Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Beirdd y Bont. (Parhad.)

News
Cite
Share

Beirdd y Bont. (Parhad.) GAN "BRYNFAB." GLANFFRWD. Dichon y bydd rhai yn ameu fy bawl i enwi Glanffrwd ym mhlith beirdd y Bont. Ond credaf fod gennym ni fwy o hawl iddo na neb arall. Mae man ei enedigaeth ym Mhlwyf Llan- wynno, ac yr oedd Pontypridd yn Llanwyano yn nyddiau Glanffrwd. Heblaw hynny bu y bardd yn byw yn Nhrehafod-lle sydd ym Mhlwyf Pontypridd o dan yr oruchwyliaeth newydd. Yr oedd Glanffrwd yn lied ieuanc pan ddeuthum i gyffyrddiad ag ef gyn- taf, a lied debyg mai mewn Eistedd- fod y bu hynny. Yr oedd ar y pryd yn ysgolfeistr ym Mhenygraig neu Don- ypandy. Nid wyf yn cofio pa un, ac ni waeth am hynny. Yr oedd wedi dech- reu barddoni y pryd hwnnw, ac wedi dechreu ennill gwobrwyon hefyd. Daeth i'w lawn dwf fel bardd yn ieu- anc, a chipiai y prif wobrwyon yn yr I Eisteddfodau oddiar yr hen gewri. Nid oedd ond lied ieuanc pan y rhannwyd y wobr am y bryddest ar "Ardd Eden" rhyngddo ef ac Is. lwyn yn un o Eisteddfodau enwog Alban Elfed, Aberdar. Synnai rhai ei weled yn gyfochrog ag Islwyn. Dewi Wyn o Essyllt oedd y beirniad, ic nid oedd perygl iddo ef ddyfarnu llai na'i gyfran i Islwyn. Wedi i Glan- ffrwd roi heibio addysgu plant, ac ymgymeryd a dysgu dynion mewn oed yn Siloam, Trehafod, ni roes heibio gymdeithasu ar awen. Yn ystod ei arosiad yn Nhrehafod, bu Eisteddfodau poblogaidd iawn yn Siloam ar Wener y Groglith. Ychydig flynyddoedd yn ol cafwyd disgrifiad rhagorol o un o'r Eisteddfodau hynny gan Tawe yn y "Genhinen." Yr wyf yn cofio yn dda am yr wyl y soniai am dani. Yr oedd Glanffrwd y pryd hwnnw, fel y dywedai Tawe—"yn ddyn ieuanc glandeg ei bryd, lluniaidd ei gorff, a ffraethbert ei ddawn." Soniai Tawe hefyd am Glanffrwd yn trefnu y merched ar y llwyfan, ac Afaon Eryri yn ei asbri cynganeddol yn ei alaw yn "ring leader" yr "young ladies." A rhyngoch chwi a minnau bu y bardd yn efelychwr gwych o Ddafydd ap Gwilym hyd nes iddo gael ei hun yn y "cwlwm dyrus." Tua'r adeg yma cyhoeddodd Glan- ffrwd lyfryn swllt o'i weithiau o dan yr enw "Sisialon y Ffrwd," ac ni fu neb ag ynddynt dipyn o yspryd llen- yddol a barddonol yn hapus nes prynu a darllen y llyfr Pan lyngcodd Glanffrwd athraw- iaethau y namyn deugain ond un erthyglau Eglwys Loeger, esgynnodd yn fuan i fri uchel yn yr holl gylch- oedd Cymreig. Nid oedd yn Eglwys y Plwyf nac yn yr Eglwys Gadeiriol well pregethwr nag ef, ac, yn sicr, nid oedd ym mhlith holl offeiriaid y wlad well bardd nag ef. Yr oedd yn bleser ei wrando yn siarad-yn Gymraeg neu yn Saesneg. Llefarai yn bwyllog bob amser, a thaflai ei eiriau fel trydan i'w wrandawyr. Dywedai Dewi Harran am dano unwaith: "Dy gynlais sy'n dy ganlyn-i lys- oedd Eglwysig fel telyn; Tywys wnei ami bentewyn 0 res gwae yn dy "grys gwyn." Wedi iddo fyn'd i wasanaethu i Eglwys Gadeiriol Llanelwy, ni anghofiodd Forgannwg, ac ni anghofi- odd Bontypridd. Mynych y gelwid arno i feirniadu ac i arwain yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol, ac ni fu gwell arweinydd nag ef o hynny hyd yn awr. Cymrai ormod o ofod i nodi y gwobrwyon a enillodd yn y gwahanol Eisteddfodau. Ond rhaid nodi ei fuddugoliaethau ym mlwyddyn y Jubili—yn Llundain a Phorthmadog. Yn Llundain enillodd ugain punt am ei bryddest ar "Yr laith Gymraeg," ac ugain punt arall am ei bryddest ar y "Frenhines Victoria" ym Mhorthmadog. Ym Mhorthmadog, hefyd, enillodd ar beth newydd dan haul, sef traethawd Saesneg yn eg. luro "y pedwar mesur ar hugain Cerdd Dafod," gan roi enghreifftiau • o bob mesur yn yr iaith fain. Yr oedd hynny yn fwy o orchest nag a anturir gan neb byth eto. Nid oedd Glanffrwd yn nemor o gynganeddwr, ac oherwydd hynny ceisiodd gan bed- war ar hugain o'i gyfeillion i roi pobo bennill Saesneg—o'r englyn "Unodl Union" hyd y "Tawddgyrch Cad- wynog." Dyna brawf ei fod yn credu yn y ddiareb honno—" Os na bydd gryf, bydd gyfrwys." Ond nid fel bardd a phregethwr yn unig y disgleiriai ei athrylith. Yr .oedd yn nofelwr gwych, a chyhoedd- wyd amryw o'i eiddo yn y Gwlad- garwr," ac yn "Nharian y Gweithi- wr" wedi hynny. Un o'r chwedlau mwyaf doniol a ddarllenais erioed oedd "Morgan Lam Morgan o Ben- craig yr Hesg." Nid oes yn yr iaith well honno yn ol ei hyd. Gresyn na fyddai modd cael gafael arni i'r oes hon gael ei mwynhau. Dywed ei fab Erbin nad oes ond darnau o honi gan- ddo ym mhlith llawysgrifau ei dad. Ond tebyg fod ambell lyfrbryfyn ar hyd y wlad yn feddianol ar rifynnau o'r "Gwladgarwr" am y cyfnod yr ym- ddangosodd. Rhaid chwilota am dani, ac wedi ei darganfod ni fyddwn yn hir cyn cael caniatad Ap Glanffrwd i'w cyhoeddi yn y "Darian." Chwedl yn disgrifio uywyd gwledig yn ei blwyf genedigol ydyw. Mae yn tra- fod dull yr hen ysgolfeistri gwledig o addysgu y plant, ac yn disgrifio y dadleuon rhwng yr hen ddoethion yn y Festri a'r Cwrdd Plwyf. Mae ym mhell dros ddeng mlynedd ar hugain oddiar pan y darllenais y chwedl, ond nid wyf wedi gorffen chwerthin am ben rai o'i ddarluniau. Dywedai rhyw frawd mewn cwrdd plwyf bethau rhy gryfion am gymydog iddo, a hawliai hwnnw "apology," ond ni wyddai neb yn y cwrdd beth oedd y fath estron- beth, a'r dychymyg agosaf am dano oedd-ei fod yn rhywbeth tebyg i fasged. Mae ei lyfr, "Hanes Llanwynno," wedi ei ail argraffu yn ddiweddar, ac wedi bod dan sylw gennyf fel na raid i mi ond crybwyll am dano yma wrth fynd heibio. Mae yn rhyfedd i mi fod Glanffrwd wedi ysgrifennu pethau mor ddigrifol, oherwydd nid oedd nemor o'r elfen ddigrifol yn ei awen. Yn wir, i ddyn dieithr iddo \mddanghosai yn un difrifol iawn. Ond ym mhlith cyfeillion yr oedd ei ddigrifwch yn byrlymu allan. Difrifwch a'i nodweddai fel bardd, a ffraethineb a nodweddai et ysgrifau rhyddieithol. Yn hyn, yr oedd yn wahanol i'r mwyafrif o'r fiawdoliaeth farddol. Y darn tebycaf i gan ddigrif o'i eiddo yw honno, "Agoryd un a chau y llall," a dyma hi: 'Roedd Dafydd y Gwladwr, un waith, A'i benelin i maes trwy ei hugan, Ac nid oedd yn hofli y ffaith, Edrychai'n anniben ac aflan; Ond gan nad oedd defnydd gerllaw, Na 11awer o arian i'w gwario, Meddyliodd a threiodd ei law Ar dorri ei lewis i'w thrwsio. Ond wedi rhoi darn ar y twll, Neu'r twll dan y darn, fel y mynner, Daeth gofid ar Dafydd o'r Pwll, Fod ei freichiau yn noeth hyd eu hanner, A phob un yn gofyn mewn gwawd- "Wel, Dafydd, pa sut i chwi heddy? Mae'ch hugan yn edrych yn dlawd, Rhyfeddol mae'ch breichiau chwi'n tyfu Aeth Dafydd yn ol tua'r ty Yn sal iawn oherwydd y dirmyg, Eisteddodd ac yno lie bu'n Cynllunio i wella y diffyg O'r diwedd fe drodd yn ei ben I'w gwella o gynffon ei hugan, A braidd na ddiolchodd i'r nen Fod eilwaith ei lewis yn gyfan. Mae llawer un yn treulio'i oes Yn debyg iawn i Dafydd, Yn cau hen fwlch gofidiau croes A chreu gofidiau newydd; Neu ynte'n creu bwlch newydd wrth Ystwffio'r hen i fyny, Nid rhyfedd fod ei. wedd yn swrth, Mae'n fylchau gyd fel hynny. Un gAn fechan eto, "V Pren Almon." Enillodd y g&n hon mewn Eisteddfod yng Nghwm yr Aber dros ddeugain mlynedd yn ol, pan oedd ei hawdur yn laslanc, a phan nad oedd twrf masnach wedi torrri ar y lie a elwir yn Abertridwr yn awr. Pan fyddo mis Ionawr yn taenu Oer fantell o lwydrew ac ia, A gwyneb y ddaear yn rhynnu Dan ddeifiol anadliad y chwa; Pryd hyn y pren Almon chwerthina Yn serchus uwch prudd-der y byd, A mantell o flodau lliw'r eira Yn cuddio'i ganghennau i gyd. Mae'r gaeaf a'i oerni difaol Yn wanwyn cynhyddol i hwn, Ac erbyn y gwanwyn priodol Fe'i gwelir yn gwywo dan bwn; 0 ffrwythau melusion ac aeddfed, Fel offrwm i Ebrill a'i des, i Neu'r ddaear yrt anfon ei theirnged Fr huan am wanwyn a gwres. Ei enw sydd fyth gysegredig Er oesoedd boreuaf y byd, Cadd le mewn hanesiaeth Eglwysig, A pharch uwch y prennau i gyd; Yng nghell y dystiolaeth pan ydoedd Y gwiail yn gwywo bob un, Gwialen o gangau'r pren Almon I Aaron flodeuodd yn gun. Mae yntau, y dyn, yn blodeuo Wrth nesu at ymyl ei fedd, Rhosynnau ei ruddiau sy'n gwywo Hoenusrwydd sy'n gadael ei wedd; Ond eto ei ben a flodeua Yn llwydrew dif&ol y glyn, Tros ymyl y bedd fe ddisgynna, A blodau'r Pren Almon yn wyn.

i Meddyginaeth i'r Miloedd.

IGymraeg.I Y Gymraeg.I

Seven Sisters.I

Advertising