Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
COLOFN Y PLANT.
COLOFN Y PLANT. (DAN OLYGIAETH MOELONA.) Dyma i chwi restr o hen ddych- mygion (puzzles) Cymraeg. Mewn llawer rhan o Gymru, p6s yw'r gair am "puzzle." "Dyma b6s i ti," medd un llanc wrth y Hall. Yna edrydd y rhigwm, a cha'r Hall geisio dyfalu beth yw. Ceir llawer o ddi- fyrrwch gyda'r math hwn ar chwarae, yn enwedig pan fyddo hanner dwsin neu ragor yn chwarae gyda'u gilydd, a phob un yn rhoi p6s yn ei dro. Gan na fedrwch gario'r "Darian" gydach i ba le bynnag yr eloch, gwell i chwi ddysgu'r rhigymau. Rhoddir yr ateb yma ar ol pob dychymyg, felly bydd gennych gyfle da i ddangos eich gwy- bodaeth i'r plant llai ffodus sydd byth yn gweled y papur hwn. Hwyrach y cewch ragor ryw dro eto. Pren cam cwmws, Yn y coed fe dyfws, Yn y ty fe ganws, Ar yr helyg cysgws.—Telyn. Drwmbwl drambal draw'n y coed, Pedwar llygad ac wyth troed. —Caseg ac ebol. Beth a. yn wyn i'r lan, ddaw lawr yn felyn ?—Wy. Beth ddaw o'r ty a Hun cryman ar ei ol?—Ceiliog. Peth crwn fel cosyn, Duach na'r fran, Troedfedd o gynffon, A'i diwn yn y tan. —Tegell. Naw hen wraig a naw hen ddyn, Naw hen gwd ar gefn pob un, Naw hen gath ym mhob un o'r cydau, A naw cath fach gan bob un o'r cath. au. Sawl cath fach? Naw hen ddyn a naw hen ddyn, A naw cot fawr am bob hen ddyn, A naw coden ym mhob cot fawr, A naw cath wen ym mhob coden, A naw cath fach gan bob cath wen. Sawl cath fach? Naw hen wr a naw hen wr, A naw cot fawr gan bob hen wr, A naw poced ym mhob cot fawr, A naw cath fawr ym mhob poced, A naw cath fach gan bob cath fawr, A naw cynffon gan bob cath. Sawl cynffon? Ceiniog a cheiniog a hanner dwy geiniog a grot a phum ceiniog a thri- ¡ swllt. Pedwar swllt. Shoni go hir, A Shoni go ddeir, Yn tynnu'i gwt ato 1 Rhag ofan y geir. Abwydyn. Pren cam cwmws, Y saer a'i naddws, Y gof a'i cwplws. -Dryll. Un twll, can twll, heb un twll drwyddo.—G wniadur. Dyma restr arall o ddiarhebion :— i. Gwell Duw yn gar na llu y ddaear. 2. Nid glan ond glan ei galon. 3. Goreu adnabod, adnabod dy hun. 4. Ni omedd yr haul ei des i'r ynfyd a boer yn ei wyneb. 5. Deuparth gwaith ei ddechreu. 6. Cydwybod lân diogel ei pherchen. 7. Amlaf ei gwys amlaf ei ysgub. 8. Hawdd peri i fingam wylo. « 9. Y cyntaf ei 6g, cyntaf ei gryman. 10. Ami bai lie ni charer. II. Trydydd troed i hen ei ffon. 12. Gair Duw goreu dysg. —Bessie Phillips, 3 Shady Road, Ystrad Rhondda.
Siloh, Aberdar. I
Siloh, Aberdar. I DARLITH.—Nos Iau, y 14eg. cyf., bu y brawd amryddawn Ab Hefin yn diddori ac adeiladu cynhulliad lluosog am yn agos i ddwy awr yn y capel uchod drwy ddesgrifio yn fyw iawn "Y Ddwy .Wraig o'r Wlad." Cynrychiolid y gwragedd mewn gwisgoedd Cymreig ar yr esgynlawr gan Miss Winnie Davies a Miss Elizabeth Davies. Aethant drwy eu rhan yn wir gymeradwy gyda ehan a gwau hosan. Cadeiriwyd yn sir- iol a deheuig gan W. T. Evans, Ysw., Carmarthen Dairy. Cyflwynwyd diolch iddynt gan y Parchn. Leyshon Rees, J. D. Rees, D. A. Jones a J. Sul- gwyn Davies.
Advertising
"SARZINE" BLOOD MIXTURE CROEN IACH A GW AED PUR.- Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mix- ture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan Scurvy, doluriau, pen dynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac anmhur, mynwch botelaid o 'Sarzine Blood Mix- ture' gan y Druggist nesaf atoch, I/Ii a 2/6 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn ychwanegol, oddiwrth y perchenog, HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN- LLETH. t
I* Llyfrgell Gyhoeddus Aberdar.
I Llyfrgell Gyhoeddus Aberdar. t —— Yn adroddiad blynyddol y Llyfrgell- ydd cyfeiriwyd at y gwyn am brinder llyfrau Cymraeg yn y llyfrgell. Tueddai i fwrw'r bai am hynny ar ereill. Beiai'r cadeirydd weinidogion am eu difater- weh yn y cyfeiriad hwn. Awgrymai na chymerent y diddordeb yn y sefydliad a haeddai oddiwrthynt. Cyhuddid y gweinidogion dro'n ol am eu difaterwch ynglyn ag addysg yn y cylch mewn cyf- arfod cyhoeddus. Nid ydym am am- ddiffyn y dosbarth hwn oblegid credwn ei fod yn abl i wneuthur hynny drosto ei hun. Credwn fod y gweinidogion pan y'u dewisir ar bwyllgorau fel hyn yn cystadlu ag unrhyw ddosbarth am eu ffyddlondeb, ond, yn y blynyddoedd hyn ni cha gweinidogion y fraint o fod ar y pwyllgorau hejblaw ambell un sydd a chefnogydd selog iddo mewn safle fanteisiol i'w gynnyg. Os nad yw'r I gweinidogion ar y pwyllgorau nis gellir disgwyl rhagor oddiwrthynt na phobl ereill sydd tuallan. Byddai'n dda i'r sawl sydd yn chwannog i ddal ar bob cyfle i roddi lach arnynt i gofio hynny. Chware teg hyd yn oed i weinidogion yr Efengl. Y mae dwyn cam dystiolaeth yn eu herbyn hwy yn ddrwg cymaint ag yw yn erbyn pobl ereill. Y mae cyflwr y llyfrgell fel sefydliad- au daionus ereill yn y cylch yn dangos fod diffyg pwysig yn eu llywodraeth. Credwn fod gwreiddyn y drwg i'w 61- rhain i'r ysfa afiach sydd yn bod am swyddi. Y mae dynion anghymwys yn sychedu am swyddi, ac am eu hethol ar bwyllgorau ar draul cadw pobl gymwys allan. Wrth ddewis aelodau ar bwyll- gorau llyfrgell dylid cadw mewn golwg mai'r sawl wyr fwyaf am lyfrau yw'r cymhwysaf. Ofnwn na chymerir hynny i ystyriaeth a'r canlyniad yw y gwerir arian ar lyfrau nad ydynt o nemor budd i'r ardal nac yn ychwanegu dim at gy- meriad y llyfrgell. Y mae perygl mwy na hynny, sef i'r pwyllgor, o ddiffyg y wybodaeth angenrheidiol ei hunan, ei lywodraethu gan farn y Ilyfrgellydd neu gan ddau neu dri o'r aelodau gymer ar- nynt wybod mwy na'r lleill. Y mae dyn cyfyng ei gyraeddiadau yn gall mewn cylch anwybodus. Mewn cylch Cym- raeg fel Aberdar, lie y ceir digon o ddynion cymwys dylid Ilywodraethu'r Ilyfrgell gan ddynion sydd yn hyddysg mewn llenyddiaeth felly yn ogystal a changhennau ereill. Hyd yma, ym- ddengys nad oes un amcan uwch mewn golwg gan y pwyllgor na phrynu llyfrau i borthi chwaeth a boddio mympwy dos- barth o ddarllenwyr na fwriadwyd i'r Ilyfrgell ei wasanaethu. Prawf o hynny yw y sylw a ga Ilenyddiaeth o ansawdd y nofel a llyfrau moethus ereill, a'r es- geulusdra a ddanghosir mewn adrannau ereill. Tystiai'r cadeirydd mai geneth- od a bechgyn yw mwyafrif darllenwyr y llyfrgell hon. Onid oes awgrym yn hyn nad yw darllenwyr hynach sydd yn cymeryd diddordefc mewn llenyddiaeth fwy sylweddol nag eiddo ieuenctyd yn anwybyddu'r llyfrgell am nad yw'n dar- paru'n deilwng ar eu cyfer? Dyna ofyniad y dylai'r pwyllgor feddwl o ddifrif am dano. Llyfrau Safonol Cymraeg. I Y mae clod yn ddyledus i'r Cynghor- wyr Ogwen Williams a George Powell am siarad mor ddifloesgni yn y cyfar- fod blynyddol. Gresyn na fuasai ych- waneg o'u cyffelyb ar y Cyngor. Dy- wedodd Ogwen mai prinder llyfrau drudfawr Cymraeg oedd diffyg y llyfr- gell yn yr adran honno, ac ychwanegodd Mr Powell fedru ohono enwi 50 o lowyr a feddai lyfrgell Gymraeg well na'r un gyhoeddus. Y mae un peth yn ddiam- heuol nad oes neb ar y pwyllgor wedi talu sylw manwl i'r wasg Gymraeg er's blynyddoedd, os yn wir, erioed. Sais yw'r llyfrgellydd na chymer ddiddordeb o unrhyw fath mewn pethau Cymraeg. Ni wyr am lyfrau a gyhoeddwyd yn yr un dref ag ef, ac nid yw o lawer o bwys ganddo chwaith. Fel y try'r ysgolion i dalu sylw mwy i hanes lleol a chenedl- aethol, daw'r diffyg i'r golwg yn fwy- fwy. Wrth esgeuluso'r rhan hon o'r gwaith esgeulusir y ddyledswydd bres- sennol at yr oes nesaf. Ni ddaw'r cyfle eto i gael rhai llyfrau y bydd yr oes nesaf yn gofyn am danynt, ond oblegid fod y sawl sydd yn gyfrifol am y llyfr- gell yn anwybodus mewn llenyddiaeth Gymraeg nid oes gobaith y ceir fawr o ddiwygiad am hir amser oddieithr i'r pwyllgor gweithiol fod yn oleuedig a selog yn y cyfeiriad hwn. 0 dan am- gylchiadau fel hyn ni ddylid cwyno am fod y dosbarth mwyaf darllengar yn anwybyddu'r llyfrgell. Fel y sylwyd yn ddiweddar yn y "Darian," y He mwy- af anhebyg i gael llyfr prin a gwerth- fawr yw yn y llyfrgell hon. Os am bethau salw a rhad hwyrach y llwyddir yno. Ofnwn mai syniad isel fu gan y pwyllgor am amgyffred darllenwyr Cymraeg Aberdar. Gormod o Lyfrgelloedd. I Cytunwn a'r Cadeirydd fod gormod o lyfrgelloedd cyhoeddus dan nawdd y Cyngor. Buasai un llyfrgell ganolog a changhennau yn y ffurf o ystafelloedd darllen yn anrhaethol effeithiolach. Gallesid sicrhau gwasanaeth llyfrgeIl- ydd Cymraeg at yr un sydd yno a'r arian a rennir rhwng y canghennau i brynu llyfrau, a buasai gweddill syl- weddol mewn Haw i wario ar lyfrau safonol. Nid yw ymddiried y gwaith o ddewis llyfrau chwaith i bwyllgor a ddewisir mewn cyfarfod cyhoeddus yn foddhaol. Gwell fuasai dewis y pwyll- gor hwnnw i ddewis man bwyllgorau o'r rhai mwyaf tebygol yn y cylch i wybod am wahanol ganghennau, megis pwyll- gor o gerddorion i ofalu am lyfrau ar gerddoriaeth, pwyllgor o scientists i ofalu am wyddoniaeth, etc., a'u galw ynghyd unwaith y flwyddyn i ddethol llyfrau yn eu meusydd hwy wedi pen- derfynu ar y swm sydd i'w wario yn y cyfeiriadau hynny. I Cyhoeddiadau Enwadol. Gwelsom yr Haul ar y Bwrdd yn y gorffennol, ac yn ddiweddar daeth y Traethodydd yno. Hwyrach mai rhoddion ydynt, gan fod y pwyllgor yn glynu'n ddefosiynol wrth reol i beidio cefnogi Ilenyddiaeth enwadol. Y mae'r Ymofynydd yno am yr un rheswm. Methwn weled reswm yn y byd dros i'r pwyllgor wrthod prynu newyddiaduron wythnosol yr enwadau Cymraeg yng Nghymru na chwaith eu prif gylch- gronau. Y mae'r enwadau, o leiaf dri o honynt, yn gryfion yn y Cwm, ac yn cyfrannu'n drwm at y trethu. Pe'u cynrychiolid ar y pwyllgorau yn deilwng nid oes amheuaeth na phleidleisid dros wneud ffordd i'w newyddiaduron a'u prif gyhoeddiadau Cymraeg i ddyfod ar y byrddau ac i'r dreth dalu am danynt. Y mae'n ymddangos mai syniad hynod sydd gan y pwyllgor am lenyddiaeth en- wadol Cymru, sef nad ydyw yn werth yr arian a neillduir i sefydliad sydd yn amcanu at ddiwyllio meddwl a chymer- iad cymdeithas. Argraff gyffelyb ddyry'r byrddau am fam yr awdurdodau am bopeth Cymru. Hyd y gwelwn, nid oes ond dau neu dri o newyddiadur- on Cymraeg yn cael lie yno o gwbl. Lle'r ethnig a'r publican a roddir iddynt yn eu gwlad eu hunain.
I Colofn y Llyfrau.I
I Colofn y Llyfrau. I I GAN "WYDDONWY." I Mewn amryfusedd gadawyd allan o'i rhifyn diweddaf y cyfeiriad i'r hwn y dylid anfon gohebiaethau ynglyn a materion y golofn hon. Cyfeirier: Darian Bookroom, Aber- dare," a phan yn gofyn am ateb cirwy'r post cofied amgau llythyrnod ceiniog. D.P.—Nid yw Beiblau'r Porth Tywyll mor brin eto ag i ddisgwyl pris uchel am gopi hyd yn oed os bydd, fel y dywedwch mewn cyflwr da. Y ffordd oreu i gael allan werth presennol y llyfr ydyw ei ddangos i fasnachwr sy'n ymwneud- a hen lyfrau neu ar- werthwr o brofiad mewn hen bethau. Os oes ynddo lawysgrifen yn dwyn rhyw gysylltiad a rhyw ddigwyddiad hynod yn hanes gorffennol Cymru, neu yn cynnwys rhyw fanylion na wyddis yn gyffredin am faterion teuluol per- sonau o nod, bydd ei werth ar un- waith yn chwyddo rhai punnoedd. Ceisiwch gan gydnabod o lyfrwerthwr ei ddangos yn ei ffenestr i ddechreu. Mae yn bosibl y cewch gystal cyn- hygion felly ag yn unrhyw ffordd. Ni fyddwch waeth o dreio hynny. Yr ydym wedi derbyn cynnyg benthyg copi o "Ardd Aberdar ond hyd yn hyn nid oes neb am werthu. Os gwnaiff hyn y tro i J.G. ysgrifenned eto, a hydd yn dda gennym roddi'r cyfeiriad iddo. Gall J.J. gymeryd yr awgrym hefyd. Nid yw Mai yn rhy gynnar i feddwl am ardd. Gellir cael Llysieulyfr Price Cwm- llynfell gan unrhyw lyfrwerthwr neu newyddiaduron. Diau fod ynddo lawer o bethau gyfieithiwyd o ieithoedd eraill, ond y rhan fwyaf, gredwn ni, yn wreiddiol i'r awdwr ei hun, yr hwn oedd gampwr mewn llysieuaeth, ac yn nodedig drwy gylch eang iawn tu- hwnt i gyffiniau Cymru. D.J.B.E. — Yn ychwanegol at y llythyr anfonwyd atoch o restr o ddramodau Cymreig, gellir dweud fod Drama Gwyl Dewi (J. Davies), 2g., lyn un hynod o hawdd a difyrrus i blant ymgymeryd a hi. Cafwyd hwyl fawr arni gan blant amryw o ysgol- ion elfennol cylch Aberdar eleni. Mae wedi ei chyfansoddi yn arbennig i blant, a'i phwynt yn addysgol a gwladgarol. I bartion hynach, yn "amateurs" yn y gwaith, nis gellir gwell "Jac Martin, 7' ac yna "Die Shon Dafydd" ac "Eluned Gwyn Owen"- (gan Olygydd y "Darian")-i rai mwy profiadol. Dyna Bob Morgan" wedy'n (gan Mrs. Bassett, Gadlys). Mae Bob ac Eluned fel pe'n ymgys- tadlu am gael y mwyaf o "nights out" i ddangos eu hunain, ac i dorri "record" eu gilydd yn nifer eu per- fformiadau! "Asgre Lan" (R. G. Berry) a "Beddau'r Proffwydi" (W. J. Gruffydd) fydd y ddwy ddrama gys- tadleuol yn Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn hon. Drama ddifyrrus iawn wedyn ydyw "Ble Ma Fa" (D. T. Davies) yn nhafodiaith Cwm Rhon- dda, a "Gruffydd Llwyd (cyhoeddedig gan D. Davies, Ferndale). Ceir y rhai hyn i gyd am is. yr un-mor bell ag y {¡ cofiwn yn awr; a gellir eu cael drwy unrhyw ddosbarthwr o'r "Darian," neu drwy'r post oddiyma—" Darian," Bookroom, A' erdar. « Mr. Go].Mewn atebiad i D.J.E. am gwrs o "Electricity," os danfona i Registrar, International Correspon- dence Schools, Ltd., Kingsway, W. C. Ca lyfr yn ol yn rhoddi man- ylion am gwrs rhagorol mewn "elec- tricity." Neu os bydd yn well ganddo danfoned ataf fi yn bersonol.—Ydwyf, E. Rogers, 135 Turberville Road, 1i Porth. DAFYDD WILLIAM, LLANDEILO I FACH. I Mr. Got.Cefais fwynhad mawr wrth ddarllen hanes yr gwr da uchod yn v "Darian" am Mai 7fed gan y Gohebydd "Gethin." Gwelais gyfeir- iad ganddo fod Dafydd William wedi cyfansoddi marwnad dan y pennawd, "Dedwyddwch ymadawiad y cyfi- awn" i William Evans, Llangiwc, Morgannwg. A fydd Gethin garediced ag anfon copi o'r gan hono i mi trwy y post, neu trwy gyfrwng y "Darian." Os nad yw ganddo, a ddywed efe pa le y gellid ei chael, a byddaf ddiolch- gar iddo.—Yr eiddoch, Hirfryn, Ed- ward Street, Danygraig, Pontardawy. Mr. Gol.,—Mewn atebiad i J.J. gall- af anfon y balad, "Y Mochyn Du" iddo a "Drws y Seler." Hefyd, y mae gennyf amryw o lyfrau Cymreig ar werth yn rhad, megis "Ysgol Farddol" (Dafydd Morgannwg), newydd, dros- odd i 100 o rifynnau "Cymru" (0. M^ Edwards), y blynyddau cyntaf gyda'u gilydd, ac yn brin erbyn hyn. Gwerth- ir yn rhad.—Yn gywir, John Wynne Parry, 18 Tithebarn Street, Carnar- von, North Wales. O.N.—Gallaf ateb bron unrhyw gwestiwn ar hen lyfrau, ac y mae gennyf lawer o hen gerddi i'w gwerthu.- J.W.P.
IColofn y Gohebiaethau.
Colofn y Gohebiaethau. YSGOL HAF GYMRAEG ABER- HONDDU. Syr,—Mae sylw Pwyllgorau Addysg wedi ei alw eisoes at yr Ysgol Haf, ac y mae amryw o honynt wedi pender- fynu rhoddi ysgoloriaethau o ip. i 3p. yr un er cynorthwyo'r athrawon o dan eu nawdd i ddilyn y cwrs. Dymunaf yn awr ar gais Cyngor Cymdeithas yr laith Gymraeg alw sylw'r eglwysi at yr ysgol a'r fantais o gynorthwyo athrawon yr Ysgol Sul a sefydliadau ereill i ddyfod iddi. Cyd- nabyddir fod cadwraeth yr laith Gym- raeg yn fater pwysig i eglwysi Cym- ru, ac nid oes neb a w&d eu bod wedi gwneud eu rhan yn ardderchog yn y gorffennol, a hynny pan ystyrid y Gymraeg yn esgymunbeth yn yr ysgol- ion a phan ddirmygid hi gan awdurdod- au ein gwlad. Yn y gyfres ardderchog o ddarlith- iau draddodir yn Aberhonddu eleni bydd y Prif-athraw T. Lewis, M.A., a'r Proff. Joseph Jones, B.A., B.D., yn ymdrin a. Chymraeg y Beibl. Agonr yr wythnos gyntaf gan Mr. John Rowland, M. V.O. (Caerdydd), a'r ail wythnos gan Mr. J. A. Brad- ney, Y. H. Cymerir rhan yng ngwaith y pythefnos gan Syr Edward Anwyl, M.A., Proff. J. E. Lloyd, M.A., Mr S. J. Evans, M.A., Mr T. W. Berry, Mr John Griffith, B.Sc., Mr. Howell Howells, Mr W. J. Griffith, B.Sc., Mr Ifor Williams, M.A., Mr David Samuel, M.A., y Parch. Elvet Lewis, M.A., Mr. Roland Thomas, B.A., ac ereill. Mae'r rhestr hon o ddarlitljwyr yn wystl o waith dyrchafol ac o lwydd- iant y symudiad. Ond tybia llawer mai er mwyn athrawon yr ysgol ddydd- iol yn unig y cynhelir yr Ysgol Haf, ac nad oes a fynno neb arall a, hi. Camsyniad yw hyn, ac am hynny dymunaf hysbysu yn glir ac yn groew fod drws yr ysgol yn agored i bawb. Hyderaf y cymer yr eglwysi a chym- deithasau llenyddol y mater mewn Haw, ac ystyried y priodoldeb o dalu treuliau rhai o'u pobl ieuainc mwyaf addawol yn yr Ysgol Haf. Ni fydd y draul ond ychydig mewn cymhariaeth i'r lies a'r fantais a ddeillia mewn canlyniad. Ceir pob manylion pellach yn rhad oddiwrth yr ysgrifennydd- D. JAMES (Defynnog.) Treherbert. GWIBDAITH I ABERDAR. Syr,—Hyfrydwch i mi oedd cael ychydig seibiant yn fy hen gartref a lie y'm ganwyd. Rhyfedd iawn fel y mae Aberdar yn myned ar gynnydd gyda'i "Garden Cities" a'r Parciau, ac yn bennaf oil y tram car, sydd o wasanaeth mawr i drigolion y lie. Gyda'r holl welliantau yr oeddwn bron a methu adnabod "Brenhines y Bryn- iau" yng ngorsaf Abernant wrth fyned i Ferthyr. Cyfarfyddais a Mrs. D. M. Richards, Wenallt, a chawsom ymddiddan hynod ddiddorol ar Hyn- afiaethau Cymru, ac yr oeddwn yn falch dros ben fod ym mwriad y fon- eddiges hon i ymweled ag ardal Cyd- weli yr haf hwn er gwneud ymchwiliad i Faes Gwenllian, lie y lladdwyd dynes o wroldeb anarferol o'r enw hwn gan Maurice de Londres tua'r unfed ganrif ar ddeg (1100). Wedi hynny bwriada Mrs. Richards ymweled a'r castell, lie y rhydd anerchiad mewn perthynas a'r amgylchiadau, ac i ddiweddu ceir ychydig rydd ymddiddan ar hanes cyffredinol y gymdogaeth, yn neillduol ar Hen Eglwys y Plwyf, sydd yn hynod am ei hynafiaeth. Ni a hyder- wn y ceir cydweithrediad Cymdeithas Hynafiaethol Caerfyrddin a phobl gar- edig Cydweli er gwneud yr ymweliad yn berffaith lwyddiannus. Wedi vm- adael a Mrs. Richards ym Merthyr aethum heibio'r Castle Inn, lis bu terfysg mawr yn 1831, y rhai a gyfrifid yn brif derfysgwyr oedd Lewis yr heliwr a Richard Lewis, a adnabyddid fel Dic Penderyn. Cafodd y blaenaf ei alltudio am 15 mlynedd, a'r olaf ei grogi. Yr oedd digon o dystion a wnelant eu llw nad oedd Die Pen- deryn yn euog o fod a rhan yn y ter- fysg o gwbl, ond darfu i deiliwr ac eilliwr o'r lie dyngu yn ei erbyn yn y llys, ac ar eu tystiolaeth hwy crog- wyd ef. I fyny gyda'r gerbydres i Ddowlais, lie y cymerodd un John Guest, White Horse, Broxby, swydd Stafford, ofal ffwrnais fechain yn 1760. Marchog- odd ar gefn caseg lwyd o Broxby i Ddowlais. Yn gydymaith iddo yr oedd hen was i'r teulu o'r enw Ben Guest. Wei, dyma John Guest, Ben y gwas, a'r gaseg lwyd yn Nowlais. Ei fab ydoedd Thomas Guest, yr hwn oedd bob amser yn ufuddhau i hyfforddiad englyn Ieuan Brydydd Hir: "Agor dy drysor, dod ran-trwy gall- wedd Tra gellych i'r truan; Gwell ryw awr golli'r arian, Na chau'r god a nychru'r gwan." Rhaid ymatal am y tro hwn er cystal yw myned dros yr hen hanes.—Yr eiddoch, etc., T. E. DAVIES. Gwesty y Seren, Trimsaran, Cydweli, Mai 7, 1914. O. N. Gan fod yr hin yn wlib nid anyddorol fyddai a ganlyn y clywais fy nain yn ei adrodd "Gwlaw mis Mai gore na'r bai, Gwlaw mis Mehefin a gwyd yr egin. —T.E.D. DIFYRRWCH GWYR BERDAR. Mr. Gol.Wi'n siwr yn bod ni i gyd yn timlo'n ddiolchgar iawn i ddoethion Berdar am roi i ni dicyn o ddifyrrwch yn u cyfarfotydd a'u pwyllgora. Gwetwch chi a fynnoch chi ma'r bechgyn hyn yn meddwl pethach mawrion. Ma nhw weti pendarfynu un un peth i dreio cal rhyw ffordd i ddifa'r lluwch sy'n dwad orwrth y distryctor i Gae Maes y Dre yn lie bo ni 'n gorffod i fyta fa. Ond beth am y lluwch sy'n dwad orwth y motor-cars ar yr hewlydd erill, a dynon yn ffeulu i catw u drysa na'u ffenestri 'n acor i gfil ticyn o awyr iach rhag i faw'r hewl lanw u tai nhw. A ry'ni'n gwpod pwy faw sy ar yr hewl. Wir dos gen i ddim stumog i fyta llawar o bethach sy yn ffenestri siopa'r dyddia hyn o achos y baw sy'n mynd arno fa oddar yr hewl pan ma motor cars y gwyr mawr yn mynd hibo. Fe ddylsa y bechgyn sy ar Gyngor Berdar neud deddf i gosbi pob un gotiff luwch wrth baso, a mynd yn ddicon slo sy isie i atal y lluwch yn y fan lie ma fa. Ma'n dda gen i fod gopath y cawn i adfertismants ar dramcars Berdar. Ma'r Cyngor weti rhoi adurdod i bwyllgor y difyrion i adfarteiso u cyngherdda arnyn nhw, a rw i'n gobitho nag yw hyn ddim ond dechra. Fasa'n well gen i fel un gal adfarteis- ments ar y tramcars na chal 'y mlingo am drafaelu ynddyn nhw. Ma nhw'n ddigydwybod o uchal u pris. Ma'r cyngor felsa nhw'n meddwl fod gwyr Berdar yn gallu coti arian oddar yr hewl i dalu am fynd gyta'r car. On i'n synnu at Mishtir Stonelake, a 6n i ddim yn synnu hefyd wath ma fe'n Soshalist, i fod ein gwrthwynepu ys- gafnhau ticyn ar faich y trethdalwrs a'r dynon sy'n trafaelu gyta'r cars. Dôdd e ddim yn leico gweld cymint ag atnod yn cal i hadfarteiso ar y cars. Wei wi yn i gretu fa, wath dyw ad- nota ma'n amlwg ddim yn dygymod a'i gylla fa. Fydda i'n leico yn 'y nghalon darllan am amball i ffrwgwd fach ma'r cownslars yma'n gal witha yn u cyfarfotydd. Cofiwch chi nawr dos yna byth ryw lawar o ddrwg yn cal i neud, dos na ddim byd gwath na bwcwth cwpwl o glowts idd u giddyl yn mynd ymlan yno. On i'n cal clywed yn y cyfarfod diwedda fod Mr. L. N. Williams wedi bod yn bwcwth rhoi eitha grasfa, ys gwetodd gwyr Shir Gar, i Mr. T. W. Williams ar ol rhyw gwrdd o gyfarwyddwyr yr Ysgol Sir, a fod Mr. T. W. Williams ddim weti sefyll i dr. Ma'n debyg taw eitha ymladdwr yw L. N., a byse fa'n gallu wado T. W. yn lluwch. Fyse fe ddim yn bosib nawr i drefnu batl yn rhywla rhwng y ddau er mwyn i'r plant gal gweld cyfarwyddwyr u haddysg nhw'n ffenso. Ond y pwyllgor mwya talentog o holl bwyllgora'r Cyngor yw Pwyllgor y Parcia. Chi allwch fentro u bod nhw'n mynd i neud arian nawr, os c&n nhw gefnocath y Cyngor. Ma nhw wedi penderfynu cael ymdrochi cym- ysg (mixed bathing) yn nhrochfeydd y Pare. Hynny yw, welwch chi gatal i'r bechgn a'r merched i ymdrochi gyta'u gilydd. Hen "wags" yw'r pwyllgor hyn hefyd. Ma nhw'n rhyw specto y daw mwy o fechgyn a merched at u giddyll dim ond iddyn nhw g&l gweld u giddyl yn hannar noeth yn y dwr. Ma nhw'n gwed y bydd raid iddyn nhw wisgo'r "university costumes"- ta beth yw rheiny. Ond gan fod y pwyllgor wedi mynd mor bellad a gatal iddyn nhw ymdrochi gyta'u giddyl er mwn u tynnu nhw yno, pam na fasan nhw'n mynd dicyn bach pell- ach a gatal iddyn nhw ymdrochi'n noeth lymyn. Ond dyna falla nag odd y pwyllgor ddim yn leico mynd yn rhy bell ar unwaith. Yn ara deg ma mynd ymhell. Mi ddylswn wed taw am fis ma'r cynllun hwn i fod ar brawf, ag os na fydd a'n talu falla bydd rhyw gynghorwr mor garedig a galw sylw fod gormod o wisg yn tynnu oddiwrth fwynhad y droch ac yn milwrio yn er- byn llwyddiant y cynllun. DYN AR YR HEWL.
Y GEIRIADUR NEWYDD. j ¡
Y GEIRIADUR NEWYDD. Syr,—Ofnaf nad oedd gan eich adolygydd gopi o'm Geiriadur wrth law pan yn disgrifio ei gynnwys. Dywed mai "dyddorol" yn unig a roddir gennyf. Dichon hynny yn llythrennol, ond troer i dudalen 91, a gwelir "diddordeb, etc, the restored spelling of dyddordeb, etc." Lluosog, yn unig sydd gennyf, meddir, tra mai "Uxosog" a geir gan Tecwyn. Rhyngddo ef a'i fusnes am hynny, ond os troir i dudalen 159, ceir" lliosog, etc.-Iluosog, etc." "Lluosog" yw'r ffurf a geir yn y "Llyfr Gwyn," a hi yw'r unig ffurf a gydnabyddir gan yr Athro bellach. Eto, "Ceir yma eto 'lluaws'—'lliaws,' tra nad yw Tecwyn yn cydnabod ond 'lliaws' yn unig." Camliwir hyd yn oed yn y fan hon. Cyflinellau a geir gennyf fi, yn cyfeirio'r ymofynnydd at y ffurf gywir- af, megis gyda "lliosog." ,Gwirionedd i'w gredu, ac nid i'w amgyffred, i'r Cymro cyffredin yw paham y mae "lluosog" yn gywir a "lluaws" yn anghywir, ac er y gwn yr esboniad, nid af i'w gyfleu yma. "Gall ysgrifen- wyr, mae'n debyg, gan fod dealltwr- iaeth rhwng Golygydd y Geiriadur a'r Athro J. Morris Jones, ddilyn y Geiriadur pan yn gwahaniaethu oddi- wrth 'Tecwyn,' 'Y Beirniad,' a'r 'Welsh Orthography, heb fod yn agored i'w condemnio, hyd yn oed pan yn ysgrifennu 'Athraw,' oblegid y ffurf hon geir yn y Geiriadur. Mewn difrif calon, beth a awgryma hyn i'r darllenydd cyffredin ond nad yw "Athro" ynddo? Troer i dudalen 26, wrth droed yr ail golofn, a cheir ef mewn dau le. Ond nid wyf mor sicr bellach o berthynas i annilysrwydd A thraw, er pan gyhoeddwyd "Glossary of Mediaeval Welsh Law" yr Athro Timothy Lewis. Gweler yr hyn a ddywed ef o dan y gair Athro," "Athraw" (tudalen 32). Rhydd i'r adolygydd ei farn, fel pawb arall, ar gynnwys y llyfr, ond nid rhydd idddo ef na neb arall ei gamddarlunio.—Yn bur, BODFAN. [Yr oedd gan yr adolygydd gopi o'r Geiriadur newydd wrth law, ac nid oedd dim yn yr hyn a ysgrifennodd yn awgrymu fod ynddo unrhyw ddiffyg o bwys, a chynghorodd ddar- llenwyr y "Darian" i'w brynu a gwneud defnydd o hono wrth ys- grifennu. Beth bynnag gwelwn oddi- wrth y llythyr uchod fod ynddo ddi- ffygion y dylesid eu cywiro yn ddioed. Gwelir fod "diddordeb" mewn un lie a "dyddordeb," "dyddori," a "dydd- orol" mewn lie arall, a hynny heb gyfeiriad yn y naill le at y llall. Os yw "diddordeb, fel y dywedir ar du- dalen 91, yn "restored spelling of dyddordeb paham v gosodwyd "dyddordeb" yn y llyfr o gwbl. Ceir yr un diffyg eto ynglyn a "lluosog." Dylasem, mae'n wir, fod wedi sylwi ar y "cyflinellau" ar ol "lluaws." Ond paham y gwahenir gwahanol ffurfiau i'r un gair, megis "lliosog" a "lluos- og" oddiwrth eu gilydd heb awgrym fod ffurfiau eraill i'w cael? Yn sicr dylasai ffurfiau sy'n peri cymaint blin- der a chymysgedd fod gyda'u gilydd mewn geiriadur ynghydag awgrym pa un fyddai'r goreu i'w defnyddio. Pan yn troi at "lluosog" nid oes yno ddim i awgrymu fod "lliosog" mewn lie arall. I bobl gyffredin sy'n ceisio ysgrifennu y mae y gym- ysgedd sydd yn orgraff yr athrawon eu hunain yn boenus, y perygl yw iddynt fynd ymlaen i ys- grifennu yn eu ffordd eu hunain, a gadael rhwng yr athrawon "a'u bus- nes. Gyda golwg ar ein cyfeiriad at "ysgrifennu Athraw," yr oeddem wedi sylwi fod "Athro" ynddo, ond oher- wydd brys neu rywbeth ysgrifenasom —" y ffurf hon geir yn y geiriadur" yn lie "ceir y ffurf hon yn y geiriadur," a, chan y cydnabyddid hi yn y Geir- iadur, tybiem na fyddai angen i ni gyfnewid "athraw i "athro" bob tro y digwyddau mewn gohebiaeth. Yr oeddem o barch i'r Geiriadur wedi dechreu defnyddio "athraw" yn unig yn y "Darian er mwyn unffurfiaeth, ond eisioes gwelwn nad yw golygydd v Geiriadur mor sicr bellach o ber- thynas i annilysrwydd "athraw a rhaid i ninnau fynd yn ol at "the older and correcter form—athro."— Golygydd.]
Advertising
I ESTYN EICH OES Bwytewch ac yfwch yn gymhedrol, ond os digwydd annoethineb, gellwch ym- ddibynnu bob amser y bydd i PELENI LLYSIEUOL KERNICK lanhau'r cyfansoddiad, cryfhau'r nerves, iachau diffyg traul a rhwymedd, a gwneud y croen yn glir a glan. Y mae miloedd na chymerant unrhyw feddyginiaeth arall. Gwerthir mewn blychau 1/11 a 2/9 gan yr holl Fferyll- wyr. ARCRAFFW A ITH. Am bob math o Argraffwaith ymo- fyne:' yn Swyddfa'r Leader a'r Darian, 19, Cardiff Street, Aberdar.