Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Ar Lannau Tawe. I

News
Cite
Share

Ar Lannau Tawe. I Gwelais aelodau Dosbarth Llysieueg Clydach dan arweiniad Mr W. C. Llew- elyn. yn cychwyn ar un o'u crwydriad- au i Jersey Marine prynhawn y Sadwrn diweddaf. "Clywais i aelodau'r gangen ieuanc o Gymdeithas Ddirwestol Merched Clyd- ach a'r Cylch fwynhau eu hunain pan u grwydr dros Mynydd Gellywastad pryn- hawn y lau diweddaf. Deallaf bod Eglwysi Cwm Tawe wedi dechreu symud mewn cydymdrech er dylanwadu ar y South Wales Transport Company i atal rhedeg eu busses o Ynisforgan i Ynismeudwy ar y Sabath. Cynhaliwyd cyfarfod o gynrychiolwyr yn Ysgoldy Calfaria, Clydach, yr wytli- nos diweddaf er mwyn rhoddi cyfleus- dra i drin y inater. Llywyddodd y Parch. T. Valentine Evans, a daethai tua hanner cant ynghyd o Gwmrhydy- ceirw i fyny i Bontardawe. Siarad- wyd yn gadarn yn erbyn rhedeg y busses ar y Sabath, ond nid oes gennyf rhyddid i roddi y penderfyniadau i'r cyhoedd. Er paratoi am y gymanfa ganu flyn- yddol cynhaliwyd rehearsal gan Obeit'i- luoedd Bedyddwyr Treforis a'r cylch yng Nghapel Calfaria, Clydach, y nos Sul o'r blaen, dan arweiniad Mr W. Daviest (Cwmrhydyceirw). LLEW.

Ail Grwydr " Mabinogion "I…

IAbercrave -a'r Cylch.

Ferndale. I

INodion o'r Gogledd. I

Port Talbot.I

I i Nelson.I

Advertising

Undeb y Cymdeithasau I Cymraeg…