Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
COLOFN Y PLANT.
COLOFN Y PLANT. (Dan Olygiaeth Moelona.) HANES, A DAMEG, AC EMYN. Cyn amser y Frenhincs Elisabeth yr oedd cyfenwau (surnames) y Cymry yw cynwys achau hirion- rhes o enwau, megis Hywel ab Ifan ab Morgan, Huw ab Gruffydd ab Llwyd ab Ifor, etc. Fel y gwyddoch yn ddiameu ystyr ab neu ap yw "mab." Yr oedd y cyfreithwyr a'r ustusiaid Seisnig a ddeuai i Gymru i weinyddu y gyfraith yn myned yn gynddeiriog wyllt yn crbyn yr achau hyn, gan na fed rent hwy ddim seinio yr "ch" a'r 11" na chofio yr enwau persain oedd yn dolennu'r gadwen. Dywedir fod rhyw ustus yn amser Harri YIII. a flinid yn fynych gan yr achau hyn, wedi apelio at y Cymry am iddynt trwy ryw fodd fyrhau eu henwau ac i amryw ufuddhau i'w gais. Ond yn yr Eisteddfod fawr a gynhal- iwyd yng Nghaerwys yn 1568, trwy orchymyn a dirprwyaeth y Frenhine's Elisabeth, rhoddwvd gorchymyn i'r Cymry gymeryd ac ymarfer a chyf- enwau teuluaidd, cyffelyb i gyfenwau deiliaid ereill ei Mawrhydi. Felly y bu. Cymerodd rhai enwau ar ol eu tadau, megis Dafydd Sion a Morgan Ifan; ereill yn ol fel eu gelwid cyn hynny, megis Rhys Fawr a Sion YYyn, ac creilll oddiwrth y rhannau o'r wind a drigiannent, megis Huw Gonwy a William L!yn. Cyn hynny, fel y dywedwyd, nid oedd gan y Cymry gyfenwau, eithr dangos ach a bonedd a wnelid, a'r lie ni cheid hynny, dodid unrhyw enw fel y cydnabyddid ef yn y llys brenhinol, ac am hynny y dywedir llvs enw. Wedi dewis yr enw newydd rhoddid ef ar bapyr i'r swyddog gydag envv 'r drigfan a cheiniog; yna dodid yr enw ar "register" y llys. ac o hynny allan adwaenid y person a'i dylwyth dros byth wrth y cyfenw hwnnw. ,Ior g an ei "gIeffyi Cyfrwyodd Rhys Morgan ei. geffyl er mwyn mynd ar neges i'r dref. Pan ar gvclnvyn gwelodd fod hot'len yn eisieu ar un o bedolau'r ceffyl. "Waeth imi heb dreulio amser i'w rhoi yn ol yn awr," ebe ef. Wna un hoelen ddim llawer o wahaniaeth." Pan o fewn tair milltir i'r dref, syl- wodd Rhys fod y ceffyl wedi colli 'r bedol. Hwyrach mai gwell fyddai i mi fynd a hi i'r efail sydd gerllaw ebe ef, "ond i ba beth y gwastraffaf gymaint o amser? Fe a'r ceffyi yn burion i ben ei daith a thair pedol." Ymhellach ymlaen, dechreuodd y ceffyl gloffi yn enbyd. Dim ond chwarter milltir sydd mwy oddiyma i'r dref," ebe Rhys, ni awn hyd yno fel hyn." Ychydig funudau ar ol hyn tarav. odd y ceffyl ei droed wrth garreg a syrthiodd, gan daftu Rhys i'r ddaear. Niweidiodd yntau ei ysgwydd yn enbyd. Cariwyd ef i'r pentref agosaf, ac yno y bu ef a'r ceffyl am .ddeng niwrnod, cyn dod yn ddigon hoew drachefn i droi tuag adref. Gofidiai orfod colli felly ei amser a'i arian, ac fel hyn y synfyfyriai, "Nid oes y fath beth ag esgeulusdod di- bwys. Pe bawn i wedi rhoi'r hoel pan oedd ei heisieu, ni chollasai fy ngheffyl ei bedol; pe bawn wedi rhoi'r bedol yn ol wedi iddo ei cholli, ni fuasai wedi cloffi; pe bawn wedi ei ymgeleddu mewn pryd ni fuaswn i wedi cael fy niweidio. Boed hyn yn wers i mi am y dyfodol. Dyma emyn tlws i chwi oddiwrth Iwan Goch. Dysgwch ef. Mae yn bwrpasol iawn i'w adrodd neu i'w ganu EMYN I BLANT. M. 8.7 D. Carai'r Iesu blant Caersalem, Cara ninau bob yr un, Cofiwn farw plant bach Bethle'm Dros y Ceidwad tlawd Ei lun; Bywyd hefyd roddwn ninnau, Bywyd llwyr hyd derfyn oes, I'w ddyrchafu hwyr a boreu, A balchio yn Ei groes. Mynmvn Icsu'r Cyfaill goreu Yn gydymaith ar y daith, GweIla wnawn bob cam o'n gyrfa, Dydd fydd oes heb un nos faith; Galar ffy o drem Ei wenau, Cystudd yn fwy esmwyth fydd, Gwasgar ofid blin ac ofnau Fel gyr gwawr y gwyll cyn dydd. Carwn blant a charwn dlodion, Cariad gwaed y bywyd yw, Carwn riaint ac athrawon, Carwn bawb o ddynolryw; Yna wedi'r caru yma, Melus yn Ei gwmni Ef, Uno gyda'r "hapus dyrfa," Fyth i'w garu yn y Nef.—Amen.
Advertising
I FSTYN EICH OES Bwytewch ac yfwch yn gymhedrol, ond I os digwydd annoethineb, gellwch ym- .ddibynnu bcJb amser y bydd i PELENI LLYSIEUOL KERNICK lanhau'r cyfansoddiad. cryfhau'r aerves, iachau diffyg traul a rhwymedd, a gwneud y croen yn glir a glan. Y mae miloedd na chyroerant unrhyw feddyginiaeth arall. Gwerthir mewn blychau 1/1| a 2/9 gan yr holl Fferyll- IWYT-
I0 Deifi i'r Mor.I
0 Deifi i'r Mor. HYVNT AC YMA YNG NGHEREDIGION. A gaf fi gan y cysodydd dyfal i gywiro gair yn y ddwy linell o gywydd Deio ab Ieuan Ddu-yn lie 'ddof rhodder 'ddaf," fel hyn- "Y sir oil a fesuraf 0 Deifi i Dyfi 'ddaf." Nid wyf fardd, felly fe faddeua Bryn- fab ddiffygion pechadur anwybodus, heb osod ffon y bugail gydag awdur- dod beirniad ar draws ei gefn. Wei, mi ddeuaf finau fel Ieuan o dro i dro o'r Deifi i'r Ddyfi. Rhoddais dro i Lanbedr-Pont- Stephan, beth amser yn ol, er cael golwg ar y farchnad fisol (mart) newydd y dref ganolog a chyfleus. Rhag ofn fod yr enw yn aneglur ac fel drychiolaeth yn y niwl i rai o ddarllenwyr hynaws y Darian," egluraf ar amrantiad mai yr enw ad- nabyddus ar y dref lan a siriol yw Lampeter. Gan fod cymaint son am y mart newydd, a chan fod diwrnod yn weddol o ddiofal a dibryder yn digwydd am unwaith fod wrth law, penderfynais hwylio fy ngherddediad i gyfeiriad Llanbedr-Pont-Stephan. Gan nad oedd darw braf, hwrdd urdd- asol, na mochyn tew, na chreadur o fath yn y byd gennyf i'w werthu yno, nid oedd ond un math o atebiad gennyf i'r holwr anwybodus ond gorawyddus am wybod, Ble'r ych chi'n myn d?" etc. Yr wyf yn myned i weled y mart' Cyn troi i'r "mart," ciyw- ais ddau o'r amaethwyr yn siarad yn frwd, ac un o honynt bron a myn'd "yn grac," ond nid pwnc y ddadl yd- oedd y mart," ac yn wir ni bu son am brynu a gwerthu, er mor amserol naturiol hynny, ond asgwrn y gynnea ydoedd Dadgysylltiad a Dadwaddol- iad Eglwys Loegr yng Nghymru. Nid wyf yn hoffi aros 1 wrando ar ymgomiau pobl penheol, nac ar gleber gwragedd pen drws, Mr Gol., a dweyd y gwir yn onest, credaf mewn nawl pob dyn i drafod ei fusnes ei hun, a pheth afiach otnadwy yw gwrando ar glecs a chlaps. Und gair wodd un o'r dadleuwyr arnaf, a deaiiais wrth ei wen foddhaus ei fod yn fwy na digon ar faes dadl i eiddilyn fel ei wrthwynebwr. Eglurwyd y drafodaeth, ac eglurais inau nad oeddwn yn hoffi ymyrraetn yn nnraiod- aeth ddadleuol dynion eraill, mai wedi dyfod i'r dref i weled y "mart oedd- wn, ac nid i gwrdd dadgysylltiad a dadwaddoliad. Ac onid oedd cysgod Coleg Dewi Sant fel .cysgod cwmwl dros y lie Cyn cael haniaden i fyned yn y blaen, wele "fachan o golier o Forgannwg atom, ac estynood ei law i'r Eglwyswr, a chyda chalon agored cyfarchodd ef, Bachan, shwd mae er's llawer dydd ? Be sy'n bod ? Yr wyt ti mor goch a chilog twrci "Q," atebodd hwnnw, "dim byd ond fod pwt o ddadl rhwng hwn a minn- au." "Dadle, ie fe," ebe John Jones o Forgannwg, "beth yw'r testyn, Dad- ysylltiad, spo?" "Beth ges ti feddwl hynny, John?" Wei, dyna sydd ar y 'brains'—os bydd 'brains'—gyda chi'r Eglwyswyr; bydde'n well i chi fedd- wl ticyn ragor am grefydd a gwneyd daioni." Chwarddodd yr Ymneilldu- wr, a phesychais innau yn arwydd- ocaol o annwyd trwm, ac nid am fod ergyd y glowr wedi taro'r hoel ar ei chlop. Beth sydd ar dy law di?" gofynodd yr Eglwyswr, wedi cwrdd a damwain er mwyn cwmpensashwn yn debyg iawn. Y mae Lloyd George a'i ddwli diras bron llethu y wlad, rhwng penshwn i hen bobol, ac in- shwrance i ddynion diog, a'r awydd am ysbeilio yr Eglwys a'r landlords,' y mae 'revolution' yn shwr o fod ger- llaw." Chwarddodd y glowr, a dywed- odd, "Wel, dyma fachan pert, cyfaill ffiradon a 'landlords'! O'r canon ag e" Gyda hyn, pasiodd rhyw foneddwr urddasol; cochodd yr Eglwyswr hyd wadnau ei esgidiau; tynnodd ei hat, a chododd y llaw arall at ei dalcen, a cheisiodd barablu, Bore da, syr." A gyda'r un anadliad dywedodd Y ffwl dienaid pam wyt ti'n insultio'r Canon!" Pa ganon ? Am danat ti y gwedais—' O'r canon ag e,' am dy lol ddisens." Eglurodd yntau yn grynedig, Ond yr oedd y Canon yn ddigwydd pasio ar y pryd, ac ofnaf ei fod wedi dy glywed. Gwyddost ti, y mae haerllugrwydd y coliers wedi myned i dy waed, a'i Sosialaeth wedi codi yn dy ben, y gwir yw hyn y mae Lloyd George yn gyrru dynion yn wallgof!" "Ie," ebe'r glowr, "y mae son am Lloyd George yng nghlyw Tori neu Eglwyswr penboeth fel y ti yn debyg i ddal rhecsyn coch o flan tarw, dyna fe'n gynddeiriog ar unwaith. Paid son am flwydd-dal i'r hen. Carwn wybod sawl Tori neu Eglwys- wr diras sydd wedi rhanu ei gyfoeth er mwyn enjoyo coron yr wythnos. Ond i bwy y tynest ti dy het jus, nawr, gan foesgrymu mor ostyngedig barchus?" "0, ie," gofynodd yr Ym- neillduwr, "pwv oedd hwna ?" Rwv'n synu eich bod yn holi," atebodd yr Eglwyswr, "ond dyna'r Canon!" "Y Canon, beth yw Canon fe liewn gal gwpod?" nolodd y Glowr. Ond y Canon sydd wedi ysgrifennu y llythyrrau hyny i'r 'South Wales Daily News ar A Cup of Camomile Tea.' a dyna gwpaned oedd yn rhy gryf i'r papyr hwnw?" "0, rwy'n cofio am y llythyrau ac enw Robert Camber-Williams wrthynt," oedd ateb yr Ymneillduwr, ac ych- wa-negodd, A chafodd atebiad cryfach na'r te gamil gan y Golygydd galluog." Beth, dyn yw Canon?" holodd y glowr, 'rodd y bachan hyn yn meddwl taw math o fagnel odd canon! Beth yw swydd hwna, te?" "Swydd Ond taw Canon yn Eglwys Loegr, bachgen, yr wyt ti'n dwp, fel y coliers i gyd." Gan bwyll, fech- gyn," meddai'r Ymneillduwr, "do clywais am y Canon Camber-Williams fel tan belenwr o blaid Eglwys L^egr yng Nghymru. gwn ei fod yn rhuo yn ol y dawn a rodded iddo, ac er ei fod yn cael y gwaethaf bob tro gan Olygydd y 'South Wales Daily News,' tebyg bod yr Hybarch John Owen, D.D., Esgob Tyddewi, yn curo ei gefn. Synwn i darned ei weled yn cael swydd uwch am ei wrhydri dyfal- barhaol pan ddaw cyfle." Hei, boys," meddau'r glowr, "faint o radde sydd yn hanes ser Eglws Loegr? Dyna'r Archesgob yn cael ^15.000 a'i ddau balas, onte? Dyna'r hen Fethodyn sy'n Esgob Tyddewi yn cal tua £4,500 a phlas mawr, mwy na llond pwll o goliers. Ond beth yw Canon, bachan?" Ffromodd yr Eglwyswr, a chwyrnodd. "Dyn cellweirus wyt ti Cas beth gan fy nghalon yw dyn yn cablu urddas." Gan bwyll, machan i, os dim ishe i ti dascu fel na. Falle mod i'n dwp, ond helpa fi i ddiall pethe. Beth yw Canon ? Ma Esgob yn gwishgo ffedog (os nad paish hefyd), ond beth yw trade-mark Canon? A beth yw gwaith Canon? Ai tano ar Ymneilldu- wrs sydd yn galw am gyfiawnder a chwareu teg? Ai dyna ddiogelwch Eglws Loegr yng N ghymru—Canons fel hyn?" Darllen di lythyrau y Te Gamil, a chei weled faint o nerth sydd yn y Canon. Synwn i darned na fydd e'n Esgob cyn hir, atebodd yr Eglwyswr yn swrth ac yn swta. "Beth yw e, te, hen Ymneillduwr, fel Esgob Tyddewi?" holodd y glowr. Ac ychwanegodd, "Beth yw'r Te Gamil na, boys? Pan own i'n foy bach flynydde'n ol ar odre Mynydd Shon Cwilt yn Shir Aberteifi, fe ges i lawer cwpaned o de gamil, er clirio'r stymog ac arbed bill y doctor, ond dyma'r tro cyntaf i fi i glywed son am Bob y Te Gamil Cauodd yr Eglwyswr ei ddwrn; aeth yn grac ofnadwy, a throdd ei gefn gyda dirmyg, a diflan- odd yn swn "parting shot y glowr dewr, XVel, y ti fi'n bragio taw y Canon Camber-Williams oedd awdwr llythyre y Te Gamil, pe bydde Gor- sedd y Beirdd gerllaw byddwn yn ei urddo yn Canon y Te Gamil!" "Beth yw hwn ?" Wele ddalen yn disgyn i law yr Ymneillduwr, gyda darlun o addoldy Eglwys Loegr, a'r geiriau "Church Closed" ar draws y drws cauedig. Cawn fwrw golwg dros hon yn y dyfodol agos. I LLENORYN. I I
ILlansamlet.I
I Llansamlet. I Gwnaeth Cor Tabor, Maesybad, gyfiawn- der o'r draethgan, "Daniel," o waith Root a Bradbury, o dan anvemiad medrus Mr J. B. Jordan, nos Sadwrn diweddaf. Llywyddwyd y gyngerdd gan yr Henadur John Jordan. Yr oedd y capel yn orlawn. Cynorthwywyd y cor yn y per- fformiad gan yr unawdwyr canlynol: Soprano, Madame Hale, Treforis; soprano arall, Miss Emily Ivey; tenoriaid, Mri. John Thomas, Dunvant, ac H. Bedaoe; baritone, Mr. Gwilym Jones, Ystradgyn- lais; bass, Mr Daniel Howell Thomas, Peniel Green, Llansamlet. Cyfeiliwvd gan Mr Trefor Davies a Miss Mary H. Phillips, T.C.L. (Lond.). Hefyd cafwyd gwasanaeth Seindorf Linynol Liansamlet, o dan arweiniad Mr R. Aubrey Thomas. Gwnaeth ei waith yn ganmoladwy. Dat- ganwyd pob corawd yn effeithiol gan y cor, yn enwedig yr imawd a'r corawd, "Nyni a bechasom." Yr oedd y gymeradwyaeth i'r datganiad hon yn fyddarol. Gorfu i'r cor a'r unawdwr, Mr Gwilym Jones, ddat- ganu yr ail waith. Yr oedd y perfform- iad drwyddo yn un meistrolgar a swynol, a haedda Mr. J. B. Jordan glod am ei lafur a'i Iwyddiant gyda'r cor. Yn y rhan amrywiol o'r gyngerdd cafwyd unawdau rhagorol. I gychwyn cafwyd deuawd ar y herdoneg gan Mr Trefor Davies a Miss Phillips yn feistrolgar. Swynol oedd dat- ganiad Miss Ivey o'r unawd, "0! fy ngwlad," o waith y diweddar Mr -Trefor Evans, Treforis. Yr oedd swyn a melodi yn natganiad Mr Thomas, Dunvant, o My Queen," a chawd mwynhad wrth wrando ar ddatganiad effeithiol Madame Hale, o -Jerusalem." Swynol hefyd oedd datganiad Miss Francis o "Angus Macdonald." Tarawiadol, meistrolgar, a melodaidd oedd datganiad Mr D. H. Thomas o'r unawd semi a phert, Geneth y Fro," o waith gwr ifanc o Birchgrove, sef Mr. Idris Lewis, yr hwn gytrifir yn un o berdonyddion goreu Cymru. Gwasan- aetha fel organydd mewn eglwys fawr yn Llundain yn bresenol. Yr oedd datganiad Mr Thomas o'r unawd yn credyd iddo ef fel canwr ac i'r awdwr-Mr Lewis-fel cyfansoddwr. Yr oedd cymeradwvaeth y dorf i ddatganiad Mr' Thomas yn daranol. Proffwydwn iddo ddyfodol llwyddianus fel unawdwr. Mab ydyw i'r diweddar Gwilym Samlet, yr hwn yn ei ddydd gyfrifid yn un o denoriaid goreu Cymru. Yn ddiameu seren y gyngerdd oedd Mr Gwilym Jones, Ystradgynlais. Yr oedd ei ddatganiad o Wroniaid Cymru yn drydanol a dra- mataidd. "Tynnodd y ty i lawr," ys dy- wedir, a gorfu iddo ddatganu nnan-d Gym- raeg arall. Cyngerdd gampus oedd hon. Gair i glustiau'r unawdwyr Cymreig Y mae gormod tuedd ynoch i ganu unawdau Seisnig mewn cyngherddau. Profai cyngherdd Tabor mai'r unawdau Cymraeg genid yno apeliai ddyfnaf at galon y dorf. Y rhai hyn hawlient i'r unawdwyr i ail- ganu, a banllef o gymeradwyaeth ysbryd Cymreig y gynulleidfa yn creu ysbrydiaeth dihafal ynddynt.
[No title]
Pe caniateid Ymreolaeth i Gymru, byddai yn ddrych i genhedloodd y ddaear o bobl wedi gyrru gorthrwm oddiar lech- weddan eu bryniau a rhoddi agoriad i deyrnas ogoneddus rhyddid, cyfiawnder a gwirionedd."—Mr Lloyd George. Geilw dynesiad Ymreolaeth ar i Gyngrair y Cymdeithasan Cymreig fod yn effro. Dylasai fod gan y Cymdeithasau hyn ryw- beth i'w ddweyd gyda golwg ar iuddiannau eu gwlad ynglyn a'r Mesur.
Cymdeithas Dafydd ap 1, Gwilym,…
Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, Rhydychen. | Cynhaliwyd cylarlod olaf Tymor | Ilar nos Sadwrn, Mawrth jed, pan ddarllcnwyd papur gan y brawd Cliff Jones, Colcg yr Iesu (gynt o Ysgol Sir Ty Gwyn-ar-Daf a Choleg y Brif- ysgol, Aberystwyth) ar y testun, "Morusiaid Mon." Yr oedd nifer go lew o'r aelodau'n bresennol, a chaf- I wyd papur medrus a diddorol gan y brawd. £ > ywedodd iddo weled yn fuan mai prin oedd lie neb yn yr un papur ag a soniai am Lewis Morus, ond nododd brif ffeithiau bywyd ei ddau frawd yn ogystal, sef Rhisiart a William. Meibion oeddynt i Morus ap Rh isiart Morus t Margaret Owenot Fodafon y Glyn, ymhlwyf Llanfi-, hangel Tre'r Beirdd ym Mon. Cylch- wr oedd eu tad ond newidiodd ei grefft a throes yn yd fasnachwr. Nid oedd y rhieni'n rhy gefnog arnynt, a methu ohonynt roi unrhyw addysg well na'r cyffredin i'w plant. Eu gallu cynhennid hwy eu hunain sy'n cyfrif am fawredd y tri mab o ddoniau tramawr." Treuliodd Rhisiart Morus y rhan fwyaf o'i oes yn brif ysgrif- ennydd Swyddfa'r Llynges. Bu'n Llywydd Cymdeithas y Cymrodorion. Golygodd ddau argraffiad o'r Beibl Cymraeg, a chynorthwyodd Peter Williams i ddwvn ci Feibl i law'r genedl. Bu'n gymwynaswr hael i Goronwy Owen ac Ieuan Brydydd Hir. Bu farw yn Llundain yn 1779, a chladdwyd ef ym mynwent St. George in the East. Bu William Morus am flynyddoedd yn casglu toll yr halen ym mhorthladd Caergybi. Yr oedd yn hyddysg iawn mewn llysieueg ac anianeg. Casglodd lawer iawn o weithiau'r hen feirdd Cymreig. Bu farw 'yn 1766. Ganed Lewis Morus Mawrth 12, 1700, ac am beth amser bu'n gylchwr gyda'i dad. Wedi rhoi'r gorau i'r grefft honno, troes yn fesuronydd. Daeth i ffafr a sylw prif ddynion y wlad o herwydd ei feistrolaeth ar y gwaith hwnnw, ynghyd a'i wybod- aeth amryfal, a chafodd swydd yn Nhollfa Caergybi. Tra fu yno pryn- odd a sefydlodd argraffwasg ar ei draul ei hun er printio llyfrau Cym- raeg. Dyma'r un gyntaf yng Ngwynedd, ond methu fu ei thynged. Priododd Lewis Morus Elizabeth Griffith o ymyl Caergybi y nawfed-ar- hugain o Fawrth, 1729. Yn 1737 dew- iswyd ef gan Arglwyddi'r Morlys "i arolygu, mesur a darlunio porthladd- oedd ac arfordiroedd Cymru er osgoi peryglon y morwyr. Danglios- odd fedr neilltuol yn y gwaith hwn, a chyhoeddwyd ffrwyth ei lafur ar anog- aeth Arglwyddi'r Morlys yn 1748 dan yr enw Plans of Harbours, Bars, Bays, and Roads in St. George's Channel. Wedi gorffen y gwaith hwn, acth i arolygu mwn-weithiau'r brenin, ac fe ddywedir "ei fod yn un o awduron uchaf ei oes ar wydd- oreg mwnau." Treuliodd y rhan olaf o'i fuchedd vng Ngheredigion, lie y priododd yr ail waith. Ei ail briod ydoedd Ann Lloyd o Ben y Bryn. Bu farw'n drigain a phum mlwydd oed yn yr unfed-ar-ddeg o Ebrill, 1765. Claddwyd ef ym mynwent Eglwys Llanbadarn Fawr. Cyfeiriodd Mr Jones at rai o'i weithiau, megis ei "Celtic Remains," a darnau o'i farddoniaeth. Ond dywedodd mai fel cychwynnydd y deffroad Uenyddol yn y ddeunawfed ganrif y mae bwysicaf. Enynnodd ddi- ddordeb ymhlith ei gydgenedl yng ngweithiau'r hen Gymry gynt, ac i hynny y mae Cymru 'n ddyledus am Oronwy Owen. Diolchwyd i Cliff yn galonnog iawn gan bawb oedd yn bresennol am ei bapur rhagorol. Etholwyd y swydd- ogion canlynol ar gyfer y tymor nesaf -Caplan, Henry Lewis (gynt o Ysgol j Sir, Ystalyfera, a Choleg y De, Caerdydd); ysgrifennydd, Henry Morris, o Goleg Corff Crist (mab y Prifathro Silas Morris, a gynt o Ysgol Rugby); trysorydd, W. L. Hoskins, o Goleg y Trwyn Pres (gynt o Ysgol Sir, Ystalyfera, a Choleg Crist, Aberhonddu). Penderfynwyd cynnal atgwrdd o hen aelodau'r Dafydd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor.
Heolgerrig, Merthyr.
Heolgerrig, Merthyr. Cwmni Drama Salem. Er's tua chwe' mis yn ol penderfynodd y Cwmni hwn ymgvmeryd a dysgu drama gyda'r amean o geisio cadw'r Gymraeg rhag 111arw. Y ddrama ddewiswyd oedd, Trech Gwlad nag Arglwydd," o eiddo Grace Thomas, Pentraeth. Portreir vnddi frwydr Cyfalaf a Llafur. Rhyw ddau o'r Cwmni tu ar lwyfan drama o'r blaen, ei- hynny cydnabyddai pawb eu "bod yn actio fel pc'n hen gvfarwydd a'r gwaith, a hyd yn oed y "heirniaid" yn awgrymu y gallent ymgymeiyd a gwaith trvmach. Cymer-, wyd i iyny'r cymeriadau fel y canlyn :— Marged Jones, Mrs. Jones; Dilys Wyn, Miss Annie Williams; Mrs. Mac Ivor, Miss Catherine Davies; Morfudd Wyn, Miss Hannah Elizabeth Evans; Morwyn, Miss Janet Anne Jones; Dafydd Rolant, Mr. Eva n Thomas Jones; Mr. Kenneth Mac Ivor, Mr David Davies, Bwthynog; Doctor Hughes, Cynghorwr Fred Pedler; Gwilym Mac (vor, Mr Thomas Nicholas Williams; Moses Jones, Mr John Howell Evans; Tedi Johnson, Mr. Ezekiel Rees; Tom Bryan, Mr Gomer Griffiths; Heddgeidwad, Mr Thomas William Davies; Parch. Hugh Jones, Mr David Jones; Owen Pitar y Chwarelwr, Mr Tom Jones. Portreadwyd Tomi a Gwladus gan Evan John Thomas a Maggie Jane Lewis, a William Jones, y gweithiwr, gan Mr Lewis Evans. Rhodd- odd Mri. David Nicholas a Lewis Roderick Davies gynhorthwv gwerthfawr o'r tu ol i'r llenni. Cafwyd noson anarferol o hapus wrth weled y Cwmni hwn yn perfformio ei ddrama gyntaf. Yr oedd y cymeriadau i gyd mor naturiol a hyw fel mai prin y gellid credu mai actio yr oeddent. Dy- munwn lwyddiant mawr iddynt.—0 Gariad at Heolgerrig.
Advertising
BRITANNIC ASSURANCE COMPANY, LIMITED (Established 1866). CHIEF OFFICES: BROAD STREET CORNER, BIRMINGHAM. Extracts from the DIRECTORS' REPORT for the Year Ending December 31st, 1913. The payments to the Company's Policyholders during the year ended 31st December, 1913, amounted to over £ 670,000, and exceeded the amount paid in the previous year by over £ 68,000. Notwithstanding these heavy demands on the Company's resources, the Directors have great pleasure in announcing substantial increases both in the Premium income and in the Accumulated Funds. Premium Income .£1,279,117. Total Income .£1,425,690. Total Claims Paid .£9,432,885. Accumulated Funds £ 3,544,986. Ordinary Branch.—Premium Income, £ 244,119. Industrial Branch.—Premium Income, £ 1,029,009. Annual Valuation.-The Annual Valuation of the Policy Liabilities has been made by the Consulting Actuary Mr. Thomas G. Ackland, F.I.A., F.F.A. The surplus will again proviae a Reversionary Bonus at the rate of 32s. per cent. for the year to all participating policyholders in the Immediate Profit Class, and make adequate provision for the Policyholders in the Accumulated Profit Class. The Directors have also the pleasure to announce that it is proposed to con- tinue to allot a Cash Bonus at the 1 ate of R5 per cent. upon the Sums Assured under Industrial Policies of five years duration and upwards, which become claims by death or maturity during the year commencing 9th March, 1914, and terminating 7th March, 1915, except in eertain cases, effected prior to 1890, where additions have already been made under the terms of the policy. FRED. T. JEFFERSON, Chairman and Managing Director. J. A. JEFFERSON, F.I.A., Secretary. Allied with National Amalgamated Approved Society for National Health Insurance. Good openings for energetic and reliable agents in all parts of the Cnited Kingdom. Apply :—Local District Office, 27 Victoria Square, Aberdare. Superin- tendent, W. R. PHILLIPS. Rolled Gold Pince Nez Frames Fitted to your own Lenses, and guaranteed not to change color Price 8/6 Complete With Metal Case Cord Visitors to London should Gall and have their EYESIGHT TESTED FREE OF CHARGE. Spectacles and 2/6 ggs f?! 2/6 -I** Illustrated Price L'sts Post Fr-e. Dylai YmiaelXtiyr a Llundain alto a chael profi eu Golttig yn Ddidal. Spectol neu Wydrau Llygaid o 2/6 i fyny, yn gyflawn. Anfonir rheatr o'r Prisoedd, ya egluredig yn ddidal drwy'r JWthyrdy Send your Old Spectacles and have them fitted into a Best Quality ROLLED GOLD FRAME Price 8/6 Complete. Guaranteed not to change Color. ELEGANT IN APPEARANCE BLACK MOROCCO OPERA GLASS, with Case, 7/6. Best Quality Aluminium OPERA GLASS, 12/6. Real Pearl & Aluminium OPERA GLASS, 15/6. Useful Presents. SPECIAL VALUE. ANEROID BAROMETERS, 12/6. 15/6. 1 7/6. As Iltustrattd. Guaranteed Accurate ANEROID BAROMETERS, Circular Pattern. 8/6. 10/6. 12/6. High Power Long Range ACHROMATIC FIELD GLASS with Sling Case, 15/6 Cheaper Quality, 12/6 The Ideal Glass for Territorials, Scouts, etc. High Power READING GLASS FOUR SIZES. 2/9, 3/9, 4/3, 4/9. Most useful for examining Maps, Photographs, etc. SPECIAL VALUE IN Folding Reading Glasses 9d. & 1/3 SPECIAL BARGAINS. Garden or Greenhouse Thermometer 1/3 Scouts Pocket Compass 9d. Eyeglass Cleaner 3d. I Chatelaine Spectacle Case 1/6 Table Microscope 1/3 Botanists Pocket Lens 1/6 Best Quality Goods only. Cure your Sore or Weak Eyes With 11 Diamond" Eye Ointment. POST 1/li FREE. "Diamond" Skin Ointment Cures Eczema, Ulcers, and all Skin Diseases. POST 1/li FREK. OPTICIAN TO THE LONDON TEACHERS I AND THE LONDON COUNTY COUNCIL STAFF ASSOCIATIONS. CYRIL GARDENER, F.S.M.C., Qualified Optician, 292 HOLLOWAY ROAD, LONDON, N. CofiisJch alto yma pan yn Llundain. Cash returned in full if Goods are not to your entire satisfaction. Oychbfelir yr Arian yn UaWn oni rydd y ntoy. ddau foddlonrtoydd hoi lol.