, Jac," meddai Wil Sion Ddafvdd. Awn," meddai Jac, os nag oes yma ryw Jona wedi llyncu morfil, 'run fath a hwnnw odd yn y car yn mynd i Ninifa. 's talwm." [ Chwarddodd pawb yn iach, a gwnai donioldei) Jac, a'r gymysgedd'ryfedd a wnai o hanesion Beiblaidd, a phob hanes o ran hynny, lawer tuagat ysgafn- hau anghysur y dirwasgiad oedd yn y car. Doro i ni ragor o'r hanesion yna, Jac Martin; fyddan yn help mawr i ni i fynd i. Fangor. Ma'r hen gaseg yma'n mynd yn well o'r hannar os bydd tipyn bach o fywyd o'r tu ol iddi, rhagor na phan ma' pawb yn rhoi 'u hunen lawr fel plwm nes bydd y springs yn reit fflat o danyn' nhw," meddai'r dreifar. Fedra i ddim gneud hanesion felna to ordor, William," meddai Jac; "ma raid iddyn' nhw ddod fel sparks from the devil-anvil, oeddwn i'n feddwl. Fedrwch chi mo'u tynnu nhw gerfydd 'u cynffona." "Mae isio i ti, Jac Martin, ddarllan dy Feibil yn well, a dysgu bod dipyn stawach. 'Rwyt t'n cega mwy na neb sy' yma. Nid mewn car daru Jona fynd i Ninifa, ond mewn llong," meddai Sian Huws. Fydda i byth yn darllan y Beibil, Sian; ma gin i ormod o barch iddo fo. Ella mae nid yr un hanas sy' gynoch chi a sy' gin i," meddai Jac. Wir, ma hi'n dda yma heiddiw. Ma Sian wedi dy guro di, Jac. 'Rodd Jona'n llyncu morfil yn dda, ond ma' llong yn mynd i Ninifa yn well o lawar. Ydi o rywbeth gynnoch chi i ddeud lie cawsoch chi'r hanas, Sian Huws ?" gofynai Robert Parri, un o flaenoriaid y Methodistiaid yn Llandderwydd. Nag ydi'n taid," meddai Sian, Mi cefis i o yn y Beibil, yn llyfyr yr Ys- grifenyddion a'r Phariseaid. Ddaru'r peth ddigwdd dan yr Hen Orchwylaeth honno. Dyna fymryn o help i'r hen Ddarbi eto," gwaeddai Jac Martin, a chwardd- ai y lleill nes oeddent bron hollti. Ydach chi am gymyd y Beibil yn sport, bo»bol ?" gofynai Sian. Ydach chi'n credu, Sian, gofynnai Robert Parri, i long fynd a Jona i Ninifa drwy ganol gwlad ar dir sych?" Ydw i, Robert Parri, yn credu po- peth ddywad y Beibil wrtho i. 'Does gin neb hawl idd i ama fo," meddai Sian. ",Be' 'dach chi'n ddeud ar y matar, William Owan 1" gofynnai Robert Parri, a direidi yng nghil ei Iygad. Hen wr parchus oedd William Owen, dipyn yn anllythrennog, ond yn wir dduwiol, ac yn enwog ar gyfrif ei hoffder mawr o'r efengylau a'r epistolau, a'i ddiys- tyrrwch cyfartal o'r Hen Destament. Yr oedd ef a Sian yn aelodau gyda'r Bed- yddwyr yn Llandderwydd. Wel, a deud y gwir i chi, Robat Parri," meddai Wiliam Owan yn bwys- leisiol, "ma gin i bob parch i chi, a mi fasa'n dda gin i fod cystal a chi mewn llawer o betha, ond wyddoch chi'n iawn nad oes dim a 'nelo i a'r Hen Destament. Dda gin i mo'no fo, na'r Hen Orchwyliath chwaith. Fydda i'n mynd yn reit anghysurus pan glywa i bygethwrs yn codi testyna o hono fo. Yr efengyla a'r epistola i mi bob am- sar. Ma arna i g'wilydd drostoch chi, Wiliam Owan, yn scwrsio fel'na am y Beibil. 'Tyda ni'r Batis i fod i gredu'r Bebil i gyd, a'i neud o i gyd hefyd,' meddai Sian. Daliwch chi ati i lynu wrth y Testa- ment Newydd, Wiliam Owan, fyddwch chi ddim ymhell ohoni; ma'r ewbwl sy' arnon ni eisio i'w gael yno fo," meddai Robert Parri. 'Rwan, hogia," meddai'r dreifar, ma llawar o drefn wedi'i neud atr y byd yn yr hen gar yma-dan yr Hen Orchwyliath a'r Newydd hefyd. 'Dydw i ddim yn coelio fod car mor dalentog a fo yn Shir Fon. Ma' amball un go symol yn dwad iddo fo ar rai adega, ond ma' prif dalenta Penmorfa a Llan- dderwydd yno fo bob amsar os byddan' nhw mewn car o gwbwl. Dyna ydi'r rheswm, goelia i, mod i wedi medru trafaelio i Fangor ac yn ol am bum' mlynedd ar hugian, a dwad adra fel 'roeddan' ni'n cychwyn bob tro. 'Rwan, Robat Parri, 'rydw i am i chi fynd yn ol at Jona i neud trefn arno fo a'i hanas. Ma' rhywbeth o'i le yno fo heiddyw, goelia i. 'Tydi Jac Martin ddim yn darllan 'i Feibil, a ma'n anodd gin i goelio fod Sian Huws yma wedi 'i ddar- llan o'n iawn; a hyny, hwyrach, ydi'r rheswm nad ydi hi ddim bob amsar yn medrud 'i neud o'n iawn." 'Nei di gadw dy olwg ar y gasag yna, Wiliam Sion Ddafydd, a pheidio scwrsio cymint. Ma' 'ma ddigon 'blaw ti i scwrsio heiddyw. Fydd Ned Huws acw byth yn cael tynnu 'i olwg oddiar y ceffyl acw gin i, pan fyddwn ni ar y ffordd, rhag i rwbath ddigwdd. Ma' gin titha lwyth mawr heiddiw, cofia, a fasa'n arw o beth i ni frifo ar y ffordd," meddai Sian. 'Rydach chi'n ddigon cynhefin a brifo, Sian," meddai Jac Martin; "ydach chi'n cofio pan ddaru'ch ceffyl chi fynd ar 'i gefn i'r ffos a'ch pasingars chi dros ben y wal, a'r 'Hen Grydd' yr wsnos ar ol hyny'n deud i'r teithwyr gael 'u taflid i gae cyfagos, felsa gynnyn nhw achos diolch nad euthon nhw ddim ym mhellach." 'Nei di beidio cega," Jac Martin? Wn i ddim be' ma' rhai 'run fath a chdi isio ymhlith pobl barchus," meddai Sian. "Wei, my eye," meddai Jac, "ond sbiwch yma, Sian, dyma ddarn o'ch cerbyd chi fan yma 'rwan yn ochor v ffordd er pan fuoch chi mewn colishwn y tro dweutha." 'Rwan, hogia," meddai'r dreifar, "at y pwnc. Ma' Ned Huws a Sian mewn llong ddrylliada'n amal, a ma'n ddrwg iawn gin i am danyn' nhw. Ond sut buo hi ar Jona ydi'r cwestiwn, a mi fydd yn saffach heiddiw, goelia i, na throi o gwmpas petha sy'n nes aton ni. 'Rwan, Robat Parri." Rhoddodd Robert Parri grynhodeb byw o lyfr Jona, fel y medr gwr cyfar- wydd yn yr Ysgrythyrrau wneud. Gwrandawai pawb yn astud arno. Sian Huws yn unig edrychai yn gilwgus a siomedig. Criadur digri' oedd Jona, hefyd," meddai Betsan Wmffras. Rel trymp oedd o," meddai Jac Martin; "'toedd o ddim am fynd a'r llongwrs tlawd i'r gwaelod hefo fo 'run fath a rhai." Ond o ddifri,' Robat Parri," medd- ai Wiliam Owan, be' 'dach chi'n 'i feddwl o hanas fel'na 'rwan. Fedra i yn 'y myw 'i goelio fo. Mae o'n ym- ddangos i mi yn rhy debyg i hanas g'neud 'i fod yn wir." Wiliam Owan," meddai Sian, 'rydw i'n synnu atoch chi o bawb yn tynnu'ch enwad i lawr. Ma'n g'wilydd gin i mod i'n perthyn i'r un capel a chi." Wei, taw Sian, rho heddwch am funud," meddai Wiliam Owan. Ond nid oedd heddwch hir yn Ðosibl lie byddai Sian. Jac Martin gadd ffordd i roi taw arni. Safwch chi 'rwan," meddai Jac, ddaru chi ddim deud i Jona dalu'r ffar cyn cychwyn, Robat Parri." "Do, 'n taid," meddai'r dreifar. Cof- iodd Sian y rhagorai Jona arni hi yn y peth hwn. Yr oedd arni hi lawer ffar i Wil Sion Ddafydd, a bu yn ddi'staw tra fu Jona dan sylw. Falla cawn i heddwch 'rwan," meddai Robert Parri; deudsoch chi jest 'rwan, Wiliam Owan, fod hanas Jona'n rhy debyg i hanas g'neud i chi allu coelio 'i fod o'n wir? Wel, 'rydw i o'r farn ys blynyddoedd mai hanas gneud yndi o. 'Tydw i ddim yn edrych arno yn hollol 'run fath a chi, chwaeth. Fydda i yn hoff iawn o lyfr Jona. 'Tydi o ddim mymryn llai o werth am mai hanes gneud ydi o, oblegid y mae o wedi 'i 'neud i amcan. A be' ydi Damag y Mab Afradlon? Hanes gneud ydi hi, 'nte ? Mewn tipyn o hanas gneud ma'r tiwaredwr wedi dysgu gwirionadd mawr i ni. Ma' gwersi llyfyr Jona 'run fath yn rhoi gwerth arno fo. 'Roedd ar y proffwyd scrifennodd o eisio dysgu gwirionadd pwysg. Rhyw fath o ddamag, goelia i, i'r amcan yma ydi Ilyfyr Jona. Ma' rhai'n barnu fod rhyw hen draddodiad ar lafar gan yr Iddew-' on, fel ma' llawar o hen draddodiada gynnon ninna, a rhywfaint o wir o'r tu ol iddyn' nhw yn rhywle, hwyrach. Dichon fod rhyw Jona rywbryd wedi bod mewn helynt hefo pysgodyn. Hwyr- ach, ran hynny, fod rhyw hen bysgodyn mawr wedi Ilyncu rhyw Jona a wedi 'i chwydu o i fyny. 'Rydach chi'n cofio darllan yn y papyra am y pysgodyn mawr hwnnw yn llyncu dyn, a'r dyn yn cael 'i dynnu allan o'i fol o'n fyw dran- noeth? A 'marn i, ne o leia' y farn ydw i'n leicio ora, ydi fod yr ysgrifennydd wedi cymeryd rhyw draddodiad am ryw- beth felly, a gneud rhyw fath o ddamag ohono fo. Dalltwch mai nid Jona'i hun oedd yn ysgrifennu. Jona oedd yr Iddew cul, rhagfarnllyd, oedd yn credu na dd'lasa'r Brenin Mawr ddim gneud ffafr a neb, ond hefo fo'i hun a'i genedl. Mae awdwr llyfr Jona'n dangos Duw'n trugarhau wrth bobol ereill yn ogystal. Mae o hefyd goelia i, yn dangos cyn- dynrwydd dynion i 'neud gwaith y d'lasan nhw fod yn falch i gael 'i neud o dros Dduw, heb ffraeo a'r canlyniada fel daru Jona. Petha' fel hyn sy'n gneud llyfr Jona'n Ilyfyr byw iawn i mi. Gan nad beth ydi'n barn ni am dano fel hanes, tydi hynny nac yma nac acw; y gwersi sy'n bwysig." Chefis i 'rioed mo'r gola yna arno fo o'r blaen," meddai Wiliam Owan, "mi faswn i'n leicio cael y'ch 'sboniad chi ar lawar o betha yn yr Hen Desta- mant. (I barhau.)
Beirniadaethau
Beirniadaethau CYFANSODDIADAU LLENYD^P j OL EISTEDDFOD BEDLINOO, Mawrth y Pasg, 19-14. Deuddeg o awgrymiadau sut i ddiwygio'r Ysgol Sul. Derbyniwyd wyth dwsin o awgrym- iadau a llawer iawn o ddiwygiad yn- ddynt. Brychan.—Awgrymiadau digon da, ond mewn Cymraeg lied lapraidd. Gwerinwr. -Campus, ond gellid eu cyfleu yn fwy syml a byr. Amateur.—Go lew, ond nid cystal a Gwerinwr. Yr Elidir.—Syml ac ymarferol. Powysfab.—Craffus a gwerth gwir- ioneddol ynddynt. Gwyrfai.—Lied dda eto. Asiedydd.-Hwyr i law. Diffygiol mewn coethter. Carwr yr Ysgol.^—Byr ac i'r pwynt. Cymraeg diffygiol. Gwobrwyer Powysfab a Gwerinwr. Traethawd—" Purdeb Cymdeithasol." Daeth tri i law Eben.—Traethawd cryf mewn mwy nag un ystyr, a thwrf argyhoeddiad yn cerdded drwyddo. Nid oes yma ormod os digon o rodres llenyddoi. Ond nid oedd y testun yn gofyn am dano ychwaith. Gwennol. Y mae ar y traethawd hwn lawer o naws hyfryd a chrefydd- ol. Ond teimlem ei fod dipyn yn ben- agored. Cuddia'r maes yn weddol lwyr, ond cyll mewn dyfnder a threfn. Dylasai ganolbwyntio mewn rhywbeth o ran mater a chynllun. Idris.—Traethawd cyflawn, ac yr ymdroi o gylch bywyd yr oes hon. Cynhwysa hefyd awgrymiadau gwerthfawr ar y modd i wella cym- deithas yn y mater o burdeb. Wed. peth pryder gorfodir ni i rannu rhwng Eben ac*Idris. Ysgrif "Dyledswydd yr Eglwys yr wyneb yspryd ymchwylgar yr oes." Derbyniwyd tair ysgrif, dwy yn rh) hwyr ac un yn unig mewn pryd. Maelor.-Ysgrif deg ac yn cuddio't maes yn weddol gyflawn. Gallasa Maelor goethi tipyn ar ei waith a'i wella drwy hynny. Llai na'r lleiaf.—Ie, a'r diweddaJ o'r diweddariaid hefyd. Y mae e deilyngdod yn debyg i eiddo Maelor. Iconoclast. Dyma orchest lenydd. 01 yr Eisteddfod hon. Trueni ei fod yn hwyr. Ond deddf yw deddf. Gwyr hwn yn weddol gywir deithi a gor. ffwysfa meddwl yr oes, a chynhygia'n deg at eu cwrdd. Awgrymaf i'r Pwyllgor roi gwobr neulltuol i hwn, tra y caiff Maelor wobr y rhaglen. Penhillion Coffa: "Y Diweddar Thomas Evans. Wyth o ffynidwydd yr awen udodd uwch bedd yr anwylyn hwn. Anodd fa dewis y goreu gan mor gyfartal yr j oedd dau neu dri. Y Delyn Friw. Penhillion pryd- ferth a llawer o eneiniad arnynt. Nid yw edyn" yn gywir, ac unsill yw "syml" bob amser. Dan yr Ywen.—Ymedy hwn i radd- au oddiwrth yr hen fesurau, a cheir ganddo rai tarawiadau campus, ond nid yw'r hiraeth yn ddigon amlwg. Paham yr ysgrifennodd dymyno" am "dymuno," a "wi w" am "gwyw"? Ar y Mur.—Can hiraethus a gwedd- aidd ddigon, ond yn lied henaidd ei syniadau a'i harddull. Geneu'r Glyn.-Gloyw fel y dei- gryn, a gallasai yn hawdd ennill. Ond pam y sillebodd yntau "cyr- haeddest," "gwysg," ac yn wir "gennif" y modd y gwnaeth. Gweledydd. Y mae yn hon ryw gryfder nas ceir mohono yn y mwy- zfrif yma, ond rywfodd metha hon i'n clwyfo fel y dylai can o'r fath vneud. O'r braidd hefyd y mae'r cyfeiriad at y Ffrancod yn y dechreu yn gweddu yma. Ust y Bedd.—Dymunol ar lawer cyfrif, ond ni lwyddodd yntau i uno hiraeth a thine newydd a barddonol. Nodyn Lleddf. -Ceir ar hon eto lwydni ffigyrrau, awenydd yn nillad angladd yr hen amseroedd. Awel ym mrig yr Ywen.—Y mae mwy o newydd-deb a choethter yma nag yn yr un. Gallasai yntau fod yn fwy toddedig, ond efe yw'r goreu o ychydig. go llinell: Arwyr y Pegwm De- heuol. Dim ond dau anturiodd cyn belled. Cyscod y Bryniau.-Llinellau gl&n heb nemor anaf llenyddoi arnynt. Dipyn yn oeraidd a dôf efallai ar y eyfan. Franklyn. -Yn y mesur caeth (cywydd) y canodd ef, a da y gwnaeth felly. Can wirioneddol dda a'r naws priodol arni. Efe bia'r wobr. Thri Phennill, "Portha fy Wyn." Wyth yn cynnyg. Edwyn.—Digon lithrig, ond y mae yma gam-sillebiaeth. Ifor.—Rhywbeth tebyg eto. Dim digon ergydiol. Gwyliedydd.—Nid yw "Cristionog- eiddo" yn air cywir. Cristioneiddio sydd gywir. Min y Wawr.—Rhy hen o lawer yw "niwl ofergoeliaeth," "nos anwybod- aeth," etc. Novice.—Tyner iawn. Ond sylwed yr awdwr mor un-odlog yw'r penhill- ion drwyddynt. Bugail.-Esgeulus a dibris iawn gyda'i frawddegaeth. Carwr Diwygiad.-Penhillion dym- unol a chryfach na'r mwyafrif yma. Oenig.-Dyma'r ymgais oreu. Y mae yma well naws a mwy o ymlyniad wrth y testun. Gwobrwyer Oenig. Englyn: "Y Gragen." Daeth traeth cyfan o gregin i law. Sylwir arnynt fel y deuant i law. Gwylan ab Dan.-Prydferth iawn, ond "Y Gragen Deg" fyddai gywir- af. Macwyr'r Mor (i).-Nid ydym yn chwennych yr ail linell, ond englyn da. Columbus.—Amwys o ran cystraw- en. Macwy'r Mor (2).-Dim digon tarawiadol. Sisial Swyn. Nid yw "gainaf" yn gywir (geinaf). Rhwng y Tywod.—Y drydedd linell yn gelfyddydol o'r ddau. Llion.—Anghyson yw "ogof ac "anedd wen." Gwylan.—Gwan mewn cynghanedd. Albatross.—Y llinell gyntaf yn wan- llyd— "Swynol ferch craig yr eigion." Trem y Don.—Y drydedd linell yn wallus— "Ar ei sedd aur sua hon." Cydweli.—Englyn da ymhob ystyr. Gellid gwell y llinell olaf hefyd. Retired Sailor.—Dim digon deffin- iol o'r gragen. Rhys ab Dewi.-Anghofiodd dreig- lo'r gydsain yn "to" (a Madoc.—Nid yw y "fynor rudd yn ddisgrifiad cywir. Englyn da. Murmur Teifi.-Englyn da eto- gormod o "helynt" y gragen sydd yma. Ap Homer.—Englyn barddonol. H.J. Nid oedd alw am doddaid y tro hwn. Meddylgar.—Rhy anneffiniol. Ar y Traeth.—Lied dda. Gwobrwyer Cydweli. I CRWYS. 1
Advertising
t Cadewch Iml liarad a chwi am I Anhwylderau Nerfol I Mae ein giau fel gwe blethedig o m !=? ?'??????\?L-???????? c? wifrau'r pellebr. Rheolir a maethir ?? r???-J?'?? .??e?p  hwy gan ran o'r ymennydd adwaenir fel y canolfan gieuol. Dibynna cyflwr y canolfannaugif uol ar gyflwr yr iechyd corfforol. Pan amherir M? ?? Wr yr iechyd corfforol cyd-ddioddefa'r Mb <.? ? ?t nerfau. Yr adeg hynny y pcenir ni ??\  3 ? ?? gyda nerfau "-cur pen, niwralgia, ?? gwendid gieuol. Mewn achosion ? ? !!???"W ?? 'does dim tebyg i Wincarnis,' N??? "??.? ???? .? ? Gwin y Bywyd.' Mae Wincarnis' [ ? ?-j ? N yn fwyd cryf i'r nerfaa sy'n gweith- ???\   ?'  ?t redu'n union gyrchol ar y canol- N fannau nerfol ac a rydd iddynt V fywyd newydd a bywiogrwydd newydd. Mae'r canlyniad yn rhyfeddol. tjjjjjt Dechreuwch wellalirl HH RHAD Anfonwch am brawf-gostrel rhad o Wincarnis H -«d ei Bas 70 unig. ond digon i wneud Met. Amgauer tri stamp ceiniog (i dalu'r cludiad). COLEMAN & CO.. LTD.. W. 169, Wincarnis Works. Norwich. "Gwla y Bywyd" 1 Cymeradwyir gan dros 10,000 o Feddygon. J ORG^W I |/|^lLE^GRMy^^ 1 MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, > Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w ohael mewa tri:ffurf. No. I, George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2.-George's Gravel Pills (label las) No. 3.3eorge's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Peleni Byd-glodus hyn yn mhob: man,q mewn::Blvchau) l/ a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. Goohelwoh Dwy I lwyr I-Gofynwch yn eglur am "|George's Pills, a gwelwch eich bod yn eu cael. PERCHENOG- J. E. GEORGE, M.R.P.S., HIRWAIN, ABERDARE.